Croeso i Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr, lle byddwn yn edrych yn ôl ar 2022/23. Rydym yn parhau i arddangos brwdfrydedd ac arloesedd yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaeth, er gwaethaf cyfnod heriol iawn o ran y gyllideb.
Cafwyd rhai datblygiadau arwyddocaol dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi cyfrannu at ein cyfeiriad strategol ac mae gennym ardystiad da iawn gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr sy’n rhoi adborth parhaus i ni, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Mae cwynion wedi gostwng, ond rydym yn parhau i ddysgu ohonynt, a chawsom dros 100 o ganmoliaethau hefyd sy’n dangos y gwerthfawrogiad sy’n bodoli am yr hyn yr ydym yn ei gynnig yn y sir.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n dull i fod yn gynhwysol, heb stigma, ac rydw i’n falch iawn o weld y newid i ddefnyddio iaith y mae pobl ifanc yn ddweud wrthym sy’n fwy parchus ac yn cyd-fynd â’r ffordd maen nhw’n ystyried eu hunain. Mae enghreifftiau o’r fath yn cynnwys peidio â defnyddio termau traddodiadol a defnyddio ‘children looked after’ yn fersiwn Saesneg pob dull o gyfathrebu.
Rydym wedi cynyddu’r hyn yr ydym yn ei gynnig i bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia ac wedi meithrin ethos o dîm o amgylch y person a effeithiwyd, gan ystyried yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae hyn yn rhan allweddol o’n cefnogaeth ar gyfer oedolion, wrth i ni weld cynnydd wrth gydnabod dementia’n gynnar a sut gall ymyrraeth a chefnogaeth gynnar fod yn hynod effeithiol ar ôl hynny.
Mae’r hyn yr ydym yn ei gynnig i’r rhai sy’n gadael gofal wedi gwella ac mae’r tîm yn cymryd rhan mewn ymchwil arloesol i ystyried modelau arfer arloesol a sut y gellir datblygu hyn i becyn hyfforddiant cenedlaethol. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â’r cynllun peilot i’r rhai sy’n gadael gofal i gael incwm sylfaenol a sut gall y ffynhonnell incwm hon wneud gymaint o wahaniaeth.
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi gweithio’n galed i ddatblygu model ymyrraeth cynnar cefnogol ac effeithiol, gan fireinio swyddogaethau ac hefyd gweithio ar strwythur lywodraethu well. Mae hyn wedi talu ar ei ganfed i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Rydym yn hynod falch o lansio’r Coleg Adfer Lles Meddyliol, dull sydd wedi bod yn ddyhead ers tro. Mae grant ychwanegol bellach wedi’n galluogi ni i ddatblygu hyn, ac mae gennym gynlluniau ar y gweill i wella’r cynnig ymhellach dros y flwyddyn nesaf.
Nid ydym yn aros yn llonydd ac mae gennym raglen waith uchelgeisiol iawn o’n blaenau. Rydym yn parhau i wneud ymdrech i sicrhau bod ein gwasanaethau cyn effeithiol â phosib, fodd bynnag, gall hyn effeithio ar ansawdd, wrth i adnoddau gael eu cywasgu. Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein cynlluniau a bydd y rhaglen waith fwyaf sylweddol o’n blaenau yn trawsnewid profiadau gofal plant, yn enwedig y rheiny mewn lleoliadau â chostau uchel.
Hoffwn ddiolch i’r staff unwaith yn rhagor am flwyddyn gynhyrchiol er gwaethaf y pwysau a’r heriau. Rydw i’n hynod falch o arwain y gwasanaeth ac rydw i’n edrych ymlaen at y bennod nesaf.
Jenny Williams Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy