Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl.
Eleni, rydym wedi dechrau ar brosiect cydweithio newydd gyda’n partneriaid yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Grŵp Llandrillo Menai. Y bwriad yw sefydlu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ochr yn ochr â darpariaeth iechyd a lles ar safle hen Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos. Wedi’i leoli yng nghanol y gymuned, yn agos at lwybrau bysiau, siopau a gwasanaethau lleol, mae gan y safle botensial mawr o ran ei ddatblygu, gan ddarparu cwmpas ar gyfer:
- Fflatiau Tai Gofal Ychwanegol
- Uned ail-alluogi
- Llety i fyfyrwyr a chanolfan addysg/addysgu
- Gofod clinig a swyddfa aml-asiantaeth
Mae’r buddion a ragwelir yn dilyn cwblhau’r gwaith yn niferus ac eang. O ran yr unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth gennym ni, byddent yn elwa o fynediad at gyfleusterau modern a hygyrch, cartrefi a llety ailalluogi. Byddem yn disgwyl gostyngiad o ran nifer yr unigolion mewn gofal preswyl hirdymor, gofal yn y cartref a derbyniadau i’r ysbyty oherwydd bod unigolion diamddiffyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol am gyfnod hirach.
Bydd staff yn elwa o amodau gwaith gwell ac amgylchedd modern sy’n addas i’r diben ac yn hwyluso gweithio mewn partneriaeth. Byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio fel un tîm i alluogi’r unigolion rydym yn eu cefnogi i fwynhau bywyd mwy annibynnol, yn gwneud beth sy’n bwysig iddynt. Bydd ansawdd y gofal rydym yn ei ddarparu yn gwella, bydd ein staff yn hynod fedrus, ac o ganlyniad i’n perthynas waith agos gyda Grŵp Llandrillo Menai, byddwn yn elwa o allu cadw mwy o staff hyfforddedig a chymwys ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect hwn felly yn fuddsoddiad yn ein unigolion diamddiffyn, staff, dysgwyr a’r gymuned ehangach, ac rydym yn edrych ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.
Cynllun byw’n annibynnol ar gyfer oedolion ag anghenion cymhleth
Er mwyn atal oedolion gydag anghenion cymhleth iawn rhag mynd i leoliadau arbenigol y tu allan i’r sir neu wneud iddynt symud yn nes at adref, rydym yn gweithio gyda BIPBC i ddatblygu cynllun byw’n annibynnol pedwar person yn Sir Conwy. Nodwyd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yng Nghaerdydd yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gan eu bod yn arbenigo mewn cynlluniau i bobl anabl. Ar hyn o bryd, ceisir tir i leoli’r prosiect.
Mae teuluoedd yr unigolion a nodwyd yn rhan hanfodol o’r tîm amlddisgyblaethol ac yn gallu darparu mewnbwn ar eu rhan. Mae hyn wedi bod ar ffurf disgrifiadau, proffiliau personol, cynlluniau cefnogi ymddygiad cadarnhaol, a nodi beth sy’n bwysig i bob unigolyn. Rydym wedi astudio’r gwersi a ddysgwyd o ddatblygiadau blaenorol, wedi dadansoddi addasrwydd safleoedd posibl, wedi cwrdd â darparwyr cymorth posibl ac wedi gweithio ar ffrydiau cyllido gyda BIPBC.
Beth oedd yr heriau?
Mae’r prif heriau hyd yma wedi ymwneud â gweithio mewn partneriaeth, a chytuno ar gynlluniau cymorth cymhleth gyda BIPBC. Mae canfod tir addas yn y sir ar gyfer anghenion y prosiect a’r unigolion a nodwyd wedi bod yn heriol, yn ogystal dod o hyd i ddarparwr cymorth sydd â gweithlu medrus a chymwys sy’n gallu darparu cymorth yn unol â chanllawiau’r Rhwydwaith Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol.
Beth nesaf?
- Prynu tir ac adeiladu datblygiad lle ceir cydgytundeb ar gynlluniau pensaernïol
- Parhau â chyfarfodydd misol â budd-ddeiliad, gan sicrhau bod yr unigolion a nodwyd yn parhau i fod yn ganolog i bob penderfyniad a wneir
- Dechrau’r broses dendro ar gyfer darparwr cymorth
- Cytuno ar broses bartneriaeth ffurfiol rhwng CBSC a BIPBC sydd â rheolaeth lawn ac sy’n darparu canlyniadau i unigolion lle mae pob penderfyniad yn canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cytuno ar ganlyniadau rhwng CBSC a BIPBC lle mae cydweithio’n fwy economaidd ymarferol i bawb ar sail hirdymor, gan greu cytundebau cydweithio ar gyfer datblygiadau newydd yn y dyfodol, yn unol â’r Ddeddf
- Cytuno a chymeradwyo achos busnes
- Nodi cynllun pontio lle gellir ceisio safbwyntiau’r unigolion ar yr adeg gywir, ar sail eu hanableddau, a sicrhau eu cydweddoldeb i rannu’r adeilad
Prosiect Trawsnewid Plant
Mae’r Bwrdd Gwasanaeth Integredig Plant Ardal Canolog (partneriaeth rhwng CBSC, CSDd a BIPBC) wedi datblygu dau brif brosiect yn defnyddio’r cyllid Trawsnewid.
Tîm Amlddisgyblaethol Bwthyn y Ddôl
Y nod: lleihau’r achosion o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal ac i’r sawl sydd, lleihau’r amser maent yn ei dreulio mewn lleoliad gofal.
Bydd y tîm yn gweithio gyda theuluoedd lle mae plant a phobl ifanc ar ffin y system ofal ac mewn perygl o dderbyn gofal gan nad yw eu rhieni / gofalwyr, am amrywiaeth o resymau, yn gallu rheoli dynamig teuluol iach. I ddechrau, bydd gwaith y tîm yn canolbwyntio ar gwblhau rhestr gyfannol o gryfderau ac anawsterau, risgiau ac anghenion er mwyn argymell rhaglen waith ac unrhyw adnoddau addas ychwanegol sy’n angenrheidiol i ddatrys y materion, ar y cyd â darparu eu hymyrraeth eu hunain. Mae pob aelod o’r tîm bellach wedi cael eu recriwtio ac maent yn derbyn atgyfeiriadau.
Tîm Anghenion Ymddygiad Cymhleth
Y nod: cefnogi teuluoedd sy’n cael anhawster rheoli ymddygiad heriol ac anarferol.
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar agwedd cymorth cynnar y cais Trawsnewid. Bydd y tîm hwn o weithwyr proffesiynol yn gweithio gyda theuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc ag anghenion ymddygiad cymhleth nad ydynt yn cael eu diwallu gan y gwasanaethau presennol a gynigir, gyda’r nod o ymyrryd yn fuan ar ôl i’r ymddygiad ddod i’r amlwg.
Bydd y tîm o lyw-wyr yn cynnig gwasanaeth cyfeirio a chanllawiau ymarferol i gynorthwyo rhieni a gofalwyr ond byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol iechyd galwedigaethol a seicoleg y tîm, pan fo achosion mwy cymhleth yn codi.
Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc heb ddiagnosis swyddogol, sydd wedi cael diagnosis ond heb gymorth neu gymorth cyfyngedig ar gael neu’n aros am asesiad niwroddatblygiadol gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc er mwyn i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y teulu o’r materion wella ac iddynt allu parhau i fod yn wydn.
Beth nesaf?
Mae prosiect ar wahân yn mynd rhagddo i ddatblygu canolfan asesu preswyl pwrpasol i blant gydag eiddo â 6 gwely a 2 wely brys arall ar gael, wedi’i ariannu drwy’r Gronfa Gofal Integredig. Y bwriad yw cwblhau’r safle erbyn canol 2022.
Tra bod y datblygiad hwn yn mynd rhagddo, mae’r rhaglen drawsnewid yn ystyried datblygu datrysiad dros dro i roi’r lefel ddwys hon o gymorth i deuluoedd. Byddwn yn ceisio defnyddio eiddo preswyl sydd eisoes yn bodoli gyda’r bwriad o ddarparu llety asesu a safle i’r tîm nes y bydd y cyfleuster newydd yn weithredol.
Cydweithio i wneud ein gwasanaethau’n hygyrch
Fe welwch drwy gydol yr adroddiad hwn ein bod, o ran ein hymateb i Covid-19 yn benodol, wedi dibynnu’n drwm ar gydweithio gyda gwasanaethau eraill, yn fewnol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn allanol. Mae timau megis Archwilio, Adnoddau Dynol a Chyllid Corfforaethol wedi ein galluogi ni i gydlynu cymorth yn gyflym i’r bobl mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau. Rydym wedi benthyg staff o Wasanaethau Hamdden a Venue Cymru i anfon Cyfarpar Diogelu Personol yn uniongyrchol ar leoliadau gofal a darparu cymorth gweinyddol ymarferol.
Bydd y perthnasau hyn, sydd bellach wedi’u sefydlu, yn ein galluogi ni i ymateb yn gyflym i unrhyw argyfwng yn y dyfodol, ac mae’r broses ddysgu rydym ni wedi bod drwyddi yng Ngofal Cymdeithasol a thu hwnt wedi bod yn amhrisiadwy.
Cefnogaeth dros y ffôn i gartrefi gofal yng Nghonwy yn ystod pandemig Covid-19
Mae gwasanaeth newydd wedi’i sefydlu i gefnogi’r 72 cartref gofal, 28 o ddarparwyr gofal cartref a 43 prosiect byw â chymorth sy’n gweithredu yn sir Conwy. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr Iechyd yr Amgylchedd, Gofal Iechyd Cymunedol Nyrsio BIPBC a’r Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol mewn ffordd gydweithredol newydd. Gwneir cyswllt rheolaidd bob wythnos gyda’r holl ddarparwyr a lleoliadau gofal i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod y diweddaraf o ran y canllawiau a chyngor, bod gan CBSC wybodaeth gyfredol am ble mae’r sector o ran heintiau Covid-19, lefelau staffio, mesurau rheoli haint ac asesiadau risg. Rydym yn sicrhau bod lleoliadau yn cael eu cefnogi pan mae ganddynt achosion positif o Covid-19 gyda chyngor amserol, canllawiau ac yn aml staff ychwanegol a chymorth ariannol drwy Gronfa Galedi Covid-19. Mae’r tîm hefyd yn cynnal cyfarfodydd amlddisgyblaethol rheolaidd, yn cynnwys CBSC a’n partneriaid, i adolygu effaith Covid-19 ar leoliadau unigol, yr effaith y mae hyn yn ei gael ar les y preswylwyr a chleientiaid, a pha fesurau y gellir eu rhoi yn eu lle i’w cefnogi.
Mae galwadau monitro a chefnogaeth wythnosol hefyd wedi cael eu gwneud i leoliadau gofal maeth a phreswyl annibynnol i blant a gomisiynir ar draws y DU drwy gydol y pandemig.
Beth oedd yr heriau?
Mae’r gwasanaeth ymateb hwn wedi cymryd adnoddau o feysydd gwaith eraill am bron i ddeuddeg mis. Mae heriau sylweddol wrth geisio rheoli’r ymateb i Covid-19 ochr yn ochr â gweithgareddau arferol.
Beth nesaf?
Nid yw dyfodol y gwasanaeth hwn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae nifer yr achosion positif o Covid-19 yn y sector gofal yng Nghonwy yn dal i fod yn uchel ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, ond gobeithir, oherwydd bod llawer bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn, y bydd y niferoedd hyn yn dechrau gostwng. Fodd bynnag, bydd llawer o agweddau cadarnhaol o’r gwasanaeth sydd wedi datblygu dros y 12 mis diwethaf yn parhau, yn enwedig y berthynas waith agos gyda BIPBC a darparwyr gofal y sector preifat.
Strategaeth Gwerth Cymdeithasol i godi proffil gwerthoedd cymdeithasol ar draws Conwy a helpu i sefydlu gwerth cymdeithasol yn y gwaith y mae’r partneriaid i gyd yn ei wneud
Nid yw cynhyrchu Strategaeth Gwerth Cymdeithasol wedi bod yn bosibl yn dilyn adleoli staff mewn ymateb i bandemig Covid-19. Rydym wedi parhau i gefnogi’r Sector Gwerth Cymdeithasol yn 2020-21 drwy’r gwasanaethau comisiwn a ddarperir yn ein Canolfannau Teuluoedd, ein cyllid i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy ac ein cefnogaeth i’r prosiect Llywiwr Cymunedol yng nghlwstwr Meddyg Teulu Gorllewin Conwy.
Beth oedd yr heriau?
Mae effaith pandemig Covid-19 ar Ofal Cymdeithasol wedi bod yn sylweddol, gan alw am adleoli staff a chreu gwasanaethau cwbl newydd.
Beth nesaf?
Mae CBSC yn cydnabod pwysigrwydd Gwerth Cymdeithasol a bydd yn cael ei gynnwys fel blaenoriaeth allweddol wrth gynhyrchu strategaeth gomisiynu newydd yn 2021-22. Bydd cynnwys Gwerth Cymdeithasol yn strategaeth gomisiynu’r Cyngor yn amlygu’i bwysigrwydd ymysg darparwyr Cyd-gynhyrchu, Atal a Chydweithio, sydd i gyd yn hanfodol i gyflawni ein dyletswydd o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Cynhwysiant digidol o fewn Cartrefi Gofal
Yn gynnar ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf (Ebrill 2020), bu i Gonwy roi 95 iPad i gartrefi gofal, drwy gyfuniad o gyllid trawsnewid rhanbarthol a chyllid Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Cafodd bob cartref gofal yng Nghonwy o leiaf un iPad, gyda chartrefi mwy yn cael mwy o iPads i sicrhau bod digon i ddiwallu anghenion preswylwyr. Roedd gan bob iPad lwfans data 4G ac yn gallu cysylltu gyda WI-FI’r cartref. Mae’r prosiect wedi cael ei gefnogi’n dda gan Gymunedau Digidol Cymru, sydd wedi gweithio gyda staff cartrefi gofal i’w helpu i wneud y mwyaf o fuddion yr iPads.
Mae adborth gan gartrefi gofal yn dangos bod yr iPads wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael eu defnyddio i gynnal cyswllt gydag anwyliaid drwy “ymweliadau dros y we” gyda theulu yn defnyddio Zoom neu Skype (neu debyg), a hefyd i gefnogi cysylltiadau gyda gofal sylfaenol, er enghraifft, ymgynghoriadau gyda Meddygon Teulu yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill megis y Tîm Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
Roedd llawer o’r cartrefi mwy wedi adrodd problemau â’r WI-FI, sef nad oedd eu signal yn cyrraedd rhannau penodol o’r adeilad. Mae cyllid ychwanegol o’r Gronfa Gofal Integredig wedi cael ei ddefnyddio i osod pecynnau ymestyn signal WI-FI mewn dros 30 o gartrefi gofal yng Nghonwy, sydd wedi datblygu cysylltedd digidol ymhellach, yn enwedig i’r rheiny sy’n hunan-ynysu.
I gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal ymhellach, mae cyllid dementia’r Gronfa Gofal Integredig wedi cael ei ddefnyddio i brynu deg o ddesgiau clyfar yn cynnwys dyfeisiau llechen Android ar stand symudol, gyda batri cuddedig sy’n para am wyth awr. Cafodd deg o gartrefi ddesg glyfar ym mis Mawrth 2021, y gellir ei defnyddio i alluogi a hyrwyddo ymgysylltiad, gweithgareddau hamdden, creadigrwydd a gemau geiriau, profiadau synhwyraidd, ymweliadau dros y we gyda theuluoedd, ac ymgynghoriadau gyda gweithwyr proffesiynol iechyd ac eraill. Bydd y sgriniau 32” mawr yn arbennig o fuddiol i’r unigolion hynny sy’n cael trafferth canolbwyntio ar sgriniau iPad llai.
Rydym hefyd wedi gallu manteisio ar gyllid grant i brynu dyfeisiau ‘Rempod’ ar gyfer pump o gartrefi gofal. Mae’r rhain yn rhoi naws o leoliadau go iawn, megis cerbydau trên gyda sgrin LCD yn dangos ffilm o gefn gwlad neu ymweld â’r dafarn am ddiod a phryd o fwyd. Tra bod teithiau dydd wedi’u cyfyngu oherwydd Covid-19, mae’r Rempods wedi rhoi cyfle i breswylwyr fwynhau golygfa wahanol a dewis sut maent eisiau treulio eu hamser. Maent wedi gallu mwynhau paned o de a gwylio’r byd o’u cwmpas drwy ‘ffenestr’, neu gyflawni tasgau bob dydd yr oeddent yn arfer eu gwneud yn rheolaidd. Mae adborth gan breswylwyr wedi bod yn gadarnhaol, ac mae wedi caniatáu i staff cartrefi gofal ddechrau sgwrs neu gynnal therapi hel atgofion.
Dyma Mr David Boot yn mwynhau sesiwn gyda’r ddyfais newydd a osodwyd yng nghartref preswyl Llys Elian ym Mae Colwyn.
Astudiaeth Achos
Cynhaliom ymarfer ymgynghori gyda grŵp bach o breswylwyr o gartref preswyl lleol. Roedd achosion o Covid-19 yn bresennol yn y cartref ac nid oedd y preswylwyr yn gallu mynd allan i wneud eu hymarfer corff dyddiol fel yr oeddent yn arfer ei wneud. Roedd hyn yn ddigalon iawn iddynt, oherwydd bod y cartref ar gyfer oedolion iau o oedran gwaith sydd wedi arfer cael rhywfaint o annibyniaeth.
Fe wnaethom ni drafod y cyfyngiadau Covid-19 presennol a’r ffaith y byddai dyddiad terfynu, pan fyddai ymarfer corff yn yr awyr agored yn cael ei ganiatáu unwaith eto. Siaradom am weithgareddau eraill yn y cartref a allai helpu i basio amser. Roedd y cartref wedi agor yr islawr fel gofod ychwanegol yn ddiweddar, gan gyflogi aelod ychwanegol o staff ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol. Roedd un o’r preswylwyr yn mwynhau snwcer, felly fe wnaethom awgrymu ei fod yn trefnu twrnamaint ar gyfer y preswylwyr.
Dywedodd un preswylydd ei fod wedi mwynhau’r sgwrs ac yn teimlo’n well ar ôl trafod popeth. Fe wnaethom yn siŵr bod y preswylwyr yn deall, os oeddent eisiau siarad gyda ni eto, y gallent ofyn i reolwyr y cartref, a allai drefnu galwad arall.
Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol
Mae’r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn adeiladu ar gryfderau a chyflawniadau’r hen Raglen Tîm Adnoddau Cymunedol a sefydlodd TAC yn raddol o’r gwaelod i fyny dan arweiniad y timau. Fe wnaeth y rhaglen hon y mwyaf o gyllid grant y Gronfa Gofal Integredig i greu capasiti a lleoliadau ar y cyd timau oedd wedi dod i ben yn flaenorol, a ffurfiodd sail i’r gwaith integredig a’r gwerthoedd a rennir.
Nododd adolygiad o’r rhaglen hon bod y dull cydweithredol hwn yn achosi newid, ond roedd sawl rhwystr sefydliadol a systemig yn atal integreiddiad pellach. Roedd angen dull a dargedwyd o weithio i ddileu’r rhwystrau hyn er mwyn cyflawni newid trawsffurfiadol fel a nodir yng nghynllun Cymru Iachach. Bydd y rhaglen waith ddiwygiedig, drwy nifer o ffrydiau gwaith cysylltiol, yn arwain at gynllun ar gyfer datblygiad tymor hir a chynaliadwyedd TAC ar draws yr ardal drwy:
- Hwyluso trosglwyddiad cynllun o fod yn acíwt i ganolbwyntio ar y gymuned
- Sicrhau integreiddiad di-dor gwasanaethau a darpariaeth gwasanaethau
- Gwneud y mwyaf o dechnoleg ddigidol i wella effeithlonrwydd a galluogi gweithio hyblyg a dros y we
Beth rydym yn briadu ei wneud:
Mae yna chwech o ffrydiau gwaith ymchwil thematig ar y gweill ar hyn o bryd a disgwylir y byddant wedi’u cwblhau yn chwarter cyntaf 2021-22. Amcanion allweddol y rhaglen yw:
- Deall y systemau iechyd a gofal cymdeithasol cyfan i gael darlun deallus a chyflawn o alw, capasiti, llif a chost
- Datblygu strategaeth gweithlu sy’n seiliedig ar gymhwysedd sydd wedi’i dylunio i fodloni’r uchelgais am fodelau gofal di-dor
- Datblygu a darparu rhaglen ymgysylltu sy’n caniatáu i ddinasyddion, gofalwyr a chymunedau rannu eu profiadau a chwarae rhan ragweithiol wrth siapio gwasanaethau yn y dyfodol.
- Trwy ymgynghori ac archwilio achosion, dadansoddi effeithiolrwydd ein ffyrdd presennol o weithio, adnabod arferion da a’r elfennau ail-ddylunio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal di-dor newydd
- Sefydlu endid rheoli iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn creu’r amodau i adnoddau cymunedol iechyd, gofal cymdeithasol, partneriaid trydydd sector a’r gymuned leol allu cydweithio i ddiwallu’r anghenion gofal a chymorth a gwella iechyd a lles.
- Cytuno ar fodel gwasanaeth a fframwaith ar gyfer darpariaeth gofal integredig sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ystyried agweddau pwysig o’u bywydau, eu nodau a beth sy’n bwysig iddynt.
Beth yw’r prif gyflawniadau o ran gweithredu’r rhaglen?
Mae cryfderau’r TAC sefydledig a’r ymagwedd at weithio integredig yn ystod yr ymateb i Covid-19 wedi cael eu gwerthuso’n annibynnol
- Dadansoddiad o’r diwylliant gwaith o fewn ac ar draws gwasanaethau a sefydliadau
- Mae’r data a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd, meddygfeydd a reolir gan ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol wedi cael ei baru ar lefel cleientiaid unigol i ddarparu dadansoddiad ar draws ehangder cyfan y system iechyd a gofal cymdeithasol a galluogi gwerthusiad o’r ddarpariaeth bresennol i bennu i ba raddau y mae’r galw presennol yn cael ei fodloni ac i ba raddau y gellir bodloni galw’r dyfodol
- Dadansoddiad o’r llif o unigolion drwy’r system gyfan, yn cynnwys adeiladu ar y gwaith a wnaed yn defnyddio’r model o faint cywir
- Dadansoddiad o gostau ar draws y system gyfan, yn cynnwys mapio gwasanaethau ac asedau’n drylwyr
- Fframwaith atebolrwydd a thempled rôl ar gyfer Cydlynydd Gofal, Gweithiwr Cyffredinol – Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig a Gweinyddwyr
- Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr yn canolbwyntio ar arwain newid, sgiliau ymarfer perthynol a chydweithredol
- Mae tair ardal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig wedi’u ffurfio gydag aelodau o iechyd, yn cynnwys gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector. Bydd y cyrff ardal leol hyn yn cynllunio ar gyfer arweinyddiaeth leol, llywodraethu, comisiynu a defnyddio adnoddau
- Mae tîm y rhaglen yn treialu gwaith ar Office 365 a sut y gall gefnogi gwaith tîm integredig.
- Mae tîm y rhaglen wedi cwblhau hyfforddiant ar fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau a Llwybrau Integredig Sengl i Bobl gan John Bolton a byddant yn treialu eu defnydd mewn llwybr cytunedig i brofi mewnwelediadau datblygol y Dadansoddiad System Gyfan
Mae TAC wedi parhau i ddatblygu arferion gwaith ac adeiladu perthnasau a fydd yn cefnogi integreiddio:
- Mae wyth o’r naw TAC bellach wedi’u cyd-leoli; mae gwaith ar y safle ar gyfer y nawfed ym Mhrestatyn yn mynd rhagddo a disgwylir y bydd wedi’i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2021
- Mae’r prosiect mewngymorth wedi’i gynnwys ar draws pob TAC
- Mae dull sy’n seiliedig ar asedau/ cryfderau wedi’i sefydlu yn Sir Ddinbych drwy gydol taith y dinesydd a’i ddatblygu ar draws yr ardal drwy ddull datblygu a hwyluswyd gan y Tîm Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant
- Mae’r berthynas gyda gofal sylfaenol wedi cryfhau a galluogi dull cydlynol ac ymatebol o weithio mewn perthynas â phwysau ar y gwasanaeth wrth iddo godi, yn ogystal â rhannu gwybodaeth
- Mae cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol wythnosol yn cael eu cynnal yn y rhan fwyaf o ardaloedd lleol i drafod achosion a datblygiad TAC
- Mae dull integredig o ran brysbennu ac adolygiadau achos cymhleth wedi’i sefydlu mewn sawl TAC
- Bydd cylchdro o Therapyddion Galwedigaethol o’r Bwrdd Iechyd yn cael ei gyflwyno i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus
- Pwysleisiodd Covid-19 lwybrau ac arferion rhyddhau o’r ysbyty a oedd eisoes yn heriol. Mae PBC wedi gwahodd gofal cymdeithasol i ymuno â’u gwasanaethau acíwt a chymunedol i gytuno ar lwybrau newydd a gwella profiadau i ddinasyddion. Mae’r cynllun Llwybr 0: Llwybr Rhyddhau Un Pwynt Mynediad yn cael ei dreialu yng Nghonwy a Sir Ddinbych
Beth oedd yr heriau?
- Yn ystod y pandemig, cafodd y rhaglen ei hoedi’n ffurfiol a chafodd capasiti / adnoddau’r rhaglen eu hailgyfeirio i gefnogi ein hymateb rheng flaen. Mae hyn wedi effeithio ar recriwtio capasiti’r rhaglen a dechrau ar y gwaith a gomisiynwyd. Mae tonau dilynol o’r Coronafeirws wedi arwain at arafu a chyfyngu rhai o weithgareddau’r rhaglen.
- Bu i’r gwaith o weithredu cytundebau llywodraethu gwybodaeth oedi dechrau rhai elfennau o baru data cleientiaid.
- Gallu timau cymorth corfforaeth, megis AD neu TG, i ymateb i ofynion unigryw timau gwaith aml-asiantaeth.
- Mae llawer o blatfformau fideo gynadledda a mynediad newidiol at TGCh o fewn gwahanol grwpiau staff ac ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector, y sector gwirfoddol ac i ddinasyddion yn aml wedi rhwystro gwaith effeithiol dros y we.
Beth nesaf?
Bydd y ffrydiau gwaith yn cwblhau eu canfyddiadau ac yn llywio cynllun partneriaeth ar gyfer datblygiad tymor hir a chynaliadwyedd TAC ar draws yr ardal.