Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl.
Rhoi unigolion wrth galon ein gwasanaethau Pobl Hŷn
Mae ein prosiect Gofal Cartref Pobl Hŷn yn mynd rhagddo, gyda’r nod o sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu yn canolbwyntio’n fwy ar ganlyniadau, ac yn hyrwyddo’r egwyddor o lais, dewis a rheolaeth i’r defnyddiwr gwasanaeth. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym eisiau cefnogi ac adeiladu gwasanaeth cartref mwy cadarn ar gyfer y dyfodol hefyd, a galluogi dull o weithio sy’n cynnwys rhagor o integreiddio a chefnogaeth gyda’n darparwyr. Felly, rydym yn symud i ffwrdd o wasanaethau comisiynu sy’n canolbwyntio ar amser a thasgau, i wasanaethau comisiynu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a’r unigolyn.
Er mwyn cefnogi ein timau, rydym wedi llunio dogfen canllaw i staff er mwyn esbonio a chefnogi darpariaeth y model newydd, yn ogystal â pholisi newydd mewn perthynas â chymryd risgiau cadarnhaol, sy’n nodi ein dull o weithio tuag at ymarfer sy’n canolbwyntio ar gryfderau a’r unigolyn.
Trefnwyd cyfres o sesiynau hyfforddiant ar y cyd i staff comisiynu mewnol a darparwyr gofal allanol i gynyddu a sicrhau cyd-ddealltwriaeth o ddull gweithio sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. Rydym wedi cynnal adolygiad o’n prosesau mewnol i gyd hefyd, o atgyfeirio i safonau ansawdd a sicrwydd. O ganlyniad, rydym wedi gwneud gwelliannau i’n prosesau system gwybodaeth cleientiaid, gan eu gwneud yn fwy effeithiol, darbodus ac yn addas i’r diben.
Bydd y model comisiynu newydd hwn yn cael ei gyflwyno ar draws ein holl Dimau Adnoddau Cymunedol fesul un. Dyrennir grŵp o ddarparwyr dewisol i bob ardal, a fydd yn cael eu talu ar sail contract bloc, yn hytrach na chontractau yn y fan a’r lle. Bydd maint y contractau bloc yn seiliedig ar weithgarwch comisiynu presennol a byddant yn cael eu cynyddu neu eu gostwng fel bo’r angen. Cafodd dogfen newydd wedi’i mireinio o Fanyleb y Gwasanaeth ei llunio mewn ymgynghoriad gyda’r darparwyr a fydd yn rhan hanfodol o’r Tîm Adnoddau Cymunedol. Bydd ganddynt fynediad i’r tîm amlddisgyblaethol i drafod achosion, a cheisio cefnogaeth pan mae problemau neu faterion yn codi, i atal eu huwchgyfeirio. Mae’r broses anfonebu nawr wedi cael ei symleiddio, gan fod darparwyr ond angen anfon un anfoneb yn wythnosol neu’n fisol ar gyfer cyfanswm, nid sawl anfoneb ar gyfer pob cleient.
Gan fod cam cyntaf cyflwyno’r prosiect ond wedi digwydd ar 29 Ionawr, 2023, mae’n rhy gynnar i adrodd ar astudiaethau achos penodol, ond bydd cynnydd y cyflwyniad cyntaf yn destun monitro ac adolygiadau cyson a chadarn.
Beth oedd yr heriau?
Mae’r pwysau staffio presennol ar draws yr holl sector gofal wedi gwneud y prosiect hwn yn heriol iawn, ac mae’r dyddiad ‘mynd yn fyw’ ar gyfer y newidiadau arfaethedig wedi newid sawl gwaith o ganlyniad i hynny.
Er bod llawer o gefnogaeth a brwdfrydedd ar gyfer y newidiadau arfaethedig i’r sector gofal cartref yn lleol, mae’n deg dweud, er gwaethaf honiadau pawb eu bod eisoes yn gweithio mewn modd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, bydd rhoi’r theori ar waith yn heriol, i staff comisiynu a darparwyr.
Beth nesaf?
Fel y cyfeiriwyd ato’n flaenorol, y cynllun yw cyflwyno’r model mewn dull fesul cam, ar sail bob Tîm Adnoddau Cymunedol unigol.
Aeth Tîm Adnoddau Cymunedol Abergele’n fyw ar 29 Ionawr, 2023 a bydd cynnydd yn cael ei adolygu’n gyson. Unwaith sefydlwyd y model, yna byddwn yn symud ymlaen i ardal y Tîm Adnoddau Cymunedol nesaf.
Gwaith atal o fewn ein Gwasanaeth Lles Cymunedol
Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys nifer o dimau sy’n gweithio gydag unigolion ar gam cynnar i’w helpu i barhau i fod yn annibynnol, manteisio ar wasanaethau a gweithgareddau cymunedol a chadw’n ddiogel yn eu cartrefi.
Mae ein Tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol wedi parhau i ymweld â phobl sydd ag anghenion llai dwys gartref, i ddarparu cyfarpar a mân addasiadau, fel canllawiau. Mae’r eitemau hyn yn helpu i atal codymau ac yn cefnogi pobl i barhau i fyw’n annibynnol gartref, gan leihau’r tebygolrwydd y byddant yn dibynnu ar wasanaethau hirdymor.
Mae’r gwasanaeth Teleofal bellach yn darparu ffurflen ar-lein i bobl allu cofrestru i gael y gwasanaeth yn hawdd a chyflym. Mae gwasanaeth Teleofal sydd wedi’i gysylltu â’r gwasanaeth monitro, Galw Gofal, yn rhoi tawelwch meddwl i bobl, a’u teuluoedd, eu bod yn gallu galw am help os oes angen.
Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae’r Tîm Hawliau Lles wedi bod mewn digwyddiadau Croeso Cynnes ac wedi bod yn gweithio i gynghori pobl ynglŷn â thaliadau tanwydd y gaeaf a budd-daliadau eraill er mwyn ceisio helpu pobl i achub y blaen a chael cymaint o incwm ag y gallant. Mae’r tîm hefyd wedi helpu pobl â cheisiadau grant gofalwyr di-dâl, yn enwedig rhai sy’n methu mynd ar y we pan mai ceisiadau ar-lein oedd yr unig ddewis. Mae’r tîm yn parhau i gynorthwyo trigolion Conwy i gael cymaint o incwm ag y gallant trwy sicrhau eu bod yn hawlio’r budd-daliadau lles mae ganddynt hawl iddynt.
Mae’r Tîm Lles Cymunedol wedi parhau i weithio yn ein cymunedau i sicrhau bod ein preswylwyr sydd dros 65 oed yn gallu lleisio barn am y gwaith o ddatblygu gweithgareddau sydd ar gael yn eu hardal nhw. Mae’r tîm yn parhau i gynorthwyo pobl i wneud mwy o weithgareddau a chyfarfod â phobl yn fwy aml, sy’n eu galluogi i fyw’n fwy hapus ac iach.
Mae’r Storfeydd Cyfarpar Cymunedol wedi parhau i ddarparu gwasanaeth pum diwrnod yr wythnos i breswylwyr Conwy, gan gynnwys trwy gydol y pandemig, sydd wedi helpu i leihau neu ohirio achosion o orfod mynd i’r ysbyty a galluogi pobl i adael yr ysbyty. Mae hon yn un o brif swyddogaethau’r tîm i sicrhau bod yr Awdurdod yn ymateb i bwysau rhanbarthol ar wasanaethau ysbyty, gwasanaethau iechyd ehangach a gwasanaethau ambiwlans.
Mae ein Tîm Un Pwynt Mynediad yn parhau i ddarparu gwasanaeth drws ffrynt ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Mae prosesau’n cael eu harfarnu a’u haddasu drwy’r amser i ddiwallu gofynion ar draws nifer o ffynonellau atgyfeirio. Eleni, mae’r rhain wedi cynnwys newid i sut mae ceisiadau am asesiadau gofalwyr yn cael eu rheoli i leihau’r pwysau ar ein Tîm Gofalwyr mewnol. Rydym hefyd wedi treulio amser yn asesu’r tasgau dyddiol hanfodol o fewn y tîm i leihau’r perygl o waith yn pentyrru yn unrhyw faes gwaith penodol. Rydym wedi addasu ein rota dyddiol i sicrhau bod gweithwyr ar gyfer pob tasg a phennu pa dasgau i’w blaenoriaethu pan mae capasiti staffio yn is na’r isafswm angenrheidiol. Mae’r newidiadau hyn wedi arwain at allu rheoli’r cyfrif e-bost a’r llinellau ffôn yn well.
Beth oedd yr heriau?
Mae’r galw ar ein gwasanaeth a’n timau yn aml yn fwy na’r hyn y gallwn ei ddarparu. Pan mae rhestr aros o bobl sy’n dymuno defnyddio ein gwasanaethau, rydym bob amser yn blaenoriaethu’r rhai mwyaf diamddiffyn.
Mae capasiti staffio yn yr adain oherwydd absenoldebau hirdymor a byrdymor wedi rhoi pwysau sylweddol ar staff a rheolwyr oedd yn parhau i weithio, ac rydym wedi cynyddu’r gefnogaeth gan reolwyr atebol ac adnoddau dynol yn ystod y cyfnod.
Mae contractau cyfnod penodol o ganlyniad i gyllid grant yn achosi straen ar staff sy’n disgwyl am ganlyniad penderfyniadau am gyllid yn y dyfodol. Mae hyn yn peri risg i staff adael i fynd i swyddi parhaol.
Mae cyflwyno trefn gweithio’n hybrid, lle mae staff yn gweithio gartref yn rhannol ac yn y swyddfa’n rhannol, wedi rhoi pwysau ar reolwyr sy’n ymdrin â staff sy’n anfodlon dychwelyd i’r swyddfa am gyfran o’u hwythnos waith. Rydym yn parhau i weithio gyda’r aelodau staff hyn i’w hannog i ddychwelyd.
Beth sydd nesaf?
Byddwn yn edrych ar integreiddio ein swyddogaethau Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal ymhellach i ddatblygu mwy o wytnwch at adegau lle mae staff yn gadael, neu pan mae swyddi gwag.
Byddwn yn adolygu timau eraill o fewn ein hadain Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac yn dynodi meysydd i’w gwella, yn enwedig o ran gwytnwch.
Byddwn yn parhau i gefnogi staff i reoli absenoldebau a chychwyn gweithio o’r swyddfa eto.
Diweddaru ein hoffer Teleofal
Mae’r Gwasanaeth Teleofal wedi gweithio’n agos â Storfeydd Cyfarpar Cymunedol i ddatblygu’r ddarpariaeth o unedau monitro digidol i gwsmeriaid sydd â chysylltiadau ffôn digidol newydd. Rydym wedi parhau i ddarparu rhywfaint o gyfarpar ‘clyfar’ ac arbenigol i gynorthwyo â chefnogi pobl gartref wrth ddefnyddio technoleg. Er enghraifft, gall dyfeisiau GPS helpu pobl gyda dementia cynnar, a gall larymau epilepsi roi tawelwch meddwl i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr. Mewn nifer o achosion, gall y dyfeisiau hyn roi annibyniaeth i bobl, a’r hyder i barhau i fyw gartref a chael mynediad at eu cymunedau.
Beth oedd yr heriau?
Rydym wedi wynebu rhai heriau gyda diffyg staff yn ein timau gweinyddol a’n timau gosod, ond rydym wedi parhau i flaenoriaethu atgyfeiriadau brys a namau i’r bobl sydd fwyaf mewn perygl.
Rydym angen deall sut bydd y rhaglen ddigidol yn cael ei gweithredu’n llawn yng Nghonwy. Mae trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn cael eu cynnal mewn perthynas â logisteg ac arian.
Beth sydd nesaf?
Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd Tîm Teleofal Conwy yn parhau i dreiglo’r unedau monitro digidol mewn modd wedi’i reoli ac fesul cam, gan gadw llygaid barcud ar unrhyw faterion sy’n codi er mwyn darparu offer priodol yn unol ag anghenion pobl, yn unol ag arfer gorau.
Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu fflat asesu gyda’r Tîm Atal ac Ymyrraeth Gynnar a fydd, yn y pendraw, yn fan lle gall defnyddwyr gwasanaeth yn gallu gweld technoleg Teleofal a Chlyfar yn cael ei arddangos mewn amgylchedd ‘tebyg i gartref’. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl brofi’r offer a gweld a fyddai’r offer yn eu helpu nhw gartref; mewn gwirionedd, dull ‘profi cyn prynu’.
Helpu pobl gydag anableddau dysgu i fyw’n annibynnol
Yn 2017, fe wnaethom lansio prosiect dilyniant, wedi’i ariannu gan y Gronfa Gofal Integredig, i roi asesiad therapi galwedigaethol arbenigol i unigolion ag anableddau dysgu. Roedd y pwyslais ar gefnogaeth gyda datblygu sgiliau a datblygu tuag at fyw’n fwy annibynnol a hunan-werth, gartref ac yn y gymuned. Yr amcan oedd helpu i ostwng dibynadwyedd tymor hir ar wasanaethau gofal traddodiadol a/neu ofalwyr teulu, ac ymgorffori dull sy’n canolbwyntio ar ddilyniant a chefnogi’r unigolyn i oresgyn rhwystrau wrth gwblhau tasgau maen nhw eisiau eu gwneud, mor annibynnol â phosib.
Roedd yn golygu bod yr unigolyn a’u rhwydwaith gefnogi yn cymryd cyfrifoldeb dros eu canlyniadau eu hunain, o fewn amserlen a gytunwyd arni, ac mewn rhai achosion, ar gyfer datblygu eu hyder gyda chymryd risg cadarnhaol.
Roedd y prosiect yn cefnogi unigolion i sylweddoli eu llawn botensial, datblygu eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain, a dod yn fwy annibynnol ac yn weithgar yn eu cymunedau. Mewn sawl achos, fe wnaeth y prosiect alluogi unigolion i symud i fyw yn fwy annibynnol gyda’r gofal a’r gefnogaeth gywir. Mae hyn wedi golygu bod dinasyddion wedi datblygu eu hyder wrth fyw yn annibynnol a chael mwy o reolaeth dros sut maen nhw’n byw eu bywydau, gan ddefnyddio technoleg cynorthwyol ac offer ac addasiadau eraill i reoli risgiau.
Beth oedd yr heriau?
Weithiau, roedd hi’n anodd cynnal canolbwynt ar ddilyniant unwaith roedd y Therapydd Galwedigaethol wedi cwblhau eu hasesiad a’r cynllun gofal a chefnogaeth. Oherwydd pandemig Covid-19, roedd yn golygu nad oeddem yn gallu cynnig asesiadau wyneb yn wyneb bellach, ac fe wnaeth newid pwysau’r gwasanaeth yn sylweddol, gan olygu bod y gwasanaeth dilyniant wedi dod i ben ar ddechrau’r pandemig.
Beth sydd nesaf?
Rydym yn falch o ddweud ein bod yn ail-lansio’r Gwasanaeth Dilyniant, a fydd bellach yn cael ei ariannu o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae swydd Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol wedi cael ei chyflwyno i hwyluso’r gwaith o fonitro cynnydd ar ôl asesiad, ac i ddatblygu arbenigedd yn y gwasanaeth.
Mae’r prosiect yn symud ymaith o wasanaethau tymor hir, sy’n canolbwyntio ar gefnogaeth. Byddwn yn canolbwyntio ar ymyriadau tymor byr, yn cadw at gynllun manwl, ac yn cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau newydd i gyflawni canlyniadau a gytunwyd ymlaen llaw.
Mae lleoliad newydd wedi cael ei nodi lle gellir cynnal asesiadau gweithredol am fyw bob dydd mewn amgylchedd addas. Bydd offer arbenigol ar gael i gefnogi dinasyddion ddatblygu cynllun a sut i gyflawni eu canlyniadau personol mor annibynnol â phosib. Rydym yn bwriadu hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol fodern i fodloni amcanion personol, hyrwyddo annibyniaeth a rheoli risgiau yn y cartref.
Bydd arddangos y defnydd o offer modern a thechnoleg gynorthwyol yn helpu hysbysu dinasyddion a gweithwyr proffesiynol am ffyrdd arloesol o fodloni canlyniadau a rheoli risgiau, mewn ffordd sy’n manteisio i’r eithaf ar gryfderau unigolion, sy’n gostwng y ddibyniaeth ar gefnogaeth anffurfiol a chefnogaeth â thâl, a phan fo angen cefnogaeth tymor hir, bydd yn hysbysu’r asesiadau er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo’r gefnogaeth ar y lefel gywir.
Datblygu ein Tîm Unigolion Cysylltiedig
Yn ystod 2022, rydym wedi ehangu ein Tîm Unigolion Cysylltiedig, gyda phump o unigolion wedi cael eu penodi, eu sefydlu, eu hyfforddi a’u huwchsgilio i ddarparu ar gyfer anghenion gofalwyr unigolion cysylltiedig. Yn ystod pandemig Covid-19, hwyluswyd grwpiau cefnogi unigolion cysylltiedig gan elusen annibynnol a unodd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn â’i gilydd. Yn dilyn adborth gan ofalwyr maeth sy’n gysylltiedig â Chonwy, fe wnaethom sefydlu grŵp ar gyfer Conwy yn unig, gyda chymorth rheolwr tîm newydd, a sefydlwyd Grŵp Cydnabod a Pherthnasau.
Gwarcheidwaid Arbennig yw unigolion sy’n gallu gwneud cais i ofalu am blentyn pan na allant fyw gyda’u rhieni biolegol ac na fyddai mabwysiadu yn addas ar eu cyfer. Yng Nghonwy, mae ein cynnig Gwarcheidwaeth Arbennig yn parhau i ffynnu gyda chefnogaeth gan gydlynydd penodol sy’n monitro Cynllun Gweithredu Gwarcheidwaeth Arbennig. Gyda pherthynas wedi’i sefydlu bellach, maen nhw’n gallu darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar, cynlluniau cefnogi adolygiadau a thaliadau adolygiad, sy’n helpu i atal toriad mewn trefniadau ac sy’n cryfhau’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig drwy Warcheidwaeth Arbennig.
Mae Unigolion Cysylltiedig yn elfen o’r rhaglen ‘dileu elw’ a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd. Drwy gryfhau’r gwasanaeth maethu Unigolion Cysylltiedig a darparu cefnogaeth effeithiol o ran Gwarcheidwaeth Arbennig, rydym yn hwyluso cynllun symud ymlaen llwyddiannus a realistig o ofal maeth i Gwarcheidwaeth Arbennig. Yn ein cais am grant, fe wnaethom nodi y byddai Cydlynydd Gwarcheidwaeth Arbennig yn cefnogi’r rhaglen ‘cael gwared ar elw’, y Gwarchodwyr Arbennig eu hunain, ac yn cryfhau’r cynnig craidd yn rhagweithiol i gynlluniau’r Gwarcheidwaeth Arbennig.
Beth oedd yr heriau?
Roedd yn gyfnod heriol gan fod bob un o’r pum aelod staff wedi cychwyn gweithio yn yr un mis.
Beth sydd nesaf?
Mae hyfforddiant Unigolion Cysylltiedig wedi cael ei ddatblygu, ac mae angen rhannu hwn gyda’r timau gofal plant ehangach er mwyn cryfhau eu dealltwriaeth o’r broses asesu, rhannu gwybodaeth a sgiliau a sicrhau ymwybyddiaeth well o’r gefnogaeth Gwarcheidwaeth Arbennig a ddarparwyd. Bydd hyn i gyd yn cryfhau ein cynnig am gefnogaeth.
Byddwn hefyd yn recriwtio i’r swydd Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig newydd.