- Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a sefyllfaoedd o argyfwng yn cael eu hatal, tra’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl.
- Mae cadernid yn ein cymunedau’n cael ei hyrwyddo ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy roi anogaeth a chymorth weithredol i’r rhai hynny sydd angen gofal a chefnogaeth, yn cynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.
Datblygu ein Tîm Unigolion Cysylltiedig
Perthynas, ffrind neu unigolyn arall sy’n gysylltiedig â phlentyn yw Unigolyn Cysylltiedig, y gellir eu hasesu a’u cymeradwyo fel gofalwr maeth os nad yw’r plentyn yn gallu byw gyda’u rhieni. Aros gyda theulu neu ffrindiau yw’r opsiwn gorau ar gyfer lles y plentyn fel arfer, yn hytrach na derbyn gofal mewn cartref preswyl neu gan ofalwyr maeth nad ydynt yn eu hadnabod. Yng Nghonwy, rydym yn datblygu ein Tîm Unigolion Cysylltiedig i sicrhau ein bod yn gwella’r cyfleoedd i gadw teuluoedd gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd. Rydym wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer yr asesiadau o Unigolion Cysylltiedig, a rhwng y tri asesydd yn y swydd hon, roedd gennym 16 ar waith ym mis Ionawr 2024.
Yn 2023, ail-lansiwyd y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, sy’n golygu bod disgwyl i dimau gysylltu gydag Unigolion Cysylltiedig a’u hasesu’n gynt. Rydym wedi gweld amserlenni byrrach gan y llysoedd o ran timau gofal plant sy’n ceisio Gorchmynion Gofal Dros Dro, ac mae wedi bod yn anodd cwblhau asesiadau manwl a sicrhau fod gwiriadau statudol yn cael eu dychwelyd yn brydlon yn sgil hyn. Mae bellach angen diweddaru’r rhaglen hyfforddiant a luniwyd y llynedd i adlewyrchu’r newidiadau i’r prosesau, a’r cynlluniau ar gyfer 2024 yw datblygu a chyflwyno hyn ymhellach.
Rydym wedi gweithio gyda Y Bont, sy’n cynnal Cynadleddau Grŵp Teulu, mewn modd rhagweithiol i annog presenoldeb ein tîm yn y cyfarfodydd i gael trafodaethau cynnar am Unigolion Cysylltiedig, gofal maeth ac opsiynau Gwarcheidwaeth Arbennig. Mae hyn yn sicrhau fod teuluoedd yn elwa o’n harbenigedd mewnol, fod gennym ddealltwriaeth o rôl yr Unigolion Cysylltiedig o gyfnod cynnar, a’n bod yn gallu trafod y broses asesu a beth mae bod yn Ofalwr amgen neu gynnig cefnogaeth i deuluoedd yn ei olygu.
Mae Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig ychwanegol wedi rhoi rhagor o gyfle i ni archwilio trosglwyddiadau Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig, sef trosglwyddo plant o drefniadau Gorchymyn Gofal i ofal llawn eu Hunigolyn Cysylltiedig. Rydym wedi derbyn dau drosglwyddiad eleni, sy’n golygu bod dau blentyn nad ydynt yn cael eu hystyried fel ‘plant sy’n derbyn gofal’ mwyach. Mae pum asesiad Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig ar waith ar gyfer chwe Phlentyn sy’n Derbyn Gofal y gobeithir eu ‘rhyddhau’ cyn y gwanwyn 2024. Mae’r swydd ychwanegol wedi ein galluogi i fod yn fwy creadigol wrth feddwl am gynlluniau cymorth y Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig o ran cymorth ymarferol ar gyfer rheoli cyfathrebu ynghylch amser teuluol. Mae’r swydd hefyd wedi ein helpu i reoli gwiriadau statudol a’r amserlenni byrrach disgwyliedig gan y llysoedd ar gyfer asesiadau. Mae wedi eu galluogi i arwain ar sicrhau fod dogfennau’n cael eu hanfon allan yn brydlon ac osgoi oedi diangen wrth gyflwyno ceisiadau i’r llysoedd.
Mae’r tîm wedi cydweithio i ddatblygu grwpiau cymorth ar gyfer gofalwyr maeth ac mae digwyddiadau llwyddiannus wedi cael eu cynnal eleni, gan gynnwys hyfforddiant camddefnyddio sylweddau, digwyddiad pitsa a chrochenwaith i annog trafodaethau cefnogol ar gyfer gofalwyr sy’n berthnasau, a bore coffi i gasglu arian ar gyfer y grŵp Lleisiau Uchel er cof am ofalwr a oedd yn berthynas a fu farw eleni. Mae grwpiau cymorth yn hyrwyddo gwytnwch yn y maes gofal maeth, yn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a fydd yn ei dro yn cefnogi sefydlogrwydd y cartref ar gyfer y plant ac ymestyn y cyfle i symud ymlaen i Orchymyn Preifat.
Sut y gallwn wella
Yn sgil y newidiadau i Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, salwch o fewn y tîm, a’r angen gan aseswyr newydd am ragor o gefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau, nid ydym wedi cyflwyno’r hyfforddiant Unigolion Cysylltiedig i dimau a gweithwyr proffesiynol. Bydd hyn ar y rhaglen ar gyfer 2024 i sicrhau fod prosesau Unigolion Cysylltiedig yn cael eu blaenoriaethu, a bod aelodau teulu’n cael eu nodi’n gynnar i hyrwyddo lleoliadau teulu a pharhad i blant. Yn y pen draw, bydd gwneud hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o sefydlu Gorchymyn Preifat ar ddiwedd achos gofal, neu aelodau teulu’n derbyn cefnogaeth i gael mynediad at Orchymyn Preifat, a fydd yn lleihau nifer y plant sy’n derbyn gofal.
Yn sgil absenoldeb Swyddog Recriwtio yn y tîm cyffredinol, mae ein Gweithiwr Cysylltiedig presennol yn helpu â’r dyletswyddau hyn nes bydd y swyddi wedi cael eu llenwi; mae hyn yn golygu bod ganddi hi lai o gapasiti, ond fe ddylai’r broblem hon fod wedi’i sortio unwaith y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi dechrau yn eu swyddi yn 2024. Mae hyn wedi ein hatal rhag rhannu’r llwyth gwaith GGA rhwng dau aelod o’r tîm erbyn diwedd 2023.
Ein cynllun gweithredu
- Bydd hyfforddiant Unigolion Cysylltiedig yn dechrau, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiadau o ail-lansiad yr Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus, gyda’r nod o hyrwyddo aelodaeth teulu i blant, cynyddu sefydlogrwydd i blant mewn amgylcheddau gofalu cyfarwydd lleol, a lleihau’r boblogaeth Plant sy’n Derbyn Gofal.
- Rydym yn awyddus i elwa o gapasiti llawn ail Weithiwr Unigolion Cysylltiedig, rhannu’r llwyth gwaith, a chael rhagor o gyfle i greu gweithgarwch ar gyfer cynlluniau GGA, rhoi mwy o ddewis i deuluoedd am eu ffyrdd o fyw, y gallu i fyw’n rhydd o wiriadau statudol, a chynyddu nifer y trosglwyddiadau i’w hasesu.
- Hoffem i Weithwyr Unigolion Cysylltiedig barhau i gysylltu gyda Chanolfannau Teulu, gan godi ymwybyddiaeth o Unigolion Cysylltiedig ar gyfer teuluoedd sy’n derbyn ymyrraeth a chefnogaeth gynnar. Rydym wedi gweld y buddion eleni gyda GGA traddodiadol, sydd fwy na thebyg yn ei dro wedi atal plant rhag gorfod derbyn gofal neu ddod i gysylltiad â’r arena amddiffyn plant, gan fod aelodau teulu wedi gallu rheoli eu sefyllfaoedd eu hunain gyda chefnogaeth briodol i geisio Gorchmynion Preifat lle bo angen.
- Mae arnom ni eisiau i blant gael mynediad gwell at wasanaethau cefnogaeth i ffwrdd o’r llwybrau Plant Mewn Angen neu Amddiffyn Plant, ac yn hytrach, cael eu cefnogi gan asesiadau, Gorchmynion Gwarchodaeth Arbennig a gwasanaethau cyffredinol.
Agor ein canolfan seibiant newydd ar gyfer pobl anabl
Agorodd Bron y Nant i ddefnyddwyr gwasanaeth ar 4 Medi 2023 gan gynnig seibiant i bobl ag anableddau a’u teuluoedd. Gwyliwch ein fideo You Tube i ddysgu mwy. Mae ein tîm o staff bellach wedi setlo yn eu swyddi newydd ac wedi ymgyfarwyddo â’r safle. Yn y cyfamser, mae’n ymddangos bod y defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cael mynediad at y gwasanaeth wedi bod yn hapus ac yn gartrefol drwy gydol eu cyfnod yno, gyda nifer ohonynt yn dewis cymryd rhan mewn sesiynau paratoi prydau mewn grŵp a chymdeithasu yn yr ardal gymunedol.
Sut y gallwn wella
Yn ystod y misoedd cyntaf hyn, rydym yn nodi meysydd i’w gwella yn y cyfleuster:
- Nid oeddem yn disgwyl i’r gegin gyffredinol fod mor boblogaidd, o ystyried mai’r gegin honno yw’r lleiaf ar y safle, byddwn yn ystyried hyn ar gyfer prosiectau’r dyfodol.
- Mae defnyddwyr gwasanaeth wedi rhoi gwybod i ni y byddai cludiant i weithgareddau’n ddefnyddiol, felly mae gennym bellach fynediad at gar a bws mini i’w llogi.
- Mae ymwelwyr wedi nodi problemau â’r intercom wrth geisio cael mynediad i’r adeilad, felly rydym wedi gosod cloch nes bydd y broblem hon wedi’i datrys.
- Mae rhai problemau parhaus a signal ffôn ym Mron y Nant, a gafodd eu nodi gan staff ac ymwelwyr; rydym yn gweithio gyda’n hadran TG i ystyried opsiynau amgen.
- Gan fod ar rai defnyddwyr gwasanaeth angen rhagor o gefnogaeth, er enghraifft, yn ystod y nos, rydym yn defnyddio staff asiantaeth ar hyn o bryd.
Ein cynllun gweithredu
Mae’r tîm wedi gweithio gyda’r defnyddwyr gwasanaeth i greu canllaw Bron y Nant, sy’n cynnwys pynciau megis ein gwerthoedd, lleoliad Bron y Nant, y math o lety sydd ar gael (gweler y lluniau isod), cyflwyniad i’r tîm, a sut rydym yn darparu gwasanaethau. Rhoir gwybod i breswylwyr hefyd am weithgareddau a llefydd o ddiddordeb yn yr ardal, gyda’r nod o gefnogi unigolion i ymweld â hwy yn ystod eu cyfnod yno.
Arwain plant oddi wrth troseddu
Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi llwyddo i gyflwyno a gweithredu Prosiect Turnaround y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sydd wedi’i anelu at ymyrraeth ataliol i arwain plant a phobl ifanc oddi wrth troseddu. Mae Rheolwr Achos a Swyddog Gweinyddu a Gwybodaeth dynodedig wedi cael eu penodi i arwain ar ddarpariaeth gwasanaethau ac adrodd i’r Bwrdd Rheoli a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Ar draws Conwy a Sir Ddinbych, roedd 119 o atgyfeiriadau ar gyfer troseddau megis trais yn erbyn unigolyn arall, dwyn cerbydau, ymdrin â nwyddau wedi’u dwyn a throseddau rhywiol. Cytunodd 31 o bobl ifanc i ymgysylltu â’r Rhaglen Turnaround i ddechrau, ac mae 25 o’r rheiny wedi bwrw ymlaen â hynny.
Ein cynllun gweithredu
Dros y deuddeg mis nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar wreiddio a datblygu’r ddarpariaeth ymyrraeth gynnar ymhellach i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig cefnogaeth wirfoddol, sydd wedi ei llywio gan anghenion ac sy’n canolbwyntio ar y teulu cyfan, i blant a phobl ifanc er mwyn tawelu eu hymddygiad a sicrhau ein bod yn eu rhoi’n ôl ar y trywydd iawn.
Ein Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth
Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi parhau i wynebu heriau o fewn y gwasanaeth, yn arbennig o ran recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys. Mae o leiaf un swydd wag wedi bod o fewn dau o’n timau dros y flwyddyn gyfan ddiwethaf, ac mae hyn wedi arwain at ddefnydd digynsail o staff asiantaeth. Mae’r Memorandwm o Ddealltwriaeth fodd bynnag yn golygu ein bod wedi gallu rheoli cyfraddau tâl asiantaeth ar draws y rhanbarth. Serch hynny, rydym wedi gallu dyrannu achosion, ac mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio’n galed iawn ac yn ymdrin â gwaith anodd a chymhleth iawn. Rydym yn gweld mwy a mwy o’r achosion hynny’n cael eu rheoli yn yr arena Amddiffyn Plant, Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus neu Blant sy’n Derbyn Gofal. Dylid nodi nad oedd nifer o’r teuluoedd yr ydym yn gweithio â hwy’n hysbys i ni’n flaenorol, ac mae rhai o’r achosion wedi cael eu huwchgyfeirio, ac yn ymofyn ymyraethau Amddiffyn Plant a Phlant sy’n Derbyn Gofal yn gymharol gyflym yn y broses.
Roedd y gwasanaeth yn destun arolwg Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus ar ddechrau’r cyfnod adrodd, ac fe nododd Arolygiaeth Gofal Cymru sawl elfen gadarnhaol. O ran y meysydd a oedd yn ymofyn gwelliant, rhoddwyd cynllun gweithredu ar waith ac mae’r mwyafrif o’r camau gweithredu hynny bellach wedi cael eu cyflawni. Nodwyd ymarfer da o fewn y maes gwaith hwn yn yr Amlinelliad Cyfraith Cyhoeddus, gan gynnwys fod y “cofnodion yn nodi pryderon yn glir, a bod diogelwch a lles plant a phobl ifanc yn cael eu blaenoriaethu”. Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, ail-lansiwyd yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus gan y farnwriaeth, gan ganolbwyntio ar waith i’w flaenoriaethu, a rheoli a monitro proses yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn well. Er bod rhai meysydd i’w gwella, mae pob aelod o staff wedi gweithio’n galed i gyflawni canlyniadau gwell drwy ddefnyddio’r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.
Mae’r gwasanaeth yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd, CWLWM a chyfarfodydd â’r adran Iechyd ac Addysg i’w hannog i gymryd mwy o ran yn ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol. Mae Rheolwyr o fewn y Tîm Asesu a Chefnogi hefyd yn cynnal fforymau Camfanteisio ar Blant Cyd-destunol misol, a gaiff eu mynychu gan asiantaethau partner i drafod achosion a themâu. Mae’r rhain wedi bod yn boblogaidd ac mae’r adborth gan ein partneriaid yn gadarnhaol iawn. Mae gwaith yn mynd rhagddo yn y maes hwn, ac mae’r Cynllun Gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol bellach wedi cael ei gwblhau, a disgwylir i’r Pennaeth Gwasanaeth ei adolygu cyn ei gau.
Rydym bellach wedi sefydlu’r llwybr llety ar gyfer plant sydd mewn perygl o fod angen derbyn gofal a’r rheiny sydd mewn perygl o amhariad. Caiff achosion eu goruchwylio gan y panel llety ac maent yn elwa o gefnogaeth ymyrraeth ac atal ‘ffiniau gofal’. Mae hyn yn gweithio’n dda, ac mae bob aelod o staff yn ymwybodol o’r broses hon. Fodd bynnag, rydym yn aros am adolygiad o’r broses yn fuan i ystyried p’un a oes modd ei symleiddio, a ph’un a yw bob cam yn angenrheidiol wrth symud ymlaen.
Mae ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth bellach wedi’i sefydlu ac yn gweithredu dan amodau busnes fel arfer. Mae’r ganolfan wedi cryfhau gwaith amlasiantaeth, yn arbennig gyda Heddlu Gogledd Cymru o ran diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yng Nghonwy. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr Iechyd ac Addysg i gael eu cyfraniad nhw i’r broses a thrafodaethau dyddiol.
Mae un o’r rheolwyr Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth yn rhoi sgyrsiau i’r Rheolwyr Diogelu Dynodedig ar ddiogelu, camfanteisio, Cam-drin Plant yn Rhywiol ac Ymddygiadau Rhywiol Niweidiol yn rheolaidd. Maent hefyd yn cadeirio pwyllgor rheoli’r Uned Cyfeirio Disgyblion ac yn eistedd ar y panel Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae pawb yn cydweithio’n agos gyda chydweithwyr o’r gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Addysg ac Iechyd i sicrhau ymdriniaeth brydlon ag unrhyw bryderon. Mae Addysg a’r Heddlu’n mynychu’r fforwm Camfanteisio ar Blant. Rydym yn cynnig ymgynghoriadau Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol, yn bennaf i ysgolion, ond hefyd i dimau a gweithwyr cymdeithasol eraill yn ôl yr angen neu’r gofyn.
Mae rheolwr arall wedi dechrau cadeirio’r cyfarfod monitro cyn geni a sefydlwyd yn ddiweddar gyda chydweithwyr Iechyd lle cyflwynir achosion i’w trafod i sicrhau fod unrhyw bryderon am iechyd mam neu fabi yn ystod beichiogrwydd, neu unrhyw bryder am y teulu ar ôl geni, yn cael eu rhannu a’u trafod, hyd nes y caiff camau neu asesiadau pellach eu cwblhau.
Rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o’r Gwasanaeth Cynadledda Grŵp drwy Y Bont. Golyga hyn fod teuluoedd yn cael cynnig cyfle i ddod at ei gilydd ac ystyried sut y gallant gyfrannu at a chefnogi plant i aros o fewn yr uned deuluol. Cynhelir holiadur yn fuan i geisio adborth gan weithwyr cymdeithasol sy’n atgyfeirio i sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion.
Mae Conwy, ynghyd ag Awdurdodau Lleol eraill yn y rhanbarth yn treialu’r defnydd o eiriolaeth rhieni. Dim ond newydd ddechrau mae hyn a bydd angen ei adolygu’n hwyrach eleni, fodd bynnag, mae arwyddion cynnar o’i ddefnyddioldeb i deuluoedd o fewn y broses Amddiffyn Plant, sydd wedi nodi eu bod yn deall y broses a’r hyn sy’n ofynnol ganddynt a’r Awdurdod Lleol yn well.
Sut y gallwn wella
Roedd angen adolygiad o’r llwybr llety a chynllun gweithredu’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben. Lle bo angen, byddwn yn eu diweddaru er mwyn i ni fedru gweithredu hyd eithaf ein gallu. Mae angen gwaith pellach ar draws y timau gwaith cymdeithasol o fewn y gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth i sicrhau proses bontio esmwyth ar gyfer gwaith achos, a’n bod yn blaenoriaethu achosion fel sy’n ofynnol gan ail-lansiad yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus. Mae’n bosibl y bydd angen i ni ystyried cyfansoddiad a rolau’r timau o fewn y gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth o ganlyniad.
Mae’n rhaid i ni ystyried p’un a ddylwn ni barhau i recriwtio staff nad ydynt yn gymwys i gefnogi’r timau gwaith cymdeithasol a ph’un a allwn sicrhau ein bod yn bodloni pob gofyniad statudol drwy wneud hyn. Mae recriwtio gweithwyr cymdeithasol wedi bod yn anodd iawn, ond mae cyfrifoldebau statudol yr adran wedi cynyddu yn sgil y cymhlethdod o fewn gwaith achos, ac anghenion teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Mae angen gwella ein partneriaeth gyda’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol o ran cyfraniad cydweithwyr Iechyd ac Addysg er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau ar y camau cynnar o weithio gyda theuluoedd, ac nad yw cyfranogiad yn cael ei uwchgyfeirio mewn modd amhriodol.
Mae angen strategaeth i reoli’r broses o uwchgyfeirio achosion difrifol er mwyn sicrhau fod yr achosion sydd â’r risg fwyaf yn cael eu goruchwylio o fewn yr adran gan reolwyr ar bob lefel. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn adolygu achosion lle mae cysylltiad sylweddol wedi bod rhwng teuluoedd a’r adran, a lle nad yw’r newidiadau sydd fel arfer yn ein galluogi i ddod â’r cysylltiad i ben yn ddigonol.
Ein cynllun gweithredu
- Adolygu’r llwybr llety
- Adolygu’r cynllun gweithredu Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus
- Ail-lansio’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus, adolygu achosion a dadansoddi gweithgarwch cyn ac ar ôl yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus
- Ystyried rôl y timau o fewn y gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, eu cyfansoddiad a’r ffordd orau i fodloni ein rhwymedigaethau statudol
- Creu arolwg i gasglu adborth ar Gynadledda Grŵp Teulu gan staff a defnyddwyr y gwasanaeth
- Cynnal adolygiad o eiriolaeth rhieni gyda’r darparwr, Tros Gynnal Plant
Cynhwysiant digidol i bobl ag anableddau
Yn adroddiad y llynedd, soniwyd am gyfres o gyrsiau hyfforddiant ar gyfer pobl ag anableddau a’u teuluoedd, gyda’r nod o wella eu mynediad at, a’u hyder gyda, thechnoleg. Ym mis Tachwedd 2023, dechreuodd Cyswllt Conwy gynnal Sesiynau Galw Heibio Digidol am un dydd Iau bob mis yn eu swyddfa yng Nghanolfan Marl, ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt am sut y gallwn ddarparu’r rhain mewn safleoedd gwahanol ar draws Conwy. Bydd y sesiynau’n cyflwyno cyfarpar ac yn cefnogi pobl gyda thechnoleg, cynhwysiant digidol, defnyddio’r rhyngrwyd, ac esblygu i’r dyfodol.
Ein cynllun gweithredu
Mae Cartrefi Conwy, yn arbennig eu helfen Creu Menter, wedi dechrau grŵp Conwy Digidol. Maent yn cynnal cyfarfodydd misol a sesiwn alw heibio wythnosol yn Llandudno gyda mewnbwn gan dîm Cymunedau Digidol Cymru.
Mae Cyswllt Conwy’n gobeithio comisiynu hyfforddiant ar Beryglon Ar-lein, sy’n anelu at gefnogi rhwydweithiau o bobl ag anableddau dysgu i gadw’n ddiogel ar-lein ac wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Y nod yw darparu sesiynau yng Nghonwy yn 2024 drwy gysylltu gyda’n tîm hyfforddiant mewnol.
Ail-lansio’r Gwasanaeth Cynnydd
Nodwyd yn adroddiad y llynedd y byddwn yn ail-lansio’r Gwasanaeth Cynnydd i bobl ag anableddau. Lansiwyd y gwasanaeth yn wreiddiol yn 2017, gyda chyllid gan y Gronfa Gofal Integredig, fodd bynnag, daethpwyd â’r gwasanaeth i ben yn ystod y pandemig Covid-19. Roedd angen y lleoliad a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer asesiadau at ddibenion eraill, ac roedd heriau hefyd ynghlwm â’r gwasanaeth blaenorol yr oeddem yn awyddus i fynd i’r afael â hwy.
Mae’r gwasanaeth wedi’i anelu at unigolion sydd ag anabledd sy’n cael effaith sylweddol ar eu gallu i fyw’n annibynnol ac ymgymryd â thasgau bob dydd, ac sy’n awyddus i ymgysylltu ag asesiad a chynllun gofal sy’n datblygu eu hannibyniaeth i gwblhau tasgau penodol. Mae’r gwasanaeth yn symud ymaith o ddibyniaeth ar gefnogaeth hirdymor, ac yn hytrach yn canolbwyntio ar ymyraethau tymor byr, cadw at gynllun manwl i gefnogi unigolion i wneud y mwyaf o’u cryfderau a datblygu sgiliau newydd i gyflawni eu canlyniadau cytunedig. Mae swydd Therapydd Galwedigaethol wedi cael ei chyflwyno i helpu gydag asesiadau a hwyluso’r gwaith o fonitro cynnydd ar ôl asesiad.
Mae lleoliad wedi’i nodi lle gellir cwblhau asesiadau gweithredol o weithgareddau sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd mewn amgylchedd priodol, a lle mae offer a chyfarpar arbenigol ar gael i’w defnyddio fel rhan o’r broses asesu a chynllunio gofal. Mae gwelliannau wedi’u gwneud i’r gegin hygyrch i bobl ag anableddau, ac mae socedi trydan ychwanegol wedi cael eu gosod i gyflawni’r nod o ddarparu ‘tŷ technoleg’ yn y lleoliad hefyd. Cwblhawyd y gwaith ym mis Tachwedd 2023 gyda chymorth cyllid Tai gyda Gofal, ac rydym ar hyn o bryd yn cynllunio’r gwaith o osod technoleg gynorthwyol at ddibenion arddangos ac asesu.
Gyda chymaint o bobl yn y gymdeithas fodern yn defnyddio technoleg gynorthwyol megis Alexa a Siri, rydym yn awyddus i greu gofod sy’n galluogi unigolion anabl i weld sut gallai technoleg sydd ar gael ar y farchnad gyffredinol wneud eu bywydau’n haws ac yn fwy diogel, heb fod angen i’r Awdurdod Lleol wario ar offer a thanysgrifiadau arbenigol. Mae nodweddion megis negeseuon atgoffa’r calendr, clychau drws fideo a llenni awtomatig i gyd ar gael ar ddyfais Amazon, ac fe allant fod yn ddefnyddiol iawn. Byddai cyfarpar unigryw’n cael eu hystyried fesul achos, yn unol â’r angen asesedig.
Bydd arddangos y defnydd o offer a thechnoleg fodern yn helpu i hysbysu dinasyddion a gweithwyr proffesiynol am ffyrdd arloesol o fodloni canlyniadau, goresgyn rhwystrau a rheoli risgiau, mewn ffordd sy’n manteisio i’r eithaf ar gryfderau unigolion, sy’n gostwng y ddibyniaeth ar gefnogaeth anffurfiol a chefnogaeth â thâl. Lle bo angen cefnogaeth hirdymor, bydd yr asesiadau’n helpu i hyrwyddo’r gefnogaeth ar y lefel gywir.
Er nad yw’r ganolfan asesu ar gael i ni, mae’r gwasanaeth wedi parhau, gyda’r Therapydd Galwedigaethol Cynorthwyol yn asesu a chefnogi pobl yn y gymuned, i gyflawni canlyniadau cadarnhaol iawn. Ers ail-lansio ym mis Ebrill 2023, mae deng dinesydd wedi derbyn neu yn y broses o dderbyn asesiad a chefnogaeth gan y Gwasanaeth Cynnydd ar hyn o bryd. Cefnogwyd un ddynes yn ei chwedegau hwyr i ddefnyddio ffôn clyfar am y tro cyntaf, sydd wedi ei galluogi i gael mynediad at y gymuned mewn modd mwy annibynnol yn sgil y rheolaeth risg y mae’r ddyfais yn ei darparu, gan gynnwys galwad brys un botwm. Mae hi bellach yn gallu gwneud galwadau fideo i’w ffrindiau a’i theulu’n annibynnol, a threfnu ei gweithgareddau dyddiol. Mae hyn wedi gwella ei lles a’i hyder, heb gynyddu ei phecyn gofal. Rhagwelir y bydd y sgiliau y mae hi wedi’u datblygu yn ei galluogi i aros yn fwy annibynnol yn hirach, ac yn lleihau’r straen ar ei Gofalwr.
Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r llynedd
Rydym wedi llwyddo i integreiddio swydd Therapydd Galwedigaethol i’r prosiect, drwy gyllid y Gronfa Integreiddio Ranbarthol. Tua diwedd y flwyddyn ariannol, fe wnaethom hefyd ddefnyddio rhywfaint o’r oriau nas defnyddiwyd i gyflogi un o’n Cydlynwyr o fewn y Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol i gynyddu nifer y bobl y gallwn eu cefnogi dan y Gwasanaeth Cynnydd ymhellach.
Sut y gallwn wella
Mae’r gwaith hyd yma’n dangos, er ein bod yn annog unigolion i gymryd risgiau cadarnhaol a datblygu eu sgiliau, nid ydynt bob amser yn gallu cyflawni eu nodau gwreiddiol, sy’n eu llethu. Yn yr achosion hyn, rydym wedi ymdrin â’r achosion ac wedi dadansoddi’r hyn a ddigwyddodd i lywio ein hargymhellion terfynol. Er gwaethaf y rhwystrau, mae’r unigolion fel arfer yn fwy annibynnol ac yn cyflawni canlyniadau lles gwell ers dechrau derbyn y gefnogaeth. Weithiau, yn yr un modd â’r enghraifft uchod, mae pobl yn datblygu sgiliau a gwybodaeth nad oeddent wedi bwriadu eu cyflawni ar y dechrau, ac yn elwa o’r sgiliau newydd a’r cyflawniadau nad oedd ganddynt gynt. O ganlyniad, er ein bod yn ceisio cael canlyniadau i anelu atynt, rydym yn deall y pwysigrwydd o hyblygrwydd a meddwl agored, yn ddibynnol ar sylwadau a sgyrsiau yn ystod y sesiynau.
Er mai ein prif ffocws yw cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, rydym yn cydnabod y byddai ymarferwyr ac uwch reolwyr eraill yn elwa o wasanaeth sy’n gallu cwblhau asesiadau Therapi Galwedigaethol ar unigolion; bydd y rhain yn ystyried yr amgylchedd a’r gefnogaeth a oedd ar waith yn flaenorol, i gefnogi gweithwyr cymdeithasol ac eraill i nodi potensial unigolion ac argymell y lefel gywir o ofal a chefnogaeth. Rydym wedi defnyddio rhywfaint o’r capasiti o fewn y tîm Therapi Galwedigaethol i helpu gyda hyn dan gylch gwaith y Gwasanaeth Cynnydd lle bo angen.
Ein cynllun gweithredu
Y prif ddatblygiad ar gyfer y prosiect eleni fydd gosod technoleg gynorthwyol yn y ganolfan asesu a’r tŷ technoleg er mwyn eu defnyddio i asesu ac arddangos buddion i ddinasyddion a gweithwyr proffesiynol. Gobeithir y byddant yn croesawu technoleg hygyrch a fforddiadwy fel rhan o’u hasesiadau, er mwyn gwella lles a rheoli risgiau yn y cartref ac yn y gymuned. Yn ogystal â hyrwyddo annibyniaeth, mae technoleg gynorthwyol yn lleihau dibyniaeth ar gefnogaeth â thâl ar adeg lle mae pwysau ar argaeledd ac adnoddau’n ein hannog ni i leihau dibyniaeth ar wasanaethau a gomisiynir lle bo hynny’n ddiogel ac yn bosibl.
Coleg Adfer Iechyd Meddwl
Fe wnaeth symptomau pobl a oedd yn dioddef â phroblemau iechyd meddwl lefel isel megis gorbryder ac iselder yn y gymuned cyn y pandemig Covid-19 waethygu o ganlyniad i’r cyfnod clo a’r ynysu canlyniadol. Mae hyn wedi cynyddu’r galw am wasanaethau cymorth, megis y Tîm Lles Meddyliol, i helpu pobl â chelcio, hunan-esgeulustod, straen rhieni/gofalwyr, yn arbennig y rheiny sy’n byw â phlant sy’n oedolion â chymhlethdodau niwro-amrywiol.
Er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa hon, mae’r tîm wedi canolbwyntio ar fesurau atal, megis cyflwyno Coleg Adfer, y soniom amdanynt mewn adroddiadau blaenorol. Pwrpas y Coleg Adfer yw cefnogi rheolaeth pobl o’u problemau iechyd meddwl drwy ddysgu ac addysgu, yn ogystal â chynyddu rhwydweithiau cymdeithasol pobl, eu cysylltiad â’r gymuned, a chynnig cyfleoedd i ddatblygu gwytnwch a byw bywyd ystyrlon. Ein gweledigaeth yw:
Fe wnaeth cwblhau prosiect Cronfa Adfywio Cymunedol y DU ym mis Rhagfyr 2022 i ystyried cyd-gynhyrchu roi glasbrint i ni ddatblygu’r cwrs a’r gweithgareddau yr oedd defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo fyddai’n cefnogi eu hiechyd meddwl fwyaf.
Rydym yn canolbwyntio ar dri maes datblygu:
- Lleoliad: drwy gydweithio â’r Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth, rydym wedi gallu datblygu’r llawr gyntaf yn llyfrgell Bae Colwyn i ddarparu lleoliad cychwynnol ar gyfer y Coleg Adfer. Mae’r lleoliad hwn yn cynnig amgylchedd diogel, therapiwtig a heb stigma lle gallwn ddarparu gweithgareddau a chyrsiau sy’n hanfodol i’r dull Coleg Adfer.
- Gweithgareddau: mae gweithgareddau celf a chrefft yn hynod boblogaidd, ac mae pobl wedi nodi eu bod yn gefnogol ac yn therapiwtig. Rydym felly wedi comisiynu sesiynau Dyddlyfru Creadigol sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer ymlacio, ymwybyddiaeth ofalgar, hunanfynegiant, prosesu a hunan-ddarganfod. Rydym yn anelu at gynyddu nifer y gweithgareddau tebyg y gallwn gyfeirio pobl atynt drwy ddatblygu perthnasoedd â grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector ymhellach. Rydym hefyd wedi cynnig grwpiau cerdded a rhaglen benodol ar gyfer rheoli gorbryder.
- Cyrsiau: rydym wedi gweithio’n agos gyda Mind Conwy drwy gydol y prosiect UKCRF ac maent bellach mewn sefyllfa i gynnig rhaglen dreigl o gyrsiau pum wythnos i gefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl.
Sut y gallwn wella
Yn seiliedig ar yr adborth yr ydym wedi’i dderbyn am y Coleg Adfer, mae arnom ni angen sicrhau fod ein cynnig parhaus yn ddarpariaeth gyflawn, ddi-dor a bywiog, yn hytrach na’r trefniadau tameidiog sydd gennym ar waith ar hyn o bryd. Bydd hyn yn golygu datblygu perthnasoedd effeithiol gydag ystod o bartneriaid, yn arbennig y maes Iechyd, y trydydd sector a grwpiau cymunedol, er mwyn cynnig cyfle cyfartal ar draws y sir, prosesau cadarn a bwriad comisiynu clir.
Ein cynllun gweithredu
- Sefydlu’r rhaglen gychwynnol o gyrsiau gyda Mind Conwy.
- Sefydlu fforwm gynllunio i nodi cyfleoedd ar gyfer twf a dyfeisio cynllun gweithredu i’w cyflawni nhw, gan gynnwys cyllid cynaliadwy i’r dyfodol.
- Parhau i gydweithio gyda’r Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth ar brosiectau penodol, megis Taith ac O Dan y Tonnau.
Tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal
Mewn adroddiadau blaenorol, rydym wedi nodi ein bwriad i integreiddio ein timau Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal. Mae’r pandemig Covid-19, newidiadau i arferion, newidiadau i staff o ganlyniad i hynny, ac oedi o ran recriwtio wedi oedi’r broses o integreiddio’r timau.
Dechreuwyd proses anffurfiol i integreiddio swyddi Therapyddion Galwedigaethol Cynorthwyol ar draws y timau Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal yn 2020, cyn symud ymlaen mewn modd mwy ffurfiol yn 2023. Y nod yw i’r tri aelod o staff fedru darparu asesiadau amgylcheddol, darparu cyngor, cyfeirio a gwneud argymhellion o ran cyfarpar cymunedol a dyfeisiau Teleofal. Bydd hyn yn ymestyn sylfaen wybodaeth y Therapyddion Galwedigaethol Cynorthwyol, gan wella cadernid y tîm; sy’n hanfodol ar gyfer cyfnodau o absenoldebau wedi a heb eu cynllunio.
Er ein bod wedi wynebu problemau staffio am y mwyafrif o’r flwyddyn, rydym wedi llwyddo i recriwtio pobl â sgiliau allweddol ar gyfer y rôl sy’n golygu bod y broses gynefino a hyfforddi staff newydd wedi bod yn gynt na’r disgwyl.
Mae’r tîm wedi parhau i berfformio i lefel uchel, er enghraifft, dros y chwe mis diwethaf, maent wedi derbyn 68% o’r atgyfeiriadau Therapi Galwedigaethol a sgriniwyd gan y tîm, gydag ond 16% yn cael eu trosglwyddo i dimau mwy hirdymor o fewn yr Awdurdod.
Dyma ddywedodd rhai o’n defnyddwyr gwasanaeth:
Rydych wedi rhoi’r gobaith i ni gynnal ein annibyniaeth gartref ac aros yn ddiogel
Diolch i chi gyd am eich cymorth caredig, roeddech yn wych
Roedd X yn gyfeillgar, cwrtais a phroffesiynol iawn
Sut y gallwn wella
Mae’r gwelliannau gofynnol, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, yn cynnwys:
- Gwella gwybodaeth staff am gyfarpar cymunedol, mân addasiadau a chyfarpar Teleofal.
- Gwella gwybodaeth staff a’u gallu i ddarparu canllawiau am ddyfeisiau digidol yn y cartref.
- Cyfathrebu’n glir â chwsmeriaid Teleofal nad ydynt yn barod am y newid digidol yn 2025.
- Diffyg proses electronig ar gyfer y tîm gweinyddol Teleofal i gasglu adborth er mwyn sicrhau fod dinasyddion, darparwyr a budd-ddeiliaid eraill yn gallu llywio gwelliant parhaus.
Ein cynllun gweithredu
Datblygiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf:
- Mae pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant llawn o ran cyfarpar cymunedol a mân addasiadau.
- Bydd pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant pellach ar gyfarpar Teleofal arbenigol ac yn darparu cyngor a chanllawiau mewn perthynas â dyfeisiau digidol yn y cartref.
- Adolygu’r offer Teleofal arbenigol sydd ar gael, er enghraifft, dyfeisiau epilepsi (gan gynnwys mewnbwn gan weithwyr proffesiynol Iechyd).
- Canolbwyntio ar asesu cyfarpar Teleofal arbenigol a darparu cyngor a chanllawiau mewn perthynas â dyfeisiau digidol yn y cartref (gan gynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Anableddau yn y fflat asesu).
- Parhau i gyflwyno dyfeisiau digidol gan sicrhau fod bob cwsmer yn barod ar gyfer 2025.
- Datblygu prosesau adborth rheolaidd i sicrhau fod dinasyddion, darparwyr a budd-ddeiliaid eraill yn gallu llywio gwelliant parhaus; gan ddefnyddio arolwg awtomatig yn ddelfrydol, yn hytrach na dibynnu ar alwadau ffôn a’r post.
Un Pwynt Mynediad a Hawliau Lles Conwy
Mae’r rheolwr Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wedi rheoli’r ddau dîm am y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi cael cyfle y tro hwn i arsylwi gwaith y ddau dîm ac ystyried y ffordd orau i’w cefnogi i’r dyfodol.
Mae ail-strwythuriad bach i wella gwytnwch ac ymestyn y ddarpariaeth gwasanaeth yn y ddau dîm yn mynd drwy broses gymeradwyo ar hyn o bryd. Cynigir cael arweinydd tîm ym mhob tîm, gydag un rheolwr trosfwaol. Bydd hyn yn sicrhau’r buddion canlynol:
- Rheolwr cyffredinol dynodedig ar gyfer gwella’r ddarpariaeth gwasanaeth a rheoli pobl.
- Swyddogaethau goruchwylio dynodedig ar gyfer bob tîm i gefnogi gweithrediad dyddiol y timau.
- System gymorth gryfach ar gyfer y ddau dîm.
- Gwella gwydnwch yn ystod cyfnodau o absenoldeb wedi a heb eu cynllunio.
Dyma rywfaint o ffigurau Un Pwynt Mynediad:
Mae’r metrigau’n dangos y nifer a’r galw am wybodaeth, cyngor a chymorth. Mae hyn yn galluogi mecanwaith syml i awdurdodau lleol i fonitro nifer y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Sut y gallwn wella
Mae’r gwelliannau gofynnol, yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd, yn cynnwys:
- Strwythur reoli aneglur gyda staff rheng flaen yn uwchgyfeirio i staff uwch heb rôl ganolraddol; mae Rheolwr yr Adain wedi bod yn rheoli’r ddau dîm ers dros 12 mis sydd wedi oedi tasgau eraill.
- Staff yn elwa o adolygu prosesau, casglu data a dulliau casglu i sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl.
- Diffyg proses ar gyfer casglu adborth er mwyn sicrhau fod dinasyddion, darparwyr a budd-ddeiliaid eraill yn gallu llywio gwelliant parhaus.
Ein cynllun gweithredu
Bydd y datblygiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf fel a ganlyn:
- Strwythur reoli well gyda chefnogaeth reoli arbennig ar gyfer y timau hyn.
- Adolygu prosesau, casglu data a dulliau casglu i sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl.
- Datblygu prosesau adborth rheolaidd i sicrhau fod dinasyddion, darparwyr a budd-ddeiliaid eraill yn gallu llywio gwelliant parhaus; gan ddefnyddio arolwg awtomatig ar ddiwedd galwad yn ddelfrydol, yn hytrach na dibynnu ar alwadau ffôn a’r post.
Datblygu a darparu llety o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc drwy drawsnewid lleoliadau preswyl a mewnol lleol.
Mae’r Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Preswyl Plant bellach ar waith ac yn ymateb i strategaeth leoliadau Conwy 2022-2027 a’r pwysau sylweddol ar gyllideb Lleoliadau Annibynnol, a rhaglen Dileu Elw Llywodraeth Cymru sy’n anelu at ddileu elw o wasanaethau Plant sy’n Derbyn Gofal erbyn 2027.
Dyma rai ffigurau Plant sy’n Derbyn Gofal
Mae’r mesurau Plant sy’n Derbyn Gofal hyn yn ein galluogi i olrhain nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ffurfiol gan yr awdurdod lleol. Rydym hefyd yn gallu monitro’r niferoedd sydd wedi’u lleoli o fewn a thu allan i’r sir.
Nodom y llynedd bod y rhaglen hon wedi cael ei chymeradwyo gan ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Cabinet.
Mae cartrefi gofal a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan nad ydynt yn gallu byw gyda’u teulu eu hunain. Maent yn lle i blant a phobl ifanc dderbyn cefnogaeth i ddatblygu a thyfu. Ein nod yw cynyddu nifer y lleoliadau lleol, i alluogi plant a phobl ifanc sydd tu allan i’r sir ar hyn o bryd i ddychwelyd i’r ardal, neu’n nes at adref, a’u galluogi i gadw eu gwreiddiau’n lleol, eu hysgolion, eu diwylliant, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cefnogi.
Mae Arweinydd Rhaglen Drawsnewid dynodedig wedi cael ei recriwtio eleni sydd wedi arwain y grŵp darparu trawsnewid i ddatblygu cynllun amlinellol deng mlynedd i sicrhau 18 uned/gwely ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Roedd y cynllun yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd drwy ymgynghori â phartneriaid mewnol ac allanol megis Gofal Cymdeithasol ac Addysg, y pum Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru, y 4C, Awdurdodau Lleol eraill a phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal.
Mae’r grŵp darparu wedi blaenoriaethu cartref i un unigolyn ifanc sy’n byw ar ei ben ei hun gyda chymorth ac wedi creu manyleb ar gyfer y cartref sy’n bodloni meini prawf Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer cartrefi plant. Mae landlord cymdeithasol cofrestredig wedi’i nodi i weithio mewn partneriaeth â ni a bydd trafodaethau’n dechrau ym mis Ionawr 2024 i gynllunio a chyfrifo costau’r prosiect.
Mae tri chartref arall yn cael eu datblygu hefyd: Bwythyn y Ddôl, Glan yr Afon a Sylva Gardens.
Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl
Mae Bwthyn y Ddôl yn gydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd y ganolfan asesu’n darparu llety dros dro i bedwar o bobl ifanc gyda’r nod o’u hail-uno gyda’u teuluoedd. Os nad yw hynny’n bosibl, yr opsiynau amgen yw symud i leoliad mwy hirdymor mewn cartref gofal maeth neu ofal preswyl. Bydd y ganolfan yn darparu dwy uned ar gyfer lleoliadau brys.
Dyrannwyd y gwaith adeiladu i Wynne Construction a dechreuodd y gwaith ym mis Mai 2023, gyda chyfnod adeiladu disgwyliedig o 70 wythnos. Mae’r tri adeilad sy’n ffurfio cynllun Cam 2 BYD bellach wedi cael eu hadeiladu ac mae’r gwaith mewnol yn dechrau. Mae gwaith yn datblygu’n gyflym ac mae’r contractwyr yn hyderus y byddant yn gallu trosglwyddo’r safle i’r rhaglen.
Mae pob aelod o staff preswyl a gweinyddol bellach wedi dechrau yn eu swyddi ac yn hollol weithredol. Mae’r Tîm Amlddisgyblaeth hefyd wedi dechrau yn eu swyddi. Mae pob aelod o staff yn gweithio o Ingleside (Cam 1 BYD) ar hyn o bryd, adeilad a gaiff ei brydlesu nes bydd Cam 2 BYD yn barod. Mae’r dull gofal a ddarperir yn ddull systemig teuluol yn seiliedig ar y Gwasanaeth Cefnogi Teuluoedd Integredig, sy’n cynnwys gweithio mewn modd dwys gyda phob aelod o’r teulu ac mewn rhai amgylchiadau, teulu estynedig. Mae’r dull yn sicrhau fod y tîm yn cydweithio â’r teulu a gweithwyr proffesiynol eraill yn eu bywydau i sicrhau newid hirdymor.
Ailddatblygu Cartref Preswyl Plant Glan yr Afon
Bydd Cartref Plant Glan yr Afon yn darparu llety hirdymor i hyd at bedwar plentyn sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol. Mae cyllid wedi’i sicrhau ac mae disgwyl i’r contractwyr, MPH Construction, ddechrau ar y safle ym mis Ionawr 2024. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu’n para oddeutu 52 wythnos. Bydd gwaith yn dechrau i gwblhau’r strwythur staffio a chynllunio gweithgareddau recriwtio er mwyn cofrestru’r cartref gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn llwyddiannus. Byddwn yn barod i dderbyn pobl ifanc i’r cartref ddechrau 2025.
Datblygiad Sylva Gardens
Datblygiad preswyl a fydd yn darparu tri rhandy dwy ystafell wely i dri phlentyn ag anableddau dysgu fydd Sylva Gardens. Mae’r bobl ifanc hefyd yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol ac yn preswylio mewn lleoliadau annibynnol y tu allan i’r sir ar hyn o bryd, ymhell o’u teuluoedd a’u cymunedau.
Mae ein partner a’n Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, First Choice Housing Association, wedi sicrhau cyllid ar gyfer yr eiddo yn seiliedig ar amcangyfrifon cyn tendro a gasglwyd yn 2022. O ganlyniad i’r cynnydd yng nghostau deunyddiau, gwasanaethau a newidiadau i fanylebau, bydd FCHA yn cyflwyno amrywiad i’r cais cychwynnol i Gronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru ddechrau 2024. Dechreuodd y contractwr weithio ar y safle ym mis Hydref 2023 a disgwylir y bydd y datblygiad wedi’i gwblhau erbyn yr haf 2024. Mae’r tîm prosiect yn dechrau gweithgareddau recriwtio er mwyn i’r cartref gael cofrestriad AGC a bod wedi’i staffio’n llawn cyn i’r bobl ifanc symud i mewn o fis Medi 2024.
Ein cynllun gweithredu
Camau nesaf y rhaglen yw:
- Ymgynghori â darparwyr annibynnol i drafod eu dulliau busnes a’u cefnogi gydag unrhyw gynlluniau i drawsnewid i ddarpariaeth nid-er-elw.
- Gweithio’n agos â FCHA i nodi, caffael a datblygu llety ar gyfer un unigolyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod ac yn byw tu allan i’r sir ar hyn o bryd. Byddwn yn cynnwys yr unigolyn yn y broses o greu eu cartref newydd ac yn eu cefnogi i ymgartrefu cyn diwedd y flwyddyn. Byddwn yn darparu gofal a chefnogaeth i’r unigolyn ifanc a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a byw’n annibynnol.
- Datblygu cynllun recriwtio, cynefino a hyfforddi i sicrhau fod Rheolwyr Cofrestredig a gweithwyr cymorth yn cael eu recriwtio’n gyflym ac yn effeithiol ar gyfer bob datblygiad.
Strategaeth llety ar gyfer oedolion anabl
Eleni, mae ein Gwasanaeth Anableddau wedi recriwtio Swyddog Datblygu Gwasanaeth a fydd yn creu strategaeth llety gyfredol. Ar hyn o bryd, mae mynediad at lety’n cael ei reoli’n dda ac yn sicrhau fod pob unigolyn yn derbyn rhywle priodol i fyw, yn unol â’u hanghenion. Mae ein dull yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn onest am yr opsiynau sydd ar gael.
Ein cynllun gweithredu
Bydd y strategaeth llety’n amlinellu ac yn cefnogi ffocws cryf ar ddarparu llety priodol yn unol ag anghenion unigolion, ac yn sicrhau fod lles yn cael ei ystyried drwy gydol y broses.
Rydym yn bwriadu gweithredu strategaeth gadarn ac ymarferol, sy’n cynnwys yr holl fathau o lety sydd ar gael a’r rhesymau dros yr angen. Byddwn yn ymgynghori â grwpiau a effeithir, staff Conwy, gofalwyr, sefydliadau trydydd sector, ac yn gofyn am adborth y cyhoedd ar y ddogfen a fydd yn cynnwys y cyfnod rhwng 2024 a 2029.
Sicrhau fod pobl hŷn yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty’n ddiogel ac yn amserol
Datblygwyd y dull Rhyddhau i Adfer Yna Asesu (D2RA) gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i fodloni anghenion y dirwedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cynnig amrywiaeth o lwybrau i gyflawni’r canlyniadau gorau i bobl sy’n derbyn ein gwasanaethau pan maent yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ynghyd â gwrando ac ymateb i’r pethau sy’n bwysig iddynt.
Mae D2RA yn ddull sy’n canolbwyntio ar adfer gydag ethos ‘Cartref yn Gyntaf’ yn ogystal â defnyddio adnoddau prin yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon:
- Mae’n canolbwyntio ar ‘beth sy’n bwysig’ i’r unigolyn, cefnogi eu hadferiad ac annog annibyniaeth.
- Mae’n lleihau risgiau o heintiau mewn ysbytai ac yn osgoi dirywiadau
- Mae’n darparu trosglwyddiad di-dor i gefnogaeth fwy hirdymor yn y gymuned lle bo angen, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau a lleihau gordanysgrifiadau gwasanaethau statudol.
Gan dderbyn yr angen am broses i gefnogi cleifion i gael eu rhyddhau o’r ysbyty, rydym wedi datblygu a gweithredu cynllun ar y cyd i hwyluso’r broses o drosglwyddo pobl o’r ysbyty i gam nesaf eu gofal yn ddiogel ac yn amserol gyda chyn lleied o oedi â phosibl. Mae’n bosibl y bydd y cam nesaf o ofal:
- Yn eu cartref eu hunan
- Mewn ysbyty arall ar gyfer adsefydlu pellach
- Yn broses ail-alluogi
- Mewn lleoliad cartref gofal newydd neu bresennol
Yn unol â’r egwyddor ‘Cartref yn Gyntaf’, ein prif nod wrth gynllunio i ryddhau unigolyn o’r ysbyty yw eu galluogi i ddychwelyd i’w cartref lle bynnag y bo hynny’n ddiogel (gall eu cartref eu hunan gyfeirio at gartref gofal os mai yn fanno y maen nhw’n byw).
Mae llwybrau adref o’r ysbyty wedi cael eu cyflwyno, ynghyd â chyfrifoldebau ar gyfer y gwahanol bartneriaid sydd ynghlwm â’r broses ryddhau o’r ysbyty. Mae’r camau ar gyfer Conwy fel partner Awdurdod Lleol yn cynnwys:
- Cytuno ar un pwynt cyswllt ar gyfer staff y Bwrdd Iechyd wrth gydlynu trefniadau rhyddhau cleifion sy’n ymofyn cefnogaeth Gofal Cymdeithasol.
- Lleoli staff Gofal Cymdeithasol o ddisgyblaethau amrywiol ar draws ysbytai a lleoliadau cymunedol mewn modd hyblyg i gefnogi cleifion ar eu llwybrau D2RA.
- Gweithio fel aelod gweithredol o’r tîm amlasiantaeth, darparu cefnogaeth gwaith cymdeithasol briodol, trefnu gwasanaethau, mynychu a chynorthwyo cyfarfodydd a gaiff eu harwain gan y tîm nyrsio, a chwblhau camau a nodwyd yn y cyfarfodydd.
Mae pob Bwrdd Iechyd yn adrodd i Lywodraeth Cymru’n fisol gan arwain at oedi o ran trosglwyddo data gofal. Mae ffigurau a gasglwyd gyda phartneriaid Awdurdod Lleol yn ein galluogi i fonitro unrhyw oedi, eu hyd a’r rhesymau drostynt a chefnogi sefydliadau a phartneriaid y GIG i flaenoriaethu camau i leihau oedi mewn trosglwyddiadau gofal.
Mae’r ffigurau sydd wedi’u nodi isod ar gyfer mis Medi 2023, mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2024 yn ymwneud â phobl sy’n byw yng Nghonwy a oedd yn cael eu ‘hoptimeiddio’n glinigol’, sef y cam lle gellir parhau i ddarparu gofal ac asesiadau yn ddiogel mewn lleoliad nad yw’n acíwt. Maent yn cynnwys dau ysbyty acíwt, pum ysbyty cymunedol, a dwy uned iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol.
Cyfanswm yr oediadau | Aros am asesiad Iechyd | Aros am asesiad neu gyfarpar therapi | Aros am asesiad cartref gofal neu breswyl | |
Medi 2023 | 70 | 13 | 10 | 12 |
Rhagfyr 2023 | 42 | 11 | 1 | 4 |
Mawrth 2024 | 46 | 1 | 7 | 1 |
Yn draddodiadol, mae Gofal Cymdeithasol wedi’i chrybwyll fel yr adran sy’n gyfrifol am yr oedi o ran trosglwyddo pobl o’r ysbyty i’w cartrefi, fodd bynnag, mae’r ffigurau isod yn dangos nad yw hynny’n wir.
Cyfanswm yr oediadau | Aros am ddyraniad Gweithiwr Cymdeithasol | Aros am wasanaeth ailalluogi gartref | Aros am becyn gofal cartref newydd | |
Medi 2023 | 70 | 1 | 1 | 3 |
Rhagfyr 2023 | 42 | 2 | 0 | 6 |
Mawrth 2024 | 46 | 0 | 0 | 1 |
Sut y gallwn wella
Ar ddiwrnod y cyfrifiad ym mis Medi, nodwyd yr oedi o ran cwblhau asesiadau ar y cyd, fel arfer drwy gyfarfod tîm amlddisgyblaeth, fel maes i’w wella. Yng Nghonwy, roedd naw o bobl yn aros am asesiad ar y cyd i’w galluogi i gael eu rhyddhau. Gan weithio gyda’n cydweithwyr Iechyd, rydym wedi gallu lleihau’r ffigwr i bedwar o bobl ar ddiwrnod y cyfrifiad ym mis Rhagfyr. Mae’n anodd lleihau’r ffigwr i sero gan fod amser y cyfarfod yn dibynnu ar argaeledd y teulu, perthynas agosaf ac eiriolwyr. Daeth hyn i’r amlwg yn y cynnydd i saith o bobl ym mis Mawrth 2024.
Mae cyflwyniad y prosiect gwaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn Gwasanaethau Pobl Hŷn wedi bod yn fuddiol ar gyfer sefydlogi’r farchnad gofal cartref, ac o ganlyniad i hyn, mae pobl bellach yn trosglwyddo o’r Gwasanaeth Ailalluogi i ofal a chefnogaeth hirdymor yn brydlon. Dengys hyn yng nghyfrifiad mis Rhagfyr a mis Mawrth, lle’r oedd modd i unrhyw un sy’n barod i gael eu rhyddhau ac angen cyfnod o ailalluogi fynd adref yn ddi-oed.
Roedd ffigwr mis Rhagfyr ar gyfer y bobl a oedd yn aros am becyn gofal cartref wedi cynyddu i chwech, fodd bynnag, roedd y wybodaeth y tu ôl i’r data’n dangos fod gan dri o’r rheiny ddyddiadau rhyddhau wedi’u cynllunio o fewn ychydig o ddyddiau i’r cyfrifiad. Roedd y tri o bobl a oedd yn weddill yn aros am gyllid Iechyd neu asesiadau Iechyd. Erbyn mis Mawrth, drwy gryfhau’r farchnad gofal cartref ymhellach, dim ond un unigolyn yng Nghonwy brofodd oedi wrth aros i ddechrau pecyn gofal cartref.
Nodwyd, er bod y data wedi cael ei ddilysu gyda’n cydweithwyr Iechyd, nid yw’r adroddiadau terfynol i Lywodraeth Cymru bob amser yn adlewyrchu’r ffigurau a gytunwyd. Bydd hyn yn gwella yn y chwarter nesaf gan y bydd modd gweld y daenlen derfynol cyn iddi gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru. Nid Conwy yw’r unig awdurdod sy’n wynebu’r broblem hon.
Ein cynllun gweithredu
Ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghonwy, byddwn yn casglu data pellach i ddangos y gwahaniaeth a wnaed gan D2RA a ‘Cartref yn Gyntaf’ drwy bennu p’un a ydym wedi gwrando ar beth sy’n bwysig iddynt. Rydym yn bwriadu casglu’r wybodaeth ganlynol o fis Ionawr 2024.
- Nifer y bobl hŷn sy’n mynd yn syth o’r ysbyty i fyw mewn cartref preswyl neu nyrsio yn barhaol.
- Nifer y bobl sy’n cael cynnig gwasanaethau ailalluogi gofal cartref gan nad oes arnynt angen cymorth pellach neu gan fod y lefel o gymorth sydd ei hangen arnynt wedi gostwng ar ôl tri mis.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid iechyd i sicrhau fod pobl yng Nghonwy’n cael eu rhyddhau i’w cartrefi’n brydlon yn yr ardaloedd lle gallwn hwyluso gwelliannau.
Tîm Ailalluogi
Mae’r Tîm Ailalluogi’n cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau o’r ysbyty, eu hatal rhag gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty, ac yn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain i adennill eu sgiliau yn dilyn salwch, codwm neu ddirywiad i’w lles.
Dyma rai ffigyrau ail-alluogi:
Mae’r mesurau hyn yn ein helpu i fonitro nifer y pecynnau ail-alluogi a gaiff eu cwblhau yn ystod y flwyddyn a’r canlyniadau i’r unigolion hynny a gaiff eu cefnogi gan y gwasanaeth ail-alluogi.
Mae ein timau’n gweithio fel rhan o’r pum Tîm Adnoddau Cymunedol sydd wedi’u lleoli ar draws y sir ac wedi cael eu crybwyll mewn adroddiadau blaenorol, ac yn cynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Fferyllwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, Meddygon Teulu, Nyrsys Seiciatrig a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae’r dull amlddisgyblaethol hwn yn sicrhau gwasanaeth di-dor, lle caiff pryderon eu cyfathrebu’n brydlon drwy gyfarfodydd wythnosol a lle caiff cefnogaeth ei chydlynu mewn modd cyfannol.
Mae’r Tîm Ailalluogi’n cynnwys gweithwyr a Swyddogion Ailalluogi medrus. Mae rhai aelodau staff yn gymwys i ddarparu cymhorthion a chyfarpar i helpu pobl yn eu cartrefi, megis tegelli tipio, teclynnau a chymhorthion digidol, neu anogaeth i atgoffa pobl am feddyginiaeth neu apwyntiadau. Bydd y tîm yn cyfeirio at asiantaethau eraill yn ôl yr angen, neu’n cysylltu â gweithwyr proffesiynol Iechyd yn ôl yr angen; pwrpas y gefnogaeth yw galluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi a lleihau’r tebygolrwydd o orfod mynd i’r ysbyty.
Yn ystod y cyfnod ailalluogi, bydd staff yn ceisio dod i adnabod unigolion yn dda, gan ystyried eu lles mewn modd cyfannol, ac yn cytuno ar ganlyniadau neu nodau newydd gyda nhw ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod yr ymyrraeth. Yn ddibynnol ar angen, bydd ein tîm yn cytuno ar y math o gefnogaeth ac amlder yr ymweliadau sydd eu hangen i gefnogi’r unigolyn i gyrraedd eu potensial, ac yna’n cytuno ar gynlluniau i’r dyfodol i’w cefnogi i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartref.
Mae cael staff medrus yn y tîm sy’n gallu helpu gyda thasgau Iechyd lefel isel dan oruchwyliaeth Nyrsys Ardal yn lleihau nifer y gweithwyr proffesiynol sydd angen ymweld â’r unigolyn a gefnogir, a hefyd yn cynyddu sgiliau staff a’r tîm ehangach.
Mae’r ffigurau’n siarad drostynt eu hunain.
- Eleni, nid oedd 61% o’r bobl a dderbyniodd gefnogaeth ailalluogi angen cefnogaeth barhaus mwyach, neu roeddent bellach yn derbyn lefel is o gefnogaeth.
- Ar ddiwedd bob ymyrraeth, mae unigolion yn cwblhau arolwg i’n cefnogi i wella’r gwasanaeth, dywedodd 98% bod eu disgwyliadau o’r gwasanaeth wedi cael eu bodloni.
- Ar ddiwedd cyfnod yr ymyrraeth, cytunodd 93% bod eu canlyniadau neu eu nodau wedi cael eu bodloni.
Roedd gan bob aelod o’r tîm a oedd yn cyrraedd yma bob diwrnod agwedd gadarnhaol a chyfeillgar. Rhoddwyd hyder, sicrwydd a chyngor da i’r claf a’r wraig, yn ogystal â chymorth a gofal ymarferol.
Roedd y gefnogaeth yn rhyddhad ar ôl bod yn yr ysbyty.
Rwyf bellach yn llawer mwy symudol a hyderus
Astudiaeth Achos
Ar ôl gorfod mynd i’r ysbyty yn dilyn strôc, arhosodd Mrs J gyda’i mab wrth i addasiadau gael eu gwneud yn ei chartref, ac roedd hi’n derbyn dwy alwad y dydd gan y Tîm Ailalluogi. Unwaith y dychwelodd Mrs J gartref, cynyddwyd y gefnogaeth i bedair galwad y dydd i’w helpu i setlo’n ôl yn ei chartref. Fodd bynnag, o fewn dyddiau i ddychwelyd i’w chartref, roedd Mrs J yn ymddangos yn dawedog ac yn dawel, ac ar rai dyddiau, nid oedd arni hi eisiau ymolchi a newid. Roedd hi’n llai siaradus nag arfer ac nid oedd arni hi eisiau codi yn y bore i fwydo ei chi cyn i ni gyrraedd. Gan ein bod yn y broses o drosglwyddo Mrs J i dderbyn cefnogaeth hirdymor, trefnodd aelod o’r tîm ymweliad hirach yn y prynhawn i gael paned a sgwrs gyda hi. Yn ystod yr ymweliad hwn, siaradodd Mrs J â’r gweithiwr cefnogi ac eglurodd, pan oedd hi’n byw gyda’i mab, roedd ganddi hi reswm i godi a newid bob dydd, ond ers iddi ddychwelyd i’w chartref, doedd hi ddim yn gweld neb oni bai am y gweithwyr cefnogi. Nid oedd ei ffrindiau wedi galw heibio ac roedd ei mab yn gweithio oriau hir ac felly’n methu ymweld â hi.
Awgrymodd y gweithiwr cefnogi alwad hwyrach y diwrnod canlynol er mwyn mynd allan am dro; roedd Mrs J wedi codi, ymolchi a newid, ac yn aros i ni gyrraedd. Wrth i Mrs J gerdded am dro gyda’r gweithiwr cefnogi, siaradodd gyda chymdogion a ffrindiau nad oedd hi wedi’u gweld ers cyn iddi gael y strôc; cawsant sgwrs a threfnwyd i gyfarfod yn ei gardd i ddal i fyny’n iawn. Ers yr awgrym cyntaf ynglŷn â mynd am dro, mae Mrs J wedi adennill ei hyder ac wedi ail-gysylltu â’i ffrindiau. Nid oedd arni hi angen unrhyw gefnogaeth barhaus gennym ni.
Cyfarpar arbenigol i ymdrin â chodymau
Mae pob tîm cymunedol wedi prynu cyfarpar codi ar gyfer codymau lle nad oes unrhyw anaf. Defnyddir y gadair Raizor ynghyd ag ap y GIG o’r enw iStumble er mwyn sicrhau diogelwch yr unigolyn sydd wedi cael codwm. Gall defnyddio’r gadair helpu’r unigolyn heb orfod galw am ambiwlans, i’w hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen yn ogystal ag atal anafiadau pellach yn sgil treulio cyfnod hir ar y llawr. Defnyddiwyd y gadair yn llwyddiannus 37 o weithiau yn 2023, gan arbed £367 o gostau ambiwlans ac Achosion Brys. Llwyddwyd i arbed o leiaf £10,000 yn 2023.
Cefnogaeth sydd ar gael
I atal unigolion rhag gorfod mynd i’r ysbyty a’u helpu i gael eu rhyddhau o’r ysbyty, gall y tîm gefnogi pobl i adennill eu hiechyd, hyder a’u lles yn un o’r pum rhandy Gofal Ychwanegol ar draws y sir.
Mae Gweithwyr Cefnogi Dementia hefyd ar gael i helpu’r unigolyn a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Maent yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau fod yr unigolyn yn gallu byw’r bywyd gorau posibl gyda dementia, a’u bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau sy’n lleol iddyn nhw, megis grwpiau cymorth, cyfarfodydd, boreau coffi, ac ati. Mae Gweithwyr Cefnogi Dementia’n darparu gwybodaeth ymarferol werthfawr ac rydym yn ffodus iawn o gael mynediad at y Ganolfan Ddementia ym Mochdre, sy’n ffynhonnell wybodaeth, cefnogaeth ac yn rhywle i wneud ffrindiau newydd.
Sut y gallwn wella
- Mae recriwtio i’r timau wedi bod yn heriol, a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ceisio denu ymgeiswyr mewn sawl ffordd, megis mynychu ffeiriau recriwtio, hyrwyddo ein swyddi gwag mwn siopau lleol a gweithio gyda Thîm Marchnata Conwy i greu ffilm.
- Rydym wedi derbyn adborth drwy’r arolwg defnyddiwr gwasanaeth ynglŷn â’r diffyg dewis o ran amser ar gyfer cefnogaeth. Yn wahanol i gefnogaeth hirdymor, ni ddarperir y gwasanaeth ailalluogi yn ystod slotiau amser arbennig, oni bai bod angen gweinyddu meddyginiaeth ar amser penodol.
- Ar y cyfan, mae’r ymateb gan unigolion, eu teuluoedd a’r staff cysylltiedig wedi bod yn rhagorol. Mae’n amlwg fod pobl yn teimlo bod ganddynt lais, dewis a rheolaeth dros y ddarpariaeth gwasanaeth lle bynnag y bo modd.
Ein cynllun gweithredu
Rydym yn ymwybodol bod angen i ni ystyried dulliau recriwtio gwahanol i ddenu ymgeiswyr i’n swyddi gwag. Mae arnom ni angen cynnal y ddarpariaeth gwasanaeth a sicrhau fod y staff presennol yn cwblhau’r hyfforddiant a’r cyrsiau gloywi hanfodol i gynnal eu cofrestriad; mae hyn yn gallu bod yn heriol, ond mae staff yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael iddynt.
Mae Conwy a BIPBC yn darparu cyfleoedd hyfforddiant diddorol a gwerthfawr i staff, fodd bynnag, mae cael mynediad at hyfforddiant ar-lein wedi bod yn heriol i’r rheiny nad oes ganddynt fynediad at liniaduron. Gosodir cyfrifiaduron bwrdd gwaith yn y swyddfa, darperir llechi digidol, ac mae ein Tîm Datblygu a Dysgu’r Gweithlu’n gefnogol, ac felly’n sicrhau fod opsiynau cefnogaeth gwahanol ar gael.
Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r llynedd
Rydym wedi mynychu ffeiriau recriwtio i hyrwyddo gwasanaethau cymorth cymunedol fel opsiwn gyrfaol.
Taflu goleuni ar wasanaethau trydydd sector a rhai a ariennir gan grant
Yn yr adran hon, byddwn yn canolbwyntio ar rai o’r partneriaethau sy’n ein helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ein cymunedau.
Mae’r rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg wedi’u llunio i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae’n rhoi pwyslais ar ymyrraeth gynnar, atal, a darparu cymorth i deuluoedd cyfan, yn hytrach nag unigolion. Mae gennym amrywiaeth o raglenni a phrosiectau sydd wedi’u comisiynu i ddarparu cefnogaeth i deuluoedd yng Nghonwy. Caiff y gwasanaethau hyn a gomisiynir eu cynllunio’n ofalus, drwy ymgynghori ac ymgysylltu â’r cyhoedd, a defnyddio ein hasesiadau o anghenion lleol.
Cefnogaeth i Deuluoedd yng Nghanolfannau Teuluoedd Conwy
Mae gennym bump o Dimau Cefnogi Teuluoedd yng Nghonwy, a ariennir yn bennaf gan y grant Teuluoedd yn Gyntaf. Mae rhai o’r rhain wedi’u lleoli mewn Canolfannau Teulu ac yn cefnogi pobl drwy ddarparu:
- Mynediad at wybodaeth a chyngor
- Grwpiau sydd ar agor i bawb
- Grwpiau a chyrsiau wedi’u targedu, er enghraifft, cyrsiau rhianta
- Cefnogaeth un i un gan Weithiwr Teulu
- Mynediad at gefnogaeth arbenigol arall
Mae ein Canolfannau Teulu’n parhau i fod yn ganolbwynt prysur a hanfodol i deuluoedd Conwy, ac maent wedi derbyn 972 o atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth eleni.
Uned Diogelwch Cam-drin Domestig
Rydym yn comisiynu’r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig i weithio â theuluoedd sydd mewn perygl o gamdriniaeth ddomestig, neu sydd wedi profi hynny’n barod. Maent yn cael atgyfeiriadau gan staff ein Canolfan Deuluoedd pan fydd dioddefwr yn rhannu eu profiadau â nhw (gyda’u caniatâd) a hefyd yn darparu sesiynau galw heibio yn y canolfannau i ddarparu man diogel i unigolion siarad gyda staff a chael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.
Mae Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yr Uned Diogelwch Trais Teuluol wedi parhau i weithio’n agos gyda’r Canolfannau Teulu dros y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi datblygu perthynas dda gyda’r ddau wasanaeth yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd. Mae staff Canolfannau Teulu’n parhau i ymgysylltu gyda’r Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd i gael cyngor a chanllawiau ar achosion sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig ac maent yn parhau i weithio gyda’i gilydd ar achosion.
Mae’r Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd wedi parhau i gynnal sesiwn alw heibio wythnosol yng Nghanolfannau Teulu Llanrwst a Bae Colwyn ac yn cefnogi’r clwb babis a’r grŵp chwarae rhieni a phlant a gynhelir yn y canolfannau perthnasol. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd ddod i adnabod y rhieni a’r plant mewn modd anffurfiol, a’u galluogi i adnabod unrhyw arwyddion o gam-drin domestig. Mae’r rhieni’n teimlo’n llawer mwy cyfforddus yn siarad â’r Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd am gamdriniaeth ddomestig, ac yn teimlo llai o stigma. Mae Swyddog Trais Domestig yr Heddlu’n ymuno â’r Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yn gyson a gall pobl mewn perygl dybryd gael mynediad at y gefnogaeth angenrheidiol yn y Ganolfan Deulu. Yng Nghanolfan Deulu Dinorben yn Abergele, mae’r Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yn mynychu’r grŵp Paned a Sgwrs yn y bore. Er mwyn darparu ar gyfer yr ardaloedd yng ngorllewin ac ardaloedd gwledig y sir, cynhelir sesiynau galw heibio symudol mewn lleoliadau gwahanol.
Gweithiodd yr Uned â 258 o gleientiaid yn 2022-23, sy’n dangos mor bwysig yw’r gwaith hwn. Roedd hynny’n cynnwys 202 o sesiynau yn ein Canolfannau Teulu.
TAPE
Rydym yn helpu i ariannu clwb animeiddio a gynhelir gan TAPE, elusen yn Hen Golwyn. Mae’n glwb ieuenctid celf a chyfryngau a gynhelir ar ôl ysgol ar ddydd Mawrth i bobl ifanc rhwng 8 a 18 oed, gyda phwyslais ar gynhwysiant ac anableddau. Mae’n annog y cyfranogwyr i gymryd rhan a chydweithio ac mae hynny’n hybu cydnerthedd personol, sgiliau cymdeithasol, lleferydd ac iaith a pherthnasoedd teuluol. Mae’r clwb animeiddio’n mynd o nerth i nerth a’r aelodaeth wedi tyfu o bymtheg i ugain. Mae llawer o’r cyfranogwyr yn canolbwyntio ar eu prosiectau eu hunain ac yn ystyried dilyn cyrsiau creadigol mewn colegau a phrifysgolion. Bu cryn ddiddordeb yn y clwb, ac er bod y niferoedd wedi cynyddu, mae’r clwb yn parhau i ddarparu man tawel i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Gallant ddewis gweithio ar eu prosiectau eu hunain neu ar y cyd gydag aelodau eraill. Mae’n amgylchedd cymdeithasol, ac mae’r grŵp rheolaidd yn groesawgar ac yn gefnogol iawn i unrhyw aelodau newydd.
Lucy Faithfull
Mae Sefydliad Lucy Faithfull yn darparu addysg a seminarau i godi ymwybyddiaeth rhieni / gofalwyr ynglŷn ag atal camdriniaeth rywiol, wedi’i dargedu’n benodol at anghenion rhieni sydd â phlant ag anableddau. Mae dychwelyd i sesiynau wyneb yn wyneb ar ôl y pandemig Covid-19 wedi bod yn anodd, ond mae LFF wedi gwneud eu gorau i ddarparu rhagor o sesiynau drwy’r Canolfannau Teulu.
Cafwyd ymateb rhagorol a dywedodd y rhieni nad oedd syniad ganddynt am rai o’r materion a godwyd cyn iddynt ddod i’r sesiynau. Soniodd y cyfranogwyr hefyd bod eu teuluoedd yn fwy cydnerth yn dilyn y sesiynau.
Cefnogodd Lucy Faithfull 106 o ddefnyddwyr gwasanaeth mewn 23 o sesiynau yn 2023.
Gwasanaeth Profedigaeth Cruse
Mae’r prosiect hwn yn darparu cefnogaeth mewn galar i bawb, gan gynnwys teuluoedd a phlant. Blaenoriaeth strategol y sefydliad yw cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl sydd wedi cael profedigaeth a’u cefnogi i helpu eu hunain.
Mae Cruse yn darparu cefnogaeth ar draws ein Canolfannau Teulu drwy ddatblygu sesiynau grŵp am fagu plant a chefnogi plant a phobl ifanc, ynghyd ag ehangu gwasanaethau 1:1 cyfredol ar gyfer oedolion sydd â chyfrifoldebau teuluol, plant a phobl ifanc. Maent hefyd wedi datblygu cysylltiadau â thimau Canolfannau Teulu ac wedi sefydlu cysylltiadau gyda sefydliadau eraill sy’n gweithio o fewn y canolfannau.
Mae’r teuluoedd wedi nodi bod eu lles emosiynol a meddyliol wedi gwella a bod eu teuluoedd yn fwy cydnerth o gael y gefnogaeth. Cefnogodd CRUSE 205 o deuluoedd dan y contract hwn yn 2023.
RELATE Cymru
Mae ein contract â Relate yn sicrhau darpariaeth gwasanaethau cwnsela am berthnasoedd am ddim i deuluoedd yng Nghonwy sy’n derbyn budd-daliadau neu’n ddi-waith. Bydd cwnselwyr arbenigol yn helpu pobl i fyfyrio ynghylch eu perthnasoedd eu hunain, boed hynny’n unigol, mewn pâr neu fel teulu.
Mae’r prosiect yn darparu sesiynau cwnsela gyda’r nod o gael ymarferydd Relate Cymru mewn lleoliad cymunedol am 3-4 awr yr wythnos, am 26 wythnos y flwyddyn.
Mae ein Canolfannau Teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill o fewn yr Awdurdod Lleol yn atgyfeirio teuluoedd at y gwasanaeth. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau at y gwasanaeth eleni yn dilyn problemau yn sgil y pandemig.
Cefnogodd RELATE 78 o ddefnyddwyr gwasanaeth mewn 360 o sesiynau yn 2023.
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr
Rydym yn comisiynu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i gefnogi plant/pobl ifanc sydd ag anableddau a’u teuluoedd drwy gynnig gweithgareddau a grwpiau, i’r teulu cyfan ac mewn amgylcheddau ar wahân, i fodloni anghenion unigol aelodau’r teulu. Bu’r galw am y gwasanaeth yn cynyddu’n raddol gydol y flwyddyn ac mae mwy o deuluoedd yn holi am gefnogaeth.
Mae’r ymddiriedolaeth yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anableddau, eu rhieni, eu brodyr a’u chwiorydd drwy gynnal grŵp gweithgareddau i blant rhwng 4 a 12 oed a sesiynau un i un. Darperir hyn mewn sesiynau wythnosol ac yn ôl y galw.
Mae’r sefydliad wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal personol i blant a phobl ifanc ac felly mae’n gallu cynnig yr un gwasanaeth i blant ag anghenion iechyd difrifol; gall staff roi meddyginiaeth a darparu unrhyw ofal personol angenrheidiol. Mae llawer o’r plant sydd wedi cymryd rhan wedi ymddwyn yn eithaf heriol ac wedi methu â chael mynediad at wasanaethau eraill. Bu’r ymateb gan rieni’n gadarnhaol.
Amcanion y prosiect yw:
- Cefnogi’r uned deulu gyfan
- Atal y teulu rhag chwalu
- Cefnogi plant ag anghenion lefel uchel
- Integreiddio plant ag anableddau
- Canolbwyntio ar ymyrraeth ataliol neu gynnar a chynnig cyngor a chyfeirio at wasanaethau lle bo angen
- Cydraddoldeb gwasanaeth am ddim i deuluoedd
- Cyfeirio at asiantaethau eraill megis y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm o Amgylch y Teulu, a derbyn atgyfeiriadau
- Darparu o leiaf 60 grŵp cefnogi teuluoedd (pro rata ar gyfer cyfnod y cytundeb lefel gwasanaeth o 7 mis)
- Darparu o leiaf 800 awr o gefnogaeth un i un tymor byr drwy o leiaf 260 o sesiynau (pro-rata eto) i ategu at ac annog ymgysylltiad yn y gweithgareddau grŵp
Bu i Ymddiriedolaeth y Gofalwyr gefnogi 330 o ddefnyddwyr gwasanaeth mewn 80 sesiwn grŵp a 46 sesiwn un i un.
Portage
Defnyddiwn gyllid Dechrau’n Deg i gomisiynu Gwasanaeth Portage y Cyngor i weithio â theuluoedd Dechrau’n Deg yn eu cartrefi. Mae Portage yn ddull o gefnogi plant a theuluoedd y mae modd ei addasu a’i ddefnyddio’n effeithiol yn y cartref a lleoliadau addysg y blynyddoedd cynnar i’w helpu i ddatblygu ansawdd bywyd a chreu profiadau lle gallant ddysgu gyda’i gilydd, chwarae gyda’i gilydd, cyfranogi a bod yn rhan o’r gymuned. Mae’r Gweithiwr Portage Arbenigol, y mae’r grant hwn yn ei ariannu, yn fedrus wrth hybu cerrig milltir datblygiadol plant ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ogystal â rhoi’r grym i rieni ddal i addysgu sgiliau sylfaenol heb weithwyr proffesiynol drwy weithgareddau chwarae.
Bu’r tîm Portage yn cefnogi 22 o deuluoedd Dechrau’n Deg yn 2022-23.
Home-Start
Drwy Dechrau’n Deg, rydym yn darparu cyllid i Homestart Conwy i gyflogi Trefnydd Cefnogaeth i Deuluoedd. Mae Homestart yn rhwydwaith cymunedol lleol o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n gallu darparu cefnogaeth arbenigol i helpu teuluoedd â phlant ifanc drwy gyfnodau heriol. Mae’r rôl hon yn galluogi Homestart i gynnig cefnogaeth magu plant i deuluoedd Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf. Mae’r Swyddog Cefnogi Teuluoedd yn hwyluso ac yn rheoli’r cynnig sesiynau cymorth i deulu o fewn eu cartref, gyda’r nod o wella anghenion iechyd, cymdeithasol ac amgylcheddol y teulu, ynghyd ag ethos Dechrau’n Deg drwy annog teuluoedd sy’n gyndyn o ymgysylltu â’r gwasanaeth Dechrau’n Deg i gymryd rhan. Mae hefyd yn ymestyn y gallu i ddarparu ymateb parhaus i deulu Dechrau’n Deg yn dilyn atgyfeiriad.
Mae’r Swyddog Cefnogi Teuluoedd (ynghyd â’r Rheolwr Dechrau’n Deg) yn cydlynu cefnogaeth i’r teulu a atgyfeiriwyd yn seiliedig ar eu hanghenion unigol/priodol, gyda’r diben penodol o annog cyfranogiad yn y gweithgareddau a gynigir gan y prosiect Dechrau’n Deg. Bydd gwirfoddolwyr a gaiff eu dyrannu i’r teuluoedd yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth lle bo angen i’w paratoi ar gyfer bob agwedd o’u rôl o fewn y teulu.
Mae’r Swyddog Cefnogi Teuluoedd hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth recriwtio’r gwirfoddolwyr i ddarparu’r gefnogaeth i deuluoedd Dechrau’n Deg. Maent yn helpu Rheolwr y Cynllun i hyfforddi gwirfoddolwyr i’w paratoi ar gyfer eu rôl o fewn y teulu. Caiff y gwirfoddolwyr eu monitro, eu goruchwylio a’u cefnogi gan y Swyddog Cefnogi Teuluoedd. Daw’r holl wirfoddolwyr o’r gymuned leol ac mae’n ofynnol iddynt gwblhau cwrs hyfforddiant/cynefino cyn iddynt ddechrau gweithio â theulu neu gymryd rhan mewn gwaith grŵp. Mae gofyn i wirfoddolwyr gael Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu dau eirda. Mae’r cwrs gwirfoddoli’n para deg o sesiynau ac yn cynnwys modiwlau ynglŷn â diogelu, cyfrinachedd, anabledd a chyfle cyfartal, ac ati. Mae gwirfoddolwyr yn cynnig cefnogaeth i’r teulu yn unol â’r asesiad cychwynnol ar sail anghenion, a gan ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn yr atgyfeiriad at Dechrau’n Deg.
Mae rhieni a phlant yn elwa o gefnogaeth wirfoddol un i un ac yn cael eu hannog i fynychu gweithgareddau grŵp lle byddant yn cyfarfod yn gymdeithasol gyda rhieni a phlant eraill mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel.
Darparodd Homestart gefnogaeth ychwanegol i 142 o blant Dechrau’n Deg yn 2022-23. Fe wnaethant recriwtio a hyfforddi deunaw o wirfoddolwyr ychwanegol a gynhaliodd 162 o ymweliadau â chartrefi teuluoedd.
Cynllun Cymorth Cyn Ysgol Conwy
Mae’r contract hwn yn ein galluogi i gefnogi plant cyn oedran ysgol ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd, fel sy’n briodol, fel y gallant integreiddio â’u cyfoedion lle bo modd a chael dewis o gyfleoedd chwarae cyn ysgol cynhwysol.
Mae’r Cydlynydd yn gweithio a meithrin cyswllt â darparwyr gofal plant, gweithwyr proffesiynol o amryw asiantaethau a rhieni/gofalwyr plant 2-3 oed ag anghenion ychwanegol gyda’r nod yn y pen draw o roi’r gefnogaeth angenrheidiol i’r plant hynny fel y gallant integreiddio’n effeithiol â’u cyfoedion mewn lleoliadau cyn ysgol. Gan ddefnyddio cyllid arall, gallant hwyluso darpariaeth gweithiwr cefnogi ychwanegol mewn lleoliadau cyn ysgol, lle bo angen, drwy ddarparu cyllid i’r lleoliad tuag at gyflogi’r gweithiwr.
Mae’r Cydlynydd yn gweithio’n agos gyda Chanolfannau Teulu Conwy, Tîm Gofal Plant Dechrau’n Deg a’r Tîm Blynyddoedd Cynnar. Maent hefyd yn sicrhau fod bob teulu’n ymwybodol o’r gefnogaeth ehangach sydd ar gael gan Ganolfannau Teulu. Maent yn targedu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi a/neu blant ag anableddau.
Mae’r Tîm yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill i godi ymwybyddiaeth o’n gwaith gyda phlant ag anghenion ychwanegol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys asiantaethau cymorth gofal plant megis Blynyddoedd Cynnar Cymru, Mudiad Meithrin, lleoliadau gofal plant unigol, Canolfan Datblygu Plant Conwy, Gwasanaethau Addysg (Blynyddoedd Cynnar), Dechrau’n Deg, gweithwyr proffesiynol Iechyd a’r Tîm Safonau Ansawdd a Chomisiynu. Daw’r mwyafrif o atgyfeiriadau naill ai gan y Ganolfan Datblygu Plant neu ddarparwyr gofal plant unigol.
Mae adborth gan rieni’n dangos yr effaith mae derbyn cefnogaeth yn ei gael ar y plentyn a’r teulu, ac roedd bob un ohonynt yn ddiolchgar o’r gefnogaeth. Mae adborth gan weithwyr proffesiynol yn dangos bod y gwasanaeth yn elfen werthfawr o’r dull amlasiantaeth i ddarparu ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i’r plant ifanc hyn a’u teuluoedd.
Darparodd y Cynllun gefnogaeth ychwanegol i 48 o blant Dechrau’n Deg yn 2022-23.
Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r llynedd
Mae ein proses fonitro ac adolygu yn llawer cryfach ers creu’r Tîm Grantiau Gofal Cymdeithasol. Mae’r broses hon eisoes wedi nodi nifer o welliannau o fewn y gwasanaeth ac yn darparu trosolwg a sicrwydd llawer gwell ar gyfer uwch dimau rheoli.
Sut y gallwn wella
Rydym yn parhau i fonitro’r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a gomisiynir i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion lleol ac yn cyd-fynd ag amcanion y grantiau amrywiol i’w hariannu nhw. Caiff unrhyw newidiadau gofynnol eu llywio gan adborth a dderbynnir gan ddefnyddwyr gwasanaeth, staff, partneriaid a budd-ddeiliaid. Mae Rheolwyr Adain ein Canolfannau Teulu’n asesu ansawdd y ddarpariaeth yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion lleol, ac yn sicrhau fod unrhyw waith ddatblygu’n cael ei gwblhau â chefnogaeth y Timau Grantiau a Chomisiynu.
Ein cynllun gweithredu
Caiff bob gwasanaeth a gomisiynir eu hadolygu’n rheolaidd. Rydym wedi ail-gomisiynu contractau a oedd dros dair oed eleni i sicrhau ein bod yn cyflawni gwerth am arian, a bod gwasanaethau’n darparu ar gyfer anghenion newidiol y boblogaeth yng Nghonwy.
Wrth symud ymlaen, rydym yn gobeithio adolygu pob contract i sicrhau eu bod yn alinio â’r canlyniadau ar gyfer Conwy a’r grantiau sy’n eu hariannu.