Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / Diogelu / Bydd pobl yn gallu darganfod ble a sut i gael gafael ar yr help maent ei angen pan allai rhywun fod mewn perygl

Bydd pobl yn gallu darganfod ble a sut i gael gafael ar yr help maent ei angen pan allai rhywun fod mewn perygl

Mae diogelu yn fater i bawb. Mae cyfrifoldeb ar bawb ohonom i gadw golwg ar ein teuluoedd, ffrindiau, cymdogion a phobl o fewn ein cymunedau. Os ydym ni’n meddwl y gallai unigolyn fod mewn perygl, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth i’w wneud, ac wrth bwy i ddweud.

Mewn materion sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc, mae’r Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant yn chwarae rhan fawr i sicrhau bod gwasanaethau yn gwneud hyn yn dda. Mae Diogelu Oedolion Diamddiffyn (POVA) yn ymwneud mewn modd tebyg â lles oedolion.

Ymwybyddiaeth o Ddiogelu Oedolion Diamddiffyn

Roedd Diwrnod Byd-eang Codi Ymwybyddiaeth am Gamdriniaeth Pobl Hŷn, ar 15 Mehefin 2013, yn ddigwyddiad rhyngwladol i wella ymwybyddiaeth ymysg unigolion sy’n gweithio gyda, ac yn gofalu am oedolion hŷn sy’n ddiamddiffyn. Darparodd Sir Conwy, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wybodaeth a chyngor ym mhrif dderbynfa Ysbyty Glan Clwyd ac ar stondinau  gyda gwybodaeth a thaflenni ym mhob mynedfa ym mhrif adeiladau’r Cyngor.

Tynnodd y digwyddiad sylw at yr angen i bobl ddeall beth yw camdriniaeth pobl hŷn a sut y gellir ei atal, ac y dylid trin pobl hŷn gydag urddas a pharch. Roedd gwybodaeth ar gael ar y stondinau ynglŷn â beth i’w wneud os oedd rhywun yn bryderus am oedolyn diamddiffyn a pha arwyddion i gadw llygad amdanynt. Cododd y digwyddiad ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd bod yna broses i helpu oedolion diamddiffyn a bod modd dweud wrth rywun am eu pryderon. Cyfrannodd y digwyddiad at strategaeth ataliaeth Conwy o ran amddiffyn oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth.

Bwrdd Lleol Diogelu Plant

Cefndir
Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych (BLlDP) yn Fwrdd statudol, sydd yn golygu bod swyddogaethau BLlDP wedi eu nodi mewn canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Un o swyddogaethau BLlDP yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i ddiogelu plant ar draws yr ardal y mae’n gweithredu ynddo.

Beth sydd wedi newid?
Mae gan BLlDP dudalennau yn rhan o wefan Conwy, sydd yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso.   Cynhyrchodd BLlDP boster sydd yn dweud wrth bobl â phwy i gysylltu â nhw os ydynt yn bryderus am blentyn. Mae’r poster i’w weld ar draws y ddwy sir mewn archfarchnadoedd, meddygfeydd teulu, llyfrgelloedd etc.
Mae’r neges yr un fath bob amser: mae diogelu plant yn fater i bawb.

Ffeiliwyd dan: Diogelu

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English