Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Rydym wedi rhoi newidiadau ar waith ynghylch sut rydym yn cynnal ymchwiliadau amddiffyn plant Adran 47 sy’n golygu eu bod nhw nawr yn cael eu cynnal dros gyfnod hirach. Mae hyn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth yn raddol a ffurfio perthynas gyda’r dioddefwr ar sail ymddiriedaeth er mwyn eu galluogi i ddatgelu eu profiadau yn eu hamser eu hunain. Yn y gorffennol, efallai y byddem wedi ymweld â nhw unwaith yn unig a heb gymryd camau pellach os na ddatgelwyd unrhyw beth yn ystod yr ymweliad hwnnw.
Mae Cynllun Gweithredu Conwy yn parhau i weithio yn unol â Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae testun Perthnasoedd Iach wedi ei gynnwys ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y Gwasanaethau Addysg er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cynnwys gwybodaeth am berthnasoedd iach fel rhan o faes llafur datblygiad personol y disgyblion.
Beth oedd yr heriau?
Cadw’r momentwm a sicrhau bod pawb a gymerodd ran yn parhau i rannu gwybodaeth a newidiadau o ran arferion.
Beth nesaf?
Ym Mawrth 2022, fe wnaethom gyflwyno hyfforddiant Asesu, Ymyrryd a Symud Ymlaen sy’n canolbwyntio ar asesu’r person ifanc a’u teulu ynghylch pryderon, risgiau a chryfderau’r person ifanc mewn pedwar prif faes: ymddygiad rhywiol ac anrhywiol, datblygiad, teulu ac amgylchedd, gan ystyried ffactorau statig a deinamig. Cynigir yr hyfforddiant hwn i arweinwyr ymarfer amlasiantaethol, a fydd yn helpu i lunio llwybr atgyfeirio ar gyfer Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Yna bydd yr hyfforddiant a gynigir i ymarferwyr yn cael ei hwyluso gan arweinwyr ymarfer i’r holl ymarferwyr ym maes gofal cymdeithasol yn ystod 2022.
Gwaith ataliol yn ein Canolfannau Teulu
Rhoddwyd sylw parhaus i sut gallwn ni, a’n hasiantaethau partner, ganfod a chefnogi plant sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio drwy gydol 2021-22. Mae ein Canolfannau Teulu sefydledig sy’n cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am Gam-drin Plant yn Rhywiol ac maen nhw wedi datblygu canolbwynt gwybodaeth newydd ar ein gwefan i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, rhieni, gofalwyr a phobl yn y gymuned.
Fe wnaeth y pum canolfan ddatblygu dyletswyddau arweinwyr ymarfer ar gyfer yr aelodau staff hynny sydd wedi cymryd rhan mewn sesiynau ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ gan The Lucy Faithfull Foundation. Mae hyn yn eu galluogi i gynnal cyrsiau Rhieni yn Amddiffyn gyda’u timau a’r rhieni ynghylch cam-drin plant yn rhywiol ac ymwybyddiaeth am gadw’n ddiogel ar y we.
Mae’r Canolfannau Teulu hefyd wedi sefydlu fforwm amlasiantaethol i drafod plant maen nhw’n gredu sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, gyda chysylltiad agos â’r gwasanaethau plant er mwyn sicrhau bod y lefel ymyrryd mwyaf addas yn cael ei roi ar waith. Fe wnaeth y Canolfannau hefyd lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiogelwch ar y we er mwyn hyrwyddo ein cynnwys newydd ar y we ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Ymhlith y testunau roedd gosod rheolyddion i rieni, defnyddio peiriannau chwilio diogel, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a gemau ar-lein. Nododd Arolygiaeth Gofal Cymru, yn eu Gwiriad Sicrwydd ym Mehefin 2021 bod:
Yr awdurdod lleol wedi dylunio tudalen am ddiogelwch ar y we sy’n canolbwyntio ar gefnogi rhieni ynghylch risgiau a diogelwch i blant sy’n defnyddio’r rhyngrwyd. Mae hwn yn ddarn o waith pwysig gan gofio’r pryder a fynegwyd am hyn yn ystod y pandemig.
AGC
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cydweithio gyda’r Canolfannau Teulu er mwyn llunio llwybr ar gyfer haen isaf y camfanteisio troseddol er mwyn rhoi mesurau ymyrryd ar waith yn fuan. Mae’r broses hon hefyd yn ffordd i roi prosesau diogelu effeithiol ar waith, er enghraifft yr angen i uwchgyfeirio at y gwasanaethau plant ar gyfer ymchwiliadau diogelu pan fo angen.
Rhwng Medi 2020 a Mawrth 2021 cynhaliwyd cwrs hyfforddi a gafodd ei hwyluso gan y Ganolfan Ragoriaeth ym maes Cam-drin Plant yn Rhywiol, a mynychwyd y cwrs gan unigolion o asiantaethau partner megis Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd, Addysg, Tîm Pobl Ddiamddiffyn a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd y cwrs yn cynnig gwybodaeth yn ymwneud â gwaith ymchwil a dadansoddi data, a chafwyd siaradwyr gwadd sy’n gweithio gyda dioddefwyr a chyflawnwyr mewn meysydd gwahanol o Gam-drin Plant yn Rhywiol. Rhannwyd gwybodaeth hefyd ynglŷn â gofynion asesiadau, cefnogi dioddefwyr, cefnogi a gweithio gyda rhieni sydd ddim yn cam-drin, ac asesu a gweithio gyda chyflawnwyr.
Mae hwn yn bwnc anodd a hynod sensitif, a oedd ar brydiau’n ormod i nifer o’r cyfranogwyr ar y cwrs, er hyn, roedd y gefnogaeth gan yr hwyluswyr a chan ein gilydd yn amhrisiadwy. Canlyniad hyn oll yw bod yr Awdurdod Lleol yn gallu ymateb yn well ac yn fwy hyderus i’r rhan hwn o gam-drin plant.
Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol (MACSAF)
Fel rhan o’n cynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol, rydym yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am gam-drin plant yn rhywiol ymhlith rhieni, cymunedau a gweithwyr proffesiynol drwy:
- Ddarparu hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
- Cynnig llwybrau cefnogi, yn cynnwys rhai ar gyfer goroeswyr.
- Gwneud Conwy’n lle diogel i bobl drafod eu pryderon.
- Cynnig cefnogaeth a dulliau ymgynghori ar gyfer ymchwiliadau.
Mae MACSAF yn grŵp amlasiantaethol, yn cynnwys yr arweinwyr gwasanaeth a fynychodd y cwrs chwe mis y soniwyd amdano’n gynharach, a rhai partneriaid allweddol eraill. Mae’r grŵp yn cwrdd bob deufis er mwyn:
- Cynnal llyfrgell o adnoddau ac offer a pharhau i ychwanegu ati.
- Meithrin cydweithrediad rhwng asiantaethau, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, cyfreithwyr, meddygon, nyrsys ac athrawon.
- Trafod y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil, gwybodaeth a gwasanaethau cefnogi.
- Rhannu gwybodaeth gyda’n cydweithwyr.
- Dysgu ar sail ymarfer.
Bydd y tîm yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chydweithwyr ddwywaith y flwyddyn ar ffurf newyddlen.
Camfanteisio ar blant: hanes goroeswr
Yn Rhagfyr 2021, fe wnaeth ein Tîm Gweithlu a Gwaith Maes Plant gomisiynu Sammy Woodhouse, un a oroesodd sgandal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn Rotherham, i roi sgwrs a chynnal sesiwn cwestiwn ac ateb er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am gamfanteisio’n rhywiol ar blant.
Llwyddodd Sammy i sôn sut y gwnaeth rhywun feithrin perthynas amhriodol â hi yn ei harddegau, yn cynnwys sut y dechreuodd hynny, sut y datblygodd, a’r rheolaeth, yr ymddygiad ymosodol a’r bygythiadau a ddefnyddiwyd gan y rhai a oedd yn ei cham-drin. Roedd sesiynau ar gael ar gyfer pobl ifanc, staff ysgol a gweithwyr proffesiynol a oedd yn gysylltiedig â’r byd addysg, rhieni, gofalwyr a theuluoedd, ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill a oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, Heddlu Gogledd Cymru a BIPBC. Cynigiwyd slotiau i sefydliadau eraill hefyd megis Barnardo’s, Haven of Light a The Lucy Faithfull Foundation, a Swyddfa’r Comisiynydd Plant a Rheolwr Polisi Diogelu Llywodraeth Cymru. Mynychodd tua 230 o bobl y digwyddiad.
Er ein bod bob amser yn ceisio codi ymwybyddiaeth am gamfanteisio’n rhywiol ar blant, roedd clywed gan oroeswr yn creu llawer mwy o argraff ac nid oedd y sesiwn wedi’i gyfyngu i weithwyr proffesiynol (sydd eisoes â rhywfaint o ymwybyddiaeth) y tro hwn. Roedd darparu sesiwn ar gyfer pobl ifanc, rhieni a gofalwyr wedi helpu i gyfrannu at raglen ddiogelu mewn cyd-destun, a thaniodd hynny sgyrsiau am gamfanteisio rhwng ei gilydd a’u cyfoedion, eu teulu a’u ffrindiau.
Cawsom adborth cadarnhaol ar ôl y tri sesiwn, ac mae asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill nawr wedi cysylltu â Sammy i ofyn iddi roi sgyrsiau tebyg, yng Nghonwy ac yn ehangach dros Ogledd Cymru.
Pan holwyd beth roedden nhw wedi ei ddysgu o’r sesiwn, rhoddodd y mynychwyr y sylwadau hyn:
Cefais fy ysbrydoli gan fod Sammy mor ddewr a’i bod wedi llwyddo i sôn am ei phrofiadau ar ôl popeth mae hi wedi ei ddioddef. Cefais fy synnu fod gweithwyr proffesiynol [yn Rotherham] wedi gadael iddo ddigwydd am gyn hired, ac nad oedden nhw’n cymryd y pryderon o ddifrif.
Y realiti y gall Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le, o dan yr amgylchiadau iawn.
Tîm Cryfhau Teuluoedd
Eleni rydym wedi cyflwyno Panel Amlasiantaethol Ymyrraeth Gynnar a Phanel Cam-drin Domestig. Mae’r ddau banel yn rhoi cyfle myfyriol i ymarferwyr siarad am y pryderon sydd ganddyn nhw am y teuluoedd maen nhw’n gweithio gyda nhw. Maen nhw’n cael cyngor a chynigion o gefnogaeth i deuluoedd fel nad oes angen iddynt ddod o dan adain gwasanaethau gofal a reolir.
Mae’r gwasanaeth hwn yn parhau i ddatblygu rolau arbenigol yn y tîm ac eleni mae gennym weithiwr penodol i weithio gyda theuluoedd yn ystod beichiogrwydd er mwyn eu helpu i ymdrin ag unrhyw faterion diogelu a ddaw i’r amlwg yn gynnar.
Beth oedd yr heriau?
Roedd darparu camau ymyrryd wyneb yn wyneb yn heriol drwy gydol pandemig Covid-19. Er gwaethaf hyn, mae’r timau wedi parhau i ganfod ffyrdd arloesol i ymgysylltu â theuluoedd drwy fanteisio i’r eithaf ar ddefnyddio technoleg a’r mannau sydd gan Gonwy i’w cynnig yn yr awyr agored.
Mae’r pandemig yn amlwg wedi effeithio ar deuluoedd mewn ffyrdd na allen ni eu rhagweld. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer teuluoedd sydd bron iawn â methu a phlant sy’n dangos arwyddion cymhleth o drallod emosiynol. Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi’r teuluoedd hyn yn ogystal â bod yn gyfrifol am rai tasgau a chyfrifoldebau timau eraill er mwyn rhannu’r baich.
Beth nesaf?
Eleni byddwn yn cyflwyno Model Yn Ddiogel a Chyda’n Gilydd ledled Conwy. Mae’r model hwn yn ddull newydd o weithio sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n gwella canlyniadau i deuluoedd sydd wedi gweld effaith Cam-drin Domestig.
Cael adborth gan blant sydd yn ein gofal
Rhaid neilltuo Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer pob plentyn sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol, a rôl y swyddog yw goruchwylio achos plentyn a sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu hamddiffyn drwy gydol eu hamser mewn gofal. Rhaid i’r Swyddogion sicrhau eu bod yn:
- Annog llais y plentyn
- Sicrhau bod cynllun gofal a chymorth y plentyn yn gyfredol, yn effeithiol ac yn briodol i anghenion y plentyn
- Cynnig mynediad at wasanaethau eirioli i’r plentyn
- Monitro gweithgarwch yr Awdurdod Lleol fel Rhiant Corfforaethol
Mae plant wedi datgan y dylai’r Swyddogion wrando arnyn nhw, gwneud yn siŵr eu bod yn hapus gyda’u cynlluniau gofal a chymorth, sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu barn, a sicrhau bod eu cynlluniau’n cael eu darparu’n gywir. Dylai’r Swyddogion fod yn ddigon pwerus i gywiro pethau, cadw mewn cysylltiad â phob plentyn maen nhw’n ei gefnogi rhwng cyfarfodydd adolygu, gweld y plentyn mewn sesiynau un-i-un ac esbonio penderfyniadau pwysig.
Wrth baratoi ar gyfer adolygiad pob plentyn, gofynnir iddyn nhw ddweud sut maen nhw’n teimlo am y lle maen nhw’n byw, pwy maen nhw’n treulio amser gyda nhw, y tîm sy’n eu cefnogi a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Yna gall y Swyddogion ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddechrau sgyrsiau am les a chynnydd y plentyn mewn ffordd sy’n cael ei harwain gan y plentyn. Dyma flas o’r hyn a ddywedodd y plant a’r bobl ifanc wrthym ni:
Rwy’n teimlo’n hapus gyda fy ngofalwr maeth ac rwyf yn mwynhau popeth rydym yn ei wneud gyda’n gilydd.
Mae popeth yn mynd yn dda ac rwyf yn mwynhau fy mhrentisiaeth newydd ym maes Gofal Plant yn fawr.
Rwyf yn hapus gyda fy ystafell wely gan ei bod yn hyfryd. Rwyf wrth fy modd yn cael hwyl ac yn bwyta bwyd blasus, yn enwedig siocled taenu.
Rwyf eisiau derbyn gofal maeth, mae fy rhieni’n edrych ar fy ôl ac mae gen i olygfeydd braf a llefydd braf i fynd am dro. Rwy’n hoffi’r tŷ ac mae gen i anifeiliaid anwes. Dyma’r lle gorau i fyw.
Digwyddiadau Wythnos Ddiogelu 2021
Oherwydd cyfyngiadau parhaus Covid-19, fe wnaeth ein Huned Ddiogelu unwaith eto drefnu digwyddiadau ar-lein i nodi’r Wythnos Ddiogelu ym mis Tachwedd. Cynigiwyd dau sesiwn yr un fath â’i gilydd i holl staff Cyngor Conwy a oedd yn cynnwys:
- Y Cynghorydd Cheryl Carlisle yn agor yr Wythnos Ddiogelu
- Mae Diogelu’n Fusnes i Bawb.
- Cynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol a lansio ein tudalennau newydd ar y we.
- Codi ymwybyddiaeth am ddiogelu yng nghyd-destun cam-drin pobl hŷn.
Daeth cyfanswm o 54 aelod o staff i’r sesiynau o bob rhan o’r sefydliad ac roedd yr adborth a gafwyd ganddyn nhw’n ddiweddarach yn gadarnhaol iawn. Roedden nhw’n gwerthfawrogi’r digwyddiad ac yn awyddus i rannu’r wybodaeth gyda’u timau eu hunain.
Fe wnaeth yr Uned Ddiogelu hefyd gynnal y Fforwm Diogelu Plant yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, a chodi ymwybyddiaeth a meithrin gwybodaeth ymhlith staff rheoli am destunau amrywiol a nodi meysydd ar gyfer datblygiad pellach. Trafodwyd:
- Prosesau a chamau ymyrryd y Tîm Cryfhau Teuluoedd cyn geni, a’u nod i leihau nifer y babanod yng Nghonwy sy’n cael eu cymryd oddi ar eu teuluoedd adeg eu geni.
- Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Swyddog Cyswllt Amenedigol a Seiciatrig am sut mae eu gwasanaeth yn parhau i dyfu, y lefelau cyfranogiad, a sut maen nhw’n cefnogi rhieni gyda’u hiechyd meddwl.
- Mae Protocol Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, sy’n cefnogi plant a rhieni, yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Fe wnaethom nodi’r angen i gynnal asesiadau ar y cyd, ar gyfer y rhiant sydd â phroblemau iechyd meddwl, ac anghenion y plentyn.
- Adolygiad Barnwrol a’r Gyfraith Gyhoeddus yn Diwygio Mesurau Amddiffyn Plant; rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y grwpiau tasg a gorffen presennol sy’n sicrhau bod prosesau’n cael eu diweddaru i gyd-fynd ag argymhellion yr adolygiad hwn.
- Achos â chanlyniad cadarnhaol, sy’n dangos sut y cyflwynwyd camau ymyrryd llwyddiannus a sut y cefnogwyd rhieni i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn cadw eu teulu gyda’i gilydd.
Mesurau Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Oedolion
Mae mesurau diogelu cyd-destunol yn edrych ar bob agwedd ym mywyd unigolion sydd mewn perygl, yn cynnwys eu cartref, eu teulu, eu cyfoedion, eu cymdogaeth a’u cysylltiadau er mwyn cael delwedd gyfannol o’r peryglon sy’n eu rhoi mewn perygl o niwed. Aethom ati i ddefnyddio’r dull hwn mewn ardal a oedd yn peri pryder ym Mae Colwyn, lle daeth problemau diogelu oedolion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r amlwg. Trefnwyd cyfarfod strategol eithriadol, ac ar ôl sawl trafodaeth, penderfynwyd y dylid mabwysiadu model Diogelu Cyd-destunol, er mwyn llywio’r cyfarfod amlasiantaethol yn llwyddiannus a sicrhau bod camau gweithredu eglur yn eu lle i gefnogi’r maes dan sylw (yn hytrach na chanolbwyntio’n gyfan gwbl ar achosion unigol drwy’r dull rheoli achosion arferol).
Cytunwyd yn y cyfarfod y dylid datblygu’r elfennau canlynol:
- Cylch gorchwyl eglur, meini prawf Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac adnoddau i gefnogi’r model diogelu Cyd-destunol wrth weithio ar y safle.
- Cyfarfod amlasiantaethol wythnosol i drafod, gan ddod â’r holl bartneriaid ynghyd er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n brydlon ac yn effeithiol, a gweithio ar y cyd. Mae hyn wedi arwain at uwchgyfeirio materion a’u cefnogi’n gynharach yn y broses, gan sicrhau bod y partneriaid cywir yn ymateb ar yr adeg iawn, ac yn ymdrin â digwyddiadau’n well ac yn brydlon.
- Cytunwyd y gellir defnyddio fflat gwag ar y safle fel cyfleuster galw heibio dros dro ar gyfer cyfweliadau fel y gellir gweld unigolion ar y safle y tu allan i’w tenantiaeth eu hunain, sicrhau dulliau gweithio ar eich pen eich hun effeithiol a threfniadau cyd-asiantaethol a’i gwneud yn haws i unigolion fynychu cyfweliadau a chyfarfodydd.
Beth oedd yr heriau?
- Sicrhau bod partneriaid allweddol yn gyson o ran y gweithgareddau a gynhelir o amgylch safle Bae Colwyn. Er enghraifft, roedd y partneriaid yn pryderu bod gweithgarwch a phresenoldeb yr heddlu yn anghyson, serch hynny, yn dilyn trafodaethau pellach cadarnhawyd nad oedd llawer o weithgarwch troseddol ar y safle a bod mwyafrif yr hyn yr adroddwyd yn eu cylch yn ymwneud â phryderon diogelu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Mae diffyg llety amgen wedi arwain at orfod mabwysiadu dull diogelu cyd-destunol, a byddai sicrhau bod llawer o denantiaid ar y safle’n symud ymlaen yn lliniaru llawer o’r pryderon a’r ymddygiad.
Beth nesaf?
Bydd y cyfarfodydd yn parhau hyd nes y gellir canfod llety amgen. Mae’r cyfarfodydd wythnosol yn cynnig dull effeithiol sy’n canolbwyntio ar dasgau er mwyn ymateb i’r problemau sydd ar y safle ar hyn o bryd.
Mesurau Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Plant/Pobl Ifanc
Sefydlir dau fforwm Camfanteisio Cyd-destunol amlasiantaethol er mwyn dod ag asiantaethau partner ynghyd i drafod y bobl ifanc hynny sy’n ddiamddiffyn ac mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Nod y fforwm hwn yw dod â gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol ynghyd bob chwech i wyth wythnos fel y gellir rhannu gwybodaeth a helpu i leihau nifer yr unigolion yng Nghonwy sy’n ddiamddiffyn a/neu mewn perygl o gael eu hecsbloetio ym mhob ffordd.
Mae’r fforwm yn ein helpu i greu strategaethau canfod yn gynnar, atal a chreu dulliau amharu ond mae hefyd yn ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth am bobl sy’n peri pryder a’i gwneud yn agored i Awdurdodau neu asiantaethau os oes pryderon eisoes yn bodoli.
Beth yw’r heriau ar hyn o bryd?
- Cadw ffocws gyda phartneriaid amlasiantaethol, gwella dealltwriaeth partneriaid amlasiantaethol, heb adolygu gwaith achos, i drafod ac ystyried dulliau atal, amharu pan fydd pobl ifanc yn ymwneud â phobl ifanc hŷn ac oedolion sy’n cael eu hystyried i fod mewn perygl.
- Cynhelir pob cyfarfod dros y we, gall hyn fod yn anodd ar brydiau oherwydd nifer y gweithwyr proffesiynol sy’n bresennol, yn ogystal â mapio ymarferion ar-lein.
- Mae Awdurdodau Lleol cyfagos yn cynnal fforymau tebyg ac mae’n hanfodol ein bod yn rhannu gwybodaeth rhwng y siroedd mewn perthynas â phobl ifanc ac oedolion.
Beth nesaf?
Bydd y fforymau’n cael eu lansio ym Mawrth 2022 i gyd-fynd â diwrnod Camfanteisio ar Blant a byddan nhw’n parhau bob chwech i wyth wythnos. Byddwn yn eu hadolygu ar ôl deuddeg mis er mwyn ystyried y diben, unrhyw ganlyniadau cadarnhaol a nodi unrhyw themâu newydd efallai y bydd angen rhoi sylw iddynt.
Astudiaeth achos Caethwasiaeth Fodern
Ar ôl derbyn gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru a Llinell Gymorth Genedlaethol Caethwasiaeth Fodern ym Medi 2021, tynnwyd ein sylw at bryderon bod asiantaeth gofal cymdeithasol breifat, a ffurfiwyd o’r newydd, yn gweithredu yn ardal Conwy a’i bod yn darparu gweithwyr gofal asiantaeth a oedd yn ymddangos fel dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern. Wrth ymateb i’r pryderon hyn, cynhaliwyd cyfarfodydd strategol amlasiantaethol llawn gyda phartneriaid allweddol, yn cynnwys y gwasanaeth Iechyd, Heddlu Gogledd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Roedd y cyfarfodydd cychwynnol yn gudd ac yn ymwybodol y gallai unrhyw ymholiadau neu gamau ymyrryd wedi’u hamseru’n wael beryglu ymholiadau ac ymchwiliadau posibl gan yr heddlu. Ar hyn o bryd, mae’r achos yn parhau i gael ei ymchwilio gan yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr felly mae’r camau isod yn amlinellu’r gwaith a wnaed hyd yma gan yr Awdurdod Lleol a’i bartneriaid.
- Ymholiadau gyda darparwyr a chartrefi gofal ynghylch eu profiad nhw o ddefnyddio’r asiantaeth dan sylw, drwy ddulliau cudd a sensitif yn wreiddiol.
- Cyfathrebu gyda’r holl ddarparwyr er mwyn eu hatgoffa am eu dyletswyddau a chofio sicrhau bod dulliau recriwtio diogel yn cael eu dilyn bob amser wrth ddefnyddio staff asiantaeth.
- Cynnal goruchwyliaeth ddiogelu mewn cartrefi gofal yn yr ardal er mwyn sicrhau, cymaint â phosibl, nad yw preswylwyr yn cael eu rhoi mewn perygl o ganlyniad i’r staff asiantaeth sy’n darparu gofal.
- Sicrhau bod cydweithwyr tîm yn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn cael eu briffio’n llawn ac yn cael eu harwain ar sut i gasglu pryderon diogelu penodol yn y dyddiau cynnar.
- Partneriaid yn cydweithio’n agos pan ddechreuodd yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr ar eu camau gweithredu.
- Cymryd camau gweithredu eglur gyda chefnogaeth gan y Tîm Pobl Ddiamddiffyn er mwyn cefnogi a chynghori’r dioddefwyr yn yr achos.
- Cychwyn a datblygu cyfarfodydd swyddi ag ymddiriedaeth.
- Cynnal sesiwn ôl-drafodaeth er mwyn trafod yr hyn a ddysgwyd yn y broses.
Beth oedd yr heriau?
- Sicrhau bod yr holl bartneriaid yn ymateb yn gyson i ddifrifoldeb y pryderon a godwyd.
- Sicrhau bod cydbwysedd rhwng cynnal gofal diogel yn y cartrefi gofal, yn ogystal â chynnal agwedd gyfrinachol a chudd ar yr un pryd.
- Dirprwyo tasgau a pha sefydliad a fu’n arwain ar dasgau penodol yn yr ymchwiliad ehangach.
- Nodi timau/gweithwyr cymdeithasol allweddol i gefnogi’r broses h.y. cwblhawyd prosesau Adran 126 gan dîm penodol a rhoddodd hyn bwysau ychwanegol arnyn nhw.
Beth nesaf?
Rydym yn disgwyl i ymchwiliad yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr gael ei gwblhau a gweld beth fydd y canlyniad, ac rydym yn rhagweld y byddwn yn dysgu o gyfarfod canlyniadau’r ôl-drafodaeth.
Atal radicaleiddio
Mae’r strategaeth Prevent, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011, yn rhan o strategaeth wrthderfysgaeth gyffredinol y DU, sef CONTEST. Nod strategaeth Prevent yw lleihau’r bygythiad i’r DU o derfysgaeth trwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Ceir tair amcan strategol benodol yn y strategaeth.
- Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a’r bygythiad gan y rheiny sy’n ei hyrwyddo.
- Atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn cael cyngor a chefnogaeth briodol.
- Gweithio gyda sectorau a sefydliadau lle ceir risg o radicaleiddio y mae angen i ni roi sylw iddynt.
Yn ystod y flwyddyn adrodd lansiwyd y Strategaeth Prevent dros dair blynedd, sef fframwaith sy’n ein galluogi i drefnu gwaith mewn partneriaeth er mwyn diogelu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu ym mis Tachwedd 2021, fe wnaethom gynnal cynhadledd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud dan ymbarél Contest a Prevent yng Nghymru. Croesawyd nifer o gyflwynwyr yn cynnwys yr Athro Tracy Daszkiewicz, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd a Llesiant y Boblogaeth. Roedd hi’n allweddol yn yr ymateb i’r argyfwng a oedd yn cynnwys nifer o asiantaethau, gan weithio bob awr o’r dydd, er mwyn lleihau niwed a diogelu iechyd y cyhoedd pan gafodd Sergei ac Yulia Skripal eu gwenwyno gyda Novichok yn Salisbury yn 2018.