Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Cyflwyniad

Ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol, mae angen i Gyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi adroddiad i nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i drigolion Conwy. Mae’n dangos sut rydym wedi hyrwyddo lles ac wedi ystyried darparu safonau lles. Mae’n rhoi gwybod am feysydd lle mae datblygiadau newydd, yn hytrach na phob agwedd ar ein gwaith, ac yn arfarnu ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau Gofal Cymdeithasol. Rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol. Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, y cyrff sy’n ein rheoleiddio a Llywodraeth Cymru.

Mae blaenoriaethau ein gwasanaeth wedi cael eu halinio i’r wyth safon ansawdd sy’n cynrychioli lles pobl dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

  • Mae pobl yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt
  • Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu cymwysedig a hynod fedrus yn cael ei gefnogi i weithio tuag at weledigaeth a rennir
  • Mae’r angen am ofal a chymorth yn cael ei leihau ac nid yw anghenion yn cynyddu, gan sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bobl
  • Mae cydnerthedd yn ein cymunedau yn cael ei hyrwyddo ac mae pobl yn cael eu helpu i gyrraedd eu potensial trwy annog a helpu pobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas
  • Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy a chwbl integredig o safon uchel i bobl
  • Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllunio a darparu ei gofal a’u cymorth fel partneriaid cyfartal
  • Mae pobl yn cael eu hamddiffyn a’u diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod ac unrhyw fathau eraill o niwed
  • Mae pobl yn cael eu helpu i reoli eu llesiant a gwneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain fel y gallant gyrraedd eu potensial llawn a byw’n annibynnol cyhyd â phosibl

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English