- Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau eu hunain, yn seiliedig ar wybodaeth dda, er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial a byw’n annibynnol cyhyd â phosibl.
Pythefnos Diogelu – Tachwedd 2023
Mae Diogelu yn ganolog i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn tanategu ein harferion a gwaith dydd i ddydd. Er mwyn gwella ymwybyddiaeth mae angen ymrwymiad i ddulliau amrywiol i hyfforddi a rhannu gwybodaeth. Yn ystod Pythefnos Diogelu o 13 i 24 Tachwedd 2023, fe gynhaliom ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiynau briffio saith munud amser cinio, a oedd yn trafod pynciau megis rhieni’n camddefnyddio canabis, y cynnydd mewn brathiadau cŵn, a cham-drin ariannol. Cynhaliom gynhadledd hefyd, gyda 150 o bobl yn bresennol.
Digwyddiadau eraill yn ystod y bythefnos:
- Prosiect celf wedi’i drefnu gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid lle cafodd y bobl ifanc greu posteri a darnau creadigol o waith. Ymunodd tri Aelod Etholedig yr Uned Diogelu ynghyd â’r Gwasanaeth Ieuenctid i feirniadu’r ceisiadau. Bydd y tri chais uchaf yn cael eu hargraffu’n broffesiynol a’u harddangos o fewn lleoliadau cymunedol lleol, gan gynnwys Coed Pella.
- Darparodd y staff hyfforddiant yn rhanbarthol ar Gaethwasiaeth Fodern mewn Cartrefi Gofal, oedd yn canolbwyntio ar recriwtio diogel.
- Cafwyd 2 sesiwn ar Gamfanteisio Troseddol; un ar gyfer staff mewnol ac un allanol ar lefel rhanbarthol. Roedd y sesiynau’n boblogaidd ac mae rhwydweithiau proffesiynol wedi’u sefydlu. Hefyd, mae staff wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Linellau Sirol a Chamfanteisio Troseddol.
- Hyfforddiant un diwrnod lle rhannodd dau o’n Plant sy’n Derbyn Gofal eu profiadau byw gyda’r gynulleidfa. Canmolwyd y sesiwn gan y gweithwyr proffesiynol a fynychodd.
- Mae grwpiau cyfranogi wedi cael eu cynnal o fewn ein huned diogelu gyda phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal neu’n gadael gofal. O fewn y sesiynau hyn, mae plant a phobl ifanc yn cael hwyl rhannu eu profiadau a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau.
Dyma rai ffigyrau am ddiogelu:
Mynd i’r afael â throsedd cyllyll yn ein cymunedau
Yn anffodus, mae trosedd cyllyll yn parhau yn gyffredin ac mae wedi bod yn faes o bryder cynyddol ar gyfer ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mewn ymateb, fe nodom yr angen i ymgysylltu’n gadarnhaol gyda phobl ifanc i fynd i’r afael â’r broblem a gwella ymwybyddiaeth. Ymgasglodd cydweithwyr o’r gwasanaeth grŵp o bobl ifanc ynghyd a oedd yn hysbys i ni, ac wedi derbyn Rhybudd Amodol Ieuenctid, i lunio adnodd trosedd cyllyll. Fe wnaethom gomisiynu TAPE, elusen leol, i’w cefnogi nhw i greu fideo, ac fe wnaeth y bobl ifanc gynllunio, actio, cynhyrchu a golygu’r fersiwn derfynol. Bydd y fideo ar gael fel adnodd, i’w ddefnyddio o fewn sesiynau un i un a grŵp, mewn ysgolion ar draws Conwy a Sir Ddinbych er mwyn amlygu pryderon trosedd cyllyll. Fe’i lansiwyd o fewn digwyddiad TAPE ar 9 Tachwedd 2023, a gallwch ei weld yma.
Ein cynllun gweithredu
Dros y deuddeg mis nesaf rydym yn bwriadu comisiynu mwy o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc er mwyn sicrhau ein bod yn galluogi a darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd mewn perthynas â’r celfyddydau, megis sinematograffi, cerddoriaeth, effeithiau arbennig ac yn y blaen. Mae tystiolaeth bod darparu cefnogaeth o’r fath yn llwyddiannus, a dangosir hyn gan y ffaith, allan o 11 o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect hwn, nid yw 10 ohonynt wedi ail-droseddu. Mae’r prosiect penodol hwn hefyd yn gweithio’n dda ar gyfer y Strategaeth Troseddau Difrifol a fydd ar waith ar draws y rhanbarth. Ar hyn o bryd mae 119 o’r atgyfeiriadau ar draws y gwasanaeth yn ystod y chwarter diwethaf a adroddwyd yn ymwneud â throseddau o natur dreisgar.
Cefnogi pobl ifanc mewn risg o gam-fanteisio
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cydnabod yr angen i ddatblygu ein hoffer ymyrraeth er mwyn hwyluso gwaith grŵp ac un i un gyda phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-fanteisio yn droseddol ac yn rhywiol. Mae hyn wedi bod yn ymateb uniongyrchol i’r nifer cynyddol o ddynion ifanc yn dod yn hysbys i’r gwasanaeth, ar ôl profi cam-fanteisio. Yn hanesyddol ac yn arferol, mae dynion ifanc yn cael eu gweld fel cyflawnwyr camdriniaeth, gan arwain at ychydig iawn o ymchwil am effaith cam-fanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar fechgyn a dynion ifanc. O’r llenyddiaeth sydd ar gael, y dylanwadau allweddol ar gyfer risg a diamddiffyniad yw:
- Anawsterau o ran hunanhyder
- Anawsterau unigrwydd emosiynol neu gysylltiad gydag eraill
- Ffyrdd afresymegol ac eithafol o feddwl a all gynnal problemau meddyliol ac emosiynol, a enwir yn ‘gamgymeriadau meddwl’
- Diffyg gwybodaeth rywiol
- Anabledd
- Pyliau o iselder
Hefyd fe ganfuwyd nodweddion yn ymwneud ag ymddygiad cymryd risg, gweithredoedd amhriodol neu anghyfreithlon, anableddau dysgu ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth.
Fe wnaethom gysylltu â Better Futures Cymru a rannodd wybodaeth ac offer gwaith mewn perthynas â’u hadnoddau Boys 2. Roedd hwn yn brosiect 2 flynedd, wedi’i ariannu ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref a Barnardos. Arweiniodd canfyddiadau’r prosiect at ddatblygu gweithlyfr Boys 2, a gafodd ei gyd-gynhyrchu gyda’r bechgyn a dynion ifanc a gymerodd rhan yn yr ymchwil. Mae holl feysydd y gweithlyfr wedi’u cefnogi gan eglurhad ymchwil clir ar gyfer eu cynnwys, ac wedi’u dylunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu gyda bechgyn a dynion ifanc er mwyn lleihau’r risg o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a chefnogi hunaniaeth iach. Rydym wedi cyflwyno’r gweithlyfr hwn i’n rheolwyr achos a staff atal er mwyn eu cyflawni gyda bechgyn a dynion ifanc pan fydd yn addas a phriodol i wneud hynny.
Rydym hefyd wedi caffael adnodd ‘Girls Talk’ sy’n adnodd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda genethod a merched ifanc sydd wedi ymgysylltu mewn ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae’n helpu i leihau risg a’u galluogi nhw i symud ymlaen tuag at berthnasau aeddfed iach.
Fel gwasanaeth rydym hefyd yn gweithio ar brosiect ymchwil gyda Chanolfan Ymchwil a Datblygiad Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE, yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd, ynghyd â Thîm Diogelu Conwy a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Thîm Diogelu Casnewydd. CASCADE yw’r prif ganolfan ar gyfer ymchwil gwerthusol i Ofal Cymdeithasol Plant yn y DU, a’u nod yw ‘gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd’. Mae’r ymchwil yr ydym yn rhan ohono yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwasanaeth ar gyfer plant sydd wedi profi cam-fanteisio troseddol, ac mae’n astudiaeth achos o siwrnai gwasanaeth plant sydd wedi profi cam-fanteisio troseddol mewn dwy ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru: Conwy a Chasnewydd. Bydd y prosiect dwy flynedd yn creu astudiaethau achos manwl o brofiadau pobl ifanc sydd wedi’u camfanteisio’n droseddol o’r llwybrau, darpariaeth a chanlyniadau gwasanaeth, pum mlynedd cyn derbyn atgyfeiriad a hyd at ddwy flynedd wedi hynny.
Diogelu pobl ifanc pan maent allan
Yn ystod y pandemig Covid, fe ddaeth gweithgor aml-asiantaeth ynghyd i edrych ar wahanol ffyrdd o leihau camfanteisio ar blant yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Mae’r grŵp yn parhau ac yn cynnwys cynrychiolwyr o:
- Ganolfannau Teuluoedd
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwasanaethau Addysg
- Gofal Cymdeithasol i Blant
- Gwasanaethau Iechyd Plant
- Heddlu Gogledd Cymru
Eleni fe ganfuom fwlch mewn gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc i ofyn am gymorth yn gyfrinachol wrth fod allan yn y gymuned. Rydym wedi edrych ar wasanaethau sydd eisoes ar gael i bobl ifanc i ofyn yn dawel am gymorth, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn dibynnu ar ffonau neu gysylltiad â’r rhyngrwyd, nad ydynt bob amser ar gael i’r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.
Felly rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor yr Ifanc a’r gymuned gyffredinol o bobl ifanc yng Nghonwy i benderfynu os fydd gwasanaeth math ‘Ask for Angela’ yn fuddiol iddyn nhw mewn sefyllfa anodd. Cyflawnwyd arolwg yn 2023 yn gofyn i bobl ifanc a oedden nhw neu bobl ifanc yr oeddent yn eu hadnabod yn gorfod gwneud pethau nad oeddent eisiau eu gwneud, ac roedd eu hymatebion yn dweud wrthym ni fod hyn yn wir. Sylwch y gallai’r ymatebwyr ddewis mwy nac un dewis, felly nid yw’r canlyniadau yn dod i gyfanswm o 100%.
- 44% cymryd cyffuriau
- 48% dwyn
- 33% gweithredoedd rhywiol
- 56% bygwth pobl
- 55% trais
- 50% fandaliaeth
O’r rhai a ymatebodd, dywedodd 40% eu bod wedi bod mewn sefyllfa lle roeddent eisiau gofyn am gymorth ar gyfer eu hunain, ffrindiau neu aelod o’r teulu, ond nid oeddent wedi gallu gwneud hyn. Dywedodd 88% y byddent yn hoffi gallu gofyn am gymorth heb fod yn rhy amlwg i’r bobl o’u hamgylch.
Pan ofynnwyd ble yr hoffent fynd i gael cymorth, ymatebwyd:
- 72% siopau
- 72% canolfan ieuenctid
- 49% siop trin gwallt
- 30% salon ewinedd
- 18% gorsaf betrol
- 45% sefydliadau bwyd brys
- 79% ysgol neu goleg
Ein cynllun gweithredu
Dros y misoedd nesaf bwriadwn sefydlu grwpiau ffocws o bobl ifanc o sectorau gwahanol yn y gymuned, i sicrhau ein bod yn cipio safbwyntiau cynifer o bobl ifanc â phosibl; wrth gwrs byddwn hefyd yn parhau i gynnwys Cyngor yr Ifanc. Byddwn hefyd yn cyflwyno syniad prosiect i weithgor rhanbarthol gyda’r golwg o weithio ar draws y rhanbarth.
Dull trosiannol i ddiogelu
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn awyddus i ddatblygu dull trosiannol mewn perthynas â diogelu, gan gydnabod fod pobl ifanc yn wynebu risg y tu allan i’w cartref, er enghraifft, cyffuriau, gangiau a thrais ieuenctid, a cham-fanteisio rhywiol a throseddol. Gall bobl ifanc fod yn fwy diamddiffyn i’r ffynonellau o niwed tu allan i’r teulu, wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol a mwynhau mwy o ryddid, ac wrth iddynt gael eu dylanwadu’n fwy gan eu cyfoedion a ffrindiau yn hytrach na’u teuluoedd. Yn erbyn cefndir o newidiadau corfforol, emosiynol a gwybyddol, gall bobl ifanc fod yn fwy agored i ymddygiad peryglus. Rydym o’r farn:
- Bod gan bobl ifanc anghenion diogelu penodol o’i gymharu â phlant iau, ac mae peryglon, niwed a llwybrau ar ddiogelu yn cael eu tanategu gan ffactorau datblygiadol a chymdeithasol cymhleth
- Mae bod yn ifanc a’r trosglwyddiad i fod yn oedolyn yn cynnwys nifer o heriau o fewn bywydau pobl ifanc, gan wneud hwn yn gyfnod heriol a bregus pan mae cymdeithas eisoes yn eu gweld nhw fel ‘trafferth’
- Tra bod systemau diogelu a chefnogi gwasanaethau plant fel arfer yn dod i ben yn 18 oed, gall y profiadau o niwed a thrawma yn ystod plentyndod, ieuenctid a throi’n oedolyn barhau i effeithio ar bobl ifanc, gydag anghenion heb eu diwallu angen ymyrraeth gymhleth yn ddiweddarach mewn bywyd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r timau Diogelu Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn yng Nghonwy i edrych ar ddatblygu llwybr a pholisi diogelu trosiannol i bobl ifanc. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith diogelu cyd-destunol sydd eisoes yn mynd rhagddo.
Awgrymiadau yn hytrach na tharo plant
Ar 21 Mawrth 2022 newidiodd y gyfraith yng Nghymru, mae hi bellach yn anghyfreithlon i gosbi plant yn gorfforol. Ar ôl cyhoeddi’r ddeddfwriaeth newydd ar ein gwefan a thrwy ein Canolfannau i Deuluoedd, fe luniom daflen wybodaeht dulliau cadarnhaol i gefnogi rhieni i ddod o hyd i ffyrdd amgen o ddehongli ac ymateb i ymddygiad plant. Mae’n darparu canllawiau adeiladol ar gydweithio fel teulu, pethau i rieni roi cynnig arnynt pan maent ar ddiwedd eu tennyn, a dangos pam fod taro plentyn yn syniad gwael. Darperir cysylltiadau ar gyfer cymorth yn lleol, yn ogystal â chysylltiadau i adnoddau defnyddiol ar-lein. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb mewn defnyddio’r daflen wybodaeth ledled Cymru.
Dyma rai ffigyrau:
Mae’r mesur hwn wedi cael ei ddylunio i gipio effaith ar y gyfraith newydd yng Nghymru.
Gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor
Eleni rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Dr Cheryl Davies o Brifysgol Bangor ar rai rhaglenni hyfforddi. Cafodd y cyntaf, Pennod Newydd/New Chapter, ei grybwyll yn yr adroddiad y llynedd, ac wedi’i anelu at fynd i’r afael â chamdriniaeth plentyn i riant. Rydym yn falch o adrodd fod 45 o staff wedi cael eu hyfforddi o ystod o wasanaethau ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a’r Sector Gwirfoddol. Yn bwysicach, mae’r rhaglen wedi cael ei gyflwyno i ddau gohort o deuluoedd dros y misoedd diwethaf ac mae’r adborth yn gadarnhaol iawn. Mae’r ddau gohort wedi gofyn am sesiynau dilynol, ac rydym bellach yn hwyluso sesiynau ‘aros mewn cyswllt’ yn ein Canolfannau i Deuluoedd.
Yn sgil ystod oedran y plant a phobl ifanc sy’n cael eu hatgyfeirio i ni, byddwn yn adolygu sut ydym yn hwyluso sesiynau ar eu cyfer, er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn briodol ar gyfer eu hoedran. Byddwn hefyd yn cydlynu sesiwn myfyrio ar gyfer staff sydd wedi derbyn hyfforddiant Pennod Newydd/New Chapter gyda Cheryl, gyda’r golwg o hyfforddi mwy o staff yn y dyfodol.
Fe wnaethom hefyd weithio gyda Cheryl ar Hyfforddiant Oxford Brain Story, peilot rhanbarthol i staff ddeall effaith trawma yn ystod plentyndod ar yr ymennydd sy’n datblygu, a sut i adeiladu ymennydd cryfach. Derbyniodd chwe aelod o staff o bob sir yng Ngogledd Cymru’r hyfforddiant fel rhan o’r gweithgor trawsnewid rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau sy’n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 7 oed. Mae’r hyfforddiant yn cael ei werthuso gyda’r golwg o gyflwyno’r rhaglen i holl staff yr Awdurdod Lleol. Bydd yr adborth a gesglir trwy holiaduron cyn ac ar ôl yr hyfforddiant yn cael ei fwydo i’r grŵp rhanbarthol.
Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol (MACSAF)
Y llynedd fe wnaethom drafod ein trefniadau MACSAF, a’r nod o’u datblygu ymhellach, hyrwyddo’r grŵp a sefydlu hyfforddiant ar gyfer grwpiau staff ehangach. Yn anffodus mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i ni, gyda nifer o aelodau’n symud i swyddi eraill tu allan i ardal yr Awdurdod Lleol. Allan o tua 20 o aelodau, mae pedwar neu bump o aelodau craidd sydd bob amser yn mynychu cyfarfodydd ac yn cynnig cefnogaeth ymgynghori a hyfforddi. Fodd bynnag, mae’n llawer mwy anodd i’r grŵp ehangach ymrwymo, ac o ganlyniad i leihad mewn niferoedd, rydym wedi cynnal arolwg i archwilio’r rhesymau. Roedd y canlyniadau’n dangos fod yr holl aelodau yn gweld manteision MACSAF ac yn dymuno gwneud mwy oni bai am bwysau eu swyddi dyddiol.
Er hyn, rydym wedi cynnig oddeutu dwsin o ymgynghoriadau trwy gydol y flwyddyn, ac wedi bwydo i mewn i nifer o ddigwyddiadau hyfforddi. Rydym yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda Chanolfan Arbenigol Cam-drin Plant yn Rhywiol ac yn mynychu hyfforddiant gloywi. Rydym wedi cynghori Awdurdodau Lleol eraill megis Caerdydd, ar sut i ddefnyddio’r cwrs a sefydlu MACSAF eu hunain.
Sut y gallwn wella
Er gwaethaf nifer o ymdrechion mae’n anodd iawn parhau i gynnal y grŵp MACSAF. Rydym yn bwriadu gweithio gyda’n Tîm Dysgu a Datblygu’r Gweithlu i gael eu cefnogaeth i gadw’r adnodd gwerthfawr hwn i fynd.
Cynyddu capasiti ar flaen drws ein plant
Yn yr adroddiad y llynedd fe wnaethom drafod y rolau Gweithiwr Cefnogi ac Asesu newydd yr oeddem wedi’u cyflwyno er mwyn cynyddu ein capasiti o fewn y gwasanaethau plant. Gallwn adrodd fod y peilot wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan. Mae lefel uchel o foddhad swydd, gyda’r pedwar gweithiwr yn mwynhau eu rolau ac yn teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r Gweithwyr Cefnogi ac Asesu yn gallu asesu, cynllunio, adolygu a chario achosion Cynllun Gofal a Chymorth; mae eu profiad wedi tyfu yn y flwyddyn ddiwethaf ac maent oll yn weithwyr cymwys.
Mae’r cyfle hwn wedi darparu cynnydd mewn cyflog o’u rolau blaenorol, ac fe ystyrir hyn yn ddatblygiad mewn gyrfa ar gyfer rhai o’r gweithwyr, nad oedd wedi gwneud cynnydd yn ffurfiol ers rhai blynyddoedd. Gan fod recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau o fod yn broblem, mae’r peilot hwn wedi ein galluogi ni i gyflogi gweithwyr medrus i lenwi’r bwlch hwnnw. Pe na fyddai’r Gweithwyr Cefnogi ac Asesu mewn lle, byddai 80 o achosion CASP wedi cael eu rhoi i weithlu Gofal Cymdeithasol sydd wedi lleihau. Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol hefyd wedi elwa o gael math gwahanol o weithwyr medrus o fewn yr adran, ac mae hyn wedi cynyddu’r sgiliau a gwybodaeth o fewn y tîm.
Sut y gallwn wella
- Ni all Weithwyr Cefnogi ac Asesu brosesu archwiliadau Adran 47, achosion Amddiffyn Plant, achosion Plant sy’n Derbyn Gofal nac asesiadau achosion cyfraith preifat, felly mae’r llwyth gwaith cynyddol hwn wedi gorfod cael ei gwblhau gan nifer gostyngol o Weithwyr Cymdeithasol.
- Gan nad all Weithwyr Cefnogi ac Asesu gael eu cynnwys ar y rota Adran 47, mae Gweithwyr Cymdeithasol ar ddyletswydd yn llawer mwy aml.
- Cafodd y Gweithwyr Cefnogi ac Asesu daliad honorariwm yn hytrach na chynnydd mewn graddfa, felly mae angen adolygu hyn i wneud yn rôl yn fwy apelgar.
- Mae’r Gweithwyr Cefnogi ac Asesu yn teimlo bod eu swyddi yn fregus, wrth i’r peilot barhau i gael ei ymestyn.
Mewn ymateb i’r materion hyn, rydym yn cysylltu yn rheolaidd gydag Adnoddau Dynol, gyda’r golwg o greu sefydlogrwydd a pharhad yn y rôl. Fodd bynnag, mae prosiect ehangach, ar wahân, yn edrych ar rôl Ymarferydd Gofal Cymdeithasol, a fydd yn cynnwys dyletswyddau Gweithiwr Cefnogi ac Asesu. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at oedi o ran creu unrhyw fath o barhad yn y rôl.
Y ogystal â hyn, nid oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud o ran a fydd newid parhaol yn cael ei wneud o ganlyniad i’r peilot. Yn sicr, mae recriwtio yn parhau i fod yn broblem sylweddol, ac yn gyson nid oes unrhyw ymgeiswyr ar gyfer swyddi gwag Gwaith Cymdeithasol.
Ein cynllun gweithredu
Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Tîm Dysgu a Datblygu’r Gweithlu o ran datblygu rôl Ymarferydd Gofal Cymdeithasol, a sut all y Gweithwyr Cefnogi ac Asesu lywio hynny. Bydd angen i’r gwasanaeth wneud penderfyniad o ran cadw rôl y Gweithwyr Cefnogi ac Asesu, neu fynd yn ôl i swyddi Gwaith Cymdeithasol a cheisio recriwtio i rolau cymwys.
Sicrhau bod gweithgareddau yn y gymuned yn hygyrch i bawb
Dwygyfylchi
Cyflawnodd ein Tîm Lles Cymunedol ymarfer mapio a phroffilio cymuned, a daeth i’r amlwg yn Nwygyfylchi, oni bai am grŵp rhandir, grŵp bowlio a grŵp rhedeg, nid oedd llawer o ddarpariaeth ar gael yn yr ardal. I’r gwrthwyneb, ym Mhenmaenmawr, roedd ystod o weithgareddau ar gael, felly fe benderfynom ganolbwyntio ar Ddwygyfylchi fel blaenoriaeth.
Yn dilyn mwy o ymgysylltiad gyda busnesau lleol, pobl allweddol ac aelodau’r gymuned, fe nodom mai ein prif flaenoriaeth oedd helpu i godi ymwybyddiaeth o grŵp rhandir presennol y pentref a oedd angen gwirfoddolwyr newydd.
Roedd ‘Wythnos Genedlaethol y Tyfwyr’ yn gyfle gwych i wahodd pobl draw i’r grŵp rhandir i weld beth maent yn ei gynnig ac i annog mwy o wirfoddolwyr i ymuno â’r grŵp. Hyd yn hyn rydym wedi bod yn llwyddiannus yn eu helpu i recriwtio chwe gwirfoddolwr newydd, gan ddyblu capasiti gwirfoddoli’r grŵp. Mae’r grŵp hefyd wedi adrodd fod nifer yr ymwelwyr hefyd wedi cynyddu dros draean, felly mae’r neges yn lledaenu.
Fe wnaethom gynnig cefnogaeth i helpu hyrwyddo’r grŵp trwy greu poster, eu hyrwyddo trwy ein rhaglenni cymunedol lleol a chanllawiau ‘beth sydd ‘mlaen’, ac ariannu baner i fynd ar y rheiliau yng nghanol y pentref.
Sut y gallwn wella
Mae’r ymarfer wedi amlygu diffyg canolfan gymunedol neu leoliadau amgen hyfyw i gynnal gweithgareddau megis dosbarthiadau ymarfer corff yn Nwygyfylchi. Er y gallwn ddewis cynnal sesiynau yn y cymunedau gerllaw, megis Penmaenmawr neu Bensychnant, nid oes gan bawb y gallu i deithio yno, ac mae’r gwasanaeth bysiau lleol yn afreolaidd. Er ein bod wedi cynnal bore coffi yn Nhafarn y Gladstone, yn anffodus ni chafwyd llawer o fynychwyr, ac roedd prynhawn lles yng Nghanolfan Gadwraeth Pensychnant yn profi’n anodd i bobl heb gludiant i fynychu. Mae Neuadd Gymunedol Capelulo yn parhau i gael ei adnewyddu, fodd bynnag, hyd yn oed pan fydd ar gael fel lleoliad ar gyfer gweithgareddau lles, nid yw’n hawdd i bobl fynychu os nad ydynt yn gyrru.
Ein cynllun gweithredu
Wrth symud ymlaen, byddwn yn defnyddio’r Neuadd Gymunedol unwaith y bydd ar agor ac ar gael i ni. Yn ystod y digwyddiadau a gynhaliom eleni, mynegodd nifer o bobl ddiddordeb mewn dosbarthiadau ymarfer corff yn y gadair, felly byddwn yn ail-ymweld â hynny yng Ngwanwyn 2024. Wrth ddisgwyl am y neuadd i agor, efallai gallwn ddefnyddio’r mannau gwyrdd tu allan wrth i’r tywydd gynhesu. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi a hyrwyddo grŵp rhandir Dwygyfylchi pan fydd angen.
Bae Cinmel
Penderfynodd y tîm ddynodi Swyddog Lles i gyflawni gwaith ym Mae Cinmel. Roeddem wedi canfod diffyg darpariaeth o weithgareddau yn yr ardal ar gyfer oedolion hŷn, ac mae un ardal ym Mae Cinmel yn un o’r 10-20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cyflawnodd y tîm ymarfer mapio a phroffilio cymunedol yn yr ardal gan gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i’n helpu ni ymgysylltu gydag aelodau’r gymuned sy’n byw ym Mae Cinmel. Roedd y rhain yn cynnwys taith gerdded, digwyddiad cymunedol a stondinau codi ymwybyddiaeth yn y feddygfa leol ac archfarchnad Asda.
O ganlyniad i’r daith gerdded, mynegodd tri o’r mynychwyr ddiddordeb mewn cwrdd ar gyfer taith gerdded gymdeithasol yn fwy rheolaidd. Fe wnaethom hyrwyddo’r daith gerdded ymysg y bobl a fynychodd ein digwyddiad lles, a dywedodd chwe unigolyn arall yr hoffent gymryd rhan. Roedd un ddynes yn awyddus i wirfoddoli ei hamser i arwain a threfnu’r teithiau, a gyda chaniatâd eraill, mae hi wedi creu grŵp sgwrsio i drefnu dyddiadau ac amseroedd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda hi i drefnu’r daith gyntaf a byddwn yn parhau i roi mewnbwn tan fydd y teithiau cerdded yn ddigwyddiad sy’n cynnal ei hun.
Llandrillo-yn-Rhos
Fe sylwom fod cynnydd wedi bod mewn atgyfeiriadau i’r tîm gan bobl yn byw yn Llandrillo-yn-Rhos, ac fe sylwom fod un o’r eglwysi lleol wedi cau. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhai darpariaethau yn yr ardal ar gael bellach; a bod rhai wedi dod i ben yn gyfan gwbl, tra bod eraill wedi symud i leoliadau gwahanol ym Mae Penrhyn. Felly fe gyflawnom mwy o waith i ganfod a oedd Llandrillo-yn-Rhos angen bod yn ardal o ganolbwynt ar gyfer y tîm. Wrth edrych ar amrywiaeth o ddata a gwybodaeth, nodom fod y ddarpariaeth yn brin iawn, gyda nifer o weithgareddau yn digwydd unwaith y mis yn unig. Gan fod yr ardal â’r boblogaeth uchaf o bobl hŷn yn y sir, yn ogystal â’r nifer uchaf o bobl dros 65 oed yn byw ar eu pen eu hunain, fe benderfynom ei fod yn ardal ar gyfer blaenoriaeth.
Fe drefnom ystod o ddigwyddiadau ymgysylltu, gan gynnwys stondinau yn yr archfarchnad co-op leol, taith gerdded ar hyd y promenâd a digwyddiad lles. Fe ddefnyddiom y rhain fel cyfle i hyrwyddo’r ddarpariaeth bresennol ar gael yn yr ardal, ac i sgwrsio gydag oedolion hŷn sy’n byw yn lleol i weld a oedd unrhyw beth yr hoffent gymryd rhan ynddynt, nad oedd ar gael ar hyn o bryd. O ganlyniad, awgrymwyd sesiynau canu am hwyl, felly fe gysylltom â Goldies Cymru i sefydlu prosiect partneriaeth i ddarparu sesiynau canu a gwenu misol yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig leol.
Mae’r sesiynau misol wedi cael eu harwain gan y tîm ers Ebrill 2023 ac mae presenoldeb yn dda iawn. Yn ddiweddar rydym wedi canfod rhywun a hoffai wirfoddoli fel arweinydd sesiwn ar gyfer y grŵp, a gobeithiwn y byddent yn ei gynnal o fis Mawrth 2024 er mwyn parhau gyda’r sesiynau yn hunangynaliadwy.
Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol
Mae Taliadau Uniongyrchol (TU) yn daliadau arian parod sy’n cael eu talu i unigolion er mwyn iddynt allu trefnu eu cefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion Gofal Cymdeithasol a aseswyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, dewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu.
Fe grybwyllom yn yr adroddiad y llynedd fod y gwasanaeth yn cael ei ail-strwythuro ychydig, ac mae hyn wedi ei gwblhau bellach. Yn ystod 2022-2023, mae’r tîm wedi cyflawni’r canlynol:
- Yn dilyn ymgynghoriad â derbynwyr presennol TU, rydym wedi datblygu a sefydlu rhaglen hyfforddiant i sicrhau fod staff rheng flaen yn hyderus i godi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i unigolion cymwys sy’n dymuno derbyn eu cefnogaeth drwy TU.
- Rydym wedi sefydlu Cynllun Hunan-ariannu ar gyfer unigolion, na fyddai’n gymwys am y cynnig TU yn ôl canlyniad yr Asesiad Ariannol, ac yn teimlo dan anfantais.
- Rydym wedi peilota cynllun ar gyfer unigolion sydd ag asesiad o anghenion sy’n nodi angen i fynd i ofal preswyl, ond yn dymuno aros adref gyda chefnogaeth wedi’i deilwra. Ar ôl ymateb cyhoeddus cadarnhaol, mae’r cynllun wedi cael ei fabwysiadu fel dewis model darpariaeth gwasanaeth.
- Wedi dechrau proses o godi proffil TU yn gyhoeddus a chreu cysylltiadau gweithio agosach gyda’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol trwy gyflwyniadau a digwyddiadau cyhoeddus.
- Wedi dechrau proses o godi proffil cyfleoedd gwaith trwy TU, trwy fynychu ffeiriau swyddi, canolfan waith Bae Colwyn a Llandudno bob yn ail wythnos, digwyddiadau mewn ysgolion a cholegau, gweithio gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy a Mentor Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol a chymryd rhan mewn sesiynau Radio Bae Colwyn.
- Wedi cymryd rhan mewn amryw o weithgorau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygiad parhaus TU ar draws Cymru.
- Dyfarnu contract newydd i ddarparwr cefnogi allanol, gyda’r rôl o weithio gydag unigolion sy’n dymuno cyflogi eu staff eu hunain wrth iddynt fynd trwy’r broses recriwtio.
Sut y gallwn wella
Mae’r tîm wedi ymgysylltu gyda nifer o bartneriaid, yn fewnol ac allanol, yn ystod y flwyddyn. Trwy’r gwaith ymgysylltu hwn, rydym yn cydnabod bod meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer derbynwyr, staff mewnol, sefydliadau allweddol, a’r cyhoedd.
Roedd rhai derbynyddion yn teimlo bod y broses sefydlu gychwynnol yn gymhleth. Er mwyn gwella hyn, mae adolygiad llawn wedi’i gyflawni ac mae’r broses wedi ei symleiddio. Yn ogystal, mae holl rannau mewnol y broses wedi symud er mwyn bod o dan y tîm TU.
Mae rhai derbynyddion sydd eisiau cyflogi staff yn uniongyrchol, wedi teimlo rhwystredigaeth o ran yr amser y gall gymryd i recriwtio staff. Er mwyn cydnabod hyn, rydym wedi datblygu cylched o hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth, wedi cynnwys dewisiadau cofrestru ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio o dan TU ond lle nad oedd swydd addas ar gael pan oeddent yn edrych.
Mae staff newydd, yn benodol, wedi adrodd nad ydynt bob amser yn hyderus i drafod TU gydag unigolion fel rhan o’r broses asesu. Er mwyn gwella hyder staff mewn perthynas â’r testun, mae rhaglen hyfforddiant hanner diwrnod anffurfiol mewn lle, a ddarperir bob dau fis, i holl staff fynychu. Rydym hefyd wedi cyflawni adolygiad proses llawn er mwyn symleiddio camau o’r broses ac i sicrhau fod staff yn glir ar beth yw eu rôl a’r broses i ddilyn. Mae’r arferion gweithio newydd wedi cael eu sefydlu i’r rhaglen hyfforddiant ac mae llif gwaith staff wedi’i gyhoeddi.
Rydym yn weithgar o ran mynychu digwyddiadau cyhoeddus ac mae’r adborth a dderbyniwyd mewn perthynas â gweithredu TU yng Nghonwy yn gadarnhaol. Mewn rhai achosion, nid yw unigolion yn ymwybodol o TU. Os yw unigolion yn hysbys i Ofal Cymdeithasol a/neu gefnogaeth y Sector Gwirfoddol ai peidio, rydym yn gweithio i gau’r bwlch hwn.
Ar lefel genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld cynnydd yn nefnyddwyr TU ar draws Cymru. Rydym yn sicrhau ein bod yn aelodau gweithredol o weithgorau Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r canlyniad hwn.
Ein cynllun gweithredu
Rôl y tîm yw parhau i ddatblygu Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau ei fod yn fodel darpariaeth gwasanaeth hyfyw ar gyfer cynifer o unigolion â phosibl, yn unol â dymuniadau, disgwyliadau a deddfwriaethau newidiol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, bwriadwn:
Codi proffil
- Parhau i godi proffil TU i unigolion fel dull cefnogi a/neu gyfleoedd cyflogaeth a chreu cysylltiadau/cyfleoedd newydd i ymestyn o fewn cymunedau lleol.
Sicrhau mynediad hawdd i Daliadau Uniongyrchol ar gyfer unigolion
- Os yw unigolyn eisoes yn hysbys i’r adran ac yn derbyn cymorth cymwys, y nod yw galluogi unigolion i gyfeirio eu hunain i’r Tîm TU yn hytrach na gorfod gwneud hyn trwy Weithiwr Cymdeithasol.
- Cwblhau trosglwyddiad staff a gyflogir trwy TU i’r gwasanaeth diweddaru GDG, gan dynnu’r angen am wiriadau adnewyddu a chyflymu’r amserlen recriwtio yn y dyfodol.
Ei gwneud yn haws rheoli Taliad Uniongyrchol
- Cyflwyno taliadau anuniongyrchol, ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisiau’r dewis a’r rheolaeth o ran TU, ond nid y cyfrifoldeb o reoli arian.
- Byddwn yn ehangu mynediad i ddogfennau a thempledi electroneg ar gyfer derbynyddion TU er mwyn eu cefnogi i gynnal eu cyfrifoldebau.
- Byddwn yn cynyddu nifer yr ymweliadau cartref gan y Tîm TU ar gyfer yr unigolion hynny sy’n dymuno cael rhyngweithiad wyneb yn wyneb yn ystod sefydlu a gweithredu
Monitro diogelwch
- Byddwn yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol yn natblygiad gwasanaeth GDG rhanbarthol, i hwyluso gwiriadau staff gofal a gyflogir trwy TU.
Cysylltu gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol
- Byddwn yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu’r defnydd o TU ar gyfer anghenion iechyd.
Gwerthfawrogi staff gofal
- Byddwn yn adolygu’r hyfforddiant sydd ar gael i ofalwyr a gyflogir o dan y cynllun, er mwyn cynnwys sut, beth a ble caiff ei ddarparu er mwyn ei wneud yn effeithiol.
- Cydnabod rôl staff gofal TU i gefnogi recriwtio a chadw, gan gynnwys mynediad at wasanaethau iechyd a lles a chynlluniau gwobrwyo allanol.
- Byddwn yn cynyddu gwaith hyrwyddo’r cynllun cyfleoedd cyflogaeth ar draws y sir.
Peilot incwm sylfaenol i’r rhai sy’n gadael gofal
Mae’r Peilot Incwm Sylfaenol yng Nghymru yn darparu pobl ifanc cymwys sydd wedi bod mewn gofal, a’r cyfle i dderbyn £1600 (cyn treth) y mis am gyfnod o ddwy flynedd. Ledled Cymru mae 635 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y cynllun, sy’n gyfradd o 97%. Mae wyth o’r rhain o Gonwy, ac o’r rhain mae pedwar cyfranogwr wedi cael profiad cadarnhaol gyda’r Peilot. Mae tri o’r pedwar yn gweithio llawn amser ac yn gallu cynilo caran mawr o’u taliad Peilot Incwm Sylfaenol. Mae’r pedwerydd person ifanc yn gweithio rhan amser, ond mae bod yn rhan o’r peilot yn golygu y gallent rentu eu fflat eu hun, talu’r holl filiau cyfleustodau a dodrefnu eu tŷ.
Mae’r Peilot Incwm Sylfaenol wedi rhoi cyfle i rai cyfranogwyr gynilo arian ar gyfer unrhyw ddyheadau ar gyfer y dyfodol, megis prynu tŷ eu hunain, a chael heddwch meddwl fod ganddynt arian tu ôl iddynt.
Sut y gallwn wella
Roedd y broses gyfathrebu i ledaenu gwybodaeth hanfodol i’r Awdurdod Lleol a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, angen gwella, gan nad oedd cyfnod o rybudd clir yn arwain at y cynllun ar gael. Byddai arfer da hefyd wedi golygu rhoi cyfle i gyfranogwyr, boed yn weithwyr proffesiynol neu bobl ifanc, ymgynghori ar y cynllun.
Yn ogystal, mae’r cynllun wedi bod yn llai llwyddiannus ar gyfer y pedwar cyfranogwr arall, ac mewn gwirionedd wedi achosi eu sefyllfa i ddirywio yn hytrach na gwella. Mae un o’r cyfranogwyr wedi bod yn defnyddio’r arian i ariannu eu camddefnydd o sylweddau, ac mae un arall wedi cael eu targedu gan ffrindiau sydd wedi camfanteisio arnynt yn sgil eu bregusrwydd a mynediad at arian bob mis. Mae cyfranogwr arall wedi colli pob cymhelliant ers derbyn yr arian Peilot Incwm Sylfaenol ac yn byw ar fwyd cyflym, ac yn amharod i ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, sydd bellach yn rhoi eu cytundeb trwydded mewn risg. Felly, dysgeidiaeth allweddol o’r peilot yw bod angen proffilio’r unigolyn ifanc sy’n gymwys, er mwyn sicrhau y gallent ddefnyddio’r cyfle hwn i ffynnu yn hytrach nac amlygu eu gwendidau.
Ein cynllun gweithredu
Mae rhai o’r cyfranogwyr bellach wedi mynd i’w hail flwyddyn yn y cynllun. Mae’r Ymgynghorwyr Personol yno i gefnogi’r wyth, ac yn cysylltu’n rheolaidd â nhw. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion a bob amser yno i gynnig cymorth gyda chyllidebu, atgyfeiriadau i asiantaethau perthnasol os oes angen, ac unrhyw gymorth emosiynol sydd ei angen.