Mae’r Gwasanaethau Plant yn derbyn nifer uchel o atgyfeiriadau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaeth gan Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth. Yn ogystal, bu oedi wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n cwrdd y trothwy o ganlyniad i wybodaeth annigonol yn yr atgyfeiriad gwreiddiol. Teimlai rheolwyr y Tîm Asesu a Chymorth felly fod angen buddsoddiad mewn cyflwyno hyfforddiant yn uniongyrchol i staff Addysg ac Iechyd er mwyn gwella pa mor briodol yw’r wybodaeth a dderbynnir a’i ansawdd.
Trefnwyd tri digwyddiad hyfforddi fesul gwasanaeth, gan dargedu 180 o staff. Roedd yr hyfforddiant yn darparu gwybodaeth ac enghreifftiau o ran pryd i wneud atgyfeiriad a sut i wneud atgyfeiriad o ansawdd da i’r Gwasanaethau Plant. Roedd yr hyfforddiant yn rhoi eglurhad dros y gwahaniaeth rhwng atgyfeiriad Plentyn Mewn Angen ac atgyfeiriad Amddiffyn Plant ac yn darparu enghreifftiau o atgyfeiriadau da a golwg ar ansawdd gwael rhai o’r atgyfeiriadau a dderbyniwyd. Roedd yr hyfforddiant yn egluro’r trothwy i dderbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Plant a hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda chydweithiwr o asiantaethau eraill.
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn o’r digwyddiadau hyfforddi hyn, ac o ganlyniad, rydym yn derbyn atgyfeiriadau o ansawdd gwell sy’n darparu’r wybodaeth sy’n caniatáu i’n rheolwyr wneud penderfyniadau gwybodus heb oedi diangen. Dylai data o 2016/2017 ddarparu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr hyfforddiant a gyflwynir ac a yw wedi cael y canlyniad a ddymunir.