- Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl
- Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal
Dull partneriaeth i gomisiynu
Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n darparwyr gofal cartref i newid y ffordd yr ydym yn comisiynu a darparu gwasanaethau i bobl hŷn. Rydym yn hyrwyddo dull mwy cydlynol sy’n seiliedig ar ganlyniadau, gan ganolbwyntio ar y pethau mae pobl yn gallu eu gwneud, yn hytrach na’r pethau nad ydynt yn gallu eu gwneud. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddarparwyr deilwra eu gwasanaethau i’r unigolion y maent yn eu cefnogi, gan ystyried eu barn, eu ffafriaeth a’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym yn cydnabod bod newid arferion yn cymryd amser, fodd bynnag, rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol iawn o ganlyniad, gan alluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Ein her bellach yw sicrhau fod gennym gapasiti digonol i fodloni anghenion cynyddol ein poblogaeth hŷn sy’n mynegi eu dymuniad i dderbyn cefnogaeth yn eu cartref eu hunain yn hytrach na gofal preswyl.
Gan ystyried barn pobl ag anableddau a’u gofalwyr drwy weithgareddau ymgysylltu, megis cael swydd wedi’i hwyluso gan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, rydym wedi comisiynu gwasanaethau newydd i fodloni eu hanghenion a’u dyheadau. Gan weithio mewn partneriaeth agos gydag Ymddiriedaeth HF, disgwylir i gaffi a siop Bryn Euryn ym Mae Colwyn agor ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf yn 2024. Y nod yw darparu cyfleoedd rhagorol i bobl ag anableddau i ddatblygu eu sgiliau, ennill profiad gwerthfawr mewn arlwyo, a’u helpu i ddod o hyd i waith â thâl. Ein gweledigaeth yw i’r caffi fod yn un o hoff lefydd pobl i siopa am blanhigion a mwynhau paned, yn ogystal â chefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i gyflawni eu nodau cyflogaeth.
Rydym yn cymryd camau i weithredu dull cydgynhyrchiol ar gyfer y ffordd yr ydym yn comisiynu ein gwasanaethau e.e. galluogi pobl a’u teuluoedd i weithio gyda ni fel partneriaid cyfartal a chynnig cyfleoedd cyfartal iddynt gyfrannu’n rhannol neu’n llawn at y broses gomisiynu. Mae gennym enghreifftiau da o weithio’n agos gyda theuluoedd i ddylunio, comisiynu a chaffael gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys y darparwyr sy’n eu cefnogi nhw. Rydym yn ymrwymo i ddatblygu dull cydgynhyrchiol ar gyfer comisiynu, gan sicrhau fod gennym ystod eang o wasanaethau yn ein hardal leol.
Fel rhan o’n datblygiad llety i blant, rydym yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ac yn cynnwys y grŵp Lleisiau Uchel i ystyried barn, adborth ac awgrymiadau plant o ran comisiynu a datblygu gwasanaethau gofal preswyl a llety â chymorth.
Sut y gallwn wella
- Rydym yn cydnabod y prinder llety priodol ar gyfer pobl ifanc yn ein hardal, a bod eu hanghenion cymorth yn gallu bod yn gymhleth iawn. Byddwn yn ymgysylltu â’r gymuned leol pan fyddwn yn cynllunio i gyflwyno gwasanaethau gofal preswyl newydd yn y gymuned.
- Rydym yn ymrwymo i ddatblygu a chomisiynu gwasanaethau newydd yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth ystyrlon, gan ystyried barn pobl, canllawiau polisi cenedlaethol ac arferion da, er mwyn i ni sicrhau fod gennym y gwasanaethau cywir ar gael yn y lle iawn ar yr amser iawn.
- Byddwn yn parhau i ddatblygu’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu, casglu adborth a chwblhau gwaith ymchwil a gweithgarwch ymgynghori i asesu dewisiadau a barn y cyhoedd fel rhan o’n proses gomisiynu; byddwn yn defnyddio offer megis y Panel Dinasyddion.
Cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu
Eleni, mae Conwy a Sir Ddinbych wedi gweithio mewn partneriaeth â Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd i lansio llwybr newydd i unigolion ag anabledd dysgu sy’n agored i wasanaethau cymdeithasol. Mae’r llwybr cyflogaeth yn cynnig cefnogaeth hyfforddwr swydd dwys i bobl i’w helpu i ddod o hyd i waith cyflogedig a fyddai wedi bod yn anodd iddynt ei ganfod ar eu pennau eu hunain neu’n amhosibl i weithiwr cymdeithasol yn sgil cyfyngiadau capasiti. Mae’r Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth yn derbyn pob atgyfeiriad at y gwasanaeth newydd gan weithwyr cymdeithasol, swyddogion Gyrfa Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill. Gallant gwrdd â’r unigolyn a’u teulu neu ofalwyr i benderfynu ar y llwybr cyflogaeth gorau i’r unigolyn hwnnw, a ph’un a fyddent yn elwa o gyfleoedd gwirfoddol / profiad gwaith i ddatblygu eu CV. Rydym hefyd wedi cyfeirio pobl at gyrsiau hyfforddiant a ddarperir gan Ganolfan Gyflogaeth Conwy, rhaglen WorkFit y Gymdeithas Syndrom Down ac Amdani, gwasanaeth gwirfoddoli mewnol Conwy sy’n anelu at ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli’n seiliedig ar ddiwylliant lleol.
Bydd Conwy’n addasu’r ffordd y mae gwasanaethau dydd yn cael eu cynnig i unigolion ar hyn o bryd. Y nod yw, o hyn ymlaen, y bydd pobl yn mynychu gwasanaethau dydd ar sail tymor byr, ac yn gadael ar ôl cyfnod byr gyda phrofiad, a chymhwyster gobeithio, y gallwn eu defnyddio i ddod o hyd i gyflogaeth â thâl. Bydd gwasanaethau dydd yn parhau i fod ar gael i’r rheiny sydd eu hangen nhw, ond dylai unrhyw un sy’n gallu gweithio eu defnyddio fel offeryn hyfforddiant yn hytrach nag opsiwn hirdymor. Bydd y blanhigfa a chaffi newydd ym Mryn Euryn, Mochdre, yn darparu cyfleoedd profiad gwaith wedi’u teilwra i bobl, eto am gyfnodau penodol, y gellir eu defnyddio i sicrhau swyddi yn y gymuned. Byddwn hefyd yn cynnal cynllun swyddi penwythnos i 14+ o ddisgyblion yn Ysgol y Gogarth i ennill profiad gwaith, gyda’r nod o newid y diwylliant mewn ysgolion a cholegau anghenion ychwanegol i ganolbwyntio mwy ar gyflogaeth. Yn y dyfodol, bydd ein Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth hefyd yn bresennol mewn ysgolion a cholegau arbennig lleol, lle byddant yn gweithio gyda staff i ddarparu gwybodaeth i ddysgwyr am ein gwasanaeth newydd, a chyflogaeth yn gyffredinol.
Mae gwaith wedi cael ei gwblhau i ddarparu dewis gwirioneddol i bobl ag anableddau dysgu am eu dymuniadau. Mae rhai pobl bellach yn gallu ennill cyflog yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau dydd traddodiadol, gwirfoddoli mewn siopau elusen neu fod yn NEET (ddim mewn cyflogaeth, addysg, na hyfforddiant). Yn flaenorol, roedd yn anodd iawn i rywun ag anableddau dysgu gael mynediad at waith â thâl, gan na fyddai gan Weithwyr Cymdeithasol amser i ymgymryd â’r dasg ddwys o ddod o hyd i waith i rywun ag anabledd dysgu. Yn aml iawn hefyd, heb gefnogaeth gychwynnol yn y swydd gan ein hyfforddwyr swyddi, byddai’r rhwystr a wynebir gan y cyflogwr o hyfforddi rhywun ag anabledd dysgu mewn rôl newydd yn ormod o waith. Drwy greu’r rolau newydd hyn, Cydlynwyr Llwybrau Cyflogaeth a hyfforddwyr swyddi, y nod yw pontio’r bylchau yn y maes hwn a galluogi pobl ag anabledd dysgu i ddod o hyd i waith â thâl.
Gan fod y swyddi hyn wedi cael eu llenwi ym mis Hydref 2023, mae dal yn rhy gynnar i fesur cyflawniadau, ond hyd yma, rydym wedi cael ambell i lwyddiant da. Mae pump o bobl wedi dechrau gweithio mewn swyddi â thâl gan ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, ac mae disgwyl i un arall ddechrau ym mis Ionawr 2024. Mae pobl wedi cael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant na fyddent wedi bod yn ymwybodol ohonynt fel arall. Mae lleoliadau gwirfoddol wedi cael eu nodi ar gyfer pobl i wella eu CV ac ennill profiad. Mae gennym ddau o bobl yn dechrau treial gwaith yn nhîm glanhau Venue Cymru ym mis Ionawr, a fydd yn datblygu cysylltiad rhwng dau wasanaeth yng Nghonwy. Mae pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth wedi nodi gwelliant yn eu lles, rhagolygon a sefyllfaoedd cymdeithasol.
Yn ogystal â’r gwelliant o ran lles preswylwyr, bydd hyn yn sicrhau arbediad ariannol hirdymor i Gonwy. Mae’r costau sydd ynghlwm â chefnogi rhywun i ddod o hyd i waith yn llawer llai na’r costau sydd ynghlwm â darparu gofal cartref cyson, mynediad at wasanaethau dydd, cludiant, staff ac ati, a fyddai’n angenrheidiol pe na bai’r gefnogaeth hon ar gael i’r unigolyn. Mae sgyrsiau’n mynd rhagddynt ynghylch sut i wneud swyddi Awdurdod Lleol yn fwy cynhwysol, gan ddarparu ymgeiswyr posibl ar gyfer swyddi gwag yng Nghonwy a fyddai fel arall yn wag am gyfnod hir o bosibl.
Sut y gallwn wella
Offeryn a ddefnyddir mewn cyflogaeth â chymorth i gael gymaint o wybodaeth â phosibl am yr unigolyn yr ydych yn eu cefnogi yw proffilio galwedigaethol, ac fe’i defnyddir i baru’r unigolion mwyaf addas gyda swyddi i gyflogwyr. Y mwyaf o wybodaeth berthnasol y gallwn ei chynnwys ar broffil galwedigaethol, y mwyaf tebygol yw’r ymgeisydd llwyddiannus o lwyddo yn eu swydd newydd. Wrth i ni ddarparu’r gwasanaeth, rydym yn darganfod pa wybodaeth sy’n berthnasol a pha wybodaeth nad yw’n berthnasol, ac yn addasu ein proffiliau galwedigaethol yn gyson. Bydd y broses hon yn parhau i’r flwyddyn nesaf. Er nad yw’n bosibl creu proffil galwedigaethol perffaith ar unrhyw bryd, byddwn yn parhau i’w ddatblygu wrth i ni ddysgu mwy am y beth sy’n bwysig i’w ddarganfod am hanes cyn cyflogaeth ceiswyr swyddi.
Mae arnom ni angen gwella ein cyfraddau llwyddiant wrth gysylltu â chyflogwyr. Yn amlwg, dim ond hyn a hyn fedrwn ni ei wneud, ac ni fydd gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb mewn defnyddio’r gwasanaeth. Fodd bynnag, drwy ddefnyddio’r dull cywir, credwn y bydd modd ennyn rhagor o ddiddordeb gan gyflogwyr sydd ychydig yn ansicr ar hyn o bryd o bosibl. Byddwn yn addasu ac yn newid ein dull o ran cysylltu â chyflogwyr yn y dyfodol ac yn dysgu am y pethau sy’n gweithio a’r pethau nad ydynt yn gweithio.
Nid yw cysylltiadau â swyddi a chyfleoedd awdurdod lleol yn gryf iawn ar hyn o bryd ac mae angen gweithio ar hyn.
Ein cynllun gweithredu
Mae rhai elfennau o’r proffil galwedigaethol sydd eisoes wedi cael eu hychwanegu a’u gwaredu, a bydd hyn yn parhau. Os ydym ni’n gweld bod rhai darnau o wybodaeth yn amherthnasol, byddwn yn eu tynnu o’r proffil. Yn yr un modd, os byddwn ni’n nodi bod unrhyw ddarn perthnasol o wybodaeth ar goll, byddwn yn ei ychwanegu neu’n dysgu hyn yn gynt yn y broses. Gallwn siarad â chyflogwyr am bethau sydd wedi gweithio a phethau nad ydynt wedi gweithio, a gweld a oes unrhyw ffordd y gallwn fod wedi darganfod hyn ar y cam proffilio galwedigaethol.
Gallwn siarad â chyflogwyr am ba wybodaeth yr hoffen nhw ei wybod am y gwasanaeth er mwyn tawelu eu meddyliau. Wrth i amser fynd yn ei flaen, byddwn yn datblygu cyfres o dystiolaeth llysgennad cyflogwr. Gall clywed gan gyflogwr arall am brofiadau llwyddiannus o ddefnyddio’r gwasanaeth fod yn ffordd dda o dawelu eu meddyliau a datblygu hyder yn ein gwasanaeth.
Mae dau dreial gwaith wedi cael eu sefydlu yn Venue Cymru sy’n ddechrau da, ond mae opsiynau eraill y gallwn eu hystyried. Sut fedrwn ni fynd allan i’r byd a gofyn i gyflogwyr roi cyfle i’n hymgeiswyr pan nad ydym ni’n gwneud hynny’n fewnol? Mae sgyrsiau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynghylch sut y gellir gwneud y broses recriwtio’n fwy cynhwysol i bobl ag anableddau dysgu. Gobeithiwn yn 2024 y bydd pobl ag anableddau a gaiff eu hatgyfeirio drwy’r gwasanaeth hwn yn gallu cwblhau treial gwaith yn hytrach na mynychu cyfweliad ffurfiol i ddangos eu bod yn gallu cyflawni’r rôl, er nad ydynt o bosibl wedi gallu cyfleu hynny’n defnyddio’r arddull recriwtio presennol (ffurflen gais/cyfweliad).
Gwella ein cynnig gofal maeth
Er mwyn gwella cynnig Conwy i ofalwyr maeth, rydym wedi cynyddu’r lwfans y maent yn ei dderbyn, yn ogystal â’r swm sy’n daladwy i ail a thrydydd plant yn eu gofal. Rydym hefyd wedi ail-gyflwyno ad-daliadau i ofalwyr maeth er mwyn talu am y 50 milltir cyntaf wrth gludo plant i ac o’r ysgol ac amser teulu. Rydym yn ystyried opsiynau i gynnig gostyngiadau Treth y Cyngor i ofalwyr maeth, gyda’r nod o’u gweithredu yn ystod blwyddyn ariannol 2024-2025. Mae’r mentrau hyn yn alinio â rhaglen Maethu Cymru i gysoni taliadau ar draws Cymru, yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ddenu gofalwyr maeth newydd, ac yn cynnig opsiwn amgen hyfyw i’r sector preifat.
Mae Conwy wedi datblygu Polisi Cefnogi Maethu i weithwyr Conwy sy’n Ofalwyr Maeth neu’n dymuno bod yn Ofalwyr Maeth. Mae’r polisi hwn, sy’n mynd drwy’r broses ddemocrataidd ar hyn o bryd, yn anelu at ddarparu pum diwrnod ychwanegol o wyliau arbennig i weithwyr presennol a newydd i fynychu hyfforddiant neu gyfarfodydd i gefnogi eu rôl maethu. Bydd hyn yn cefnogi ein strategaeth recriwtio a chadw staff mewn blwyddyn heriol. Heb Swyddog Recriwtio, rydym wedi cael trafferth denu gofalwyr maeth newydd, fodd bynnag, mae’r tîm wedi parhau i fynychu digwyddiadau cyhoeddus a rhannu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb ac ymholiadau. Erbyn diwedd 2023, roedd pedwar aelwyd maeth newydd wedi cael eu cymeradwyo, a disgwylir i ddau arall gael eu cymeradwyo erbyn diwedd Mawrth 2024.
Roedd penodi Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr ym mis Rhagfyr 2023 yn ddatblygiad cadarnhaol, yn dilyn misoedd o recriwtio. Nodwyd y swydd hon fel angen yn ein Strategaeth Lleoli 2022 a sicrhawyd cyllid ar gyfer y swydd drwy gais llwyddiannus i’r Rhaglen Dileu Elw. Gan ddefnyddio’r un llwybr, llwyddwyd i recriwtio Swyddog Dyletswydd ym mis Tachwedd 2023 i gefnogi’r Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol i gynyddu ein capasiti asesu.
Mae cadw gofalwyr maeth presennol yn parhau i fod yn un o gryfderau’r gwasanaeth, a dengys hyn yn sefydlogrwydd ein teuluoedd maeth. Mae presenoldeb gofalwyr maeth mewn boreau coffi’n parhau i fod yn gadarnhaol, gyda chyfle i gyfoedion dderbyn cymorth, cyngor a chanllawiau gan staff, a chynnal ymdeimlad y gofalwyr maeth o berthyn a hunaniaeth o fewn yr Awdurdod Lleol. Mae ein Diwrnod Gwasanaeth blynyddol yn y gwanwyn a’n Diwrnod Gwerthfawrogi yn y gaeaf wedi dod yn ddigwyddiadau sefydlog yn y calendr ac yn boblogaidd iawn gan gefnogi ymdeimlad teuluol Maethu Cymru Conwy.
Eleni, yn sgil yr argyfwng costau byw, mae’r gwasanaeth yn parhau i ariannu cardiau Maxx (cynllun gostyngiadau), tocynnau Ffit Conwy ac mae gofalwyr maeth yn ddiolchgar iawn o unrhyw ddigwyddiadau am ddim. Rydym yn gwybod bod y cynigion hyn yn effeithiol, gan fod gofalwyr maeth yn cefnogi digwyddiadau recriwtio ac yn cymryd rhan mewn negeseuon cyfryngau cymdeithasol.
Sut y gallwn wella
O ran heriau a brofwyd a’r gwelliannau y mae angen ni eu gwneud, rydym wedi cael trafferth recriwtio ar gyfer dau Swyddog Recriwtio, a fyddai wedi ein galluogi i dargedu digwyddiadau recriwtio lleol, datblygu ein presenoldeb ymhellach, a chynnal sesiynau galw heibio rheolaidd mewn clybiau, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, ac ati. Mae arnom ni hefyd angen canolbwyntio ar ddatblygu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi’r gweithgarwch y mae’n ei ennyn. Rydym yn awyddus i gysylltu â busnesau lleol a hyrwyddo ein model talu gwell a’n statws fel Cyflogwr sy’n Cefnogi Maethu. Fel rhan o Faethu Cymru, yn ddelfrydol, byddwn yn datblygu ymgyrch recriwtio mwy rhanbarthol gyda’n Hawdurdodau Lleol cyfagos.
Mae ein meysydd o angen fel a ganlyn:
- Seibiannau byr
- Cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd
- Plant yn eu harddegau
Gydag ymgyrchoedd recriwtio llwyddiannus, bydd ar y gofalwyr maeth hynny sy’n gallu derbyn plant yn eu harddegau angen cymorth ychwanegol, felly bydd gweithio mewn partneriaeth â’r Prif Seicolegydd ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yn hanfodol ar gyfer datblygu dull gofal.
Ein cynllun gweithredu
Dros y misoedd nesaf, hoffem sicrhau:
- Fod gennym ddau Swyddog Recriwtio ar waith, yn datblygu ac yn tyfu ein strategaeth recriwtio
- Ein bod yn datblygu prosesau recriwtio seibiannau byr, dan arweiniad y Swyddog Recriwtio a’r Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr
- Ein bod yn datblygu dull gofal sy’n bodloni anghenion plant yn eu harddegau
- Ein bod yn sefydlu rôl Swyddog Dyletswydd er mwyn gwella capasiti’r Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol i gynnal asesiadau.
A ydych chi’n ystyried bod yn ofalwr maeth? Ymwelwch â gwefan Maethu Cymru Conwy i ddysgu mwy.
Cyfranogiad ac Ymgysylltiad: Ymgyrch Gwrando ar Ddementia
Gofynnodd Grŵp Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru i ni gyfrannu at waith parhaus yr Ymgyrch Gwrando ar Ddementia drwy gynnal ymarfer ymgysylltu â’r gymuned. Y bwriad oedd ei gynnal mewn un dref yn y sir gyda’r nod o gasglu barn preswylwyr am y cyfleusterau a’r gwasanaethau dementia sydd ar gael yn eu cymunedau. Byddai unrhyw adborth yn llywio gweithgareddau Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r dyfodol.
Ffurfiwyd grŵp llywio, ac enwebwyd Llanfairfechan ar gyfer y digwyddiad. Cefnogwyd y gwaith ymgysylltu gan lyfrgelloedd Conwy, yn arbennig Llyfrgell Llanfairfechan, Cyngor Tref Llanfairfechan, Gwasanaeth Lles Cymunedol Conwy, y Gwasanaeth Pobl Hŷn a’r Cynghorwyr Penny Andow a Mandy Hawkins.
Cynhaliom ddiwrnod gwybodaeth ac ymgysylltu â’r gymuned yn neuadd tref Llanfairfechan ym mis Medi 2023, noson goffi yn y llyfrgell gymunedol ym mis Hydref, a stondinau yn y Fforwm Pobl Hŷn yn Llys y Coed a ffair Nadolig Llanfairfechan. Fe wnaethom gwrdd â grwpiau cymunedol lleol i drafod yr ymgyrch a hyrwyddo holiadur a ddyfeisiwyd ar gyfer y digwyddiad. Siaradom hefyd â phreswylwyr mewn siopau a chaffis lleol a thrwy unrhyw gyfleoedd eraill a gododd.
Ein cynllun gweithredu
Mae’r ymateb gan breswylwyr a grwpiau cymunedol lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Erbyn mis Rhagfyr 2023, roedd 178 o bobl wedi cwblhau’r holiadur. Unwaith y byddwn wedi derbyn y dadansoddiad a’r adroddiad gan Grŵp Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru, byddwn yn gallu astudio’r canlyniadau a nodi’r gwelliannau sydd eu hangen.
Yn 2024, rydym yn awyddus i drefnu digwyddiad adborth ar gyfer preswylwyr Llanfairfechan i ddiolch iddynt am eu cyfranogiad a thrafod sut mae eu barn wedi llywio’r adroddiad rhanbarthol. Mae arnom ni hefyd angen sefydlu grŵp gweithredu lleol ar gyfer Llanfairfechan er mwyn rhoi’r blaenoriaethau a amlygwyd yn yr adroddiad gan ac ar gyfer eu cymuned ar waith.
Dechreuodd y gwaith ymgysylltu yn 2023 a bydd yn cyfrannu at waith parhaus Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella gofal dementia ac annog datblygiad cymunedau sy’n deall dementia ar draws Cymru.
Mae’r ymgynghoriadau a’r ymgysylltiadau eraill yr ydym wedi’u cynnal yn cynnwys:
- Preswylwyr ac aelodau teulu mewn tri chartref gofal ac un asiantaeth gofal cartref.
- Dinasyddion a theuluoedd sy’n ymwneud â’r cyfleuster seibiant newydd ym Mron y Nant, ac unigolion a gefnogir sy’n defnyddio’r gwasanaeth (a’u haelodau teulu) i fod yn rhan o’r broses gyfweld staff newydd.
- Pob preswylydd mewn cynlluniau tai gofal ychwanegol ar draws Conwy.
- Pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau cymorth cymunedol a ddarperir gan Wasanaeth Anableddau Conwy.
Sut y gallwn wella
Byddwn yn parhau i ystyried gwahanol fathau o ddulliau ymgysylltu ac ymgynghori gan gynnwys ar-lein, dros y ffôn, arolygon a ffurflenni adborth, yn ogystal â chwrdd â grwpiau ac unigolion er mwyn llywio ein gwaith a chasglu barn pobl sy’n cael mynediad at ein gwasanaethau.
Ein cynllun gweithredu
Sicrhau fod cynlluniau ymgynghori ar waith ar gyfer y dyfodol gyda Gwasanaethau Lles Cymunedol er mwyn ymgysylltu â dinasyddion a’r gymuned ehangach drwy:
- Foreau coffi
- Cyrsiau yn y gymuned
- Darparu gweithgareddau mewn cartrefi gofal
- Gweminarau a Facebook
- Ffurflenni adborth cyffredinol
- Arolygon sicrwydd ansawdd mewn Canolfannau Teulu
Rydym hefyd yn awyddus i gasglu adborth gan ddinasyddion sy’n derbyn gwasanaethau gofal cartref gan asiantaethau, gan ddefnyddio dull gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Adborth gan ffrindiau a theulu preswylwyr Llys Elian
Rydym yn cysylltu â ffrindiau a theulu preswylwyr Llys Elian ddwywaith y flwyddyn, sef yr unig gartref preswyl a gynhelir gan y Cyngor i bobl â dementia. Rydym yn gofyn iddynt gwblhau arolwg byr i roi adborth i ni ar y gwasanaeth y mae eu hanwylyd yn ei dderbyn. Dyma gipolwg o ganlyniadau’r arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2023.
Nododd y cyfranogwyr lefel boddhad o 100% ar gyfer bob cwestiwn a ofynnwyd iddynt.
- Roedd yr holl ymatebwyr yn cytuno fod rheolwyr a staff Llys Elian yn gwrando ar eu hanwylyd, a’u bod yn gallu gwneud dewisiadau am y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu derbyn a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
- Roedd pawb yn cytuno fod eu hanwylyd yn gallu cymryd rhan mewn gwaith a gweithgareddau ystyrlon a’u bod yn hapus am eu hiechyd a’u lles cyffredinol.
- Roedd pawb yn fodlon fod eu ffrind neu aelod o deulu’n teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwarchod rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
- Roedd pawb yn teimlo bod y gwasanaeth yn cynnal preifatrwydd, urddas a chyfrinachedd eu hanwylyd.
- Ystyrir Llys Elian fel amgylchedd cyfforddus, sy’n rhoi cyfle i’w hanwyliaid bersonoli eu gofod.
- Mae ymwelwyr yn derbyn croeso ac yn gallu cyfrannu at ofal a chefnogaeth eu hanwyliaid.
Mae’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr arolwg yn dangos mor werthfawr yw Llys Elian i ffrindiau a theulu’r preswylwyr:
Mae’n gartref arbennig. Mae’r rheolwyr a’r holl staff ym mhob ardal o’r cartref yn ofalgar ac yn glên. Ni allwn ddymuno am gartref mwy diogel a gofalgar. Bydd y teulu yn fythol ddiolchgar am y gofal arbennig y mae ein hanwylyd wedi’i dderbyn yn Llys Elian. Diolch/Thank you.
Fel teulu rydym mor hapus i weld mam wedi setlo mewn amgylchedd sy’n siwtio ei hanghenion meddyliol a chorfforol. Mae’r ffaith ei bod hi rŵan yn gallu cymdeithasu yn Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i mam ac wedi codi ei hwyliau. Diolch.
Mae’r rhyngweithiad gyda’m tad a’r gofal y mae’n ei dderbyn o safon uchel bob amser. Mae Llys Elian fel teulu i ni.
Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol
Rydym wedi sôn am dîm ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth mewn adroddiadau blaenorol a gallwn bellach gadarnhau fod y tîm wedi symud ymlaen o gam peilot i fusnes fel arfer. Mae’r tîm hefyd wedi ymestyn ac wedi penodi Gweithiwr Cymdeithasol ychwanegol i asesu atgyfeiriadau diogelu plant. Mae Swyddog Cefnogi Busnes bellach yn rhan o dîm y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth hefyd. Mae hyn wedi ein galluogi i wella prosesau, gan gynnwys sut caiff cyfarfodydd y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth eu cofnodi a’n cyfranogiad mewn prosesau diogelu eraill megis Trefniadau Gwarchod y Cyhoedd Amlasiantaeth a’r Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaeth. Rydym bellach yn derbyn mewnbwn rheolaidd gan y Gwasanaeth Prawf, Iechyd ac Addysg yn ein cyfarfodydd. Mae presenoldeb asiantaethau eraill wedi arwain at broses fwy cadarn o wneud penderfyniadau.
Dyma rai ffigurau am gysylltiadau:
Lluniwyd y mesur hwn i nodi’r cyfanswm a’r galw am wybodaeth, cyngor a chymorth fel y diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Sut y gallwn wella
Rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu tudalennau we cyhoeddus a mewnrwyd arbennig i’r tîm. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith ar hyn er mwyn i ni fedru cwblhau’r cynnwys. Rydym yn awyddus i barhau i wella presenoldeb partneriaid allweddol yn ein cyfarfodydd Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol. Gall presenoldeb fod ar sail ad-hoc. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid allweddol mewn ymgais i sicrhau presenoldeb mwy parhaol yn ein cyfarfod. Bydd hyn yn galluogi cysondeb ychwanegol yn ein proses o wneud penderfyniadau.
Ein cynllun gweithredu
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn:
- Parhau i ddatblygu tudalennau we cyhoeddus a mewnrwyd y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol
- Parhau i ddatblygu a gwella prosesau o fewn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol i weld defnydd mwy cyson o sgoriau Coch, Oren a Gwyrdd wrth wneud penderfyniadau diogelu.
- Gweithio gyda’n tîm gwybodaeth rheoli mewnol i sicrhau ein bod yn cynyddu’r defnydd o’n data i ddadansoddi themâu adroddiadau diogelu er mwyn datblygu ymateb ac ymyrraeth fwy cadarn.