Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau hysbys eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw’n annibynnol am gymaint â phosibl.
Cwblhau Prosiect Maelgwn
Mae cynnydd ardderchog wedi’i wneud ar safle Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno. Daeth y gwaith o adeiladu 27 eiddo ar safle’r hen ysgol i ben ar ddechrau mis Chwefror 2021, gyda thenantiaid yn gallu symud i mewn o 22 Chwefror. Mae cymysgedd da o lety ar gael i unigolion gydag anghenion gwahanol, megis anableddau, pobl sy’n gadael gofal a phobl ddiamddiffyn. Mae’r unedau yn amrywio o fflatiau un ystafell wely i fyngalos pump ystafell wely a addaswyd yn llwyr, ac mae llawer eisoes wedi cael eu dyrannu. Dyma gipolwg:
Cyfleuster Seibiant Bron y Nant
Mae’r prosiect hwn ar gam datblygu cynharach, fodd bynnag, mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y cyfleuster seibiant i bobl anabl, gyda chanolfan adnoddau dydd a gofal cymhleth, a Phlanhigfa Bryn Euryn. Mae staff a defnyddwyr gwasanaethau Planhigfa Bryn Euryn wedi adleoli tra mae’r gwaith yn mynd rhagddo, a chafodd y safle cyfan ei ddymchwel erbyn mis Tachwedd 2020. Disgwylir y bydd adeiladu’r cyfleusterau newydd yn cymryd oddeutu 72 wythnos, felly mae’n debygol y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
ddymchwel erbyn mis Tachwedd 2020. Disgwylir y bydd adeiladu’r cyfleusterau newydd yn cymryd oddeutu 72 wythnos, felly mae’n debygol y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig: Cynllun gweithredu lleol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth Gwasanaethau Awtistiaeth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Gig (Cymru) 2006. Bydd y Cod yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau awtistiaeth Llywodraeth Cymru fel a nodir yn y Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu i ddechrau’r Cod o fis Medi 2021.
Mae grŵp Budd-Ddeiliad Awtistiaeth Conwy a Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth swyddog prosiect ar y cyd, wedi datblygu Cynllun Gweithredu Lleol drafft. Rydym yn aros am y Cod Ymarfer terfynol ac yn dilyn hyn byddwn yn ymgynghori gyda phobl ag Awtistiaeth a phartneriaid ar fersiwn ddrafft cynllun gweithredu lleol Conwy a Sir Ddinbych.
Mae Conwy a Sir Ddinbych wedi gweithio gyda changen leol y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol i sefydlu Cytundeb Lefel Gwasanaeth i reoli darpariaeth cyllid i’r trydydd sector ar gyfer darparu a datblygu gwasanaethau awtistiaeth yn lleol. Bydd y meini prawf cyllido wedi’i alinio gyda blaenoriaethau’r cynllun gweithredu lleol.
Cefnogi ein gofalwyr di-dâl
Roedd ein grŵp cynllunio aml-asiantaeth i ofalwyr, COG 8 wedi dechrau gweithio ar nifer o faterion a oedd wedi cael eu nodi drwy’r broses o gynnal hunanasesiad yn erbyn y safonau a amlinellwyd yn strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru.
1. Cydweithio â thîm y gweithlu i gyflwyno adnoddau Pecyn Cymorth i Ofalwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ein trefniadau hyfforddi a sefydlu mewn swyddi
- Mae pecynnau e-ddysgu wedi bod ar gael drwy wefan y GIG.
- Mae staff o asiantaethau partner megis Cynnal Gofalwyr wedi ymgymryd â’r hyfforddiant e-ddysgu, a rolau allweddol o fewn Gofal Cymdeithasol. Bydd mynediad at yr hyfforddiant e-ddysgu yn cael ei drefnu i holl staff Conwy ar draws y Cyngor.
2. Datblygu cynigion i greu amrywiaeth fwy hyblyg o seibiannau byr/gofal seibiant
- Archwiliodd is-grŵp COG 8 y mater hwn, a oedd yn cynnwys edrych ar enghreifftiau o arferion da ar draws y rhanbarth.
- Roedd cynllun o Sir y Fflint o’r enw “Pontio’r Bwlch” a oedd yn cael ei weithredu gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhoi potensial mawr ar gyfer darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer seibiannau byr, er iddo ganolbwyntio’n bennaf ar ofalwyr sydd ar ddechrau eu siwrnai ofalu.
- Dyfarnwyd cyllid i’r gwasanaeth Cynnal Gofalwyr i gynnal cynllun peilot yn yr un modd, i ofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia. Dim ond am gyfnod byr yn unig oedd y prosiect wedi bod yn weithredol cyn i gyfyngiadau Covid-19 effeithio ar ddarpariaeth.
- Cafodd Crossroads hefyd gyllid i dreialu prosiect newydd o’r enw “Efo Ni” a fyddai’n darparu cefnogaeth gynnar effeithiol yn defnyddio gwirfoddolwyr i helpu pobl i gael mynediad at weithgareddau cymunedol lleol neu eu cefnogi i barhau â’u diddordebau a hobïau eu hunain, i fynd i’r afael ag unigrwydd. Unwaith eto, cafodd Covid-19 effaith sylweddol ar y prosiect peilot hwn.
Bydd datblygiad parhaus dulliau i gael gofal seibiant hyblyg a chynaliadwy yn parhau pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu hynny.
3. Mynd i’r afael â’r gyfran helaeth o Ofalwyr sy’n gwrthod asesiadau
Cynhaliwyd dadansoddiad manwl o’r amryw resymau y mae pobl yn gwrthod asesiad. Dadansoddwyd dros 400 o ymatebion a’u grwpio yn ôl themâu. Yr ymateb pennaf (160 o ofalwyr) oedd “nad oedd ei angen ar hyn o bryd”, ac yna bron i nifer gyfartal o ymatebion amrywiol a oedd yn nodi bod y gofalwr yn rheoli eu sefyllfa a / neu eisoes yn cael y lefel o gefnogaeth angenrheidiol, neu eisoes wedi cael asesiad yn ddiweddar.
Yn galonogol iawn, roedd hyn yn awgrymu nad oedd y mwyafrif a oedd yn gwrthod asesiad dan anfantais wrth wneud hynny, a bod gofalwyr bob amser yn cael eu hannog i gyfathrebu eu hanghenion os yw eu hamgylchiadau’n newid.
Darparu gwasanaethau i ofalwyr yn ystod pandemig
Mae’r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu wedi ymateb i’r her ac addasu’n greadigol i bandemig Covid-19 mewn ffyrdd sy’n diogelu staff, gofalwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Lle mae ymweliadau cymunedol wedi cael eu hatal, mae gwasanaethau’n parhau i gael eu cynnig dros Skype, FaceTime a galwadau ffôn, ac mae achosion a gaewyd yn flaenorol wedi cael eu hailagor i wirio os yw pobl angen cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae effaith y cyfnod clo ar ofalwyr wedi bod yn andwyol; wrth i’r cyfnod clo symud yn ei flaen, rydym yn gweld angen brys i adolygu asesiadau gofalwyr. Ar ben hyn, mae gofalwyr wedi’u cyfyngu o ran y gofal seibiant y gallant ei gael, os ydynt yn gallu ei gael o gwbl, sy’n arwain at orweithio a straen. Mae cynnydd hefyd wedi bod o ran pryderon diogelu ac rydym yn credu bod hyn oherwydd bod pobl sy’n byw gyda dementia yn gwaethygu’n gynt oherwydd colled y rhyngweithio cymdeithasol a’r gweithgareddau yr oeddent yn cymryd rhan ynddynt cyn y cyfnod clo. Mae’n rhaid i ofalwyr ddarparu cymorth mwy cymhleth gyda llai o adnoddau.
Mewn achosion lle mae gofalwyr yn wynebu caledi ariannol oherwydd y pandemig, mae ffyrdd amrywiol wedi’u harchwilio i ddarparu pecynnau bwyd, a chynigion mwy perthnasol i’r unigolyn, megis cuddfan dywyll i blentyn awtistig, chwaraewr cryno ddisgiau a chryno ddisg ymwybyddiaeth ofalgar i ddynes gyda phroblemau iechyd meddwl, a cherdyn bws i alluogi gofalwr ifanc i deithio i ofalu am ei thad sy’n sâl, a gliniaduron a dyfeisiau llechen i ganiatáu i deuluoedd gael mynediad at waith ysgol.
Wrth wneud y gwaith hyn rydym wedi sylweddoli ar nifer y bobl sy’n cael eu heffeithio’n ariannol gan Covid-19 a chyn lleied o gefnogaeth sydd yna i blant gydag anableddau cymhleth nad ydynt yn mynd i’r ysgol a’r rhai sydd yn dioddef â salwch meddwl. Mae’r atgyfeiriadau a wneir ar gyfer y grwpiau hyn yn benodol yn arwain at sgyrsiau gyda’r sefydliadau sy’n gwneud yr atgyfeiriadau, sydd yn eu tro yn tynnu sylw at angen am fwy o gefnogaeth i’r grwpiau hyn sydd ar y cyrion.
Bydd edrych am gyllid pellach i gynnig cefnogaeth i’r grwpiau hyn yn bryder parhaus.
Gofalwyr Ifanc
Mae Credu wedi nodi effaith enfawr ar eu gwaith gyda gofalwyr ifanc, yn enwedig o ran gorfod canslo teithiau allan a gwaith grŵp. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n galed i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi gofalwyr ifanc a’u teuluoedd er gwaethaf y cyfyngiadau. Maent yn cyfathrebu’n wahanol, yn defnyddio WhatsApp, FaceTime a Zoom, ac maent wedi bod yn brysur yn cynorthwyo â thalebau banc bwyd, casglu neges a phresgripsiynau a chreu pecynnau crefft.
Mae asesiadau a sesiynau un i un ar y trywydd iawn eto; rydym wedi bod yn defnyddio staff achlysurol i gysylltu gyda theuluoedd sy’n ymgysylltu gyda ni’n rheolaidd, ac sydd eisoes â chysylltiad gyda ni, er mwyn rhoi mwy o amser i’n gweithwyr allgymorth weithio gyda theuluoedd diamddiffyn.
Tîm Unigolion Cysylltiedig: Ymgynnull y tîm a sefydlu cymorth penodol ar gyfer Gwarchodwyr Arbennig
Rydym nawr wedi llwyddo i lenwi pob swydd yn y Tîm Unigolion Cysylltiedig, ac rydym wedi bod yn gweithredu fel tîm llawn ers mis Mai 2020. Mae hyn yn ein galluogi ni i ddarparu ymatebion effeithlon i asesu, goruchwylio a chefnogi ein Gwarchodwyr Arbennig a Gofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig. Mae penodiad y Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig yn benodol, wedi bod yn allweddol o ran sefydlu cysylltiadau clir gyda Chanolfannau Teuluoedd Conwy, yn ogystal â hyrwyddo’r cymorth Cydlynydd penodol sydd ar gael i Warchodwyr Arbennig. Mae Canolfannau Teuluoedd Conwy wedi bod yn gweithio i sicrhau bod pecynnau cymorth ymatebol a chyflym yn cael eu cynnig i unrhyw Warchodwyr Arbennig sydd angen ymyrraeth neu arweiniad ychwanegol.
Mae Gweithwyr Cymdeithasol sy’n Asesu ac yn Goruchwylio nawr yn gweithio gyda’r Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig i sicrhau bod achosion yn cael eu trosglwyddo’n fanwl wedi i’r gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig gael ei gymeradwyo i alluogi trosglwyddiad esmwyth ar gyfer y teulu. Mae’r Tîm hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r timau gofal plant i sicrhau Cynlluniau Cefnogi Gwarchodwyr Arbennig cadarn y gellir eu cyflawni ac sy’n gyraeddadwy ar gyfer y teulu.
Gweler isod rai meysydd eraill y mae’r tîm wedi canolbwyntio arnynt eleni:
- Datblygu’r Cynnig Gweithredol ar gyfer Gwarchodwyr Arbennig
- Newyddlenni (ddwywaith y flwyddyn)
- Cyfathrebu gyda Gwarchodwyr Arbennig yn defnyddio eu dull dewisol
- Cyfeirio at gyfleoedd hyfforddi
- Cwblhau asesiadau ariannol yn flynyddol
- Cysylltu gydag Awdurdodau Lleol eraill i sicrhau bod achosion yn cael eu trosglwyddo’n esmwyth
- Adolygiadau rheolaidd bellach wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cefnogi Gwarchodwyr Arbennig
Beth oedd yr heriau?
Yn anffodus, mae nifer o Warchodwyr Arbennig sydd heb gadw cyswllt rheolaidd gyda’r Awdurdod Lleol fel y cytunwyd. Mae wedi cymryd amser i sefydlu cyswllt eto, ond mae gennym bellach drefniadau cyfathrebu effeithiol ar waith i bob Gwarchodwr Arbennig.
Mae Covid-19 wedi cyflwyno set unigryw o heriau. Cynhaliwyd llai o ymweliadau wyneb yn wyneb, fodd bynnag roeddem yn gallu sefydlu ffyrdd o gadw cyswllt dros y we.
Beth nesaf?
- Byddwn yn cwblhau datblygiad ein Polisi Gwarchodaeth Arbennig ac yn sicrhau ei fod ar gael
- Byddwn yn adolygu’r broses asesu ariannol bresennol
- Rydym yn bwriadu gwella a chynyddu cyfleoedd hyfforddi i Warchodwyr Arbennig
- Rydym yn datblygu hyfforddiant Unigolion Cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau plant
Ein hymrwymiad i aduno teuluoedd
Drwy gydol pandemig Covid-19, mae Conwy wedi parhau i fod yn rhagweithiol wrth sicrhau fod y broses o aduno plant gyda’u rhieni biolegol yn parhau mewn modd amserol. Rydym wedi gweld nifer o bobl ifanc yn cael eu dychwelyd yn llwyddiannus i ofal eu rhieni.
Mae ein Seicolegydd Clinigol Arweiniol a Seicolegydd Cynorthwyol mewnol wedi bod ar gael ar gyfer ymgynghoriadau ac i ddarparu cymorth i unrhyw riant, plentyn neu berson ifanc. Mae gweithwyr cymdeithasol wedi gweithio mewn partneriaeth â’n Seicolegwyr o amgylch aduno.
Mae gwasanaethau megis y Tîm Ymyriadau Teuluol a’r Tîm Cryfhau Teuluoedd wedi parhau i weithio gyda theuluoedd i gefnogi aduno.
Mae cysylltiadau gwell gyda, ac atgyfeiriadau at y Canolfannau Teuluoedd wedi bod yn effeithiol wrth sicrhau bod teuluoedd sydd wedi cael eu haduno yn parhau i gael eu cefnogi gan Gonwy.
Beth oedd yr heriau?
Mae cyfnodau clo Covid-19 wedi golygu bod treulio amser gyda’r teuluoedd biolegol wedi bod yn heriol. Fodd bynnag, rydym wedi rhoi dulliau rhith ar waith i hwyluso amser fel teulu. Rydym yn ymwybodol nad yw hyn yn cymharu â chyswllt wyneb yn wyneb, felly pan fydd yn ddiogel, byddwn yn parhau i annog ail-ddechrau cynnal amser teulu wyneb yn wyneb.
Beth nesaf?
- Gwella cyfleoedd am fwy o amser fel teulu
- Parhau i ddatblygu gwasanaethau cymorth i deuluoedd, er mwyn i bobl ifanc dreulio llai o amser yng ngofal yr Awdurdod Lleol, a chael eu dychwelyd at eu teuluoedd biolegol, lle bo’n ddiogel a phosibl i wneud hynny.
- Rydym wrthi’n cwblhau Polisi Aduno a fydd yn cefnogi’r datblygiadau sydd wedi’u hamlinellu uchod.