Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu hynod fedrus a chymwys a gefnogir yn dda yn rhannu’r un weledigaeth yn eu gwaith
Cefnogi ein Gweithlu
Fel rhan o waith recriwtio a chadw ein gweithlu, mae Conwy yn aelod o bartneriaeth MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Fel rhan o hyn, bob blwyddyn academaidd rydym yn croesawu 16 o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. Er mwyn galluogi hyn, mae angen i’n gweithwyr cymdeithasol hyfforddi i fod yn Addysgwyr Ymarfer. Dros y deunaw mis diwethaf rydym wedi hyfforddi deg gweithiwr cymdeithasol ychwanegol i weithio fel Addysgwyr Ymarfer. O ganlyniad, mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol wedi elwa gan fod amrywiaeth ehangach o leoliadau ar gael.
Rydym hefyd yn falch o gynnig Hyfforddeiaeth Gwaith Cymdeithasol Conwy. Mae hwn ar gael i weithwyr er mwyn eu cefnogi i fod yn weithwyr cymdeithasol cymwys drwy’r BA mewn Gwaith Cymdeithasol a gynigir gan y Brifysgol Agored. Mae’r cynllun yn talu am holl ffioedd y cwrs ac mae’r hyfforddai’n cadw ei swydd a’i gyflog gwreiddiol drwy gydol ei astudiaethau.
Beth yw’r heriau?
Mae’r data mwyaf diweddar sydd gennym yn datgan bod 9% o swyddi ym maes Gwasanaethau Oedolion yn wag ledled Cymru, a bod 13% o swyddi ym maes Gwasanaethau Plant yn wag. Mae hyn yn dangos bod recriwtio a chadw staff yn broblem genedlaethol ac nad yw’n unigryw i unrhyw Awdurdod Lleol penodol. Mae’r un data’n awgrymu bod traean o’r holl swyddi gwaith cymdeithasol gwag yn cael eu llenwi gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso.
Sicrhau bod Plant sy’n Derbyn Gofal yn cael eu cefnogi yn yr ysgol
Eleni gofynnwyd i ysgolion Conwy gymryd rhan mewn arolwg i wneud yn siŵr fod ganddyn nhw swyddog penodol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a bod staff yn y lleoliadau wedi derbyn hyfforddiant mewn amryw o destunau a strategaethau. Gallai ysgolion nodi faint o’u plant a oedd mewn gofal o’r tu mewn ac o’r tu allan i’r sir, faint sydd wedi cael eu mabwysiadu a faint sy’n destun Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig. Mae’r canlyniadau wedi rhoi cipolwg i ni o ba mor effeithiol y gallwn ni gefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal yn yr ysgol, ac ym mhle y gwelir bylchau o ran hyfforddiant a datblygiad staff. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod Plant sy’n Derbyn Gofal yn derbyn unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw, a bod gan staff ysgol y wybodaeth a’r hyder i gefnogi’r plant sydd yn ein gofal gyda’r ddealltwriaeth a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol.
Monitro ansawdd ein gwasanaethau mewnol
Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal cartref mewnol cystal â phosibl, fe wnaethom unwaith eto ofyn am adborth gan ein cydweithwyr sy’n gweithio yn y timau hynny, yn ogystal â’r rhai sy’n ein comisiynu ni neu’n cydweithio â ni yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Bwrdd Iechyd. Rydym wedi derbyn sgorau a sylwadau cadarnhaol iawn, sy’n dangos ansawdd uchel y gwasanaethau rydym yn eu darparu i bobl ddiamddiffyn yng Nghonwy, a’r cryfderau a’r ymroddiad yn ein timau staff. Dyma rywfaint o’r adborth a gawsom.
Gofynnwyd i randdeiliaid a chwsmeriaid mewnol ein gwasanaethau gofal cartref mewnol ar gyfer pobl anabl i raddio’r tîm ar sail nifer o elfennau. Nododd 100% o’r ymatebwyr fod ein staff yn gymwys ac yn gallu diwallu anghenion yr unigolion rydym yn eu cefnogi. O ganlyniad, roedd 100% hefyd yn cytuno ein bod yn galluogi’r unigolion hynny i gyflawni eu canlyniadau personol. Cawsom sgôr uchel ymhob elfen o’n gwaith ac roedd y sylwadau gan yr ymatebwyr yn amlygu’r gwerth maen nhw’n ei roi ar y gwasanaeth.
Maen nhw’n addasu eu cymorth i ddiwallu anghenion unigolion ac yn cynnig amryw o weithgareddau…i gefnogi’r rhai sydd â’r anghenion mwyaf heriol ac maen nhw bob tro’n cymryd y cam ychwanegol i gynorthwyo mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Mae’r ffordd maen nhw’n defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ogystal â chymorth gweithredol ac ymddygiad cadarnhaol yn ardderchog.
Mae buddion pennaf y defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog i’r staff. Dangosir hyn yn y ffordd maen nhw’n cefnogi pob unigolyn maen nhw’n ei gefnogi.
Pobl Hŷn i’n cydweithwyr sy’n gweithio o fewn yr Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Gymdeithas Tai. Unwaith eto, roedd pob un o’r ymatebwyr yn cytuno bod ein staff yn gymwys ac yn ymateb yn brydlon ac yn briodol i bryderon am unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Nododd 100% ohonyn nhw fod y gwasanaethau Ailalluogi a Diwedd Oes yn diwallu anghenion yr unigolion sy’n eu defnyddio.
Mae’r tîm yn anhygoel ym mhob ffordd, yn y cymunedau gwledig maen nhw’n achubiaeth heb ei hail. Credaf fod y sgiliau, yr ymroddiad a’r gefnogaeth mae’r tîm hwn yn ei roi i’n dinasyddion wedi bod yn anhygoel drwy gydol y pandemig hwn.
Mae gwir sgiliau ac ymroddiad y timau hyn wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig hwn. Teimlaf y dylai CBSC fod yn hynod o falch.
Cawsom sgorau mwy cyffredin am y ffordd rydym yn darparu neu’n rhannu gwybodaeth am ein gwasanaethau yn y maes hwn, felly dyma rywbeth y gallwn ei wella dros y misoedd nesaf. Roedd y sylwadau ychwanegol yn cydnabod bod y timau wedi bod dan straen aruthrol dros y misoedd diwethaf, pan oedd y galw’n aml yn fwy na’u capasiti.
Gan mai Llys Elian yw ein hunig leoliad preswyl mewnol ar gyfer pobl hŷn, fe wnaethom ofyn am adborth am y gwasanaeth mae’n ei ddarparu i bobl yng Nghonwy sy’n byw gyda dementia. Cawsom ymatebion gan gydweithwyr yn yr Awdurdod a’r Bwrdd Iechyd Lleol. Teimlai 100% ohonyn nhw ein bod yn dda neu’n dda iawn o ran ymateb i ymholiadau’n brydlon ac yn gwrtais ac wrth ymateb yn brydlon ac yn briodol i bryderon am unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Cytunai’r ymatebwyr i gyd fod y gofal preswyl hirdymor a’r gofal seibiant a gynigir yn Llys Elian yn galluogi preswylwyr i gyrraedd eu canlyniadau personol.
Holwyd beth mae’r lleoliad yn ei wneud yn dda a dyma a ddywedwyd:
Mae’r gwasanaeth a ddarperir wedi’i bersonoli i’r unigolyn. Mae’r wybodaeth am ofal dementia a’r rhyngweithio…gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn y lleoliad yn dda. Byddem yn elwa drwy gael mwy o leoliadau fel Llys Elian ble mae gennym fynediad at wasanaethau seibiant, gofal dydd a lleoliadau byrdymor/hirdymor.
Bu’n bleser o’r mwyaf gweithio gyda Llys Elian… Mae ganddyn nhw berthynas eithriadol gyda’u preswylwyr, ac yn siarad Cymraeg pan fo angen. Mae’r cartref bob amser yn lân a chroesawus…ac [maen nhw’n] ceisio sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer eu preswylwyr.
Yn ogystal â gofyn i gydweithwyr mewn timau a sefydliadau eraill am eu hadborth, fe wnaethom ofyn i’n staff sut roedden nhw’n teimlo am y timau maen nhw’n gweithio ynddyn nhw a’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu.
Roedd y staff yn y Gwasanaeth Anabledd yn credu’n unfrydol eu bod yn gwrando ar yr unigolion maen nhw’n eu cefnogi ac yn sicrhau bod ganddyn nhw hawliau a dewisiadau.
Rydym yn cynnig dewisiadau a gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn addasu ein ffordd o weithio fel bod y person rydym yn ei gefnogi’n deall, fel y gallan nhw wneud eu dewisiadau eu hunain. Rydym yn annog eu hannibyniaeth ac yn eu hannog i ddysgu sut i gefnogi eu hunain.
Cytunai 93% eu bod yn cefnogi unigolion i fyw bywydau llawn, a’u bod yn cefnogi eu hiechyd a’u lles. Teimlai rhai pobl fod cyfyngiadau Covid wedi cyfyngu ar waith wyneb yn wyneb a gwaith grŵp, ac roedden nhw’n edrych ymlaen at allu gwella’r hyn roedden nhw’n ei gynnig i unigolion wrth i’r rheolau gael eu llacio.
Teimlai 100% o’r ymatebwyr eu bod yn cefnogi unigolion i gadw’n ddiogel, ac mae’r sylwadau ychwanegol yn dangos faint o waith sy’n gysylltiedig â dod i adnabod unigolion diamddiffyn a’u galluogi i asesu risg eu gweithgareddau eu hunain a gwella’u hymwybyddiaeth o sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl.
Rydym yn gweithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth felly rydym yn ymwybodol o wendidau unigolion. Ar ôl i ni ganfod y rhain, gallwn weithio tuag at eu cefnogi er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut gellir aros yn ddiogel ym mha bynnag sefyllfa sydd ei hangen, e.e. eu hannog i gloi’r drws bob nos, canfod y llwybr mwyaf diogel i fynd i’r siop leol, defnyddio croesfannau i gerddwyr wrth gerdded at y bws, mynediad at rifau ffôn staff ac ati
Nododd 90% o staff y timau gofal cartref mewnol ar gyfer Pobl Hŷn fod eu gwasanaeth yn dda neu’n ardderchog, gyda sylwadau ategol yn nodi proffesiynoldeb a balchder yn y gwaith arbenigol hwn. Cyfeiriodd rhai ohonyn nhw at y pwysau yn y galw a’r prinder staff, ond mae yna thema amlwg o gydweithio er budd y defnyddwyr gwasanaeth.
Gan ystyried y pwysau a’r galw sy’n bodoli ar hyn o bryd, teimlaf fod y tîm rwyf yn gweithio ynddo wedi mynd y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau yn eu rôl er mwyn sicrhau y darperir gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Teimlai 100% o’r ymatebwyr fod eu cyfraniad yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth i’r unigolion maen nhw’n eu cefnogi, a cheir llawer o foddhad yn y gwaith drwy eu cefnogi nhw i fod yn annibynnol.
Teimlaf fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun pan fydda’ i’n gadael fy ngwaith. Byddaf yn ceisio meithrin ymddiriedaeth y person fel y gallan nhw rannu unrhyw broblemau neu bryderon gyda mi.
Gofynnwyd i staff Llys Elian am eu profiadau hefyd. Nododd 92% fod y lleoliad yn dda neu’n ardderchog ac, unwaith eto, teimlai 100% eu bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r preswylwyr. Mae staff yn falch o gael gweithio yn Llys Elian, gyda rheolwyr sy’n eu cefnogi yn eu swyddi.
Rwy’n gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr fy mod yn darparu gofal da o ansawdd uchel.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
rhwng Conwy a Sir Ddinbych sydd â chyfrifoldeb statudol dros ddarparu camau ymyrryd a chefnogaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae ein tîm ymyrryd yn gweithio yn ystod y camau cynnar er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol.
Dros y deuddeg mis diwethaf, gwelwyd llawer o weithgarwch yn y gwasanaeth, yn cynnwys arolygiad AEM a byddwn yn trafod hynny’n ddiweddarach yn yr adroddiad. Er enghraifft, dros yr wythnosau diwethaf mae ein pobl ifanc wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot Canolfan Presenoldeb Ieuenctid. Nod y Ganolfan yw canolbwyntio ar bobl ifanc drwy ddarparu sesiynau rhyngweithiol ac addysgiadol gyda phynciau a fydd yn eu cefnogi nhw gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae pobl ifanc wedi cymryd rhan mewn bocsio a gweithgareddau hamdden adeiladol er mwyn hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.
Rydym wedi darparu sesiynau ymwybyddiaeth mewn ysgolion ar destunau megis troseddau gyda chyllyll a chamfanteisio. Rydym hefyd wedi ymateb i’r cynnydd mewn risg ac anghenion mewn ardaloedd targed megis Bae Colwyn, a gweithio ar ddulliau atal er mwyn lleihau gweithgarwch gwrthgymdeithasol sydd wedi gwaethygu ar ôl dychwelyd i normalrwydd ar ôl y pandemig.
Rydym nawr yn darparu sesiynau pêl-droed wythnosol gyda’r gymuned leol ac yn ddiweddar daeth 20 o bobl ifanc i’r sesiynau. Mae’r sesiynau’n cynnig ymarfer corff ac yn cynnig diddordeb sy’n gwyro unigolion oddi wrth weithgarwch gwrthgymdeithasol a chyflawni troseddau, a chynnig diben ac ystyr iddyn nhw.