Yma, byddwn yn edrych yn ôl ar y meysydd gwaith yr oeddem am eu cyflawni yn ystod 2020-21, ac yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.
Mabwysiadau system rheoli achosion newydd
Yn yr adroddiad y flwyddyn ddiwethaf, dywedom y byddem yn mabwysiadu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i greu un system rheoli achosion ar gyfer yr holl Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol ar draws Cymru. Mae’r prosiect gweithredu wedi dangos cynnydd da, gyda WCCIS yn mynd yn fyw ym mis Tachwedd 2021, fel y cynlluniwyd. Roedd hwn yn brosiect sylweddol a heriol, gydag oddeutu 675 o ddefnyddwyr, wedi’u hyfforddi’n bennaf drwy sesiynau dros y we’, i ddefnyddio’r system. Byddwn yn parhau i’w cefnogi ar eu taith ddysgu, a gwneud gwelliannau i’n prosesau lle bo angen i sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo mor ddi-dor a hawdd i’w reoli â phosibl.
Pan fydd Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd eraill mewn sefyllfa i fabwysiadu’r system, bydd yr arfer o rannu gwybodaeth am yr unigolion rydym yn eu cefnogi yn cael ei gwella ac yn caniatáu cydweithio a chadw cofnodion.
Gweithdrefnau Diogelu Newydd Cymru
Y llynedd roeddem yn paratoi i Weithdrefnau Diogelu newydd Cymru ddod i rym, ac ers mis Ebrill 2020 rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod ein gweithlu’n barod am y newid, ac yn hyderus wrth gynnwys yr arfer newydd yn eu gwaith bob dydd. Mae hyn wedi cynnwys:
- Diweddaru dogfennau, templedi a phrosesau i adlewyrchu terminoleg newydd
- Codi ymwybyddiaeth o’r gweithdrefnau ymysg yr holl wasanaethau o fewn yr Awdurdod, yn cynnwys aelodau etholedig
- Annog staff i lawrlwytho’r ap i’w ffonau clyfar
- Darparu sesiynau hyfforddi
- Cynnal arolwg i fesur hyder staff wrth ddefnyddio’r weithdrefn
- Cynnal arolwg i fesur pa mor hyderus yw rheolwyr wrth gefnogi eu timau i ddefnyddio’r gweithdrefnau
Roedd yr arolwg yn rhoi argraff o ba mor gyfarwydd yw staff gyda’r gweithdrefnau a sut maent yn eu defnyddio. Roedd yr ymateb cyffredinol yn gadarnhaol, ac rydym wedi llwyddo i greu cynllun gweithredu clir o ran yr hyfforddiant pellach sydd ei angen ym mhob adran.
Mae’r ap yn gyfeirbwynt ardderchog, ac rydym yn gwybod pwy i gysylltu â nhw….am gyngor pellach pan rydym yn ansicr.
Rheolwr Gofal Cymdeithasol
Mae’r ap yn adnodd gwerthfawr, hawdd i’w ddefnyddio, ac mae’n cael ei gadw’n gyfredol.
Rheolwr Gofal Cymdeithasol
Rydym wedi darganfod, o fewn diogelu oedolion, bod hwyluso a disgwyliadau’r gweithdrefnau’n fwy clir ac yn adeiladu ar ganllawiau blaenorol. Mae ymarferwyr yn gallu defnyddio’r ap fel adnodd i’w harwain drwy gydol y broses.
Mae proses glir a llym yn ei lle i reoli honiadau a wneir yn erbyn unigolion sy’n gweithio mewn swyddi gydag ymddiriedaeth. Fel rhan o hyn, mae rolau Swyddog Dynodedig a Swyddog Dynodedig ar gyfer Diogelu yr Awdurdod Lleol wedi cael eu sefydlu a’u hyrwyddo o fewn yr Awdurdod.
Mae Conwy wedi rhoi’r gweithdrefnau ar waith yn brydlon, gydag Awdurdodau eraill yn gofyn am ein proses a’n dogfennau i gynorthwyo â’u cynlluniau gweithredu eu hunain.
Beth oedd yr heriau?
- Oherwydd pandemig Covid-19, mae’r rhan fwyaf o’r hyfforddiant wedi cael ei gynnal dros y we, sy’n golygu ein bod wedi gorfod trin a thrafod technoleg a phlatfformau newydd i gyflwyno’r wybodaeth yn effeithiol.
- Gohiriwyd y trefniadau mynd yn fyw ar gyfer y gweithdrefnau diogelu o fis Ebrill i fis Medi 2020, a oedd yn golygu bod y sesiynau hyfforddi yn cyd-daro â hyfforddiant ar y system wybodaeth gofal cleientiaid newydd; roedd hyn yn effeithio ar bresenoldeb ac argaeledd staff.
- Mae addasu o Bolisi a Gweithdrefnau Dros Dro Cymru ar gyfer Diogelu Oedolion Diamddiffyn i Weithdrefnau Diogelu Cymru wedi cymryd peth amser.
- Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi parhau i ddarparu prosesau a chanllawiau penodol drwy gydol y cyfnod hwn, gan greu diffyg eglurder ar rai adrannau o’r gweithdrefnau.
Beth nesaf?
Byddwn yn parhau i sicrhau bod y gweithdrefnau’n cael eu hymgorffori’n llwyddiannus yn ein harferion gwaith. Ar ben hynny, byddwn yn:
- Mynychu cyfarfodydd y tîm gofal cymdeithasol i annog cydymffurfio.
- Sefydlu gweithdrefnau yn rhan o ymarfer ar draws yr holl dimau gweithredol drwy hyfforddiant, mentora cymheiriaid a dysgu ymarferol.
- Rhannu canllawiau drwy’r fforymau diogelu plant ac oedolion.
- Ymuno â’r grŵp tasg a gorffen cenedlaethol mewn perthynas ag Adran 5.
- Cynorthwyo ein cydweithwyr yn yr Adran Addysg gyda darparu hyfforddiant ar brosesau Adran 5.
Ail-lunio ein gwasanaethau iechyd meddwl
Yn ystod 2019-20, bu i ni gymryd camau breision wrth ddatblygu ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, gan agor ein canolbwynt yn Llandudno, ac ymdrechion i efelychu’r model hwn ar draws y sir. Yn ystod 2020, cynyddodd y pandemig gyflymder y newid a thynnu sylw at ble roedd angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion i gyflawni ein gweledigaeth o ofal cymesur, amserol sy’n canolbwyntio ar adfer. Roedd y tîm gofal cymdeithasol wedi’i gyd-leoli gyda chydweithwyr Bwrdd Iechyd fel rhan o’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, ond daethpwyd i gytundeb yn y gwanwyn 2020 i wahanu’r ddau dîm i gydnabod arbenigedd pob sefydliad. Byddai hefyd yn caniatáu i ni wahaniaethu rhwng pobl sydd angen ymateb clinigol gan y Tîm Iechyd a phobl sydd â phroblemau gofal cymdeithasol, a fydd nawr yn cael eu gweld gan y Tîm Lles Meddyliol newydd ei ffurfio.
Mae ymrwymiad cryf rhwng y Bwrdd Iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod y ddau dîm yn cyflawni darpariaeth ddi-dor ar gyfer y bobl sydd angen gwasanaethau, gan sicrhau bod yr unigolyn yn cael mynediad at y gwasanaeth y mae ei angen, a bod y gwasanaeth hwnnw’n cael ei ddarparu gan y gweithiwr proffesiynol cywir ar yr adeg gywir. Rhan allweddol o’r datblygiad hwn yw gwella ffocws y Tîm Lles Meddyliol ar atal ac ymyrraeth gynnar, sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth reoli sefyllfaoedd argyfwng ac ymdrin ag achosion sylfaenol, gan leihau’r tebygolrwydd o ailadrodd argyfyngau a gwella ansawdd bywyd pobl.
Er mwyn sefydlu rhaglen ymyrraeth gynnar gynaliadwy rhaid cael cyswllt agos a chadarn gyda’n partneriaid Trydydd Sector a chymunedau. Mae’r nod i ddatblygu’r canolbwynt cymunedol a phopeth y mae’n ei gwmpasu, h.y. darpariaeth i bob oedran ym mhob ardal gyda choleg adfer ffyniannus a’r gallu i gefnogi pobl mewn argyfwng, yn parhau i fod yn agwedd allweddol o’r model gwasanaeth cyffredinol. Mae gennym gynlluniau mwy cadarn yn eu lle ar gyfer y coleg adfer ac rydym wedi addasu’r weledigaeth i ymateb i anghenion wrth iddynt newid yn ystod y pandemig. Er enghraifft, mae’r defnydd cynyddol o dechnolegau digidol wedi cyflwyno buddion yr ydym yn gobeithio eu harneisio a’u datblygu, gan gydnabod hefyd bod cyswllt wyneb yn wyneb, i rai pobl, yn hanfodol. Rydym yn credu bod hon yn elfen hanfodol wrth rymuso unigolion i weithio tuag at adferiad ystyrlon a lles meddyliol parhaus.
Sefydlu ein hadnodd asesu risg hunan-esgeulustod a chelcio
Y llynedd, siaradom am yr angen i asesu risg unigolion sy’n dangos arwyddion o hunan-esgeulustod neu gelcio. Mae ein hasesiad risg wedi cael ei dreialu ac mae gan bob unigolyn sy’n hunan-esgeuluso rybudd ar ein y system wybodaeth gofal cleientiaid, ynghyd ag ymarferydd dynodedig. Maent hefyd wedi’u rhestru ar gofrestr hunan-esgeulustod, ac mae gan bob rheolwr fynediad at y gofrestr hon.
Mae nifer sylweddol o gyfarfodydd aml-asiantaeth wedi cael eu cynnal i lunio cynlluniau gweithredu unigol i gefnogi pobl sy’n hunan-esgeuluso, ac o ganlyniad, mae llawer wedi mynd drwy’r protocol ac wedi cael eu tynnu oddi ar y gofrestr. Mae hyn yn dangos bod y risgiau wedi cael eu diddymu.
Rydym wedi gweithio’n galed i ymgysylltu a gweithio gydag asiantaethau partner yn llwyddiannus. Mae cyfarfodydd yn rheolaidd yn cynnwys yr holl asiantaethau partner pennaf, ac mae asesiadau risg ar y cyd yn aml yn cael eu datblygu.
Beth oedd yr heriau
Mae’r pandemig wedi creu her, sy’n golygu bod ymweliadau wyneb yn wyneb a’r asesiad risg wedi canolbwyntio’n bennaf ar Covid-19. Y brif her nawr yw annog ymarferwyr i ddefnyddio’r adnodd asesu risg ochr yn ochr â’r protocol i sicrhau ymarfer diogel.
Beth nesaf?
Y brif nod wrth symud ymlaen yw hyrwyddo defnydd yr adnodd asesu risg a monitro ei ddefnydd. Yn ogystal, byddwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r protocol hunan-esgeuluso a’r polisi celcio. Bydd y Timau Diogelu ac Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn hanfodol yn yr archwiliad nesaf, a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn sicrhau bod canllawiau a chyngor priodol yn cael eu rhoi, gyda’r nod o alluogi unigolion i leihau eu perygl o niwed, a bod ymarferwyr yn ymarfer yn ddiogel.