Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed
Y Dull Gweithredu Safe and Together
Mae’r dull gweithredu Safe and Together wedi’i gyflwyno yng Nghonwy dan arweiniad y tîm Pobl Ddiamddiffyn. Mae’n ddull ymarfer sydd â’r nod o wella’r ffordd y mae systemau lles plant ac ymarferwyr yn ymateb i gam-drin domestig. Mae’r dull yn ymdrin ag achosion o gam-drin domestig sy’n cynnwys plant ar sail patrymau ymddygiad troseddwyr, ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag ymddygiad y camdriniwr yn hytrach na dilyn y patrwm arferol o weld y dioddefwr fel rhywun na fedr amddiffyn eu plentyn.
Cyflwynodd y Safe and Together Institute orolwg o’r dull Safe and Together dros ddeuddydd ym mis Mawrth 2022. Rhoddwyd gwybodaeth i gyfranogwyr am greu system lles plant sy’n ymwybodol o drais domestig, ac esboniwyd egwyddorion a chydrannau’r dull gweithredu. Rhoddwyd rhagflas hefyd o’r fframwaith ar gyfer meithrin cymhwysedd ym maes trais domestig. Bu nifer o asiantaethau partner yn bresennol yn y sesiynau hynny, gan gynnwys yr Heddlu, Addysg, Iechyd a’r Uned Diogelwch Trais Teuluol. Daeth cyfanswm o 110 o bobl. Cafwyd ymateb cadarnhaol dros ben a gofynnodd nifer o asiantaethau partner am gael mynd ymlaen i’r cam nesaf o’r hyfforddiant (Hyfforddiant Craidd). Rhoddwyd blaenoriaeth i ddarparu’r elfen hon o’r hyfforddiant i Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Ymyriadau, a gwnaed hynny ar-lein rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022.
Mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd wedi defnyddio’r dull ymarfer a’r technegau i gyflawni canlyniadau da i blant. Maent wedi ymgysylltu â throseddwyr, dod i ddeall eu patrymau ymddygiad camdriniol ac effaith yr ymddygiad ar blant.
Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol
Mae Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol Conwy yn dal i dyfu. Gydol y flwyddyn rydym wedi gallu croesawu mwy o weithwyr proffesiynol o dimau amrywiol i’r Fforwm, megis y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid.
Beth sydd wedi cael ei wneud?
Mae ein prif waith yn canolbwyntio ar gynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol Llywodraeth Cymru a chreu Llwybr Ymddygiad Rhywiol Niweidiol i bob asiantaeth gael mynediad ato yng Nghonwy. Rydym wrthi’n ceisio sicrhau bod ein gwe-dudalennau a’r fewnrwyd yn cynnig adnoddau effeithiol i weithwyr proffesiynol yn ogystal â rhieni a gofalwyr. Byddwn hefyd yn ymgynghori’n gyson â staff sydd angen cymorth ag achosion cymhleth sydd ag elfennau o gam-drin plant yn rhywiol.
Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud?
Bu modd inni sefydlu grŵp o weithwyr proffesiynol sy’n cynorthwyo â’r cynllun gweithredu cenedlaethol. Mae’r gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar y wefan yn golygu fod gan weithwyr proffesiynol a rhieni adnodd ar-lein yn rhad ac am ddim. Mae’r staff wedi magu hyder a chael cefnogaeth wrth gymryd rhan mewn ymgyngoriadau ynghylch achosion cymhleth o gam-drin plant yn rhywiol.
Beth oedd yr heriau?
Mae gan holl aelodau’r Fforwm ddyletswyddau beunyddiol eraill a gall fod yn anodd sicrhau presenoldeb pawb mewn cyfarfodydd. Bu’n heriol hyrwyddo’r Fforwm. Er inni ddefnyddio amryw gyfryngau cyfathrebu fel newyddlenni a siarad mewn cynadleddau mawr, rhaid oedd gwneud hyn hefyd ar ben ein prif ddyletswyddau.
Beth sydd nesaf?
Byddwn yn gweithio ar fwy o hyfforddiant a hyrwyddo ein gwaith drwy amryw gyfryngau. Byddwn hefyd yn gweithredu’r Llwybr Ymddygiad Rhywiol Niweidiol.
Mynd i’r afael â chamfanteisio mewn partneriaethau
Yn ystod y pandemig gwelsom gynnydd mawr yn nifer y plant y camfanteisiwyd arnynt yn droseddol ac yn rhywiol, neu a wynebodd fygythiad o hynny. Gweithiodd ein Canolfannau i Deuluoedd gydag Addysg, Heddlu Gogledd Cymru, Cyfiawnder Ieuenctid a’r Bwrdd Iechyd Lleol i sefydlu gweithgor bach i fynd i’r afael â’r cynnydd hwn.
- Lluniom fap o’r sir i ddangos ym mha ardaloedd y gwelwyd problemau mynych, gan gyfuno gwybodaeth gan amryw asiantaethau i greu darlun cyflawn.
- Cynhaliom gyfarfodydd amlasiantaethol rheolaidd yng nghyd-destun camfanteisio ar blant, er mwyn rhannu gwybodaeth a hysbysu gwasanaethau o’r datblygiadau diweddaraf.
- Cynhaliom sesiynau ar-lein ym mis Medi 2022 ar gyfer rhieni, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn sôn am ddiwylliant gangiau a llinellau sirol, yng nghwmni Matthew o 1 Message. Bu Matthew’n sôn am ei brofiad o gael ei fagu mewn diwylliant o gangiau a llinellau sirol a sut lwyddodd i gefnu ar y bywyd hwnnw a dechrau cefnogi pobl ifanc eraill i beidio ag ymhél yn yr un diwylliant, neu drawsnewid eu bywydau.
- Ym mis Hydref 2022 bu Matthew’n ymweld â phedair o ysgolion uwchradd i siarad â phobl ifanc, dweud ei hanes ac ateb unrhyw gwestiynau. Rhannodd nifer o bobl ifanc eu profiadau mewn ymateb i hyn, ac maent bellach yn derbyn cefnogaeth.
- Ym mis Hydref hefyd cynhaliom weithdy diogelu ar-lein i rieni. Roedd hynny’n ategu’r sesiynau a ddarparwyd mewn ysgolion, ac rydym yn bwriadu dal i gynnig y sesiynau i rieni yn y dyfodol.
- Hwylusodd Heddlu Gogledd Cymru sesiynau ynglŷn â chamfanteisio mewn Canolfannau i Deuluoedd ledled Conwy er mwyn helpu cymunedau i ddeall yr arwyddion i gadw golwg amdanynt a sut i roi gwybod am unrhyw beth sy’n ymddangos yn rhyfedd neu’n amheus. Byddwn yn dal i ddarparu’r sesiynau hyn mewn cymunedau.
Beth oedd yr heriau?
Fe gymerodd amser i ddod â’r asiantaethau iawn ynghyd, er eu bod oll yn gefnogol ac yn awyddus i gydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth. Bu’n fuddiol canolbwyntio ar graidd bychan o gyfranogwyr wrth gynnal gweithgorau’n gyson, a gwahodd asiantaethau sy’n arbenigo yn y maes dan sylw i bob cyfarfod. Fe’i cawsom yn anodd hefyd i chwalu’r mythau, sicrhau bod y wybodaeth iawn yn cyrraedd cymunedau a’r plant a phobl ifanc mwyaf diamddiffyn.
Beth sydd nesaf?
Byddwn yn dal i gwrdd fel grŵp amlasiantaethol bach i drafod dulliau newydd o fodloni anghenion pobl ifanc yn ein cymunedau, a byddwn yn llunio cynllun ar gyfer darparu’r wybodaeth briodol iddynt. Byddwn yn gofyn i bobl ifanc a’u teuluoedd pa bethau y dymunant wybod mwy amdanynt, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cyngor penodol a pherthnasol.
Byddwn yn ystyried a fyddai ymgyrch debyg i ‘Ask for Angela’ yn addas i blant a phobl ifanc, lle byddant yn gallu galw am help mewn sefyllfaoedd anodd.
Byddwn yn ymgynghori â chymunedau lleol, gan fod ymagwedd gymunedol tuag at atal camfanteisio yn allweddol.
Proses Pryderon Cynnar ac Uwchgyfeirio Pryderon
Cynhaliodd ein Tîm Safonau Ansawdd dros 100 o ymweliadau monitro i gartrefi gofal, darparwyr gofal cartref a sefydliadau byw â chymorth dros y deuddeg mis diwethaf. Cynhaliwyd rhai o’r ymweliadau hyn ar y cyd gyda’n partneriaid ar Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr ac eraill gyda’n timau gwaith cymdeithasol. Pwrpas yr ymweliadau yw adolygu ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, gan roi ystyriaeth i faterion megis staffio, hyfforddiant, diogelu, lles personol ac ansawdd yr amgylchedd. Mae canlyniadau’r ymweliadau monitro hyn yn cael eu rhannu gyda’r darparwr a gyda’n gilydd, os oes angen, rydym yn cytuno ar gynllun gweithredu priodol.
Pob mis rydym yn cynnal cyfarfod ‘cylch ansawdd’ lle bo swyddogion o’n Gwasanaethau Safonau Ansawdd a Diogelu a Gweithwyr Cymdeithasol yn cyfarfod â phartneriaid o BIPBC, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Awdurdodau Lleol cyfagos i rannu gwybodaeth am y gwahanol ddarparwyr yr ydym ni i gyd yn eu comisiynu ac er mwyn cydlynu ein gweithgarwch a’n hymyriadau.
Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi cefnogi pedwar cartref gofal gwahanol drwy’r broses Pryderon Cynyddol. Gweithdrefn ledled Gogledd Cymru yw hon sy’n galluogi Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i weithio gyda darparwyr gofal a gomisiynwyd i ymdrin â meysydd pryder cynyddol ac arwyddocaol. Bu’r tîm Safonau Ansawdd yn gweithio’n agos gyda’r darparwyr hyn, ynghyd â’n partneriaid yn BIPBC ac AGC i sicrhau bod y meysydd pryder yn cael eu datrys a’r safonau’n gwella.
Ynghyd â hyn, mae’r Tîm Datblygu’r Gweithlu a Dysgu wedi parhau i gefnogi’r sector cartrefi gofal a’r sector gofal gartref er mwyn cael hyfforddiant hanfodol, ac yn enwedig dros y deuddeg mis diwethaf, wedi’u cefnogi nhw gyda chofrestru gweithwyr cartrefi gofal preswyl oedolion gyda Gofal Cymdeithasol Cymru drwy aelod penodol o staff.
Beth oedd yr heriau?
Rydym yn parhau i weld ôl-effeithiau pandemig Covid, sy’n cael eu dwysau gan y sefyllfa economaidd fyd-eang a’r argyfwng costau byw. Mae darparwyr gofal yn parhau i frwydro gyda recriwtio a chadw staff, gyda nifer fechan o ddarparwyr yn dibynnu’n sylweddol ar weithwyr asiantaeth, sy’n gallu bod yn gostus iawn ac hefyd, nid ydynt yn darparu’r gofal cyson sydd ei angen. Mae’r argyfwng costau byw wedi golygu cynnydd sylweddol yng nghostau bwyd, gwasanaethau a thanwydd y darparwyr gofal. Ar ôl cael cynrychiolaeth gan y sector gofal gartref am effaith chwyddiant sy’n codi, fe wnaethom y penderfyniad i gynnal adolygiad canol blwyddyn o’n lefelau ffioedd ac fe wnaethom ymgorffori cynnydd bychan yn ein ffioedd cartrefi gofal i gydnabod y chwyddiant ar lefel uwch o 10.1%. Fe wnaethom adolygu ein ffioedd sy’n cael eu talu i ddarparwyr gofal gartref hefyd a defnyddiom arian Llywodraeth Cymru i roi £1 yr awr yn ychwanegol i gefnogi costau tanwydd a staffio cynyddol sy’n effeithio ar y sector hwn.
Beth sydd nesaf?
Rydym yn falch iawn gyda’r ffordd y mae’r prosesau hyn yn gweithio yng Nghonwy a’r bartneriaeth waith sydd gennym gyda BIPBC, AGC a’r darparwyr gofal annibynnol.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad ystyrlon ac ymgysylltu gyda phreswylwyr cartrefi gofal a’u teuluoedd yn barhaus. Rydym wedi cychwyn cynllunio prosiect therapi atgofion newydd ar gyfer 2023, gyda Cyngor Sir Ddinbych a bookofyou.co.uk a fydd yn cynnwys mwy o wirfoddolwyr, preswylwyr a’u teuluoedd wrth greu straeon bywyd gan ddefnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Diogelu
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi mabwysiadu Dull Graddedig gyda phob achos er mwyn gwneud yn siŵr bod ymyriadau yn cael eu teilwra i’r unigolyn, ac yn seiliedig ar asesiad o’u risgiau a’u anghenion. Y canlyniadau arfaethedig yw gostwng y tebygolrwydd o’r unigolyn ifanc yn aildroseddu drwy deilwra dwysedd yr ymyriad yn yr asesiad, a rheoli’r risg o niwed difrifol iddyn nhw eu hunain ac eraill.
Pennod Newydd
Eleni, sefydlwyd ymyrraeth newydd yng Nghonwy i gefnogi teuluoedd sy’n profi ymddygiad ymosodol gan eu plant. Mae camdriniaeth rhwng plentyn a rhiant / gofalwr yn fater sy’n cynyddu, ac er ei fod yn parhau i gael ei guddio ac yn llawn stigma, mae mwy o deuluoedd yn ceisio cymorth.
Buom yn gweithio gyda Dr Ceryl Davies o Brifysgol Bangor i addasu ei rhaglen sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Conwy. Erbyn hyn, mae gennym becyn gwaith gyda llwybr pendant ar gyfer cael cefnogaeth, teclyn sgrinio, templed cynllun diogelwch a rhaglen naw wythnos o ymyriadau sy’n gallu cael ei ddarparu mewn grŵp neu un i un. Erbyn diwedd mis Mawrth 2023, mae mwy nag 80 o staff yng Nghonwy wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno’r ymyriadau gyda rhieni a gofalwyr, a chyda phobl ifanc. Mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol aml-asiantaeth bellach yn gallu cyflwyno’r ymyriadau, gan gynnwys Gweithwyr Teuluoedd, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Therapiwtig, Gweithwyr Ieuenctid, y Tîm TRAC, Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Cam-drin Domestig, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Swyddogion Addysg a mwy.
Enw’r rhaglen yw ‘Pennod Newydd’ i adlewyrchu’r cychwyn cadarnhaol newydd i’r teuluoedd hyn. Cychwynnodd yr ymyrraeth grŵp cyntaf ym mis Mawrth ar gyfer grŵp o rieni a gofalwyr a grŵp o bobl ifanc ar wahân. Mae digonedd o gefnogaeth ar gael i ymarferwyr sy’n defnyddio’r ymyraethau, gyda sesiynau myfyrio rheolaidd gyda Dr Ceryl Davies.
Wythnos Ddiogelu 2022
Cynhaliwyd Wythnos Genedlaethol Diogelu rhwng 14 a 18 Tachwedd 2022 ac unwaith eto fe wnaethom gydlynu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu oedolion a phlant dan fygythiad. Fe wnaethom ddefnydd penodol o sesiynau briffio 7 munud Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, a ddosbarthwyd i staff ar draws holl wasanaethau’r Cyngor bob dydd yn ystod yr wythnos. Bob dydd fe aethom ati i archwilio themâu newydd, megis diogelu mewn chwaraeon, bwlio ar-lein, chwilfrydedd proffesiynol a rheolaeth drwy orfodaeth.
Rydym yn credu bod diogelu yn fusnes i bawb, felly os oes gennych bryderon am unigolyn, rhowch wybod i ni.