Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel, i bobl
Cefnogi cartrefi preswyl Conwy drwy gydol y pandemig a thu hwnt
Rydym wedi parhau i ddarparu llwybr cyfathrebu hanfodol rhwng cartrefi gofal a’r Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill. Gyda’r pwysau sy’n gysylltiedig â Covid yn parhau ar gartrefi gofal yn ystod 2021-22, rydym wedi eu cefnogi’n rheolaidd ac rydym wedi meithrin diwylliant rhannu gwybodaeth. Rydym yn gobeithio y gallwn ni ddatblygu mwy ar y gefnogaeth honno yn 2022 drwy ei hymestyn i fathau eraill o ddarparwyr.
Sicrhau ansawdd ein gwasanaethau a gomisiynwyd
Mae’r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd Rhanbarthol newydd ar gyfer Gwasanaethau a Gomisiynwyd wedi ei sefydlu gyda’r nod o sicrhau rhagoriaeth gyda’n gwasanaethau a gomisiynwyd ledled Gogledd Cymru. Bydd yr holl randdeiliaid, yn cynnwys y chwech Awdurdod Lleol, yr Heddlu, AGC a BIPBC yn ‘ymrwymo i gydweithio er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion sy’n derbyn gwasanaethau a gomisiynwyd’. Mae egwyddorion allweddol yn sail i’r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a fydd yn:
- Sicrhau bod gwasanaethau darparwyr yn ddiogel, yn bersonol, yn effeithiol ac yn gwella’n barhaus.
- Sicrhau bod y systemau sicrhau ansawdd cywir ar waith fel bod y safonau gofal yn cael eu disgrifio a’u dangos yn effeithiol.
- Sicrhau bod canlyniadau ansawdd yn cael eu monitro a’u hadolygu, a gweithredu os gwelir bod ansawdd y gwasanaeth wedi dirywio.
- Sefydlu strwythur llywodraethu er mwyn monitro ansawdd a diogelwch yn cynnwys dadansoddi gofal wedi’i bersonoli, effeithiolrwydd a diogelwch.
- Defnyddio adborth gan gleifion a’u teuluoedd i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y rhaglen ansawdd, ynghyd â chwynion a phryderon.
- Cefnogi’r Sector drwy sicrhau bod modd cael mynediad prydlon at gefnogaeth i dimau amlddisgyblaethol clinigol a sefydliadol.
- Cefnogi darparwyr i fod yn arloesol a darparu arferion ar sail tystiolaeth i wella’n barhaus.
- Sicrhau ein bod yn rhoi unigolion wrth wraidd gwaith cynllunio a darparu gofal.
- Sicrhau dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol drwy ystod eang o gyfryngau hygyrch, yn ddigidol, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn telegynadledda a digwyddiadau.
Gweithio mewn partneriaeth er mwyn comisiynu gwasanaethau i bobl hŷn
Mae’r prosiect rydym yn ymgymryd ag ef i adolygu a moderneiddio’r broses gomisiynu ynghylch gwasanaethau i bobl hŷn yn ddull amlddisgyblaethol. Bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar gyfraniadau amryw o dimau mewnol ac allanol. Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector gofal cartref wedi cael llawer o sylw dros y blynyddoedd, ac maen nhw wedi gwaethygu’n sgil Covid-19. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i ni fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac unigolion wrth gomisiynu a darparu gofal. Ar hyn o bryd rydym yn dal i ganolbwyntio ar amser a thasgau, ac rydym yn ymwybodol y bydd angen newid y diwylliant ym mhob rhan o’r sector er mwyn cael dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae ein darparwyr yn wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ddarparu’r pecynnau gofal y mae angen i ni eu comisiynu ganddyn nhw. Gan fod disgwyl i nifer y bobl dros 65 oed gynyddu yng Nghonwy yn y dyfodol rhagweladwy, gallwn ddisgwyl y bydd mwy o alw am wasanaethau pobl hŷn hefyd, ynghyd â nifer yr achosion cymhleth.
Rydym yn awyddus i symleiddio’r prosesau rydym yn eu defnyddio i filio unigolion am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn, a sut rydym yn gwneud trafodion ariannol gyda’n darparwyr. Ein nod yw cyflwyno:
- Pecynnau gofal mwy hyblyg sy’n ystyried beth sy’n bwysig i’r unigolion a sut yr hoffen nhw gyflawni eu canlyniadau personol.
- Sicrhau y gellir trefnu pecynnau gofal yn yr ardal leol.
- Proses anfonebu symlach gyda’n darparwyr.
- Darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyson.
Bydd y cynlluniau newydd hyn yn cynnig mwy o sicrwydd i’n darparwyr ac yn cefnogi amodau gwaith gwell ar gyfer recriwtio a chadw staff. Byddwn yn cydweithio gyda’n darparwyr a gomisiynwyd fel partneriaid, gan sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu moderneiddio, a’u bod yn effeithlon ac yn cynorthwyo unigolion diamddiffyn yng Nghonwy i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn hired â phosibl.
Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol
Sefydlwyd y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn 2019 er mwyn parhau i ddatblygu’r Timau Adnoddau Cymunedol a sefydlwyd. Cafodd y rhaglen ei hariannu drwy’r Gronfa Gofal Integredig a grant Trawsnewid.
Cam cyntaf y Rhaglen Trawsnewid oedd canfod a darparu tystiolaeth am y rhwystrau sefydliadol a systemig a oedd yn cyfyngu ar ragor o integreiddio rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Drwy nifer o ffrydiau gwaith rhyng-gysylltiedig, bydd y rhaglen yn helpu i lunio cynllun ar gyfer datblygiad a chynaliadwyedd ardaloedd y Timau Adnoddau Cymunedol yn yr hirdymor a chyflawni’r weledigaeth ar gyfer integreiddio a gofal yn seiliedig ar leoedd, fel yr amlinellir yng nghynllun Cymru Iachach.
Beth rydym yn bwriadu ei wneud
Ceir chwech ffrwd waith sy’n seiliedig ar themâu:
- Deall y systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfan i gael darlun deallus a chyflawn o’r galw, y capasiti, y llif a’r gost.
- Datblygu strategaeth gweithlu sy’n seiliedig ar gymhwysedd sydd wedi’i dylunio i fodloni’r uchelgais i gael modelau gofal di-dor.
- Datblygu a darparu rhaglen ymgysylltu sy’n caniatáu i ddinasyddion, gofalwyr a chymunedau rannu eu profiadau a chwarae rhan ragweithiol wrth lunio gwasanaethau yn y dyfodol.
- Trwy ymgynghori ac archwilio achosion, dadansoddi effeithiolrwydd ein ffyrdd presennol o weithio, nodi arferion da a’r elfennau ail-ddylunio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal di-dor newydd.
- Sefydlu endid rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig a fydd yn creu’r amodau er mwyn i adnoddau cymunedol Iechyd, Gofal Cymdeithasol, partneriaid yn y Trydydd Sector a’r gymuned leol allu cydweithio i ddiwallu a chefnogi anghenion a gwella iechyd a lles (yn cynnwys trawsnewidiad a chyd-leoliad digidol).
- Cytuno ar fodel gwasanaeth a fframwaith ar gyfer darpariaeth gofal integredig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ystyried agweddau pwysig o’u bywydau, eu hamcanion a beth sy’n bwysig iddynt.
Beth oedd y prif lwyddiannau drwy roi’r rhaglen ar waith?
Mae’r chwech ffrwd waith sy’n seiliedig ar themâu yn tynnu at eu terfyn ac mae canfyddiadau nawr yn cael eu casglu er mwyn bwydo camau nesaf y cynllun newid gweddnewidiol. Dyma brif lwyddiannau’r rhaglen:
- Mewnwelediad i’r systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n rhoi darlun am gyfyngiadau, galw, capasiti, llif a chost y system.
- Asesiad diwylliannol ac ymholiad gwerthfawrogol o bartneriaid a gwasanaethau uniongyrchol er mwyn gweld pa mor barod ydyn nhw i newid a faint o awydd sydd yna ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.
- Fframwaith atebolrwydd a thempled rôl ar gyfer Cydlynwyr Gofal, Gweinyddwyr a Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig.
- Mewnwelediad i brofiadau dinasyddion, gofalwyr a chymunedau er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a’i fod yn dylanwadu ar y modd y caiff gwasanaethau eu llunio yn y dyfodol.
- Dyfeisiwyd dull archwilio achosion amlasiantaethol i ddadansoddi effeithiolrwydd ein ffyrdd presennol o weithio, nodi arferion da a’r elfennau ail-ddylunio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal di-dor newydd.
- Mae tair ardal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig wedi’u ffurfio gydag aelodau o’r gwasanaeth Iechyd, yn cynnwys gofal sylfaenol, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector. Bydd y cyrff ardal leol hyn yn cynllunio ar gyfer arweinyddiaeth, llywodraethu, comisiynu a defnyddio adnoddau ar lefel leol.
- Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr yn canolbwyntio ar arwain newid, sgiliau ymarfer perthynol a chydweithredol.
- Mae tîm y rhaglen yn defnyddio Office 365 ac yn asesu sut y gall gefnogi gwaith tîm integredig.
Parhau i gefnogi datblygiad Timau Adnoddau Cymunedol
- Byddwn yn hwyluso gweithdai er mwyn cwblhau matrics aeddfedrwydd, a fydd yn llywio datblygiad cynlluniau gweithredu.
- Ni fydd yn gyfrifol am gydlynu cyfarfodydd Grŵp Ffocws y Timau Adnoddau Cymunedol.
- Mae’r holl Dimau Adnoddau Cymunedol nawr wedi eu cydleoli.
- Bydd y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant yn cynnig gweithdai ar gyfer staff Timau Adnoddau Cymunedol Conwy i bwyso a mesur ac ystyried sut mae’r tîm yn gweithio, profiad y ddwy flynedd ddiwethaf, a sut mae pethau wedi newid neu wella wrth symud ymlaen.
- Cyflwynir system cylchdroi Therapyddion Galwedigaethol o’r Bwrdd Iechyd i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.
Beth oedd yr heriau?
Mae’r galw diderfyn ar y gwasanaethau i ymateb i’r pandemig wedi parhau i gyfyngu ar gapasiti’r gweithlu a’r rheolwyr drwy gydol y rhaglen ac mae hyn wedi effeithio ar weithgareddau a drefnwyd ac i ba raddau y cynhelir gwaith ymgysylltu. Yn ogystal â hyn, roedd sicrhau bod cytundebau llywodraethu gwybodaeth yn barod wedi golygu bod peth oedi wrth ddechrau rhai elfennau o’r gwaith paru data.
Beth nesaf?
Mae canfyddiadau cam cyntaf y rhaglen yn cael eu casglu a byddan nhw’n llywio’r cynlluniau ar gyfer newid ac yn darparu adnoddau ar gyfer eu rhoi ar waith drwy ddefnyddio’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol newydd.
Adborth gan ein Timau Adnoddau Cymunedol
Mae ein Tîm Adnoddau Cymunedol yn ei gwneud yn bosibl i gydleoli cydweithwyr o’r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a’r Sector Gwirfoddol mewn pum swyddfa leol ledled y sir. Unwaith eto, fe ofynnwyd i aelodau’r tîm am eu barn ynghylch sut roedd y bartneriaeth yn gweithio, yn enwedig gan gofio bod cyfyngiadau Covid wedi atal llawer o bobl rhag gallu bod yn y swyddfa.
Ymatebodd cyfanswm o 59 unigolyn i’r arolwg, ac mae 78% ohonyn nhw’n gweithio i’r adran Gofal Cymdeithasol. Dywedodd 76% o’r ymatebwyr eu bod yn hapus neu’n gymharol hapus am weithio yn y Tîm Adnoddau Cymunedol, ac roedd y sylwadau ychwanegol yn awgrymu, er bod cyfyngiadau Covid yn eu lle, y gellir parhau i ffurfio perthnasoedd gwaith da ar draws y sefydliadau.
Hapus i gael mynediad at y tîm a defnyddio’r cysylltiadau a’r wybodaeth sydd gan aelodau gwahanol a all fod yn benodol i fy rôl i. Hefyd cael mynediad at unigolion a thimau i ofyn am gyngor neu gymorth.
Serch hynny, i rai pobl, mae gweithio gartref oherwydd y pandemig wedi effeithio ar allu’r Tîm Adnoddau Cymunedol i weithio fel tîm cydlynol.
Oherwydd y pandemig presennol a gweithio gartref, mae wedi bod yn anodd gweithio o fewn ethos y Tîm Adnoddau Cymunedol yn gyfan gwbl.
Roedd 59% o ymatebwyr yn gadarnhaol am allu’r Tîm Adnoddau Cymunedol i hwyluso a gwella’u dysgu a’u gwybodaeth eu hunain am broffesiynau/gwasanaethau eraill, a dim ond 7% yn nodi nad oedd unrhyw fanteision o gwbl.
Roedd 74% o’r ymatebwyr yn cytuno bod cydweithio o fewn y Tîm Adnoddau Cymunedol wedi gwella’r gwasanaeth i ddinasyddion, a llawer yn teimlo bod cydweithio’n symleiddio’r broses ac yn hybu mynediad at wasanaethau y gellid eu methu fel arall.
Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o wasanaethau o fewn y Tîm Adnoddau Cymunedol ehangach, er enghraifft y Ganolfan i Deuluoedd a’r Fferyllfa, a sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd mewn ffordd ataliol.
Gan fod modd rhannu gwybodaeth ac arbenigedd rhwng y gweithwyr proffesiynol, gall dinasyddion ddysgu am, a chael mynediad at, gefnogaeth a darpariaeth gymunedol sy’n ffafriol i les unigolion, ac mae pob un o’r rhain yn effeithio [yn gadarnhaol] ar nifer y bobl sy’n treulio cyfnod yn yr ysbyty a’r angen i gael gofal ychwanegol.
Mae’n cyflymu atgyfeiriadau. Gellir cyfnewid gwybodaeth rhwng gwasanaethau’n gyflymach a’i rannu gyda dinasyddion a gall sicrhau llif gwell o ran gofal a gwasanaethau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig os bydd iechyd a lles yn y fantol.
Pan ofynnwyd a yw’r Timau Adnoddau Cymunedol yn cefnogi ei gilydd, cafwyd ymateb cymysg, a 39% yn cytuno bod hyn yn digwydd ar adegau. Roedd dau reswm am hyn, sef gorfod bod ar wahân drwy weithio gartref, a’r teimlad bod yna lai o gefnogaeth yn y maes cymorth i fusnesau, na’r hyn a geir rhwng ymarferwyr. Yn sicr mae yna waith i’w wneud yn y maes hwn pan fydd pobl yn mynychu’r swyddfa’n fwy rheolaidd, ond pan gafwyd sylwadau pellach gan ymatebwyr, roedd llawer ohonyn nhw’n gadarnhaol.
Heb os nac oni bai, rhoddir llawer o gefnogaeth i’n gilydd/cefnogaeth ar y cyd.
Fe wnaethom ofyn i aelodau’r tîm sut roedden nhw’n teimlo am weithio yn y Tîm Adnoddau Cymunedol wrth edrych tua’r dyfodol, a nododd 62% eu bod yn teimlo’n gadarnhaol neu’n gadarnhaol iawn amdano. Cydnabyddir bod angen gwneud gwelliannau o ran darpariaeth TG ar gyfer gweithio di-dor, ond teimlai llawer mai teitl swyddogol yn unig yw’r Tîm Adnoddau Cymunedol ar gyfer dull gweithio sydd eisoes yn bodoli. Bydd gweithio yn y swyddfa, pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny, yn creu mwy o gyfleoedd i gydweithio a chynnal ymweliadau ar y cyd, yn ogystal â chaniatáu’r cyfathrebu arferol a geir mewn lleoliad a rennir.
Mae gweithio mewn Tîm Adnoddau Cymunedol yn rhan bwysig iawn o fy rôl. Bu gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn hynod o bwysig ers dechrau gweithio gartref. Rwy’n teimlo bod dulliau cyfathrebu da wedi parhau gyda’r Tîm ac, yn ei dro, fod hynny wedi cynnig gwasanaeth da i’r unigolion rwy’n eu cefnogi. Rwy’n hapus am weithio mewn Tîm Adnoddau Cymunedol yn y dyfodol a theimlaf ei fod yn rhan hanfodol o fy swydd.
Nid yw’r Timau Adnoddau Cymunedol wedi cyrraedd eu llawn botensial eto, ond maen nhw’n sicr yn mynd i’r cyfeiriad cywir!
Datblygu ein timau Therapi Galwedigaethol
Fel y soniwyd eisoes, hoffem gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ein timau Therapyddion Galwedigaethol yn y Timau Adnoddau Cymunedol ac rydym wedi edrych yn agosach ar dri maes i’w datblygu.
Recriwtio a Chadw Therapyddion Galwedigaethol
Mae strategaethau recriwtio sefydliadol unigol wedi arwain at ddull cystadleuol i recriwtio Therapyddion Galwedigaethol ym mhob sefydliad yng Ngogledd Cymru. Mae angen cynllun datblygu gweithlu integredig mewn perthynas â recriwtio a chadw Therapyddion Galwedigaethol newydd gymhwyso yn BIPBC, CBS Conwy a Chyngor Sir Ddinbych ac mae hyn nawr yn flaenoriaeth frys.
Ar hyn o bryd, nid oes gan CBS Conwy na Chyngor Sir Ddinbych fynediad cyfartal at raddedigion Therapi Galwedigaethol sydd newydd gymhwyso o Brifysgol Glyndŵr. Bydd cael mynediad cyfartal at raddedigion Therapi Galwedigaethol newydd yn hanfodol wrth symud ymlaen er mwyn recriwtio i swyddi gwag yn y Tîm Adnoddau Cymunedol. Mae BIPBC wedi cynnig cynnwys lleoliad mewn Awdurdod Lleol fel rhan o system cylchdroi Therapyddion Galwedigaethol Band 5 BIPBC yn Nhimau Adnoddau Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych. Bydd cynnwys lleoliad gofal cymdeithasol fel rhan o system cylchdroi Band 5 BIPBC yn rhoi cyfle i Therapyddion Galwedigaethol newydd gymhwyso ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn lleoliadau yn yr Awdurdod Lleol. Mae gwybod am leoliadau gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn ymgeisio am swydd gydag Awdurdod Lleol.
Gobeithir y bydd Cyngor Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn darparu adnoddau ariannol a goruchwyliol er mwyn sicrhau bod graddedigion newydd Therapi Galwedigaethol a gyflogir gan BIPBC yn magu profiad o weithio mewn lleoliadau yn yr Awdurdod Lleol.
Hyfforddiant integredig ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol BIPBC ac Awdurdodau Lleol
Ar hyn o bryd, mae pob sefydliad yn comisiynu darparwyr hyfforddiant i gwrdd â gofynion proffesiynol y Therapyddion Galwedigaethol ym mhob sefydliad. Er hynny, mae sawl agwedd o arferion proffesiynol yn gorgyffwrdd rhwng y sefydliadau gwahanol, er enghraifft codi a symud yn gorfforol. Byddai cael cynllun hyfforddiant integredig wedi osgoi gwaith trosglwyddo diangen, gweithio seilo a byddai wedi hybu defnydd mwy effeithlon o adnoddau Therapi Galwedigaethol yn y Timau Adnoddau Cymunedol.
Rydym yn gobeithio y bydd rheolwyr BIPBC, CBS Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn cytuno i ddatblygu cynllun hyfforddi integredig ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol BIPBC ac Awdurdodau Lleol sy’n gweithio yn y Timau Adnoddau Cymunedol.
Meysydd sy’n gorgyffwrdd rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol
Ceir cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng y timau, er hyn, mae diwylliannau a phrosesau sefydliadol gwahanol wedi sicrhau na chafwyd llawer o drafodaeth rhwng ymarferwyr ynghylch pa waith a chyfrifoldebau y gellid eu rhannu. Er enghraifft, bydd person sydd angen adolygiad ar ôl cael ei anfon adref o’r ysbyty, neu ar ôl gwaith addasu sylweddol, yn cael ei weld gan Therapydd Galwedigaethol BIPBC neu Therapydd Galwedigaethol Awdurdod Lleol ar sail cyfrifoldebau ariannu sefydliadol. Nid yw’r meini prawf gweithredol hyn yn ystyried faint o adnoddau Therapi Galwedigaethol sydd ar gael ym mhob Tîm Adnoddau Cymunedol a chapasiti’r adnoddau hynny i ymateb yn brydlon.
Rydym yn gobeithio y bydd rheolwyr yn y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol yn cytuno i adolygu’r dogfennau cymhwysedd proffesiynol cyfredol a datblygu fframwaith cymhwysedd proffesiynol integredig ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol sy’n gweithio yn y Timau Adnoddau Cymunedol.
Cyfleuster seibiant Bron y Nant
Rydym yn bwrw iddi gyda’r gwaith i ddarparu’r gwasanaethau newydd a fydd ar gael yng Nghanolfan Seibiant Bron y Nant ar gyfer Pobl Anabl a’r Uned Adnoddau dydd ar gyfer Gofal Cymhleth yn 2022-23. Mae hwn yn ddarn o waith sylweddol, sy’n cynnwys nifer o swyddogion o fewn y Gwasanaeth Anabledd, ein partneriaid yn y gwasanaeth Iechyd a thrwy’r adran. Ar ôl iddo agor, bydd yr adnodd yn cynnig llety pwrpasol gwell ar gyfer pobl sy’n derbyn gwasanaethau seibiant yng Nghonwy.
Fel rhan o’r datblygiad, rydym yn bwriadu gweithio gyda menter gymdeithasol i agor caffi a siop ar y safle. Nid yn unig y bydd hyn yn cynnig cyfleoedd gwaith i bobl yn y gymuned leol, ond bydd hefyd yn rhoi profiad gwaith i bobl anabl. Bydd y gwasanaeth yn rhan o’n strategaeth leol i wella mynediad at waith i bobl anabl.
Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol er mwyn ysgafnhau’r pwysau ariannol sy’n deillio o’r pandemig. O ran gofal cymdeithasol, roedd y Gronfa Galedi yn caniatáu ar gyfer costau ychwanegol cefnogaeth barhaus ar gyfer darpariaeth fewnol a darpariaeth a gomisiynwyd ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ym maes gofal cartref, gofal preswyl a byw â chymorth. Roedd hefyd yn ein galluogi i gefnogi darparwyr er mwyn mynd i’r afael â’r pwysau ar sefydlogrwydd y farchnad megis ‘lleoedd heb eu llenwi’ a chostau annisgwyl neu gostau brys ar draws y sector. Yng Nghonwy rydym wedi hawlio £4.3 miliwn ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, a chafodd tua hanner ohono ei dalu i gartrefi gofal a darparwyr gofal cartref drwy godi’r ffioedd gofal.
Neilltuwyd y Gronfa Adfer ar ein cyfer er mwyn cynorthwyo’r sector gofal cymdeithasol i gwrdd â’r heriau parhaus sy’n gysylltiedig â’r pandemig, a neilltuwyd arian ar gyfer ymestyn y gronfa gefnogi i ofalwyr, ymdrin ag unigrwydd ymhlith pobl hŷn, buddsoddi yn lles y gweithlu gofal cymdeithasol, a gwasanaethau preswyl ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal. Roedd dyraniad Conwy yn £2.4 miliwn, a gwariwyd £800,000 ohono ar leoliadau annibynnol i blant, £890,000 ar ddarparwyr gofal a £703,000 ar wasanaethau dydd, cludiant, TG, offer, Taliadau Uniongyrchol, hyfforddiant a mwy.
Beth oedd yr heriau?
Cymerwyd llawer o amser i ddosbarthu arian y Gronfa Galedi a’r Gronfa Adfer i’r sector annibynnol, ac roedd ceisiadau’n cael eu hannog a’u derbyn gan ddarparwyr gofal a oedd wedi wynebu costau ychwanegol annisgwyl a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â phandemig Covid.
Beth nesaf?
Daw’r cyllid i ben ar 31 Mawrth 2022 wrth i ni adael y cyfnod ymateb i Covid. Rydym yn talu ffioedd i’r sector gofal, gan ystyried y cyfyngiadau ariannol ar yr Awdurdod Lleol, ochr yn ochr â chostau cynyddol darparu gofal yn yr hinsawdd sydd ohoni. Bydd yr holl ffioedd yn cynyddu o 1 Ebrill 2022 a byddan nhw’n cynnwys y cyflog byw gwirioneddol a delir i staff. Ar yr un pryd, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol a’r papur gwyn ynghylch ailgydbwyso gofal a chymorth yng Nghymru.