Canlyniadau prosiect yr Adolygiad Cyllid a Chomisiynu
Yn yr adroddiad hwn fe wnaethom edrych yn ôl ar waith Prosiect Trawsnewid Pobl Hŷn dros y deuddeg mis diwethaf. Un agwedd bwysig o’r prosiect oedd y gwaith ymgynghori a’r holl adborth a gawsom drwy wneud hyn.
Nodwyd hefyd y bydd y prosiect yn un o’r blaenoriaethau strategol ar gyfer Gofal Cymdeithasol dros y flwyddyn nesaf. Mae nodau’r prosiect yn ymdrin â sawl agwedd ar wella gofal yn y cartref, yn bennaf ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth ond hefyd er mwyn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig; mynd i’r afael â’r heriau recriwtio a chadw staff sy’n wynebu’r sector; a diogelu’r gwasanaeth at y dyfodol gan fod disgwyl i’r galw gynyddu.
Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar y newidiadau arfaethedig rydym wedi eu hamlinellu i wella’r ffordd y caiff gofal cartref ei ddarparu yng Nghonwy. Rydym ar hyn o bryd yn mynd drwy’r gwahanol gamau craffu a chymeradwyo ar gyfer y model. Mae prosesau busnes yn cael eu diweddaru a’u hail-alinio wrth baratoi, a chynhelir gwaith ymgynghori parhaus gyda gwahanol randdeiliaid. Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, bydd cyfnod pontio graddol yn dechrau ar 1 Ebrill 2022, gan ddechrau gydag atgyfeiriadau newydd er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar ddinasyddion Conwy. Credwn y bydd y newidiadau hyn yn gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i unigolion.
Agor ein Canolfan Seibiant newydd ar gyfer Pobl Anabl
Yn 2017 y datblygwyd y cynnig i ddatblygu’r safle yn Dinerth Road i ddarparu gwasanaeth seibiant preswyl ar gyfer pobl ag Anableddau, ochr yn ochr â Phlanhigfa well gyda Chaffi a siop. Ers hynny, bu swyddogion yn gweithio er mwyn gwireddu’r cynlluniau, gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid yn BIPBC. Cymeradwywyd y cynlluniau a sicrhawyd y cyllid, a dechreuodd y gwaith ar y safle’r llynedd. Rydym yn disgwyl y bydd y gwaith adeiladu wedi gorffen erbyn diwedd haf 2022 ac y bydd y gwasanaethau ar gael ar y safle ym mis Tachwedd 2022.
Mae’n ddatblygiad cyffrous a fydd yn cynnig darpariaeth seibiant gyfartal ar gyfer pobl ag anableddau. Bydd hefyd yn ein galluogi i weithio gyda’r gwasanaethau Iechyd er mwyn cefnogi pobl i barhau i fyw yn y gymuned ac osgoi cynyddu anghenion drwy ddarparu ymateb gofal estynedig mewn argyfwng.
Bydd y datblygiad ar y safle isaf yn ei gwneud yn bosibl i gynnig gwasanaeth gwell i bobl ag anableddau dysgu sy’n dymuno symud yn agosach at fyd cyflogaeth. Drwy lunio partneriaeth gyda menter gymdeithasol a chyda Gwasanaeth Cyflogadwyedd y Cyngor, byddwn yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Bydd Planhigfa Bryn Euryn yn cynnig gwasanaeth hygyrch ar gyfer cwsmeriaid a bydd yn parhau i gynnig cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ar draws y safle newydd a Phlanhigfeydd Tan Lan. Bydd y Blanhigfa a’r caffi/siop yn ffurfio rhan o’n llwybrau newydd i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i symud yn agosach at gyflogaeth.
Canolfan asesu plant Bwthyn y Ddôl
Amharwyd ar gynnydd ein canolfan asesu hirddisgwyliedig i blant gan fod y cwmni adeiladu wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Gorffennaf 2021. O ganlyniad i’r amserlenni tynn a’r risgiau uchel cysylltiedig, cymeradwyodd Cabinet yr Awdurdod Lleol gystadleuaeth fechan er mwyn canfod contractwr newydd o’r rhai a ymgeisiodd yn ein proses gaffael wreiddiol. Dim ond un cwmni a oedd mewn sefyllfa i ymgymryd â’r gwaith, sy’n gorfod cydymffurfio ag amserlenni tynn o ran gwaith trwm ar y tir a meini prawf ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid ychwanegol er mwyn lliniaru’r costau a gododd gan fod y cwmni adeiladu gwreiddiol wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Bydd y gwaith adeiladu’n parhau drwy gydol 2022-23 felly byddwn yn eich diweddaru ar y cynnydd yn yr adroddiad blynyddol nesaf.
System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru – WCCIS
Yn adroddiad y llynedd, roedd llawer o sôn am weithredu ein system newydd i gofnodi gwybodaeth am gleientiaid, sef WCCIS. Aeth yn ‘fyw’ ym mis Tachwedd 2020 ac ers hynny rydym wedi canolbwyntio ar ymgorffori’r ffordd newydd o gofnodi yn ein llwyth gwaith o ddydd i ddydd ar draws y gwasanaeth a darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i’n defnyddwyr.
Beth oedd yr heriau?
Fel gydag unrhyw system TG newydd, cafwyd rhai problemau technegol, ac yn anffodus cafwyd cyfnodau hir lle bu’r system yn perfformio’n wael. Cafodd yr holl broblemau eu huwchgyfeirio at ddarparwr y system sydd, mewn cydweithrediad â’r tîm cenedlaethol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wedi bod yn gweithio’n galed i’w datrys. Ers hynny, mae sefydlogrwydd a dibynadwyedd y system wedi gwella.
Beth sydd nesaf?
Rydym yn bwriadu integreiddio WCCIS gyda system amserlennu gofal a ddefnyddir yn ein Gwasanaeth Ailalluogi. Rydym yn gobeithio y byddwn yn mynd yn fyw gyda’r gwaith integreiddio hwn yn ystod y flwyddyn nesaf ar ôl cyfnod prawf. Byddwn yn parhau i ddiweddaru WCCIS er mwyn adlewyrchu’r newid yn anghenion ein timau, unrhyw argymhellion a dderbynnir gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a newidiadau statudol sy’n deillio o bolisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gan mai dyma’r prif adnodd gwaith ar gyfer ein hymarferwyr gofal cymdeithasol (a rhai o’n partneriaid) rydym yn parhau i ymgysylltu ac ymrwymo i wella’u profiad o weithio gydag WCCIS a pharhau i wella’u hyder a’u sgiliau.
Datblygu safle Dinerth Road
Mae Rhaglen Datblygu Dinerth Road yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) sy’n cydweithio i sefydlu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd a darpariaeth Iechyd a Lles ar y safle. Mae hon yn rhaglen waith gymhleth a gwnaed llawer o waith yn ystod 2021-22 i gadarnhau’r gofynion a chanfod llwybrau caffael sydd ar gael i’r Bartneriaeth er mwyn cyflawni’r datblygiad uchod. Bydd 2022-23 yn flwyddyn bwysig i’r rhaglen:
- Yn ystod Ebrill 2022, byddwn yn cwblhau’r gwaith ymgysylltu â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cadarnhau eu diddordeb, a deall yr hyn maen nhw’n ei deimlo am y llwybrau caffael posibl;
- Rhwng Ebrill 2022 a Hydref 2022, bydd y Tîm Prosiect yn datblygu’r Fanyleb Dechnegol fanwl a dogfennau caffael safonol er mwyn paratoi ar gyfer yr ymarfer caffael a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2023, yn amodol ar fesurau cymeradwyo perthnasol;
- Yn ystod misoedd cynnar yr haf, byddwn yn anelu at gwblhau prynu’r tir yn Dinerth Road gan Lywodraeth Cymru (yn amodol ar fesurau cymeradwyo perthnasol) sy’n garreg filltir bwysig i’r prosiect;
- Tua diwedd y gwanwyn/dechrau’r haf, bydd ein cydweithwyr yn BIPBC yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r gwasanaeth therapi dwys, a bydd canlyniad y gwaith hwnnw’n llywio’u hachos busnes refeniw.
- Ar ôl cyflwyno Achos Busnes BIPBC ym mis Tachwedd 2022 byddwn yn gofyn am gymeradwyaeth drwy’r broses ddemocratig i fabwysiadu’r llwybr caffael a ffefrir ar gyfer y datblygiad – disgwylir y bydd hyn yn digwydd ym mis Rhagfyr 2022;
- Yn amodol ar gael y gymeradwyaeth berthnasol ym mis Rhagfyr 2022, yna bydd y rhaglen yn dechrau’r broses gaffael, a disgwylir iddi bara rhwng 8 a 12 mis, yn dibynnu ar y llwybr caffael a ddewisir.
Byddwn yn eich diweddaru ynghylch sut mae’r rhaglen waith gyffrous hon yn datblygu yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
Adfer ar ôl effaith pandemig Covid
Wrth i ni barhau i reoli ac ymateb i Covid-19, rydym yn sylweddoli bod angen i ni hefyd gynllunio ar gyfer “adfer”, ymdrin â’r effaith ar iechyd y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, ein staff a’n partneriaid yn y sector gwirfoddol/cymunedol sydd wedi profi effaith y cyfyngiadau ac amhariadau yn ystod y pandemig; a hyn oll wrth weithio gyda chymunedau lleol i wella iechyd a lles.
Un o brif flaenoriaethau Conwy yw sicrhau buddsoddiad parhaus yn ein staff a chydweithio er mwyn gwella lles ein gweithlu. Yn yr un modd, mae canolbwyntio ar gadw’r gweithlu yn parhau i fod yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen. Mae ein cynlluniau ar gyfer y gweithlu’n cynnwys canolbwyntio ar:
- Iechyd a lles staff wrth i ni adfer o’r pandemig, gan ganolbwyntio’n arbennig ar yr effaith gorfforol a meddyliol ar staff, a sicrhau diogelwch a diwylliannau dysgu.
- Ffordd gytûn i ddatblygu ymhellach elfennau sy’n gysylltiedig â’r gweithlu ochr yn ochr ag adolygu pob tybiaeth sydd gennym am gynllunio’r gweithlu.
- Darparu strategaeth ar ei newydd wedd ar gyfer y gweithlu sy’n ymgorffori dysgu o’r pandemig a goblygiadau ein cynllun adfer i’r gweithlu.
- Parhau â’r gwaith i gadw staff a rhannu arfer dda ar gyfer iechyd a lles staff gyda diwylliannau diogelwch cynhwysol ar draws pob un o’n sefydliadau a’n partneriaid.
- Recriwtio a chadw staff yn ein timau gwaith cymdeithasol ar gyfer Plant a Theuluoedd, sydd wedi bod yn faes hynod o heriol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Oherwydd y pandemig, bu’n rhaid meddwl yn wahanol am sut rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i unigolion. Defnyddiwyd technoleg yn amlach nag erioed.
Mae gwasanaethau wedi ymateb i’r her ac addasu’n greadigol yn ystod pandemig Covid-19 er mwyn diogelu staff a’n dinasyddion. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn.
Rydym yn dal i weld risg yn gysylltiedig â’r galw, a recriwtio a chadw’r gweithlu, ac rydym yn bwriadu adeiladu ar fanteision prosiect Doethwaith 2020 Conwy sy’n edrych ar sut mae’r Cyngor yn gweithredu nawr ac yn y dyfodol. Y weledigaeth ar gyfer y prosiect yw:
- Gweithio tuag at ffyrdd newydd, mwy cynhyrchiol o weithio sy’n creu cyfleoedd a chanlyniadau gwell i bawb.
- Cydbwyso’r weledigaeth uchod yn erbyn yr angen am adferiad cymdeithasol ac economaidd, tra’n rheoli’r risg.
- Adeiladu ar y ffyrdd newydd o weithio a ddaeth yn amlwg yn ystod y cyfnod clo, a sicrhau bod y rhain yn parhau ar sail mwy hirdymor.
- Ceisio gwneud pethau’n wahanol yn y dyfodol i gefnogi lleihau carbon, lles staff, darparu gwasanaeth i’r bobl rydym yn eu cefnogi a’n heffeithlonrwydd fel adran (ac fel sefydliad ehangach).
Oherwydd y pwysau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 a’r argyfwng recriwtio, rydym hefyd yn gorfod mynd i’r afael â’r llwyth gwaith sydd nawr yn wynebu ein staff. Byddwn yn parhau i gydweithio ar fesurau cadw staff, rhannu arfer dda ac uwchsgilio ein staff i hybu iechyd a lles gyda diwylliant diogelwch ar draws ein holl sefydliadau a phartneriaid. Mae angen i ni:
- Sicrhau bod gennym weithlu digon mawr, medrus, diogel, sydd â ffocws i hybu lles pobl
- Datblygu a rhoi cynllun ar waith i ddenu, recriwtio a chadw gweithlu gofal cymdeithasol
- Cefnogi cynlluniau adfer gofal cymdeithasol
- Ymgorffori’r gwersi a ddysgwyd am ffyrdd newydd o weithio er mwyn llunio, datblygu a gweithredu fframweithiau ansawdd ar gyfer timau
Fel rhan o’i gynnig i staff, mae Conwy eisoes yn darparu gwasanaeth cwnsela yn rhad ac am ddim i gynnig cefnogaeth gydag unrhyw waith neu faterion personol. Mae cyfres o dudalennau gwe sy’n llawn gwybodaeth am destunau megis rheoli straen, cefnogi unigolion drwy gyfnod o newid, cyngor am gam-drin alcohol a sylweddau ac iechyd meddwl bob amser o fewn ambell glic i bob gweithiwr. Ym mis Chwefror 2022 fe wnaethom gymryd rhan yng nghynllun Amser i Siarad, gyda chyfres o weithgareddau, gwybodaeth a sesiynau sgwrsio, a phob un yn anelu at wella ein hiechyd meddwl. Roedd y diwrnod llawn yn cynnwys sesiynau am chwalu’r mythau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, manteision cerdded yng nghefn gwlad, cyfleoedd gwirfoddoli, darllen er lles iechyd meddwl a sesiynau codi ymwybyddiaeth am y menopos.
Mae cyfleoedd rheolaidd i drafod gyda rheolwyr llinell ynghylch ymrwymiadau gwaith a chartref yn sicrhau y gellir cefnogi problemau a’u datrys mewn diwylliant o fod yn agored a dangos parch at ein gilydd.