Croeso i adroddiad blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy, sy’n edrych ar ein perfformiad yn ystod 2021-22 ac amlygu ein blaenoriaethau ar gyfer 2022-23. Mae’r adroddiad yn dangos sut rydym wedi hybu lles a’r modd y sicrhawyd safonau lles. Rydym yn cyfeirio at feysydd datblygu newydd, ac yn edrych eto ar yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud yn yr adroddiad blynyddol diwethaf, yn hytrach na cheisio cyfeirio at bob elfen o’n gwaith. Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio adroddiad blynyddol ac mae’n cyd-fynd ag wyth safon ansawdd cenedlaethol y canlyniadau lles.
- Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw
- Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu hynod fedrus a chymwys a gefnogir yn dda yn rhannu’r un weledigaeth yn eu gwaith
- Mae’s angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl
- Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas
- Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomysiounu a darparu canlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel, i bobl
- Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal
- Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles yn weithredol a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel y gallant gyflawni eu llawn botensial a byw’n aanibynnol cyn hired â phosibl