Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw’n annibynnol am gyn hired â phosibl
Cathod therapi dementia
Dros y deuddeg mis diwethaf, mae ein Tîm Teleofal wedi bod yn darparu Cath Therapi Dementia ar gyfer rhai unigolion, a defnyddiwyd cyllid o’r Gronfa Gofal Integredig i brynu’r gath. Mae’r cathod yn edrych yn realistig, ac wedi’u dylunio i gynnig cysur, cwmnïaeth a hwyl i bawb. Maen nhw’n canu grwndi’n union fel cath go iawn, ac yn ymateb i gyffyrddiad, a hyd yn oed yn mewian! Rydym wedi cael adborth ardderchog gan deuluoedd a chartrefi gofal a ddywedodd wrthym am yr effaith gadarnhaol mae’r gath wedi’i chael ar fywydau eu hanwyliaid.
Astudiaeth achos
Roedd Mrs X wedi symud i gartref gofal. Roedd hi bob amser wedi cael cathod ond yn anffodus nid oedd yn gallu dod â’i chath ei hun gyda hi. Roedd hi’n bryderus iawn a methu setlo yn ei chartref newydd, felly cysylltodd rheolwr y cartref gofal gyda gwasanaeth Teleofal Conwy.
Cafodd Mrs X Gath Therapi Dementia. Dywedodd y rheolwr fod ei hwyneb wedi goleuo ar unwaith; mae’n cario’r gath i bobman ac mae wedi gwella ei lles yn sylweddol. Mae Mrs X yn fwy cyfforddus, yn llai pryderus ac mae wrth ei bodd gyda’i chyfaill newydd.
Mae’r cathod yn boblogaidd iawn, ac oherwydd eu poblogrwydd mae llawer o gartrefi gofal yng Nghonwy wedi prynu mwy ohonyn nhw i’w rhannu rhwng y preswylwyr.
Adeiladu ein Canolfan Seibiant newydd i Bobl Anabl a phlanhigfa Bryn Euryn
gwaethaf peth oedi oherwydd y tywydd ym mis Rhagfyr, a phan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd yr isadeiledd mawr ar y llawr gwaelod bellach wedi ei gwblhau. Mae’r gwaith ar safle planhigfa Bryn Euryn yn gynt na’r disgwyl a disgwylir i’r ffenestri a’r drysau gael eu gosod erbyn diwedd mis Chwefror. Mae hyn i gyd yn golygu ein bod yn dal i ddisgwyl y bydd yr adnodd yn agor ar 19 Awst 2022, yn ôl y disgwyl.
Er ein bod wedi cael trafferth wrth geisio cael deunyddiau, a arweiniodd at amseroedd arwain hir, rydym wedi lliniaru hyn drwy ddefnyddio mannau storio’r Awdurdod Lleol. Drwy archebu deunyddiau ymlaen llaw a chynllunio i’r dyfodol, rydym wedi llwyddo i arbed amser ac arbed tua £20,000 o gostau hyd yma.
Mae digwyddiad cwrdd â’r prynwr wedi’i drefnu ym mis Chwefror 2022 er mwyn magu diddordeb yn ein siop a’n caffi cyffrous newydd.
Fe soniom yn gynharach yn yr adroddiad fod yna brosiect cymhleth ar waith, gyda phedair ffrwd waith wahanol, sef gweithredu’r safle, seibiant i bobl anabl, gofal cymhleth a chyfleoedd gwaith. Mae pob un o’r rhain yn cael eu rheoli gan dîm prosiect profiadol, ac mae £1.2m wedi cael ei wario ar y gwaith adeiladu hyd yma.
Clwb Newydd ar gyfer rhai sy’n Gadael yr Ysgol
O fewn y Gwasanaethau Anabledd, fe welsom yr angen i gyflwyno clwb newydd ar gyfer pobl ifanc oedran gadael ysgol oherwydd y galw mawr ar gyfer yr ystod oedran hwnnw. Gwelsom gyfle i ddatblygu’r set sgiliau ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd ar eu taith i fod yn oedolion. Ar ôl cynnal trafodaethau gyda phobl ifanc a’r staff sy’n eu cefnogi, roedd hi’n amlwg eu bod eisiau dysgu sut i goginio a siopa’n annibynnol mewn amgylchedd diogel.
Dechreuodd y clwb gyda phump person ifanc 17 oed a hŷn, wedi’u cefnogi gan dri aelod o staff. Penderfynwyd ar leoliad addas yng Nghanolfan Marl yng Nghyffordd Llandudno, oherwydd y cyfleusterau sydd ar gael ar y safle ac am ei fod yn agos at archfarchnadoedd. Ar ôl siarad gyda theuluoedd, penderfynwyd y byddai dydd Gwener rhwng 4:30pm a 7:30pm yn slot addas, a byddai’n galluogi’r bobl ifanc sy’n mynychu i gynllunio, siopa fel grŵp ar gyfer eu pryd nos y diwrnod hwnnw, a’i goginio. Cafodd pobl ifanc eu cefnogi i benderfynu fel grŵp beth bydden nhw’n ei goginio gyda’r nos. Roedd y gweithgaredd syml hwn yn cynnwys sgiliau gwrando, cydweithredu a disgwyl eu tro. Ar ôl penderfynu beth fyddai’n cael ei goginio, roeddem yn cefnogi’r grŵp i lunio rhestr siopa, a’r aelodau mwy abl yn y grŵp yn gyfrifol am ysgrifennu’r rhestr siopa bob wythnos. Fe wnaeth y staff gefnogi’r grŵp i baratoi cyllideb er mwyn sicrhau nad oedd y rhestr siopa a ddymunwyd yn ddrutach na’r gyllideb ymhob sesiwn.
Roedd y bobl ifanc yn gyfrifol am wneud eu hunain yn barod cyn mynd i’r archfarchnad, a rhoddwyd tasg i bob un ohonyn nhw ganfod eitemau ar y rhestr siopa. Ar ôl y daith i’r siop, rhoddwyd tasg i bob person ifanc baratoi elfennau gwahanol y pryd bwyd. Tra roedd y pryd yn cael ei goginio, fe dreuliodd y bobl ifanc amser yn gwrando ar gerddoriaeth, chwarae offerynnau, chwarae gemau bwrdd neu sgwrsio gyda’u ffrindiau.
Gwelwyd hyder y bobl ifanc a oedd yn rhan o’r grŵp yn tyfu bob wythnos, a nododd sawl un eu bod nawr yn helpu i baratoi bwyd gartref. Gwelwyd bod y bobl ifanc a oedd yn cael trafferth gyda’r tasgau syml ar y dechrau yn dod yn gyfarwydd â’r drefn yn fuan iawn ac roedden nhw’n gallu cyflawni tasgau mwy cymhleth wrth i amser fynd yn ei flaen.
Ar y cyfan fe ddatblygodd y grŵp eu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd, sgiliau trin arian, yr hyder i fod yn annibynnol, rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu.
Cefnogi pobl i fod yn annibynnol
Yn adroddiad y llynedd, fe wnaethom sôn wrthych am y cynnydd ardderchog a oedd yn cael ei wneud ar y pryd ar safle Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno. Mae cam adeiladu’r prosiect nawr wedi ei gwblhau’n llwyddiannus ac mae’n barod ar gyfer tenantiaid newydd. Mae cymysgedd da o lety ar gael i unigolion sydd ag anghenion gwahanol, er enghraifft anableddau, pobl sy’n gadael gofal a phobl ddiamddiffyn.
Rydym eisoes wedi gallu dangos tystiolaeth o’r effaith gadarnhaol mae’r llety hwn yn ei gael ar bobl a’u gallu i fyw’n fwy annibynnol. Dyma ddwy astudiaeth achos o safle Maelgwn:
Astudiaeth achos
Mae unigolyn wedi gadael cartref am y tro cyntaf a symud i’w fflat ei hun. Roedd y teulu wedi ei chefnogi i fod yn annibynnol yn y cartref cyn iddi symud.
Mae’r unigolyn yn gymdeithasol iawn ac mae symud wedi ei galluogi i dreulio mwy o amser gyda’i chyfoedion. Mae’n mynegi ei safbwyntiau a’i barn yn amlach ac mae ganddi nawr ddiddordebau gwahanol.
Yr her fwyaf i’r teulu oedd sylweddoli nad oedd hi angen cymaint o gefnogaeth ganddyn nhw, er hyn, maen nhw’n dal i’w chefnogi. Maen nhw nawr yn treulio amser gyda’i gilydd fel teulu yn hytrach na chwarae rôl gofalu.
Teleofal – Parhau i fod yn arloesol yn ystod y pandemig
Drwy gydol pandemig Covid-19, mae’r tîm Teleofal wedi parhau i ddarparu gwasanaethau a chanfod ffyrdd arloesol i gadw pobl yn annibynnol a’u diogelu drwy ddefnyddio technoleg. Mae hyn wedi rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd y defnyddwyr gwasanaeth gan eu bod yn gwybod bod eu hanwyliaid yn ddiogel ac yn aros mor annibynnol â phosibl. Dyma astudiaeth achos lwyddiannus sy’n enghraifft lle gwelwyd gwir wahaniaeth drwy ddefnyddio technoleg y gellir ei gwisgo.
Astudiaeth achos
Mae Mr X yn ŵr oedrannus gyda dementia sy’n byw gyda’i wraig mewn pentref gwledig. Roedd yn annibynnol iawn, ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf, dechreuodd ei wraig sylwi ar fymryn o newid yn ei gof a dechreuodd gael trafferth defnyddio cludiant cyhoeddus. Er mwyn sicrhau na fyddai’n rhaid i’w wraig deithio gydag ef, cyfeiriwyd Mr X at wasanaethau Teleofal Conwy i gael ei asesu gan y Clinig Cof.
Gan nad oedd yn hawdd i Mr X ddefnyddio ffôn symudol, cytunwyd y gellid rhoi cynnig ar ddefnyddio oriawr GPS Doro. Roedd yr oriawr wedi’i chysylltu â ffôn symudol ei wraig fel y gallai hi weld ei symudiadau tra roedd hi’n ôl yn ei gwaith. Roedd yr oriawr yn rhoi tawelwch meddwl i Mr a Mrs X. Gallai Mrs X ddychwelyd i’w gwaith gan wybod y gallai hi ganfod ei gŵr pe bai’n mynd am dro neu’n dal y bws. Roedd Mr X hefyd yn falch iawn o gael dyfais a allai gysylltu â’i wraig yn hawdd pe bai’n teimlo’n sâl neu’n anghofus. Mae nawr yn mynd am dro bob dydd, sydd wedi gwella’r sefyllfa. Gallaf fynd i fy ngwaith heb boeni gormod amdano, mae wedi helpu fy ngorbryder i, a gwella ei iechyd meddwl ef a’i deimlad o fod yn annibynnol.
Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r ddau ohonom. Gallaf fynd i fy ngwaith heb boeni gormod amdano, mae wedi helpu fy ngorbryder.
Manteision dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Drwy weithio’n agos gyda’r unigolion rydym yn eu cefnogi gallwn eu helpu i fanteisio i’r eithaf ar fywyd a gwella’u hannibyniaeth a’u hyder. Dengys yr astudiaeth achos isod sut y gellir gweld gwir fanteision drwy neilltuo’r amser i weithio gyda chryfderau’r unigolyn, wrth eu pwysau eu hunain.
Astudiaeth achos
Mae X yn ferch ifanc yn ei 20au gydag anabledd dysgu sy’n hynod o bryderus drwy holl agweddau ei dydd. Mae hi’n mynegi ei gorbryder drwy drais corfforol a geiriol a thrwy roi ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus. Pan adawodd hi’r ysgol, dechreuodd fynychu gwasanaeth dydd newydd bum diwrnod yr wythnos, a oedd wedi’i deilwra i’w hanghenion.
Cyn dechrau’r gwasanaeth dydd, bu’n rhaid i ni ymgyfarwyddo’r staff gyda X a’i hamgylchiadau personol felly fe weithiodd y staff cefnogi gyda X yn ei hysgol am saith mis er mwyn dod i’w hadnabod. Ysgrifennwyd cynlluniau personol cyfannol, yn cynnwys teulu, addysg, iechyd a darparwyr cefnogaeth a oedd eisoes yn bodoli. Croesawodd y tîm y gwasanaeth newydd gan ddefnyddio dulliau cefnogi ymddygiad cadarnhaol. Mynegodd X ar lafar yr hyn roedd hi’n ei hoffi a’i gasáu, a hi fu’n arwain y cynlluniau pontio.
Fe wnaethom gyflwyno gweithgareddau newydd ar gyflymder a oedd at ddant X, gan adeiladau ar y rhain yn araf. Mae ei hyder wedi gwella, ac oherwydd hyn mae hi nawr yn mwynhau gweithgareddau amrywiol, yn cynnwys ymweld â nifer o lefydd newydd, siopa drosti ei hun, bwyta cinio mewn caffi a nofio mewn pyllau nofio cyhoeddus, i enwi ond rhai. Mae ganddi bersonoliaeth anhygoel a synnwyr digrifwch gwych, ac mae’r staff yn gweld hyn bob dydd.
Yn dilyn llwyddiant mesurau Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol, byddwn yn hyfforddi pob aelod o staff yn y dull hwn.
Cefnogaeth ar gyfer gŵr ifanc â nam ar ei olwg
Mae ein Gwasanaeth Anableddau’n gweithio’n agos iawn gyda swyddogion adsefydlu o Vision Support i ddarparu cefnogaeth arbenigol i unigolion sydd â nam ar eu golwg. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut y gall nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn helpu i annog annibyniaeth a chanlyniadau personol cadarnhaol.
Astudiaeth achos
Mae X yn berson yn ei arddegau gydag awtistiaeth, problemau symudedd a nam difrifol ar ei olwg. Cafodd ei gyfeirio at ein gwasanaeth ni ac fe wnaethom gytuno ar ganlyniadau a oedd yn bwysig iddo ef, yn cynnwys symud o gwmpas yn ddiogel, mynd i’r coleg a manteisio i’r eithaf ar y golwg sydd ganddo ar ôl.
Cafodd X gefnogaeth i asesu ei sgiliau cerdded, gwrando a gweld, gan y byddai’r rhain i gyd yn effeithio ar ei allu i symud o gwmpas yn annibynnol. Yn ogystal â chefnogi X, fe gymerodd ei deulu a staff y coleg ran mewn hyfforddiant tywys fel y gallen nhw ei helpu pan fydden nhw allan gyda’i gilydd.
Cynhaliwyd rhagor o hyfforddiant symudedd wedi’i deilwra ar gyfer X iddo gerdded o’i gartref at gludiant i’r coleg ac yn ôl unwaith eto ar ddiwedd y dydd, a gallu symud o gwmpas yr ardaloedd y byddai angen iddo ymweld â nhw yn y coleg. Fe wnaeth hyn wella’i hyder a’i annibyniaeth, ac mae’r hyfforddiant wedi dechrau ei gyflwyno i lwybrau i mewn i’r dref er mwyn iddo ymweld â siopau a gwasanaethau.
Fe wnaethom weithio gyda mam X er mwyn gwella ei hyder hi yn ei alluoedd a thawelu ei phryderon pan fyddai ef ar ei ben ei hun yn y gymuned. Rydym wedi defnyddio technoleg megis ap iOS ‘Find my’ er mwyn galluogi mam i dracio symudiadau cyfredol X, ac rydym wedi ei gyfeirio at y Swyddog Cynhwysiant Digidol er mwyn ei gefnogi ef a staff y coleg i ddewis offer hygyrch. Mae X hefyd yn manteisio i’r eithaf ar ei dechnoleg ei hun a sbectol golwg gwan arbenigol gyda’n cefnogaeth ni.
I gloi, rydym yn gweithio gyda theulu X i’w cefnogi gyda’u cais PIP a’u statws tŷ.
Cynnydd mewn cynadleddau grŵp i deuluoedd
Mae gwasanaeth Cynadleddau Grŵp i Deuluoedd (CWLWM) a ddarperir gan Y Bont, yn broses dan arweiniad teuluoedd lle caiff penderfyniadau, cynlluniau a threfniadau eu gwneud ar gyfer plant sydd mewn angen neu berygl. Gellir hefyd defnyddio’r Cynadleddau Grŵp i Deuluoedd ar gyfer aelodau’r teulu, yn cynnwys plant a phobl ifanc, er mwyn cytuno ar gefnogaeth a gofalwyr amgen er mwyn cadw plant gyda’u teuluoedd eu hunain.
Mae’r gwasanaeth wedi cael ei ariannu drwy’r gyllideb graidd er mwyn cefnogi tua 21 o deuluoedd bob blwyddyn. Gyda chyllid ychwanegol o’r Gronfa Gofal Integredig, roeddem yn gallu cynyddu nifer y teuluoedd mae CWLWM yn eu cefnogi, at hyd at 40 o deuluoedd rhwng 2019 a 2021 yn ogystal â darparu hyfforddiant i staff. Roedd hyn yn golygu bod teuluoedd yn derbyn y gwasanaeth yn llawer cynharach, a oedd yn helpu i atal anghenion rhag cynyddu a phlant yn cael eu rhoi yn ngofal yr Awdurdod Lleol. Er y daw cyllid y Gronfa Gofal Integredig i ben eleni, bydd Cynadleddau Grŵp i Deuluoedd yn parhau, er y bydd hynny gyda llai o deuluoedd.