Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a chefnogaeth fel partneriaid cyfartal.
Gwasanaeth Anableddau: Symud o wasanaethau strwythuredig i Daliadau Uniongyrchol
Mae cynllun Taliadau Uniongyrchol Conwy wedi datblygu cynllun gwaith i’r dyfodol i gynyddu’r nifer sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o aildendro gwasanaethau cynnal ar gyfer y cynllun, cysylltu gyda chwsmeriaid presennol drwy Cyswllt Conwy a’n Swyddog Cyfranogi mewn perthynas â’r gwasanaethau gofynnol wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wrthi’n cynnal trafodaethau am gomisiynu gwasanaethau is-ranbarthol gydag awdurdodau cyfagos. Yn rhanbarthol, mae’r Tîm Trawsnewid Anableddau Dysgu, mewn partneriaeth â Sir y Fflint, yn treialu datblygiad Porthol Cymorthyddion Personol ar-lein. Bydd y Porthol yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth Cymorthyddion Personol, adnoddau a dysgu ar-lein, ac, yn dilyn gwerthusiad, mae posibilrwydd o’i gyflwyno’n rhanbarthol.
Mae cyfnod clo Covid-19 wedi galluogi pobl i ystyried ffyrdd amgen o fodloni eu canlyniadau lles. Mae nifer o bobl wedi dweud na fyddant yn dychwelyd i wasanaethau dydd, oherwydd eu bod yn ffafrio datblygu eu cynllun cymorth eu hunain yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol. Mae’r Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu ranbarthol wedi comisiynu hyfforddiant Broceriaeth Cymorth. Mae Broceriaeth Cymorth yn gyfle i ddarparu cymorth i bobl i gynllunio eu cefnogaeth yn effeithiol. Mae cynrychiolwyr o Wasanaethau Anableddau Conwy wedi mynychu’r hyfforddiant Broceriaeth Cymorth a byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r trydydd sector i dreialu hyn yn lleol dros y misoedd nesaf.
Dros y deuddeg mis diwethaf rydym wedi darparu Taliadau Uniongyrchol i unigolion mewn ffordd hyblyg iawn, gan ganolbwyntio ar leihau effaith y cyfyngiadau ar ofalwyr a theuluoedd. I blant ag anableddau, mae hyn wedi golygu darparu offer chwarae ar gyfer eu gerddi ac, mewn nifer fechan o achosion, cyflogi aelodau agos o’r teulu i ddarparu cymorth ychwanegol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod gwybodaeth am argaeledd grantiau wedi cael ei rhannu gyda theuluoedd a gofalwyr i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at yr ystod gyfan o gymorth posibl.
Ffurfio ein Tîm Lles Meddyliol
Mae trosi i’n Tîm Lles Meddyliol wedi sicrhau bod ein gwasanaeth yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn y gorffennol, roedd yr integreiddiad ag Iechyd, ac felly yr angen i gadw at y Ddeddf Mesurau Iechyd Meddwl, yn atal y Tîm Gofal Cymdeithasol rhag ymgysylltu’n llawn ag ethos ac egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Yr olaf o’r rhain yw’r newid deddfwriaethol mwyaf mewn hanes diweddar, gan drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu ac mae’r Tîm Lles Meddyliol wedi gallu cydymffurfio â’r ethos o hyrwyddo dulliau ataliol yn ogystal â rhoi rheolaeth a llais cryfach i unigolion, a sicrhau eu bod yn bartneriaid cyfartal yn eu gofal a chymorth. Mae ethos y tîm yn seiliedig ar yr elfen ganolog o ‘ddim drws anghywir’. Ni waeth pa wasanaeth y mae unigolyn yn mynd ato; rydym wedi eu cynorthwyo â chael y gwasanaeth sydd yn iawn ar eu cyfer. Rydym wedi symud oddi wrth roi’r baich o integreiddio ar yr unigolyn ac rydym yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i hyrwyddo darpariaeth ddi-dor.
Mae unigolion nawr yn derbyn ymateb cymesur a phrydlon, gan y gwasanaeth sydd yn y sefyllfa orau i’w ddarparu. Rydym wedi canolbwyntio ar wneud yr hyn rydym yn dweud ein bod am wneud, a chael hyder pobl yn ôl o ran gwasanaethau iechyd meddwl.
Beth oedd yr heriau?
Un o’r heriau oedd symud y tîm i’r model presennol a chynnal darpariaeth gwasanaeth di-dor, fodd bynnag, oherwydd ymroddiad staff ar bob lefel rydym wedi gallu gwneud hyn yn llwyddiannus. Mae Covid-19 hefyd wedi rhoi pwysau digynsail ar wasanaethau iechyd meddwl, ond eto, mae ein gweithlu wedi bod yn ddiwyd o ran eu hymagwedd. Rydym ni fel gwasanaeth o’r farn ein bod wedi cyflawni’r newid hwn yn ystod pandemig oherwydd y gwerthoedd clir rydym yn eu gosod; mae popeth rydym wedi’i wneud wedi bod yn seiliedig ar gydnabod pobl a’u trin â thrugaredd a gobaith, ac mae hyn yn berthnasol i’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ein staff.
Beth nesaf?
Y cam nesaf yw i’r Tîm Lles Meddyliol a’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn gefnogi a datblygu Coleg Adfer yn y sir. Hoffem gael fforwm partneriaeth gyda’r trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau Awdurdod Lleol ac Iechyd i gefnogi, cydweithio a datblygu’r rhaglen hon wrth symud ymlaen fel cymuned fuddiant.
Isod, gweler y categorïau allweddol a fyddai’n ffurfio’r rhaglen, ond byddai’r rhain yn datblygu dros amser:
- Deall fy iechyd meddwl: cyrsiau a dulliau i helpu pobl i ddeall iechyd meddwl a lles emosiynol a sut i’w goresgyn neu’u rheoli.
- Ennill sgiliau byw, gwneud yn siŵr fod gan bobl y cyfle gorau i fyw’n dda e.e. llythrennedd corfforol, emosiynol ac ariannol.
- Bod yn gysylltiedig, creu rhwydwaith drwy hobïau, gweithgareddau, diddordebau ac ati.
- Rhoi yn ôl/ symud ymlaen, ennill sgiliau i alluogi myfyrwyr i gynnal yr hyn maent wedi’i ddysgu drwy, er enghraifft, gwirfoddoli, cyflogaeth, rhoi o’u hamser i eraill ac ati.
- Rydym hefyd eisiau gweithio gyda busnesau lleol i ddatblygu cysylltiadau, i roi gwybodaeth i bobl cyn maent ei hangen, megis cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Datblygu ein Canolfannau Teuluoedd
Mae gwaith wedi dechrau i ailwampio Eryl Wen, Llandudno, sef lleoliad Tîm Cymorth i Deuluoedd Gogledd Cymru. Roedd gennym gyfle i wneud defnydd o fwy o’r adeilad i greu cyfleuster mwy gydag ystafelloedd mwy eang.
Yn 2020, dechreuom ymgynghori gyda theuluoedd, Aelodau Etholedig, partneriaid a’r gymuned leol ar ein dull ‘canolbwynt ac adain’ lleol ac os oedd Eryl Wen yn lleoliad addas ar gyfer Canolfan Deuluoedd. Fe wnaethom gynnal digwyddiad budd-ddeiliad i aelodau ar ddechrau mis Mawrth a rhai trafodaethau wyneb yn wyneb gyda theuluoedd, a symud i gynnal arolwg ar-lein yn dilyn gosod cyfyngiadau Covid-19.
Roedd cytundeb cyffredinol bod ein model canolbwynt ac adain yn gweithio’n dda ac nid oedd angen gwneud unrhyw newidiadau; roedd defnyddio Eryl Wen, ysgolion a lleoliadau cymunedol lleol i ddarparu ein gwasanaeth yn gweithio’n dda. Yn dilyn pleidlais, roedd canran fawr (72%) o blaid i ni aros lle rydym ni yn Eryl Wen.
Rwy’n hoffi dod i’r Ganolfan Deuluoedd ar gyfer apwyntiadau. Mae mewn man tawelach na lle rwyf yn byw ac nid wyf yn teimlo fel bod pobl yn fy ngwylio…
Mae Eryl Wen yn hygyrch ar droed i deuluoedd Llandudno.
Mae fy ngŵr a minnau wedi cymryd rhan mewn cyrsiau ac wedi defnyddio gwasanaethau eraill yn Eryl Wen sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni ac wedi cael effaith gadarnhaol fawr ar ein bywyd teuluol.
Rydw i’n hoffi’r ffaith nad yw’r ganolfan bresennol ar un o’r ystadau… ond mae’r adeilad presennol angen ei ailwampio.
Mae’r gwaith gwella wedi dechrau. Ar gyfer gwaith adnewyddu Cam 1, roeddem yn lwcus iawn i gael derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu’r to, estyll talcen, cafnau a phibellau dŵr yr adeilad ym mis Rhagfyr 2020 a chyllid ychwanegol ym mis Ionawr 2021 i ddechrau ar y gwaith o ailwampio’r llawr cyntaf a chyflenwi dodrefn ar gyfer y gofod newydd. Rydym nawr yn gwneud cais am gyllid i gwblhau Cam 2 y gwaith adnewyddu.
Beth oedd yr heriau?
Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn heriol ar sawl lefel, gyda rhwystredigaethau ynglŷn â’r cyfyngiadau ar waith wyneb yn wyneb gyda theuluoedd, a staff yn delio gyda gwaith a bywyd teuluol gyda phlant gartref. Trwy hyn i gyd, mae’r gwasanaeth wedi dangos cadernid a chreadigrwydd, ac rydym wedi dysgu rhai ffyrdd newydd a diddorol o wella ein cymorth i deuluoedd y tu hwnt i’r cyfnod anodd hwn.
Datblygiad Douglas Road
Mae gwaith wedi dechrau ar ailwampio Canolfan Ieuenctid Douglas Road a dymchwel Canolfan Addysg Douglas Road (drws nesaf) yng nghanol Bae Colwyn. Bydd y datblygiad yn darparu lleoliad cymunedol hygyrch ar gyfer y Tîm Cymorth i Deuluoedd Canolog a Thîm Iechyd Dechrau’n Deg, yn ogystal â phartneriaid yn darparu cymorth i deuluoedd yn ardal Bae Colwyn.
Adeiladwyd yr eiddo oddeutu 123 o flynyddoedd yn ôl, ac mae’r gwaith ailwampio’n cynnwys moderneiddio’r adeilad ac ad-drefnu’r gofod er mwyn caniatáu ar gyfer:
- Derbynfa ac ardal groeso newydd â chynllun agored
- Ystafell chwarae a chyfleusterau crèche ar gyfer amseroedd pan gynhelir grwpiau rheini
- Lle ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau (yn cynnwys peiriant codi)
- Digon o le ar gyfer storio
- Toiledau modern a chyfleusterau newid, yn cynnwys ardal newid ac ystafell ymolchi gyda pheiriant codi llawn
- Cegin i’w defnyddio i goginio a bwyta
- Digonedd o ystafelloedd un i un i wahanol asiantaethau eu defnyddio i gefnogi teuluoedd
- Swyddfa aml-asiantaeth ar gyfer cydweithio
- Ardal chwarae awyr agored
Darparu gwasanaethau ail-alluogi
Ar ddiwedd pob cyfnod o ail-alluogi rydym yn siarad gyda’r unigolion rydym wedi’u cefnogi ac yn gofyn cyfres o gwestiynau iddynt am y gofal a’r cymorth y maent wedi’i gael gennym ni. Dyma’r canlyniadau allweddol o 2020-21.
Roedd 97% o unigolion, ynghyd â’u teulu, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, yn rhan o gytuno a chynllunio eu cymorth |
Teimlai 99% y bodlonwyd eu disgwyliadau o’r gwasanaeth |
Dywedodd 91% ein bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar gychwyn y gwasanaeth. |
Teimlai 89% eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau a bennwyd erbyn diwedd y cyfnod ymyrraeth |
Teimlai 98% fod y cymorth a dderbyniwyd yn hyblyg, er enghraifft, o ran amserau ymweld, hyd pob ymweliad ac yn y blaen |
Teimlai 95% fod y cymorth a ddarparwyd yn gyson, er enghraifft, yr un aelod o staff yn ymweld |
Teimlai 98% fod y cymorth a gawsant wedi’u galluogi i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain |
Roedd 99% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais |
Mae rhai o’r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfweliadau yn dangos mor werthfawr yw ein gwasanaeth ailalluogi:
O’r funud rwyf yn agor y drws ac yn clywed “bore da” croesawgar rydw i’n gwybod y byddaf yn ddiogel.
Cymorth da iawn; rydw i’n mwynhau cwmni’r staff ac mae gen i berthynas dda gyda phob un ohonynt.
Fe aeth y gofalwyr y tu hwnt i’r hyn roeddem yn ei ddisgwyl – gan gefnogi’r teulu cyfan gyda charedigrwydd ac empathi. Fe wnaethon ein helpu drwy gyfnod anodd ac emosiynol. Diolch.
Yr agweddau o ofal yr oedd pobl yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd gweld wynebau cyfeillgar, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, cael eu trin â thrugaredd a pharch, a gallu gwneud pethau bach i adennill annibyniaeth gartref. Fel bob amser, byddwn yn parhau i fonitro’r gofal a’r cymorth rydym yn eu darparu, ymgysylltu gyda’r unigolion sy’n eu derbyn, a gweithredu ar unrhyw adborth neu feysydd i’w gwella sy’n cael eu tynnu i’n sylw.