Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol
Mae Taliadau Uniongyrchol yn daliadau arian parod sy’n cael eu talu i unigolion er mwyn iddynt allu trefnu eu cefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol a aseswyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, dewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu.
Bydd gwaith ailstrwythuro’r adain Taliadau Uniongyrchol yn dod i ben yn 2023-2024. Bydd yr adran newydd yn gyfrifol am godi proffil Taliadau Uniongyrchol ymhlith yr holl ddinasyddion cymwys sy’n hysbys i Ofal Cymdeithasol sy’n dymuno rheoli sut mae eu cefnogaeth yn cael ei darparu. Gwneir hyn drwy ddatblygu tudalennau gwe, cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau cymunedol a sicrhau bod staff y rheng flaen yn meddu ar y sgiliau ac yn hyderus yn trafod buddion Taliadau Uniongyrchol gyda dinasyddion.
Bydd y tîm yn darparu gwasanaeth cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y cynllun, rhai sy’n defnyddio’r cynllun, staff yr adran a chydweithwyr Iechyd sy’n ymwneud â’r broses. Byddant yn dysgu am yr agenda gwleidyddol cenedlaethol sy’n newid, gan sicrhau bod yr holl newidiadau’n cael eu hymgorffori yn natblygiadau’r cynllun.
RISCA
Fel y nodwyd yn flaenorol yn yr adroddiad hwn, mae gwaith wedi bod ar y gweill o ran cyflwyno rôl Unigolyn Cyfrifol uwch. Bydd y prosiect cysylltiol yn parhau yn 2023-24, yn casglu gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru ar fodelau gwahanol ac arferion gorau ar gyfer cyflawni dyletswyddau Unigolyn Cyfrifol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn ffurfio rhan o werthusiad dewisiadau, a fydd yn cael ei gynnal gyda sawl budd-ddeiliad, er mwyn asesu rhestr o fodelau i benderfynu ar y dewis a ffefrir. Gyda mwy o ganolbwyntio ar ddatblygu ein darpariaethau gofal mewnol, mae cyflwyniad y rôl Unigolyn Cyfrifol uwch yn ddatblygiad pwysig iawn o ran hyrwyddo, monitro a gwella ansawdd gwasanaeth.
Trawsnewid lleoliadau preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc
Rhoddwyd cefnogaeth (drwy ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Cabinet) i sefydlu rhaglen newydd o waith i drawsnewid sut yr ydym yn darparu lleoliadau preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae cartrefi gofal a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan na allant fyw gyda’u teuluoedd eu hunain. Mae modd i blant a phobl ifanc breswylio mewn cartref gofal am gyfnodau byr, gan gynnwys gofal seibiant neu gyfnod byr, neu yn y tymor hwy, gyda’r bwriad i symud i fod yn oedolyn a byw’n fwy annibynnol. Maent yn lle i blant a phobl ifanc dderbyn cefnogaeth i ddatblygu a thyfu.
Ein nod yw cynyddu’r nifer o leoliadau lleol, i alluogi plant a phobl ifanc sydd tu allan i’r sir ar hyn o bryd i ddychwelyd i’r ardal, neu’n nes at adref, a’u galluogi i gadw eu gwreiddiau’n lleol, eu hysgolion, eu diwylliant, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cefnogi. Bydd hyn hefyd yn cynyddu’r cyfleoedd i staff gefnogi plant a phobl ifanc yn lleol, er mwyn datblygu perthnasoedd gwell gyda phlant a phobl ifanc.
Mae’r rhaglen drawsnewid yn cefnogi darpariaeth ein ‘Strategaeth Comisiynu Lleoliad 2022-2027’, sydd â’r nod i “ddarparu lleoliadau digonol i fodloni anghenion unigol ac amrywiol plant sy’n derbyn gofal.”
Rydym eisoes wedi dechrau ar ein taith drwy ddatblygiadau lleol sydd eisoes ar y gweill, megis Canolfan Asesu isranbarthol newydd – Bwthyn y Ddôl (menter ar y cyd rhwng Cyngor Conwy a Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), sy’n creu lleoliadau seibiant a gofal byr dymor wedi’i gynllunio, a chartref preswyl Sylva Gardens, yn creu fflatiau newydd a gwasanaeth cefnogi ar gyfer tri o blant ag anghenion gofal cymhleth. Mae cynigion wedi’u cefnogi’n ddiweddar hefyd i ailddatblygu ein darpariaeth breswyl fewnol, Glan yr Afon, i gynyddu capasiti i ddarparu llety ar gyfer hyd at 4 unigolyn. Bydd hyn yn cynnwys dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu cyfleuster pwrpasol.
Mae amrywiaeth o ffactorau sy’n dylanwadu ar y pwysau a’r heriau y mae ein gwasanaethau yn eu hwynebu, nad ydynt i’w gweld yng Nghonwy’n unig, ond yn genedlaethol:
- Mwy o alw am leoliadau
- Twf a chymhlethdod anghenion gofal
- Diffyg lleoliadau maeth mewnol a lleoliadau preswyl lleol
- Costau cynyddol fesul plentyn fesul wythnos yn y sector gofal annibynnol
- Targed arbedion adrannol
- Pwysau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill, sydd wedi gwaethygu yn sgil pandemig Covid-19.
I gefnogi’r gwasanaeth gyda’r rhaglen waith sylweddol hon, rydym yn penodi Arweinydd y Rhaglen Drawsnewid (gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru). Y nod yw cael un rhaglen waith gydlynol i ddatblygu datblygiadau presennol ac ystyried modelau newydd a gwahanol ar gyfer darparu lleoliadau lleol. Bydd ymgysylltu ag ystod o fudd-ddeiliaid megis awdurdodau lleol eraill a sefydliadau’r sector cyhoeddus, sefydliadau nad er elw, darparwyr annibynnol, a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn nodwedd allweddol i ddatblygu’r dewisiadau i ddiwallu’r heriau hyn.
Cyfiawnder Ieuenctid: dull gweithredu plentyn yn gyntaf a nodi trawma
Byddwch wedi darllen am y gwaith rydym ni wedi’i wneud hyd yn hyn yn y maes hwn yn gynharach yn yr adroddiad hwn. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn adolygu’r strwythur staffio o fewn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i greu swyddi arbenigol, er mwyn datblygu a symud ymlaen ag agweddau o’r gwaith ymhellach. Gallwn hefyd gynllunio i ganfod adeilad o fewn yr awdurdod i greu Canolbwynt Cymunedol lle gall plant a phobl ifanc:
- Alw i mewn i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol drwy brosiectau ‘coginio a bwyta’
- Mynychu apwyntiadau gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac asiantaethau partner
- Mynychu cyfarfodydd ymyrraeth arbenigol yn unigol neu fel grŵp
- Cael lle diogel a chynnes i ymgynnull