Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Ailstrwythuro Trawsnewid

Ailstrwythuro Trawsnewid

Sefydlwyd y Rhaglen Trawsnewid Gofal ym mis Mawrth 2012 drwy adolygu prosesau busnes a Strwythurau Gwasanaeth er mwyn cwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 a’r heriau ariannol y mae’r adran yn eu hwynebu.

Ar y pryd hwn nodwyd mai ein nod yn y dyfodol fydd darparu gwasanaethau atal trwy fwy o ymgysylltu â phartneriaid er mwyn bodloni gofynion newydd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Cydnabyddir y bydd yn dal angen i ni barhau i gynnig darpariaeth gofal a reolwyd ond mae angen i ataliaeth fod yn llinyn cyson drwy gydol darpariaeth gwasanaethau.

O ganlyniad, datblygwyd strwythur adrannol newydd yng nghyd-destun yr adnoddau ariannol sydd ar gael. Sefydlwyd y strwythur ar 1 Hydref, 2014.

Roedd yr ailstrwythuro’n seiliedig ar y Cysyniadau Ailgynllunio a nodwyd ar ddiwedd Cyfnod Ymchwil y Rhaglen Trawsnewid

  • Integreiddio
  • Ymateb i Lefelau Diamddiffynedd
  • Ymyrryd yn fuan (atal/ail-alluogi) wedi’i anelu at atal tynnu cleieintiaid i dimau arbenigol.
  • Fframwaith asesu sy’n cyfateb i gymhlethdod yr achos ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau a geisir amdanynt.
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Beth sydd wedi newid? Mae’r strwythur wedi newid yn sylweddol ac wedi’i rannu’n 2 faes bellach:

1. Plant, Teuluoedd a Diogelu

  • Plant sy’n Derbyn Gofal – mae’r maes gwasanaeth hwn yn cynnwys y Gwasanaeth Maethu a Chartref Plant Glan yr Afon. Penderfynwyd adleoli Tir Na Nog i’r Gwasanaeth Anabledd a’r Gwasanaeth Ymgynghorol Personol i’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.
  • Gwasanaeth Ymyriadau Teuluol – Nid oes unrhyw newid sylfaenol yma, ond mae’r Rheolwr Gwasanaeth yn cymryd y cyfrifoldeb am oruchwylio’r Tîm ar Ddyletswydd Brys.
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid – Nid oes unrhyw newid sylfaenol yma.
  • Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn – Mae hwn yn faes gwasanaeth newydd gyda’r nod o leihau dibyniaeth ar unigolion a theuluoedd. Mae’n cymryd ymagwedd teulu cyfan a phenderfynwyd cael 3 Adran fel a ganlyn:
  • Iechyd Meddwl
  • Pobl Ddiamddiffyn yn goruchwylio datblygiad y gwasanaeth newydd sy’n targedu’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau sy’n gweithio i’w hailgysylltu â’u teuluoedd a / neu rwydweithiau cymorth i leihau niwed ac atal cynnydd mewn anghenion.
  • Adnoddau Pobl Ddiamddiffyn. Gwasanaeth a anelwyd at gynyddu arbenigedd staff cymunedol sy’n gweithio i ddarparu cefnogaeth gan ddefnyddio technegau cymell i leihau dibyniaeth a chynyddu’r tebygolrwydd o annibyniaeth trwy weithio mewn partneriaeth.
  • Cydlynydd Diogelu Rhag Colli Rhyddid Tymor Byr – penderfynwyd neilltuo adnoddau i ymateb i’r atgyfeiriadau cynyddol.

 

Ansawdd – Nod y gwasanaeth hwn yw mynd i’r afael â’r swyddogaethau ansawdd yn y gwasanaethau yn ogystal â goruchwylio diogelu a datblygu’r gweithlu. Mae 2 Adran:

  • Ansawdd – goruchwylio’r cylch ansawdd ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth
  • Diogelu –tynnu ynghyd hwyluso a goruchwylio Amddiffyn Plant, Swyddogion Adolygu Annibynnol a’r Cydlynydd Amddiffyn Oedolion. Bydd cyfuno’r swyddogaethau hyn yn galluogi ymagwedd gyson tuag at ddiogelu beth bynnag fo’u hoedran.
  • Datblygu’r gweithlu yn goruchwylio datblygiad strategaeth gyfathrebu a chynllun gweithlu

 

2. Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig

 

Gwasanaethau Anabledd – Darparu gwasanaethau rhychwant oes i’r holl bobl gyda diagnosis o Anabledd. O ganlyniad i waith ymchwil a dealltwriaeth o lwythi achosion, dadansoddiad o’r galw a ragwelir a dymuniad i fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac atal dibyniaeth, rhannwyd y gwasanaeth fel a ganlyn:

  • Dan 25
  • Dros 25
  • AdnoddauGwasanaeth Pobl Hyn -Yn cyd-fynd ag Ardaloedd Iechyd Lleol y Dwyrain a’r Gorllewin gyda’r nod o integreiddio gwasanaethau ymhellach o fewn y Canolfannau Lles y Gymuned newydd sy’n datblygu, ac mae 5 ohonynt yn weddill.

Gwasanaeth Lles y Gymuned – Maes gwasanaeth newydd cyffrous arall gyda’r nod o ddatblygu strategaethau i gefnogi pobl i fod yn rhan o’u cymunedau. Y nod yw datblygu gwasanaethau cymunedol a fydd yn cefnogi’r bobl fwyaf diamddiffyn. Mae angen gweithio’n agos gyda’r Trydydd sector a’r sector Annibynnol ac, o ganlyniad, mae’r gwasanaeth yn goruchwylio’r grantiau a ddefnyddir i ymateb i’r strategaeth gomisiynu a’r asesiad anghenion. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am y pwynt cyswllt cyntaf (Un Pwynt Mynediad) ar gyfer gwasanaethau oedolion ac yn goruchwylio ystod o Wasanaethau atal yn weithredol. O ganlyniad, fe’i rhannwyd yn 3 rhan:

  • Un Pwynt Mynediad
  • Atal
  • Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud? Mae cyflwyno’r strwythur newydd wedi arwain at newid mewn polisi ac arfer i ymyrraeth gynharach, cydweithredu a dull ataliol o ddarparu gwasanaethau trwy gyflwyno dulliau amgen o weithio gan felly leihau’r adnoddau ariannol i ddarparu gwasanaethau.

 

Mae’r strwythur newydd wedi ein galluogi i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwy ymatebol, asesiadau cymesur a rhannu gwybodaeth sy’n galluogi dinasyddion i gael llais a rheolaeth dros eu gofal.

 

  • Y Fframwaith:-

fframwaith

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English