Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / Rheoli Adnoddau / Caiff ein gweithlu ei recriwtio, ei reoli a’i ddatblygu’n effeithiol i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth

Caiff ein gweithlu ei recriwtio, ei reoli a’i ddatblygu’n effeithiol i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth

Beth bynnag yw maint unrhyw fusnes neu sefydliad, yn fach neu’n fawr, maent angen eu gweithlu. Nhw ydi’r bobl sy’n sydd yn y gwaith o ddydd i ddydd i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau.

Un o’r datblygiadau mwyaf sylweddol o fewn gweithlu Conwy eleni oedd adeiladu rhwydweithiau o gefnogaeth rhwng staff. Mae hyn wedi helpu i ddatblygu a rhannu arfer da, gosod safonau ar gyfer goruchwylio ac weithiau yn fwy anffurfiol, annog timau i gydweithio a bod yn arloesol yn y modd maent yn dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau.

Sefydlu a gweithredu Fforwm Datblygu Ymarfer o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Cefndir
O fewn y Tîm Anableddau Dysgu, roedd y rheolwyr eisiau sefydlu a gweithredu Fforwm Datblygu Ymarfer i ddylanwadu ar ddatblygiad a newid Tîm.

‘Practice Development is a reflective support process for staff to develop their knowledge and competence.  It enables them to review their practice, take responsibility for their work and promote quality in their field of expertise.  It is critical to quality improvement and improved service user experience’
(NHS Walsall, Community Health, 2009)
Pam fod yna angen am y gwaith yma?

  • Er mwyn gwella safonau mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol;
  • Er mwyn mabwysiadau ymagwedd gydlynol ar gyfer dysgu a gwelliant mewn ymarfer;
  • I wella’r canlyniadau i’r rheini sy’n derbyn gwasanaethau;
  • I ddiwallu Cymhellion Cenedlaethol Allweddol gan gynnwys ‘Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2013’ a Fframwaith Ôl Gymhwyso Newydd, Cyngor Gofal Cymru 2013.

Beth sydd wedi newid?

  • Erbyn hyn rydym yn cynnal Fforymau Datblygu Arferion bob chwarter o fewn y Tîm Anableddau Dysgu sydd wedi creu diddordeb pellach gan ymarferwyr o fewn disgyblaethau eraill;
  • Perchenogaeth o’n safonau – mae gan bob ymarferydd ran i’w chwarae.
  • Canlyniadau gwell i’r rheini rydym yn eu cefnogi drwy rannu dysgu, defnyddio ymchwil ar waith ac edrych yn ôl ar lwyth gwaith cymhleth.
  • Cefnogaeth ychwanegol sydd yn ategu sesiynau goruchwylio unigol
  • Morâl gwell gan y staff drwy rannu profiadau ac amser i ddysgu.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

  • Cyfle gwerthfawr ar gyfer dysgu’n ymarferol a datblygiad proffesiynol;
  • Datblygiad tîm drwy ymagwedd gydlynol tuag at newid a dysgu drwy edrych nôl a rhannu profiadau.
  • Gwerthusiad parhaus o’r hyn rydym yn ei wneud yn dda a beth rydym angen ei wella er mwyn i safon y gwasanaeth wella yn y pendraw.
  • Canlyniadau gwell ar gyfer y rhai sy’n derbyn gwasanaeth drwy weithlu medrus.

Sefydlu’r Codau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol

Cefndir
Rhaid i bob staff sicrhau bod eu hymarfer yn unol â’r Codau Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol sydd wedi’u gosod gan Gyngor Gofal Cymru. Dylid sôn am hyn yn ystod y cyfarfod sefydlu pan fo staff newydd yn cychwyn.  O fewn gwasanaethau mewnol Anableddau Dysgu, mae tîm o tua 100 o staff yn cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu, mewn sawl agwedd o’u bywyd o ddydd i ddydd.

Beth sydd wedi newid?
Er mwyn sicrhau gwasanaethau cyson o safon uchel, cynhaliwyd sesiynau â staff i fynd drwy’r Codau, i’w hatgoffa o’r safon a ddisgwylir.
Mae’r fforymau Datblygu Arferion wedi bod yn ffordd ddelfrydol i staff weithio mewn grwpiau i fynd drwy’r Codau a rhannu enghreifftiau o arfer da.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

  • Yn ychwanegol i fynychu’r sesiynau, mae staff yn defnyddio’r dystiolaeth maent wedi’i gasglu yn erbyn y gallu yn y fframwaith Adolygiadau Datblygu Perfformiad.
  • Mae’r adborth rydym wedi’i dderbyn gan y tri wedi bod yn gadarnhaol.
  • Ar ddiwedd pob sesiwn, mae pob unigolyn yn sôn am yr enghreifftiau gorau y maent wedi’i roi yn ystod y sesiwn. Caiff y rhain eu cyfuno ac rydym yn bwriadu llunio llyfryn i amlygu’r enghreifftiau o arfer da. Caiff hyn ei rannu â’r Tîm Anableddau Dysgu.

Ffeiliwyd dan: Rheoli Adnoddau

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English