Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
Diogelu plant rhag cam-fanteisio a cham-drin rhywiol
Yn anffodus, mae llawer o blant yng Nghonwy sy’n dal i gael eu hecsbloetio. Fodd bynnag, ar ôl blynyddoedd o uwch-sgilio’r gweithlu ar draws asiantaethau, rydym nawr yn gallu ymateb yn fwy effeithiol fyth. Rydym wedi defnyddio’r offeryn asesu risg SERAF am flynyddoedd bellach, fodd bynnag, yn ddiweddar mae ei ddiffygion wedi dod i’r amlwg ac rydym yn treialu ein methodoleg newydd. Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud wedi chwarae rhan fawr yn atal ac amharu ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant Conwy.
Oherwydd cymhlethdod cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, rydym wedi alinio â’r ymchwil cyfredol a nawr yn asesu achosion o gam-fanteisio ar blant heb y canolbwynt cychwynnol ar gam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Fe allai’r asesiad hwn ein harwain at ffurfiau gwahanol a chymhleth o gamfanteisio. Felly, rydym yn cwblhau darn o waith sy’n archwilio’r offeryn asesu mwyaf effeithiol i’w ddefnyddio yn y mathau hyn o achosion. Rydym yn parhau i ddefnyddio dau offeryn sydd eisoes yn bodoli ac yn dibynnu’n gryf ar weithlu aml-asiantaeth sydd nawr yn fedrus yn y gwaith hwn.
O ran camfanteisio’n rhywiol ar blant, mae’r Awdurdod Lleol a phartneriaid aml-asiantaeth eraill wedi buddsoddi mewn cwrs hyfforddiant Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant dros chwe mis, lle mae cymysgedd o ymarferwyr a rheolwyr wedi cael eu hyfforddi fel Arweinwyr Ymarfer yn y maes gwaith hwn. Y canlyniadau allweddol yw gwella sut rydym yn atal cam-drin plant yn rhywiol a hefyd sut rydym yn ymateb i ddatgeliadau o gam-drin plant yn rhywiol yn gyson ar draws asiantaethau. Rydym yn parhau i ymateb yn gadarn i ddatgeliadau o gam-drin plant yn rhywiol, fodd bynnag, mae’r cwrs wedi tynnu ein sylw at y ffaith bod pethau y gallwn eu gwneud yn well ac yn wahanol i alinio â’r ymchwil diweddaraf.
Er bod amlder adroddiadau am gam-drin rhywiol yn parhau i fod yn isel, rydym wedi gweld nifer cynyddol o adroddiadau ynglŷn ag ‘ymddygiad rhywiol niweidiol’ gan blant a phobl ifanc. Eto, mae gennym ymateb aml-asiantaeth cadarn i’r mater hwn, ac rydym yn llwyddo i sicrhau bod risgiau yn cael eu rhannu gyda phartneriaid a bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.
Beth oedd yr heriau?
Mae cyfyngiadau Covid-19 yn cyflwyno heriau sylweddol i bob agwedd o’n gwaith. Nid yw ein Fforwm Camfanteisio hynod effeithiol wedi gallu cwrdd fel yr oedd yn arfer ei wneud o’r blaen. Nid ydym wedi sefydlu’r fforwm hwn ar-lein eto ond yn dibynnu ar y perthnasau a grëwyd yn ystod fforymau yn y gorffennol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd effeithiol.
Er bod Conwy yn arloesol wrth dreialu offeryn camfanteisio ar blant newydd, gohiriwyd hwn am gyfnod er mwyn i’r rhanbarth gyfan o chwe awdurdod allu ymuno â’r peilot. Bydd hyn yn dod â llawer o fanteision, ond mae hefyd wedi arafu cynnydd.
Nid yw grŵp ARMOUR Conwy sy’n cefnogi dioddefwyr cam-fanteisio’n rhywiol ar blant wedi gallu cyfarfod fel yr oeddent yn arfer ei wneud. Fodd bynnag, mae hwyluswyr y grŵp yn parhau i gynnig cymorth ar-lein i bobl ifanc yn defnyddio’r pynciau a drafodwyd yn y gwaith grŵp.
Ar ben hynny, mae llawer o’r gefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o gamfantais wedi newid o gefnogaeth wyneb yn wyneb i gefnogaeth dros y ffôn / Skype. Mae’n llawer anoddach i ymgysylltu gyda phobl ifanc fel hyn ac felly ceir llai o effaith.
Beth nesaf?
- Rydym yn gweithio ar y ffordd orau o gynnal Fforwm Camfanteisio ar Blant ar-lein.
- Bydd peilot rhanbarthol o offeryn asesu Camfanteisio ar Blant newydd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Mawrth 2021.
- Mae Conwy’n cyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru i ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Mae Gofal Cymdeithasol (ynghyd â phob asiantaeth) yn bwriadu adolygu a gwella ein hymatebion ym mhob maes, o sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu am berthnasau iach, i wella ein hymchwiliadau i achosion o gamdriniaeth, i sicrhau bod oedolion sy’n datgelu achosion hanesyddol o gamdriniaeth yn ystod plentyndod yn cael eu cefnogi’n well.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: Mynd i’r afael â chamfanteisio
Mae ein Swyddog Addysg a Swyddog Heddlu ar secondiad wedi cydweithio i lunio rhaglen wyneb yn wyneb ac ar-lein i gefnogi newidiadau i blant a’u rhan mewn troseddau a cham-fanteisio. Y gobaith yw nodi themâu a darparu dull mwy cyfannol mewn perthynas â chamfanteisio, mewn cyd-destun ehangach.
Nodwyd tri achos drwy system atgyfeirio’r Heddlu, roedd y tri o dan 11 mlwydd oed ac yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel, gyda dyheadau’n gysylltiedig â gangiau a diwylliant gangiau. Sicrhaodd y Swyddog Addysg nad oedd y gwaith yn ddyblygiad o waith swyddogion cyswllt ysgolion. Mae’r sesiynau rhyngweithiol wrthi’n cael eu treialu yng Ngholeg Llandrillo ac Ysgol Eglwys Crist yn Sir Ddinbych.
Cryfhau ein prosesau ‘drws ffrynt’
Mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud i sut rydym yn ymateb i adroddiadau sy’n cael eu gwneud i’r drws ffrynt. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ymateb ar gael sy’n briodol i bob lefel o gefnogaeth sydd ei hangen.
Mae gweithiwr o’n Tîm Ymyriadau Teuluol wedi’i sefydlu yn y Tîm Asesu a Chefnogi. Maent mewn sefyllfa dda i ateb galwadau gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol, cynnal sgyrsiau ‘Beth sy’n Bwysig’ lle bo’n briodol a chynnal darnau o waith byth, wedi’u targedu i ymyrryd yn gynnar a rhwystro anawsterau rhag gwaethygu.
Mae gennym berthynas waith gref gyda holl Ganolfannau Teuluoedd Conwy ac rydym yn gallu cael mynediad rhwydd at eu cefnogaeth os yw anghenion am gael eu diwallu orau drwy’r gwasanaeth hwnnw.
Os oes angen amlwg am ymyriad byr gan y Tîm Ymyriadau Teuluol, rydym yn gallu sicrhau bod cymorth ar gael i deuluoedd. Yn yr un modd, os yw’r ymyriad byr hwn angen dull mwy arbenigol, yna gall ein Tîm Cryfhau Teuluoedd ddarparu hyn.
Gyda chymorth grant Llywodraeth Cymru rydym wedi gallu lansio peilot tri mis ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i ymateb i achosion lefel llai o gam-drin domestig, gan ddarparu cefnogaeth/cyfeirio cyflym ac wedi’i dargedu gyda’r nod o atal cynnydd neu ailadrodd digwyddiadau. Mae’r peilot yn cynnwys tîm bach o un gweithiwr cymdeithasol ac un Swyddog Cam-Drin Domestig HGC. Hyd yma, yn y mis cyntaf, maent wedi gallu ymateb i a chefnogi 17 o deuluoedd a 35 o blant.
Beth oedd yr heriau?
Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi gwneud y gwaith hwn yn fwy heriol. Er mwyn cadw staff a’r cyhoedd yn ddiogel, rydym ond yn cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb gyda’r achosion sydd yn y perygl mwyaf lle mae’r angen am hynny wedi’i nodi. Felly, lle byddai ymweliad wedi’i gynnal yn y gorffennol er mwyn cael sgwrs am ‘Beth sy’n Bwysig’, bydd hyn bellach yn cael ei wneud dros y ffôn, sy’n golygu bod arwyddion gweladwy hanfodol e.e. iaith y corff, cyflwr y cartref neu bresenoldeb partner camdriniol yn debygol o gael eu methu. Mae staff, a fyddai fel arfer wedi cynnal ymweliadau, wedi gorfod hunan-ynysu neu warchod eu hunain ar adegau, gan effeithio ar sut rydym yn ymateb i achosion.
Rydym hefyd wedi cael system TG newydd, System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, yn ystod y cyfnod hwn. Mae cyflwyniad y system wedi bod yn heriol, ac mae wedi cael effaith sylweddol ar lif yr wybodaeth o asiantaethau eraill i Ofal Cymdeithasol a thrwy’r adran Gofal Cymdeithasol.
Mae nifer yr adroddiadau ac atgyfeiriadau at y drws ffrynt yn parhau i fod yn uchel. Mae’r heriau sydd wedi dod yn sgil Covid-19 a’r System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru wedi cael effaith sylweddol ar ba mor effeithiol y gallwn ymateb.
Beth nesaf?
- Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyniad y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol (mae mwy o wybodaeth am hyn yn yr adroddiad).
- Mae gennym gynllun wrth gefn ar gyfer pan na fydd System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn gweithio, yn cynnwys e-byst a galwadau ffôn, fodd bynnag mae hyn yn waith dwys. Byddwn yn gweithio ar gynllun wrth gefn sy’n fwy cadarn.
- Adolygu a dod â’r peilot cam-drin domestig i ben a chyflwyno’r canfyddiadau i uwch reolwyr i ystyried beth fydd yn digwydd nesaf.
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith diogelu
Yma rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau a datblygiadau diogelu rheolaidd sy’n cael eu cynnal.
Cyfarfodydd Strategaeth Adran 5 / Safle o Ymddiriedaeth
Mae cynnydd o hyd yn nifer y pryderon, gyda 38 o adroddiadau i’w hystyried rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ionawr 202. Fe arweiniodd hyn at 24 o drafodaethau cychwynnol gyda 22 yn symud ymlaen i gyfarfod strategaeth proffesiynol cychwynnol.
Oherwydd y cynnydd mewn atgyfeiriadau, a lefel eu sensitifrwydd, rhoddir ystyriaeth ofalus ar y camau cyntaf i sicrhau nad yw’r pryder yn ymwneud ag ymarfer proffesiynol, sydd angen ei ddatrys dan broses arall.
Disgyblion Diamddiffyn
Mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal am ddisgyblion diamddiffyn. Mynychir y cyfarfodydd hyn gan Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol i drafod yr angen am leoliadau ysgol i ddisgyblion diamddiffyn neu’r plant hynny lle mae perygl o fethiant lleoliad. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, sydd â chynllun gofal a chymorth neu sy’n derbyn cefnogaeth gan y Canolfannau Teuluoedd.
Fforwm Diogelu Plant
Mae’r rhain yn cael eu cynnal bob deufis, maent yn cael eu hwyluso / cadeirio gan Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol a’u mynychu gan bob rheolwr o fewn Gwasanaethau Plant yn cynnwys timau atal a gwaith maes. Pwrpas y fforwm hwn yw hyrwyddo a rhannu negeseuon sy’n codi o arferion yn cynnwys ymchwil, adolygiadau Ymarfer Plant a’r diweddaraf am Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019.
Cyfarfod Diogelu Cyd-Asiantaeth
Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a rheolwyr diogelu Iechyd lle rydym yn trafod unrhyw faterion ymarfer ac yn adolygu unrhyw sefyllfaoedd sydd angen eu diwygio. Fe allai’r rhain gynnwys pobl ifanc sydd wedi cael eu hanfon i’r ysbyty oherwydd hunan-niweidio.
Hyfforddiant
Rydym wedi cynnal diwrnod hyfforddiant aml-asiantaeth, hyfforddiant diogelu Unigolion Cysylltiedig, a Phorth Agoriad yn cynnal asesiad gwaith cymdeithasol lefel 3. Roedd 24 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y digwyddiad aml-asiantaeth a ddarparwyd ar-lein. Achosodd hyn rai heriau a phroblemau technegol wrth geisio hwyluso trafodaethau mewn grwpiau llai, fodd bynnag, roedd yr adborth gan weithwyr proffesiynol yn gadarnhaol iawn. Mae sesiwn arall wedi’i threfnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cyflwyno’r sesiwn hon wyneb yn wyneb er mwyn galluogi rhwydweithio effeithiol drwy gydol y dydd.
Diogelu ar lefel gorfforaethol
Mae’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn canolbwyntio ar hyrwyddo arferion da, wedi’u wneud mewn ffordd sy’n sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl yn ddiogel rhag niwed ac yn gallu cyflawni eu potensial a byw bywyd fel y mynnant. Y ffordd orau i wneud hyn yw sicrhau bod pob rhan o’r Cyngor yn deall sut i roi trefniadau diogelu effeithiol ar waith. Nod y Bwrdd yw cefnogi’r Cyngor i ddatblygu dull cadarnhaol, ataliol a rhagweithiol i ddiogelu ar draws y Cyngor cyfan.
Diweddarwyd y Polisi Diogelu Corfforaethol ym mis Mehefin 2020 er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.
Mae gan y Bwrdd Diogelu Corfforaethol a chyfarfod y Rheolwyr Diogelu Dynodedig, grŵp rheoli gweithredol oddi tanno. Y Rheolwyr Diogelu Dynodedig yw’r arweinwyr rheoli gweithredol ar gyfer materion diogelu o fewn pob adran o’r Cyngor, ac maent yn cyflawni’r flaenoriaeth gorfforaethol hon yn llwyddiannus. Mae cyfarfodydd y rheolwyr diogelu dynodedig yn parhau i gael eu cynnal bob deufis, yn ystod y pandemig hefyd, gyda llawer o eitemau ar y rhaglen, megis:
- Materion a datblygiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (mae cynnydd ar Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol wedi bod yn thema gyson)
- Cynllun Gweithredu Diogelu
- Diweddariadau adrannol
Wythnos Ddiogelu: Tachwedd 2020
Eleni, cynhaliwyd digwyddiadau’r Wythnos Ddiogelu dros y we, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau megis Gweithdrefnau Diogelu Cymru, cadw’n hysbys ynglŷn â materion diogelu yn ystod y cyfnod clo, a’r briffiadau saith munud a gyhoeddwyd ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol
Cymeradwywyd cyfle cyffrous i dreialu Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol i blant ac oedolion ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Aelodau Etholedig. Bydd y Ganolfan, a fydd wedi’i chyd-leoli yng Nghoed Pella, yn cyfuno swyddogion o’r Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, Iechyd Meddwl Oedolion a Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu un man ar gyfer sgrinio a phrosesu yr holl adroddiadau diogelu ar draws Conwy. Bydd rôl Rheolwr y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn cael ei hariannu ar y cyd gan HGC a CBSC, dangosydd ardderchog o’r ymrwymiad i symud ymlaen â’r peilot. Fe wnaethom recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu Oedolion yn llwyddiannus ym mis Awst 2020, sydd wedi bod yn gweithio yn y Tîm Diogelu Oedolion i baratoi ar gyfer lansio’r Ganolfan.
Bydd y Ganolfan yn cefnogi ymateb aml-asiantaeth cyflym i ddiogelu ac ymyrryd yn gynnar trwy atal unrhyw oedi ar y llwybr diogelu. Bydd yn darparu amgylchedd diogel a chyfrinachol i weithwyr proffesiynol rannu gwybodaeth. Y nod yw gwella safonau arferion diogelu, gan arwain at blant ac oedolion mwy diogel yng Nghonwy.
Beth oedd yr heriau?
Cymeradwywyd y peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol ychydig cyn y pandemig a’r cyfnod clo dilynol. Rydym wedi cael anawsterau o ran recriwtio’r staff gofynnol i’r tîm, ac wedi wynebu oedi o ran recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu Oedolion. Nid ydym wedi llwyddo i recriwtio Rheolwr Adran i arwain y Ganolfan, er gwaetha’r ffaith i ni hysbysebu’r swydd bedair gwaith, ac ehangu’r rôl i gynnwys ymgeiswyr HGC a’i chynnig fel cyfle i gael secondiad. Cynhelir y peilot am gyfnod o 12 mis, gyda swyddi tymor penodol, a allai hefyd fod yn broblem bosibl i rai ymgeiswyr.
Beth nesaf?
Nid ydym wedi dechrau’r peilot eto, ac mae’r broses recriwtio’n mynd rhagddi. Rydym yn edrych ymlaen at lansio’r peilot yn ystod y misoedd nesaf.
Adnodd Asesu Preswyl Plant: Ymgynnull y Tîm Therapiwtig
Ers mis Mawrth 2020 rydym wedi parhau â’r broses recriwtio, ac ers mis Hydref 2020 mae gennym dîm llawn mewn lle, yn cynnwys seicolegydd, rheolwr tîm, cymorth gweinyddol, dau weithiwr cymdeithasol a dau weithiwr therapiwtig i deuluoedd.
Mae aelodau’r tîm i gyd wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu ac maent wedi cynnal sawl cyfarfod datblygu i sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddarparu’r model gofalu. Mae staff wedi cwblhau hyfforddiant Outcome Stars, Raid a Therapi Ymddygiad Dialectig; bydd hyn yn eu galluogi nhw i ddarparu cymorth therapiwtig i bob ifanc gydag ymddygiad heriol a bydd o gymorth i’r tîm ddangos tystiolaeth o ganlyniadau gwell i deuluoedd.
Maent wedi darparu gwasanaethau dwys i bum person ifanc cymhleth; mae tri wedi aros gartref a bydd y ddau arall yn dychwelyd adref ar ôl cwblhau’r ymyriadau therapiwtig. Maent hefyd wedi dechrau cynnal ymgynghoriadau therapiwtig gyda gweithwyr cymdeithasol ag achosion penodol, uwchsgilio a chefnogi eu gwaith gyda theuluoedd cymhleth.
Beth oedd yr heriau?
Creu diwylliant tîm oedd yr her bennaf, oherwydd ei fod i gyd wedi’i wneud drwy gyfarfodydd Skype.
Roedd darparu cefnogaeth ddwys gyda theuluoedd yn eu cartrefi hefyd yn her sylweddol, fodd bynnag cafodd yr her hon ei goresgyn drwy asesiadau risg cadarn.
Datblygwyd y model gofalu gyda’r bwriad o’i ddarparu mewn canolfan asesu. Mae’r tîm wedi canfod bod darparu ymyriadau therapiwtig wedi bod yn heriol yn amgylchedd y cartref yn ystod argyfwng teuluol. Ar ddau achlysur, mae’r tîm wedi gorfod darparu cymorth o fewn dau o leoliadau heb eu rheoleiddio.
Mae’r tîm yn darparu cymorth yng Nghonwy a Sir Ddinbych; mae angen gwella’r broses atgyfeirio o Sir Ddinbych, oherwydd bod y tîm yn derbyn yr atgyfeiriadau’n rhy hwyr. Bydd y Rheolwr Tîm yn ymweld â thimau Sir Ddinbych i ddisgrifio’r model gofalu a’r llwybr atgyfeirio.