Mae’r adran hon yn adrodd yn erbyn y pedwar prif faes yn y Fframwaith Gwella Perfformiad: Pobl, Atal, Partneriaeth ac Integreiddio a Lles. Bydd pob adran yn cynnwys sylwebaeth sydd â’r nod o ateb pedwar cwestiwn hunanasesu.
Mae’r hunanasesiad yn asesiad drwy werthuso, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth fel data perfformiad, ymchwil ac arolygon.
Pobl
- Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal gyda llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
- Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy’n cael cefnogaeth ac sy’n gweithio tuag at weledigaeth a rennir.
Cynyddu ein cynnig i bobl awtistig a niwrowahanol
Yn ein hadroddiad y llynedd fe ddywedom
wrthych ein bod yn recriwtio Swyddog Arweiniol Awtistiaeth ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych. Mae Jeni Andrews bellach yn y swydd ac mae hi wedi bod yn canolbwyntio ar:
- Datblygu a chydlynu cynlluniau gweithredu Cod Ymarfer Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) sydd wedi’u gwerthuso’n annibynnol; gwelwyd fod Conwy’n gwneud cynnydd da.
- Gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am awtistiaeth drwy greu gwe-dudalen bwrpasol mewn cydweithrediad â phobl awtistig yn unol â’r dyletswyddau o dan y Cod Ymarfer. Yn ychwanegol, mae cyfeiriadur lleol o weithgareddau a phrosiectau cysylltiedig ag awtistiaeth.
- Ail-sefydlu cyfarfodydd rheolaidd o’r grŵp budd-ddeiliaid ASC amlasiantaeth sy’n cael ei gadeirio gan riant ofalwr.
- Datblygu gwasanaethau i gefnogi pobl niwrowahanol drwy gais lwyddiannus am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil penodol i niwrowahaniaeth ac ar gyfer swyddi a hyfforddiant.
- Datblygu prosiectau a gweithgareddau yn ymwneud yn benodol ag awtistiaeth yn yr ardal leol, yn cynnwys ailsefydlu proses ar gyfer cyllido.
Fe ddywedom wrthych hefyd bod y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi lansio dau fodiwl hyfforddi: Deall Awtistiaeth a Deall Cyfathrebu Effeithiol ac Awtistiaeth. Mae’r modiwlau ar gael ar blatfform e-ddysgu’r Awdurdod Lleol ac er nad ydynt yn orfodol maent wedi cael eu hyrwyddo drwy amrywiol sianelau i annog staff mewnol a darparwyr allanol i fewngofnodi a chynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Hyd yma mae 94 aelod o staff Conwy wedi dilyn y modiwlau a byddwn yn parhau i’w hyrwyddo a’u hymwreiddio yn ein timau.
Mae grŵp tasg a gorffen datblygu’r gweithlu sy’n ymwneud yn benodol ag awtistiaeth wedi’i ddatblygu ar draws Conwy a Sir Ddinbych i helpu i wneud cynnydd gyda’r dyletswyddau o dan y Cod Ymarfer awtistiaeth. Mae wedi dynodi’r amrywiaeth o hyfforddiant awtistiaeth sydd wedi’u cynnig hyd yma a nifer y staff sydd wedi’u hyfforddi; bydd y grŵp yn canolbwyntio ar ddadansoddiad o anghenion hyfforddiant awtistiaeth.
Rydym wedi comisiynu hyfforddiant prosesu synhwyraidd, yn cynnwys y Profiad Realiti Awtistiaeth, a hyfforddiant integreiddio synhwyraidd sydd wedi’i anelu at Therapyddion Galwedigaethol. Mae dros 150 o bobl wedi manteisio ar y Profiad Realiti Awtistiaeth yn ystod y cyfnod adrodd hwn, yn cynnwys staff timau CBSC a MIND Conwy, a rhieni sydd â chysylltiadau â’r pum Canolfan Teuluoedd. Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru’n cael ei ddefnyddio i gaffael amrywiaeth o hyfforddiant Niwrowahaniaeth uwch i staff a theuluoedd; mae hyn yn cael ei gydlynu mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector lleol.
Sut y gallwn wella
Byddwn yn parhau i yrru gwelliannau a datblygiadau yn eu blaen i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a niwrowahaniaeth yng Nghonwy. Byddwn yn ystyried gwneud y modiwlau hyfforddiant yn orfodol, fel y maent mewn Awdurdodau Lleol eraill, ac yn mynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau a gwybodaeth o ganlyniad i gymhlethdodau cynyddol cysylltiedig ag unigolion niwrowahanol.
Gwyddom fod oedi mewn asesiadau diagnostig yn achosi rhwystredigaeth i bobl awtistig a’u teuluoedd, yn aml nid ydynt yn sicr o le na sut i gael cymorth cyn-diagnosis. Rydym yn gobeithio y bydd ein cyfres o weithgareddau wedi’u cynllunio’n dechrau chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl awtistig a niwrowahanol rhag cael y gefnogaeth briodol, yn cynnwys:
- Hyrwyddo e-ddysgu ymhellach i staff mewnol ac allanol.
- Dadansoddiad o anghenion hyfforddiant awtistiaeth i hysbysu blaenoriaethau
- Sesiynau ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn digwyddiadau cyflogaeth i ddod, ynghyd â digwyddiad cyflogaeth niwrowahanol penodol posibl.
- Gwell gwybodaeth, cyngor a chymorth gyda diagnosis a chysylltiadau gwell â gwasanaethau diagnostig.
- Prosiectau penodol i awtistiaeth sy’n cefnogi pobl cyn diagnosis.
Ailstrwythuro ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Y llynedd fe ddywedom wrthych y byddem yn adolygu’r strwythur staffio yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy er mwyn darparu gwell gwasanaeth a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau statudol ac egwyddorion arfer gorau. Rydym wedi dechrau adolygu ac ailstrwythuro rolau a chyfrifoldebau staffio a fydd yn arwain at adnoddau digonol i sicrhau trosolwg, cyngor, cymorth ac arweiniad proffesiynol.
Sut y gallwn wella
Mae trefniadau staffio dros dro wedi bod yn eu lle ers bron i ddwy flynedd ac nid ydynt yn gynaliadwy bellach. Yn dilyn adborth o broses arolygu ar y cyd ddiweddar rhwng Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc ac Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi, gan ystyried hefyd les cydweithwyr a recriwtio a dal gafael ar staff, roedd angen brys am strwythur rheoli parhaol i gynyddu capasiti. Yn ogystal â chefnogi gwell gwasanaeth, bydd y strwythur newydd yn cynyddu ein gallu i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol a phartneriaeth allweddol, yn erbyn y gwelliannau sydd wedi’u hamlygu yn yr arolwg.
Mae arnom angen strwythur rheoli cadarn sy’n edrych tua’r dyfodol i’n cefnogi drwy greu rolau ymarferwyr arbenigol arweiniol i ddarparu ein cynllun gweithredu ac i gyflawni’r gwaith sy’n angenrheidiol i wella dull o weithredu drwy bartneriaeth yn ein gwasanaeth.
Un o amcanion ein tîm rheoli ar gyfer y dyfodol yw gallu darparu cymorth rheoli a throsolwg rhagorol i staff y gwasanaeth a’r bartneriaeth ehangach, yn ogystal a darparu data cyfredol a dadansoddiad o berfformiad ac angen. Byddwn yn ceisio creu systemau sy’n cynhyrchu data ar yr adeg iawn i’r bobl iawn ac yn edrych ar sut y gall yr agenda digidol ddylanwadu ar rannu gwybodaeth, gan helpu i gefnogi’r gwasanaeth, y bwrdd rheoli a’r bartneriaeth ehangach.
Ein cynllun gweithredu
Drwy sefydlu strwythur rheoli newydd, gwell a chyflwyno rôl Rheoli Gwybodaeth i’r gwasanaeth, byddwn yn creu mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gan gefnogi’r bwrdd rheoli a staff i ddatblygu prosesau mwy effeithiol a syml. Fel rhan o’n rhaglen ailstrwythuro dau gam byddwn yn:
- Cefnogi trosolwg rheolwyr drwy alluogi datblygiad rolau Rheolwr Gweithredol pwrpasol, i arwain ar atal, ymyrraeth statudol drwy orchymyn llys, a gwaith partneriaeth ehangach. yn ogystal â manteision y rôl Rheoli Gwybodaeth, i gefnogi ein blaenoriaethau sefydliadol.
- Byddwn yn alinio ymarfer â chread rolau ymarfer arbenigol, i arwain ar themâu fel rhianta, ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio rhywiol a throseddol, gyda chysylltiad agos â meysydd ymarfer perthnasol i ymyrraeth gynnar, atal, ymyrraeth y tu allan i’r llys a statudol.
Mae cam un yr ailstrwythuro wedi dechrau. Cytunodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid â’r cynigion i ailstrwythuro’r trefniadau rheoli yn ei gyfarfod ar Ebrill 2024, ac mae hyn yn mynd drwy ein prosesau adnoddau dynol. Unwaith y bydd cam un wedi’i gwblhau a’r rheolwyr yn eu lle, bydd cam dau yn cynnwys alinio ac adolygu’r rolau staff presennol i hwyluso cread y rolau arweiniol i fynd i’r afael ag amrywiaeth o themâu.
Cofnodi ‘Llais y Plentyn’
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn casglu adborth gan blant mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:
- Holiaduron hunanasesu sy’n cael eu cwblhau gan y plentyn ac ar wahân gan eu rhiant, gofalwr neu warcheidwad ar ddechrau, wrth adolygu ac ar ddiwedd gorchmynion, sy’n cael eu defnyddio i gasglu data i helpu i hysbysu asesiad ac i ddatblygu cynllun ymyrryd sy’n cael ei greu gyda’r plentyn.
- Arolygon Mind of My Own i gasglu adborth cyffredinol gan y plentyn ar ansawdd y gwasanaethau maen nhw’n eu cael gennym ni, yn cynnwys amseroldeb, lleoliad y ddarpariaeth ac a wnaeth y gwasanaethau wahaniaethi ddyn nhw.
- Cynnwys plant mewn cynhyrchu gwybodaeth a thaflenni dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth gan ddefnyddio iaith sy’n addas ar gyfer plant.
- Gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru i sicrhau ein bod yn cydymffurfio’n llwyr â deddfwriaeth ac egwyddorion arfer gorau; byddwn yn dynodi hyrwyddwr hawliau plant o fewn y gwasanaeth i fentora staff ac arwain ar ddatblygu a gwella cyfranogiad.
- Cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o recriwtio a dethol staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Sut y gallwn wella
Rydym yn cydnabod bod arnom angen gwella cysondeb adborth gan blant a’r defnydd ohono i wella darpariaeth gwasanaeth ac i roi gwybodaeth reolaidd i staff a’r Bwrdd Rheoli Strategol. Er mwyn symud pethau yn eu blaen, rydym yn awyddus i ddatblygu a sefydlu prosesau adborth gwell am mwy ymatebol er mwyn hwyluso a deall, o safbwynt pobl ifanc, beth y gellid ei wneud i wella eu profiad. Rydym yn awyddus i adolygu’r prosesau canmol a chwyno ar gyfer plant a phobl ifanc i sicrhau bod un o Reolwyr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ymateb i’r holl faterion a godir, er mwyn hwyluso a datblygu dysgu a hyrwyddo datblygiad parhaus. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cydgasglu adborth ac yn adrodd i Fwrdd Rheoli Lleol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn flynyddol.
Ein cynllun gweithredu
Yr ydym wedi sefydlu gweithgor bach i wella strwythurau a phrosesau rhoi adborth am y gwasanaeth, ac yn gwneud cynnydd cyson. Cytunwyd ar Strategaeth Gyfranogi ac Ymgysylltu newydd a’i chyflwyno i’r Bwrdd Rheoli, ac rydym ar hyn o bryd yn ymwreiddio egwyddorion y Strategaeth ym mhob agwedd o ymgysylltiad y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gyda phlant a phobl ifanc. Mae ein nod o ddynodi Cefnogwr Hawliau Plant wedi’i oedi o ganlyniad i drefniadau rheoli dros dro a’r diffyg capasiti staffio o fewn y gwasanaeth yn sgil hynny.
Er gwaethaf hyn rydym wedi ceisio ymgysylltu â phlant a phobl ifanc eleni wrth ddatblygu’r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid. Yn dilyn trafodaeth gyda’r rhai hynny sy’n agored i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, cytunwyd ar restr o feysydd i ganolbwyntio arnynt, a chynhaliwyd arolwg ymysg plant a phobl ifanc er mwyn cael eu safbwyntiau am y prif flaenoriaethau. Defnyddiwyd eu safbwyntiau i siapio’r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid a blaenoriaethau ar gyfer y tîm am y flwyddyn i ddod.
Mae gennym hefyd enghreifftiau pellach o adborth yn cael ei ddarparu i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gyda hynny wedi arwain at newid neu ddatblygiad. Drwy amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu dywedodd pobl ifanc eu bod eisiau cymorth ychwanegol gyda gweithgareddau cadarnhaol oherwydd yn aml iawn nid ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn mynd i ddarpariaeth mynediad agored. Mewn ymateb sefydlodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid raglen o weithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol a thros yr haf i ymgysylltu â, a chefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, roedd hyn hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth yn ystod yr wythnos. Nodwyd angen clir am y gefnogaeth hon, ac rydym ar hyn o bryd wrthi’n trafod gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid yr angen am Weithiwr Ieuenctid penodol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i arwain a chefnogi pobl ifanc i gael mynediad at weithgareddau cadarnhaol.
Defnyddio’r ap Mind of My Own
Mae Mind of My Own yn system ar y we/ap sy’n cynnig ffordd ychwanegol i blant a phobl ifanc ymgysylltu â’r gweithwyr yn eu bywydau a rhannu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Yn strategol rydym wedi bod yn defnyddio Mind of My Own (MOMO) i wella’r broses adolygu ar gyfer plant sy’n byw gyda gofalwr maeth, er ei fod hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd cadarnhaol eraill ar draws y gwasanaethau plant.
Yr hyn sy’n hanfodol bwysig wrth sicrhau ymgysylltiad effeithiol gyda’r amrediad ehangaf bosib o bobl ifanc yw hyblygrwydd, a gwneud hynny yn y ffordd sydd orau ganddyn nhw. Rydym hefyd eisiau cynnig y dulliau diweddaraf o gyfathrebu, ac mae MOMO yn un ohonyn nhw.
Roedd adborth gan bobl ifanc a fynychodd grŵp ymgynghori yn 2023 yn awgrymu nad yw’r rhan fwyaf eisiau adolygiadau wyneb yn wyneb felly mae platfform fel MOMO yn ffordd ddelfrydol iddyn nhw rannu eu safbwyntiau.
Defnyddir yr ap yn fwyaf aml ar gyfer paratoi ar gyfer cyfarfod/adolygiad, yna adolygiadau gan ofalwyr maeth, datrys problemau cyffredinol (lle gall unigolyn ifanc rannu unrhyw beth sy’n peri pryder gyda’u gweithiwr a gofyn am help), yn ogystal â datganiadau ‘dyma fi’ a ‘fy lles’ sy’n rhoi ciplun a mewnwelediad defnyddiol i fywyd yr unigolyn ifanc. Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer hysbysu prosesau asesu ac adolygu parhaus.
Mae’r ap wedi bod yn ennill ei blwyf yn ara’ deg gyda 95 o bobl ifanc a 163 o’n gweithwyr wedi creu cyfrif iddyn nhw eu hunain.
Mae cyfleoedd i gefnogi plant a phobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr wedi digwydd yn y sesiynau Lleisiau Uchel rheolaidd, sydd wedi cynnwys gwahoddiad estynedig i deuluoedd plant ag anableddau. Caiff gofalwyr maeth hefyd eu cefnogi i ddod yn fwy cyfarwydd â’r ap drwy foreau coffi gofalwyr maeth rheolaidd. Mae tudalen Mind of My Own ar y fewnrwyd ac erthygl ar y wefan ‘Camau Bach, Dyfodol Disglair’ sy’n hyrwyddo’r ap. Cynhelir cyfarfodydd gweithredol misol gyda chynrychiolwyr o dimau allweddol (yn cynnwys cynrychiolydd gofalwyr maeth) i rannu datblygiadau, adborth i/gan dimau, a mentrau i hyrwyddo’r ap ar draws y gwasanaeth. Cynhyrchir ffeithlun misol a’i rannu drwy gyfarfodydd tîm i amlygu defnydd a’r gweithwyr hynny sydd wedi gwneud y defnydd mwyaf ohono. Mae Mind of My Owen yn eitem sefydlog ar raglen cyfarfodydd pob tîm.
Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r llynedd
- Mae sesiynau hyfforddi wedi’u cynnal ar gyfer staff.
- Bydd y Tîm Maethu’n datblygu eu blychau croeso ar gyfer plant sy’n dod i ofal pan fydd y Swyddog Recriwtio newydd wedi’i benodi.
- Mae cysylltiadau wedi’u gwneud gyda’r grŵp gofalwyr maeth.
- Mae’r canolfannau teuluoedd wedi datblygu strategaeth ymgynghori sydd yn awr yn cynnwys Mind of My Own fel teclyn i helpu i gael mewnwelediad i bersbectifau’r plant.
Sut y gallwn wella
Er gwaethaf y defnydd cadarnhaol o Mind of My Owen, mae teimlad y gallai mwy o staff wneud defnydd ohono gyda’r plant a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio â nhw. Mae’n rhaid cydnabod fodd bynnag mai dim ond un teclyn yn y pecyn cymorth ehangach yw Mind of My Own a bod ymarferwyr yn ymgysylltu â phobl ifanc ar eu telerau eu hunain ac yn unol â’u hoffterau nhw.
Ein cynllun gweithredu
Bydd arolwg i geisio adborth staff am Mind of My Own yn rhoi mewnwelediad pellach i helpu i wneud y mwyaf o fanteision posibl yr ap. Mae’r Tîm Teuluoedd Integredig Lleol yn gweithio ar draws Conwy a Sir Ddinbych ac yn helpu teuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl ifanc hyd at 18 oed yn y cartref. Byddant yn dechau manteisio o ddefnyddio Mind of My Own yn fuan.
Sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael llais
Mae Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar anghenion pobl ag anableddau dysgu yn yr ardal a chafodd ei ddatblygu ar y cyd â’r chwe chyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl sy’n bwysig iddyn nhw, cafodd gweledigaeth ei hamlinellu:
Mae llais a rheolaeth unigolion dros gyflawni canlyniadau sy’n eu helpu nhw i sicrhau eu lles eu hunain yn hanfodol bwysig ac yn ganolog i’w gofal. Yng Nghonwy rydym eisiau i’r holl wasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu helpu i wneud i hyn ddigwydd, ac fel rhan o’r nod hon, ochr yn ochr â’n partneriaid, rydym wedi comisiynu cymorth gan North Wales Flyers (grŵp cyfranogiad Gogledd Cymru) o Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu, Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.
Mae’r Ymgynghorydd Hunan-eiriolaeth Rhanbarthol yn hyrwyddo dealltwriaeth o hunan-eiriolaeth ar draws y rhanbarth gan annog unigolion ag anableddau dysgu i fod yn rhan o rwydwaith hunan-eiriolaeth Gogledd Cymru. Maen nhw’n cefnogi’r contract gyda’r sefydliadau a restrir uchod i ddarparu The Flyers sydd wedi’u comisiynu i sicrhau cyfranogiad ystyrlon ar gyfer pobl ag anableddau dysgu mewn materion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r rôl hefyd yn darparu cymorth gwirioneddol angenrheidiol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dechrau, cymryd rhan yn a datblygu grwpiau hunan-eiriolaeth yng Nghonwy. Mae’r contract The Flyers yn amlinellu’r hyn maen nhw am i’r contract ei wireddu a’r hyn y bydd yn galluogi’r grŵp i’w wneud.
- Rhoi mwy o lais i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru a sicrhau bod rhywun yn gwrando arnynt a bod rhywbeth yn cael ei wneud ynghylch yr hyn maen nhw’n ei ddweud.
- Rhoi lle i drafod materion lleol pwysig a chefnogi’r naill a’r llall.
- Gwneud yn siŵr fod pobl ag anableddau dysgu yn gwybod beth yw eu hawliau ac yn cael eu trin gyda pharch ac yn gyfartal.
- Dweud wrth y cynghorau, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau eraill beth yr ydym ei eisiau ac ysgogi newid.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau a phobl eraill ar draws Gogledd Cymru.
- Siarad am faterion fel cludiant, rhianta, byw’n annibynnol, newidiadau i fudd-daliadau a theimlo’n ddiogel ac ymgyrchu i wella pethau drwy gysylltu â’r bobl gywir.
- Datblygu’r grŵp fel ei fod yn ariannol ddiogel ac yn cael ei redeg yn dda.
Mae’r rôl wedi helpu i fynd i’r afael â than-gynrychioliad pobl ag anableddau dysgu yn rhanbarthol drwy helpu dinasyddion, a’r bobl sy’n eu cefnogi, i ddeall pwysigrwydd hunan-eiriolaeth, eu grymuso i gael eu lleisiau wedi’u clywed, eu helpu nhw i leisio a mynegi eu pryderon, a darparu llwybr clir drwodd at y rhai hynny a fydd yn gallu eu cefnogi i fynd i’r afael â’r pryderon hynny. Yn ôl y Cadeirydd:
- Mae mwy o bobl yn dod i’r grŵp erbyn hyn ac mae’r rhai sy’n mynychu yn teimlo’n fwy parod i siarad.
- Mae manteision i gynnal y grŵp ar Zoom a wyneb yn wyneb.
- Caiff The Flyers eu cefnogi ymhellach drwy gynrychioliad yn yr ardaloedd sirol.
- Mae bod ag un cydlynydd cyffredinol yn helpu i gynnal cysondeb a pharhad.
- Yn ystod cyfarfodydd does dim rhaid i bobl siarad, nhw biau’r dewis.
- Mae’r cyfarfodydd wedi’u trefnu’n dda ac mae cynrychiolwyr wedi gallu siarad yn uniongyrchol gyda rheolwyr yr Awdurdod Lleol am y pynciau sy’n bwysig iddyn nhw.
- Mae’r grŵp The Flyers bellach yn fwy strwythuredig o ran ei bwrpas ac mae hynny’n rhaeadru i lawr i’r grwpiau hunan-eiriolaeth yn y yr ardaloedd lleol.
- Mae The Flyers wedi gallu rhoi mewnbwn i sut y caiff cyllid Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd ei glustnodi.
Sut y gallwn wella
Wynebwyd heriau yn ystod cyfnod y contract hwn, yn cynnwys ceisio sicrhau bod holl siroedd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i’r un graddau, paratoi aelodau’r grŵp ar gyfer y cyfarfod, trefnu cludiant i’r cyfarfodydd, rheoli’r gyllideb a marchnata’r grŵp, fel y gall timau staff a dinasyddion fel ei gilydd gael gwybod beth sydd ar gael, a beth y gallai eu helpu i’w wireddu. Byddai The Flyers wrth eu bodd yn helpu i ddatblygu gwefan ond bydd angen mwy o arian a chefnogaeth i wneud i hynny ddigwydd.
Ein cynllun gweithredu
I liniaru rhai o’r heriau hyn rydym yn gobeithio sicrhau:
- Cyllid parhaus i sicrhau parhad y prosiect a dechrau rhoi cyhoeddusrwydd ehangach iddo.
- Unigolyn cyswllt ym mhob sir i sicrhau llwybrau clir ar gyfer rhannu gwybodaeth; byddai’n rhaid i’r unigolyn hwn fod yn rhywun brwdfrydig sy’n deall pwrpas hunan-eiriolaeth a rôl The Flyers.
- Cynllun datblygu i amlinellu cyfeiriad The Flyers.
- Parhad a datblygiad y swydd Ymgynghorydd Hunan-eiriolaeth Rhanbarthol fel partner cwbl gyfartal yng nghydlyniad y gwasanaethau.
Bodloni anghenion llety pobl ddiamddiffyn
Mae’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi amlinellu ei strategaeth llety i fodloni anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
Er mwyn gwireddu hyn mae’n rhaid i ni ail-bwrpasu tai’r prosiect sydd eisoes ar gael, sydd yn eiddo a rennir nad ydynt bellach yn addas ar gyfer anghenion y gwasanaeth.
Rydym felly wedi gweithio gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru a’n Hadran Tai i roi un eiddo gwag yn ôl fel y gellir ei ddefnyddio’n fwy priodol ar gyfer teulu ag anghenion tai cyffredinol. Mae gwaith wedi’i wneud gyda phreswylwyr i ganolbwyntio ar eu helpu i symud ymlaen, mae un mewn gofal preswyl oherwydd eu hanghenion iechyd corfforol ac mae un yn eu fflat eu hunain gyda chymorth ar y safle.
Sut y gallwn wella
Rhaid cynyddu cydweithredu gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL), ac o bosibl gyda darparwyr cartrefi gofal, i ddatblygu model newydd o lety ‘symud ymlaen’. Byddai angen iddo ddarparu’r amgylcheddau diogel a fforddiadwy y bydd ar defnyddwyr gwasanaeth eu hangen i adeiladu bywydau annibynnol.
Ein cynllun gweithredu
- Cwblhau trosglwyddiad un prosiect tai arall a symud y ddau breswylydd i lety mwy priodol.
- Parhau â’r broses o adolygu Grant Cymorth Tai.
- Datblygu a rhannu ein bwriad o ran comisiynu gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a dod o hyd i atebion cydweithredol ac arloesol.
Datblygu llwybr lles meddyliol gyda’r Bwrdd Iechyd
Ffurfiwyd y Tîm Lles Meddyliol yn ystod y pandemig Covid-19 yn 2020. Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio i sefydlu tîm cryf gyda phrosesau cadarn i fodloni anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth ac i reoli’r galw sy’n tyfu o hyd a chymhlethdod cynyddol cyflyrau iechyd meddwl. Mae’n amlwg iawn bod cynnydd mewn achosion o gelcio a hunanesgeulustod, sydd, mae’n ymddangos, wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig.
Mae’r tîm yn cefnogi 225 o bobl yn uniongyrchol ynghyd â 310 sy’n cael adolygiad statudol a/neu gefnogaeth o ganlyniad i’r cynnydd yn y niferoedd sydd wedi’u dal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn golygu bod ganddynt hawl i ôl-ofal o dan Adran 117, sydd yn gofyn eu bod yn cael eu cadw dan adolygiad parhaus ac yn cael cefnogaeth ariannol.
I feithrin dull cryf o weithio mewn partneriaeth mae’r tîm yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill fel y Gwasanaeth Pobl Hŷn, Tai ac asiantaethau allanol e.e. gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, Prawf, timau iechyd meddwl cymunedol a’r trydydd sector.
Sut y gallwn wella
Rydym eisiau datblygu llwybrau cyfathrebu cryf rhwng Gofal Cymdeithasol a chydweithwyr yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau y gellir cael at y gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn i’r unigolyn e.e. ymateb meddygol neu ofal cymdeithasol. Mae angen ymdriniaeth ar y cyd o ran adolygu achosion 117 fel mater o arfer gorau, yn ogystal â datblygu proses ar gyfer rhyddhau pobl o statws Adran 117 fel sy’n briodol.
Rydym eisiau datblygu gweledigaeth glir, o dan y teitl ‘Y Nod Driphlyg’ ar gyfer y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, sy’n cwmpasu’r Tîm Lles Meddyliol. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at sefydlu proses fesur effeithiol a synhwyrol i ddangos ein gwelliannau a’n harfer da.
Rydym eisiau datblygu mwy o gysylltiadau gyda’r gymuned a’r trydydd sector fel y gellir rhyddhau neu arallgyfeirio defnyddwyr o’r gwasanaethau statudol.
Rydym hefyd eisiau gweld gwelliant parhaus mewn prosesau gweithredol, megis y system ddyletswydd, a rheolaeth achosion Adran 117 a Gofal Iechyd Parhaus a ariennir ar y cyd.
Ein cynllun gweithredu
- Rydym yn sefydlu gweithgor gyda chydweithwyr BIPBC i sicrhau y datblygir llwybrau lleol er mwyn sicrhau parhad gofal, i gydnabod arbenigeddau proffesiynol a hwyluso trosglwyddiad esmwyth rhwng sefydliadau.
- Byddwn yn datblygu perthnasoedd gwaith agosach drwy gyfarfodydd ymgynghori wythnosol gyda’r gwasanaethau plant, eto i sicrhau trosglwyddiad didrafferth o’r gwasanaethau plant i’r gwasanaethau oedolion.
- Rydym yn parhau i ddarparu ac esblygu sesiynau galw heibio i helpu staff Mind Conwy i fod yn rhagweithiol yn y broses atgyfeirio ac i gamu unigolion i lawr i ddarpariaeth trydydd sector.
Byddwn yn parhau i ddatblygu a chywreinio cynllun gweithredu i ddiwallu’r Nod Driphlyg, er enghraifft drwy gynnal yr arolwg boddhad defnyddwyr gwasanaeth eto, rhannu holiadur boddhad staff, casglu a defnyddio mwy o astudiaethau achos, a sicrhau bod data perfformiad yn dylanwadu ar berfformiad.
Yn ôl at y Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid
Ym mis Ebrill 2023 cyhoeddwyd yn genedlaethol y byddai’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) yn cael eu gohirio am gyfnod amhenodol (tu hwnt i oes y senedd hon). Er bod y mesurau’n dal wedi’u hysgrifennu yn Neddf Galluedd Meddyliol (diwygiad) 2019, nid oes dyddiad ar gyfer eu rhoi ar waith. Fel awdurdodau lleol eraill mae Conwy wedi bod yn gweithio tuag at weithredu’r model newydd hwn felly rydym wedi gorfod ail-ymgynnull, adolygu ac ail-addasu gwaith o dan fodel presennol y Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid.
Mae egwyddorion yr LPS a’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ehangach yn parhau i fod yn berthnasol. I baratoi ar gyfer gweithrediad arfaethedig yr LPS roedd yn rhaid darparu hyfforddiant ac ymwreiddio athroniaeth ac egwyddorion y Ddeddf o fewn y tîm DoLS/LPS ac ar draws Gofal Cymdeithasol .Nid oedd yr amser a dreuliwyd ar yr LPS yn amser wedi’i wastraffu.
Byddai cyflwyniad yr LPS wedi dod â phawb sydd angen awdurdodiad DoL o dan un broses gyffredin i’w hawdurdodi’n fewnol. Yn hytrach, rydym wedi gorfod mynd yn ôl at y broses ddeuol flaenorol. Ar un llaw mae gennym y broses awdurdodi DoLS fewnol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn cartrefi gofal. Ar y llaw arall mae gennym y broses o wneud cais i’r llys ar gyfer pobl sydd mewn unrhyw leoliad arall (y broses DoL gymunedol). Mae rhestrau aros ar gyfer y ddau.
Sut y gallwn wella
Lleihau Rhestrau Aros
Bydd y tîm DoLS yn parhau i flaenoriaethu’r rhestr aros. Bob mis caiff cyfuniad o’r atgyfeiriadau mwyaf brys a’r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf eu clustnodi. Mae’r rhestr aros yn un dreigl gan na all atgyfeiriadau barhau am fwy na 12 mis ac wedi hynny rhaid eu hail-wneud yn gyfan gwbl. Dylid nodi hefyd bod gan y tîm DoLS bob amser fwy o atgyfeiriadau’n dod i mewn bob mis nag y gall eu cau. Ym mis Rhagfyr 2022 roedd 245 ar y rhestr aros. Ym mis Rhagfyr 2023 roedd 185 ar y rhestr aros.
Er bod rhestr aros mae yna fodel gwasanaeth a phroses wedi’i diffinio’n glir ar gyfer yr achosion hyn. Nid yw’r broses ar gyfer achosion DoL cymunedol wedi’i diffinio mor glir, a’r disgwyliad oedd y byddai’r LPS yn datrys hyn ac yn dod yn fodel ar gyfer awdurdodi. Gan nad yw’r LPS yn cael ei gyflwyno rŵan, mae angen gwneud penderfyniad ynglŷn â sut orau i fynd i’r afael ag achosion DoL Cymunedol.
Mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar draws pob gwasanaeth i weld beth yw’r sefyllfa o ran niferoedd achosion DoL Cymunedol a dod o hyd i atebion ymarferol. Un o’r atebion posibl y gellid ei ystyried yw cyflwyno model tebyg i’r LPS, gyda staff rheng flaen yn cwblhau’r prif asesiadau ac Asesydd Lles Gorau Annibynnol yn darparu haen o graffu diduedd ar y gwaith cyn iddo gael ei anfon at y Llys Diogelu. Felly er nad yw LPS yn cael eu cyflwyno rydym yn dal i ddefnyddio’r wybodaeth a gawsom i sicrhau ein bod yn dilyn arfer gorau.
Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r ôl groniad o achosion DoLS ac i helpu i edrych ar yr achosion DoL cymunedol, cyflwynwyd achos busnes ar gyfer pedwar Aseswr Lles Gorau ychwanegol a chyllid i ddarparu’r asesiadau meddyg ychwanegol. Gobeithir y bydd canlyniad hyn yn hysbys yn gynnar yn 2024.
Hyfforddiant a Datblygu
Ganol 2023 sefydlwyd amserlen hyfforddi ar gyfer cartrefi gofal. Mae’r tîm DoLs yn awr yn rhoi hyfforddiant mewn parau i ddau gartref gofal y mis. Hyd yma mae sesiynau hyfforddi wedi’u cyflwyno i ddeg cartref gofal a chafwyd adborth cadarnhaol. Y nod yw ennill gwybodaeth, rhoi gofal o safon, diogelu hawliau pobl a datblygu perthnasoedd cadarnhaol.
Mae’r sesiynau amser cinio hyn wedi’u cyflwyno i reolwyr ac uwch ymarferwyr ar draws Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae sgwrs hefyd wedi’i rhoi i Therapyddion Galwedigaethol (ThG) ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol a materion ataliaeth perthnasol i DoL sy’n ymwneud â nhw.
Rhoddir cefnogaeth reolaidd i staff gan dimau eraill sydd yn ymgymryd ag asesiadau galluedd cymhleth. Er enghraifft rhoddwyd cymorth mewn tri achos cymhleth yn yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r tîm DoLs yn parhau i ddatblygu ei sylfaen sgiliau a gwybodaeth ei hun. Mae hyfforddiant gloywi gwybodaeth o’r gyfraith blynyddol yn ofyniad cyfreithiol i gynnal cymhwyster Aseswr Lles Gorau. Ers mis Ebrill 2023 mae pob aelod o staff wedi mynychu o leiaf ddau sesiwn diwrnod llawn yn ogystal a nifer o weminarau a sesiynau byrrach am ddim. Er mwyn ceisio cwrdd â her achosion DoL cymunedol, mynychodd y tîm hyfforddiant penodol ar hyn ym mis Ionawr 2024.
Mae taflenni gwybodaeth wedi’u eu datblygu i gefnogi gwaith y timau DoLS ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau. Maen nhw’n berthnasol i’r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, Amddifadu o Ryddid Cymunedol a hefyd yr hawl i Gynrychiolydd Unigolyn Perthnasol (eiriolwr). Mae’r rhain wedi’u cynhyrchu’n ddwyieithog a hefyd fel fersiwn hawdd ei ddarllen.
Mae’r tîm DoLS wedi comisiynu gwaith gan Safonau Ansawdd (Tîm Monitro) i ymgymryd ag ymweliadau â chartrefi gofal i archwilio achosion DoLS, cydymffurfiaeth cartrefi gofal a hefyd i ddynodi unrhyw faterion hyfforddiant neu weithredol perthnasol i DoLS.
Mae’r holl Aseswyr Lles Gorau ar y tîm DoLs wedi ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod ymarfer a gwybodaeth yn gyfredol. Mae rhagor o hyfforddiant wedi’i gynllunio ar gyfer 2024.
Staffio
Ar ôl cyfnod o newid pan ymddeolodd/adawodd nifer o aelodau hirsefydlog y tîm, mae’r tîm yn awr wedi’i staffio’n llawn. Mae tri asesydd llawn amser (un ohonynt ar secondiad drwy gyllid grant) ac un sy’n gweithio bedwar diwrnod yr wythnos. Mae’r tîm hwn wedi’i reoli gan gydlynydd llawn amser.
Ar hyn o bryd mae gennym un asesydd sy’n rhugl yn y Gymraeg. Rydym yn parhau i weithio’n agos â meddygon sydd wedi cyfrannu at bob asesiad. Mae gennym un meddyg sy’n siarad Cymraeg y gallwn gyfeirio atynt yn gyson. Mae gennym berthynas gadarnhaol dros ben gyda’n prif ddarparwr eiriolaeth (Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych) ac mae ganddynt siaradwyr Cymraeg ymysg eu niferoedd. Mae hyn yn golygu y gallwn gyflawni ein hymrwymiad i’r Cynnig Gweithredol.
Sut i gael gwybod mwy
Os hoffech wybod mwy am y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid ledled Cymru, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyd-gyhoeddi adroddiad monitro ar y defnydd o DoLS yng Nghymru yn ystod 2022-23. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma
Lledaenu Hyfforddiant Ymddygiad Cadarnhaol
Yn adroddiad y llynedd fe ddywedom wrthych am y cyllid sydd ar gael i rai o’r staff Adnoddau Anabledd mewnol i ymgymryd â chymhwyster BTEC achrededig Bae Abertawe mewn Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (CYC). Cytunwyd ar beilot gyda staff allweddol o bob adran o’r gwasanaeth yn naill ai ymgymryd â Thystysgrif Uwch (Lefel 3), Diploma Uwch (Lefel 4) neu Ddiploma Proffesiynol Uwch (Lefel 5) ac yna roi’r dysgu ar waith yn eu maes gwasanaeth.
Barnwyd fod y peilot yn llwyddiannus ar draws y meysydd gwasanaeth, er enghraifft roedd ymddygiadau heriol wedi lleihau ac roedd unigolion wedi ennill sgiliau newydd i’w galluogi i ddweud beth yw eu hanghenion. Fe wnaeth unigolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn fawr ddim gweithgareddau cyn hynny ddechrau coginio, defnyddio offer/peiriannau yn y cartref yn ogystal a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol rheolaidd. Fe wnaeth adborth a gafwyd gan aelodau teuluoedd ategu effaith gadarnhaol yr ymdriniaeth hon:
Mae’r staff yn wych! Rydym yn hapus iawn â’r gwasanaeth. Roedd y cyfathrebu, y cynllunio a’r addasiadau a wnaed yn rhagorol.
Mae’r dysgu o’r peilot wedi ein galluogi i ddechrau lledaenu egwyddorion Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (CYC) i’r gwasanaeth ehangach. Ym Mron y Nant bu modd i staff allweddol roi mewnbwn i ddyluniad yr adeilad a fyddai’n caniatáu i unigolion ag anghenion cymorth ymddygiad cymhleth gael mynediad at wasanaethau mewn amgylchedd sy’n bodloni eu hanghenion, yn enwedig o ran prosesu synhwyraidd. Mae unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau bellach wedi trosglwyddo’n llwyddiannus i’r gwasanaeth dydd cynhwysol ar y safle.
O ran recriwtio, rydym wedi symud at hysbysebion swyddi seiliedig ar werthoedd i ddenu ymgeiswyr gyda’r gwerthoedd a’r sgiliau trosglwyddadwy cywir i weithio gydag ymddygiadau sy’n herio, yn hytrach na’r rhai hynny sydd â phrofiad uniongyrchol. Gwelwyd cynnydd mewn ceisiadau a chafwyd llwyddiant yn recriwtio, sydd yn ei dro wedi galluogi’r gwasanaeth i gynnig mwy o wasanaethau i bobl ag anghenion cymhleth.
Datblygiadau eraill:
- Mae un aelod o staff wedi cwblhau eu cymhwyster Lefel 5 ac o ganlyniad i hynny fe wnaethant ymgymryd ag asesiad swyddogaethol llawn a chynllun CYC ar gyfer un person ag anghenion ymddygiad cymhleth, gan ei gyflwyno mewn sesiwn hyfforddi i’r tîm o staff sy’n gweithio gyda’r unigolyn hwnnw. Mae hyn wedi lleddfu’r pwysau ar y gwasanaethau iechyd.
- Oherwydd bod ganddynt fwy o wybodaeth mae staff yn teimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi pobl ag ymddygiadau cymhleth gan gynnig mwy o weithgareddau a chyfleoedd yn y gymuned iddyn nhw.
- Gwahoddir yr holl ddarparwyr gofal yn y cartref allanol i fynychu’r Fforwm Darparwyr Gofal yn y Cartref Byw â Chymorth misol, ac mae’r swyddog arweiniol CYC wedi mynychu’r fforwm hwn fel siaradwr gwadd.
- Yn dilyn cyflwyniad Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru, mae hyfforddiant mewnol wedi’i ddarparu i’r holl staff Adnoddau Anabledd, ac o ganlyniad i’w lwyddiant mae wedi’i ledaenu i wasanaethau ehangach.
- Mae gofynion hyfforddi CYC yn cael eu mapio ar draws y Gwasanaethau Anabledd i gynyddu dealltwriaeth, lleihau sefyllfaoedd argyfyngus posibl a leddfu’r pwysau ar y gwasanaethau Iechyd.
- Cynhaliwyd trafodaethau gyda Thîm Trawsnewid Anabledd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd i drafod ffynonellau o gyllid i alluogi staff i ennill cymwysterau a’r posibilrwydd y gallai Conwy sefydlu Cymuned Ymarfer.
- Rydym yn edrych ar sut y gall CYC ffurfio rhan o’r broses dendro wrth gomisiynu darparwyr gofal newydd lle bo hynny’n briodol, gan ein galluogi i ddewis y darparwr cywir ar gyfer ein prosiectau byw â chymorth 24 awr.
- Mae staff cymwys wedi cofrestru â Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fel mentoriaid ar gyfer cydweithwyr yng Nghonwy sy’n gweithio i ennill y cymhwyster CYC.
- Mae’r swyddog CYC arweiniol yn mynychu Gwasanaeth Hyfforddiant Aroloesedd a ddarperir gan Gofal Cymdeithasol Cymru gyda’r nod o ddatblygu syniadau i ymwreiddio a newid safbwyntiau diwylliannol o CYC ar draws y gwasanaethau anabledd mewnol ac allanol.
Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r llynedd
O ran cyflawni’r blaenoriaethau a ddynodwyd y llynedd, rydym wedi ymestyn y cymhwyster CYC i staff ac wedi codi ymwybyddiaeth o’r cynllun ymysg aelodau teuluoedd. Byddwn yn parhau i leihau’r angen am leoliadau tu allan i’r sir ac yn dod â phobl yn ôl i Gonwy drwy ddatblygu llety sy’n addas ar gyfer anghenion yr unigolyn. Fe welwch ragor o wybodaeth am ein strategaeth llety yn yr adroddiad hwn.
Sut y gallwn wella
O safbwynt gwelliannau mae angen i ni ddarparu pecynnau hyfforddi CYC wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer teuluoedd yn hytrach na defnyddio dull ‘mae un maint yn ffitio pawb’. Mae’n rhaid i ni hefyd weithio gyda darparwyr allanol i’w hannog i ddefnyddio CYC a lleihau arferion cyfyngol; er gwaethaf ein gweithgaredd ymgysylltu mae’r ymateb a gafwyd wedi bod yn gyfyngedig. Mae’r amser sydd gennym i fentora cydweithwyr sy’n gweithio tuag at eu cymhwyster CYC hefyd yn gyfyngedig oherwydd pwysau amser.
Ein cynllun gweithredu
Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf yn cynnwys:
- Cyfarfod gwasanaethau iechyd i ddeall sut y gall CYC fod yn fenter ar y cyd.
- Sefydlu Cymuned Ymarfer Conwy gyda budd-ddeiliaid allweddol o dimau mewnol a darparwyr a sefydliadau allanol.
- Cynyddu nifer y staff â chymwysterau CYC er mwyn iddynt allu mynd ymlaen i fentora eraill a lleihau’r pwysau ar y rhai sydd eisoes yn fentoriaid.
- Staff allweddol yn cael eu hyfforddi i fod yn Hyfforddwyr er mwyn ymwreiddio newid mewn diwylliant.
- Datblygu arbenigedd mewnol o ran gweithio gydag ymddygiadau sy’n herio drwy Gynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a Chymorth Gweithredol.
- Cyd-gynhyrchu pecynnau hyfforddi gyda theuluoedd.
Hyfforddiant Prosesu Synhwyraidd
Rydym wedi gweld nifer cynyddol o geisiadau am ymyrraeth ar gyfer plant a phobl ifanc â heriau prosesu synhwyraidd. Yn y gorffennol Therapydd Galwedigaethol yn uned pediatreg y Bwrdd Iechyd Lleol fyddai wedi ymdrin â hyn gan roi cyngor cadarn ar gynllunio gofal a dylunio’r amgylchedd ac offer. Pan ddaeth y swydd hon yn wag ni chafodd ei llenwi ac mae hynny wedi gadael bwlch mewn gwybodaeth a gwasanaeth.
Sut y gallwn wella
Oherwydd y galw ychwanegol a’r effaith mae hyn wedi’i gael ar ein tîm Therapi Galwedigaethol Anabledd ein hunain, roeddem yn bryderus nad oedd gan ein tîm yr arbenigedd, y profiad na’r hyfforddiant i bontio’r bwlch ers i’r swydd iechyd fynd yn wag. Cytunwyd felly y byddai hyfforddiant Prosesu Synhwyraidd yn cael ei gomisiynu ac y byddai pump o’r Therapyddion Galwedigaethol yn mynd i sesiwn un diwrnod lle byddai’r canlynol yn cael sylw:
- Deall y systemau synhwyraidd a’r hyn maen nhw’n ei wneud.
- Deall beth sy’n digwydd pan nad yw prosesu synhwyraidd yn gweithio fel y dylai a sut mae hyn yn dangos ei hun.
- Archwilio sut y gallwn gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau prosesu synhwyraidd (APS).
- Archwilio’r cysylltiadau rhwng ASP, trawma ac ADHD.
Roedd adborth gan y rhai a fynychodd yn awgrymu bod yr hyfforddiant yn rhoi trosolwg cyffredinol o’r pynciau perthnasol ond ar lefel sylfaenol iawn. Er ei fod yn fuddiol, nid oedd yn mynd yn agos at ddatblygu’r mathau o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i gwblhau asesiadau ac ymyriadau arbenigol ar gyfer pobl ag anawsterau cymhleth oherwydd problemau prosesu synhwyraidd a fyddent yn flaenorol wedi cael eu darparu gan gan ddeiliad y rôl arbenigol yn BIPBC.
Ein cynllun gweithredu
Mae Rheolwr Adain y tîm yn ymwybodol o hyd o’r bwlch yn y gwasanaeth ac wedi gofyn am fynegiannau o ddiddordeb gan ymarferwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes hwn. Bydd angen trafodaethau ar pa fath o hyfforddiant a datblygiad fyddai’n angenrheidiol a sut y byddai hyn yn cael ei hwyluso a’i gomisiynu ar y camau cynharaf. Efallai y byddwn yn ei gweld yn fuddiol gweithio gyda chydweithwyr ThG yn y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn sydd hefyd yn debygol o dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer pobl ag awtistiaeth ac anawsterau prosesu synhwyraidd.
Cyd-gynhyrchu gyda phobl sy’n gadael gofal
Un o’r egwyddorion allweddol ein Tîm o Ymgynghorwyr Personol yw y dylid cyd-gynhyrchu lle bynnag bosibl gyda’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio â nhw er mwyn iddyn nhw allu dylanwadu ar y gwasanaeth maen nhw’n ei gael. Yn ddiweddar fe wnaethom greu gwefan wedi’i dylunio’n benodol, o’r enw Camau Bach, Dyfodol Disglair i roi gwybodaeth berthnasol i bobl ifanc sy’n gadael gofal yng Nghonwy. Er mwyn cael adborth ar y wefan fe wnaethom ddosbarthu arolwg.
Roedd y canlyniadau’n dangos bod 62% o’r ymatebwyr yn defnyddio’r wefan yn llai aml nag unwaith y mis, ac mae’r mwyafrif yn ei defnyddio i gyflwyno ceisiadau am grant Dydd Gŵyl Dewi sy’n darparu cyllid ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal. Fe wnaethom hefyd ofyn am sylwadau ar gynnwys a fformat y wefan a syniadau ar sut i wella. O’r ymatebion a gafwyd, roedd yr adborth yn bennaf gadarnhaol.
Mae’r categoriau hyn yn ddefnyddiol iawn i mi, mae’r safle’n wych fel mae o.
Dwi’n eu gweld nhw’n ddefnyddiol iawn i fy helpu i ddod o hyd i’r hyn dwi angen ac maen nhw wedi’u trefnu’n berffaith felly mae pawb yn gallu dod o hyd i beth maen nhw ei angen.
Mewn ymateb i beth arall fydden nhw’n hoffi ei weld ar y wefan fe wnaethant awgrymu:
Cyngor ar gyfer byw
Gallai’r safle fod o help i bobl ifanc eraill pe bai gwybodaeth am sut i fyw yn eu cartref eu hunain e.e. defnyddio boeler, prisiau dŵr ac ynni a sut i dalu, sut i arbed arian ar filiau ynni.
Fforwm ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal i ofyn am help er mwyn i bobl ifanc eraill yn yr un sefyllfa allu helpu? Fel cyfaill ar-lein sy’n gwybod beth maen nhw’n mynd drwyddo.
Rhifau cyswllt pwysig: Shelter Cymru, Tai Gogledd Cymru, elusen dyledion Step-Change, llinell genedlaethol atal hunanladdiad ac ati.
Mae’r tîm hefyd yn defnyddio’r arolwg i gael gwybod beth fyddai’r bobl ifanc yn ei hoffi ar gyfer Wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal. Roedd consensws am dripiau allan a gweithgareddau nad ydynt yn aml yn gallu eu profi na’u fforddio a’r cyfle i ddod at ei gilydd yn anffurfiol. Mewn ymateb, rydym wedi neilltuo cyllid grant i gynnig y cyfleoedd hynny ac rydym yn mynd i fynd â nhw ar dripiau i’r sinema, Sw Bae Colwyn a Zip World, yn ogystal â mynd allan i Hickory’s am fwyd a chael prydau bwyd drwy Just Eat. Mae’r tîm hefyd wedi sefydlu cyfarfodydd anffurfiol mewn lleoliadau diogel lle gall y bobl ifanc sgwrsio a dal i fyny dros bizza.
Sut y gallwn wella
Mae cynnwys y wefan yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n gyson ac rydym wedi cynnwys yr awgrymiadau a gafwyd yn yr ymatebion i’r arolwg, yn enwedig ers yr argyfwng costau byw, i roi cyngor a gwybodaeth ar lle i fynd am gyngor ynglŷn â chostau rhedeg cartref. Roedd y wybodaeth gyswllt bwysig eisoes wedi’i darparu; mae dros hanner cant o ddolenni at amrywiaeth o asiantaethau cymorth, sy’n awgrymu bod angen gwella gosodiad y wefan i wneud pethau’n fwy amlwg ac yn haws i ddod o hyd iddynt.
Byddai cynyddu nifer y defnyddwyr ac amlder yr ymweliadau â Camau Bach, Dyfodol Disglair hefyd yn un o’r nodau ar gyfer gwelliant, fel y byddai rhoi mwy o reolaeth i’r bobl ifanc dros ddatblygu’r wefan eu hunain, er enghraifft drwy ysgrifennu blogiau, dod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol a chadw’r gosodiad yn ffres ac yn ddiddorol.
Ein cynllun gweithredu
- Creu fforwm a arweinir gan gymheiriaid fel bod cynnwys y wefan yn cael ei gyd-gynhyrchu gan y bobl ifanc.
- Cyd-gynhyrchu’r digwyddiad Wythnos Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal fel ei fod yn ystyrlon ac yn ymatebol i’r unigolion hynny.
Ymgysylltu â phobl sy’n gadael gofal
Y llynedd fe wnaethom siarad am gyflwyno model ymarfer newydd ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac enwebu unigolion i gymryd rhan yn yr ymchwil. Ers i’r ymchwil ddechrau rydym wedi cynnwys 20 o bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru ac mae wyth ohonynt o Gonwy. Rydym wedi cynnal grwpiau ffocws a grwpiau llywio ar gyfer pobl ifanc a’r bobl broffesiynol sy’n gweithio efo nhw. Yng Nghonwy hyd yma rydym wedi recordio dau bodlediad sydd ar gael ar Spotify; mae’r cyntaf yn cynnwys trafodaeth rhwng pobl sy’n gadael gofal am eu profiadau ymgysylltu, ac unrhyw rwystrau y maent wedi’u hwynebu, ac mae’r ail yn canolbwyntio ar adborth ar yr ymchwil hyd yma.
Sut y gallwn wella
Mae’r holl bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect ymchwil wedi cael cyfleoedd i drafod yr hyn maen nhw’n feddwl sydd ei angen arnynt ar eu siwrnai drwy’r gwasanaethau a’r pethau sydd neu sydd ddim wedi gweithio iddyn nhw. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i helpu Awdurdodau Lleol i ddatblygu gwasanaethau sydd yn ystyrlon ar gyfer y bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw ac yn darparu sylfaen o ran ymagwedd ac adnoddau i wella’r ffordd y mae pobl ifanc sy’n gadael gofal yn ymgysylltu yn y gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn.
Ein cynllun gweithredu
Mae hwn yn brosiect dwy flynedd felly mae’n rhy fuan i ddweud os bydd angen unrhyw welliannau, fodd bynnag gallwn fod yn sicr bod pobl ifanc yn cael llais ac yn cael eu clywed.
Dyma rai ffigyrau am bobl sydd wedi gadael gofal:
Mae’r dangosyddion perfformiad hyn yn anelu at fesur pa mor dda yr ydym yn cefnogi’r plant yr ydym yn darparu gofal ar eu cyfer wrth iddyn nhw symud tuag at adael y gwasanaethau gofal.
Y Tîm Gofalwyr
Dyma rai ffigyrau am ofalwyr:
Mae’r metrigau Llywodraeth Cymru hyn wedi’u dylunio i gofnodi data am ofalwyr y gwasanaethau cymdeithasol sy’n ymwneud â chysylltiadau ac asesiadau. Mae’r wybodaeth yn fodd pwysig o fonitro maint, llif a’ galw ar y gwasanaeth
Yng Nghonwy rydym yn ffodus i fod â Thîm Gofalwyr sy’n cynnwys tri Swyddog Gofalwyr llawn amser. Maen nhw’n cefnogi unigolion o 18 oed sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae ein system dyletswydd yn sicrhau bod gofalwyr yn cael siarad â swyddog, yn absenoldeb eu gweithiwr enwebedig, am gyngor ac arweiniad uniongyrchol Mae partneriaid a budd-ddeiliaid eraill wedi rhannu adborth cadarnhaol am y gwasanaeth a ddarperir i’r tîm a’r rhan annatod y mae’n ei chware o ran lles a rhoi cefnogaeth i’n dinasyddion.
Rydym yn hyrwyddo ac yn rhannu gwybodaeth ar gyfer gofalwyr gyda’n hasiantaethau partner i hyrwyddo’r hawl i ofalwyr wneud cais am asesiad annibynnol ar gyfer y cymorth priodol. Enghraifft o hyn oedd yn ystod yr Wythnos Gofalwyr a’r Diwrnod Hawliau Gofalwyr pan oedd ein Swyddogion Gofalwyr a’n Swyddogion Taliadau Uniongyrchol ar gael i gynnig cyngor a gwybodaeth fel rhan o’r ymgyrch ehangach i gydnabod rôl hollbwysig gofalwyr yng Nghonwy.
Sut y gallwn wella
Ni chwblhawyd unrhyw arolygon ffurfiol ers y pandemig Covid-19 Fodd bynnag mae adborth ymarferwyr o’u gwaith uniongyrchol gyda Gofalwyr yn ein helpu ni i werthuso darpariaeth gwasanaeth ac yn amlygu meysydd lle mae angen gwella, ac yn dangos yr angen i ehangu’r gwasanaeth i adlewyrchu rôl arwyddocaol y gofalwr di-dâl a’u hangen am gydnabyddiaeth a chefnogaeth.
Ein cynllun gweithredu
Bydd arolwg cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn 2024 a fydd yn adnabod gwelliannau a chyfleoedd datblygu pellach.
Pobl: Adborth ar ein perfformiad
Adborth gan staff
Ddwywaith y flwyddyn rydym yn gofyn i staff o’n gwasanaethau gofal yn y cartref a phreswyl ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau ynglŷn â’u profiadau yn y gweithle a’r gefnogaeth y maent yn ei chael i gyflawni eu rolau, a beth yw eu barn am eu heffeithlonrwydd eu hunain wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn a phobl ag anableddau yng Nghonwy. Mae peth o’r adborth a gawsom ym mis Awst a mis Medi 2023 i’w weld isod.
Staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy sesiynau goruchwylio un i un rheolaidd a hyfforddiant parhaus i gyflawni eu rolau’n hyderus. Mae’r holl staff ar draws y timau yn teimlo eu bod nhw, fel tîm, yn gwrando ar yr unigolion maen nhw’n eu cefnogi ac yn sicrhau eu bod nhw’n gallu gwneud dewisiadau am eu bywydau. Fel unigolion, mae staff gofal yn y cartref yn amlwg yn deall pwysigrwydd rhoi’r unigolyn wrth galon cynllunio eu gofal, cefnogi eu hiechyd a’u lles a pharchu eu safbwyntiau a’u dymuniadau.
…….canolbwyntio ar yr unigolyn, gwrando ar yr hyn maen nhw eisiau a gwneud ein gorau i gyflawni eu dymuniadau.
Rydw i’n gwrando ar unrhyw bryderon sydd gan gleientiaid ac yn eu codi gyda rheolwyr neu deuluoedd os oes angen, ac yn eu hannog i ddweud sut yr hoffent i’w gofal gael ei ddarparu.
……gwrando ar a gweithredu ar yr hyn mae unigolion yn ei ddweud wrthym. Rydym yn eu cefnogi gydag apwyntiadau Iechyd, yn annog ffyrdd iach o fyw ac yn hyrwyddo annibyniaeth fel bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau.
Yn yr un modd, o safbwynt diogelu, roedd 100% o’r staff a ymatebodd yn cytuno eu bod yn cefnogi unigolion i aros yn ddiogel a’u bod yn eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae sylwadau ychwanegol yn awgrymu bod staff mewn cytgord â’r unigolion maen nhw’n eu cefnogi, a’u bod yn sylwi’n gyflym os oes unrhyw newid yn eu hymarweddiad neu eu hymddygiad ac yn gallu meithrin digon o ffydd fel bod yr unigolyn sy’n derbyn gofal yn teimlo’n barod i siarad am unrhyw broblemau y gallant fod yn eu profi. Mae hyfforddiant diogelu cadarn yn cyfrannu at hyn, fel y mae polisïau a gweithdrefnau clir i staff eu dilyn.
……chwilio am arwyddion o unrhyw gamdriniaeth a bod yn ymwybodol o unrhyw newid mewn ymddygiad. Gwneud iddynt deimlo y gallant ymddiried ynom ni, ein bod yn hawdd dod atom ac y gallwn helpu.
Rydym yn dilyn yr asesiadau risg sydd wedi’u sefydlu ac yn rhoi gwybod i’n rheolwyr am unrhyw bryderon iechyd a diogelwch neu bryderon eraill. Rydym yn mynychu ac yn cadw i fyny â hyfforddiant diogelu ac yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn y modd priodol. Rydym yn dod i adnabod yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi, yn sylwi ar unrhyw newidiadau ac yn gwrando arnyn nhw.
Yn ogystal â gofyn iddyn nhw ddweud beth mae eu gwasanaeth yn ei wneud yn dda, gofynnir i staff hefyd adnabod unrhyw welliannau y gellid eu gwneud. Rhywbeth sy’n codi dro ar ôl tro yw’r angen i recriwtio mwy o staff parhaol a chynyddu capasiti. Fel y trafodwyd mewn rhan arall o’r adroddiad, mae recriwtio i lawer o rolau yng Ngofal Cymdeithasol, yn cynnwys gofal a chymorth rheng flaen, yn her barhaus. Rydym yn aml yn dibynnu ar staff asiantaeth i lenwi swyddi ac yn cael trafferth denu ymgeiswyr.
Er gwaethaf teimlo’n brin o staff ar adegau, mae staff rheng flaen yn mwynhau eu swyddi a’r boddhad maen nhw’n ei gael o ddarparu gwasanaeth effeithiol. Pan ofynnwyd i bobl beth yw’r rhan o’r rôl maen nhw’n eu hoffi fwyaf, dywedwyd:
Gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth a gweld y plant yn rhyngweithio efo fi ydi’r teimlad gorau.
Bob dim, dwi’n deffro bob bore efo gwên ar fy wyneb ac yn edrych ymlaen at ddod i’r gwaith.
Bod yn falch o fod yn rhan o dîm llwyddiannus a chefnogi unigolion diamddiffyn gydag anghenion cymhleth gan wybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth.
Adborth budd-ddeiliaid
Rydym hefyd yn gofyn ddwywaith y flwyddyn i fudd-ddeiliaid am eu barn nhw ar ein gwasanaethau gofal cartref mewnol a’n cartref preswyl, Llys Elian. Cydweithwyr yw’r rhain sy’n asesu ac yn cyfeirio unigolion at ein gwasanaethau rheng-flaen ac sy’n gweithio mewn timau gwaith cymdeithasol, cymdeithasau tai, y sector gwirfoddol a lleoliadau iechyd. Rydym yn holi ynglŷn ag ansawdd y gwasanaethau, ein prydlondeb mewn delio ag ymholiadau ac am enghreifftiau o waith partneriaeth effeithiol.
O ran gwasanaethau rheng-flaen, roedd 100% yn teimlo ein bod yn gwrando ar yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei gael a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Mae sylwadau ychwanegol yn cydnabod y cyfyngiadau ar adnoddau’r tîm, ond hefyd yn cydnabod yr hyblygrwydd a’r atebolrwydd a ddangosir i gyflawni dyheadau’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Tîm cefnogol iawn ac rydym bob amser yn cael adborth cadarnhaol gan gleifion.
Mae’r tîm bob amser yn agored i sgwrs am anghenion unigolion ac yn ceisio addasu’r gwasanaeth er mwyn gallu ymateb iddynt.
Eto, nodir prinder staffio yn aml iawn fel rhwystr rhag darparu mwy o wasanaethau neu rhag gallu rhoi pecynnau gofal at ei gilydd yn gyflym. Fodd bynnag mae tystiolaeth glir o waith traws sefydliadol effeithiol boed hynny drwy gyfarfodydd clwstwr, dros y ffôn neu dros e-bost.
Adborth defnyddwyr gwasanaeth
Dyma rai ffigyrau am y gwasanaeth:
Nod y mesurau hyn yw cofnodi a monitro’r gwasanaethau a ddarperir i oedolion fel y nodir yn eu cynllun gofal a chymorth. Mae’r mesurau hyn, yn ogystal â mecanweithiau adrodd eraill yn ein helpu ni i fonitro’r galw a maint y gwasanaethau a ddarperir.
Cyfanswm y gwasanaethau i oedolion a ddechreuwyd yn ystod y flwyddyn:
Cartref Gofal Oedolion | 351 |
Gofal yn y cartref | 683 |
Gofal Seibiant | 196 |
Fel cartref preswyl ar gyfer pobl â dementia, mae’r lleoliad, lefelau o gysur a’r croeso ar y safle i gyd yn elfennau pwysig o brofiad Llys Elian i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae’r mwyafrif helaeth o fudd-ddeiliaid yn dweud bod y safonau hyn yn rhagorol, gyda 100% yn cytuno bod unigolion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag esgeulustod a chamdriniaeth, bod eu preifatrwydd, eu hurddas a’u cyfrinachedd yn cael eu cynnal a’u bod yn byw mewn amgylchedd cyfforddus sy’n cael ei wneud yn bersonol iddyn nhw. Mae’r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo’u bod yn cael eu croesawu yn ystod eu hymweliad ac y gall staff roi gwybodaeth gywir ac amserol am y bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Mae pawb mor dda a mor barod i helpu, tîm gwych, yn gwneud i bobl deimlo’n gyfforddus, sydd yn ffactor mawr i bob efo dementia.
Mae’n gartref gofal hyfryd a dylai cartrefi gofal eraill ddefnyddio Llys Elian fel enghraifft o sut i greu amgylchedd gwaith gofalgar, caredig ac effeithiol mewn lle sy’n cael ei barchu fel cartref y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, gan ddangos caredigrwydd go iawn i’r preswylwyr, safonau uchel o ofal ac ansawdd.
Rydwi i wedi ymweld (â Llys Elian) nifer o weithiau ac mae’n amlwg bod pwyslais mawr ar ddarparu profiad cadarnhaol i hyrwyddo deilliannau cadarnhaol i bawb. Mae wedi bod yn fraint fawr cael cymryd rhan yn y dyddiau gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan Llys Elian ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, rydym yn gwerthfawrogi’r ymdriniaeth gydweithredol hon.