Arolygon ac Ymgynghoriadau
Rydym wedi parhau i ofyn am adborth gan bobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth gennym ni er mwyn i ni allu monitro ein perfformiad a gwella gwasanaethau lle bo angen. Eleni, gan ein bod wedi canolbwyntio ar ymateb i bandemig Covid-19, ni wnaethom gynnal yr arolwg dinasyddion blynyddol, fodd bynnag, fe welwch enghreifftiau o arolygon ac ymgynghoriadau eraill drwy gydol yr adroddiad hwn.
Cwynion a chanmoliaeth am ein gwasanaethau
Mae’r rhain yn rhoi adborth uniongyrchol i ni gan bobl sy’n derbyn ein gwasanaethau, a’u teuluoedd. Maent yn tynnu sylw at feysydd lle rydym yn gwneud yn dda, a hefyd lle gallwn ni wella ein harferion. Mae cael cwynion yn golygu y gallwn ni:
- Eu cydnabod yn gyflym pan fyddwn yn gwneud camgymeriadau
- Eu hunioni ac ymddiheuro lle bo’n briodol
- Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o’r cwynion
Oherwydd y ffordd rydym yn adrodd ar gwynion a chanmoliaeth ym maes gofal cymdeithasol, rydym yn rhoi crynodeb i chi o’n perfformiad yn ystod 2020-21.
Derbyniodd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gyfanswm o 16 cwyn ffurfiol yn ystod 2020-21. Mae’r rhain yn gwynion (Cam 1 a Cham 2) a dderbyniwyd ac a ddatryswyd yn ystod y flwyddyn adrodd. Mae’r nifer yn is na’r flwyddyn flaenorol, ac yn dilyn tuedd o ostyngiad yn nifer y cwynion dros y pum mlynedd ddiwethaf yn y gwasanaethau plant ac oedolion.

Mae’n siŵr fod effaith pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar nifer y cwynion a wnaed gan unigolion, gan y gwelwyd mwy o ostyngiad mewn cwynion ffurfiol na’r cyfartaledd dros y tair blynedd ddiwethaf.
Fel adran, rydym bob amser yn ceisio datrys cwynion yng Ngham 1 (datrysiad lleol), os nad oedd yn bosibl dod i gytundeb yn anffurfiol. Yn ystod 2020-21, cafodd 14 o’r 16 cwyn eu datrys yng Ngham 1.
Mae yna elfen ariannol sy’n gysylltiedig â phenodi archwilwyr annibynnol i gwblhau proses Cam 2 mewn unrhyw gŵyn. Yn ystod 2020-21 fe wnaethom wario £4,710 ac mae’r swm hwn yn cynnwys symiau a dalwyd i achwynwyr, naill ai fel y cytunwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu am resymau eraill sy’n ymwneud â’r broses gwynion.
O ran amserlenni, cafodd pob cwyn Cam 1 eu cydnabod o fewn dau ddiwrnod gwaith (cydymffurfiaeth o 100%) a chwblhawyd 11 erbyn y dyddiad cau o 15 diwrnod gwaith (cydymffurfiaeth o 78.6%). Cafodd un o’r ddwy gŵyn Cam 2 eu cwblhau erbyn y dyddiad cau o 25 diwrnod gwaith (cydymffurfiaeth o 50%).
Derbyniwyd 69% o’r cwynion gan aelodau o’r teulu, ac roedd y rhan fwyaf yn ymwneud â diffyg cyfathrebu ar ein rhan ni, yn ogystal â materion yn ymwneud â’r gofal a’r cymorth roedden nhw’n eu derbyn, a phryderon ariannol. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud o ran categoreiddio themâu er mwyn dadansoddi tueddiadau dros amser, ac edrych ar dueddiadau sy’n codi dro ar ôl tro wrth edrych tua’r dyfodol. Mae cwynion gan ddinasyddion yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni ar sut i wella ein gwasanaethau. Datblygir cynlluniau gweithredu ffurfiol sy’n deillio o argymhellion yn sgil Ymchwiliad Cam 2, neu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rydym yn derbyn llawer o ganmoliaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yn ystod y flwyddyn, ac nid oedd 2020-21 yn eithriad i hynny. Derbyniodd ein gwasanaethau oedolion 139 achos o ganmoliaeth, ac roedd 82 o’r rhain ar gyfer y Gwasanaeth Pobl Hŷn. Derbyniodd y gwasanaethau plant 41, ac roedd y mwyafrif o’r rhain ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth.
Hoffwn ddweud bod y cysur a’r gofal a ddangosodd y tîm tuag atom wedi bod yn anhygoel. Mewn cyfnod pan fyddwn ni wedi drysu’n lân ac yn teimlo’n drist ac yn ansicr, ac rydym yn dal i gael cyfnodau felly, rydym wedi’n synnu gan y didwylledd a’r caredigrwydd a ddangoswyd
