Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal
Fforymau Plant ac Oedolion
Mae Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion Conwy bellach wedi ailddechrau cynnal cyfarfodydd wyneb i wyneb yn dilyn pandemig Covid-19. Mae’r aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwaith Adran Gofal Cymdeithasol Conwy ac a fyddai’n hoffi rhannu eu barn eu hunain neu farn unrhyw grŵp cymunedol neu gymdeithasau.
Ailgychwynnodd y Grŵp Loud Voices ar gyfer plant ieuengach sy’n derbyn gofal yn ystod haf 2022, a hwyluswyd gan y Swyddog Adolygu a Diogelu Annibynnol, WCVSC a’r Tîm Safonau Ansawdd. Trefnir cyfarfodydd fesul tymor neu hanner tymor ac maent yn cynnig gweithgareddau yn ogystal ag amser i ymgynghori gyda phlant am destunau fel cyflwyno ap Mind of My Own, a Beth sy’n Gwneud i Mi Deimlo’n Ddiogel yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu.
Ni chynhaliwyd cyfarfodydd wyneb yn wyneb y Grŵp Siapio’r Dyfodol ar gyfer oedolion ifanc yn ystod y pandemig ac ar hyn o bryd, mae Tîm Pobl Ddiamddiffyn Conwy yn cydlynu ymgysylltiad gyda’r rhai sy’n gadael gofal drwy:
- Ddefnyddio Ap Mind of my Own
- Wythnos i’r rhai sy’n gadael gofal gyda phobl ifanc ym mis Hydref
- Gwefan newydd ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal: Camau Bach Dyfodol Disglair
Beth oedd yr heriau?
Y prif her oedd hwyluso cyfarfodydd wyneb yn wyneb unwaith eto, ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i fynychu ar ôl cyfnod estynedig heb unrhyw gyfarfodydd.
Beth sydd nesaf?
Yn ystod 2023, rydym yn bwriadu adolygu ein Strategaeth Gyfranogi ac Ymgysylltu gan gynnwys pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac sy’n mynychu ein fforymau’n rheolaidd.
Gwefan Camau Bach Dyfodol Disglair
Mae’r wefan Camau Bach Dyfodol Disglair ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal yng Nghonwy wedi parhau i dyfu a datblygu. Hyd yma mae 1,779 o ymweliadau â thudalennau, 778 o ymweliadau a 571 o ymwelwyr â’r safle. Mae pobl ifanc yn awr yn gallu gwneud cais i’r Gronfa Dydd Gŵyl Dewi drwy’r wefan, sy’n rhoi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd iddynt. Mae yna hefyd nodwedd i bobl ifanc allu rhoi sylwadau ar bob erthygl a thudalen ar y wefan.
Yn y Tîm Ymgynghorwyr Personol, fe wnaethom lunio prosiect ar gyfer y myfyriwr yn y tîm i gasglu barn y rhai sy’n Gadael Gofal am ddatblygu’r safle ymhellach, syniadau ar gyfer gweithgareddau ar gyfer Wythnos Gadael Gofal a sut maen nhw’n dymuno cysylltu gyda’u Ymgynghorydd Personol. Bu’r wybodaeth a barn y bobl ifanc a gasglwyd yn hynod werthfawr ac mae’n dylanwadu ar sut mae’r tîm yn gweithio.
Beth oedd yr heriau?
Yr her yw dod o hyd i ffyrdd i barhau i ymgysylltu gyda phobl ifanc a chadw eu diddordeb wrth weithredu gwelliannau – heb eu mewnbwn nhw, byddai’n anodd iawn i ni ddatblygu’r gwasanaeth.
Beth sydd nesaf?
Mae gweithio ar y cyd â phobl ifanc yn ymarfer parhaus, yn fuan, byddwn yn anfon arolwg at bobl ifanc mewn perthynas â:
- Beth fyddai pobl yn hoffi ei weld ar y wefan
- Diddordeb mewn cerdded neu weithgareddau eraill mewn grŵp
- Sut mae pobl eisiau dathlu wythnos gadael gofal eleni
Wythnos i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Mae Wythnos Genedlaethol y Rhai sy’n Gadael Gofal yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym mis Hydref, sy’n cynnig cyfle, nid yn unig i amlygu a chanolbwyntio ar yr heriau parhaus sy’n wynebu pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal, ond i arddangos eu cyflawniadau gwych ac i helpu i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Roedd yr wythnos yn llwyddiannus dros ben gydag oddeutu chwarter o’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi yn galw heibio neu’n cyfrannu i’r digwyddiad.
Beth sydd wedi cael ei wneud?
Eleni, penderfynom gynnal digwyddiad drwy’r wythnos yng Nghoed Pella oedd yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc i arddangos eu sgiliau a’u talentau. Fe wnaethant gynnal arddangosfa o waith celf, arddangosfa o Ddawnsio Morris a chyflwyniad dyddiol am hanes lleol. Daeth amrywiaeth eang o asiantaethau ynghyd gyda stondinau gwybodaeth, gan roi amrywiaeth o gefnogaeth i bobl ifanc, fel cyflogaeth, hyfforddiant, iechyd meddwl a gwirfoddoli, i enwi rhai pethau’n unig, ac yn y broses, fe wnaethom ostwng y stigma sydd ynghlwm â bod mewn gofal. Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â Voel Coaches wnaeth gynnig talebau i’r rhai sy’n gadael gofal i archebu taith o’u dewis, gan roi cyfle i bobl ifanc fwynhau teithiau arbennig gyda ffrindiau a theuluoedd, yn aml, nid ydynt wedi cael profiad o’r fath o’r blaen. Yn ogystal â hyn, lluniodd un dyn ifanc gyflwyniadau PowerPoint am hanes Tramffordd y Gogarth, Pier Bae Colwyn a’i daith ei hun drwy ofal. Lluniodd merch ifanc arall gyflwyniad oedd yn dangos ei llwyddiannau a sut mae hi’n ‘rhoi’n ôl’, er enghraifft drwy ei gwaith gyda Child Line.
Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud?
Drwy gydol yr wythnos, siaradodd y bobl ifanc gyda ni am sut beth yw bod yng ngofal yr Awdurdod Lleol a’r stigma a’r gwahaniaethu y maent wedi’u profi. Bydd eu hadborth yn awr yn cael ei ddefnyddio i’n helpu ni i wella darpariaeth y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Roedd yr wythnos yn llawn llwyddiant a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan y bobl ifanc, eu teuluoedd a’r gwasanaethau a fynychodd y digwyddiad
Datblygu gwasanaethau seibiant Bron y Nant
Gyda’r ganolfan seibiant newydd yn agor ym Mron y Nant eleni, cysylltom gyda theuluoedd sy’n defnyddio ein gwasanaethau egwyliau byr i ofyn am eu barn am sut ddylai’r ddarpariaeth weithredu yn y dyfodol, a’r hyn ddylid ei gynnwys yn y llyfryn sydd ei angen yn unol ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Gofynnom i deuluoedd, pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, a rhieni a gofalwyr i fod yn rhan o’r broses gyfweld ar gyfer staff newydd sy’n cael eu recriwtio i’r gwasanaeth.
Beth oedd yr heriau?
Roedd hi’n anodd cysylltu gyda rhai teuluoedd, ac nid oedd eraill eisiau rhoi gwybodaeth gan nad oes modd cynnig gwasanaeth iddynt ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf yn fodlon helpu gyda’r ymgynghoriad a’r broses gyfweld ar gyfer staff.
Beth sydd nesaf?
Pan fydd y broses recriwtio wedi’i chwblhau, bydd llyfryn gwasanaeth yn cael ei greu, gan gynnwys lluniau o’r adeilad newydd a disgrifiad o’r gwasanaethau fydd ar gael yno.
Cartref Preswyl Llys Elian: Casglu barn aelodau’r teulu
Ym mis Mawrth, cynhaliom arolwg gyda theulu a ffrindiau yr unigolion sy’n byw yng nghartref preswyl Llys Elian. Gofynnom gwestiynau am ansawdd y gefnogaeth yr oedd eu hanwyliaid yn ei chael yn y cartref, a faint o ran yr oeddent yn ei chwarae wrth gynllunio a darparu gofal a chefnogaeth. Roedd yr ymatebion yn gadarnhaol iawn, gyda 100% o’r ymatebwyr yn cytuno:
- Bod rheolwyr a staff Llys Elian yn gwrando arnynt, ac yn eu galluogi i wneud penderfyniadau am y gofal a’r gefnogaeth a roddir a’r cyfleoedd sydd ar gael i’w hanwyliaid
- Mae eu hanwyliaid yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon yn Llys Elian petaen nhw’n dymuno hefyd
- Mae eu hanwyliaid yn hapus ac yn cael cefnogaeth gyda’u hiechyd a’u lles cyffredinol ac mae ganddynt fynediad i wasanaethau iechyd a phrydau bwyd maethlon
- Mae pobl yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- Mae’r gwasanaeth yn cynnal preifatrwydd, urddas a chyfrinachedd eu preswylwyr
- Mae Llys Elian yn amgylchedd cyfforddus lle gall preswylwyr roi eu heitemau eu hunain yn eu gofod eu hunain
- Pan fo ffrindiau a theuluoedd yn ymweld â’u hanwyliaid yn Llys Elian, maent yn cael eu croesawu yno
- Mae ffrindiau a theuluoedd yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu at ofal a chefnogaeth eu hanwyliaid.
Mae sylwadau ychwanegol a wnaed gan ymatebwyr yn dangos eu bod yn fodlon iawn gyda’r gefnogaeth o ansawdd uchel y mae Llys Elian yn ei roi i ffrindiau a theuluoedd:
Mae Llys Elian yn sefydliad ardderchog gyda staff anhygoel sy’n rhoi 100% i ofalu.
Mae’r staff mor glên a gofalgar bob amser, rydym yn ddiolchgar iawn am yr hyn maen nhw’n ei wneud i mam. Mae’n amlwg nad ydyn nhw’n ystyried mam fel ‘defnyddiwr gwasanaeth’ yn unig, ac mae hynny’n golygu rhywbeth i ni gyd.
Mae nhw fel teulu ac yn ei drin felly hefyd. Rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw.
Cael adborth am y Gwasanaeth Lles Meddyliol
Eleni, cynhaliodd ein Tîm Lles Meddyliol arolwg o unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gan eu dewis ar hap i roi adborth iddynt am y gefnogaeth maen nhw’n ei gael. Cynhaliwyd yr arolwg dros y ffôn a rhoddwyd y cyfle i gyfranogwyr ateb neu beidio. Roedd y lefel o gyswllt oedd ganddynt gyda’r tîm yn amrywio, gyda rhai wedi cael gweithiwr cymdeithasol, ac eraill wedi cael gweithiwr ymyrryd.
O’r 13 unigolyn wnaethon ni gysylltu â nhw, cytunodd 11 i roi adborth. Ar y cyfan roedd eu sylwadau yn gadarnhaol ac yn llawn canmoliaeth.
Mae o wedi fy helpu i i gyflawni gymaint. Gallaf wneud yr hyn ydw i eisiau ei wneud, o’i herwydd.
Wel, mae hi’n dda iawn i fod yn onest. Mae hi’n fy nghefnogi, ac mae hi bob amser yno i mi gael siarad â hi.
Mae fy mywyd wedi newid. Yn syml, rydw i’n byw bywyd arferol. Mae o cystal â hynny. Siaradais gyda [fy ngweithiwr achos] yn ddiweddar a dywedais wrthi nad oeddwn ei hangen hi bellach. Gall helpu rhywun arall rŵan.
Cael adborth am ymyriadau ein Canolfannau Teuluoedd
Rydym yn cynnal arolwg parhaus, sy’n gofyn i bobl sydd wedi cael cefnogaeth gan y pum Canolfan Teuluoedd rannu eu profiadau a’r barn. Mae’r cwestiynau yn gysylltiedig â’n Safonau Cefnogi Teuluoedd ac rydym yn annog cyfranogwyr i helpu i lunio ein gwasanaethau. Dyma rywfaint o’r adborth a gawsom eleni:
Cytunodd 88% ein bod yn cysylltu â phobl sydd angen cefnogaeth gennym o fewn wythnos o’r cyswllt cyntaf. Mae adborth yn awgrymu, hyd yn oed os nad ydym yn gallu pennu Gweithiwr Teulu ar unwaith, ein bod yn cadw mewn cysylltiad â theuluoedd i wirio eu lles, nes ein bod yn gallu eu cysylltu â gweithiwr penodol.
Dywedodd 98% ein bod yn gyfeillgar, yn onest, yn barchus ac yn broffesiynol:
Mae hi’n hawdd i siarad â hi ac yn gyfeillgar iawn ond yn 100% proffesiynol.
Mae pawb mor gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt. Maen nhw i weld fel petaent yn gofalu amdanaf i a’m merch.
Teimlai 90% o’r ymatebwyr bod eu llais yn bwysig, ein bod yn gwrando arnynt, ac yn gallu ystyried gwahanol feysydd o’u bywyd teuluol gyda’u Gweithiwr Teulu
I fod yn onest, yn y dechrau, roeddwn i ar goll, ac nid oeddwn yn gwybod beth ddylwn i ei wneud er gorau. Ond unwaith wnes i siarad â’m gweithiwr cefnogi, roedd hi’n fy sicrhau fy mod yn gwneud y peth cywir, ac mae hi’n fy helpu i adeiladu pontydd a rheoli fy mywyd.
Roedd 95% yn cytuno, pan fyddant yn teimlo fel bod ganddynt reolaeth dros bethau, ein bod yn eu helpu i symud ymlaen gyda’u bywyd teuluol.
Rydw i’n teimlo ein bod ar y trywydd cywir, ac mae gennym dipyn i fynd, ond gan edrych ar yr ochr gadarnhaol yn hytrach na’r negyddol.
Ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn cysylltu â’r gwasanaeth petawn i angen gwneud hynny. Maen deimlad braf gwybod y gallaf gael y gefnogaeth yma eto.
Mae’n amlwg o’r sylwadau ychwanegol bod y Canolfannau Teuluoedd yn parhau i gynnig cefnogaeth werthfawr i deuluoedd yng Nghonwy sy’n ei chael hi’n anodd. Byddwn yn parhau i ofyn am adborth gan bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau er mwyn ceisio bodloni ein safonau uchel, ac yn datblygu gwasanaethau sy’n darparu cefnogaeth ystyrlon.
Mewn byd lle mae’n rhaid i chi sgrechian i gael eich clywed, rydw i’n ddiolchgar bod systemau cefnogi fel hyn ar gael, lle maen nhw’n sgrechian gyda chi ac yn eich helpu i ddatrys y broblem yn well ac yn gynt. Diolch yn fawr iawn!
Gweithgareddau grŵp anffurfiol
Mae ein Canolfannau Teuluoedd wedi bod yn cynnal gweithgareddau grŵp anffurfiol ym mhob ardal, gan gynnwys grwpiau chwarae, maethu, panad a sgwrs a grwpiau babanod. Maen nhw wedi gofyn i gyfranogwyr roi gwybod i ni pa sesiynau maen nhw wedi’u mynychu a sgorio eu profiadau.
Hyd yn hyn, mae 100% o gyfranogwyr wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac yn y sylwadau ychwanegol a gafwyd, cafwyd clod brwdfrydig iawn i drefnwyr a hwyluswyr y digwyddiadau.
Beth allaf i ei ddweud? Mae’r tîm yn y ganolfan yn wych ym mhob ffordd. Mae’r gefnogaeth a’r cymorth maen nhw wedi’i roi i mi a’m mab, yn ogystal â’r teuluoedd eraill yn anhygoel, ac maen nhw’n gwneud gymaint o weithgareddau i deuluoedd gael cymryd rhan ynddynt ac mae gallu codi’r ffôn neu alw mewn am sgwrs sydyn yn wych. Tîm hollol wych.
Nododd 71% bod y grŵp wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd eu teulu, gyda 26% pellach yn nodi ei fod wedi cael effaith gadarnhaol. I rai rhieni, mae’r gweithgareddau grŵp yn eu helpu i deimlo’n llai unig, ac mae eraill wedi gwneud ffrindiau yn y sesiynau.
Mae hi wedi bod mor ddefnyddiol cael rhywle i fynd gyda rhieni eraill sy’n deall eich bywyd bob dydd.
Mae mynychwyr wedi rhoi rhai syniadau ar gyfer gweithgareddau grŵp i’r dyfodol i ni hefyd a byddwn yn ystyried y rheiny y flwyddyn nesaf.
Cael adborth am ein Gwasanaeth Ail-alluogi
Mae ein Gwasanaeth Ail-alluogi yn darparu cyfnodau byr o gefnogaeth dwys i bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty ac angen cymorth i godi hyder, sgiliau ac annibyniaeth yn eu cartrefi. Ar ddiwedd bob cyfnod o ail-alluogi, rydym yn gofyn i unigolion yr ydym ni wedi’u cefnogi am eu barn a’u profiadau. Mae hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i’r diben ac yn parhau i fodloni canlyniadau personol pobl.
Dyma flas o’r canlyniadau o 2022-23.
- Cytunai 91% eu bod nhw, eu teulu, eu ffrindiau a’u gweithiwr cymdeithasol yn rhan o’r drafodaeth i gynllunio a chytuno ar eu cefnogaeth.
- Teimlai 99% y bodlonwyd eu disgwyliadau o’r gwasanaeth
- Dywedodd 91% eu bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar gychwyn y gwasanaeth.
- Teimlai 92% eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau a bennwyd erbyn diwedd y cyfnod ymyrraeth
- Teimlai 97% o bobl oedd â dymuniadau diwylliannol neu grefyddol bod hynny wedi’i ystyried a bod y gwasanaeth wedi darparu ar eu cyfer yn ystod yr ymyrraeth
- Teimlai 95% bod y gefnogaeth a gawsant yn hyblyg, e.e. amseroedd ymweld a’u hyd
- Teimlai 94% bod y gefnogaeth a gawsant yn gyson, h.y. fe wnaeth yr un tîm o weithwyr cefnogi ymweld â nhw
- Teimlai 99% fod y cymorth a gawsant wedi’u galluogi i wneud cymaint ag y gallent drostynt eu hunain
- Roedd 100% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais
Yn ogystal â’r sgoriau cadarnhaol, cawsom lawer o sylwadau llawn anogaeth am y gwasanaeth ail-alluogi:
Ni allwn fod yn hapusach nac yn fwy balch. Fe wnaeth y staff wneud byd o wahaniaeth i mi, roedden nhw bob amser yn ddefnyddiol ac ar gael.
Roedd y gefnogaeth yn y bore yn ddefnyddiol, gan fy ngalluogi i gryfhau wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaenau.
Roedden nhw i gyd mor glên, yn enwedig yn ystod y diwrnodau cyntaf pan roedd angen llawer o gymorth arnaf.