Mae gofyn i’r bobl rydym ni’n eu helpu am yr hyn sy’n bwysig iddynt yn rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae’r adborth y byddwn yn ei gael yn ein galluogi i weld lle mae angen gwneud gwelliannau i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Eleni, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar adfer yn dilyn pandemig Covid-19, felly nid ydym wedi gallu ymgynghori gydag unigolion cymaint ag yr hoffem ei wneud. Fodd bynnag, fe welwch enghreifftiau o adborth ac arolygon drwy’r adroddiad, dan y safon ansawdd perthnasol.
Cwynion am ein gwasanaethau
Mae’r rhain yn rhoi adborth uniongyrchol i ni gan bobl sy’n cael ein gwasanaethau, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Maent yn tynnu sylw at feysydd lle rydym yn gwneud yn dda, a hefyd lle gallwn ni wella ein harferion. Mae cael cwynion yn golygu y gallwn:
- Eu cydnabod yn gyflym pan rydym yn gwneud camgymeriadau
- Eu hunioni ac ymddiheuro lle bo’n briodol
- Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o gwynion
Oherwydd y ffordd rydym yn adrodd ar gwynion a chanmoliaethau ym maes Gofal Cymdeithasol, rydym yn rhoi crynodeb o’n perfformiad yn ystod 2021-22 i chi.
Er mwyn deall y cyfanswm o gwynion mewn perthynas â’r nifer, ar gyfartaledd, o achosion oedd yn agored yn yr adran, roedd y cyfanswm fel a ganlyn:
- Cafwyd 12 cwyn am Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig allan o tua 3,400 o bobl a gafodd wasanaethau (0.35%)
- Cafwyd 5 cwyn am y Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu allan o tua 900 o blant a phobl ifanc a gafodd wasanaethau (0.55%)
- Cyrhaeddodd cyfanswm o 17 cwyn swyddogol yn ystod y flwyddyn adrodd 2021-22, a chawsont eu cau yn ystod yr un cyfnod.
Roedd yr effaith ariannol ar Gonwy fel Awdurdod Lleol yn £5,426, sy’n uwch na ffigwr y flwyddyn flaenorol sef £4,710. Roedd hyn yn cynnwys penodi ymchwilwyr annibynnol neu bobl annibynnol i gwblhau proses archwilio Cam 2, roedd un ohonynt wedi cael ei wneud yn 2020-21 ond cafodd ei godi eto yn ystod y flwyddyn wedyn.
Mae’r graff isod yn nodi cyfanswm y cwynion ar draws yr adran dros y 5 mlynedd diwethaf:
Mae’r tuedd dros y pum mlynedd ddiwethaf yn dangos dirywiad yn y cyfanswm o gwynion swyddogol a gafwyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, fodd bynnag, cafwyd cyfanswm o 17 cwyn yn 2021-22, cynnydd o un o’r flwyddyn adrodd flaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cwynion ffurfiol a gafwyd mewn perthynas â Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu, gyda chynnydd yn y cwynion mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig.
O’r 17 cwyn a gafwyd, cafodd 15 eu datrys yng Ngham 1 a’r ddau arall yng Ngham 2. Mae hyn yn amlygu’r ymdrech yr ydym yn ei wneud i ddatrys cwynion yn fuan a chyflawni datrysiad mewnol. Cafwyd wyth cwyn am Wasanaethau Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbyty, fodd bynnag, mae ganddynt y nifer uchaf o achosion agored yn yr adran i gyd hefyd, felly mae hyn yn parhau i fod yn ffigwr isel o ran y canran cyffredinol.
Anfonwyd llythyr neu e-bost at yr achwynydd o fewn dau ddiwrnod gwaith yn achos 100% o gwynion Cam 1.
Cwblhawyd 60% o gwynion Cam 1 o fewn y terfyn amser o 15 diwrnod gwaith, sy’n ddirywiad bychan mewn perfformiad o gymharu â’r flwyddyn adrodd flaenorol. Roedd y rheiny na fodlonodd y terfyn amser naill ai’n gymhleth iawn, neu roedd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal dros gyfnod y Nadolig pan roedd y staff ar eu gwyliau.
Cafodd 76% o gwynion eu cyflwyno gan aelodau’r teulu, ac roedd y themâu yn amrywio rhwng trefniadau’r cartref gofal neu ofal gartref, cyfathrebu gwael (neu ddiffyg cyfathrebu), diffyg darpariaeth o gefnogaeth neu ddiffyg gweithredu gan staff.
Dyma’r gwersi mwyaf arwyddocaol a ddeilliodd o’r cwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:
- Mae cyfathrebu’n allweddol ar gyfer pobl sy’n cael gwasanaethau a’u teuluoedd; ac mae rhoi gwybod iddynt yn effeithiol am unrhyw newid mewn amgylchiadau. Mae dychwelyd galwadau ffôn neu’n syml galw pan fo galwad wedi’i gynllunio yn hynod bwysig i sicrhau perthynas waith dda.
- Dilyn i fyny ar gamau gweithredu a gytunwyd arnynt.
- Sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn cael ei darparu mewn modd clir a gohebiaeth ysgrifenedig yn dilyn hynny.
- Sicrhau bod cyswllt yn cael ei drefnu pan fo perthynas rhieni’n chwalu.
- Dylai unigolion gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’u gofal a’r gefnogaeth maen nhw’n ei chael.
- Sicrhau bod dinasyddion yn deall y wybodaeth sy’n cael ei darparu a rheoli disgwyliadau.
Canmoliaeth am ein gwasanaethau
Yn ystod 2021-22, cawsom 122 o ganmoliaethau am Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, a 15 am Wasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu. Bydd natur y gwasanaethau gwahanol yn dylanwadu ar niferoedd, ond mae’n dda nodi bod mwy o ganmoliaethau na chwynion yn cyrraedd! Y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbyty gafodd tua hanner y canmoliaethau.
Rydym yn croesawu canmoliaethau fel ffordd o ddysgu arferion da, ac maent yn ein sicrhau ein bod ar y trywydd cywir.
Newid terminoleg ein Gwasanaethau Plant
Fe sylwch, yn fersiwn Saesneg yr adroddiad hwn, ein bod yn cyfeirio at ‘Children Looked After’, ond yn y blynyddoedd blaenorol, roeddem yn arfer defnyddio’r term ‘Looked After Children’. Mae hyn yn rhan o newid i beidio â defnyddio iaith ‘oeraidd’ oedd yn cael ei ddefnyddio gan bawb o weithwyr cymdeithasol i weision sifil wrth gyfeirio at blant a phobl ifanc yn ein gofal. Yng Nghonwy, mae’r newid hwn wedi cael ei groesawu gan bawb o’r Prif Weithredwr i gydweithwyr sy’n gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal, a’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.
Bydd y newid tôn hwn yn berthnasol i sawl agwedd ar ofal a chefnogaeth plant, gan gynnwys lleoliadau, cyswllt gyda rhieni a gwarcheidwaid, a chyfnodau seibiant. Yn hytrach, bydd termau plaen a syml, mewn iaith bob dydd yn cael eu defnyddio, gan gyfeirio at y cartref, amser teulu a seibiannau byr neu gysgu dros nos. Byddwn yn gwneud ymdrech i ymgorffori’r newidiadau hyn yn ein gwaith papur, sgyrsiau a chyfarfodydd.
Edrychwch ar y fideo a grëwyd gan elusen plant Llais Pobl Ifanc mewn Gofal, sy’n egluro’r rhesymau dros y newid iaith yma.
Ymgysylltu gyda phreswylwyr cartrefi gofal
Eleni, mae ein Swyddog Cyfranogi wedi cysylltu gyda phreswylwyr pedwar cartref preswyl, teuluoedd un cartref nyrsio a thenantiaid y pedwar prosiect tai gofal ychwanegol y mae cymdeithas dai yn berchen arnynt yng Nghonwy. O ganlyniad i’r cyswllt hwn yn y lleoliadau tai gofal ychwanegol, fe wnaethom nodi gwelliannau yn lles nifer o bobl sy’n byw yno, ar ôl y cyfyngiad ar gyswllt cymdeithasol ac ynysu drwy gydol y pandemig. Rhannwyd canfyddiadau gyda’n cydweithwyr Swyddog Cefnogi Partneriaeth, oedd yn gallu sicrhau bod y materion a godwyd gan y preswylwyr mewn un cartref gofal yn cael eu datrys.
Beth oedd yr heriau?
Nid yw pob preswylydd eisiau neu’n gallu cymryd rhan mewn ymarferion ymgynghori, felly rydym yn gofyn i leoliadau fel cartrefi nyrsio ysgrifennu at y teuluoedd i gael eu cefnogaeth. Mewn cartrefi gofal ychwanegol, nid yw pobl sy’n byw mewn fflatiau’n hyderus am y broses, felly mae’r Swyddog Cyfranogi yn ceisio tawelu eu meddwl drwy bwysleisio ei bod yn ddiduedd.
Beth nesaf?
Yn 2023, byddwn yn parhau gyda’n gwaith ymgysylltu a chyfranogiad gyda chartrefi gofal yng Nghonwy i sicrhau bod preswylwyr yn cael dweud eu barn am yr hyn sy’n bwysig iddynt. Rydym hefyd yn cefnogi datblygu cymunedau sy’n gyfeillgar i oed drwy gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a gwirfoddolwyr mewn prosiect therapi hel atgofion newydd.