Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar gyfer 2023/2024 yn ystod cyfnod heriol a llawn pwysau arall i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Hwn yw’r adroddiad statudol sydd yn ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac ar ôl rhywfaint o ddiwygio, mae’r ffocws eleni ychydig yn wahanol. Tra bo’r deuddeng mis diwethaf wedi dod a rhagor o bwysau ariannol, cynnydd mewn galw a mwy o ddisgwyliadau ar weithlu llai, rwy’n teimlo’n falch fy mod yn gallu rhannu a dangos datblygiadau ar draws pob maes gwasanaeth. Rwy’n siŵr bod hyn ynddo’i hun yn brawf o angerdd ac ymrwymiad cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, ac mae fy nyled hefyd yn fawr i bawb am fynd y filltir ychwanegol.
Rydym yn sylweddoli y bydd y flwyddyn i ddod yr un mor heriol, os nad yn fwy heriol. Rydym yn cydnabod bod gofyn i ni, fel y gwasanaeth mwyaf gyda’r nifer uchaf o weithwyr, gyfrannu’n arwyddocaol at yr ymdrech i sicrhau sefydlogrwydd ariannol y cyngor. Rydym wedi cadw llygad agos iawn ar ein meysydd o wariant mawr ac mae cynlluniau yn eu lle i sicrhau ein bod yn deall ac yn rheoli’r costau cynyddol mewn rhai meysydd.
Eleni hefyd rhoddwyd ystyriaeth i gynhwysiant, ein hymagwedd tuag at amrywiaeth a gwahaniaeth a sicrhau ein bod yn wrth-ormesol ac yn arfer egwyddorion gwrth-wahaniaethol cyson. Mae enghreifftiau da o’n hymdriniaeth yn yr adroddiad ond mae gennym lawer i’w wneud i symud ymlaen a sicrhau ein bod yn creu amgylchedd gwaith lle mae pobl yn gallu, ac eisiau gwneud eu gorau. Mae gweithio’n effeithiol yn y byd amrywiol hwn yn dechrau gyda hunan-ymwybyddiaeth, ystyried sut i ymdrin â rhagfarn, triniaeth wael a gwrthdaro, a dangos ein bod yn gwerthfawrogi eraill. Dyma fy nisgwyliad o’r gwasanaeth a’r hyn yr wyf yn ei hyrwyddo’n barhaus.
Jenny Williams
Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy