Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Sut rydym yn cyflawni’r hyn a wnawn

Ein Gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol, datblygu’r gweithlu a dysgu

Rhoi profiad yn seiliedig ar waith a chefnogaeth i fyfyrwyr

Mae ein tîm gweithlu yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor a’r Brifysgol Agored i gynnig lleoliad myfyrwyr i’r sawl sy’n dymuno datblygu gyrfa o fewn gofal cymdeithasol. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol gan nad ydym wedi gallu darparu’r lefelau arferol o gefnogaeth wyneb yn wyneb ac rydym wedi gorfod dyfeisio ffyrdd amgen i gyfathrebu a mentora ein cohort myfyrwyr. Gydag ychydig o baratoadau ychwanegol a defnydd creadigol o dechnoleg, rydym wedi gallu:

  • Creu grŵp WhatsApp i fyfyrwyr gael mynediad at gefnogaeth anffurfiol a chyswllt cymdeithasol gyda chyfoedion
  • Trefnu nifer gyfyngedig o sesiynau cyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf pan yr oedd yn ddiogel i wneud hynny
  • Darparu rhestr wirio o ddeunydd darllen cefndirol a dysgu i helpu myfyrwyr i deimlo’n barod i ailddechrau yn eu lleoliadau yn dilyn atal dros dro.
  • Cyflwyno Fforwm Myfyrwyr ffurfiol a grwpiau cymorth i fyfyrwyr anffurfiol a fydd yn parhau yn y dyfodol
  • Darparu grŵp cymorth i Addysgwyr Ymarfer i fynd i’r afael â phryderon lles
  • Trefnu cyfarfodydd dal i fyny yn ddyddiol i fesur lles ac i gadw pawb yn hysbys a gyda’r gallu i gyflawni eu tasgau

O ganlyniad i’r trefniadau hyn, roedd myfyrwyr yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi fel rhan o grŵp cyfoedion yn ystod argyfwng a phan oedd perygl gwirioneddol iddynt deimlo’n unig ac ar wahân. Lleihawyd yr effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol ac fe gynhaliwyd eu cymhelliant i barhau â’u hastudiaethau.

Beth oedd yr heriau?

  • Roedd pryderon ynglŷn â bylchau o ran dysgu, yn enwedig oherwydd y bu i’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau newid yn ystod y pandemig.
  • Roedd cael adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn anodd, yn enwedig i’r rhai nad oeddent yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg.
  • Roedd yn rhaid i ni gydnabod ein bod i gyd wedi colli hyder yn ystod y pandemig, ac yn gallu teimlo fel ein bod yn colli rheolaeth a sicrwydd. Roedd myfyrwyr yn gallu sylwi ar hyn a’i deimlo yn fwy difrifol.
  • Ansicrwydd oherwydd bod rhaid atal y cyfnod yn y lleoliad dros dro.
  • Roedd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn teimlo fel eu bod yn dechrau o’r newydd eto oherwydd eu bod ond wedi bod yn y lleoliad am 23 diwrnod cyn dechrau’r cyfnod clo.

Beth nesaf?

Byddwn yn edrych ar wneud mwy o ddefnydd o ddyfeisiau megis iPads a ffonau clyfar i wella cysylltedd rhwng myfyrwyr, eu cyfoedion ac unigolion sy’n derbyn gofal a chefnogaeth. Bydd y defnydd o Skype a WhatsApp yn cael ei archwilio er mwyn cynnig dull mwy personol, a bydd proses sefydlu gynhwysfawr ac o bell yn cael ei dyfeisio.

Er mwyn datblygu dull tîm cyfan, byddwn yn gwneud ymdrech ymwybodol i drefnu cyfleoedd i gydweithio ac arsylwi hyd yn oed os yw hyn yn digwydd o bell.  Byddwn hefyd yn trefnu sesiwn groeso gyda’r Cyfarwyddwr a chyfarfod sefydlu corfforaethol gydag Adnoddau Dynol.  Bydd naw o’n gweithwyr cymdeithasol presennol yn dod yn Addysgwyr Ymarfer yn ystod 2021 a bydd eu rôl yn canolbwyntio ar feysydd pryder i fyfyrwyr, darparu goruchwyliaeth a mentora.

Rydym wedi recriwtio chwech o’r wyth myfyriwr a oedd yng Nghonwy i’r Awdurdod, a dau o gyn-fyfyrwyr Glyndŵr. Rydym yn bwriadu darparu cymorth ychwanegol yn ystod Blwyddyn 1, er mwyn gwneud iawn am unrhyw fylchau mewn dysgu oherwydd y pandemig.

Cael adborth ar ein perfformiad

Mae adborth gan unigolion sy’n gweithio gyda ni, neu’n derbyn gofal a chefnogaeth gennym ni yn ein galluogi ni i asesu pa mor effeithiol ydym ni wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a safonau ansawdd cysylltiedig. Mae arolygon yn hanfodol ar gyfer mesur ein perfformiad, ac rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymgysylltu a gwella.

Ein hadnoddau ariannol a sut rydym ni’n cynllunio at y dyfodol

Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid ac yn amlinellu rhai o’r problemau ariannol a fydd yn wynebu’r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf.

Mae cyflawni’r strategaeth yn ddibynnol ar yr adnoddau sydd ar gael drwy setliadau Llywodraeth Cymru ac ar lwyddiant y Cyngor wrth alinio adnoddau â’i nodau a blaenoriaethau.

Yn 2020-21, rhagamcanir bod y canlyniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn cyllideb. Ar gyfer 2021-22, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy’r broses achos busnes, wedi gwneud cais ac wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer pwysau costau cynyddol rhagweledig sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion (£850k) a Phlant sy’n Derbyn Gofal (£700k), a chynnydd mewn costau’n gysylltiedig â ffioedd uwch a delir i ddarparwyr gofal cartref, preswyl a nyrsio annibynnol, a byw â chymorth (£1,570k). Mae’r adran hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o £665k, ond ni fydd yr arbedion hyn yn cael llawer o effaith ar ddarpariaeth gofal rheng flaen.

Cyfranogi ac ymgynghori

Rydym yn cydnabod bod ein gwaith ymgynghori a chymryd rhan wedi lleihau o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac er mwyn gwella hyn, rydym wedi comisiynu Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy i wneud hyn ar ein rhan, gan gydnabod a defnyddio eu profiad yn y maes hwn a’r cysylltiadau cryf o fewn ein cymunedau.

Beth oedd yr heriau?

Mae ymgysylltu wyneb yn wyneb yn llawer mwy anodd ac mae’r gwasanaeth wedi gorfod datblygu dulliau gweithio drwy gyfryngau cymdeithasol a chynadleddau Zoom.

Beth nesaf?

Mae’n hanfodol bod partneriaid a thrigolion Conwy yn rhan o gynhyrchu ein strategaethau wrth symud ymlaen. Bydd y gwaith y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy yn ei wneud gyda ni o gymorth i lunio’r strategaethau hynny.

Rheoleiddio ac arolygu

Yn ystod Arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mawrth 2020, roedd nifer o welliannau wedi eu hargymell i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i unigolion yng Nghonwy.  Yn ystod 2020, fe wnaethom roi sylw i’r meysydd canlynol:

  • Sicrhau bod y sgwrs ‘beth sy’n bwysig’ yn rhoi ystyriaeth i leisiau’r plant sy’n cael eu hasesu, yn arbennig mewn perthynas â’r cryfderau a deilliannau personol. Mae’r wybodaeth hon bellach yn cael ei chadw ar ein system gwybodaeth cleientiaid newydd, ac mae hyfforddiant wedi cael ei gynnal i sefydlu ymarferion sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn llwythi gwaith dyddiol.
  • Gweithio gydag unigolion i sicrhau nad yw eu hawliau dynol yn cael eu torri drwy golli eu rhyddid. Mae ein tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gweithredu o bell i asesu unigolion, nid yw hyn yn ddelfrydol, ond mae’n angenrheidiol oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
  • Cynnig a chynnal asesiadau gofalwyr yn gyson a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw cyfleoedd i gefnogi gofalwyr yn cael eu colli na’u hoedi. Un o’r heriau a wynebwn yw nad yw llawer o ofalwyr yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, ac yn hytrach yn ystyried eu hunain fel anwyliaid. Mae’r Cyfarwyddwr yn cadeirio cyfarfod gofalwyr strategol sy’n canolbwyntio ar gefnogi gofalwyr a fynychir gan gynghorwyr, uwch reolwyr a staff uwch o sefydliadau trydydd sector sy’n cefnogi gofalwyr.
  • Gweithio gyda BIPBC i gyd-gomisiynu gwasanaethau i bobl anabl ag anghenion cymhleth a’u teuluoedd. Rydym wrthi’n cydweithio i gefnogi pedwar unigolyn cymhleth gyda llety lleol, felly mae ein perthynas gyda’r Adran Iechyd yn bartneriaeth barhaus ac effeithiol.

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English