Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal
Cael adborth am gefnogaeth ein Canolfannau Teulu
Gofynnwyd i unigolion sy’n derbyn cymorth gan ein Canolfannau Teulu i roi adborth am eu profiadau. Pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd 77 o bobl wedi cwblhau ein harolwg yn ystod 2021-22 i rannu eu safbwyntiau. Cafwyd adborth hynod o gadarnhaol ar y cyfan.
Allwn i ddim gofyn am weithiwr teulu gwell ac rydw i mor hapus a bodlon gyda’r cynnydd rydym wedi’i wneud fel teulu.
- Cytunai 93% o’r ymatebwyr fod y tîm wedi cysylltu â nhw o fewn wythnos i gael eu manylion.
- Teimlai 100% o’r ymatebwyr fod y tîm yn gyfeillgar, yn onest, yn barchus ac yn broffesiynol.
- Teimlai 96% fod y tîm yn gwrando arnyn nhw a’u bod yn gallu gweithio gyda ni ar wahanol agweddau o fywyd teuluol.
- Teimlai 90% o’r ymatebwyr eu bod yn gallu symud ymlaen gyda’u bywydau’n hyderus, gan wybod bod tîm y Ganolfan Deulu yno i’w helpu pe bai angen.
Cyfeillgar iawn, roedd yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus ac roedd yn gallu cynnig perthynas agored, gonest a chefnogol i mi a fy mhlant.
Teimlaf fod gen i nawr yr hyder i symud ymlaen gyda fy mywyd, diolch i’r Ganolfan Deulu a’m gweithiwr cefnogi.
Byddwn yn parhau i gael adborth am ein perfformiad i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau ymhellach.
Canolfan Deulu Eryl Wen
Fe wnaethom ymgynghori ag unigolion sy’n defnyddio Canolfan Deulu Eryl Wen yn Llandudno, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ac unigolion eraill sy’n gweithio gyda ni. Teimlai ymatebwyr fod lleoliad y safle’n gyfleus iddyn nhw, a’i fod yn rhan o’u cymuned a chytunwyd y dylai Canolfan Deulu Llandudno barhau i gael ei lleoli yn Eryl Wen. Mae gwaith wedi dechrau ar welliannau i’r adeilad a dylai’r gwaith hwnnw barhau yn 2022-23 er mwyn darparu’r gofod a’r cyfleusterau gorau bosibl i deuluoedd sy’n ymweld â ni yno. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau.
Adborth am ein gwasanaeth gofal cartref i bobl hŷn
Rydym yn cynnal arolwg parhaus i roi cyfle i bobl sy’n derbyn gwasanaeth ailalluogi i roi adborth am eu profiad. Mae’r gwasanaeth yn darparu chwech wythnos o gefnogaeth ddwys i unigolion sydd wedi dychwelyd adref ar ôl bod yn aros dros nos yn yr ysbyty, neu sy’n gwella ar ôl salwch neu ddamwain. Y nod yw helpu unigolion i adennill eu hannibyniaeth a’u hyder yn eu cartrefi eu hunain, hyd nes y gellir dod â’r gwasanaethau i ben neu eu cwtogi, yn dibynnu ar yr angen parhaus. Yn ystod 2021-22, gofynnwyd cyfres o gwestiynau i bobl a oedd wedi elwa o’r gwasanaeth am y gofal a’r cymorth roedden nhw wedi’i dderbyn.
- Cytunai 96% eu bod nhw, eu teulu, eu ffrindiau a’u gweithiwr cymdeithasol yn rhan o’r drafodaeth i gynllunio a chytuno ar eu cefnogaeth.
- Teimlai 97% y bodlonwyd eu disgwyliadau am y gwasanaeth.
- Dywedodd 92% ein bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar ddechrau’r gwasanaeth.
- Cytunai 90% eu bod wedi cyflawni eu canlyniadau personol erbyn diwedd y cyfnod ymyrryd.
- Darparwyd ar gyfer pawb a oedd wedi mynegi dymuniadau diwylliannol neu grefyddol (38%), ac nid oedd y 62% a oedd yn weddill yn berthnasol.
- Teimlai 99% fod y gefnogaeth a gawson nhw’n hyblyg, er enghraifft o ran amseroedd a hyd.
- Cytunai 90% fod y gefnogaeth a dderbyniwyd yn gyson, hynny yw, mai’r un tîm o staff a oedd yn eu cefnogi.
- Teimlai 100% o’r ymatebwyr fod y cymorth a gawsant wedi’u galluogi i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain.
- Teimlai 100% fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.
- Byddai 15% o’r ymatebwyr wedi gwerthfawrogi math arall o gefnogaeth fel rhan o’r pecyn, yn cynnwys siopa, glanhau, golchi dillad a mwy o amser i sgwrsio.
Wnaethon nhw wirioneddol fynd y tu hwnt i’r disgwyl. Roedd y tîm yn anhygoel, mor hyfryd gyda Mam….
Y tu hwnt i fy nisgwyliadau i, roedd pawb mor garedig, gofalgar a pharod i helpu. Roedden nhw hefyd yn llawn anogaeth; allwn i wir ddim rhoi digon o ganmoliaeth i’r tîm.
Roedd y merched yn dangos cymaint o barch tuag atom pan oedden nhw yn ein cartref, yn ogystal â dweud wrthym beth roedden nhw wedi’i wneud ac roedden nhw’n dangos gwir ddealltwriaeth o’n sefyllfa ni.
Adborth gan ffrindiau a theulu preswylwyr Llys Elian
Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethom gysylltu gyda theulu, gofalwyr a ffrindiau pobl sy’n byw yn Llys Elian er mwyn clywed eu barn nhw am y gwasanaeth mae eu hanwyliaid yn ei dderbyn yno. Cawsom 28 ymateb i’n harolwg ac roedd y sgorau a’r sylwadau’n gadarnhaol dros ben.
Nododd pob un o’r ymatebwyr fod y gofal a’r gefnogaeth yn dda neu’n ardderchog.
Teimlaf fod y tîm yn rhoi popeth o fewn eu gallu i’r preswylwyr. Maen nhw’n neilltuo amser i sgwrsio gyda nhw a thawelu eu meddyliau pan fo angen.
Mae’r gofal a dderbyniwyd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd a lles fy mherthynas.
Mae Llys Elian yn lle arbennig iawn, gyda staff anhygoel ac ethos ac ymagwedd fendigedig.
Pan ofynnwyd beth sy’n dda am fyw yno, siaradodd yr ymatebwyr am yr amgylchedd cartrefol a hapus, y staff cyfeillgar ac ansawdd y gofal, y bwyd a’r gweithgareddau:
Gofal, empathi a chefnogaeth i Mam, ynghyd â bwyd a gweithgareddau ardderchog…sefydliad heb ei ail! Da iawn bawb yn Llys Elian!
Roeddem yn falch o weld y byddai 100% o’r ymatebwyr yn argymell Llys Elian i ffrind neu berthynas:
Ar ôl ystyried popeth, credaf mai dyma un o’r cartrefi sy’n cael ei redeg orau yn yr ardal.
Buaswn yn argymell Llys Elian dro ar ôl tro.
Roedd hi’n amlwg o’r sylwadau ychwanegol fod cyfyngiadau Covid yng nghyd-destun ymweld â chartrefi gofal wedi bod yn brofiad anodd i lawer o breswylwyr a’u teuluoedd ac maen nhw’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gwerthfawr gyda’u hanwyliaid dros y misoedd nesaf.
Adborth am ein gweithgareddau Lles Cymunedol
Ym Mai 2021, gofynnwyd i unigolion dros 50 oed a’r bobl sy’n eu cefnogi i ddweud wrthym pa weithgareddau y bydden nhw’n hoffi manteisio arnyn nhw, naill ai ar-lein, neu yn eu cymuned leol, i gefnogi eu hiechyd a’u lles. Cawsom 77 o ymatebion, o bob rhan o’r sir; dyma flas o’r hyn a oedd ganddynt i’w ddweud.
Llandudno a’r ardal gyfagos
- Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw’n heini, celf a chrefft, cyrsiau lles/rheoli straen
- Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded
- Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mawrth i ddydd Iau
- Yr amser a hoffir fwyaf: prynhawn
- Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 100% eisiau sesiynau wythnosol
Llanfairfechan a’r ardal gyfagos
- Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw’n heini, celf a chrefft, garddio
- Y cais mwyaf poblogaidd: pilates ac ioga
- Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mercher
- Yr amser a hoffir fwyaf: gyda’r nos
- Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 100% eisiau sesiynau wythnosol
Ardal wledig
- Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw’n heini, celf a chrefft, sesiynau natur
- Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded ac ioga
- Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Llun a dydd Iau
- Yr amser a hoffir fwyaf: prynhawn a chyda’r nos
- Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 77% eisiau sesiynau wythnosol
Bae Colwyn a’r ardal gyfagos
- Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw’n heini, celf a chrefft, dawnsio
- Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded ac ioga
- Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Llun a dydd Mercher
- Yr amser a hoffir fwyaf: boreau
- Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 93% eisiau sesiynau wythnosol
Abergele a’r ardal gyfagos
- Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw’n heini, celf a chrefft, canu
- Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded ac ioga
- Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mercher a dydd Gwener
- Yr amser a hoffir fwyaf: prynhawn
- Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 87% eisiau sesiynau wythnosol
Gofynnwyd i bobl am sesiynau ar-lein, na fyddai’n dibynnu ar le maen nhw’n byw.
- Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw’n heini, yn cynnwys ymarfer corff er mwyn rheoli straen, celf a chrefft, cyrsiau lles/rheoli straen
- Y cais mwyaf poblogaidd: ioga, gwau/crosio
- Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mercher
- Yr amser a hoffir fwyaf: gyda’r nos
- Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 93% eisiau sesiynau wythnosol
Dywedodd 16% o’r ymatebwyr y byddai ganddyn nhw ddiddordeb i fynychu gweithgareddau a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg. Nos Fercher a nos Wener oedd y dyddiau mwyaf poblogaidd ar gyfer sesiynau yn y gymuned, a hoffai 92% gael sesiynau wythnosol. Ar gyfer sesiynau ar-lein, prynhawn/nos Fercher a Iau a oedd yn cael eu ffafrio, a hoffai 100% gael sesiynau wythnosol.
Roedd pobl yn barod i dalu am sesiynau, ac 20% yn hapus i dalu rhwng £8 a £12. Y rhwystrau a fyddai’n atal y rhan fwyaf o’r ymatebwyr rhag mynychu sesiwn fyddai diffyg hyder, gorbryder a Covid.
Bydd yr adborth amhrisiadwy hwn yn ein galluogi i gynllunio sesiynau ar gyfer y dyfodol, i gyd-fynd â’r hyn yr hoffai pobl ei gael a’r hyn sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles.
Ymgysylltu â phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau a gomisiynwyd
Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau o fewn y cyfyngiadau sy’n deillio o Covid-19, rydym wedi gallu cynnal nifer o ymarferion ymgysylltu gydag unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn ystod 2021-22. Dyma rywfaint o’r adborth a gawsom ganddyn nhw.
Ym Medi 2021 fe wnaethom dreulio amser gyda phedwar unigolyn sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion ag anableddau dysgu, Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig neu broblemau iechyd meddwl. Gofynnwyd iddynt sut brofiad oedd byw yno, a sut maen nhw’n mwynhau treulio eu hamser.
Roedd tri o’r preswylwyr yn defnyddio iPad a ddarparwyd gan yr Awdurdod Lleol i gadw mewn cysylltiad gyda’u teuluoedd yn ystod y cyfnod clo. Roedd pob un wedi cael ymwelwyr pan oedd hynny’n bosibl, yn cynnwys plant ac wyrion a wyresau pan oedd hi’n ddiogel gwneud hynny. Roedd pob un wedi creu cyfeiriad e-bost i gyfnewid lluniau gyda’u teuluoedd.
O ran gweithgareddau, nododd y preswylwyr eu bod yn mwynhau pethau fel llyfrau posau, darllen cylchgronau a phobi cacennau. Mae un yn hoffi adar ac mae ganddo dŷ adar, ac mae un arall newydd ddechrau Slimming World a, gyda chymorth y staff, yn rhoi cynnig ar wneud ambell rysáit.
Mae’r preswylwyr yn bwyta gyda’i gilydd ac yn creu bwydlen wythnosol, a phob un ohonyn nhw’n dewis un o’r prydau nos bob wythnos. Ymhlith y ffefrynnau mae selsig, cyri a physgod a sglodion.
Mae’r dynion wrth eu boddau gyda phêl-droed ac yn cefnogi Clwb Pêl-droed Blackpool. Yn ddiweddar, aeth rhai o’r staff â nhw i Blackpool am y dydd, i fynd ar daith o amgylch y clwb. Drwy siarad gyda’r preswylwyr, fe wnaethom ddysgu am lawer mwy o weithgareddau ac ymweliadau y gwnaethon nhw eu mwynhau.
Yn ystod mis Tachwedd 2021, fe wnaethom siarad gyda 21 o unigolion (neu eu cynrychiolydd) sy’n derbyn gofal a chymorth gan asiantaeth yn eu cartref. Cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn a holwyd eu barn am y berthynas gyda’r darparwr a’r gwasanaeth a gynigir ganddo.
- Dywedodd 95% o’r ymatebwyr fod y gwasanaeth roedden nhw’n ei dderbyn yn dda neu’n dda iawn.
- Cytunai 86% eu bod yn derbyn eu gwasanaeth gan dîm staff cyson a rheolaidd.
- Roedd 100% yn derbyn y gwasanaeth yn eu dewis iaith.
- Teimlai 98% fod y staff cefnogi’n garedig, yn barchus ac yn gwrtais.
- Cytunai 38% fod eu gweithiwr cefnogi’n cyrraedd yn brydlon, a nododd 48% mai weithiau y byddai hynny’n digwydd.
- Ymddengys fel pe bai pawb yn hapus bod eu safbwyntiau, eu dymuniadau a’u dewisiadau’n cael eu hystyried gan y staff cefnogi a’r darparwr gwasanaeth, er efallai y byddai rhai wedi teimlo’n nerfus ynglŷn â gofyn am rywbeth gwahanol rhag iddyn nhw golli eu cefnogaeth.
- Cytunai 60% fod y darparwr gwasanaeth yn hyblyg o ran amseroedd ymweld a hyd yr ymweliadau, gan ddeall y pwysau sydd ar y staff cefnogi i gadw at eu hamserlen waith.
- Roedd 71% yn fodlon neu’n fodlon iawn gyda’r gwasanaeth maen nhw’n ei dderbyn, ond roedd 19% yn anfodlon iawn.
Roedd llawer o’r sylwadau a wnaed gan y rhai a gymerodd ran yn ymwneud â faint o amser a dreuliwyd ar alwadau; roedd llawer eisiau i’r gweithwyr cefnogi dreulio mwy o amser gyda nhw, ac eisiau i dîm cyson ymweld â nhw ar yr amser a drefnwyd ymlaen llaw.
Dydw i ddim yn meindio hanner awr o wahaniaeth ond mae arnom ni ofn mynd allan i fyw bywyd rhag ofn i ni fethu galwad.
…rhaid bodloni gyda’r amser, mae’r gofalwr wedi dweud wrtha’ i mod i wedi cael fy ngwasgu rhwng dwy alwad arall.
Tîm Lles Meddyliol
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi pontio’n llwyddiannus i’r Tîm Lles Meddyliol, a gwella effaith lles meddyliol gwael ar breswylwyr Conwy. Datblygwyd y Tîm Lles Meddyliol fel ymateb i’r hyn roedd pobl yn ei ddweud wrthym am wasanaethau iechyd meddwl.
Mae’r data presennol yn dangos y gwelwyd cynnydd o 40% yn y galw am wasanaethau Iechyd Meddwl ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn y Tîm Lles Meddyliol rydym yn dilyn ethos ‘Dim Drws Anghywir’ felly gall unigolyn gysylltu ag unrhyw wasanaeth a byddwn yn helpu i gyfeirio’r person hwnnw at y man cywir.
Mae lles yn ffactor allweddol wrth ddarparu gwasanaeth y Tîm Lles Meddyliol. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio er mwyn datblygu mannau gwyrdd, Coleg Adfer, canolfannau wyneb yn wyneb a chanolbwyntiau dros y we ac rydym yn edrych ar ffyrdd eraill y gallwn weithio ar lawr gwlad. Drwy ein gwaith, rydym wedi gweld yr hyn sydd gan gymunedau i’w gynnig, ac nid yw bob amser yn fater o ychwanegu mwy, mae’n fater o weld beth sydd ar gael a chodi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli.
Astudiaeth Achos
Cafodd merch yn ei 20au ei gorfodi i adael ei gyrfa broffesiynol gan fod ganddi broblemau iechyd meddwl, ac fe arweiniodd hynny at golli pwrpas, yn ogystal â cholli’r swydd roedd hi wedi gweithio’n galed i’w chael.
Cafodd gefnogaeth gan y gwasanaeth Gofal Sylfaenol gyda’i diagnosis a’i meddyginiaeth. Fe wnaeth y Tîm Lles Meddyliol ei chefnogi i wella’i hunan-barch, a’r amgylchedd yn ei chartref yn ogystal â’i chyfeirio at gyngor am fudd-daliadau a chyllidebu.
Ar ôl cael y gefnogaeth honno, mae hi nawr yn byw’n annibynnol, mae ei lles a’i llesiant wedi gwella, nid yw wedi cael ei hatgyfeirio ar gyfer mwy o ymyraethau clinigol ac mae wedi lleihau’r risg y bydd angen iddi fynd i’r ysbyty yn sylweddol. Yn bwysicach na hynny, mae’n obeithiol am y dyfodol.
Beth nesaf?
Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd y tîm yn tyfu ac mae’r broses recriwtio eisoes ar waith i benodi Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymwys. Mae hon yn rôl broffesiynol arbenigol. Byddwn hefyd yn penodi Gweithiwr Cymdeithasol Adran 117 a fydd yn gyfrifol am gefnogi’r broses ôl-ofal ar gyfer unigolion sydd wedi cael eu hanfon i’r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chael eu hanfon o’r ysbyty wedi hynny.
Gan ddefnyddio cyllid gan y Bwrdd Gwasanaeth Integredig Ardal, rydym yn recriwtio Gweithiwr Ymyrryd a Gweithiwr Cefnogaeth Gymunedol ychwanegol a fydd yn darparu cefnogaeth ddwys am gyfnod byr, wedi’i llunio i helpu unigolion mewn ffordd strwythuredig, dan arweiniad yr unigolyn, sy’n canolbwyntio ar adfer ac osgoi argyfwng lle bo hynny’n bosibl a helpu’r unigolyn i adennill sefydlogrwydd.
Rydym wedi llwyddo i sicrhau pot bychan o gyllid gan Gronfa Adfer Gymunedol y DU i gefnogi’r gwaith cynhyrchu roeddem yn ei wneud cyn pandemig Covid-19.
Wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal
Cynhelir Wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal ym mis Hydref bob blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf i Conwy ymuno â’r dathlu. Er mwyn gwneud hyn, fe wnaethom drafod gydag amryw o ganolfannau gweithgareddau a busnesau lleol i gynnig profiadau i’n pobl ifanc a’u plant eu hunain. Cafodd rhai o’r tocynnau isod eu cyfrannu i’r tîm gan y Canolfannau Teulu. Isod ceir rhestr o’r gweithgareddau a’r profiadau a oedd ar gael:
- Wendy Couling Bydoedd Hud mewn Bocs – Sesiwn 3D ar Gyfryngau Cymysg
- Creu ymgynulliad blwch cysgodion ar Gyfryngau Cymysg, creu eich straeon eich hun gan ddefnyddio amryw o dechnegau haenu collage
- Parc Antur Eryri (Adventure Parc Snowdonia)
- Cwrs heriau ninja
- Gwers syrffio ar y Lagŵn Syrffio
- Padlfyrddio ar y Lagŵn Syrffio
- Staffio a chostau teithio
- Sŵ Mynydd Cymru
- Sesiynau dringo
- Tocynnau sinema
- Ffitrwydd Aspire
- Sgramblo ceunentydd gyda North Wales Active Cyf.
- Dringo ac abseilio
- Sesiynau cerfio pwmpen yn rhandir CBSC
- Llethr sgïo Llandudno
- Sugar Den, caffi celf a chrefft yn Abergele
- Canolfannau hamdden
Gwefan i Bobl sy’n Gadael Gofal
Yn ogystal â hyn, fe wnaethom hefyd lansio gwefan newydd i bobl sy’n gadael gofal: https://camaubachdyfodoldisglair.cymru/
Mae’r wefan yn cael ei rheoli ar hyn o bryd gan y Tîm Ymgynghori Personol ac mae’n cynnwys gwybodaeth hygyrch ynghylch budd-daliadau, iechyd, hunaniaeth, addysg a hyfforddiant, beth sy’n digwydd yn lleol a llawer iawn mwy. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys fideos sy’n dangos i bobl ifanc sut i wneud pryd o fwyd a sut i gyflawni tasgau DIY yn ddiogel.
Yn ystod Wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal fe wnaethom ddefnyddio’r wefan i hyrwyddo themâu dyddiol. Dyma amserlen yr wythnos:
- Dydd Llun Ariannol: Fe wnaethom rannu gwybodaeth am fudd-daliadau a grantiau. Unrhyw beth sy’n ymwneud ag arian.
- Dydd Mawrth Paratoi Pryd: Mae hyn yn ymwneud â hyrwyddo bwyta’n iach, bwyta ar gyllideb, cynllunio prydau bwyd, a pharatoi prydau bwyd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau diogelwch bwyd.
- Dydd Mercher Lles: Mae hyn yn ymwneud ag amrywiaeth eang o gyngor a syniadau megis myfyrio, syniadau am lefydd i fynd am dro a gweithgareddau awyr agored.
- Dydd Iau Chi’ch Hun: Mae hyn yn ymwneud â helpu unigolion sy’n gadael gofal i ddathlu eu hunain, yr hyn maen nhw wedi bod drwyddo a’r hyn maen nhw wedi ei gyflawni.
- Dydd Gwener Atgyweirio: Fe wnaethom rannu dolenni a fideos B&Q a oedd yn dangos awgrymiadau DIY syml.
Beth nesaf?
Rydym yn bwriadu dathlu Wythnos Pobl sy’n Gadael Gofal unwaith eto eleni. Byddwn yn dechrau cynllunio’n llawer cynharach yn y broses. Os bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio, rydym yn gobeithio y gallwn ni gwrdd â’n hunigolion sy’n gadael gofal wyneb yn wyneb yn ystod y dathliadau eleni.