Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys ac sy’n derbyn cefnogaeth yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir
Drwy gydol pandemig Covid-19 rydym wedi parhau i gynnal ein safonau uchel o ran darpariaeth gwasanaeth, er iddo gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Mae pob agwedd o ddarpariaeth gwasanaeth wedi parhau, yn cynnwys:
- Ffrydiau gwaith Datblygu Gwasanaethau Plant
- Ymchwiliadau diogelu
- Cyswllt teulu i blant a rhieni sy’n wynebu achosion cyfreithiol
- Asesiadau maethu
- Cynlluniau pontio mabwysiadu
- Cefnogaeth i unigolion sy’n gadael gofal
- Asesiadau oedolion
- Asesiadau iechyd meddwl
- Adolygiadau Amddiffyn Plant a Phlant sy’n Derbyn Gofal
Wrth gwrs roedd elfen ychwanegol o gadw at ganllawiau Covid-19, asesiad risg deinamig o haint Covid-19 a rheoli diogelwch defnyddwyr gwasanaeth a staff, yn ogystal ag addasu ymarfer i wneud y defnydd gorau o dechnoleg.
Rydym wedi datblygu a gweithredu cynlluniau wrth gefn ac ymateb Covid-19 i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud yn ystod y cyfnodau anodd hyn ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Aethom ati i ddatblygu cynlluniau adnewyddu / ymateb yn unol â chanllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Mae’r cynlluniau hyn yn amlinellu beth fydd blaenoriaethau gwasanaethau wrth i ni fynd drwy’r haenau, yn cynnwys dibyniaethau a goblygiadau o ran adnoddau.
Wrth i ni fynd o un cam adnewyddu / ymateb i’r llall, mae’r gwasanaeth yn parhau i fonitro ac ymateb i anghenion oedolion, teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym yn gofyn am adborth rheolaidd gan staff ynglŷn â sut mae’r cynlluniau yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac unrhyw broblemau. Mae’r Uwch Dîm Rheoli Gofal Cymdeithasol yn cynnal goruchwyliaeth ar y cynlluniau hyn ac yn cymeradwyo unrhyw newidiadau lle bo angen (yn cynnwys mewnbwn gan Iechyd a Diogelwch Corfforaethol).
Mae’r Grŵp Adnewyddu Gofal Cymdeithasol yn parhau i gyfarfod yn wythnosol i rannu arferion da a chodi ymholiadau / materion gweithredol i’w huwchgyfeirio i’r Tîm Rheoli Gofal Cymdeithasol a’r Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol lle bo’n briodol. Rydym yn parhau i chwarae rhan fawr yn y Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol i sicrhau bod cysylltiadau rhwng y gwasanaeth a’r Cyngor ehangach yn cael eu rheoli a bod gwybodaeth allweddol yn cael ei rhannu gyda’r gwasanaeth pan fydd ar gael.
Ein hymateb i Covid-19: Cyfarpar Diogelu Personol
Daeth yn amlwg ar ddechrau pandemig Covid-19 y byddai angen i ni roi trefniadau ar waith i sicrhau bod nifer fawr o Gyfarpar Diogelu Personol ar gael i’n darparwyr gofal cymdeithasol ac ysgolion. Ar ddiwedd mis Chwefror, sefydlwyd a gweithredwyd llinell ffôn ac e-bost penodol gan weithwyr a adleoliwyd o swyddi eraill o fewn CBSC. Roeddent yn brysbennu’r holl geisiadau am Gyfarpar Diogelu Personol ar sail achosion unigol ac yn trefnu i’w danfon fel rhan o wasanaeth 24 awr.
Ar y dechrau, roedd cyflenwadau o Gyfarpar Diogelu Personol yn isel ac roedd danfoniadau drwy’r gadwyn gyflenwi genedlaethol yn anrhagweladwy, felly roedd angen trefnu cynlluniau wrth gefn a rhoi systemau rheoli stoc ar waith. Wrth i nifer yr achosion o’r feirws gynyddu, gwnaed newidiadau allweddol i reoliadau, ac yn ystod penwythnos y Pasg 2020 cynhaliwyd ymarfer i ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i bob darparwr yn y sir. Roedd hyn yn cyd-fynd ag archwiliad a gynhaliwyd gan y Fyddin a oedd yn hynod gadarnhaol am y dull yr oedd gennym ar waith.
Ar ôl adolygu ein harferion gwaith, gwnaethom newid y dull hwnnw er mwyn ymateb i’r sefyllfa a oedd yn datblygu’n barhaus, gan newid i brosesau archebu a cheisiadau wythnosol, sicrhau bod anghenion ein cleientiaid Taliadau Uniongyrchol yn cael eu diwallu, a chynnwys cydweithwyr o’n gwasanaeth cartref mewnol i oruchwylio a chynorthwyo â’r broses ddosbarthu.
Roedd ein gweithrediadau wedi datblygu ymhellach erbyn yr haf 2020:
- Cafodd rôl dros dro ein swyddog Cyfarpar Diogelu Personol ei chreu’n ffurfiol
- Gwelodd ein llinell gyngor / ymholiadau ostyngiad o ran galw a chafodd ei throsglwyddo i’n tîm Un Pwynt Mynediad ar gyfer y cyhoedd
- Cynhaliwyd ail archwiliad gan y Fyddin a oedd, unwaith eto, yn gadarnhaol iawn am ein rheolyddion ac arferion gwaith
- Symudwyd gweithrediadau i Barc Masnach Mochdre ym mis Awst
- Estynnwyd ein cwmpas o ran cyflenwi a dosbarthu i gynorthwyo ag ailagor ysgolion a lleoliadau gofal plant
- Wrth i ganolfannau hamdden ailagor, bu i yrwyr gofal cymdeithasol gymryd lle gyrwyr Gwasanaethau Hamdden
Erbyn diwedd 2020, roeddem yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol i:
- Bob darparwr gofal cymdeithasol, yn cynnwys cartref, preswyl a nyrsio, byw â chymorth a chynlluniau Tai Gofal Ychwanegol (mewnol ac allanol)
- Gofalwyr a chleientiaid Taliadau Uniongyrchol
- Pob tîm gofal cymdeithasol, p’un ai ydynt yn darparu gofal uniongyrchol neu anuniongyrchol
- Holl wasanaethau ysgolion ac ysgolion arbennig, yn cynnwys gwasanaethau cerdd a gweithgareddau awyr agored
- Pob gofalwr plant a phob darpariaeth gofal dydd, yn cynnwys ar ôl ysgol
- Unrhyw un arall mewn angen! Mae cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ddarparu i gofrestrwyr ar gyfer priodasau ar wely angau, i gydweithwyr Iechyd a Diogelwch, ac rydym wedi cefnogi mentrau eraill megis dosbarthu a chasglu iPads.
Roeddem hefyd yn dosbarthu Profion Llif Unffordd i dimau gofal cartref.
Wrth i ni fynd i mewn i’r flwyddyn newydd roedd angen datblygu ymhellach, sy’n golygu bod cydweithwyr o feysydd gwasanaeth eraill wedi ymuno â ni.
- Mae ein Gwasanaeth Safonau Ansawdd wedi dod â chefnogaeth ychwanegol i mewn i reoli’r broses archebu.
- Mae cefnogaeth ychwanegol ar gyfer pacio a dosbarthu gan gydweithiwr sydd fel arfer yn gweithio yn Theatr Colwyn.
- Mae aelod newydd o’r Gwasanaeth Addysg wedi ymuno â’r tîm i oruchwylio ac esmwytho’r broses, gan ddarparu trefniadau rheoli risg i ysgolion.
- Rydym nawr yn rheoli stoc y pecynnau profi ac yn eu dosbarthu.
- Rydym yn parhau i gefnogi dosbarthiad / casgliad iPads i / o gartrefi gofal ochr yn ochr â’n tîm comisiynu. Mae hyn wedi helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd.
Hyd yma, rydym wedi dosbarthu 1.7 miliwn pâr o fenyg, 1.6 miliwn o fygydau, 1.6 miliwn o ffedogau, 29,000 pâr o gogls ailddefnyddiadwy a 17,000 o fisorau.
Trwy ein dull hyblyg, byddwn yn parhau i ddarparu cymorth ar ffurf Cyfarpar Diogelu Personol wrth i bandemig Covid-19 ddatblygu, gan ymateb i angen yn ôl y gofyn.
Sefydlu ein Canolbwynt Staffio
Roedd yn amlwg o ddifrifoldeb cynyddol y pandemig y byddai’n rhaid i ni roi mesurau ychwanegol ar waith i gasglu data ynglŷn ag absenoldeb staff, sicrhau bod gennym ddigon o staff cyflenwi i ddarparu gwasanaethau rheng flaen a chynyddu gwytnwch os byddai achos o’r coronafeirws yn codi.
Sefydlwyd Canolbwynt Staffio, yn cynnwys cydweithwyr o dimau Cymorth i Fusnesau amrywiol i fonitro gweithgarwch, gwneud adroddiadau a darparu cymorth i reolwyr i gofnodi data cywir. Rhoddwyd i’r canolbwynt tasgau canlynol:
- Rheoli’r broses adleoli er mwyn caniatáu i staff Conwy drosglwyddo dros dro o un adran i adran arall i ddarparu cymorth. Roedd hyn yn cynnwys derbyn ceisiadau adleoli gan wasanaethau a pharu a chefnogi staff yn briodol drwy’r broses.
- Rheoli’r broses o gofnodi absenoldebau.
- Derbyn, monitro, dadansoddi a gweithredu ar wybodaeth a data gweithlu dyddiol.
- Ymateb i bryderon y gweithlu sy’n codi o’r sector gofal cymdeithasol.
Drwy gyfranogiad y canolbwynt, roeddem yn gallu sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol drwy:
- Sicrhau cywirdeb o ran cofnodi pryd oedd cydweithwyr yn dechrau cyfnodau o hunan-ynysu ac yna dychwelyd i’r gwaith.
- Annog rheolwyr i gynnal gwiriadau lles cyn i’w stad ddychwelyd i’r gwaith.
- Gallu adrodd yn gywir ar nifer y staff oedd ar gael ar unrhyw ddiwrnod.
Beth oedd yr heriau?
Sicrhau bod staff yn hollol barod ac wedi’u cefnogi wrth adleoli, yn enwedig os nad oeddent yn cyflawni rôl ym maes gofal cymdeithasol. Bu i ni liniaru hyn drwy ddarparu adnoddau hyfforddi ar-lein er mwyn i staff ar y rhestr adleoli allu ymgyfarwyddo â beth allai fod yn ofynnol ohonynt, pe baent yn cael eu rhoi mewn rôl gofal yn y cartref neu gartref gofal ar fyr rybudd.
Beth nesaf?
Oherwydd llwyddiant y canolbwynt o ran cywirdeb data, cynigir canoli’r gwaith o fewnbynnu a monitro absenoldeb ar sail barhaol.
Llunio cynllun dysgu a chymorth i staff a adleoliwyd
Datblygwyd y Cynllun Dysgu Craidd ar gyfer staff mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gefnogi adleoliad staff i feysydd gwasanaeth hanfodol. Rhoddwyd y modiwlau dysgu canlynol ynghyd fel ymateb gofynnol i effaith Covid-19 ar y gweithlu. Roedd y modiwlau ar gael ar-lein oherwydd bod hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi cael ei atal. Y meysydd pwnc allweddol oedd:
- Gofal: Yr Hanfodion
- Cymorth Cyntaf Sylfaenol
- Hylendid Bwyd
- Rheoli Haint
- Diogelu
Mae’r pecyn hyfforddiant craidd yn cymryd oddeutu pedair i bump awr i’w gwblhau.
Yn ychwanegol at y modiwlau dysgu, gwnaethom ddarparu sesiynau briffio ar-lein i staff i’w paratoi ar gyfer adleoli; roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar:
- Beth allai staff ei wynebu mewn lleoliadau gofal
- Sut i ddelio â sefyllfaoedd amrywiol
Beth oedd yr heriau?
Roedd yn rhaid i ni sicrhau bod staff yn gymwys i fynd i sefyllfa waith lle’r oedd Covid-19 yn bresennol. Roedd hefyd yn heriol i symud o ddibyniaeth ar hyfforddiant wyneb yn wyneb i ddysgu dros y we.
Beth nesaf?
O ganlyniad i’r gwaith hwn, mae ein rhaglen ddysgu ar gyfer 2021-22 yn rhaglen gymysg yn cynnwys:
- Iechyd a diogelwch hanfodol a gyflwynir wyneb yn wyneb
- E-Ddysgu
- Rhith-ddysgu
Arweiniodd y dull cymysg hwn at wneud ein rhaglen ddysgu yn fwy hygyrch i weithwyr o ardaloedd daearyddol gwahanol.
Defnyddio staff banc i gefnogi ein cartrefi preswyl
Mae’r pandemig wedi creu prinder annisgwyl o weithwyr gofal mewn cartrefi gofal ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd cydnabod y risg sylweddol hon yn golygu ein bod yn gallu lliniaru yn erbyn amhariad difrifol i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal.
O dan drefn lywodraethol Bwrdd Gweithlu Gogledd Cymru, cytunodd yr awdurdodau lleol a BIPBC, drwy femorandwm o ddealltwriaeth, i ddefnyddio staff banc BIPBC ar sail beripatetig i gefnogi gwytnwch cartrefi gofal. Dim ond mewn achos o risg uchel o fethiant cartref gofal i barhau i ddarparu gofal oherwydd amgylchiadau’n ymwneud â Covid-19, y byddai’r gweithlu hwn yn cael ei ddefnyddio.
Pan gyrhaeddodd nifer yr achosion Covid-19 uchafbwynt yng Ngogledd Cymru yn y cyfnod rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr, daeth cynaliadwyedd gweithlu’r cartref gofal yn risg sylweddol i awdurdodau lleol y rhanbarth a BIPBC. Roedd y trefniadau ffurfiol hyn o gymorth i osgoi methiant posibl cartrefi gofal, a fyddai wedi gallu arwain at orfod symud preswylwyr.
Gweithredodd Conwy fel awdurdod lleol arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru wrth weithio gyda BIPBC i sefydlu’r trefniadau hyn.
Beth oedd yr heriau?
Wrth ystyried dewisiadau i ddarparu staff banc o BIPBC i gartrefi gofal, nodwyd nifer o faterion allweddol i’w datrys:
- Cytuno ar delerau ac amodau eglur a thryloyw i unrhyw weithiwr banc BIPBC gadw atynt wrth weithio mewn cartref gofal
- Gwiriadau cyflogaeth diogel ar gyfer gweithlu’r banc, i’r un safon ag unrhyw weithiwr arferol
- Trefniadau llywodraeth staff sy’n cael eu lleoli mewn cartrefi gofal
- Sicrhau bod staff banc wedi’u paratoi ar gyfer gweithio mewn lleoliad gofal
Aethpwyd i’r afael â’r datrysiadau i’r heriau hyn yn y Memorandwm o Ddealltwriaeth ar y cyd ac atodiadau ategol, a chawsant eu cymeradwyo gan y budd-ddeiliaid canlynol:
- Arweinwyr Cronfa Risg Cymru
- Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pob awdurdod yng Ngogledd Cymru
- BIPBC
Beth nesaf?
Mae’r gwaith hwn wedi amlygu beth all gael ei gyflawni drwy gymorth cydfuddiannol a chydweithio. Mae cyflenwad gweithlu i ofal cymdeithasol ac iechyd yn fater parhaus. Y camau nesaf i’w harchwilio yw:
- Datblygu cyd-fanc staff iechyd a gofal cymdeithasol
- Cyd-raglenni cyflwyno, dysgu a datblygu ar gyfer staff banc
Prosiect Adnewyddu Gwasanaeth
Ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, mae staff gofal cymdeithasol Conwy wedi bod yn gweithio saith diwrnod yr wythnos i sicrhau ein bod wedi ymateb yn briodol i’r heriau amrywiol sydd wedi codi. Mae proses lywodraethu gadarn wedi bod ar waith i sicrhau bod Conwy wedi cael llais mewn fforymau rhanbarthol, a galwadau dyddiol gyda’r adran Iechyd a chydweithwyr partneriaeth eraill i sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu ar bob lefel o ddatblygiad.
Mae’r holl brosesau gweithredol wedi cael eu datblygu’n defnyddio asesiadau risg, ac mae perthynas waith agos gyda’r adran Iechyd a Diogelwch corfforaethol i sicrhau ein bod wedi ystyried pob agwedd bosibl. Mae cyfarfodydd tîm dros y we wedi cael eu cynnal yn amlach (wythnosol) i gefnogi lles busnesau ac ymarferwyr. Ni ddaeth gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i ben yng Nghonwy o ganlyniad i COVID-19, ac mae Conwy’n falch iawn o hynny.
Mae Grŵp Adnewyddu Gofal Cymdeithasol wedi cael ei sefydlu i adolygu’r swyddogaethau / gweithgareddau allweddol o fewn Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Phlant a Theuluoedd). Fel rhan o hyn, mae dadansoddiad gweithlu cyfan wedi cael ei gynnal i gadarnhau pa wasanaethau sydd wedi parhau i gael eu darparu neu ba rai sydd wedi dod i ben, a sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu yn y dyfodol.
O’r dadansoddiad hwn rydym wedi llwyddo i nodi sut mae gwasanaethau wedi gallu parhau i gyflawni rhai swyddogaethau a herio os gellid cynnwys arferion gwaith newydd fel rhan o waith arferol.
Rydym wedi bod wrthi’n gweithio ar ddatblygu cynlluniau adnewyddu yn unol â llwybr goleuadau traffig Llywodraeth Cymru. Mae’r cynlluniau hyn yn amlinellu beth fydd blaenoriaethau gwasanaethau wrth i ni symud ar hyd y llwybr goleuadau traffig, yn cynnwys dibyniaethau a goblygiadau o ran adnoddau.
Wrth i ni fynd o un cam adnewyddu i’r llall, mae’r gwasanaeth yn parhau i fonitro ac ymateb i anghenion yr oedolion, teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym yn gofyn am adborth rheolaidd gan staff ynglŷn â sut mae’r cynlluniau yn cael eu gweithredu yn ymarferol ac unrhyw broblemau sy’n codi. Mae’r Uwch Dîm Rheoli Gofal Cymdeithasol yn cynnal goruchwyliaeth ar y cynlluniau hyn ac yn cymeradwyo unrhyw newidiadau lle bo angen.
Mae’r Grŵp Adnewyddu Gofal Cymdeithasol yn parhau i gyfarfod yn wythnosol i rannu arferion da a chodi ymholiadau / materion gweithredol i’w huwchgyfeirio i’r Tîm Rheoli Gofal Cymdeithasol a’r Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol lle bo’n briodol.
Mae gofal cymdeithasol Conwy yn parhau i chwarae rhan fawr yn y Rhaglen Adnewyddu Corfforaethol i sicrhau bod cysylltiadau rhwng y gwasanaeth a’r Cyngor ehangach yn cael eu rheoli a bod gwybodaeth allweddol yn cael ei rhannu gyda’r gwasanaeth pan fydd ar gael.
Adborth ar ein gwasanaethau cartrefi gofal a chartref mewnol
Ar ddechrau 2020, fe wnaethom anfon cyfres o holiaduron i staff ac i’r timau sy’n gweithio ochr yn ochr â ni o’r adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gweler cipolwg o’r canlyniadau isod.
Gofynnom i staff sy’n gweithio yng nghartref preswyl EMI Llys Elian roi eu barn ar eu profiad o weithio yno, a dweud sut y byddent yn sgorio’r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu. Ar y cyfan, cawsom ymateb cadarnhaol, gyda 94% o’r ymatebwyr yn rhoi sgôr o bedwar neu bump allan o bump i’w gwasanaeth.
Mae’r staff yn trin bob preswylydd fel unigolyn, yn ogystal â’u trin fel petaent yn aelod o’u teulu.
Gweithiwr Llys Elian
Mae’r staff yn teimlo bod ganddynt berthynas dda gyda’u rheolwyr, ac mae 100% o ymatebwyr yn credu bod eu cyfraniad yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth i’r unigolion y maent yn eu cefnogi.
Rwy’n teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i unigolion ac rwyf wrth fy modd yn eu gweld yn gwenu.
Gweithiwr Llys Elian
Gofynnom i’r timau sy’n gweithio gyda Llys Elian, o’r awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd, cymdeithas tai ac eraill i ddarparu adborth o safbwynt cwsmer. Dywedodd 94% o’r ymatebwyr bod y gwasanaeth yn ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’ o ran ymateb i ymholiadau yn brydlon ac roedd yr un canran o’r ymatebwyr yn cytuno bod staff Llys Elian yn gwrtais pan oeddent yn cysylltu â nhw.
Roedd 100% o’r ymatebwyr yn cytuno bod ein staff yn gymwys wrth ddelio ag ymholiadau, a’u bod yn ymateb yn brydlon a phriodol pan oedd pryderon am unigolion yn cael eu codi.
Mae’r gofal a’r cymorth a ddarperir yn arbennig. Mae pawb yn derbyn gofal a chefnogaeth o’r lefel uchaf.
Mae pawb yn canolbwyntio ar gynhyrchu’r canlyniad gorau posibl i’r holl bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Mae’r patrwm sifft yn llyfn a’r broses drosglwyddo o safon gan weithwyr proffesiynol sy’n gofalu am les staff a phreswylwyr.
Gofynnom i staff sy’n gweithio yn ein gwasanaethau gofal cartref mewnol i bobl hŷn am adborth ar eu profiadau. Rhoddodd 89% o’r ymatebwyr sgôr o bedwar neu bump allan o bump i’w gwasanaeth, ac roedd y sylwadau ategol yn gadarnhaol iawn.
Rydw i’n credu ein bod yn darparu gwasanaeth gofal da iawn. Mae gennym gefnogaeth wych gan ein rheolwyr sy’n ein galluogi ni i gyflawni ein gwaith hyd eithaf ein gallu. Rydym yn derbyn hyfforddiant yn gyson er mwyn cadw ein sgiliau’n gyfredol ac mae ein gwasanaeth yn cynnig hyblygrwydd da iawn …..mae gennym dîm da o unigolion sy’n gallu cynnig sicrwydd a gofal effeithiol.
Rydw i’n teimlo ein bod fel tîm yn gwneud gwaith ardderchog wrth ddarparu gwasanaeth gofalgar a thrugarog. Mae llawer o fy nghydweithwyr yn mynd tu hwnt i’w swydd-ddisgrifiad yn y cyfnod heriol hwn i sicrhau lles ein cleientiaid.
Dywedodd y cohort hwn o staff bod technoleg yn faes y gellid ei wella. Dylid nodi, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, rydym wrthi’n darparu’r ffonau clyfar diweddaraf i staff sy’n gweithio’n y gymuned, yn lle’r dechnoleg sydd bellach wedi dyddio. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o roi mwy o fynediad i hyfforddiant ar-lein i staff cymunedol a dyfeisiau i hwyluso hyn.
Gofynnwyd i’r timau sy’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm gofal cartref i bobl hŷn am adborth ar eu perfformiad. Dywedodd 94% o’r ymatebwyr bod y gwasanaeth yn ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’ o ran ymateb i ymholiadau yn brydlon ac roedd 100% o’r ymatebwyr yn cytuno bod y staff yn gwrtais pan oeddent yn cysylltu â nhw. Roedd 100% yn cytuno bod pryderon ynglŷn ag unigolion yn defnyddio’r gwasanaeth yn cael eu trin yn brydlon ac yn briodol, a bod unigolion yn cael eu cadw’n ddiogel a bod eu lles yn cael ei gefnogi yn ystod y pandemig.
Mae’r tîm gofal ailalluogi yn dîm da iawn ond yn anffodus, mae’r galw’n fwy na’r argaeledd. Tîm ardderchog sy’n darparu gwasanaeth hanfodol.
Rydym yn hapus iawn gyda’r gwasanaeth gofal cartref mewnol ac rydym bob amser wedi bod â pherthnasau gwaith ardderchog gyda’r tîm a’u rheolwyr.
Gofynnwyd hefyd i staff o dîm mewnol anableddau am adborth ar eu gwasanaeth. Rhoddodd 96% o’r ymatebwyr sgôr o bedwar neu bump allan o bump i’w gwasanaeth, ac roedd y sylwadau ategol yn gadarnhaol iawn.
Mae’r gwasanaeth yn rhagweithiol iawn, yn ogystal â bod yn ymatebol pan fo angen. Mae’r staff i gyd yn gweithio’n dda fel tîm ac maent wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau yn ystod y pandemig i sicrhau bod anghenion cymorth ac emosiynol defnyddwyr gwasanaeth a staff yn cael eu diwallu.
Roedd 100% o’r ymatebwyr yn teimlo bod eu cyfraniad yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth i’r unigolion y maent yn eu cefnogi gyda sylwadau ategol yn amlygu’r grym y mae staff yn ei deimlo wrth allu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Rhoddodd lawer enghreifftiau o’r cymorth yr oeddent yn falch o’i ddarparu, lle’r oedd y canlyniad gorau posibl wedi’i gyflawni ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth.
[Y rhan orau o fy swydd yw] gweld unigolyn yn magu hyder ac yn gallu byw ar eu pen eu hunain. Dod yn annibynnol a gallu cyfrannu i’r gymuned leol.
Dangosodd adborth a gafwyd gan gydweithwyr yn y gwasanaeth anableddau ehangach bod 100% o’r ymatebwyr wedi dweud bod y gwasanaeth mewnol yn ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’ ym mhob maes. Unwaith eto, roedd yr adborth a gafwyd yn canmol gallu’r tîm i addasu yn ystod y pandemig, a pharhau i gynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r unigolion y maent yn eu cefnogi.
Bod yn hyblyg a’r gallu i addasu sy’n allweddol i allu’r tîm hwn i ddarparu gwasanaeth mor dda yn ystod y cyfyngiadau Covid hyn. Mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar yr unigolyn, o’r rheolwyr i’r staff yn y gymuned.
Yn frwd dros roi gofal a diwallu anghenion y cleientiaid bob amser.
Cefnogi gofalwyr maeth Conwy yn eu rôl
Mae ein gofalwyr maeth yn darparu gwasanaeth gwerthfawr, gan roi amgylchedd diogel a meithringar mewn lleoliadau tymor byr a hirdymor i blant a phobl ifanc yng Nghonwy. Ym mis Rhagfyr 2020, gofynnom i’n gofalwyr maeth rannu eu profiadau gyda ni, drwy arolwg electronig. Darparodd 43 o ymatebwyr adborth gwerthfawr am y gwasanaeth maethu, y gefnogaeth y maen nhw’n ei derbyn i gyflawni eu rôl, a dulliau cyfathrebu drwy gydol y pandemig.
O’r gofalwyr maeth a ymatebodd, roedd 76% ohonynt o’r farn bod y gwasanaeth maethu yn darparu cefnogaeth ddigonol i’w teulu i gyflawni eu dyletswyddau maethu.
Mae lefel y gefnogaeth yr wyf yn ei chael wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydw i’n teimlo fel fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda yn fy rôl gan fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol.
Gofalwr maeth
Yn bennaf, nododd y rhan fwyaf o ofalwyr maeth (91%) eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol o ran goruchwyliaeth dros y we yn ystod y pandemig, gyda 29% yn hapus i barhau gyda chyfarfodydd ar-lein yn unig, a 70% pellach yn dewis cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb a dros y we.
Mae cyfarfodydd dros y we yn arbed amser ac yn gallu ffitio i mewn i ddiwrnod prysur gofalwr maeth yn haws.
Gofalwr maeth
Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod gofalwyr cymdeithasol yn ymweld â’r cartref i sicrhau lles y gofalwyr maeth a’r bobl ifanc sy’n byw yn y cartref.
Gofalwr maeth
Roedd gweld bod 93% o ofalwyr maeth wedi rhoi sgôr o 4 neu 5 seren am eu profiad cyffredinol gyda’r tîm yn galonogol iawn i’r gwasanaeth maethu, ynghyd ag adborth cadarnhaol a diolchiadau i aelodau tîm unigol am eu cefnogaeth. Byddwn yn rhannu’r holl sylwadau gyda’r tîm ac yn edrych ar sut y gallwn wella ein cynnig i ofalwyr maeth i sicrhau eu bod yn parhau i weithio gyda ni.
Gwobr Gofalwn Cymru
Roedd gwobr Gofalwn Cymru yn wobr newydd yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2020, yn canolbwyntio ar weithwyr gofal unigol yng Nghymru sydd ag effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Roedd pob unigolyn a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi dangos proffesiynoldeb ac ymroddiad yn eu rolau, ond un o ofalwyr maeth Conwy, Sandra Stafford, ddaeth i’r brig.
Cafodd Sandra ei henwebu am y wobr gan weithwyr cymdeithasol yn ein tîm maethu a roddodd asesiad o’i rhinweddau.
Mae Sandra a’i gŵr Mark yn ofalwyr maeth eithriadol sy’n dangos ymrwymiad, angerdd a gofal o safon uchel yn gyson i bob un o’r plant maen nhw wedi gofalu amdanynt ers 2001. Maent yn gofalu am blentyn ag anableddau cymhleth a hyd heddiw, mae’r plentyn yn parhau i syfrdanu pawb o’i chwmpas ac yn gwneud cynnydd rhyfeddol.Mae Sandra, fel y prif ofalwr, yn wynebu heriau dyddiol fel y mae’n sicrhau ei bod yn bodloni anghenion corfforol ac emosiynol y plentyn, mae’n mynychu apwyntiadau meddygol a chyfarfodydd, yn ogystal â chefnogi a hyrwyddo cyswllt gyda’r teulu biolegol. Mae’n gwneud i bopeth edrych mor ddiymdrech, er y diffyg cwsg. Mae Sandra a Mark yn darparu mwy nag amgylchedd cartref diogel a chariadus i’r plentyn, mae’n cael ei derbyn ac yn cael cyfleoedd i fwynhau pob eiliad mewn bywyd a chyflawni ei photensial llawn.
Datblygiadau’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Rydym wedi ailedrych ar y mwyafrif o’r polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â’n gwaith statudol a’r pump o safonau cenedlaethol a osodwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd hon yn fenter sylweddol a ysgogwyd pan gynhaliwyd yr hunanasesiad o’r safonau cenedlaethol
Gweler isod restr o’r gwaith a wnaed drwy grwpiau tasg a gorffen ers mis Ebrill 2020; mae hyn yn cyd-fynd â’r newidiadau a wnaed i ddarpariaeth gwasanaeth oherwydd pandemig Covid-19.
- Polisi cyflwyno newydd gyda phroses ar gyfer staff newydd a phresennol a chydweithwyr, yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau yn ymwneud â’r gofynion statudol a’r rhai a osodwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid:
- Diwygio polisi a gweithdrefn Oedolyn Priodol
- Adolygu datrysiadau y Tu Allan i’r Llys
- Adolygu a diwygio gweithdrefnau cerdyn melyn
- Ailgyflwyno contractau ABC gydag ein swyddog heddlu ar secondiad fel haen ataliol arall i rwystro plant rhag cael eu troseddoli ac i leihau’r posibilrwydd o fynd i wasanaethau cyfiawnder troseddol statudol
- Cydymffurfio â pholisi a gweithdrefnau Diogelu Cymunedol
- Cynhyrchu polisi gofalu i sicrhau bod mesurau cadarn mewn lle i graffu ar yr holl drosglwyddiadau
- Proses Gorchymyn Atgyfeirio
- Polisi a phroses Adolygu Risg Uchel
- Polisi a phroses Gorchymyn Cadw a Hyfforddi
- Polisi a phroses Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid
- Gweithdrefnau ynglŷn â thor-rheolau yn cynnwys amserlenni manwl yn erbyn safonau cenedlaethol
- Prosesau llys ar gyfer achosion llys ar ddyddiau’r wythnos a dydd Sadwrn a chreu pecyn llys
- Cyflwyno newyddlen i roi trosolwg o ddatblygiadau gwasanaethCyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth yn natblygiad a chyhoeddiad taflenni ar gyfer meysydd allweddol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Beth oedd yr heriau?
Trefnu a dosbarthu rheolwyr a staff i grwpiau tasg a gorffen gydag amserlenni i fodloni terfynau amser ar y 15 maes uchod. Er i’r pandemig achosi anawsterau gyda bodloni mesuryddion perfformiad gwasanaeth, roeddem yn gallu adleoli staff i gynorthwyo mewn mannau eraill a rhoi amser i ddatblygu ein maes gwasanaeth ein hun (gweler mwy o wybodaeth isod).
Beth nesaf?
- Llunio a chytuno ar gytundeb lefel gwasanaeth gydag Awdurdod Lleol Sir Ddinbych i ddarparu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, lle mae Conwy’n darparu ac yn cyflwyno i Sir Ddinbych drwy’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda ffi reoli ac i Gonwy oruchwylio’r gwasanaeth yn ei gyfanrwydd
- Caffael i brynu system TG newydd yn lle’r system / cronfa ddata Care-Works bresennol
- Edrych ar broses bontio gyfannol i blant sy’n troi’n oedolion i sicrhau bod ganddynt y gwasanaethau statudol, ataliol a thrydydd sector mewn lle cyn trosglwyddo o’n gwasanaeth i feysydd eraill
- Proses sefydlu i blant a theuluoedd sy’n mynd drwy’r drefn warchodol, yn cynnwys iaith.
- Byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd creadigol i ymgysylltu â’r gymuned i’w cefnogi er mwyn iddynt weld ein bod yn malio a hefyd er mwyn i’n plant a phobl ifanc gyflawni gwaith sy’n dangos eu gwerth iddyn nhw eu hunain ac eraill. Mae’r pandemig wedi cyflwyno cyfleoedd i edrych ar ffyrdd gwahanol o ymgysylltu â’r gymuned a’r plant a’r teuluoedd sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
- Rydym hefyd wedi llunio achos busnes am gyllid drwy ddwy ffrwd i gael 21 o ddyfeisiau llechen er mwyn ein galluogi ni i ymgysylltu dros y we, ac edrych ar sut i gael mwy o gyfranogiad gan ddefnyddwyr i ddatblygu’r gwasanaeth.
- Rydym hefyd yn gweithio ar broses sy’n cynorthwyo ac yn cymell ein gwasanaeth i gynnal sgyrsiau lles gyda phlant a theuluoedd sydd ar gau i’n gwasanaeth bob tri, chwech, naw a deuddeg mis. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi ni i gyfeirio, cynnig ymyriadau atodol a throsglwyddo lle bo angen. Mae hyn yn cefnogi atal a chyfle pellach i drosglwyddo lle nodir hyn.
Adleoli aelodau tîm y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Llwyddom i adleoli staff i feysydd gwahanol yn yr adran yn ystod y pandemig:
- Treuliodd dri aelod o staff 60% o’u hamser yng nghartref plant Glan yr Afon oherwydd eu bod yn cael trafferthion staffio o ganlyniad i achosion Covid-19 yn y lleoliad.
- Gweithiwr cymdeithasol gyda phrofiad blaenorol yn y gwasanaeth i gefnogi cynnydd mewn ymholiadau ac ymchwiliadau A47.
- Cefnogodd y Rheolwr Gwasanaeth y Tîm Dyletswydd Argyfwng a darparodd lwybr llety argyfwng o fis Ebrill i fis Medi 2020, gydag ychwanegiadau ac addasiadau llety i liniaru risg y pandemig.
Beth oedd yr heriau?
Cydbwyso anghenion y gwasanaeth tra’n sicrhau ein bod yn darparu cymorth manwl a chyson i gydweithwyr mewn meysydd eraill. Roedd yn rhaid i ni addasu i feysydd gwasanaeth newydd, gan geisio mapio gweithrediadau drwy ganllawiau Arolygiaeth Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a chanllawiau’r gwasanaeth.
Mabwysiadau Cod Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru
Daeth Cod Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru yn weithredol ar 1 Ebrill 2020. Mae’r fframwaith yn cynnwys set newydd o fesurau perfformiad cenedlaethol sy’n disodli ein dangosyddion perfformiad blaenorol. Er mwyn i ni allu mabwysiadu’r fframwaith newydd, rydym wedi cyflawni gwaith ar ein systemau rheoli cleientiaid er mwyn caniatáu i ni gasglu ac adrodd ar y wybodaeth yn ôl yr angen. Mae gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo.
Beth oedd yr heriau?
Rydym wedi wynebu nifer o heriau fel tîm mewn perthynas â gweithredu’r fframwaith newydd. Dim ond ar 31 Mawrth 2020 y cafodd y gwaith papur terfynol i gefnogi’r gweithrediad ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, i’w ddefnyddio o 1 Ebrill 2020. Roedd hi’n 27 Tachwedd 2020 erbyn i ganllawiau ffurfiol pellach ynglŷn â’r diffiniadau ar gyfer y 105 mesur newydd gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae Covid-19, wrth gwrs, wedi cyfyngu rhai o’n ffyrdd arferol o weithio ond rydym, ar y cyfan, wedi gallu symud ymlaen â’r gweithrediad.
Beth nesaf?
Oherwydd yr heriau rydym wedi’u hwynebu dros y deuddeg mis diwethaf, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ymarferoldeb technegol y system newydd o ran adrodd ar y mesurau newydd. Rydym wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad oes gofyniad i adrodd yn erbyn y Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd ar gyfer 2020/21. Felly, ein ffocws yw sicrhau bod y system yn barod ar gyfer adrodd yn 21/22.
Oherwydd yr heriau rydym wedi’u hwynebu dros y deuddeg mis diwethaf, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ymarferoldeb technegol y system newydd o ran adrodd ar y mesurau newydd. Rydym wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru nad oes gofyniad i adrodd yn erbyn y Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd ar gyfer 2020/21. Felly, ein ffocws yw sicrhau bod y system yn barod ar gyfer adrodd yn 21/22.