Croeso i adroddiad y Cyfarwyddwr, lle byddwn yn edrych yn ôl ar 2021/22. Rydym yn raddol yn gadael sefyllfa o gynllunio brys ac yn codi’n golygon tuag at 2022/23 a rhaglen waith uchelgeisiol.
Mae gennym amryw o heriau a ddaeth i’r amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf ac sy’n parhau i effeithio arnom ni. Mae problemau staffio’n creu pwysau ym mhob maes gwasanaeth, sy’n adlewyrchu’r effeithiau a welwyd ledled y DU. Gwneir ymdrechion sylweddol i ganolbwyntio ar recriwtio a chadw’r gweithlu, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Dîm y Gweithlu sydd wedi gweithio’n galed i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddenu pobl i swyddi allweddol.
Mae rhai o’r meysydd amlycaf yn yr adroddiad hwn yn cynnwys datblygu ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol. Dyma enghraifft wych o ddefnyddio adnoddau’n effeithlon, gan ganolbwyntio ar gyd-leoli a gweithio mewn partneriaeth. Rydym yn gweld manteision gallu llunio penderfyniadau diogelu effeithiol a phrydlon ar y pwynt derbyn gwasanaethau.
Mae gan y Gwasanaeth Anabledd bellach enw da haeddiannol iawn am ddarparu gwasanaethau o ansawdd gydag athroniaeth gyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn ymledu’r dull hwn i’n Canolfannau Teulu ac rydym yn gobeithio y gwelwn ni fanteision Gweithwyr Teulu Anabledd dynodedig wrth symud ymlaen.
Bu’r Gwasanaeth Lles Cymunedol yn achubiaeth i lawer o unigolion drwy gydol y pandemig, ac er y cafwyd ymateb cymysg i’r hyn a gynigwyd ar-lein, rydym yn falch o allu cynnig rhaglen lawn o sesiynau wyneb yn wyneb.
Rydym wedi derbyn cymorth i gael nifer o Weithwyr Cefnogi Dementia ac maen nhw wedi bod yn werthfawr iawn er mwyn targedu cymorth a chefnogaeth gynnar ar gyfer rhai sy’n dioddef yn sgil Dementia. Mae hyn yn cyd-fynd â’r amrywiaeth eang o wasanaethau rydym yn eu cynnig yn y Timau Cymunedol i Bobl Hŷn.
Roedd hi’n flwyddyn lwyddiannus ar y cyfan, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein hystod o ddewisiadau llety sydd wir eu hangen. Mae angen cyflenwad o leoliadau o ansawdd da ar frys, yn enwedig i blant, ac rydym yn awyddus i ddatblygu ein cyfres ein hunain o ddarpariaeth gofal preswyl.
Hoffwn ddiolch o galon i staff am eu gwytnwch a’u hymroddiad parhaus i wasanaethau Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy. Mae wir yn brawf o’u hagwedd gadarnhaol a’u parodrwydd i feddwl yn greadigol, sy’n rhoi enw mor dda i ni.
Jenny