Mae newidiadau mawr wedi digwydd yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Conwy. Drwy ein Rhaglen Trawsnewid, rydym wedi bod yn edrych sut rydym angen aildrefnu rhai gwasanaethau i leihau’r hollt rhwng adran Plant a Theuluoedd, a Gwasanaethau Oedolion. Diogelu yw un o’r meysydd hynny, ac rydym wedi bod yn symud tuag at uno Diogelu Plant gyda Diogelu Oedolion Diamddiffyn i gydlynu’r ddau yn well, o dan un rheolwr.
Rhaglen Trawsnewid
Cefndir
Yn rhan o’r rhaglen trawsnewid mae gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio gwella safon perfformiad diogelu o ran pob defnyddiwr gwasanaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda staff fel rhan o’r cyfnod ymchwil cyn y rhaglen trawsnewid a oedd yn dynodi y byddai un uned diogelu yn ddatblygiad cadarnhaol i’r gwasanaeth.
Beth sydd wedi newid?
Er mwyn cyflwyno’r thema drawsbynciol hwn a sicrhau bod materion cynhwysedd yn cael eu cyfeirio er mwyn darparu gwasanaeth cynaliadwy, bydd cynllunio strategol a chyflwyno gweithredol yn dod o dan gyfrifoldeb un Rheolwr Gwasanaeth – Safonau Ansawdd, a bydd yna reolwr penodol ar gyfer maes ‘Diogelu’.
Bydd adain diogelu’r gwasanaeth yn cynnwys materion yn ymwneud â diogelu plant ac oedolion; amddiffyn plant, diogelu oedolion diamddiffyn, a rheoli honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr.
Fe luniwyd Canllawiau Trothwy ar gyfer Diogelu Oedolion Diamddiffyn ac mae’r polisi Diogelu Oedolion Diamddiffyn wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys asesiad risg ac ymchwiliadau.
Mae proses ‘oedolion diamddiffyn’ hefyd wedi cael ei gyflwyno a chaiff ei ddatblygu ymhellach o dan gylch gwaith Rheolwr Gwasanaeth – Pobl Ddiamddiffyn. Os bydd oedolion mewn perygl oherwydd eu hymddygiad neu nodweddion (ee, iechyd meddwl, anabledd dysgu), neu oherwydd gweithred pobl eraill tuag atynt, bydd y broses hon yn sicrhau y caiff y materion hyn eu trafod â phanel aml asiantaeth ac fe lunnir pecyn cefnogaeth i roi cymorth iddynt.
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i chwarae rhan fawr mewn Cynadleddau Asesiad Risg Aml Asiantaeth dan arweiniad yr heddlu i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn ymwybodol o, ac yn cyfrannu fel y bo’n briodol at gynlluniau aml asiantaeth i ddiogelu unigolion a’u plant pan fyddant mewn perygl o ddigwyddiadau cam-drin domestig pellach. Mae ymgysylltu cadarnhaol a rhagweithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth a’r heddlu yn golygu bod mynd i’r afael â cham-drin domestig yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r ddau wasanaeth.
Mae pobl ar goll a’r perygl cysylltiedig o ecsploetiaeth plant yn rhywiol wedi bod yn faes o ddiogelu sydd wedi cael sylw drwy waith partneriaeth gyda’r heddlu. Mae Conwy wedi datblygu cynllun ‘Bydis’ i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiadau o lygad y ffynnon gan bobl ifanc a arferai fod yn y system Plant sy’n Derbyn Gofal fel ymgynghorwyr – i roi cyngor i weithwyr proffesiynol am y rhesymau posibl bod plant yn mynd ar goll o’u lleoliadau a’r ffyrdd y gellir ymdrin, ymgysylltu â phobl ifanc yn effeithiol a’u cefnogi gan weithwyr proffesiynol i leihau’r perygl o niwed.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae’r panel oedolion diamddiffyn wedi ystyried anghenion pobl ddiamddiffyn ac mae wedi gallu darparu cynlluniau cefnogaeth i bobl na fyddai’n gymwys fel arall i gael mynediad at gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd meini prawf cymhwyso sy’n rheoli’r galw ar lwyth gwaith yr adnodd o wasanaethau gofal a reolir.
O ran cam-drin domestig, cafodd achos diweddar a oedd yn cynnwys gwasanaethau o ledled y DU a thramor am fwy na 15 mlynedd, ei reoli’n llwyddiannus pan gafodd y camdriniwr ei farnu’n euog oherwydd cydweithio agos rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol a Heddlu GC. Anerchodd y sawl a oroesodd y cam-drin domestig gynhadledd aml asiantaeth bwrdd diogelu rhanbarthol diweddar, oedd yn canolbwyntio ar godi proffil Cam-drin Domestig a’i effaith ar blant. Yr adborth o’r gynhadledd oedd bod rhoi platfform fel hyn ar gyfer y siaradwr, a’i hanes personol o’r gamdriniaeth roedd hi a’i phlant wedi’i ddioddef, wedi rhoi negeseuon pwerus i ymarferwyr ar draws asiantaethau.
Mae’r gweithgor ‘Ar Goll o Gartref’ wedi’i sefydlu ac mae ganddo lefel uchel o bresenoldeb ac ymrwymiad aml asiantaeth. Sefydlwyd y gweithgor hwn yn dilyn menter cudd wybodaeth ar y cyd rhwng yr heddlu/gwasanaethau cymdeithasol er mwyn canfod cysylltiadau rhwng nifer o ferched/pobl ifanc oedd yn mynd ar goll a chyfeiriadau cysylltiedig yn y gymuned leol. Yn sgil y fenter hon, bu sawl arést a daeth tystiolaeth i’r amlwg bod ymyrraeth gynnar gadarn wedi atal y peryglon y mae mintai fel hyn o ddynion hŷn yn ei fygwth i blant.
Protocol Cyn Gweithrediadau
Cefndir
Mae’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol (ACT) yn nodi bod gweithrediadau gofal yn cymryd llawer gormod o amser yng Nghymru a Lloegr, 52 wythnos ar gyfartaledd. Mae’r ACT yn argymell bod yr amserlen yma’n cael ei lleihau i chwe wythnos ar hugain, ac y dylai’r system ganolbwyntio mwy ar yr amserlen ar gyfer y plentyn. O ystyried yr argymhelliad yma, mae’r Barnwr Anrhydeddus Gareth Jones, Barnwr Teulu Dynodedig ar gyfer gogledd Cymru, wedi penderfynu bod angen llunio protocol cyn llys ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, yn amlinellu y dylid cwblhau ffocws y gwaith cyn a/neu mewn cydweithrediad a chychwyn Amlinelliad Cyfraith Breifat mewn achosion ‘araf’/aml achos pan fo camddefnyddio alcohol/ sylweddau, esgeulustra, camdriniaeth emosiynol, neu Anableddau Dysgu rhieniol, yn ffactorau pwysig.
Datblygiadau
Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol rhwng y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwaith Maes, Prif Ymarferwyr ar gyfer y Tîm Asesu a Chefnogi a Thîm Diogelu a Chyfreithiol a gwasanaethau Cyfreithiol ym mis Mawrth 2013. Fe luniwyd cynllun gweithredu i sicrhau bod yr adran yn gallu diwallu gofynion yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.
Dros y chwe mis nesaf, bu’r grŵp yn cyfarfod bob chwe wythnos i fonitro gweithrediad y cynllun gweithredu.
Datblygwyd y meysydd ymarfer canlynol:
- Protocol Cyn Gweithrediadau gyda chyfeiriad at restr wirio Ymchwil Ward/Cyn Gweithrediadau
- Canllawiau i weithwyr cymdeithasol ynglŷn â chwblhau gwaith cronoleg/genogram a gwaith hanes bywyd
- Lluniwyd protocol gyda gwasanaethau Oedolion
- Cyfarfodydd rheolaidd gyda CAFCASS
Gweithredu
Ym mis Hydref 2013, trefnodd yr adran ddau weithdy deuddydd i’r holl staff fynychu gan gynnwys cynrychiolwyr o Wasanaethau Oedolion ac iechyd. Bu’r gweithdy yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
- Trosolwg o Adolygiad Cyfiawnder Teuluol
- Ward ac Ymchwil
- Rolau a Chyfrifoldebau o dan y Protocol Cyn Gweithrediadau
- Gwaith Stori Bywyd
- Datblygiad Plentyn
- Cynllunio ar gyfer asesiadau
Mae’r adborth cychwynnol rydym wedi ei dderbyn gan y farnwriaeth a CAFCASS yn dynodi bod safon y gwaith llys a gyflwynwyd gan Staff Conwy yn unol â gofynion yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol. Byddwn yn parhau i fonitro effeithiolrwydd gwaith cyn gweithrediadau.