Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas
Canolfannau Teuluoedd Conwy
Mae’r pum Tîm Cymorth i Deuluoedd wedi addasu i sicrhau bod gan deuluoedd y cymorth y maent ei angen yn ystod y flwyddyn ryfedd ac anodd hon. Wrth i ni ganfod ffyrdd amgen o ymgysylltu a chyfathrebu gyda theuluoedd, rydym wedi sefydlu prosiectau a phartneriaethau newydd. Braf iawn oedd gweld y gwaith caled hwn yn cael ei gydnabod â ‘chymeradwyaeth uchel’ yn rownd derfynol y Gwobrau Gofal Cymdeithasol ym mis Tachwedd o dan y categori Adeiladu Dyfodol Disglair gyda Phlant a Theuluoedd. Cawsom hefyd y cyfle i rannu ein gwaith mewn blog gan Swyddfa Archwilio Cymru. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn rydym wedi’i wneud eleni:
Darpariaeth mynediad agored i deuluoedd
- Grwpiau Zoom, yn cynnwys paned a sgwrs, clybiau i fabanod mewn partneriaeth ag Ymwelwyr Iechyd, a chlybiau cynilo
- Sefydlu ein tudalennau gwe yn ganolbwynt gwybodaeth a gweithgareddau: www.conwy.gov.uk/bywydteuluol
- Cynnal gweminarau ‘SgwrsRhieni’ a chlipiau fideo byr ar bynciau megis trefn amser gwely, cefnogi lles emosiynol plant, galar a cholled, a datblygiad plentyn
- Gweithgareddau lles megis teithiau cerdded mewn grwpiau bychain a sesiynau chwarae
Darpariaeth wedi’i thargedu i deuluoedd
- Addasu ein darpariaeth rhianta i gynnal cyrsiau anffurfiol a ffurfiol ar Zoom
- Sesiynau a chyrsiau thematig megis Tymhorau Tyfu i rieni ar alar, a grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid ar Wahanu ac Ysgaru
- Defnyddio’r ysgolion sydd ar gau a Chastell Conwy i ddarparu gofodau chwarae i deuluoedd pryderus gyda mynediad cyfyngedig i ofod yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod clo
Darpariaeth un i un i deuluoedd
- Mae ein Gweithwyr Teuluoedd wedi bod yn hyblyg ac ar gael yn fwy nag erioed i deuluoedd yn ystod y cyfnod hwn, yn defnyddio ymweliadau stepen drws, danfon parseli bwyd ac adnoddau, pecynnau crefft, troeon, galwadau fideo a gwiriadau lles rheolaidd
- Nodi meysydd cymorth pellach i deuluoedd drwy’r panel Dysgwyr Agored i Niwed ac atgyfeiriadau at ein partneriaid
Partneriaethau
- Cyfnewid dillad yn nwyrain Conwy gydag elusennau lleol a grwpiau cymunedol
- Darpariaeth wedi’i chyfoethogi, megis Gweithiwr Teulu Mind Conwy, sesiynau seibiant ychwanegol Gofalwyr Croesffyrdd, Chwarae, Babi Actif ar gyfer plant cyn oed ysgol
- Cyflwyno gweminarau a datblygu clipiau fideo byr gyda Seicolegwyr Addysg Conwy, ymarferydd cwsg, ac ymarferydd rhianta
- Rydym wedi bod yn gweithio’n agosach gydag ysgolion a’r Heddlu Cymunedol i ymgysylltu gyda theuluoedd
Eleni, fe wnaethom lansio arolwg parhaus gyda theuluoedd, yn seiliedig ar ein Safonau Gwasanaeth.
Dyma rywfaint o’r adborth a gawsom:
Roedd fy ngweithiwr teuluoedd yna i mi pan oeddwn i ei hangen hi, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo pan oedd yn fy ffonio gyda’r nos ac ar benwythnosau oherwydd fy mod yn unig.
Cefais gefnogaeth i mi fy hun, llythyrau cefnogi i wahanol asiantaethau a chefais fy enwebu am ddiwrnod yn y castell a’r cynllun chwarae.
Bydd cymryd camau i fagu hyder mewn rhai meysydd yn cymryd peth amser i mi, er mae gwybod bod y drws bob amser ar agor yn galonogol iawn.
Roedd y tîm bob amser yn gwrtais a chroesawgar. Roeddwn bob amser yn teimlo’n well ar ôl siarad gyda fy ngweithiwr teuluoedd. Mae hi’n ymroddedig, brwdfrydig ac yn ymatal rhag barnu wrth fy helpu a fy nghefnogi i a fy nheulu. Drwy’r pandemig, rhoddodd o’i hamser i gysylltu a holi amdanom ni. Nid oedd y galwadau byth yn frysiog ac roedd yn rhoi ymdeimlad o werth a pharch i mi / ni. Diolch.
Darparu Gweithgareddau Lles Cymunedol Ar-Lein
Mae’r Tîm Lles Cymunedol wedi gorfod dyfeisio ffyrdd newydd o ddarparu cymorth yn ystod pandemig Covid-19, felly yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethant gynnal sesiynau dros y we, gan gynnig ystod o weithgareddau ar-lein am ddim i oedolion sy’n byw yng Nghonwy. I ddechrau, fe wnaeth y tîm fapio’r ddarpariaeth bresennol er mwyn nodi unrhyw fylchau. Cafodd sesiynau amrywiol megis ioga, ymarfer corff mewn cadair, cyrsiau straen a phryder, bingo a chanu eu datblygu a’u cynnig ar-lein dros Zoom.
Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn:
Rydw i’n newydd i’r ardal ac yn gwarchod fy hun; mae’r sesiynau hyn wedi bod yn bwysig iawn i mi, diolch i chi am eu trefnu.
Unigolyn a gymerodd ran yn y sesiynau ymarfer corff mewn cadair
Fe wnes i wir fwynhau’r sesiwn hon heno gyda Paula a thîm Lles Conwy. Ymlaciol iawn. Byddwn yn argymell i unrhyw un ymuno â’r sesiynau hyn i ymlacio ac ymestyn y corff.
Unigolyn a gymerodd ran mewn sesiwn ioga
Dw i’n meddwl bod y gwaith rydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd yn ardderchog. Ceisio codi hwyliau pawb a rhoi gwên ar wynebau pobl. Gwaith arbennig.
Unigolyn a gymerodd ran yn y sesiynau canu
Diolch i chi am drefnu’r sesiynau canu gyda Rebecca. Mae staff a phreswylwyr wedi elwa ac wedi mwynhau pob munud. O safbwynt personol, mae wedi bod yn braf iawn i’w gweld yn gwenu a dawnsio, ac mae hefyd wedi bod yn ddifyrrwch bendigedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rheolwr cartref gofal
Beth oedd yr heriau?
Yr her fwyaf oedd cefnogi darparwyr a’r cyhoedd gyda defnyddio technoleg ddigidol. Nid oedd llawer o ddarparwyr wedi rhoi sesiynau ar-lein o’r blaen, ac nid oeddent yn gyfarwydd â defnyddio Zoom. Cynigiwyd cefnogaeth gan y tîm, nid yn unig i’w helpu i fynd ar-lein, ond i fod yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r dechnoleg a darparu / cynnal sesiynau ar-lein yn effeithiol.
Er mwyn ymateb i’r materion yr oedd y cyhoedd yn eu hwynebu, fe wnaethom sefydlu gwasanaeth i gefnogi pobl dros y ffôn i ddechrau arni gyda gwasanaethau a gweithgareddau ar-lein.
Beth nesaf?
Tan y bydd hi’n ddiogel i gynnal gweithgareddau wyneb yn wyneb unwaith eto, mae’r tîm yn parhau i gynnig darpariaeth ar-lein a chefnogaeth ddigidol dros y ffôn. Mae’r sesiynau newydd ar gyfer 2021 yn cynnwys cwrs chwe wythnos ‘Byw drwy Gyfnod Heriol, sesiynau dawns Bollymoves a Chrefftwyr Myfyriol, sydd yn grŵp cymdeithasol wythnosol.
Astudiaeth achos: dysgu sgiliau newydd
Trefnodd y Tîm Lles Cymunedol diwtorial ar dylino dwylo dros Zoom er mwyn galluogi pobl i ofalu amdanynt eu hunain, gan ganolbwyntio ar y dwylo i’w cadw’n hyblyg ac ystwyth. Mae’r gweithgaredd yn cynnwys technegau ymwybyddiaeth ofalgar i ymlacio’r corff a’r meddwl.
Mynegodd dynes 63 mlwydd oed, a oeddem eisoes wedi’i chefnogi i wneud galwadau fideo i’w theulu yn ystod y cyfnod clo, ddiddordeb yn y cwrs oherwydd ei bod yn dioddef o arthritis yn ei dwylo. Mae hi mewn llawer o boen, ac roedd yr effaith o beidio â gweld ei theulu wyneb yn wyneb wedi gwneud iddi deimlo’n isel. Cysylltodd â’r tîm drwy ein tudalen Facebook i archebu lle, ond roedd yn bryderus nad oedd yn gwybod sut i ddefnyddio Zoom ac nid oedd ganddi iPad neu ffôn ‘modern’.
Fe wnaeth ein Swyddogion Lles ei sicrhau, a’i harwain drwy’r broses o osod Zoom ar ei ffôn. Trefnwyd sesiwn flasu i wneud yn siŵr ei bod yn teimlo’n hyderus am gael mynediad i’r sesiwn ar y diwrnod.
O ganlyniad i’r cyswllt a gawsom gyda’r ddynes hon, mae hi:
• nawr yn hyderus wrth ddefnyddio ei ffôn i gael mynediad at sesiynau ar-lein dros Zoom a gwneud galwadau fideo i’w theulu
• wedi dysgu technegau er mwyn lleddfu poen ei harthritis a lleihau ei theimladau o iselder/ hwyliau isel
• yn edrych ymlaen at fod yn fwy cymdeithasol a chymryd rhan mewn pethau yr oedd yn arfer eu mwynhau cyn Covid-19, megis dawnsio llinell
Diolch i chi am yr holl help rydych wedi’i roi i mi, mae fy ffôn mor hen ni wnes i erioed feddwl y buaswn yn gallu defnyddio Zoom arno, mae gallu gwneud rhai o’r pethau yr oeddwn yn arfer eu mwynhau wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, rydw i’n edrych ymlaen yn arw at y sesiynau dawnsio llinell yr ydych yn eu trefnu.
Mae gweld wynebau fy wyrion a fy wyresau eto wedi bod yn fendith, ni allaf ddiolch digon i chi i ddweud y gwir, rydw i’n gweld eu heisiau nhw’n arw, a dyma’r peth agosaf at eu gweld wyneb yn wyneb.
Rydw i’n tylino fy nwylo 2 neu 3 gwaith yr wythnos, ac rwyf wedi synnu gymaint y mae’n helpu i leddfu fy mhoen. Rydw i’n eu tylino yn y bore pan maent ar eu gwaethaf ac mae hyn yn helpu i’w llacio. Mae hefyd wedi fy helpu i ddal tegell ac roedd hynny’n arfer bod yn anodd iawn i mi ac roeddwn yn ystyried prynu o’r peiriannu un gwpan hynny sydd ar gael.
Cynorthwyo dinasyddion Conwy â danfoniadau bwyd
Ar ddechrau’r pandemig, cysylltodd y Tîm Lles Cymunedol â darparwyr bwyd lleol i lunio cyfeiriadur o gwmnïau yn cynnig danfoniadau hanfodol ledled y sir. Rhannwyd y rhestr yn eang trwy’r cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a thrwy sianeli allanol. Fe wnaethom gysylltu gyda chwmnïau’n wythnosol i sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei diweddaru’n rheolaidd. Defnyddiodd y Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol y cyfeiriadur i gyfeirio pobl at wasanaeth danfon bwyd a delir amdano yn eu hardal leol, fel bo angen.
Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020, bu i 5,160 o bobl gyrchu’r wybodaeth am ddanfoniadau bwyd drwy ein tudalen gwe, ac mae’r adborth yn awgrymu ei fod wedi bod yn adnodd defnyddiol i lawer iawn o bobl.
Diolch yn fawr iawn i chi am y rhain! Fe wnes i eu gweld ar eich tudalen Facebook ….defnyddiol iawn a bydd llawer iawn o bobl yn elwa ohonynt!
Aelod o staff y Gymdeithas Tai
Dim ond eisiau dweud bod y rhestrau hyn wedi bod o fudd mawr, yn enwedig i’n teuluoedd gwledig. Rwyf wedi gallu darparu manylion cyswllt defnyddiol i nifer o deuluoedd sy’n rhan o fy llwyth achosion ac wedi gallu archebu ffrwythau a llysiau i ffrind sy’n byw ar ei phen ei hun, sydd dros 70 mlwydd oed ac sydd yn hollol fyddar. Braf iawn yw gallu cyfeirio at y rhestrau a’u rhannu.
Gweithiwr Cymdeithasol Anableddau
Fe wnaethom hefyd gael adborth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar Facebook!
Beth oedd yr heriau?
Y brif her oedd cysylltu gyda’r darparwyr lleol er mwyn gwirio a diweddaru’r wybodaeth yn wythnosol. Roedd hon yn broses a oedd yn cymryd llawer iawn o amser i’r staff.
Beth nesaf?
Mae yna dal alw am y wybodaeth hon, ac mae’r wybodaeth yn dal ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fodd bynnag, mae’r cyfrifoldeb o gynnal yr wybodaeth wedi cael ei basio i’r Gwasanaeth Cefnogaeth Gymunedol.
Yn ystod y cyfyngiadau clo lleol, fe wnaethom greu adran yn ein pecyn lles hydref a gaeaf i hyrwyddo pa ddarpariaeth o fwyd sydd ar gael ar draws y sir, er mwyn rhannu’r wybodaeth hon yn ehangach ac ein helpu ni i gyrraedd y bobl sydd angen yr wybodaeth hon fwyaf.
Astudiaeth Achos
Bu i ddynes 93 mlwydd oed, sy’n byw ar ei phen ei hun a chryn bellter oddi wrth ei theulu, gysylltu â ni. Nid oes ganddi fynediad at unrhyw gymorth gan ffrindiau neu gymdogion, ac mae ganddi nam ar ei symudedd a’i golwg.
Cysylltodd y ddynes â’r Tîm Lles gan nad oedd ei theulu wedi gallu cael archeb bwyd ar-lein iddi ac roedd ei chyflenwad o fwyd hanfodol ar gyfer ei hun a’i chi yn prinhau. Roedd hi’n ddigalon iawn ac yn llawn panig, gan ddweud ei bod wedi bwyta sgon i frecwast oherwydd dyna’r unig beth oedd ganddi ar ôl yn y tŷ. Roedd ei mab yn bryderus iawn, ac wedi ystyried gyrru yno o Lundain i helpu, ond dywedodd wrtho am beidio gwneud hynny, oherwydd ei fod yntau yn ei saithdegau ac y dylai fod yn aros adref yn hunan-ynysu. Roedd ei mab wedi canfod grŵp Facebook lleol o’r enw ‘Rhos on Sea – Help the Elderly’ ac roedd wedi cyhoeddi neges yno yn gofyn am gymorth, ac awgrymodd un aelod eu bod yn cysylltu gyda ni.
Ffoniodd y ddynes a siaradodd gydag Arweinydd y Tîm a lwyddodd i dawelu meddwl y ddynes a sgwrsio gyda hi am ei hanghenion, megis a oedd yn gallu talu dros y ffôn gyda cherdyn neu a oedd arni angen talu gydag arian parod, ei lleoliad a pha eitemau hanfodol yr oedd hi eu hangen. Llwyddom i’w chysylltu gyda siop leol. Gwnaed taliad dros y ffôn a chafodd eitemau hanfodol eu danfon yn ddi-gyswllt at ei drws y diwrnod hwnnw. Llwyddom hefyd i’w rhoi mewn cysylltiad â Cinnamon Trust a drefnodd bod gwirfoddolwr yn mynd yno i gerdded ei chi dair gwaith yr wythnos.
Roedd y ddynes yn gallu trefnu danfoniadau bwyd wythnosol at ei drws, gan sicrhau bod ganddi fynediad at fwyd hanfodol ac osgoi rhoi ei mab neu hithau mewn perygl yn ystod y cyfnod clo.
Roedd ei chi yn llai aflonydd oherwydd ei bod yn cael mynd am dro yn rheolaidd, mae’r ci, yn y gorffennol, ar adegau pan nad oedd wedi cael mynd am dro, wedi neidio ar y ddynes gan achosi iddi syrthio a brifo ei phen a’i choesau.
Ffoniodd y ddynes i ddiolch i ni am ein help a’n cefnogaeth, ac roedd hi’n swnio’n ddagreuol iawn wrth esbonio pe na bai wedi dod o hyd i ni, byddai wedi bod ar goll o ran beth i’w wneud, ar wahân i adael i’w mab deithio yno i’w helpu, a fyddai nid yn unig wedi torri’r gyfraith ond wedi rhoi’r ddau mewn perygl o ddal Covid-19.
Esboniodd hefyd bod y gwirfoddolwr o’r Cinnamon Trust yn hyfryd ac roedd ei chael yno i gerdded y ci wedi bod yn ryddhad mawr, oherwydd ei bod wedi bod yn poeni sut y byddai’r ci’n ymateb pen a bai’n gallu mynd allan am rai wythnosau, roedd yr ofn o gael codwm arall wedi peri pryder mawr iddi.
Pecyn Lles Cymunedol
Bu i’r Tîm Lles Cymunedol gydnabod bod y pwysigrwydd o ddarparu cyfleoedd i oedolion sy’n byw yng Nghonwy, i wella eu Hiechyd a’u Lles yn fwy hanfodol nawr nag erioed o’r blaen. Roeddent yn bryderus nad oedd gan lawer o unigolion bresenoldeb ar-lein, ac felly nid oeddent yn gallu cael mynediad at weithgareddau dros y we. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater, datblygodd y tîm Becyn Lles yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol a gweithgareddau y gallai pobl eu gwneud o’u cartrefi eu hunain, er mwyn gwella eu lles corfforol a meddyliol.
Cawsom adborth cadarnhaol gan gydweithwyr a’r cyhoedd:
Cyn y Nadolig roeddwn yn teimlo’n isel iawn. Fe welais neges ar eich Tudalen Facebook Lles Cymunedol a phenderfynu eich ffonio, fe siaradais gyda dynes hyfryd; fe anfonodd gopi o’ch Pecyn Lles ataf. Roedd wir o gymorth mawr i mi ac fe ddaeth ataf ar yr adeg gywir.
Aelod o’r cyhoedd
Beth oedd yr heriau?
Y broblem fwyaf oedd ceisio cyrraedd y bobl hynny a fyddai’n cael y budd mwyaf o’r pecyn. Fe wnaethom ei hyrwyddo drwy staff iechyd a gofal cymdeithasol, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n cydweithwyr yn y sector annibynnol. Gwnaethom argraffu’r pecynnau a’u hanfon i gartrefi pobl gyda chymorth gan ein partneriaid a chydweithwyr megis Cartrefi Conwy, banciau bwyd lleol, ein timau gofal mewnol, y gwasanaeth llyfrgell a gwasanaeth storfeydd cyfarpar cymunedol. Ers lansio’r pecyn, mae cyfanswm o 3,373 o gopïau wedi cael eu dosbarthu i bobl yn eu cartrefi neu wedi’u cyrchu drwy ein tudalen we.
Beth nesaf?
Mae’r adborth gan weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ynglŷn â’r pecyn wedi bob yn gadarnhaol iawn ac mae pobl wedi dweud ei fod yn ddefnyddiol iawn. Mae’r tîm yn parhau i ddatblygu gwybodaeth a gweithgareddau newydd ar gyfer pecynnau yn y dyfodol a bydd y trydydd rhifyn yn cael ei gyhoeddi ar 1 Chwefror 2021.
Cefnogi ein gofalwyr di-dâl drwy gydol y pandemig
Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi golygu bod ein cyswllt gyda gofalwyr di-dâl Conwy wedi bod yn wahanol iawn eleni. Mae ein Swyddogion Gofalwyr wedi bod yn gweithio gartref ac mae ein system ddyletswydd dyddiol, sydd wedi aros yn ei lle, wedi bod yn brysur. Cysylltodd y swyddogion gyda phob gofalwr a chynnal galwadau wythnosol gyda’r gofalwyr a nodwyd fel y rhai mwyaf diamddiffyn yn ystod yr argyfwng, a darparu cymorth emosiynol a chymorth ymarferol cynyddol os oedd angen. Roedd rhai gofalwyr yn teimlo fel eu bod angen dwy neu dair o alwadau’r wythnos felly fe wnaethom drefnu hynny ar eu cyfer.
Ar ddechrau’r pandemig, bu i nifer o ofalwyr ddewis canslo eu gwasanaeth eistedd gyda phobl, gydag eraill hefyd yn canslo eu cefnogaeth gofal cartref oherwydd pryderon ynglŷn â dal Covid-19. Yn fwy diweddar rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau i’r panel mewn perthynas ag ail-gomisiynu gwasanaethau a gafodd eu canslo gan ofalwyr. Yn anffodus, mae llawer o ofalwyr yn datgan eu bod nawr yn ei chael hi’n anodd ac angen seibiant o’u sefyllfa.
Mae cyswllt yn cael ei wneud gyda phob ymholiad newydd i’r Tîm Gofalwyr. Er nad yw ymweliadau cartref yn cael eu cynnal, mae’r holl rifau cefnogaeth perthnasol yn cael eu rhannu ac mae asesiadau gofalwyr yn cael eu cynnal dros y ffôn, gyda chymorth yn cael ei drefnu yn ôl yr angen. Rydym hefyd yn cysylltu gyda gofalwyr sydd eisoes â phecyn cymorth er mwyn adolygu’r cymorth y maent yn ei dderbyn a sicrhau ei fod yn dal yn addas i’r diben.
Roedd yr Wythnos Gofalwyr, a gynhaliwyd o 8-14 Mehefin 2020 yn wahanol iawn gan nad oeddem yn gallu cynnig y digwyddiad galw heibio arferol gyda chyngor a chyfarwyddyd wyneb yn wyneb. Yn hytrach, gweithiom gyda’r Tîm Lles Cymunedol i ddarparu gweithgareddau ar-lein a oedd hefyd ar gael fel pecyn y gellid ei anfon drwy’r post at ofalwyr. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, canu, teithiau cerdded rhithiol, ioga a noson gwis, ac roedd y pecyn yn cynnwys ryseitiau, chwilair, croesair, tudalennau i’w lliwio, origami a gwybodaeth am sut i gael cymorth pellach.
Beth nesaf?
Wrth i amser fynd yn ei flaen, rydym yn disgwyl y bydd mwy o ofalwyr yn ei chael hi’n anodd gan nad yw’r cymorth gofal dydd a seibiant ar gael iddynt. Wrth symud ymlaen, bydd y Tîm Gofalwyr yn parhau i ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol i’r gofalwyr yng Nghonwy yn ystod y cyfnod heriol a digynsail hwn.
Datblygu ein Gwasanaeth Rhandiroedd
Mae’r gwasanaeth rhandiroedd wedi bod yn weithredol am beth amser o fewn ein Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, ac roeddem ni o’r farn bod angen ei ddiweddaru, gan ganolbwyntio’n benodol ar hygyrchedd. Mae’r cyfres o gyfnodau clo oherwydd pandemig Covid-19 wedi golygu bod y gwasanaeth wedi gorfod gohirio gwaith grŵp am gyfnodau, gan ganiatáu i’r gweithwyr cefnogi ddatblygu’r gwasanaeth. Lluniwyd y cynlluniau blaenorol gan ddefnyddiwr y gwasanaeth a oedd yn meddu ar sgiliau garddwriaeth a gweithio gyda phobl, a oedd yn gallu darparu’r ffocws hwnnw ar hygyrchedd.
Yma fe welwch sut oedd y rhandir yn edrych cynt….
A nawr….
Beth oedd yr heriau?
Roedd cael mynediad at adnoddau priodol yn anodd, fodd bynnag, fe wnaethom gysylltu â gwahanol sefydliadau a dibynnu’n drwy ar roddion i gefnogi’r gwaith o adfywio’r Gwasanaeth Rhandiroedd. Roedd hyn yn cynnwys trawstiau rheilffordd gan National Rail, a rhisgl wedi’i roi i gefnogi’r gwaith o ddarparu llwybrau mynediad lefel.
Mae’r gwasanaeth ar agor i ardaloedd eraill o’r Awdurdod, fodd bynnag, oherwydd Covid-19 a’r cyfnodau clo cysylltiedig, nid ydynt wedi gallu cael mynediad at y rhandiroedd fel y cynlluniwyd.
Beth nesaf?
Rydym yn gobeithio ail-lansio’r gwasanaeth rhandiroedd wrth i gyfyngiadau cyfnod clo Cymru gael eu codi. Rydym hefyd yn gobeithio ymgysylltu gyda gwasanaethau eraill wrth iddynt ddechrau ail-sefydlu eu gweithgareddau eu hunain.
Tîm Ymgynghori Personol: Gweithgarwch yn ystod 2020-21
Er gwaetha’r heriau yn sgil Covid-19, rydym wedi bod yn brysur gyda ffrydiau gwaith amrywiol newydd:
- Rydym wedi dechrau ymgymryd â phrosiect ymchwil hirdymor gyda Phrifysgol Bangor i ddeall ymddygiadau pobl sy’n gadael gofal yn y gobaith y gallwn archwilio eu cymhellion a hwyluso ymgysylltiad mwy ystyrlon gyda gwasanaethau. Y bwriad yw i’r canlyniadau lywio polisïau’r dyfodol, gweithdrefnau ac offer gwaith ymarferol a fydd yn cael eu rhannu ledled Cymru.
- Rydym wedi bod yn gweithio gyda cheiswyr lloches ar eu pen eu hunain i sicrhau ein bod yn gallu rhoi’r gefnogaeth sydd arnynt ei hangen iddynt.
- Rydym wedi gofyn i bobl ifanc am eu barn ar y gefnogaeth rydym wedi llwyddo i’w darparu drwy gydol pandemig Covid-19; bydd y canlyniadau’n llywio cynllun gweithredu i ddatblygu’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
- Mae rolau Cefnogwyr wedi cael eu datblygu yn y tîm Ymgynghori Personol, gyda phob YP yn cael maes diddordeb penodol a fyddant yn ei ddatblygu er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth a gwella gwybodaeth y tîm.
- Mae cynllun darparu gwasanaeth wedi cael ei ddatblygu i gynnwys sawl pwnc o iechyd rhywiol, eisiau dechrau teulu, beichiogi, i enedigaeth neu golled plentyn. Mae ein dull amlasiantaeth yn rhoi mynediad i bobl sy’n gadael gofal at asesiadau cyfannol, gofal a chefnogaeth mewn modd tryloyw.
- Hyrwyddo pecynnau gwaith pwrpasol i bobl sy’n gadael gofal heb unrhyw gymwysterau / cymwysterau gradd isel ac sy’n methu gwneud cyrsiau prentisiaeth neu gael profiad gwaith.
- Rydym wedi rhoi bocsys lles i bobl sy’n gadael gofal, yn cynnwys gweithgareddau i’w cefnogi yn ystod y cyfnod clo.
- Rydym yn cyflwyno prynhawniau meithrin tîm i ail-sefydlu perthnasau sydd efallai wedi dod i ben oherwydd y pandemig a threfniadau gweithio gartref. Gobeithir y gellir rhannu gwybodaeth a’r arfer orau unwaith eto, i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol ac effeithlon i’r bobl ifanc sy’n ei dderbyn.
- Mae ein polisi gadael Kick-Start wedi’i ddatblygu i ddarparu strategaeth gwblhau i bobl ifanc sy’n rhan o’r cynllun allu symud ymlaen i lety addas mewn modd syml a chynlluniedig cyn gynted ag y maent yn barod.
- Mae gennym fynediad at ddau dŷ a rennir ar safle Maelgwn a fydd yn rhoi llety i bedwar o bobl ifanc am ddwy flynedd. Byddant yn derbyn gofal estynedig pwrpasol, mynediad at gefnogaeth yn ôl yr angen y tu allan i oriau a chyngor cyffredinol gan weithiwr ymyrraeth Pobl Ddiamddiffyn, a fydd yn goruchwylio’r gwaith o redeg y ddau dŷ. Bydd y bobl ifanc yn cael eu cefnogi i adeiladu ar eu sgiliau byw’n annibynnol, deall tenantiaethau a materion sy’n ymwneud â thenantiaethau a’u paratoi i symud ymlaen i lety mwy parhaol erbyn diwedd y ddwy flynedd. Roedd y tai ar gael o 22 Chwefror 2021.
- Rydym wedi dyrannu gweithwyr cymdeithasol i dair o Ganolfannau Teuluoedd ac rydym wedi rhannu gwybodaeth am ein gwasanaethau gyda meddygfeydd teulu. Gobeithir drwy godi ymwybyddiaeth y byddwn yn dod yn ymwybodol o bobl cyn iddynt brofi argyfwng ac y gallwn ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn gynt.
Beth oedd yr heriau?
Mae llawer o heriau wedi codi eleni, yr her fwyaf oedd y diffyg cyswllt wyneb yn wyneb gyda’r unigolion rydym yn gweithio gyda nhw, cydweithwyr ac asiantaethau eraill oherwydd y cyfnod clo. Mae arferion gwaith wedi gorfod newid ac mae anghenion unigolion wedi newid yn anochel oherwydd eu bod yn fwy unig nag erioed. Yn y meysydd gwaith a restrwyd uchod, rydym wedi profi oedi wrth symud ymlaen ac rydym wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd o amgylch y rhwystrau hyn i gynnal cyfathrebu a pherthnasau.
Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau
Mae’r Tîm Pobl Ddiamddiffyn yn aml yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer unigolion sydd, drwy’r broses asesu, yn cydnabod eu bod angen cefnogaeth gyda’u defnydd o gyffuriau ac alcohol, ond nid ydynt yn aml yn bodloni’r meini prawf ar gyfer gwasanaethau penodol (neu nid ydynt yn teimlo’n barod i’w defnyddio). Bydd gan yr unigolion hyn fynediad at weithiwr cymdeithasol a gweithiwr cefnogi ymyrraeth a fydd yn gweithio gyda nhw am hyd at ddeuddeg wythnos i archwilio pam eu bod yn defnyddio cyffuriau ac alcohol, darparu technegau ymdopi, addysg ar y gefnogaeth sydd ar gael a dileu’r rhwystrau a’r stigma sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn. Bydd hwn yn ddull cyfannol, gyda’r gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â gwasanaethau priodol eraill am gyngor a chyfarwyddyd. Os teimlir, ar unrhyw bwynt yn ystod y deuddeg wythnos, bod yr unigolyn angen cefnogaeth sy’n fwy arbenigol, gofynnir am eu caniatâd i gynnal trafodaeth aml-asiantaeth i weld sut y gellir diwallu eu hanghenion. Gobeithir y bydd y dull hwn yn rhoi cyngor a chymorth angenrheidiol i unigolion, pan maent eu hangen, ac o bosib eu hatal rhag lithro drwy’r rhwyd nes eu bod yn bodloni meini prawf gwasanaethau eraill.
Cyfiawnder Ieuenctid: Darparu cymorth i’n cymunedau
Eleni, mae’r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi wedi bod yn weithgar iawn yn y gymuned, yn enwedig tuag at adeg y Nadolig.
- Fe wnaethom ddarparu gwasanaeth Nadolig atgyweiriol gyda chartrefi gofal ar draws Conwy a Sir Ddinbych, a gydag oedolion diamddiffyn yn y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys bocsys plannu a wnaed gan ein pobl ifanc ac a drefnwyd gydag Iechyd a Diogelwch i gydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19.
- Gwnaed bocsys esgidiau personol gyda rhoddion gan Asda, B&Q a Home Bargains, a rhoddwyd y rhain i gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd meddwl i’w dosbarthu i’r oedolion diamddiffyn rydym yn eu cefnogi.
- Fe wnaethom hefyd gasglu negeseuon a cherddoriaeth wedi’u recordio ymlaen llaw gan bobl ifanc, ac fe gyflwynwyd y rhain i gartrefi gofal.
Rydym yn gobeithio bod y pethau hyn wedi gwneud gwahaniaeth i rai o’r bobl fwyaf unig a diamddiffyn yng Nghonwy, ac wedi gwneud iddynt deimlo fel bod rhywun yn meddwl amdanynt yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan gynyddu eu hunanwerth a’u lles. Gobeithir y gallwn, o ganlyniad, adeiladu ar y bond rhwng cenedlaethau.
Beth oedd yr heriau?
Roedd logisteg, unigrwydd a darpariaeth, a chydlynu’r bobl ifanc, yn ogystal â’r tasgau i roi’r ymarfer ar waith i gyd yn heriol. Roedd yn rhaid i ni hefyd ddarbwyllo Iechyd a Diogelwch y gallent gydymffurfio gyda chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chyfyngiadau Covid-19 a sicrhau’r cyhoedd a’r gymuned.
Gwobr Cyflawniad Ieuenctid
Mae ein Swyddog Addysg wedi gweithio gyda Gwobr Cyflawniad Ieuenctid i gydweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid i lansio’r wobr ar-lein. Oherwydd y cyfnod clo nid ydym wedi gallu gwneud hyn mewn lleoliad grŵp fel y cynlluniwyd, fodd bynnag, rydym nawr wedi cael cymeradwyaeth gan Ieuenctid Cymru i gynnal sesiynau unigol ar-lein. Nod y wobr yw gwella sgiliau a hunan hyder pobl ifanc. Bydd ein pobl ifanc yn gweithio ar yr Her Ieuenctid, sydd yn brosiect deg awr a fydd yn canolbwyntio ar un gweithgaredd, megis coginio, celf, garddio ac ati.
Hyfforddiant a datblygiad ar gyfer teuluoedd maeth
Darperir yr elfen seicolegol o’n prosiect Cymorth Gofal Maeth Uwch gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o fewn gwasanaethau plant, ac mae’n wahanol i waith cyffredinol y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc oherwydd ei bod yn cyfrannu at arferion craidd gwaith cymdeithasol. Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r gwasanaeth arbenigol hwn wedi canolbwyntio ar hyfforddiant a datblygu, cyfrannu at asesiadau neu ddarparu asesiadau datblygiadol annibynnol cyflenwol, i lywio lleoliadau a gofal. Mae hyn wedi canolbwyntio’r sylw’n benodol ar ddiffinio’r math o fewnbwn therapiwtig a fyddai’n briodol i gefnogi gofalwyr maeth, plant a lleoliadau.
Mae’r rôl hon hefyd wedi datblygu llwybrau ac wedi cefnogi’r gwaith o hwyluso mynediad effeithiol at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, gwasanaethau niwroddatblygiadol ac eraill i bobl ifanc sy’n derbyn gofal.
Y nod yw hyrwyddo sefydlogrwydd lleoliadau ac atal lleoliadau rhag mynd ar chwâl. Mae ffocws clir ar ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddiant priodol sy’n gallu cefnogi’r plant, y bobl ifanc a’u Gofalwyr Maeth.
Mae llwybr hyfforddi wedi’i nodi ar gyfer y deuddeg mis nesaf, gyda phob gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn y Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal wedi’u cofrestru ar gyfer hyfforddiant yn seiliedig ar ddirnad meddyliau eraill. Mae’r hyfforddiant hwn yn ddull newydd sy’n benodol ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal maeth, er mwyn ceisio cefnogi eu lles emosiynol yn fwy effeithiol. Ei nod yw hyrwyddo ansawdd perthnasau, cefnogi gofal maeth effeithiol a sensitif, a helpu gofalwyr i helpu’r plentyn sydd yn eu gofal i ddeall a rheoli emosiynau’n well. Mae’r ffocws ar wella elfennau craidd ymlyniad diogel, yn cynnwys cydweithio, a gallu myfyriol rhiant (neu ofalwr). Mae’r pwyslais ar helpu gweithwyr cymdeithasol i gefnogi gofalwyr maeth i ddirnad meddyliau’r plant y maent yn gofalu amdanynt.
Beth oedd yr heriau?
Mae hi wedi bod yn flwyddyn arbennig o anodd gyda chyfyngiadau Covid-19, fodd bynnag, rydym wedi newid gymaint â phosibl i ddulliau cefnogi dros y we. Rydym wedi ailgyflwyno cyfleoedd hyfforddi ac nid ydym wedi gadael i’r cyfyngiadau oedi cynnydd.
Beth nesaf?
Nodi cefnogwyr yn y gwasanaeth i weithwyr cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol a gofalwyr maeth sy’n gallu ymgymryd â rolau arweiniol mewn hyfforddiant arbenigol megis:
- Datblygu Systemau Synhwyraidd-weithredol Heb Ddatblygu Digon mewn plant sydd wedi profi trawma datblygiadol
- Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar gyfer trin diffyg cwsg – y canllawiau a argymhellir gan NICE ar gyfer trin anhwylder cwsg
- ‘Cyfweliad Ystyr y Plentyn’
Rydym hefyd wedi recriwtio cymhorthydd seicoleg yn ddiweddar a fydd yn gwella’r gwasanaeth y gallwn ei gynnig i gefnogi plant, pobl ifanc a gofalwyr maeth, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a dysgu i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol.