Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl
Cefnogi a monitro ein cartrefi preswyl
Yn Sir Conwy, mae gennym y nifer uchaf o gartrefi gofal yng Ngogledd Cymru ac mae angen rhaglen fonitro barhaus i sicrhau ansawdd y gofal a chefnogi’r ddarpariaeth. Mae ein Gwasanaeth Monitro wedi ailgychwyn rhaglen o ymweliadau â chartrefi gofal, asiantaethau gofal yn y cartref a phrosiectau byw â chymorth cymunedol, sydd wedi bod yn cael cefnogaeth reolaidd gennym dros y ffôn. Mae’r ymweliadau monitro’n canolbwyntio ar ansawdd y ddarpariaeth gofal a chymorth yn y cartrefi. Gallant hefyd dynnu sylw at unrhyw bryderon sydd yn y cartref, a gwneud argymhellion i wella’r sefyllfa.
Beth oedd yr heriau?
Yn anffodus, rydym ni’n dal i weld ôl-effeithiau’r pandemig Covid-19 yn y sector hwn, sydd yn waeth oherwydd yr argyfwng costau byw, costau uwch a heriau recriwtio parhaus.
Rydym yn cydnabod bod gennym rôl i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol i gartrefi yng Nghonwy yn barhaus er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau o ansawdd dan amgylchiadau heriol. Fe welwch fwy o wybodaeth am bethau rydym wedi’u gwneud i helpu mwy arnynt yn yr adroddiad hwn.
Beth nesaf?
Yn ogystal ag ymweliadau monitro ddwywaith y flwyddyn, rydym yn parhau i gael cyfarfodydd rheolaidd ar-lein yn fisol gyda rheolwyr cartrefi gofal Conwy i rannu gwybodaeth a thrafod materion, yn cynnwys datblygu’r gweithlu. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth dros y ffôn i’r cartrefi bob pythefnos.
Y Panel Trais Domestig
Prosiect peilot oedd y Panel Trais Domestig i ddechrau, oedd yn ceisio sefydlu partneriaeth amlasiantaeth i ddarparu cyngor, cefnogaeth ac ymyraethau therapiwtig i ddioddefwyr trais domestig sydd fwyaf mewn perygl i’w plant fynd i’r system ofal.
Roedd y Panel Trais Domestig yn beilot tri mis o hyd a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2021 yn sgil y Fforwm Trais Domestig a sefydlwyd gan y Tîm Pobl Ddiamddiffyn. O ganlyniad i’r fforwm, dechreuodd yr Uned Diogelwch Trais Teuluol a’r Tîm Cryfhau Teuluoedd gynnal trafodaethau am gydweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig o safbwyntiau sy’n deall trawma ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan integreiddio’r model Safe and Together a’i egwyddorion. Ers y peilot cychwynnol hwn, mae’r panel wedi parhau i gyfarfod pob deufis ac mae’n darparu sesiynau ymgynghori gyda’r Uned Diogelwch Trais Teuluol i rannu gwybodaeth am y dioddefwyr hynny sydd yn y perygl mwyaf, y plant a’r troseddwyr a gwneud cynlluniau i wella diogelwch.
Mae’r cydweithio hwn gyda’r Uned Diogelwch Trais Teuluol wedi helpu i integreiddio arbenigeddau o’r Gwasanaethau Plant, yr Uned ei hun, y Bont ac aelodau Canolfannau Teuluoedd i ddatblygu cynlluniau ymyrraeth yn seiliedig ar ganlyniadau i rai dioddefwyr a’u plant. O’r panel hwn, mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd wedi darparu cefnogaeth therapiwtig i rai sy’n cam-drin, i helpu i newid ymddygiad a gwella diogelwch i ddioddefwyr a’u plant.
Ers mis Chwefror 2023, mae cynrychiolwyr o dîm yr Uned Diogelwch Trais Teuluol wedi bod yn gweithio o’n swyddfeydd ym Mae Colwyn unwaith bob pythefnos, yn y gwasanaethau Plant, Oedolion a Diogelu. Maent ar gael i roi cyngor cyffredinol os yw neu os gallai cam-drin domestig fod yn broblem i unigolion a theuluoedd rydym yn eu cefnogi.
Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol
Rydym wedi sôn am dîm ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol mewn adroddiadau blaenorol a gallwn bellach gadarnhau ei fod yn ail gam y peilot. Rydym wedi gwahodd asiantaethau ychwanegol i fod yn rhan o’r Ganolfan, yn cynnwys y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Addysg. Rydym wedi gweld bod cael asiantaethau ychwanegol wrth y bwrdd wedi rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau’n well.
Mae gwaith wedi’i gwblhau gyda Heddlu Gogledd Cymru i edrych ar y broses CID16 ac i wella’r cynnwys o fewn yr adroddiadau hyn. Mae adborth wedi’i roi i swyddogion am y wybodaeth y dylid ei chofnodi pan maent yn llenwi CID16. O ganlyniad, mae’r adroddiadau wedi gwella ac mae tystiolaeth bod staff yr Heddlu’n datblygu gwell dealltwriaeth o ddiffiniad Oedolyn mewn Perygl, Amddiffyn Plant a Chymorth Cynnar.
Rydym wedi gweld mwy o Weithwyr Cymdeithasol yn dod i gyfarfodydd dyddiol y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol i drafod pryderon diogelu, cael cyngor a chael eglurhad ar gamau gweithredu i reoli pryderon.
Rydym wedi gweithio’n agos gydag ein Tîm Asesu a Chefnogi mewnol a thimau eraill i reoli’r garfan o unigolion a gyrhaeddodd westy’r Hilton i sicrhau bod ymdriniaeth ac ymateb priodol i bob pryder diogelu.
Yn ddiweddar, rydym wedi cymryd rhan mewn adolygiad annibynnol a wnaed gan Brifysgol John Moore Lerpwl. Roedd yr adolygiad yn ceisio edrych ar ddarpariaeth ‘drws ffrynt’ ar hyd a lled Cymru, ac rydym yn disgwyl am adborth ffurfiol yn benodol i Gonwy.
Mae gwaith yn cael ei wneud i wella ymatebion i rai sy’n gwneud adroddiadau (yn unol â’r gweithdrefnau). Bydd hyn yn sicrhau bod pob un sy’n gwneud adroddiadau’n deall canlyniadau’r adroddiadau diogelu sy’n cael eu cyflwyno.
Beth oedd yr heriau?
Gan ein bod yn dal i weithredu yn y cyfnod peilot, nid ydym wedi gallu ehangu’r tîm i ymdopi â’r galw presennol. Roedd hefyd yn rhaid i ni ryddhau ein Hymchwilydd Heddlu ym mis Ebrill 2023 ac, ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gael un arall.
Beth nesaf?
- Rydym yn gobeithio ehangu ein tîm drwy recriwtio i swyddi ychwanegol, a chynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ryw adeg yn y dyfodol
- Byddwn yn gwneud mwy o welliannau i brosesau
- Mae gennym gynlluniau i ddatblygu tudalen we benodol ar gyfer y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, yn ogystal â rhif uniongyrchol a chyfeiriad e-bost, fel bod modd rheoli a chadw’r holl ymholiadau diogelu o fewn y ganolfan.
Llwybrau Cyflogaeth Gwasanaeth Anableddau Conwy
Mae Planhigfa Bryn Euryn wedi gweithredu o’r safle yn Dinerth Road am tua 30 mlynedd. Mae ailddatblygu’r safle i ddarparu caffi, siop ac ardal blanhigfa newydd wedi ein hysgogi i ailgynllunio ein cynnig, i ddatblygu uchelgais pobl a’u cefnogi i gael gwaith cyflogedig. Mae’r Cyngor wrthi’n tendro’r caffi i sefydliad trydydd sector a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau ddeall beth yr hoffent ei wneud mewn perthynas â gwaith a meithrin sgiliau a phrofiad yn y gweithle. Bydd darpariaeth gwasanaeth ar draws y caffi, Planhigfa Bryn Euryn, Tan Lan a’r gerddi ac ati yn alinio modelau cefnogi i ganolbwyntio ar alluogi pobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad waith i gael gwaith cyflogedig lle bo modd.
Rheolwr y Gwasanaeth Anableddau sy’n cadeirio grŵp llywio’r strategaeth cyflogaeth â chymorth ranbarthol, sy’n goruchwylio gwaith o gyd-gynhyrchu strategaeth cyflogaeth â chymorth ranbarthol i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mae’r strategaeth yn cynnig bod gwasanaethau anableddau dysgu’r chwe Chyngor Sir yn cyflwyno gwasanaeth cyflogaeth â chymorth er mwyn galluogi mwy o bobl sydd ag anableddau dysgu i gael gwaith cyflogedig, gan gynnwys arian ar gyfer hyfforddiant swydd arbenigol. Y gyfradd gyflogaeth bresennol i bobl sydd ag anableddau dysgu y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn gwybod amdanynt yw 4.8%.
Rydym ni’n gobeithio cael cyllid o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer y tair blynedd nesaf i weithredu’r model hwn ar draws y rhanbarth. I baratoi at y drefn newydd, mae’r rhaglen drawsnewid wedi ariannu sesiynau ‘Cyflwyniad i Gyflogaeth â Chymorth’ i’r holl dimau gweithredol. Cwblhaodd saith aelod o dîm Conwy yr hyfforddiant, gan roi adborth da. Yn dilyn hynny, mae’r rhaglen drawsnewid yn ariannu cwrs ‘Technegau Cyflogaeth â Chymorth’ sy’n darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol i fod yn hyfforddwr swydd a bydd pum aelod o staff o Dîm Cyfleoedd Gwaith Conwy’n mynd ar y cwrs. Mae’r rhaglen drawsnewid hefyd wedi darparu cyllid i gyflogi Cydlynydd Cyflogadwyedd mewnol i arwain y gwaith hwn. Mae’r penodiad ar y gweill.
Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud i gyflwyno dull ‘gwaith yn gyntaf’ o fewn y gwasanaeth. Mae gan staff well dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu ddod o hyd i swydd, ei chael, dysgu sut i’w gwneud a’i chadw drwy’r model cyflogaeth â chymorth. Bydd cyllid ychwanegol drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol yn galluogi’r gwasanaeth i chwyddo’r dull hwn a chyflwyno llwybrau â sicrwydd ansawdd fel bod pobl yn gallu bod mewn gwaith cyflogedig os ydynt yn dymuno. Mae’r Gwasanaeth Anableddau hefyd yn ymgeisio am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi ein model darparu cyffredinol.
Bydd y gwaith rhanbarthol hwn yn ategu ac yn gwella cynnig y Gwasanaeth Anableddau yn seiliedig ar ddatblygiadau Bryn Euryn, Tan Lan a’r gerddi ac ati, gan ddarparu llwybr allweddol i gyflogaeth i’r rhai sy’n cael eu cefnogi yn y gwasanaeth.
Mae’r Gwasanaeth Anableddau hefyd wedi datblygu perthynas waith agosach gyda Chanolbwynt Cyflogadwyedd Conwy ac maent wedi comisiynu interniaethau â chymorth Project Search ar y cyd â Sir Ddinbych.
Y weledigaeth yw darparu amrywiaeth o lwybrau i bobl sydd ag anableddau, gan na fydd un llwybr yn gweddu i bawb. Mae’r Cydlynydd Llwybrau Cyflogadwyedd yn allweddol i lwyddiant ailfodelu gwasanaethau.
Beth oedd yr heriau?
Bu oedi ar gwblhau’r safle a bu pwysau cyllidebol. Mae’n debygol bod diffyg ymgysylltu gan ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd mewn perthynas â chamau cychwynnol datblygu’r strategaeth oherwydd bod amserlen y prosiect yn ystod y pandemig Covid-19.
Un her allweddol fu recriwtio Cydlynydd Cyflogadwyedd mewnol i arwain y gwaith hwn, ond mae cynnydd ar hyn bellach. Mae bwrw ymlaen â’r trawsnewid i ddiwylliant ac agweddau gan hefyd gydlynu mynediad at y gwasanaeth cefnogi cyflogaeth mwyaf priodol (yn cynnwys Gwasanaeth Cyflogaeth Conwy) yn gofyn am ffocws ac arweinydd penodol, oherwydd pwysau gweithredol ar y tîm.
Beth nesaf?
Gweithdy i’r grŵp llywio rhanbarthol adolygu’r Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth ddrafft a chyfrannu at y cynllun gweithredu. Y tîm trawsnewid rhanbarthol sy’n arwain ar hyn a byddant yn gweithio gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i wneud hyn gyda dinasyddion.
Ar ôl y gweithdy, byddwn yn gwybod a fydd adnoddau ychwanegol ar gael drwy’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer y model gwasanaeth cyflogaeth â chymorth ai peidio. Os yw’n llwyddiannus, y nod yw i’r model Cyflogaeth â Chymorth fod ar waith o fis Medi 2023 ymlaen a chael ei werthuso’n annibynnol.
Mewn perthynas â Bryn Euryn, Tan Lan a’r gerddi ac ati, byddwn yn cynnal peilot ar gyfer y Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth, gan gynnal adolygiad o’r disgrifiadau swydd presennol, ac ailstrwythuro’r gwasanaeth i ddarparu ein model newydd cyffredinol.
Rydym ni’n cyfrif darparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd ag anableddau i gael swyddi dydd Sadwrn â chyflog yn agwedd allweddol i ddatblygu uchelgeisiau. O ganlyniad, byddwn yn cynnal peilot o hyn yn y caffi ac ym Mhlanhigfa Bryn Euryn ar ôl i’r gwasanaeth gael ei sefydlu.
Canolfan Seibiant Bron y Nant
Mae dwy elfen i’r prosiect ar y safle hwn, sef adeilad seibiant yn Bron y Nant, a’r blanhigfa, siop a chaffi yn Bryn Euryn. Mae Bron y Nant yn datblygu’n dda, ond mae wedi bod ychydig yn fwy araf na’r disgwyl ac rydym yn disgwyl cael y goriadau yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill, bum mis yn hwyrach na’r bwriad.
Yn Bryn Euryn, mae’r safle wedi bod ar gael i dîm Planhigfa Bryn Euryn er mwyn iddynt baratoi i agor i’r cyhoedd yn y gwanwyn. Byddant yn rhedeg y siop a’r ganolfan arddio pan maent ar agor, ac rydym ni’n gweithio ar hyn o bryd ar osod y silffoedd, y cownter a’r peiriant arian. Bydd y caffi’n cael ei dendro yn dilyn digwyddiad ‘cwrdd â’r prynwr’ llwyddiannus.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn yr amlosgfa a’r fynwent i greu mynedfa ar y cyd â Phlanhigfa Bryn Euryn, ac rydym yn falch o ddweud bod y blanhigfa wedi’i throsglwyddo i’r tîm ddechrau mis Mawrth 2023.
Maethu Cymru Conwy
Ym mis Medi 2021, lansiwyd Maethu Cymru; undeb y 22 Awdurdod Lleol yn cydweithio, yn rhannu gwybodaeth ac yn recriwtio gofalwyr maeth lleol i ofalu am blant yn lleol. Mae’r flwyddyn gyntaf wedi canolbwyntio ar addysgu a darparu gwybodaeth i unrhyw rai sy’n ystyried bod yn ofalwyr maeth ynglŷn â pham mae maethu i’ch Awdurdod Lleol o fantais i blant a phobl ifanc. Rydym ni wedi bod yn rhannu negeseuon lleol a negeseuon Maethu Cymru ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae gwaith recriwtio wyneb yn wyneb wedi ailgychwyn, ac mae angen ymgysylltu â’r gymuned eto ar ôl y gwaith ail-frandio. Mae’r digwyddiadau recriwtio cymunedol hyn wedi bod yn llwyddiannus i ymgysylltu â’r cyhoedd, hyrwyddo cefnogaeth gymunedol a chael pobl i siarad am Faethu Cymru Conwy.
Mae dal gafael ar ofalwyr maeth yr un mor bwysig, gan mai’r ffordd orau o recriwtio o hyd yw lledaenu’r neges ar lafar. Mae ein digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi ailgychwyn dros y flwyddyn ddiwethaf ac roedd croeso mawr i hynny, ac mae llawer yn dod i’n grŵp cefnogi bob deufis i ofalwyr maeth cyffredinol. Mae’r rhain yn gyfle i gynnig cefnogaeth anffurfiol, datblygu cefnogaeth rhwng y naill a’r llall a rhwydweithio gyda chydweithwyr eraill, fel Cydlynwyr Addysg ac Iechyd Plant sy’n Derbyn Gofal, y Prif Seicolegydd a’r Tîm Dysgu a Datblygu’r Gweithlu.
Ym mis Hydref 2022, cynhaliom ein Diwrnod Gwerthfawrogi cyntaf erioed i gydnabod cyflawniadau a chyfraniadau ein gofalwyr maeth ar ddiwrnod i adlewyrchu a dathlu. Roedd y Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu, yn bresennol i ddiolch i’r gofalwyr maeth am eu hymroddiad a’u gofal i blant a phobl ifanc Conwy.
Mae Maethu Cymru wedi datblygu Fframwaith Dysgu a Datblygu, ac yn 2022, fe wnaeth ein swyddogion gweithlu ddyfeisio cynllun dysgu i gefnogi gofalwyr maeth i gyflawni’r fframwaith. Mae gofalwyr maeth Conwy’n cael cynllun trylwyr sy’n darparu ar gyfer yr 16 maes dysgu craidd mae Maethu Cymru wedi’u pennu. Mae gofalwyr maeth yn parhau i gael eu cefnogi drwy sesiynau goruchwylio bob wyth wythnos, a fydd yn cael eu cynnal dros y we ac wyneb yn wyneb ar ôl cael adborth gan y gofalwyr maeth eu hunain. Mae ymweliadau cefnogi ychwanegol yn cael eu darparu wyneb yn wyneb ar gais.
Mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio’n fawr ar ein gofalwyr maeth. Gwneir pob ymgais i gael adnoddau ychwanegol i’w helpu, boed hynny ar ffurf tocynnau rhatach i Venue Cymru, tocynnau am ddim i gyngherddau neu docynnau i gemau rygbi dan 20 y Chwe Gwlad. Mae gofalwyr maeth yn parhau i gael cerdyn Hamdden Ffit, cerdyn gostyngiadau Max (yn benodol ar gyfer plant maeth neu blant ag anabledd), ac aelodaeth CADW, ac mae pob un yn amhrisiadwy yn ystod y cyfnod ariannol anodd hwn.
Yn 2022, rhannodd Llywodraeth Cymru eu hagenda ‘dileu elw’ ac fe wnaethom ni lunio Strategaeth Lleoli a Chomisiynu yn ymateb i hynny. Mae un elfen yn trafod recriwtio a chadw gofalwyr maeth, gan ganolbwyntio ar dargedau a chanlyniadau sydd eu hangen erbyn 2026. Mae’r agenda ‘dileu elw’ wedi creu cyfle am gyllid grant i gyflawni ein strategaeth, gan na fyddai hyn yn bosib’ heb gymorth ariannol ychwanegol.
Beth oedd yr heriau?
Yr her fwyaf sydd wedi bod eleni yw’r argyfwng costau byw. Mae gofalwyr maeth wedi lleisio eu barn am yr effaith mae wedi’i gael ar eu bywydau bob dydd, ac wedi gofyn am fwy o gefnogaeth ariannol. Mae rheoli’r adborth wedi bod yn dra heriol, ac mae’r sefyllfa wedi effeithio ar ysbryd gofalwyr maeth yn ystod grwpiau cefnogi, eu hawydd i fynd ar hyfforddiant, a’r negeseuon maent yn eu rhannu ar lafar i recriwtio gofalwyr maeth newydd. Mae cynnal cefnogaeth gyson ac undod gan y staff wedi bod yn hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn.
Beth nesaf?
Mae cyflwyno’r cyllid grant ‘dileu elw’ i ymateb i agenda Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi i ystyried cynnydd i ffioedd gofalwyr maeth. Mae’r Taliad Uwch newydd yn caniatáu i Faethu Cymru Conwy fod yn ddewis amgen go iawn i’r asiantaethau maethu annibynnol sy’n ceisio gwneud elw.
Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu mewn ymateb i’n model talu gwell a’r agenda ‘dileu elw’.
Byddwn yn parhau â’n strategaethau cefnogi, dysgu a chadw gofalwyr cyson i ddal gafael ar y gofalwyr maeth sydd gennym.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid – gweithio mewn partneriaeth
Mae Bwrdd Rheoli Lleol yn craffu ar y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn rheolaidd. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys Prif Swyddogion pob sefydliad a’r cadeirydd yw Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol Conwy. Mae dau aelod etholedig ar y Bwrdd Rheoli Lleol, sef arweinwyr cynrychioladol Plant a Diogelu o Awdurdodau Lleol Conwy a Sir Ddinbych.
Bwrdd Rheoli Conwy a Sir Ddinbych sy’n gyfrifol am sicrhau bod digon o adnoddau gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a’i fod yn gallu bodloni gofynion statudol yr awdurdod lleol a’n huchelgeisiau i gefnogi plant a phobl ifanc yn y ddwy sir i gyflawni eu potensial a byw bywydau di-drosedd.
Mae cyllid ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid statudol, Gwasanaethau Plant, y Gwasanaeth Prawf, y GIG, yr Heddlu, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chronfa Diogelwch Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Mae adnoddau’r Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu a’r GIG yn cael eu dyrannu mewn egwyddor, ar sail staff sydd wedi’u secondio i’r gwasanaeth. Mae telerau ac amodau grant Ymarfer Effeithiol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a chyllid Llywodraeth Cymru’n pennu’n glir sut mae disgwyl i’r dyraniad gael ei ddefnyddio.