Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas
Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr
Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn blaenoriaethu’r angen i gefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu, sy’n cynnwys yr angen i roi cyfle i gymryd seibiant er mwyn cefnogi gwytnwch gofalwyr a’u gallu i gynnal eu rôl gofalu. Yn dilyn cyfyngiadau Covid yn ystod 2020-21, nod y Grant Seibiant i Ofalwyr gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yw blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer y galw cynyddol am ganolfannau dydd a gwasanaethau mwy traddodiadol i eistedd gyda phobl, a hefyd annog modelau mwy arloesol i ddarparu seibiannau byr.
Fe wnaethom weithio gyda’n sefydliadau gofal yn y trydydd sector fel y gallen nhw wella’u cynigion i ofalwyr, i gwrdd ag amcanion y grant a phwysleisio’r angen i fod yn hyblyg a chael eu harwain gan anghenion.
Roedd hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau sefydledig eistedd gyda phobl a gwasanaethau seibiant i blant, i gefnogi darparu mwy o oriau. Yn ogystal â hyn, ariannwyd nifer o brosiectau hyblyg ac arloesol.
Mae Credu yn darparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc, ac roedden nhw’n gallu ymestyn y gefnogaeth seibiant roedden nhw’n ei darparu mewn ffyrdd mwy hyblyg, yn dibynnu ar amgylchiadau’r gofalwyr ifanc a’r hyn roedden nhw’n ei ffafrio. I rai, roedd hyn yn golygu mwy o gyfle i ymgysylltu â seibiant i’r teulu cyfan, cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’i gilydd fel grŵp a chreu cyfleoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd. I bobl eraill, efallai fod hyn yn golygu cael cyllid i gael mynediad at weithgareddau unigol mae’r gofalwyr ifanc yn deimlo fyddai’n fuddiol i’w lles personol.
Mae Hafal yn darparu cefnogaeth i rai sy’n gofalu am bobl gyda chyflyrau iechyd meddwl, ac yn darparu asesiadau gofalwyr a chefnogaeth unigol ar eu cyfer. Drwy gydol y pandemig, mae’r angen i gynnig gwasanaeth cwnsela ar lefel isel er mwyn cynorthwyo i gefnogi gofalwyr gyda straen a phryderon personol wedi cynyddu, ac ariannwyd rhaglen chwech wythnos, ynghyd â dyddiau a digwyddiadau lles, yn dibynnu ar anghenion y gofalwyr eu hunain. Llwyddwyd hefyd i wella cefnogaeth gan gymheiriaid drwy ddatblygu rhai o adnoddau Clic Gogledd Cymru ar y we.
Mae gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn cefnogi tua 1000 o ofalwyr yng Nghonwy mewn amryw o ffyrdd, er enghraifft darparu gwybodaeth, cefnogaeth emosiynol, ymweliadau cartref, eiriolaeth lefel isel, cefnogaeth unigol a chefnogaeth grŵp a chynllunio at argyfwng.
Drwy’r cyllid ychwanegol ar gyfer seibiannau i ofalwyr, cafodd eu cynnig ei wella er mwyn gallu cynnig seibiant sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a chanolbwyntio ar anghenion gofalwyr unigol. Gall hyn gynnwys mynediad ychwanegol at seibiannau traddodiadol fel gwasanaethau eistedd gyda phobl, tripiau dydd i’r teulu, a gwyliau a phenwythnosau i ffwrdd. Gan sylweddoli y gall “seibiant byr” olygu pethau gwahanol i bobl wahanol, defnyddiwyd y cyllid yn hyblyg i brynu eitemau megis dodrefn i’r awyr agored, dyfeisiau llechen, offer cadw’n heini, ac aelodaeth i glybiau megis campfeydd, golff neu unrhyw fath arall o ymarfer corff mae gofalwyr yn ei deimlo sy’n fuddiol i’w lles.
Hefyd fe lwyddodd canolfan dementia newydd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i ymestyn darpariaeth eu sesiynau grŵp ‘Hafan Ni’ drwy gynnig 22 o sesiynau wythnosol ychwanegol (sesiynau 5 awr) bob wythnos rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Gwasanaeth ataliol yw’r rhyngweithio cymdeithasol rheolaidd hwn, a gall gynnig ysgogiad rheolaidd a all gynorthwyo i arafu dirywiad yn iechyd meddwl y sawl y gofelir amdano a gwella iechyd a lles y gofalwr. Gall y seibiannau rheolaidd hyn olygu’r gwahaniaeth rhwng sicrhau bod gofalwr yn ymdopi gyda’i rôl gofalu neu’n taro pwynt argyfwng.
Beth oedd yr heriau?
Roedd rhagofalon parhaus Covid yn amlwg yn bryder, gyda darparwyr yn asesu risg eu gweithgareddau’n ofalus er mwyn lliniaru risg. Fel y gwelir yn aml gyda chyllid grant byrdymor, gall amseru fod yn broblem gan fod angen ystyried cwblhau canllawiau Llywodraeth Cymru, ymgysylltu â darparwyr, caniatáu amser i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau, a darparwyr yn estyn allan at bobl er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar y cynnig; rhaid i hyn i gyd ddigwydd o fewn terfynau’r flwyddyn ariannol bresennol.
Beth nesaf?
Bydd gwyliau byr i ofalwyr bob amser yn flaenoriaeth yn ein strategaeth gyffredinol i ofalwyr, gan eu bod yn effeithio’n sylweddol ar wytnwch gofalwyr. Byddwn hefyd yn ystyried yr angen i symud tuag at gynigion gofal seibiant mwy hyblyg, wedi’u personoli; byddai ymrwymiad cyllid parhaus ar gyfer gwyliau byr yn cynorthwyo i sicrhau y gellir diwallu’r flaenoriaeth hanfodol hon i ofalwyr.
Canolfannau Teulu Conwy
Er gwaethaf yr uchafbwyntiau a’r anawsterau yn ystod cyfyngiadau Covid, gwelwyd cyfleoedd newydd cyffrous eleni ar gyfer y Timau Cymorth i Deuluoedd a’r Canolfannau Teulu ym mhump ardal Conwy.
Yn ogystal â’r grwpiau arferol o ddydd i ddydd, a chefnogaeth un-i-un wedi’i theilwra rydym yn ei chynnig i deuluoedd, rydym wedi gallu datblygu gweithgareddau newydd wrth ymateb i anghenion lleol. Dyma rai enghreifftiau:
- Rydym wedi dechrau grŵp wythnosol newydd i rieni yn eu harddegau yn nwyrain Conwy. Mae hyn wedi rhoi hyder iddyn nhw am sut i edrych ar ôl eu babanod, a’u cynorthwyo i gwrdd â phobl ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg a gwneud ffrindiau gyda nhw.
- Rydym wedi cynnal sesiynau galw heibio ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ardal y gogledd, sydd wedi ein cynorthwyo i ganfod pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Rydym wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i rieni yng nghanol y rhanbarth er mwyn eu cynorthwyo i gadw eu plant yn ddiogel.
- Rydym wedi llwyddo i ymgysylltu gyda grŵp o rieni sy’n anodd eu cyrraedd mewn cwrs rhianta ym Mae Cinmel drwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Gweithiwr Cyswllt Teulu yn yr ysgol.
- Rydym wedi creu grŵp babanod newydd, ble gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y babanod mewn ardal wledig iawn, drwy eu cynnwys mewn cwrs tylino babanod, sydd nawr yn canolbwyntio ar les a chefnogaeth gan gymheiriaid.
- Rydym wedi llunio perthynas gryfach gydag ysgolion yng nghanol y rhanbarth, ac yn aml yn cefnogi ysgolion i ymgysylltu â theuluoedd, ac rydym wedi ailddechrau sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb a thros y we mewn ysgolion.
- Rydym wedi ailsefydlu’r sesiynau galw heibio dyddiol, gan symud o le i le o amgylch rhanbarth gorllewin Conwy, ac rydym wedi ychwanegu elfen aros a chwarae er mwyn cynorthwyo i ymgysylltu â theuluoedd.
- Yn ystod yr Wythnos Diogelu, lansiwyd canolbwynt gwybodaeth newydd gennym ar gyfer teuluoedd a chymunedau er mwyn codi ymwybyddiaeth am atal Cam-drin Plant yn Rhywiol.
- Bu rôl y Gweithiwr Teulu Cynorthwyol yn allweddol er mwyn helpu’r timau i ailymgysylltu â theuluoedd mewn gweithgareddau grŵp a chynyddu capasiti er mwyn darparu gweithgareddau estyn allan, a gwybodaeth, cyngor a chymorth.
- Mae bod yn barod ar gyfer yr ysgol yn thema newydd a ddaeth i’r amlwg yn sgil y pandemig. Buom yn gweithio gyda phartneriaid yn BIPBC i lansio adnoddau a chlipiau fideo newydd am ddatblygiad plant i rieni a gofalwyr plant cyn-ysgol.
Mae teuluoedd wedi dweud wrthym bod y gefnogaeth un-i-un maen nhw wedi ei chael drwy eu Gweithwyr Teulu wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn:
Teimlaf fod gen i nawr yr hyder i symud ymlaen gyda fy mywyd, diolch i’r Ganolfan Deulu a’m gweithiwr cefnogi.
Mae’r gefnogaeth a gawsom wedi bod yn ardderchog. Mae hyn i gyd yn newydd iawn i ni, ac ni fyddem wedi gwybod ym mhle i ddechrau gyda’r holl bethau sydd ar gael. Mae ein mab wedi dechrau mewn cylch chwarae hefyd, gyda chymorth gan ein gweithiwr, sydd wedi bod yn help mawr iddo.
Gwelwyd bod rôl y Gweithiwr Teulu Anabledd newydd ym amhrisiadwy. Dyma fenter ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Anableddau, a daw o dan adain timau’r Ganolfan i Deuluoedd. Cafodd y rôl ei gwerthuso gan ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor eleni, ac rydym yn bwriadu canfod cyllid er mwyn recriwtio ar gyfer y rôl hon ar gyfer pob un o’r pump rhanbarth yng Nghonwy. Un enghraifft o gyfleoedd y grŵp a chefnogaeth gan gymheiriaid yw grŵp newydd ‘Beth am roi sylw i’r synhwyrau’, sy’n cynnig amgylchedd cyfeillgar a chyfforddus ar gyfer teuluoedd niwro-amrywiol.
Dywedodd un teulu a gafodd eu cyfweld ar gyfer y gwaith ymchwil:
Ti’n teimlo fel taset ti’n methu. Mae’r rôl hon… Wna’ i ddim dweud celwydd, fe hoffwn i pe bae wedi bod yno ddwy flynedd yn ôl. Oherwydd pwy a ŵyr beth fyddai’r canlyniad erbyn hyn – efallai y byddai’n wahanol iawn… Heb swnio’n rhy ddramatig, fe ddaeth hi’n agos iawn at fy achub i.
Beth oedd yr heriau?
Roedd hi’n her parhau i ymgysylltu â theuluoedd drwy amryw o gyfyngiadau, ac roedd rhai’n rhwystr ychwanegol i unigolion a oedd eisoes yn ddiamddiffyn. Rydym wedi canfod datrysiadau creadigol er mwyn ymateb i hyn.
Beth nesaf?
Rydym yn edrych ymlaen at allu cynnal mwy o weithgareddau grŵp a gweithgareddau amlasiantaethol ym Mae Colwyn wrth i ni agor ein canolfan newydd i deuluoedd, sef Canolfan Ffordd Douglas, sy’n ymgorffori egwyddorion gwyrdd megis gwresogi ffynhonnell aer a phaneli solar.
Yn dilyn ymgynghoriad yn 2018, aethom ati i ddefnyddio cyfuniad o Gyfalaf Conwy, Cyllid Cyfalaf Dechrau’n Deg a’r Gronfa Gofal Integredig er mwyn datblygu ysgol Fictorianaidd yng nghanol Bae Colwyn (Rhanbarth y Canol). Fe symudom i’r adeilad yn ystod Chwefror a Mawrth 2022, ac rydym nawr yn elwa o’r cyfleusterau hyn:
- Toilet ac ystafell wlyb a chawod cwbl addas i bobl anabl, gyda theclyn codi
- Ystafell weithgareddau gyda theclyn codi
- Crèche
- Ystafelloedd cyfarfod ac ymgynghori amlasiantaethol
- Cegin ar gyfer gwaith grŵp a gweithgareddau arddull caffi
- Mannau gweithio amlasiantaethol
Rydym yn ymgysylltu â gwasanaethau sy’n gallu cefnogi teuluoedd a defnyddio ein gofod newydd, ac eisoes mae’r rhain wedi cynnwys: Gwasanaeth Ieuenctid; Llyfrgelloedd a Diwylliant; gwasanaeth Cam-drin Domestig a rhai sefydliadau yn y trydydd sector.
Y flwyddyn nesaf fe welwn ni hefyd ddatblygiadau cyffrous newydd yn Eryl Wen, y Ganolfan i Deuluoedd yn Llandudno, sy’n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd. Dechreuodd y gwaith yn Chwefror 2022, a disgwylir y bydd wedi ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2022. Mae’r gwaith yn cynnwys gwneud defnydd gwell o’r gofod ar gyfer grwpiau a chyrsiau, defnyddio mwy o ardal yr ardd, ac ystafelloedd ychwanegol lle gall teuluoedd gwrdd gydag amryw o wasanaethau a gweithwyr teulu, a chyfleusterau parcio ychwanegol.
Cod Ymarfer Awtistiaeth
Mae awtistiaeth yn gyflwr gydol oes sy’n cyflwyno ystod eang iawn o anghenion. Ar gyfartaledd, mae 1 ym mhob 100 o bobl yn y DU yn cael diagnosis o Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig. Mae 40% o bobl sydd ag anabledd dysgu gydag awtistiaeth hefyd. Yng Nghonwy, mae hynny’n cynrychioli tua 1,250 o bobl.
Yn y Cynllun Gweithredu Strategol cyntaf ar gyfer Awtistiaeth, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2008, crëwyd isadeiledd awdurdod lleol a gefnogwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru. Mae gan bob un o ardaloedd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru gynllun gweithredu lleol ar gyfer awtistiaeth sy’n cael ei ddatblygu, ei weithredu a’i adolygu gan grŵp rhanddeiliaid lleol. Yn ogystal â hyn, mae gan bob awdurdod lleol Swyddog Arweiniol Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Mae rôl y Swyddog yn ganolog er mwyn darparu gwasanaethau awtistiaeth ar lefel leol drwy ddod â gweithwyr proffesiynol ynghyd i gydweithio yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, yn ogystal â darparu pwynt cyswllt lleol ar gyfer pobl awtistig a theuluoedd/gofalwyr sy’n chwilio am gefnogaeth.
Swyddog Arweiniol Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig yng Nghonwy ar hyn o bryd yw Rheolwr y Gwasanaeth Anableddau, sy’n gyfrifol am wasanaethau plant ac oedolion.
Mae gan Swyddog Arweiniol Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig ystod eang o rolau a chyfrifoldebau ac yn eu plith mae codi ymwybyddiaeth, gwella gwybodaeth, derbyn a deall awtistiaeth ymhlith y cyhoedd, ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys:
- Gweithio gydag adrannau hyfforddi awdurdodau lleol er mwyn nodi unrhyw anghenion hyfforddi staff.
- Sicrhau bod ymarferwyr sy’n cynnal asesiadau o anghenion, ac yn asesu pa mor gymwys yw unigolyn awtistig i gael cefnogaeth gofal cymdeithasol, yn meddu ar ddigon o wybodaeth a sgiliau i ddeall effaith awtistiaeth.
- Cyfeirio oedolion ac unigolion awtistig at y gefnogaeth briodol.
Yn ogystal â rôl Swyddog Arweiniol Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, mae Conwy wedi datblygu Cod Ymarfer ynghylch darparu Gwasanaethau Awtistiaeth. Mae’r Cod Ymarfer yn amlinellu’n eglur beth yw dyletswyddau a chyfrifoldebau’r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol o ran cefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth a’u teuluoedd.
Sesiynau Lles Cymunedol
Mae’r tîm Lles Cymunedol wedi darparu ystod eang o sesiynau wyneb yn wyneb a thros y we yn ystod y cyfnod adrodd. Roedd y ddarpariaeth dros y we’n cynnwys sesiynau cadw’n heini, gweithgareddau diwylliannol, megis celf a chrefft a sesiynau lles i gefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl, a rhai sesiynau defnyddiol iawn i rannu gwybodaeth. Rhwng Ebrill 2021 ac Ionawr 2022 fe gynigiodd y tîm dros 20 o destunau gwahanol, yn cynnwys:
- Dawnsio llinell a dawnsio Bollywood
- Canu
- Sesiwn hunanofal misol rheolaidd mewn partneriaeth â Chartrefi Conwy
- Ymarfer corff ac ioga eistedd
- Sesiynau paratoi ar gyfer y gaeaf, mewn partneriaeth â Hawliau Lles a Groundwork Cymru.
- Cwrs Camu Allan yn Hyderus
- Sesiynau Tanwydd yw Bwyd
- Seryddiaeth
- Diogelwch ar y We, mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru
Pan oedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn bosib i’r tîm ddarparu sesiynau wyneb yn wyneb, fe wnaethom drefnu sawl dro ym mhob rhan o’r sir mewn ardaloedd fel Llanrwst, Llandudno, Bae Cinmel, Llanfairfechan a Bae Colwyn. Yn ogystal â hyn, sefydlwyd rhaglenni ymarfer corff, yn cynnwys Qigong, Zumba Aur a Thai Chi wrth Eistedd. Rhwng Ebrill a Ionawr fe wnaethom gyflwyno 111 o sesiynau ac fe’u mynychwyd gan 800 o unigolion. Rydym wedi cynnwys rhai astudiaethau achos yn yr adroddiad hwn er mwyn dangos cymaint o effaith mae’r rhain wedi eu cael.
Beth oedd yr heriau?
- Nid oedd pob unigolyn oedd â mynediad at ddyfeisiau digidol yn ddigon hyderus i’w defnyddio er mwyn cael mynediad at ein sesiynau ar-lein. Fe wnaethom ymateb drwy greu gwasanaeth cefnogaeth ddigidol dros y ffôn er mwyn cynorthwyo unrhyw un a oedd yn cael trafferthion.
- Drwy ymateb i newidiadau yng nghanllawiau’r llywodraeth, ar brydiau bu’n rhaid canslo rhai sesiynau wyneb yn wyneb, a bu’n rhaid i’r tîm ymateb yn gyflym i gynyddu’r ddarpariaeth ar-lein er mwyn sicrhau bod amrywiaeth dda o sesiynau lles yn dal i fod ar gael.
- Roedd hi’n cymryd mwy o amser i gynllunio sesiynau wyneb yn wyneb gan fod angen i’r tîm sicrhau bod pob protocol yn ei le, ac asesu risg yr holl weithgareddau a drefnwyd er mwyn sicrhau diogelwch pawb a oedd yn eu mynychu.
- Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, hysbysebwyd bod angen cadw lle ar bob sesiwn wyneb yn wyneb, a gosodwyd cyfyngiad ar nifer y bobl a allai fynychu. Lle bo hynny’n bosibl, trefnwyd sesiynau ychwanegol ar gyfer y rhai oedd wedi derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd a oedd ar gael, er mwyn rhoi cyfle i gymaint o bobl â phosibl.
Beth nesaf?
Mae sesiynau ar-lein newydd wedi eu cynllunio ar gyfer gweddill y cyfnod adrodd, yn cynnwys Aliniad Ystum y Corff, Strictly Fitsteps, Pilates a Chanu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint.
Bydd sesiynau wyneb yn wyneb newydd yn cynnwys teithiau cerdded hanesyddol yng Nghonwy, Deganwy, Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos. Byddwn yn cynnal sesiynau hel atgofion ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Byddwn yn Canu am Hwyl yn Llanrwst, Cael Sgwrs yn Llandrillo yn Rhos, mwynhau taith gerdded i’r tîm o Drefriw i Lanrwst a Thaith Gerdded Bioamrywiaeth yn Llandudno. I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, aethom ati i wneud doliau allan o begiau yn Amgueddfa Llandudno.
Astudiaeth Achos: Tai Chi yn y Parc
Fe welodd gwraig yn ei 70au hysbyseb ar Facebook am ein sesiynau yn rhad ac am ddim ym Mharc Pentre Mawr a meddyliodd y byddai’n ei helpu gyda’i symudedd cyfyngedig ar ôl iddi gael llawdriniaeth i osod clun newydd. Roedd hi hefyd yn dioddef amryw o broblemau anadlu a bu’n cysgodi yn ystod pandemig Covid-19. Fe wnaeth un o’n Swyddogion Lles Cymunedol gadw mewn cysylltiad gyda’r wraig drwy gydol y cwrs er mwyn gweld sut oedd hi’n dod yn ei blaen ac i rannu gwybodaeth am unrhyw grwpiau a chyrsiau perthnasol eraill.
Gall osteoarthritis a phroblemau anadlu wanhau person yn arw, ond gellir helpu hyn drwy symud a chael pwrpas. Mae’r dosbarth Qigong yn cynnig y ddau, ynghyd â thechnegau anadlu dan reolaeth. Mae’r sesiynau hefyd wedi ei helpu i ehangu ei chylch cymdeithasol, ac mae hi wedi cofrestru ar gyfer y cwrs Tai Chi dan do nesaf a fydd yn para chwech wythnos. Mae’r wraig wedi rhoi ychydig o adborth i ni am ei phrofiad a manteision ymuno â’r dosbarth:
Fe wnes i ei fwynhau’n fawr, roedd yn hollol wych ac wirioneddol wedi fy helpu i ymlacio! Fe wnes i elwa ohono’n feddyliol ac yn gorfforol, ond hefyd yn gymdeithasol. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd. O’r grŵp gwreiddiol yn y parc, rydym wedi cyfarfod am goffi, rydym wedi siarad gyda phobl eraill a fyddai hefyd yn awyddus i gwrdd am goffi. Roeddwn i’n teimlo’n llawn egni ac yn bositif ar ôl pob sesiwn. Rwy’n teimlo o ddifri y dylai mwy o bobl sydd mewn poen neu’n teimlo’n unig estyn allan ac ymuno â grŵp fel hwn, bydden nhw’n elwa cymaint ohono. Diolch!
Roedd hi mor hyfryd cwrdd â phobl newydd ac rydw i wedi dysgu llawer iawn. Rwy’n gobeithio y gallwn ni gael mwy o sesiynau fel hyn. Fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i fy mywyd i.
Astudiaeth Achos: Sesiynau Zoom
echyd, yn cynnwys gorbryder ac iselder. Mae gan ei gŵr hefyd broblemau iechyd, ac yn ddiweddar cafodd perthynas agos iddynt ddiagnosis dementia; mae’r ddau’n poeni’n arw ac yn teimlo’n bryderus.
Gan fod llai o weithgareddau a grwpiau’n cael eu cynnal yn y gymuned oherwydd Covid-19, fe waethygodd ei hiechyd meddwl a’i phroblemau gorbryder ac ni chafwyd cymaint o gyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol.
Fe wnaeth un o’n Swyddogion Lles Cymunedol roi gwybod i’r wraig am sesiynau addas pan oedden nhw ar gael. O ganlyniad, fe gofrestrodd hi ar gyfer nifer o weithgareddau ar-lein. Fe gafodd hi hefyd gymorth digidol er mwyn bod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio Zoom.
Fe roddodd y sesiynau rheolaidd rywbeth cadarnhaol i’r wraig ganolbwyntio arno ac roedd hi’n llai pryderus. Fe wyddai y byddai’r sesiynau’n cael eu cynnal, waeth beth fo’r tywydd, ac roedd hyn yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddi edrych ymlaen ato heb boeni y byddai’n cael ei ganslo. Fe dyfodd ei chylch cymdeithasol wrth iddi gyfarfod pobl newydd yn y grŵp a chadwodd mewn cysylltiad gyda rhai ohonyn nhw ar ôl i’r cwrs orffen. Gydag anogaeth gan un o’i ffrindiau newydd, fe ailgydiodd hi yn ei gwnïo ac fe ddechreuodd hi hefyd beintio blodau, ac mae hyn yn ei helpu i ymlacio.
Gweithgareddau Wythnos y Gofalwyr
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr, fe drefnodd y Tîm Lles Cymunedol a thîm y Gofalwyr ddau sesiwn ar gyfer gofalwyr, taith gerdded wyneb yn wyneb ar hyd y promenâd yn Llandudno a sesiwn hunanofal dros Zoom.
Derbyniwyd adborth cadarnhaol am y ddau sesiwn, a dywedodd un ferch a ymunodd â ni ar y daith gerdded:
Roedd hi mor braf gallu cerdded gyda phobl eraill, yn enwedig pobl a oedd yn gofalu am eu hanwyliaid fel fi…roedd gennym ni lawer o bethau’n gyffredin y gallen ni eu trafod.
Dywedodd un wraig arall ei bod wedi mwynhau gallu gwneud rhywbeth gyda’i mam yng nghwmni pobl eraill, ac ar y diwedd fe arhosodd i sgwrsio a chael coffi gydag un o’r merched eraill, a oedd yn braf i’w weld.
Dros y chwe mis diwethaf, mae dros 40 o ofalwyr wedi mynychu amryw o sesiynau ar-lein a rhai wyneb yn wyneb a drefnwyd gan y Tîm Lles Cymunedol.
Beth yw’r heriau?
Unwaith eto, nid oedd pob unigolyn oedd â mynediad at ddyfais ddigidol yn ddigon hyderus i’w defnyddio er mwyn mynychu’r sesiwn ar-lein; fe gynigiodd y Tîm Lles Cymunedol gefnogaeth dros y ffôn er mwyn galluogi gofalwyr i gymryd rhan.
Beth nesaf?
Mae’r Tîm Lles Cymunedol yn parhau i gefnogi gofalwyr gyda’u rhaglen weithgareddau barhaus, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Dyma rai o’r sesiynau newydd sy’n cael eu trefnu gan y tîm ar gyfer gofalwyr ar hyn o bryd:
- Dod â’r Bws Dementia Rhithiol yn ôl i Gonwy ar 2 Awst 2022.
- Sesiynau Mynd yn ôl Allan i Fwynhau ar gyfer gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia.
- Sesiwn Gwneud Cyffiau Gwingo ar gyfer gofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Llandudno
Gweithgareddau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles
Cynhaliwyd prosiect Haf o Hwyl rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2021 a darparwyd amrywiaeth o weithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0-25 oed er mwyn cefnogi eu lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol.
Roedd tri phrif nod i’r digwyddiad:
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael hwyl a rhoi cyfle iddynt fynegi eu hunain trwy chwarae.
- Mentrau rhyngweithiol, creadigol a chymunedol sy’n seiliedig ar chwarae i bob oedran.
- Rhoi cyfle i blant a phobl ifanc chwarae gyda’u ffrindiau a’u cyfoedion.
Yng Nghonwy, cynigiwyd 29 o brosiectau drwy amryw o sefydliadau trydydd sector, darparwyr preifat a thrwy amryw o wasanaethau’r Cyngor, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol, Addysg, Llyfrgelloedd, Hamdden a Gwasanaethau Ieuenctid.
Cynigiwyd ystod eang o weithgareddau, yn cynnwys sesiynau antur yn yr awyr agored, gweithgareddau ffitrwydd dan do, sesiynau chwarae i blant 3-11 oed, gweithgareddau ar gyfer plant maeth, sesiynau gweithgareddau i’r teulu ar gyfer plant ag anableddau dysgu, golff a gweithgareddau chwaraeon eraill mewn lleoliadau gwledig. Cynigiwyd sesiynau chwaraeon gydag offer wedi’u llenwi ag aer, coginio yn yr awyr agored, tenis, celf a chrefft, sesiynau chwarae Lego, ioga, gweithgareddau yn y ganolfan sgïo, cydbwyso cerrig, celf ar y llawr, gweithdai gwyddoniaeth a llawer iawn mwy.
Cofnodwyd bod cyfanswm o 1,959 o bobl wedi mynychu’r holl sesiynau. Roedd yr adborth gan blant, pobl ifanc, rhieni ac aelodau staff yn gadarnhaol dros ben, ac yn amlygu’r ffyrdd mae teuluoedd wedi elwa o’r gweithgareddau hyn, yn enwedig yn dilyn cyfyngiadau Covid-19.
Diolch i chi am y cyfle i wneud haf o hwyl. Cafodd y plant a’r rhieni fodd i fyw. Roedd hi’n hyfryd gweld cyfeillgarwch yn tyfu drwy’r gweithgareddau a bu teuluoedd yn rhoi cynnig ar weithgareddau gwahanol na fydden nhw erioed wedi meddwl a fyddai’n bosibl.
Aelod staff o Cyswllt Conwy
Cawsom sylwadau cadarnhaol iawn am yr amryw o weithgareddau celf a diwylliant ar gyfer teuluoedd:
Amser anhygoel!
Fe wnaeth fy machgen bach fwynhau’n ofnadwy, diolch.
Roedd fy mhlant wrth eu boddau.
Cwpwl o oriau hwyliog dros ben.
Roedd fy mhlant wrth eu boddau, fe gawson nhw brynhawn gwych, diolch yn fawr.
Cyfranogwyr
Roedd fy mhlant wrth eu boddau, fe gawson nhw brynhawn gwych, diolch yn fawr.
Beth oedd yr heriau?
Beth oedd yr heriau?
Darparwyd cyllid ychwanegol i gynnal rhaglen debyg o weithgareddau dan yr enw ‘Gaeaf Llawn Lles’ o fis Hydref 2021 a thros gyfnod y gaeaf. Cwblhawyd canllawiau grant Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr ac felly roedd hyn yn cyflwyno rhai heriau wrth gadarnhau agenda’r rhaglen er mwyn sicrhau y byddai’r holl weithgareddau o fewn meini prawf y grant.
Er mwyn creu rhaglen o weithgareddau amrywiol ar gyfer grwpiau oedran a galluoedd amrywiol, roedd angen i ni weithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn cyrraedd darparwyr posibl a allai gyfrannu at y rhaglen weithgareddau hon, a sicrhau amrywiaeth a dosbarthiad eang o gynigion ledled y sir.
Roedd marchnata yn un o’r heriau eraill a gafodd y darparwyr, er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’w digwyddiadau i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio arnyn nhw.
Beth nesaf?
Mae gennym ni nawr gronfa ddata well o ddarparwyr i’w defnyddio ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol, ynghyd â gwybodaeth werthfawr ynghylch pa weithgareddau a oedd yn boblogaidd iawn. Mae gennym ni hefyd adborth gan blant a’u teuluoedd a fydd yn helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir wrth greu rhaglenni gweithgareddau yn y dyfodol.
Gwasanaethau Dementia: Gweithwyr Cefnogi Dementia
Mae’r Gronfa Gofal Canolraddol wedi rhoi cyfle i ni gynyddu nifer y staff y gallwn eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cefnogi dementia yng Nghonwy ac, i’r perwyl hwnnw, rydym wedi penodi pump o weithwyr cefnogi dementia i gefnogi pob un o’n pump Tîm Adnoddau Cymunedol.
Mae’r unigolion hyn yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw aelod o’r Tîm Amlddisgyblaethol. Nid oes unrhyw feini prawf cymhwyso ffurfiol ar gyfer eu gwasanaethau ac mae ganddyn nhw lawer o ymreolaeth. Mae hyn yn gwneud y rôl yn eithaf unigryw o ran yr hyblygrwydd a geir wrth gefnogi unigolyn sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr anffurfiol. Nid yw’r gefnogaeth a gynigir yn cael ei phennu yn ôl amser na thasgau, ac nid yw wedi’i chyfyngu o ran amser chwaith, yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar y canlyniadau a nodir. Mewn rhai teuluoedd, dyma’r angor sy’n cadw’r ddysgl yn wastad.
Mae gan y Gweithwyr Cefnogi Dementia wybodaeth dda am ba gymorth a gweithgareddau cymunedol sydd ar gael yn eu hardal leol, gan alluogi ac annog unigolion i barhau i fod yn rhan o’u cymuned eu hunain, a chyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw a byw’n dda gyda’u dementia. Mae ganddyn nhw hefyd gysylltiadau gyda sefydliadau eraill yn y gymuned leol megis y Gymdeithas Alzheimer’s, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Men’s Sheds a digwyddiadau a gweithgareddau lles. Maen nhw hefyd yn gallu creu grwpiau cymunedol pan welir bwlch, er enghraifft grŵp Gwau a Gwnïo a sefydlwyd yn ein Tîm Adnoddau Cymunedol mewn ardal wledig.
Nodwyd bod cefnogi unigolion a’u gofalwyr anffurfiol i gael mynediad at hyfforddiant yn un o brif amcanion y rôl, a gwelwyd bod hyn yn bwysig iawn, yn enwedig gan fod gwŷr/gwragedd yn gweld bod eu rôl yn newid i fod yn ofalwr mewn perthynas, yn aml yn ddiweddarach yn eu bywyd. Er enghraifft, rhoddwyd cefnogaeth i deuluoedd fanteisio ar y profiad dementia rhithiol ar y Bws Dementia teithiol.
Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i unigolion yn ystod asesiadau ffurfiol, yn ystod y broses ddiogelu ac mewn apwyntiadau yn y clinig cof. Ar adegau, gwelwyd bod hyn yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl.
Mae’r rôl hefyd yn allweddol er mwyn cefnogi’r gofalwyr yn ogystal â’r unigolyn; cafodd eu cefnogaeth ei gwerthfawrogi a gwelwyd fod hyn yn llwyddiant gan fod y gweithiwr cefnogi wedi llwyddo i ffurfio perthynas llawn parch ac ymddiriedaeth gyda’r unigolyn a’i deulu ehangach.
Drwy gefnogi gofalwyr i gydnabod y gwaith da maen nhw’n ei wneud a gwella eu hyder, rydym yn gwneud gwahaniaeth i’r ffordd maen nhw’n teimlo am eu dyletswyddau gofal.
Mae gan y Gweithiwr Dementia fynediad at dechnoleg sy’n gallu cefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Maen nhw’n gallu benthyg offer megis iPad ac Alexa, gan roi amser i asesu’r manteision i’r unigolyn.
Beth oedd yr heriau?
Gan mai cyllid dros dro a gafwyd yn wreiddiol, roedd hi’n anodd recriwtio ar gyfer y swyddi ond mae bellach wedi newid i fod yn gyllid rheolaidd, felly rydym wedi llwyddo i’w gwneud yn bump swydd barhaol.
Gan fod cyfraniad y Gweithwyr Dementia bellach yn werthfawr iawn i unigolion, i’w gofalwyr anffurfiol ac i’r Tîm Adnoddau Cymunedol, nid ydyn nhw bob amser yn gallu rhoi’r gorau i gynnig cefnogaeth, felly nid ydyn nhw’n gallu derbyn atgyfeiriadau newydd. Drwy gydweithio, defnyddio technoleg a gweithio gyda’r trydydd sector a’r gymuned i ganfod cefnogaeth amgen, rydym wedi llwyddo i ddatrys y broblem.
Gall technoleg gynorthwyo unigolion i fyw’n annibynnol ac yn dda gyda’u dementia, er enghraifft GPS, dyfeisiau Alexa a chlociau digidol. Yn anffodus nid oes gan lawer o unigolion fynediad at Wi-fi yn eu cartrefi er mwyn manteisio ar ddyfeisiau llechen ac ati a gall hyn fod yn rhwystr i gael mynediad at lawer o wasanaethau a allai ysgafnhau rhywfaint o’r straen ar ofalwyr.
Beth nesaf?
Er mwyn parhau i wella a datblygu’r gwasanaeth, rydym yn gofyn i unigolion a’u gofalwyr lenwi ffurflenni monitro ansawdd fel y gallwn ni eu defnyddio i ddysgu a gwella.
Mae adborth a geir gan aelodau’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn awgrymu bod y Gweithwyr Dementia bellach yn aelodau allweddol o’r tîm, ac mae sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb wedi gweithio’n dda, yn enwedig y ffaith eu bod yn rheoli eu hunain heb unrhyw feini prawf cymhwysedd.
Gan fod hyn yn syniad newydd ac yn swydd newydd yng Nghonwy rydym wedi gorfod dysgu wrth i bob her newydd ddod i’r amlwg.
Astudiaeth Achos
Mae ymwneud ag X a’i gŵr yn rhoi trefn a chysondeb. Mae hyn yn ei helpu hi gan fod yn well ganddi pan fo pethau’n cael eu gwneud mewn trefn a’u bod yn ganolog i’w gofal. Mae angen y gefnogaeth ar ei gŵr, sef ei phrif ofalwr, ac mae e’n gwerthfawrogi fy ymweliadau. Mae e’n gwerthfawrogi mod i yno i gefnogi a chyfeirio, gan fod bywyd yn anodd iddo’n gyffredinol. Mae gan X amryw o anghenion meddygol cymhleth ac rydw i wedi ei chefnogi hi a’i gŵr drwy drefnu apwyntiadau gyda nhw.
Mae dementia X yn heriol iawn, ac yn ei gwneud yn ddibynnol ar ei gŵr. Gallaf gynnig cymorth a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i’r ddau ohonyn nhw, ac mae hyn wedi helpu i atal y sefyllfa rhag mynd yn ormod i’r gofalwr ac osgoi’r angen i gael ymyraethau gofal cymdeithasol hyd yma.
Gwasanaethau Dementia: Tîm Cefnogi Dementia
Mae arian o’r Gronfa Gofal Canolraddol hefyd wedi ein galluogi i brofi’r syniad o gael ffordd fwy hyblyg i ddarparu gofal a chymorth yn y gymuned ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr.
Mae’r Tîm Cefnogi Dementia yn cynnwys wyth gweithiwr cefnogi sy’n cynnig cefnogaeth estyn allan hyblyg, wedi’i phersonoli gan ddefnyddio dull “tîm o amgylch yr unigolyn” o’r diagnosis cyntaf, sy’n galluogi pobl i fyw’n dda gyda dementia, yn eu cartrefi eu hunain. Mae hyn yn cynnwys oedolion gyda dementia cynnar, a rhai gydag anableddau dysgu, a chaiff ei gynnig yn ddwyieithog, yn dibynnu ar ddewis y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth, a’r hyn maen nhw’n ei ffafrio. Mae’r tîm yn cynnig elfen o gyfeirio cymunedol (cyfeirio pobl at wasanaethau eraill) a chefnogaeth eirioli ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr. Mae’r tîm hefyd yn fedrus a chymwys i gyflawni dyletswyddau gofal iechyd wedi’u dirprwyo, e.e. cymryd samplau gwaed. Mae’r tîm yn gweithredu fel man cyswllt allweddol i deuluoedd er mwyn eu cynorthwyo gyda chymhlethdodau’r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhaid bod yn hyblyg; bydd y gweithwyr yn ymateb i anghenion yn hytrach na darparu cymorth yn ôl amserlenni gwaith. Maen nhw’n cynnig cefnogaeth ychwanegol i’r rhai lle bydd gofal cartref traddodiadol yn methu, a bod angen cefnogaeth mwy hyblyg i gynnal annibyniaeth.
Mae’r tîm wedi galluogi pobl sy’n byw gyda dementia i gadw eu hannibyniaeth ac aros gartref, ac osgoi gorfod anfon pobl i’r ysbyty neu i ofal preswyl yn ddiangen, a gohirio’r angen am wasanaethau o’r fath. Maen nhw hefyd wedi lleihau’r oedi pan fo angen anfon rhywun adref o’r ysbyty. Yn y cyd-destun lleol, mae hyn yn golygu llai o achosion Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o’r ysbyty seiciatrig, a defnyddio llai o leoliadau y tu allan i’r dalgylch, ac felly amharu llai ar deuluoedd ac achosi llai o boen meddwl iddyn nhw, yn ogystal â’r arbedion ariannol o ran costau lleoliadau. Credir y bydd y gefnogaeth fwy effeithiol hon ar gyfer y rhai sy’n gofalu am bobl gyda dementia yn effeithio’n gadarnhaol ar wytnwch gofalwyr a bydd yn lleihau achosion argyfyngus.
Beth oedd yr heriau?
Unwaith eto, mae natur dros dro cyllid y Gronfa Gofal Integredig wedi ei gwneud yn anodd iawn recriwtio ar gyfer y tîm ac nid ydym wedi gallu penodi ar gyfer pob swydd hyd heddiw.
Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio’n fawr ar ein cynlluniau i dreialu gwasanaeth mwy hyblyg yn ein cartref preswyl ar gyfer yr Henoed â Salwch Meddwl (Llys Elian) a’i gysylltu gyda gwaith y tîm hwn. Roeddem wedi gobeithio y gallai’r tîm ddefnyddio gwasanaethau seibiant Llys Elian dros nos ac yn ystod y dydd, wrth i anghenion pobl ddwysáu, ond oherwydd cyfyngiadau Covid ar draws y sector cartrefi gofal, nid ydym wedi gallu bwrw ymlaen gyda hyn o gwbl. Heb ystyried hyn, mae’r tîm ei hun wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau rhai unigolion.
Beth nesaf?
Cawsom wybod yn ddiweddar y byddwn yn derbyn y cyllid yn rheolaidd ac felly gobeithio y bydd hyn yn helpu i recriwtio staff ar gyfer y gwasanaeth. Wrth i gyfyngiadau Covid lacio, rydym hefyd yn rhagweld y gallwn ni fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i gryfhau’r cysylltiadau sydd gan y tîm gyda’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn Llys Elian ar hyn o bryd a fydd, yn ei dro, yn helpu i lywio model y ddarpariaeth gwasanaethau a gynigir yno yn y dyfodol.
Bwthyn y Ddôl
Fel rhan o’r weledigaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau lleol di-dor ac wrth ymateb i gynllun “Cymru Iachach”, mae’r Tîm Amlddisgyblaethol Peripatetig a’r Ganolfan Asesu, sef Bwthyn y Ddôl, yn brosiect trawsnewid allweddol ar gyfer rhanbarth canol Gogledd Cymru, a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a BIPBC.
Mae’r tîm amlddisgyblaethol yn dîm asesu ac ymyrryd therapiwtig amlbroffesiwn dros gyfnod byr (12 wythnos). Ar ddiwedd y 12 wythnos ceir fformiwleiddio manwl ar gyfer y teulu a’r asiantaethau cyfeirio. Mae’r tîm yn cydweithio gyda’r teuluoedd i ddeall eu plentyn a chreu newid cadarnhaol yn y ffordd mae’r teuluoedd yn gweithredu, gan anelu at:
- Sicrhau bod y plentyn/plant yn aros gartref yn ddiogel.
- Sicrhau bod y plentyn/plant yn dychwelyd gartref neu i gartref aelod o’r teulu’n ddiogel.
- Cynorthwyo i lywio ac arwain cynllun amgen priodol ar gyfer y plentyn/plant pan nad yw’n briodol iddyn nhw ddychwelyd gartref.
Gwneir hyn ochr yn ochr â galluogi rhieni i drawsnewid eu sgiliau rhianta er mwyn diwallu anghenion eu plant.
Mewn data rheoli a chyfweliadau gyda rhieni, awgrymwyd y gallai tîm Bwthyn y Ddôl ymateb o fewn ychydig o ddyddiau ar ôl derbyn atgyfeiriad. Roedd ymateb cyflym yn hollbwysig mewn sawl achos, gan fod gofal teulu bron iawn â methu neu eisoes wedi methu.
Yn y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021, roedd y tîm wedi cynnal 69 ymgynghoriad, 189 ymyrraeth ar sail tystiolaeth, a llwyddwyd i osgoi cyfanswm o 878 wythnos o ofal.
Beth oedd yr heriau?
Mae pandemig Covid-19 wedi amharu ar y gwasanaeth gan fod yr asesiadau risg wedi atal ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, ynghyd ag apwyntiadau’n cael eu canslo gan fod angen i staff ac aelodau o’r teulu hunanynysu.
Mae’r Ganolfan Asesu Breswyl i Blant sydd ar y gorwel (Bwthyn y Ddôl) yn rhan ganolog o fodel y Tîm Amlddisgyblaethol. Gwelwyd oedi gyda’r gwaith adeiladu a disgwylir iddo nawr fod ar agor yn haf 2023.
Beth nesaf?
Mae darpariaeth Canolfan Asesu Breswyl i Blant (Bwthyn y Ddôl) yn rhan ganolog o fodel y Tîm Amlddisgyblaethol ac rydym yn chwilio am Ganolfan dros dro er mwyn darparu Canolfan asesu dros dro, nes bydd y gwaith adeiladu wedi ei orffen.
Mae’r tîm wedi rhoi cychwyn da arni. Mae’r model gofal wedi ei ymgorffori gyda gwaith amlasiantaethol wrth ei wraidd a gwelir arwyddion addawol bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn dechrau gweld newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Bydd y Tîm Amlddisgyblaethol yn parhau i ddatblygu eu sgiliau a chyflwyno mesurau ymyrryd i garfanau o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd nad oedd darpariaeth dda ar eu cyfer yn system bresennol y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.