Ddiwedd bob blwyddyn ariannol mae’n ofynnol i Gyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi adroddiad yn amlinellu taith yr Awdurdod Lleol tuag at welliant yn narpariaeth gwasanaethau i drigolion Conwy, i bobl sy’n ceisio gwybodaeth, cyngor a chymorth ac i unigolion a gofalwyr sy’n derbyn gofal a chymorth. Mae’r adroddiad yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o wahanol ffynonellau i ddangos a rhoi tystiolaeth o sut yr ydym yn hyrwyddo lles ac yn sicrhau ein bod bodloni safonau ansawdd. Mae’r adroddiad yn rhan o Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan annatod o’n gwaith o gynllunio gwasanaethau cymdeithasol, craffu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud a’r camau yr ydym yn eu cymryd i wella perfformiad. Mae’r adroddiad hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i goladu a deall data a thystiolaeth ar ddarpariaeth gofal a chymorth ar draws Cymru.
Byddwch yn sylwi bod adroddiad eleni’n edrych ychydig yn wahanol. Yn 2023 diweddarwyd canllawiau gwreiddiol Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gyhoeddwyd yn 2017 i adlewyrchu datblygiadau newydd ac adborth gan awdurdodau lleol a budd-ddeiliaid.
Bydd yr adroddiad blynyddol a’r broses adrodd yn rhan annatod o’n camau cynllunio, craffu a gwella perfformiad. Erbyn hyn mae mwy o bwyslais ar hunanasesu perfformiad, sy’n cynnwys yr hyn y gwnaethom ei gyflawni ac a wnaethom yn dda a pha welliannau sy’n angenrheidiol, gyda hynny’n seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, y cyhoedd a phartneriaid. Byddwn yn dweud wrthych am y camau gweithredu sydd wedi’u cynllunio ac sydd eisoes wedi’u cyflawni i sicrhau gwelliannau, a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau gwella a ddynodwyd y flwyddyn cynt.
Sylfeini’r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd yw’r wyth safon ansawdd sy’n cynrychioli lles pobl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Caiff y safonau hyn eu rhannu o dan bedwar pennawd sef: Pobl, Atal, Partneriaethau ac Integreiddio a Lles.
- Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain, ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
- Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy’n cael cefnogaeth ac sy’n gweithio tuag at weledigaeth a rennir.
- Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a sefyllfaoedd o argyfwng yn cael eu hatal, tra’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl.
- Mae cadernid yn ein cymunedau’n cael ei hyrwyddo ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy roi anogaeth a chymorth weithredol i’r rhai hynny sydd angen gofal a chefnogaeth, yn cynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.
- Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel a chynaliadwy i bobl.
- Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal.
- Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau eu hunain, yn seiliedig ar wybodaeth dda, er mwyn iddynt cyrraedd eu llawn botensial a byw’n annibynnol cyhyd â phosibl.