Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy’n cael cefnogaeth ac sy’n gweithio tuag at weledigaeth a rennir.
Ymyrraeth Gynnar – Ffiniau Gofal
Mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd yn arwain ar Baneli Ffiniau Gofal, Ymyrraeth Gynnar a’r Cham-drin Domestig. Pwrpas y paneli amlasiantaethol hyn yw rhannu gwybodaeth a chynllunio ar gyfer cefnogaeth amserol, wedi’i thargedu i gynyddu diogelwch, lleihau risgiau a gwella swyddogaeth a lles teuluoedd.
Mae’r Panel Ffiniau Gofal yn ymgynnull yn wythnosol ac yn cynnwys mynychwyr o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Cynadledda Grŵp Teulu, Gwasanaethau Ieuenctid, Iechyd, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a Gofalwyr Ifanc fel aelodau hirsefydlog. Mae’n gyfarfod deinamig lle mae dull Arwyddion Diogelwch yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ystyried dangosyddion diogelwch o fewn teulu. Mae cynllun yn cael ei drafod ac adnoddau’n cael eu dyrannu, os oes angen, i helpu sefydlogi a chryfhau sefyllfa’r plentyn a’r teulu.
Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, trafodwyd cyfanswm o 57 o deuluoedd yng nghyfarfodydd y Panel Ffiniau Gofal. Trafodwyd 23 teulu pellach yng nghyfarfodydd y Panel Ymyrraeth Gynnar.
Y Prosiect Turnaround
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych wedi bod yn paratoi i ddarparu Prosiect Turnaround y Weinyddiaeth Gyfiawnder o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Mae’r rhaglen wedi cael ei dylunio drwy ddefnyddio dull Cymorth Cynnar er mwyn galluogi’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i wella canlyniadau i blant ar ymylon y system gyfiawnder. Nod pennaf y rhaglen yw atal pobl ifanc rhag troseddu neu ail-droseddu drwy:
- Gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant, gyda’r nod o’u hatal rhag troseddu
- Adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gynnal i sicrhau fod plant sydd ar ffin y system gyfiawnder ieuenctid yn cael cynnig asesiad o anghenion yn rheolaidd, yn ogystal â’r cyfle am gefnogaeth
- Gwella iechyd meddwl a lles cymdeithasol-emosiynol plant
- Gwella integreiddiad a gwaith partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a gwasanaethau statudol eraill i gefnogi plant
Bydd y model darpariaeth Turnaround yn defnyddio dull gweithredu Cymorth Cynnar sydd wedi bod yn llwyddiant gyda rhaglenni ymyrraeth gynnar tebyg, megis Cefnogi Teuluoedd. Mae dadansoddiad o effaith pum mlynedd o raglen ymyrraeth gynnar Cefnogi Teuluoedd yn dangos gostyngiad o 38% mewn dedfrydau o garchar ymysg yr ifanc, a gostyngiad o 15% mewn euogfarnau ymysg yr ifanc o fewn y cohort.
Beth nesaf?
Fel gwasanaeth, bydd disgwyl i ni weithio gyda 38 o bobl ifanc bob blwyddyn. Byddwn yn darparu cefnogaeth Cymorth Cynnar wrth asesu a mynd i’r afael ag anghenion sylfaenol a ffactorau risg sydd efallai wedi dod â’r plentyn i gyswllt gyda’r system gyfiawnder, gyda’r nod o ddarparu datblygiad cadarnhaol. Disgwylir mai’r heddlu a’r llysoedd fydd yn gwneud atgyfeiriadau’n bennaf i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ond gall unrhyw ymarferydd sydd wedi cael cyswllt gyda’r plentyn, yn ogystal â rhieni’r plant wneud hefyd.
Mewn ymateb i’r fenter ddwy flynedd newydd hon, cafodd dwy swydd cyfnod penodol newydd eu creu o fewn y gwasanaeth, ac rydym yn y broses o recriwtio i’r swyddi hyn ar hyn o bryd.
Ehangu’r Tîm Lles Meddyliol
Roedd y Tîm Lles Meddyliol y bwriadu ehangu eu cefnogaeth ers ei gychwyn yn ystod y pandemig, ac mae eu cynlluniau wedi bod yn llwyddiannus. Rydym wedi recriwtio i swydd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, sy’n ddarpariaeth statudol, ofynnol gan Awdurdodau Lleol, ac sy’n rôl broffesiynol, arbenigol. Cyfrifoldeb allweddol Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yw gwneud ceisiadau ar gyfer cadw unigolion yn yr ysbyty, gan sicrhau bod y Ddeddf Iechyd Meddwl a’i Chod Ymarfer yn cael ei ddilyn.
Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud?
Mae’r data rydym yn ei gasglu am y gwasanaeth hwn (a ddarperir yn ystod oriau swyddfa) yn dangos cynnydd sylweddol yng ngweithgarwch Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ers y pandemig; gyda 292 atgyfeiriad yn cael eu cofnodi yn 2022, 15 yn fwy na llynedd. Mae’r tîm wedi cefnogi myfyriwr sy’n astudio i gymhwyso fel Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn ystod y flwyddyn hefyd, ac wedi nodi bod y mwyafrif o Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy nawr wedi’u hyfforddi mewn Rheolaeth Ymddygiad Cadarnhaol i gynorthwyo gwaith gydag unigolion sydd o bosib yn dreisgar.
Fe wnaethom benodi Gweithiwr Cymdeithasol Adran 117 sy’n gyfrifol am gefnogi’r broses ôl-ofal ar gyfer unigolion sydd wedi cael eu hanfon i’r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chael eu hanfon o’r ysbyty wedi hynny. Mae oddeutu 298 o bobl yng Nghonwy sy’n gymwys am gymorth A117, ac mae cael gweithiwr cymdeithasol ymroddedig a phrofiadol yn y swydd hon yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu’n briodol ac yn gymesur, a bod eu llais yn cael eu clywed, eu bod yn cael eiriolaeth, ac i ddarparu adolygiad parhaus i osgoi methiant mewn lleoliadau.
Yn ogystal â hynny, gan ddefnyddio cyllid gan y Bwrdd Gwasanaeth Integredig Ardal, fe wnaethom recriwtio Gweithiwr Ymyrryd a Gweithiwr Cefnogaeth Gymunedol ychwanegol a fydd yn darparu cefnogaeth ddwys am gyfnod byr, wedi’i llunio i helpu unigolion mewn ffordd strwythuredig, dan arweiniad yr unigolyn, sy’n canolbwyntio ar adfer ac osgoi argyfwng lle bo hynny’n bosibl a helpu’r unigolyn i adennill sefydlogrwydd. Yn y pendraw, byddai’n fuddiol petai’r swydd hon yn cynnig cefnogaeth i bobl sy’n cofrestru gyda’r Coleg Adfer, i hwyluso’r cynllun gweithredu sy’n canolbwyntio ar adfer, ac i’w helpu i gyrraedd eu nodau a’u dyheadau o fewn y lleoliad hwnnw.
Beth oedd yr heriau?
Ar gyfer y gwasanaeth Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, mae’r gwaith ei hun yn heriol iawn, sef ymdrin â phobl sâl iawn yn y gymuned. Serch hynny, mae’r prif heriau o ran darpariaeth y gwasanaeth yn parhau i fod yn systemig yn nhermau diffyg argaeledd Meddygon Adran 12(2) cymeradwy (a all argymell derbyniad gorfodol ar gyfer asesiad neu driniaeth dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983), oedi wrth i ambiwlansys gyrraedd i gludo’r unigolyn i’r ysbyty, a diffyg cyffredinol o ran gwlâu priodol. Mae hyn yn golygu y gall asesiad llawn gymryd hyd at 15 awr, ac yn aml, mae’n rhaid derbyn yr unigolyn tu allan i’r sir.
Beth nesaf?
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal â siwrnai adfer yr unigolyn. Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth ymatebol ac yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i ddatblygu strategaethau i oresgyn y problemau gyda’r broses, sy’n creu rhai o’n heriau.
Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol o fewn Gwasanaethau Anableddau
Mae Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gefnogi pobl ag anabledd dysgu, yn enwedig os ydynt wedi’u haflonyddu, ac mewn perygl o niweidio eu hunain. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar weithio gyda phobl a’u rhwydwaith cymorth i ddeall pam maent wedi’u haflonyddu, yr effaith mae’r amgylchedd yn ei gael arnynt, a’r ffyrdd gorau i’w cadw’n ddiogel ac yn hapus.
Rydym wedi cefnogi rhai o’n haelodau staff sy’n ymdrin ag anableddau i fynychu hyfforddiant er mwyn ennill cymwysterau Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol. Mae’r hyfforddiant trosolwg wedi cael ei lunio gan Gydlynydd a Rheolwr Tîm mewnol, ac mae wedi cael ei beilota gyda thîm o Weithwyr Cefnogaeth Sesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag anghenion cefnogaeth cymhleth.
Lluniwyd ffurflenni i alluogi’r gweithwyr cefnogi ysgrifennu adroddiadau yn ystod, neu ar ôl pob sesiwn cefnogaeth, gan alluogi dadansoddiad o ymddygiadau a nodi’r strategaethau i gefnogi’r unigolyn i deimlo’n dawelach yn ystod y dydd. Sefydlwyd gweithgor Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, sy’n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, rheolwyr a Gweithwyr Cefnogi, sydd wedi dechrau casglu syniadau ar sut i fewnosod Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol ar draws y Gwasanaeth Anableddau cyfan.
I’r sawl sydd wedi cwblhau cymwysterau a hyfforddiant, dechreuwyd defnyddio Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol fel ymarfer bob dydd i wella bywydau’r sawl sy’n derbyn gwasanaethau. Bellach rydym yn:
- Cynnal cyfarfodydd tîm wythnosol sy’n canolbwyntio ar un unigolyn, gan nodi beth sy’n mynd yn dda, beth sydd angen newid, a chyfleoedd newydd
- Adnabod dangosyddion cynnar bod unigolyn yn symud i ffwrdd o’u ‘llinell sylfaen’, ac yn gallu gweithredu strategaethau i leihau’r angen iddynt arddangos ymddygiadau i gyfathrebu eu hanghenion
- Rhoi mwy o ddewisiadau i’r sawl rydym yn eu cefnogi, mewn perthynas â’r gweithgareddau yr hoffant eu gwneud
- Cymryd risgiau cadarnhaol, sydd yn ei dro’n creu cyfleoedd newydd ac yn adeiladau sgiliau ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi
O ganlyniad i weithredu’r Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, rydym wedi gweld:
- Gostyngiad mewn ffurflenni digwyddiadau
- Gwell cyfathrebu rhwng y gwasanaeth a theuluoedd
- Gwelliant i fywydau pobl ag anableddau
- Gostyngiad yn yr angen am leoliadau arbenigol tu allan i’r sir, gan alluogi pobl sy’n derbyn gwasanaethau i aros yn agos i deulu a ffrindiau
- Llai o alw am fewnbwn gan wasanaethau Iechyd
- Gwelliant i waith amlasiantaethol
- Gostyngiad i ddefnydd ‘ymarfer cyfyngol’
Beth oedd yr heriau?
Mae’r cymwysterau’n fanwl, ac yn gofyn bod aseiniadau a gwaith papur sy’n gysylltiedig â Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn cael eu cwblhau. Mae’n cynnwys sylwadau’r unigolyn, siarad â phawb sy’n ymwneud â hwy i gasglu gwybodaeth, rhoi’r addysg ar waith, a hyfforddi eraill i roi’r addysg ar waith. Mae hyn yn ychwanegol at brif swyddi aelodau staff, rheoli amser eu llwyth gwaith ac ymrwymiadau eraill.
Nid pawb sydd eisiau cymryd rhan yn y Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, efallai oherwydd diffyg dealltwriaeth am beth mae’n ei olygu, a pheidio gweld y newidiadau cadarnhaol all hyn ei wneud, a’r amser sydd ei angen i wneud y newidiadau cadarnhaol hynny.
Mae ymrwymiadau eraill o ran llwyth gwaith y gweithgor Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn lleihau’r amser sydd ganddynt i allu ymrwymo i’r fenter hon a symud y newidiadau ymlaen.
Beth nesaf?
Rydym yn gobeithio cyflwyno’r cymhwyster Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol i staff rheng flaen, a datblygu hyfforddiant i nodi’r prif egwyddorion. Hoffwn ddatblygu hyfforddiant ar gyfer teuluoedd hefyd, i’w helpu i ddeall cynlluniau Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, y derminoleg gysylltiedig, a pha newidiadau all eu helpu yn eu cartrefi.
Byddwn yn cefnogi darparwyr cymorth i uwchsgilio eu gweithlu gydag ymarfer Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, ac yn ei dro, cynyddu cyfleoedd i bobl gydag anableddau sy’n byw yng Nghonwy.
Byddwn yn parhau i leihau’r angen am leoliadau tu allan i’r sir, a dychwelyd pobl i’r sir drwy ddatblygu llety sy’n addas i anghenion yr unigolyn.
Adborth gan staff ar ôl mynychu cyrsiau a hyfforddiant
Mae’r Tîm Gweithlu a Datblygu wedi cwblhau gwerthusiad o gyrsiau hyfforddiant, sydd wedi amlygu rhwystrau sylweddol i weithwyr Gofal Cymdeithasol a gweithwyr sy’n derbyn hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth, ac ar-lein.
Beth oedd yr heriau?
Mae cynyddu hygyrchedd i hyfforddiant ar gyfer y gweithlu Gofal Cymdeithasol wedi bod yn heriol. Yn ogystal â hynny, mae heriau mewn perthynas â recriwtio wedi effeithio ar allu cyflogwr yn y maes Gofal Cymdeithasol i ryddhau ei weithwyr i fynd i hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth.
Mae hyfforddiant ar-lein yn cynnig rhagor o gyfleoedd o ran mynediad, gan ei fod yn osgoi amser teithio i ystafell ddosbarth. Serch hynny, mae angen dyfais ddigidol addas ar weithwyr i gael mynediad i’r hyfforddiant. Mae angen sgiliau a hyder arnynt i ddefnyddio’r fath ddyfais hefyd.
Beth nesaf?
Rydym yn gweithio ar fodel darparu hyfforddiant newydd i gynyddu hygyrchedd. Bydd hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant craidd yn y gweithle. Yn ogystal â hynny, bydd yn cynyddu mynediad at addysg ar-lein drwy ddarpariaeth llechen ddigidol a chefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r dyfeisiau.
Ymgynghori â’n staff rheng flaen
Rydym yn gofyn i’r staff sy’n gweithio yn ein timau cefnogaeth rheng flaen yn rheolaidd am eu barn am eu rolau, ac ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu ganddyn nhw a’u gwasanaethau. Rydym wedi nodi rhai o’r ymatebion a’r adborth isod.
Gweithwyr gofal cartref sy’n helpu unigolion ag anableddau
- Roedd 100% o ymatebwyr yn teimlo eu bod wedi’u hyfforddi’n ddigonol i gyflawni eu rolau
- Roedd 96% yn cytuno, fel tîm, ein bod yn gwrando ar yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac yn sicrhau bod ganddynt hawliau ac yn gallu gwneud dewisiadau
- Roedd 100% yn teimlo, fel tîm, ein bod yn cefnogi unigolion i fyw bywydau llawn ac yn cefnogi eu hiechyd a’u lles
- Roedd 96% yn teimlo, fel tîm, ein bod yn helpu unigolion i amddiffyn eu hunain a chadw’n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- Sgoriodd pob ymatebwr berfformiad cyffredinol eu tîm yn dda iawn neu’n rhagorol
Gofynnwyd i gyfranogwyr am yr hyn y mae eu gwasanaeth yn ei wneud yn dda:
Mae’r gwasanaeth yn agor drysau i roi cyfleoedd i unigolion gyflawni / cyrraedd eu hamcanion, breuddwydion a dymuniadau. Mae’r gwasanaeth yn cynnig pecynnau gofal gwych ar gyfer unigolion ac yn trin pawb fel unigolyn ac yn gweithio’n galed i gyflawni’r gefnogaeth gywir ar gyfer yr unigolyn hwnnw.
Gwrando ar a gweithredu ar anghenion y plant / bobl ifanc yr ydym ni’n eu cefnogi. Cefnogi staff a gwneud iddynt deimlo’n werthfawr. Mynd yr ail filltir!
Gofynnont hefyd beth yw rhan orau eu swydd:
Pan fydd pethau’n llwyddo; sylwi ar newid mewn cyfathrebu, gweld y rhwystr hwnnw rhwng staff a’r unigolyn yn dod lawr wrth i’r ymddiriedolaeth gynyddu…
Gwybod eich bod wedi cael effaith gadarnhaol ar ddiwrnod rhywun.
Gweld pobl ifanc yn cyflawni rhywbeth, dim ots pa mor fach. Gweld pobl ifanc yn mwynhau gwneud rhywbeth. Ffurfio perthnasau cadarnhaol gyda’r bobl ifanc yr ydw i’n eu cefnogi.
Gofynnom i bobl ifanc sy’n gweithio ar y cyd â’r timau anabledd mewnol am eu barn am ansawdd y gwasanaeth. Cawsom ymatebion gan y timau ymarferwyr sy’n gweithio gydag unigolion dan 25 oed, dros 25 oed ac yn y gwasanaethau dydd.
- Roedd 100% yn teimlo ein bod yn gwrando ar y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei gael a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Mae’r tîm yn canolbwyntio’n arw ar yr unigolyn a’r unigolyn sydd wrth wraidd y gofal a’r gefnogaeth. Maent yn meddwl yn greadigol a ‘thu hwnt i’r ffiniau’. Mae hyn yn amlwg yn y tîm rheoli ac rydw i’n teimlo ei fod yn treiddio lawr i’r staff i gyd hefyd.
- Roedd 94% yn teimlo bod y tîm yn ymateb mewn ffordd amserol pan fyddant yn cysylltu â nhw gydag ymholiad
- Roedd 100% ohonynt yn teimlo bod y tîm yn ymateb ar unwaith i geisiadau pan fo pryderon am unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth yn codi.
- Roedd 100% ohonynt yn teimlo bod y tîm yn ymateb yn briodol i geisiadau pan fo pryderon am unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth yn codi
- Mae 100% yn cytuno bod y gwasanaeth yn cefnogi unigolion i aros yn hapus ac yn iach
Mae cefnogaeth gan y tîm yn galluogi teuluoedd a phlant i gael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd na fyddai ar gael iddynt fel arall, gan gynnig cyfnodau o seibiant i rieni, a chynnig perthnasau proffesiynol a gofalgar i’r plant.
- Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn helpu pobl ifanc i’w hamddiffyn eu hunain a chadw’n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
Roeddwn i’n rhan o achos penodol…lle aeth y tîm yr ail filltir wrth ddarparu gofal i’r plentyn. Fe wnaethant godi pryderon pan roeddent yn teimlo nad oedd asiantaethau eraill yn darparu’r gofal priodol. Fe wnaethant drin y plentyn gyda pharch, trugaredd ac empathi.
- Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn hyblyg ac yn addasadwy er mwyn bodloni anghenion yr unigolyn a gynorthwyir.
- Ceisiwyd enghreifftiau o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth, ac ymatebodd y cyfranogwyr gyda llawer o enghreifftiau, rhwng unigolion, timau mewnol, gwybodaeth a rhannu sgiliau a sefydliadau partner, megis Iechyd.
Gweithwyr gofal gartref Pobl Hŷn
Fel rhan o’n cyfres o arolygon, gofynnom i weithwyr gofal gartref pobl hŷn am eu barn am y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu a’r gefnogaeth maen nhw’n gael gan y rheolwyr.
- Roedd 90% yn teimlo eu bod yn cael yr hyfforddiant a’r gefnogaeth oruchwyliol angenrheidiol gan eu rheolwr i wneud eu swyddi
- Roedd 100% yn cytuno, fel tîm, eu bod yn gwrando ar yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac yn sicrhau bod ganddynt hawliau ac yn gallu gwneud dewisiadau
- Roedd 94% yn teimlo, fel tîm, eu bod yn cefnogi unigolion i fyw bywydau llawn ac yn cefnogi eu hiechyd a’u lles
Rydw i’n ymweld â’r rhai sy’n rhan o’m llwyth achosion yn ddyddiol neu’n wythnosol i’w monitro, eu cefnogi, eu helpu a’u cyfeirio i hwyluso eu hanghenion a gwrando arnynt a phawb o’u cwmpas.
Drwy annog unigolion i wneud gymaint ag y gallent eu hunain, datblygu eu hunan-barch a chodi eu hunan-hyder. Hefyd, annog unigolion i fynychu clybiau cinio a digwyddiadau cymdeithasol eraill fel y gallent ddatblygu cyfeillgarwch gyda’u grwpiau oedran eu hunain a chael pethau i edrych ymlaen atynt.
- Roedd 97% yn teimlo bod y gwasanaeth yn helpu unigolion i amddiffyn eu hunain a chadw’n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- Mae 54% yn rhoi sgôr o bump allan o pump a 34% yn rhoi sgôr o bedwar
Rydw i’n hapus iawn gyda’r gwasanaeth yr ydw i’n gweithio ynddo. Rydw i’n mwynhau cael mynediad agored a llawn i bob gwasanaeth sy’n fy ngalluogi i atgyfeirio unigolion ar garlam i’r cymorth a’r gofal.
Yn yr amgylchedd yma sy’n gweithredu’n gyflym, rydw i’n gweld bod rhannu gwybodaeth yn beth da iawn a gwrandewir a gweithredir ar unrhyw bryderon / newidiadau ar unwaith.
Mae’r sylwadau ychwanegol yn awgrymu, er gwaethaf yr heriau cyfredol yn y maes gofal cymdeithasol, bod y timau’n parhau’n gadarnhaol ac yn benderfynol o ddarparu’r gofal gorau posib i bobl hŷn yng Nghonwy.
Holom gydweithwyr o’r Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithasau Tai am eu barn am berfformiad y gwasanaeth hwn. Unwaith eto, roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda chydnabyddiaeth bod y galw ar y timau gofal gartref yn uchel.
- Roedd 100% yn teimlo ein bod yn gwrando ar yr unigolion rydym ni’n eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei gael a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw
- Roedd 96% yn teimlo ein bod yn ymateb mewn modd amserol i ymholiadau ac mae 100% yn teimlo ein bod yn ymateb yn brydlon ac yn briodol i bryderon am unigolion yn cael mynediad at y gwasanaeth
- Mae 100% yn teimlo ein bod yn cefnogi unigolion i aros yn hapus ac yn iach
- Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn helpu unigolion i’w hamddiffyn eu hunain a chadw’n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- Mae 91% yn teimlo bod y gwasanaeth yn hyblyg ac yn gallu addasu er mwyn bodloni anghenion yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi, gyda sylwadau ychwanegol sy’n gwerthfawrogi bod hyn yn digwydd pan fo pwysau o ran staffio a gallu ac amser yn codi
Rydw i wedi gweithio mewn partneriaeth gyda’r Tîm Ail-alluogi sawl gwaith ac rydw i’n ystyried eu staff yn gefnogol ac maent yn ymgysylltu’n dda gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd. Maen nhw’n darparu gwasanaeth lefel uchel o ansawdd, maen nhw’n gallu ymdrin ag argyfyngau pan fyddant yn codi, ac [maen nhw’n] adnodd gwych yn y gymuned.
Yn ystod un o’r streiciau ambiwlansys, ni wnaeth un o’r uwch ofalwyr betruso dim rhag fy nghefnogi gyda defnyddiwr gwasanaeth. Yn ystod Covid, y gofalwyr oedd ein llygaid a’n clustiau ac os oedd ganddyn nhw bryderon am ddefnyddiwr gwasanaeth, roeddent yn rhoi gwybod i mi ar unwaith.