Mae’r angen am ofal a chefnogaeth wedi’i leihau ac atal y cynnydd o ran angen, tra’n sicrhau bod y deilliannau gorau posibl yn cael eu cyflawni i bobl
Tím Cryfhau Teuluoedd
Pwrpas y Tîm Cryfhau Teuluoedd yw i weithio’n ddwys gyda theuluoedd i gyflwyno newidiadau sy’n galluogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd gartref, mewn amgylchedd teulu diogel a sefydlog, fel bod llai o blant angen derbyn gofal. Cyflawnir hyn drwy:
- Gryfhau systemau ymarfer lleol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc yn fwy effeithiol
- Datblygu gwasanaethau sy’n magu gwytnwch mewn teuluoedd
- Galluogi gweithwyr cymdeithasol i reoli risg yn fwy hyderus, er mwyn i blant allu aros yn ddiogel yn y cartref
Yn ystod hanner cyntaf 2020-21, bu i’r tîm gefnogi 141 o blant o 55 teulu. Ceir atgyfeiriadau at y Tîm Cryfhau Teuluoedd gan amrywiaeth o ffynonellau, fodd bynnag, ceir y mwyafrif gan dimau o fewn yr Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Chanolfannau Teuluoedd. Cafwyd 59 o atgyfeiriadau rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2020.
Gwasanaethau Ffiniau Gofal ac ymyrraeth gynnar
Sefydlwyd y gwasanaeth Ffiniau Gofal i ddod â gweithwyr proffesiynol o ystod eang o dimau ynghyd. Mae’r cyfarfodydd Ffiniau Gofal bellach wedi’u sefydlu’n llawn mewn ymarfer ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn wythnosol. Mae ymrwymiad rheolaidd gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, Canolfannau Teuluoedd, Gwasanaethau Ieuenctid, y Tîm Ymyriadau Teuluol, y Tîm Cryfhau Teuluoedd, a lle bo’n briodol, Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, KITE, Tai a Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r dull amlddisgyblaethol wedi hwyluso cydweithio gwell rhwng timau a sefydliadau.
Oherwydd y cynnydd a welwyd yn y galw am wasanaethau gofal a reolir dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’r cyfarfodydd Ffiniau Gofal, mae Paneli Ymgynghori Amlasiantaeth Ymyrraeth Gynnar hefyd yn cael eu cynnal bob mis. Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw canolbwyntio ar sut i gefnogi teuluoedd sydd ar ffin gwasanaethau gofal a reolir. Gall yr ymyriadau hyn gynnwys atgyfeiriadau at y Tîm Cryfhau Teuluoedd, neu’r Tîm Ymyriadau Teuluol, a gweithio gyda Chanolfannau Teuluoedd.
Rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2020, cafodd 26 o achosion eu hatal rhag symud i wasanaethau ‘gofal a reolir’ a chawsant eu cefnogi gan Ganolfannau Teuluoedd a gwasanaethau lles cynhwysol i aros gartref.
Darparu cyfleusterau seibiant i deuluoedd sy’n ei chael yn anodd
Llys Gogarth yw’r gwasanaeth preswyl cyfunol i blant ag anableddau. Darperir y gwasanaeth hwn i bob plentyn dros 7 mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Gogarth fel rhan o’r cynnig allgyrsiol ac i blant a’u teuluoedd sy’n gymwys am seibiant i gyflawni eu canlyniadau lles o dan y Ddeddf. Ers mis Mawrth mae’r gwasanaeth wedi bod ar gau i blant sy’n defnyddio’r ddarpariaeth fel rhan o’r cynnig allgyrsiol. Mae wedi aros ar agor drwy gydol y cyfnod i blant gydag anghenion cymhleth a’u teuluoedd. I ddechrau, darparwyd hyn i un plentyn y noson ac yn ystod yr wythnos yn unig, gan roi blaenoriaeth i’r unigolion hynny gyda’r anghenion mwyaf cymhleth. Wrth i hyder o ran rheoli’r risg ddatblygu’n rhan o’r ymarfer, mae’r gwasanaeth wedi dychwelyd i lefelau arferol h.y. gwasanaeth 7 niwrnod i dri o blant. Mae hwn wedi bod yn wasanaeth amhrisiadwy i’r teuluoedd hyn. Yn ogystal, mae Llys Gogarth wedi parhau i gynnig lleoliadau brys i blant ag anableddau sydd ar ffin y system ofal neu sy’n Derbyn Gofal.
Rydym wedi gweithio’n wythnosol gyda’n cydweithwyr addysg i adnabod y plant mwyaf diamddiffyn a sicrhau eu bod yn cael cynnig mynediad rheolaidd at ddarpariaeth ysgol.
Gofal Cartref Pobl Hŷn: Adolygiad Ariannu a Chomisiynu
Yn yr adroddiad y llynedd dywedom wrthych am Brosiect Trawsnewid Pobl Hŷn a’r ffrydiau gwaith amrywiol yn y cwmpas. Roedd rhan o hyn yn cynnwys edrych ar sut rydym yn comisiynu gwasanaethau, gyda’r nod o ganolbwyntio ar ganlyniadau a gytunwyd i unigolion.
I ddarparu rhywfaint o gyd-destun, mae’r weledigaeth ehangach ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn yn anelu i gefnogi’r weledigaeth mewn Cymru Iachach. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn sy’n bersonol ac yn ymatebol, ac mae sicrhau’r canlynol yn allweddol i ddarparu’r math hwn o wasanaeth:
- Pobl hŷn yn byw mewn lle o’u dewis nhw
- Gofalwyr yng Nghonwy’n teimlo o werth ac yn cael eu cefnogi
- Pobl hŷn sydd â dementia’n cael eu cefnogi i fyw’n dda
- Pobl hŷn â dull cydweithredol sydd wedi’i gynllunio’n dda i ddiwallu eu hanghenion
Yn rhan o’r weledigaeth hon, cytunwyd y dylai prosiect gael ei sefydlu i adolygu’r model comisiynu ac ariannu Gofal Cartref presennol o fewn y gwasanaeth, gyda’r nod o gomisiynu trwy ganlyniadau.
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio’n benodol ar adolygu proses gomisiynu ac ariannu gofal cartref o fewn gwasanaethau Pobl Hŷn o’r dechrau i’r diwedd, i sicrhau ei fod yn symlach, yn fwy effeithlon, a bod y gofal yn cael ei gomisiynu trwy’r canlyniadau gofynnol yn hytrach nag amser a thasgau.
Bydd adolygiad llawn o’r prosesau presennol yn y meysydd gwasanaeth canlynol yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod model newydd i gomisiynu darpariaeth gofal cartref Pobl Hŷn yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus:
- Maes Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai
- Cyllid Gofal Cymdeithasol
- Maes Gwasanaeth Safonau Ansawdd a Chomisiynu
Buddion y Prosiect
- Galluogi’r Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai i reoli galw cynyddol gyda llai o angen am gyllideb gynyddol
- Gwell prosesau ariannol a chodi tâl
- Galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain am gyfnodau hirach
- Gwell gwasanaeth a chanlyniadau i unigolion sy’n derbyn gofal a chymorth gennym ni
- Parhau â’r ethos ‘ail-alluogi’ pan mae pecynnau gofal yn cael eu darparu gan ddarparwyr allanol yn hytrach na thimau mewnol
- Mwy o gymorth i ofalwyr pobl hŷn
- Galluogi gadael yr ysbyty’n amserol a diogel
Cynnydd Hyd Yma
Mae tîm prosiect mewnol wedi cael ei sefydlu i ddechrau edrych ar y trefniadau comisiynu presennol yn y Gwasanaethau Pobl Hŷn.
Mae Achos Busnes wedi cael ei ddatblygu yn amlinellu’r achos am newid ac wedi’i gytuno gan y Bwrdd Prosiect a Rhaglen Integreiddio Gofal Cymdeithasol ac Addysg ym mis Rhagfyr 2020.
Mae arfarniad dewisiadau llawn o fodelau comisiynu posibl ar gyfer y dyfodol nawr yn mynd rhagddo, yn cynnwys gwerthusiad peilot ar ganlyniadau yn y Tîm Adnoddau Cymunedol Plas Menai yn Llanfairfechan.
Y Camau Nesaf
- Bydd cyfle i ddarparwyr ddod i ddigwyddiad cwrdd â’r prynwr fydd yn cael ei drefnu yn y gwanwyn yn 2021 i drafod cynigion yn fwy manwl.
- Bydd yr hyn sy’n deillio o’r gwerthusiad peilot ar ganlyniadau’n cael ei rannu er mwyn llywio ein cynigion ymhellach.
- Parhau i ymgynghori ac ymgysylltu gyda Darparwyr, Ymarferwyr ac Unigolion sy’n derbyn Gwasanaethau Gofal Cartref.
Rydym eisiau eich sicrhau y bydd y gwasanaethau’n parhau i gael eu comisiynu pa bynnag fodel rydym yn ei weithredu.
Gwneud y mwyaf o Grant Dydd Gŵyl Dewi
Mae’r gronfa hon ar gael i bobl ifanc cymwys rhwng 16 a 25 mlwydd oed sydd naill ai yng ngofal yr awdurdod lleol neu sy’n gadael gofal er mwyn eu helpu i symud tuag at fod yn annibynnol. Eleni, fe wnaethom anfon arolwg i bobl ifanc yn ein gofal, yn gofyn sut yr hoffent wario’r grant. Fe ofynnon nhw bod panel yn cael ei sefydlu i graffu ceisiadau a gyflwynir am y grant, ac o ganlyniad, mae panel wythnosol wedi cael ei greu. Mae’n cynnwys un person ifanc, y rheolwr prosiect a’r rheolwr tîm; mae sawl person ifanc yn cymryd rhan ar sail rota.
Mae’r bobl ifanc ar y panel wedi rhoi cipolwg ar y prosesau meddwl y tu ôl i geisiadau ac wedi ein cefnogi ni i ddeall ceisiadau o’u safbwynt nhw.
Beth oedd yr heriau?
Bu i Covid-19 brofi’n her ddiddorol wrth benderfynu sut y byddai’r panel yn cael ei sefydlu. Ar y dechrau, roeddem wedi rhagweld y byddai pobl ifanc yn mynychu wyneb yn wyneb, fodd bynnag, cyfranogiad digidol oedd yr unig ffordd i symud ymlaen oherwydd y cyfyngiadau cymdeithasol. Mae hyn wedi bod o fantais oherwydd bod pobl yn gallu mynychu, waeth lle maent yn y wlad.
Beth wnaeth ein synnu?
O bosib y syndod mwyaf oedd y lefel o graffu yr oedd pobl ifanc yn ei defnyddio wrth edrych ar geisiadau. Mae enghraifft o hyn mewn perthynas â cheisiadau am werslyfrau; yn y gorffennol rydym wedi awdurdodi prynu gwerslyfrau’n ddi-gwestiwn, fodd bynnag bydd y bobl ifanc yn cymeradwyo gydag argymhellion ychwanegol e.e. i fynd i’r llyfrgell, chwilio am lyfrau ail law, ble i chwilio amdanynt ac ati. Mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac mae’n sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gorau allan o’u hawl Grant Dydd Gŵyl Dewi.
Beth nesaf?
Fel panel, hoffem i hyn barhau. Mae wedi bod yn broses graff iawn ac mae wedi dilysu’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â’r grant. Caiff y lefel hon o gyd-gynhyrchiad ei hategu gan gyfranogiad, fel y’i diffiniwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Llety hyblyg i fyfyrwyr prifysgol a phobl ifanc sy’n nesáu at fod yn annibynnol
Yn 2019 daeth yn amlwg bod diffyg llety i fyfyrwyr prifysgol fyw ynddo yn ystod y gwyliau, yn ogystal â diffyg llety seibiant ar gyfer lleoliadau ‘Pan fydda i’n Barod’. Gall hyn weithiau arwain at ddefnydd amhriodol o westai gwely a brecwast.
Edrychom ar adnoddau o bob rhan o Ewrop, ac yn arbennig yr elfen gynaliadwy o lety uned sengl. Cysylltom â chymdeithasau tai a llwyddom i gysylltu gyda Chartrefi Conwy i fod yn rhan o’u cynllun Passivhaus; mae hyn yn cynnwys wyth o unedau llety i bobl sengl. Mae Tîm yr Ymgynghorydd Personol wedi treialu un uned, yn defnyddio Cronfa Dydd Gŵyl Dewi i brydlesu uned (pod) un ystafell wely ddiogel i bobl gydag anghenion isel sydd ei hangen fel man sefydlog neu ar gyfer seibiant.
Yn gyffrous iawn, mae hwn yn brosiect hynod gynaliadwy gyda gwres yn dod o wres y corff wedi’i ailgylchu yn yr uned. Cafodd yr uned ei hadeiladu gan Creu Menter, cangen o Gartrefi Conwy a sefydlwyd fel menter gymdeithasol.
Dyma rai lluniau o’r pod:
Beth oedd yr heriau?
Unwaith eto, mae pandemig Covid-19 wedi arwain at oedi, sydd wedi effeithio ar y defnydd rydym wedi gallu ei wneud o’r pod. Fodd bynnag, cafodd yr allweddi eu trosglwyddo ar ddechrau mis Chwefror ac mae’r gwaith dodrefnu wedi dechrau yn barod ar gyfer gwyliau’r Pasg.
Beth nesaf?
Mae Grant Dydd Gŵyl Dewi wedi cael ei ddyfarnu ar gyfer y flwyddyn nesaf a hon fydd ein blwyddyn lawn gyntaf o redeg y pod. Rydym yn rhagweld y bydd arbedion ariannol, ochr yn ochr â chynnig lleoliad diogel i bobl ifanc.