Bu gwelliant mawr o ran cyfathrebu rhwng CBSC a’i weithwyr yn 2015. Mae dealltwriaeth glir o weledigaeth ac arweinyddiaeth ac mae staff yn cydnabod eu rhan yn y weledigaeth honno.
Gwelliannau allweddol
Arweinyddiaeth ar lefel gorfforaethol
C2b: Rwy’n credu fod gan y tîm hwn weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol + 12.7%
C2c: Mae gennyf hyder yng ngalluoedd y tîm arweinyddiaeth hwn + 9.7%
Arweinyddiaeth ar lefel gwasanaeth
C3a: Rwy’n credu fod gan fy ngwasanaeth weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol + 11.2%
Gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion corfforaethol
C4d: Rwy’n deall sut mae fy ngwaith yn cyfrannu at y Cynllun +8.8%
Newid a moderneiddio’r ffordd rydym ni’n gweithio
C7d: Mae newidiadau yng Nghonwy yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno’n dda + 10.8%
C7e: Caiff y rhesymau dros newid eu cyfathrebu’n effeithiol +14.5%
Sut rydym yn cyfathrebu
C10c: Rwy’n teimlo bod y wybodaeth yn y Brîff Tîm yn ddefnyddiol ac yn berthnasol +9.8%.
O’r rhai sydd â mynediad +11.2%
C10d: Rwy’n teimlo fy mod yn derbyn digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn fy nhîm +7.8%
C10e: Rwy’n teimlo fy mod yn derbyn digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn fy ngwasanaeth +11.0%
C10f: Rwy’n teimlo fy mod yn derbyn digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghonwy +8.1%
Lles
C11a. Rwy’n ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael gan Care First +8.9%
Fodd bynnag, pan edrychwn ar effaith unigol mae lle i wella canlyniadau personol y staff. Er y deellir y broses PDR yn dda ar y cyfan, mae yna fwlch mewn disgwyliadau unigolion o’u swydd o ddydd i ddydd a gweld tystiolaeth bendant o ba mor dda y maent yn gwneud eu gwaith – heb wybod hyn, gall gweithwyr deimlo na allant gyflawni’r bodlonrwydd swydd sy’n ofynnol.
Meysydd Allweddol i’w Gwella
Newid a moderneiddio’r ffordd rydym ni’n gweithio
C7b: Rwy’n cael fy annog i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau -8.1%
Fy swydd a rheoli atebol
C8a: Rwy’n gwybod beth sydd i’w ddisgwyl gennyf -3.4%
Iechyd a Diogelwch
C9b: Mae gen i’r offer angenrheidiol i wneud fy swydd yn ddiogel -3.3%
Lles
C11e: Rwy’n gallu cymryd digon o seibiannau oddi wrth fy ngwaith
C11i: Nid wyf wedi teimlo dan straen oherwydd gwaith yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf -5.7%
C11j: Rwy’n teimlo fy mod yn cael digon o gefnogaeth gan Gonwy i fy helpu i ymdopi â straen -4.9%
O’r rhai sydd wedi teimlo dan straen -2.5%
Datblygiad personol
C12e: Rwyf wedi cael PDR yn y 12 mis diwethaf -9.2%
C12b: Mae fy Adolygiad Datblygu Perfformiad (PDR) yn cynnwys asesiad o ba mor dda rwy’n gwneud yn fy swydd -3.9%
Cyffredinol
C13a: Rwy’n fodlon ar y cyfan gyda fy swydd -5.2%
Mae pob gwasanaeth wedi dadansoddi’r canlyniadau ar gyfer pob adran, wedi trafod gyda’u timau ac wedi nodi pwyntiau gweithredu i ymateb i’r adborth a gwella.