Arweinyddiaeth
Yma rydym yn edrych ar sut y mae arweinyddiaeth wleidyddol, llywodraethiant a threfniadau craffu a herio’r awdurdod lleol yn helpu i osod blaenoriaethau a hyrwyddo lles ar draws swyddogaethau’r awdurdod lleol.
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn rhoi fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cefnogaeth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:
- llais a rheolaeth
- Atal ac ymyrraeth gynnar
- Lles
- Cyd-gynhyrchu
Mae’r Cod Ymarfer cysylltiedig yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau o dan y Ddeddf yn ei chyfanrwydd. Mae’r broses hon hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau’n barhaus. Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, sefydlwyd trefniadau ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd sy’n canolbwyntio ar bobl, atal, partneriaethau ac integreiddio a lles.
Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cryf sy’n cynnwys swyddogaeth trosolwg a chraffu a arweinir gan yr Aelodau sydd ag ethos cadarnhaol ac adeiladol o gydnabod arfer da ac argymell gwelliannau lle bo angen. Wrth graffu ceisir ymgysylltu â’r gymuned ble bynnag bosib er mwyn gwella ansawdd bywyd a lles pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal. Caiff hyn ei gyflawni drwy graffu ar bolisïau, y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor a gwaith partneriaeth gyda sefydliadau allanol.
Mae’r trefniadau llywodraethu a sefydlwyd hefyd yn cynnal rheolaeth effeithiol o Ofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac wedi penodi dau Ddeilydd Portffolio i gynrychioli Plant, Teuluoedd a Diogelu, a’r Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig. Rydym yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu i’w hadolygu a’u herio ac mae gennym broses fewnol gadarn ar gyfer herio perfformiad a chael trosolwg ohono. Cynhelir cyfarfodydd gyda’n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn ein gwasanaethau.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir.
Yng Nghonwy rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn ein Cynllun Corfforaethol 2022-2027. Mae ein cynllun yn nodi ein dyheadau i wneud gwahaniaeth i bobl Conwy dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn bodloni ein canlyniadau hirdymor ar gyfer ein dinasyddion.
- Mae pobl yng Nghonwy’n gwerthfawrogi ac yn edrych ar ôl yr amgylchedd
- Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir gydag economi lewyrchus â diwylliant yn ganolog iddi
- Mae pobl yng Nghonwy wedi’u haddysgu ac yn fedrus
- Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd.
- Mae pobl yng Nghonwy’n ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel
- Mae pobl yng Nghonwy yn iach
- Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, a gall pobl gymryd rhan mewn pob agwedd ar fywyd cymunedol yn Gymraeg
- Mae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned lle mae eu cefndir a’u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wydn
Fel gwasanaeth rydym yn ystyried ac yn rhoi sylw i sut yr ydym yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn drwy ein proses o gynnal Adolygiadau Perfformiad bob chwe mis.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau o dan y Ddeddf yn ei chyfanrwydd. Mae’r broses hon hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i wella’u gwasanaethau’n barhaus. Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, sefydlwyd trefniadau cadarn ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd sy’n canolbwyntio ar bobl, partneriaethau ac integreiddio, atal. a lles.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Un o’r Canlyniadau i Ddinasyddion a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol 2022-2027 yw:
”Mae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned lle mae eu cefndir a’u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.”
Drwy Gynllun Conwy Gynhwysol 2024-2028 rydym am i’r dyfodol newid er gwell. Nod ein cynllun newydd yw canolbwyntio ar bobl a’u profiadau bywyd, yn hytrach na’n rhwymedigaeth i gydymffurfio â deddfwriaeth. ‘Conwy Gynhwysol’ yw ein nod, sy’n golygu waeth beth fo’ch cefndir, rydych yn gallu byw, gweithio ac ymweld â sir lle rydych yn cael eich croesawu ac yn teimlo eich bod yn cael eich derbyn ac yn perthyn.
Beth mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei olygu?
- Mae Cydraddoldeb yn ymwneud â chydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau a thrin pobl yn ôl eu hanghenion. Mae’n ymwneud â chreu cymdeithas decach lle gall pawb gymryd rhan a chael cyfle i gyflawni eu gwir botensial, waeth beth fo’u hunaniaeth.
- Amrywiaeth yw deall bod pob unigolyn yn unigryw. Mae’n golygu croesawu gwahaniaethau pobl, gan gynnwys credoau, gallu, dewisiadau, cefndiroedd, gwerthoedd a hunaniaeth.
- Mae Cynhwysiant yn estyniad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n golygu bod gan bob unigolyn, heb eithriad, yr hawl i gael ei gynnwys, ei barchu a’i werthfawrogi fel aelod gwerthfawr o’r gymuned.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant felly’n ymwneud â gwerthfawrogi pawb fel unigolyn, trin pawb yn deg a darparu cyfleoedd cyfartal gan barchu gwahaniaethau pobl.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft yn nodi’r prif flaenoriaethau y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt dros y pedair blynedd nesaf, ac mae’n cynnwys camau gweithredu o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.
Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol rydym yn dangos ein hymrwymiad i, a’n cyfraniad at Gynllun Cynhwysiant Conwy yn ogystal â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Er enghraifft rydym yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol, y trydydd sector a’r GIG i sicrhau bod anghenion pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn cael eu hystyried wrth ddatblygu strategaethau a deddfwriaeth newydd ar gyfer Iechyd Meddwl, cynigion i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr a chynigion i leihau anghydraddoldebau iechyd ymysg cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Byddwn hefyd yn gweithredu Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol y cyfeirir ati yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
I nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol Rhyngwladol comisiynwyd yr Athro Prospera Tedam o Goleg Prifysgol Dulyn i roi sgwrs am ymarfer gwaith cymdeithasol gwrth-ormesol a pha mor bwysig ydi hi bod gweithwyr cymdeithasol yn adnabod ac yn herio ymddygiadau, gwerthoedd a strwythurau sy’n bytholi hiliaeth. Yn 2024 byddwn yn gwahodd yr Athro i gyflwyno tri gweithdy i’n gweithwyr cymdeithasol i’n cefnogi ni i archwilio’r themâu hyn yng Nghonwy.
Rydym yn sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn cael hyfforddiant cydraddoldeb fel rhan o’r dysgu a datblygu o dan y Fframwaith Maethu Cenedlaethol. Mae hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Hunaniaeth Rywiol yn gyrsiau hyfforddi gorfodol i bob gofalwr maeth ac unigolion cysylltiedig. Darperir yr hyfforddiant i sicrhau ein bod yn deall y themâu hyn o safbwynt yr unigolyn ifanc er mwyn creu amgylcheddau lle caiff amrywiaeth ei ddathlu. Bydd gofalwyr maeth wedyn mewn sefyllfa i ddeall a chefnogi unigolion LHDTC+.
Rydym wedi bod yn llwyr ymrwymedig i annog gweithwyr i gymryd rhan yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Cysylltodd y Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn uniongyrchol â phob aelod o staff i bwysleisio pwysigrwydd yr arolwg ac i fynegi ein hymrwymiad cadarn i fod yn weithle lle rydym yn dathlu gwahaniaethau ac yn croesawu cynwysoldeb. Rydym wedi defnyddio ein cyfarfodydd cyswllt gyda’r gwasanaethau a gomisiynir i hyrwyddo’r arolwg ymwybyddiaeth ymysg darparwyr gofal cymdeithasol a’u gweithwyr.
Y Gweithlu
Heriau o ran recriwtio a dal gafael ar staff.
Mae’r tabl isod yn rhoi data allweddol am ein gweithlu Gofal Cymdeithasol fel yr oedd ar 12 Chwefror 2024
Gwasanaeth | Cyfanswm Swyddi | Gweithiwr Cymdeithasol | Cyfanswm Swyddi Gwag | Swyddi Gweithwyr Cymdeithasol Gwag | Cyfanswm Gweithwyr Asiantaeth | Gweithiwr Cymdeithasol Asiantaeth |
Plant, Teuluoedd a Diogelu | 199 | 52 | 17 | 10 | 8 | 8 |
Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig | 654 | 60 | 38 | 3 | 14 | 4 |
Cyfanswm Staff Gofal Cymdeithasol | 853 | 112 | 55 | 13 | 22 | 12 |
Ym mis Ebrill adroddwyd fod gennym:
- 57 swydd wag ar draws y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol
- 13 swydd Gwaith Cymdeithasol wag gydag 11 o’r rhain yn y Gwasanaethau Plant.
- 15 Gweithiwr Cymdeithasol asiantaeth gyda 9 o’r rhain yn y Gwasanaethau Plant.
Drwy’r flwyddyn ar gyfartaledd roedd 12% o’r swyddi Gwaith Cymdeithasol y wag, gan olygu ei bod yn fwy o her i weithwyr cymdeithasol ddiwallu eu dyletswyddau statudol. Fel ateb tymor byr, fel y gwelir yn y data, mae’r ddibyniaeth ar Weithwyr Cymdeithasol asiantaeth i lenwi swyddi gwag yn parhau.
Yn 2019 fe wnaethom lansio rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant sydd ar agor i staff sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol gyda Chyngor Conwy. Yn ystod eu hastudiaethau bydd staff yn aros yn eu swyddi arferol ac ar ôl cymhwyso’n cael eu cyflogi fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Hyd yma mae’r rhaglen wedi cefnogi 19 aelod o staff gyda 12 yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd. O’r cohort presennol, bydd dau yn cymhwyso ym mis Hydref eleni, 6 ym mis Hydref 2025 a phedwar ym mis Hydref 2026.
Yn 2024 byddwn yn cynnig pedair hyfforddeiaeth. Yn ychwanegol rydym yn archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant i raddedigion er mwyn denu graddedigion sy’n siarad Cymraeg i ennill chymhwyster MA Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor.
Mae recriwtio Therapyddion Galwedigaethol yn her barhaus ac mae ein profiad ni ein hunain wedi’i adlewyrchu ar draws awdurdodau lleol eraill y rhanbarth ac yn y bwrdd iechyd . Mae cydweithwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gweithio drwy’r Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol i ddatblygu Cynllun Gweithlu Therapi Galwedigaethol rhanbarthol i ddiwallu anghenion Therapi Galwedigaethol ein gweithlu rŵan ac yn y dyfodol.
Yng Nghonwy rydym yn datblygu llwybr gyrfa Therapi Galwedigaethol i gefnogi therapyddion galwedigaethol sydd newydd gymhwyso i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad gan ddilyn y fframwaith dysgu a datblygu Therapyddion Galwedigaethol Mewn Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Hyfforddiant diogelu a safonau dysgu a datblygu Cymru
Mae swyddogion diogelu a’r gweithlu Gofal Cymdeithasol wedi cefnogi Rheolwyr Diogelu Dynodedig corfforaethol i alinio’r holl rolau ar draws yr awdurdod yn briodol â’r grwpiau perthnasol fel y maent wedi’u dynodi yn y safonau. Mae’r gwaith hwn wedi ein galluogi ni i fynd ati fel awdurdod i ystyried ac adolygu rolau a chyfrifoldebau diogelu pob swydd yn yr awdurdod. Roedd hwn yn ymarfer gwerthfawr sydd wedi dangos yr angen i gynyddu lefelau o hyfforddiant diogelu ar draws y gweithlu cyfan.
Lansiwyd y fframwaith cenedlaethol i gefnogi’r safonau ym mis Hydref 2023. Ein tasg nesaf fydd datblygu rhaglen dysgu a datblygu wedi’i halinio â’r safonau diogelu ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau wedi’u comisiynu’r awdurdod.
Mwy Na Geiriau
Rydym wedi comisiynu Iaith Cymru i ymgymryd ag adolygiad o weithrediad Mwy na Geiriau a’r Cynnig Gweithredol yng ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau wedi’u comisiynu Conwy. Y nod fydd datblygu cynllun gweithredu i wella ein gallu i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
Cynhaliodd Iaith Cymru ddau weithdy i gasglu gwybodaeth i weld sut mae Mwy na Geiriau a’r Cynnig Gweithredol yn cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd, beth sy’n gweithio’n dda, beth ydi’r heriau a sut i’w goresgyn. Roedd cymysgedd o staff o bob rhan o wasanaethau Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau wedi’u comisiynu Conwy yn bresennol.
Casgliadau allweddol y gweithdy:
- Parodrwydd i arddel ymdriniaeth sector cyfan.
- Iaith Cymru i gynnal arolwg ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol gan ddefnyddio’r holiadur ‘Fi a’r Gymraeg’.
- Adolygu arferion recriwtio i dargedu a gwella’r gallu i recriwtio pobl sy’n siarad Cymraeg neu a fydd yn gallu dysgu Cymraeg ar ôl cael eu penodi.
- Drwy hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith bydd gweithwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut y mae anghenion iaith pobl yn newid ac yn amrywio dan wahanol amgylchiadau.
- Cynnig ffyrdd mwy hyblyg o ddysgu Cymraeg.
- Rhoi hyfforddiant ‘Pam bod y Gymraeg yn bwysig’ i Reolwyr a rhannu enghreifftiau o arfer da gan reolwyr mewn timau neu sefydliadau eraill.
Bydd prosiect ffurfiol yn cael ei sefydlu, a fydd yn cynnwys y gwasanaethau a gomisiynir, i gyflawni’r camau gweithredu sy’n deillio o’r gweithdai a’r holiadur.
Gwasanaethau Cefnogi Cyflogaeth
Ym mis Mehefin 2022 fe wnaethom greu’r Gwasanaeth Cefnogi Cyflogaeth i gefnogi unigolion i mewn i waith ar draws y sector Gofal Cymdeithasol. Cyn hynny nid oedd adnoddau staffio wedi’u clustnodi’n benodol i’r pwrpas hwn, gan olygu:
- Mai cyfyngedig oedd gwybodaeth Asiantaethau Cefnogi Cyflogaeth am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn Gofal Cymdeithasol.
- Dim adnodd enwebedig i asiantaethau gyfeirio unigolion atynt am gefnogaeth drwy’r broses gyflogi.
- Diffyg hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel gyrfa ddewisol, yn enwedig drwy Gyrfa Cymru, sydd â rhaglen dreigl ar draws ysgolion Conwy.
- Canfyddiad bod Gofal Cymdeithasol yn rhywbeth ar gyfer llefydd fel cartrefi pobl hŷn yn unig ac mai dim ond cyfle cyfyngedig mae’n ei gynnig i ddatblygu gyrfa.
Mae i’r swydd Mentor Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol ddwy brif swyddogaeth, sef hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel gyrfa ddewisol a chefnogi pobl i mewn i waith ym maes Gofal Cymdeithasol. Rhwng mis Mehefin 2022 a mis Rhagfyr 2023 cefnogodd ein mentor, Emma Thomas, 33 o bobl i gael swyddi Gofal Cymdeithasol ac mae hi wedi cael adborth cadarnhaol.
Dwi isio diolch yn fawr iawn i chi am fy helpu i ddod o hyd i waith. Faswn i wirioneddol ddim wedi gallu gwneud hyn heb eich help chi. Faswn i ddim hyd yn oed wedi gwneud cais. Fe wnaeth eich help chi i baratoi am y cyfweliad roi hyder i mi a syniad o beth i’w ddisgwyl.
Diolch yn fawr. ‘Dw i wir yn gwerthfawrogi pa mor gyson a chadarnhaol ‘da chi wedi bod drwy hyn i gyd. Mae o yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sydd ar y siwrnai hon. O lenwi’r ffurflen gais, y ffug gyfweliad i’r gefnogaeth barhaus, alla’i ddim diolch ddigon i Emma. Mae hi bob amser ar ben arall y ffôn i roi cefnogaeth ac arweiniad. Mae’r gwasanaeth wedi bod ym amhrisiadwy.
Mae wedi dod yn amlwg bod y broses ymgeisio’n codi ofn ar lawer o bobl a’u bod nhw’n ei chael yn anodd deall beth sydd ei angen o’r ffurflen gais am y swydd. Mae eraill yn ei chael yn anodd deall sut i ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad i gefnogi eu ceisiadau. Yn aml iawn does gan bobl ddim digon o hyder i wneud cais am swyddi, ac yn gyffredinol hefyd mae dealltwriaeth pobl o’r amrediad o swyddi a gwasanaethau sydd ar gael o fewn Gofal Cymdeithasol yn gyfyngedig.
Ein cynllun gweithredu
Byddwn yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth i gynyddu dealltwriaeth o:
- yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael yng Ngofal Cymdeithasol
- y broses ymgeisio
- sut y gellir defnyddio gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy i gefnogi cais
Byddwn yn sefydlu cysylltiadau agosach â cholegau Addysg Bellach i gefnogi myfyrwyr i mewn i waith ym maes Gofal Cymdeithasol.
Cyflwyno dysgu digidol i’r gweithlu gofal
Eleni canfuom fod manteisio ar hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi dod yn fwy o broblem i ddarparwyr gofal mewnol ac allanol fel ei gilydd, gyda rheolwyr yn ei chael yn anodd rhyddhau gweithwyr oherwydd prinder staff ac oherwydd bod costau teithio i’r canolfannau hyfforddi yn uchel. Daeth y dysgu ar-lein oedd ar gael yn rhy heriol oherwydd diffyg technoleg a diffyg hyder a chymhelliant ar ran staff i gwblhau’r hyfforddiant yn y ffordd yma.
O ganlyniad i hyn daeth ein cynllun llechen ddigidol i fodolaeth gyda chyrsiau ar gael ar ffurf modiwlau ar-lein drwy Care Tutor BVS yn rhoi sylw i bynciau y mae ar y gweithlu Gofal Cymdeithasol angen gwybod amdanynt. Cawsom drafodaethau gyda rheolwyr tîm i weld beth yw’r anghenion hyfforddi, y dewis o fodiwlau, a dyddiadau a lleoliadau ar gyfer eu darparu. Ym mhob sesiwn mae 12 llechen ar gael i staff eu defnyddio i ddilyn y modiwlau. Mae staff Dysgu a Datblygu’r Gweithlu ar gael i helpu gydag unrhyw broblemau e.e. mewngofnodi, pryderon am defnyddio technoleg, ofn methu, gorbryder, disgwyliadau isel pobl ohonyn nhw eu hunain, problemau agor a chau’r modiwlau ac i helpu pobl i ddod yn fwy hyddysg yn y defnydd o’r llechen yn gyffredinol.
Gwelwyd manteision niferus i’r ymdriniaeth hon gydag unigolion yn:
- Magu hyder wrth ddefnyddio technoleg.
- Ennill hyder oherwydd eu llwyddiannau unigol.
- Ennill tystysgrif ar ddiwedd y modiwl
- Goresgyn yr ofn y byddant yn methu fel unigolyn
- Ennill ymdeimlad o fuddsoddiad personol a gwerthfawrogiad o gyfle
- Gallu cwblhau’r dysgu sy’n addas ar gyfer eu hanghenion
- Ennill digon o hyder i gwblhau modiwlau ychwanegol yn ôl eu pwysau eu hunain gyda llai o gefnogaeth
O ganlyniad i hyn bu modd i reolwyr ac arweinwyr timau:
- Sicrhau dysgu mewn pynciau allweddol fel rhan o ymdrech ar y cyd
- Cadw llygad ar gyraeddiadau staff
- Cael gwybod am unrhyw heriau unigol y llwyddwyd i’w goresgyn
- Manteisio ar gwblhad sawl pwnc i safon ansoddol, yn cynnwys ardystiad
- Rhoi’r hyfforddiant ar y safle lle mae gofal yn cael ei ddarparu (darpariaeth fewnol ac allanol)
Yr heriau yr ydym wedi’u hwynebu
Rydym wedi gweld bod rhai aelodau o staff yn dioddef lefelau uchel o orbryder ar y dechrau ac mae hyn yn cymryd amser i’w oroesi. Ochr yn ochr â rhwystrau eraill a allai eu hatal rhag cwblhau modiwlau, rydym wedi gorfod ymateb yn briodol ac mewn modd amserol. Rydym wedi gosod uchafswm o ran nifer y modiwlau i’w cwblhau mewn un sesiwn ddysgu e.e. tri neu bedwar modiwl fesul unigolyn, sydd yn gyfwerth a phum awr o amser sgrîn, yn cynnwys amser egwyl.
Rydym hefyd wedi gorfod gweithio i rymuso rheolwyr i gynnig cyfleoedd dysgu ar-lein gyda chefnogaeth yn ystod oriau gwaith gyda’r teclynnau llechen sydd ganddynt yn eu meddiant ar hyn o bryd.
Ein cynllun gweithredu
Mae’r gwaith wedi amlygu’r angen i gynyddu sgiliau digidol y gweithlu ac, yn bwysig iawn, cynyddu hyder pobl i ddefnyddio platfformau digidol. Bydd hyn yn cael sylw yng nghynllun dysgu 2024-25.
Profiad y Bws Dementia
Mae’r Bws Dementia yn efelychydd symudol sy’n trochi’r dysgwr ym myd rhywun sy’n byw â dementia. Bydd synhwyrau’r cyfranogwr wedi’u hamharu arnynt yn yr un ffordd ag y maent i rywun gyda’r afiechyd. Rydym wedi darparu 24 o sesiynau dysgu gyda’r bws ac mae dysgwyr wedi dweud bod yr hyfforddiant wedi cynyddu eu hymwybyddiaeth o effaith dementia ar unigolion. Dywedodd un o’r cyfranogwyr:
Fe wnaeth y profiad i mi sylweddoli bod dementia yn ymwneud â mwy na dim ond y cof – dwi’n gweld rŵan sut y mae’n effeithio ar synhwyrau pobl a’r ffordd maen nhw’n gweld y byd.
Rydym eisiau cynyddu mynediad at yr hyfforddiant ar gyfer gofalwyr a theuluoedd felly rydym ar hyn o bryd yn edrych ar sut y gallwn weithio gydag asiantaethau eraill i gynnal digwyddiadau Bws Dementia penodol ar eu cyfer nhw.
Adnoddau Ariannol
Ar 2 Mawrth 2023/24 cymeradwyodd y Cyngor gyllideb refeniw o £82.75 miliwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn 2023/24. Yn ystod y flwyddyn cynyddodd y gyllideb i £84.4m yn bennaf i gydnabod costau ychwanegol yn deillio o’r dyfarniadau cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer staff.
Y gwir wariant yn 2023/24 oedd £87.34m, sef £2.94m dros y gyllideb a hynny oherwydd pwysau costau. Yn benodol:
- Aeth costau cysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal £3 miliwn dros y gyllideb oherwydd cynnydd yn nifer y lleoliadau, nifer y lleoliadau safon uchel a chost cyfartalog y lleoliadau.
- Fe wnaeth y Cyngor addasu ei ffioedd ar gyfer darparwyr gofal preswyl a nyrsio ran o’r ffordd drwy’r flwyddyn mewn cydnabyddiaeth o’r pwysau ar y sector, ac arweiniodd hynny at gostau ychwanegol o tu £1 miliwn.
- Bu addasiad cyfrifyddu unwaith yn unig o £1.2 miliwn cysylltiedig â chost gofal preswyl a nyrsio nad oedd wedi’i gyllidebu.
- Fe wnaeth arbedion mewn meysydd eraill wrthbwyso’r pwysau hwn
Wrth i’r pwysau ar y gyllideb ddod yn amlwg yn ystod y flwyddyn cymerodd y Gwasanaeth ymagwedd gyfannol wrth fynd i’r afael â hyn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Strategol a’r Penaethiaid Gwasanaeth gyfarwyddyd clir i ddeiliaid cyllideb na ddylid gwario ar unrhyw beth nad oedd yn hanfodol a gwnaed pob ymdrech i sicrhau y derbyniwyd incwm mewn modd amserol, bod taliadau a ailgodir wedi’u cytuno’n llawn gydag asiantaethau partner, yn enwedig iechyd, a bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o grantiau yn unol â gwariant cymwys.
Fe wnaeth yr ymagwedd gyfannol a gymerwyd o fewn y gwasanaeth i leihau gwariant ac uchafu incwm lle bynnag bosib helpu i leddfu’r pwysau cyllidebol nad oedd modd ei osgoi a brofodd y gwasanaeth. Pan ddaeth y pwysau ar y gyllideb yn hysbys fe’i adroddwyd drwy’r adroddiadau ariannol chwarterol corfforaethol er mwyn i’r Awdurdod cyfan allu rhoi sylw i, a chynllunio ar gyfer y risg.
2024-25
Yn ystod 2023-24 rydym wedi dadansoddi ein sefyllfa ariannol ac wedi bod yn llwyddiannus gyda’r achosion busnes canlynol i fynd i’r afael â’r pwysau ar gyllideb 2024-25.
Gwasanaeth | Swm £m |
Plant sy’n Derbyn Gofal | 2.00 |
Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) | 0.18 |
Ffioedd Gofal Preswyl | 4.88 |
Ffioedd Gofal yn y Cartref/Byw â Chymorth | 2.24 |
Cyfanswm | 9.30 |
Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau arbedion o wahanol wasanaethau gwerth cyfanswm o £3.1 miliwn ac wedi cyfrannu £0.38 miliwn yn ychwanegol ar gyfer pwysau corfforaethol.
Cymhariaeth rhwng y sefyllfa derfynol yn 2022/23 a 2023/24
Gwasanaethau | Sefyllfa derfynol 2022/23 (£’000) | Sefyllfa derfynol 2023/24 (£’000) | Amrywiant 2023/24 (£’000) |
Gwasanaethau Oedolion | 4,469 | 4,383 | -86 |
Y Gymuned a Lles | 682 | 679 | -3 |
Anabledd | 24,988 | 25,577 | 588 |
Pobl Hŷn | 23,630 | 29,133 | 5,503 |
Safonau Ansawdd a Chomisiynu | 1,087 | 993 | -94 |
Cyfanswm Gwasanaethau Oedolion | 54,857 | 60,765 | 5,908 |
Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth | 2,587 | 2,728 | 141 |
Plant sy’n Derbyn Gofal | 14,742 | 16,134 | 1,392 |
Diogelu | 237 | 261 | 24 |
Pobl Ddiamddiffyn | 6,481 | 7,273 | 792 |
Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid | 186 | 181 | -5 |
Cyfanswm Gwasanaethau Plant | 24,232 | 26,577 | 2,344 |
Cyfanswm | 79,089 | 87,342 | 8,253 |
Noder fod yr amrywiant yn gymhariaeth o’r gwir wariant yn 2022/23 a 2023/24 yn hytrach na chymhariaeth o wariant yn erbyn y gyllideb yn ystod y ddwy flynedd. Diweddarwyd y gyllideb ar gyfer 2023/24 i adlewyrchu’r pwysau costau hysbys o ganlyniad i chwyddiant tâl a chwyddiant cyffredinol yn ogystal â’r galw ar wasanaethau. Mae’r amrywiadau’n adlewyrchu’r pwysau hwnnw.