Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni beth sydd o bwys iddyn nhw.
Panel Dysgwyr Diamddiffyn
Sefydlwyd y Panel Dysgwyr Diamddiffyn ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth fel partneriaeth rhwng gwasanaethau Addysg a Gofal Cymdeithasol, i ganfod cefnogaeth i blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod clo. Buan iawn y datblygodd yn grŵp aml-asiantaeth effeithiol i rannu gwybodaeth, dod o hyd i leoedd ysgol a gofal plant i ddysgwyr, a dewisiadau amgen i daliadau banc Prydau Ysgol am Ddim i deuluoedd lle bo angen. Pan ail-agorwyd yr ysgolion, bu i’r panel addasu i ddod o hyd i gyfleoedd chwarae a seibiant i blant a phobl ifanc dros wyliau’r haf, a dechreuodd gyfarfod yn wythnosol eto pan gaewyd yr ysgolion ym mis Ionawr 2021.
O ganlyniad i’r panel, roeddem yn gallu:
- Sicrhau cysondeb o ran mynediad i blant a oedd angen lle mewn ysgol neu ofal plant.
- Agor darpariaeth fel mesur ataliol i deuluoedd a oedd mewn perygl o chwalu.
- Cysylltu gyda’r Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc ynghylch dysgwyr nad oeddent o reidrwydd yn hysbys i’w hysgolion fel dysgwyr diamddiffyn.
- Nodi’r ffynhonnell gyllid orau ar gyfer lleoliadau gofal plant.
- Ymgysylltu gyda theuluoedd nad oedd yn ymateb i gynigion gan eu hysgolion.
- Cynnig lleoedd i blant a phobl ifanc diamddiffyn mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant.
- Gwella cyfathrebu rhwng Timau Gofal Cymdeithasol ac Addysg ar lefel weithredol a strategol.
Cynhaliwyd panel ar wahân ond ar yr un pryd rhwng gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Adran Addysg, y Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc (Iechyd) a Gwasanaeth Anableddau’r Adran Gofal Cymdeithasol. Fel yr uchod, bu i’r panel aml-asiantaeth ddefnyddio’r llwyfan hwn i rannu gwybodaeth, dod o hyd i leoedd ysgol i ddysgwyr a chydweithio i ddatblygu pecynnau pwrpasol ar gyfer unigolion gydag anghenion cymhleth.
Beth oedd yr heriau?
Fe wnaethom wynebu rai heriau ar y dechrau wrth ddiffinio ‘diamddiffyn’ a pha ddysgwyr ddylai gael blaenoriaeth, ond fe wnaeth y cyfarfodydd panel wythnosol a’r wybodaeth a ddarparwyd drwy’r broses atgyfeirio ein galluogi ni i ddod o hyd i ddatrysiadau. Roeddem yn gallu defnyddio adnoddau eraill megis cyngor gan dimau cefnogi Addysg a Chanolfannau Teuluoedd, a chael mynediad at grantiau a chyfarpar i deuluoedd.
Beth nesaf?
Cytunodd y Panel Dysgwyr Diamddiffyn bod hwn yn fforwm gwerthfawr ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Bydd y Panel yn parhau i gyfarfod, ac mae’n hyblyg o ran cynyddu amlder y cyfarfodydd os bydd cyfnodau pellach o gau ysgolion.
Rhoi llais i blant yn eu hadolygiad
Rydym wedi parhau i gynnal adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal yn ystod y pandemig, sydd, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, yn cael eu cynnal dros alwad gynhadledd. Mae pobl ifanc yn parhau i gael cyswllt â’r Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol cyn cyfarfodydd, ar lefel sy’n briodol o ran oed a datblygiad. Yn fwy diweddar, mae adolygiadau wedi cael eu cynnal dros alwadau fideo Zoom lle bo hynny’n bosibl. Mae’r cynnig o eiriolaeth yn parhau i gael ei wneud i blant cyn pob adolygiad.
Mae cynadleddau Amddiffyn Plant yn dal i gael eu cynnal ond dros alwad gynhadledd yn hytrach na chyfarfod wyneb yn wyneb. Cynorthwyodd hyn â chyfranogiad rhieni a nodwyd bod rhieni yn fwy hyderus i rannu eu safbwyntiau. Mae cyfranogiad plant hefyd wedi cynyddu, gyda mwy o bobl ifanc naill ai’n siarad gyda’r Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol ymlaen llaw, neu’n cymryd rhan yn y gynhadledd, yn rhannol neu’n llawn. Mae safbwyntiau’r plentyn yn cael eu cofnodi yn y cyfarfodydd, a gwaith uniongyrchol yn cael ei gwblhau gyda phlant i gynorthwyo dealltwriaeth y gynhadledd o’u safbwyntiau. Mae’r cynnig o eiriolaeth yn cael ei wneud eto i blant a rhieni cyn y gynhadledd.
Beth oedd yr heriau?
Mae hon wedi bod yn ffordd newydd o weithio i bawb, yn cynnwys Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol, plant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol. Rydym wrthi’n archwilio platfformau cyfarfod gwahanol i ddarparu’r swyddogaeth a’r profiad gorau. Mae cysylltedd wedi bod yn broblemus ac ansefydlog ar adegau.
Mae newidiadau i’n systemau cofnodi gyda chyflwyniad System Wybodaeth Gofal Cleientiaid Cymru wedi cyflwyno heriau i staff a Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol sy’n dal i ymgyfarwyddo â’r prosesau newydd.
Beth nesaf?
Bydd nifer o gyfarfodydd adolygu yn parhau i gael eu cynnal dros y we, yn enwedig os yw’n well gan yr unigolyn ifanc wneud hyn yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb. Bydd y platfform ar gyfer cyfarfodydd cynhadledd achos yn cael ei archwilio ymhellach er mwyn caniatáu i’n partneriaid allweddol ymgysylltu’n llawn mewn cyfarfodydd. Dylai hyn ganiatáu i rieni a phlant / pobl ifanc weld cyfranogwyr fel petaent yn yr un ystafell.
Bydd Mind of My Own yn cael ei roi ar waith yn ddiweddarach eleni, mae hwn yn gyfle i’r unigolyn ifanc ychwanegu eu safbwyntiau pan maent yn dymuno gwneud hynny drwy ap yn hytrach na’r llyfryn ymgynghori arferol. Bydd hyn hefyd yn cael ei ymestyn i’r cyfweliad Dychwelyd Adref.
Ymateb i anghenion pobl yn ystod y cyfnod clo
Roedd cyfleoedd i bobl ddiamddiffyn ymgysylltu gyda gweithgareddau a diddordebau y tu allan i’r cartref yn brin iawn yn ystod cyfnod clo Covid, felly roedd rhaid i ni feddwl yn greadigol, a gweithio gyda nhw i ganfod datrysiadau a dewisiadau amgen. Isod gweler adborth gan deuluoedd plant ag anableddau sydd wedi elwa’n fawr o gyfraniadau cymharol fach.
Cadw’n heini gyda Mam
Prynom oriawr ffitrwydd i ‘K’ er mwyn ei annog i barhau â’i batrwm ymarfer corff, y mae’n ei fwynhau’n arw. Dywedodd ei fam:
Mae K wrth ei fodd gyda’i oriawr, mae hi wedi bod ganddo ers peth amser bellach ond mae’n dal i’w gwisgo bob dydd. Rydym yn cystadlu yn erbyn ein gilydd wrth i ni fynd am dro ac ar benwythnosau i weld pwy all gerdded y nifer fwyaf o gamau. Rwy’n gweld ei bod yn ei ysgogi’n fawr ac yn rhoi rheswm iddo barhau gyda’i ymarfer corff a rhedeg, mae’r gweithwyr cefnogi yn ei annog drwy’r oriawr hefyd.
Mae K yn mwynhau ei gwisgo pan mae yn y gampfa oherwydd ei bod yn cofnodi ymarferion gwahanol. Mae ganddo’r un oriawr â’i weithiwr cefnogi hefyd ac mae wrth ei fodd, mae’n hoffi bod yn debyg iddo. Roedd K mor hapus gyda’i oriawr ac fe gyrhaeddodd ar ganol y cyfnod clo pan nad oedd ganddo lawer o gymhelliad i wneud unrhyw beth. Fel teulu, roeddem wir yn gwerthfawrogi’r ffaith ei fod wedi gallu cael rhywbeth fel hyn gennych chi.
Hwyluso’r amser a dreulir ar y cyfrifiadur
Roedd yn gymorth mawr pan gyrhaeddodd y ddesg yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Nid wyf yn siŵr beth mae H yn ei wneud ar y cyfrifiadur ond mae’n ei wneud yn hapus a gall dreulio amser maith arno. Mae’n gwneud cyflwyniadau PowerPoint ac yn mwynhau gwylio fideos; mae wedi gwneud rhai o’r fideos ei hun ar ei iPad. Mae chwarae ar ei gyfrifiadur yn ei dawelu ac yn ei wneud yn lawer hapusach gartref.
Mae cael y ddesg yn golygu nad yw’n mynd o un cyfrifiadur i’r llall, oherwydd eu bod yn torri o hyd neu bod y monitor yn malu, ac yna mae’n digalonni. Roedd wrth ei fodd pan gyrhaeddodd y ddesg, mae hi yn ei ystafell wely.
Cynnig modelau gofal amgen: Gwasanaethau dydd anableddau
Ar ddechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth 2020 fe wnaethom gau ein gwasanaethau o fewn adeiladau. Mewn ymateb i hyn fe wnaethom gynnig mwy o ofal cartref, Taliadau Uniongyrchol, ac allgymorth o’n darpariaeth ddydd i unigolion a’u gofalwyr fel dewis arall i ddiwallu eu hanghenion lles. Er bod gwasanaethau anableddau wedi ailagor darpariaeth ddydd i oedolion, rydym wedi gorfod cydnabod efallai na fydd ailddechrau â gofal dydd yn bosibl neu’n ddiogel i rai unigolion, oherwydd y risgiau sy’n gysylltiedig â grwpiau ‘cohort’ o bobl â’i gilydd. Nid ydym wedi gallu ailddechrau â darpariaeth arferol ein clybiau plant ag anableddau, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion y plant mwyaf cymhleth yn unig, yn cynnwys y rhai hynny ar ffin y system ofal ac yn ystod gwyliau’r haf yn unig. Mae ein prif anawsterau wedi ymwneud â lleoliadau addas, o ystyried yr angen i ddiheintio a pharatoi’r lleoliad ar gyfer y defnyddwyr nesaf yn unol â chanllawiau Covid-19. O ganlyniad, rydym wedi cael ceisiadau am Daliadau Uniongyrchol ychwanegol er mwyn galluogi teuluoedd i gynnal gwytnwch.
Er y bwriadwyd i’r cynnydd i becynnau gofal, drwy gymorth wedi’i gomisiynu neu daliadau uniongyrchol, fod yn fesur dros dro ar y pryd, gall nawr ddatblygu i’r dull a ffefrir o ran cefnogi’r unigolion diamddiffyn hynny yn eu cartrefi. Mae’n bosibl y byddai’n well gan y rhai hynny sydd nawr yn ymdopi gartref gyda’r dulliau amgen rydym wedi’u rhoi ar waith, barhau i wneud hynny yn yr hirdymor, yn hytrach na chael eu derbyn i ofal neu ddychwelyd i ddarpariaeth ddydd. O fewn y Gwasanaethau Anableddau rydym eisoes wedi gweld nifer o geisiadau i ddiwygio Cynlluniau Gofal a Chymorth i adlewyrchu dewisiadau unigolion wrth symud ymlaen.
Yn ogystal, mae canran fawr o’r rhai sydd wedi defnyddio darpariaeth ddydd o’r blaen heb ddychwelyd i wasanaethau o unrhyw fath eto oherwydd y risgiau y maen nhw’n teimlo sy’n gysylltiedig â chynyddu eu cysylltiadau. Mae llawer o’r unigolion hyn yn cael eu cefnogi gan ofalwyr sydd yn ddiamddiffyn hefyd, felly mae hwn yn faes yn byddwn yn ei wylio’n ofalus, yn enwedig os yw’r risg Covid-19 wedi lleihau’n sylweddol.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n darparwyr gwasanaethau dydd annibynnol a mewnol a’n partneriaid trydydd sector i ddatblygu cynnig amgen i bresenoldeb mewn gwasanaethau o fewn adeiladau. Rydym wedi sefydlu grŵp Cynhwysiant Digidol, yn cynnwys partneriaid trydydd sector a chydweithwyr o Sir Ddinbych a’r Tîm Trawsnewid Anableddau Dysgu rhanbarthol. Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant digidol a datblygu datrysiadau ymarferol i gefnogi pobl i fynd ar-lein. O fewn gwasanaethau dydd Anableddau Conwy, mae’r Tîm Gofal Uniongyrchol wedi datblygu cynnig digidol sy’n cynnwys sesiynau ar-lein i bobl nad ydynt yn gallu bod yn bresennol ar hyn o bryd, er enghraifft, boreau coffi, cerddoriaeth, a sesiynau Cyswllt Conwy. Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Rhoi sylw i eiriolaeth
Mae gan Ofal Cymdeithasol Conwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda DEWIS CBA i ddarparu gwasanaethau eirioli annibynnol i bobl gydag anableddau a phobl hŷn. Mae eiriolaeth yn ymwneud â chymryd camau i helpu pobl i ddweud beth maent ei eisiau, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau y maent eu hangen.
Mae eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion ac maent bob amser yn eu cefnogi ac yn ochri gyda nhw.
Mae eiriolaeth yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
Yn y bôn, mae eiriolaeth yn ymwneud â chefnogi pobl i gael llais, dewis a rheolaeth, ac i fynegi eu safbwyntiau, dymuniadau a theimladau, yn groes i rôl y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol eraill sy’n canolbwyntio’n bennaf ar hyrwyddo lles gorau’r unigolion.
Mae Covid-19 wedi gorfodi pawb i weithio’n wahanol, ac o ran gwasanaethau cymorth, mae hyn yn bennaf wedi golygu symud tuag at gefnogaeth dros y ffôn a chyfathrebu drwy dechnolegau ar y we e.e. Zoom.
Mae Dewis wedi pwysleisio i asiantaethau partner yr angen am eiriolaeth, gan atgoffa asiantaethau ei bod yn bwysig cofio bod gan yr holl unigolion, sy’n wynebu rhwystrau wrth gyfathrebu eu dymuniadau a’u teimladau neu wrth ddeall prosesau, yr hawl i eiriolaeth mewn perthynas â’u hanghenion gofal a chymorth (fel y diffinnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac y gall yr anghenion hyn fod yn fwy oherwydd amgylchiadau sy’n ymwneud â Covid-19, megis:
- A yw’r unigolyn yn wynebu rhwystrau h.y. cyfathrebu, neu ddeall y broses?
- A yw rhywun wedi symud i mewn ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty?
- A yw rhywun wedi cael eu symud o’u preswylfa arferol?
- Ydynt yn gwrthwynebu cael eu symud?
- A wnaethant ddeall beth oedd symud yn ei olygu iddynt?
- A yw eu gofal wedi newid?
- A oedd ganddynt deulu priodol i’w cefnogi wrth wneud y penderfyniad hwn? (fel y diffinnir gan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant)
Mae Conwy hefyd yn comisiynu gwasanaeth eiriolaeth plant, Tros Gynnal Plant Cymru. Eiriolaeth plant yw pan mae eiriolwr plant yn gallu cynnig cyngor a chymorth i blentyn neu unigolyn ifanc. Prif bwrpas eiriolwr plant yw galluogi plant i fynegi eu dymuniadau a’u teimladau gyda’r nod o annog yr arfer o rymuso plant a chynnal eu hawliau dynol. Bydd eiriolwr plant yn ceisio rhwystro plant rhag cael eu niweidio ac mae’n bosibl y gallant geisio cael cyfiawnder i’r plant hynny sydd eisoes wedi cael eu niweidio mewn rhyw ffordd. Gall eiriolwr plant hefyd geisio sicrhau bod gan blant fynediad at adnoddau neu wasanaethau a fydd o fantais i’w bywydau, megis addysg, gofal plant a rhianta priodol.
Ar ddechrau’ r pandemig, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau eiriolaeth plant (i ddechrau) cyn dychwelyd i lefelau atgyfeirio mwy cyffredin. Ar hyn o bryd mae lefel yr atgyfeiriadau yn uchel ac mae wedi bod felly ers y Nadolig.
Bu i Tros Gynnal Plant Cymru, y sefydliad rydym yn ei gomisiynu ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth plant, addasu ei ddull o ran darparu gwasanaethau ym mis Mawrth 2020, wrth i staff symud i weithio gartref ac i’r holl ymgysylltiadau gyda phlant a phobl ifanc gael eu cynnal dros y we yn ystod cyfnod clo cenedlaethol cyntaf. Mae ymgysylltu dros y we’ wedi cynnwys defnyddio amrywiaeth o blatfformau, yn cynnwys y ffôn, dan arweiniad yr unigolyn. Ers mis Medi, maent wedi bod yn cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb gyda phlant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu ymgysylltu dros y we am ba bynnag reswm, yn cynnwys diffyg cyfarpar, diffyg gallu i ymgysylltu drwy sgrin, diffyg lle cyfrinachol i ymgysylltu gyda’r eiriolwr ac ati. Mae’n rhaid i banel o uwch reolwyr asesu risg pob ymweliad wyneb yn wyneb a’i gymeradwyo cyn ei gynnal, er mwyn diogelu’r plentyn neu’r unigolyn ifanc a staff Tros Gynnal Plant.
Rydym ni yma yng Nghonwy wedi cael ein plesio’n arw gyda sut mae plant a phobl ifanc wedi ymgysylltu gyda chefnogaeth yn ystod y pandemig. Mae llawer wedi cael ei ddysgu ganddynt o ran ymlacio wrth ymgysylltu dros y we; dyma genhedlaeth sydd wedi cael ei magu gyda phlatfformau megis Facetime a WhatsApp! Mae Tros Gynnal Plant hefyd wedi defnyddio adnoddau a chyfarpar i ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc dros y we. Pethau megis llyfrau, celf a chrefft a gemau, a anfonwyd at y plant a phobl ifanc cyn y cyfarfodydd ac a oedd hefyd o gymorth i ddechrau’r sgwrs wrth gyfarfod plant a phobl ifanc am y tro cyntaf.
O ran ymgysylltu dros y we, mae Tros Gynnal Plant wedi gorfod bod yn adweithiol ac ymatebol e.e. aildrefnu cyfarfodydd gyda phlant a phobl ifanc os yw cyfrinachedd wedi bod yn broblem ac ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc dros y we drwy ysgolion i oresgyn heriau o’r fath. Maent wedi profi rhai heriau wrth egluro pethau megis hysbysiadau preifatrwydd i blant iau dros y we, ond eto maent wedi bod yn hyblyg o ran eu dull o wneud hyn, gan ailedrych ar y mater yn ôl y galw a / neu egluro i riant/gofalwr.
Fel y soniwyd uchod, newidiodd Tros Gynnal Plant ychydig ar eu dull o weithredu yn ystod y cyfnod clo cyntaf a gwneud yn siŵr eu bod yn cadw mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc i’w hatgoffa o’r gwasanaeth eiriolaeth os oeddent ei angen. Fel arfer, ni fyddent yn gwneud hyn gan fod eiriolaeth yn cael ei harwain gan y plentyn, ond oherwydd bod plant a phobl ifanc wedi rhyngweithio llai gyda gweithwyr proffesiynol, roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig i fod yn rhagweithiol, i’w hatgoffa o’r gwasanaeth a rhoi cyfle iddynt ymgysylltu, rhag ofn yr oedd ganddynt unrhyw beth i’w drafod a nad oeddent yn gallu gwneud hynny gyda gweithwyr proffesiynol eraill oherwydd newidiadau i amlder / math o gyswllt.
Mae plant a phobl ifanc wedi parhau i gael llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau drwy eiriolaeth. Rydym wedi gweld mwy o blant a phobl ifanc nag arfer sydd eisiau i Tros Gynnal Plant fynychu cyfarfodydd ar eu rhan. Mae plant a phobl ifanc yn dweud mai’r rheswm am hyn yw nad ydynt yn hoffi mynychu cyfarfodydd mawr dros y we. Maent yn iawn ar sail un i un ond nid ydynt yn hoff o gyfarfodydd aml-asiantaeth sy’n cael eu cynnal yn y ffordd yma.
Mae Tros Gynnal Plant hefyd wedi parhau i ddarparu eiriolaeth i gartrefi preswyl yr ALl yn ystod y pandemig. Unwaith eto, mae’r rhain wedi cael eu cynnal dros y we neu dros y ffôn. Mae Tros Gynnal Plant yn ymwybodol iawn bod y bobl ifanc sy’n byw mewn cartrefi preswyl yn llai gweledol nag eraill, ac roeddent yn awyddus i sicrhau fod ganddynt fynediad at eiriolwr yn ystod y pandemig. Mae cartrefi preswyl nawr yn cael nodyn atgoffa wythnosol o’r gwasanaeth hwn, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol / timau gofal cymdeithasol eraill, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ymwybodol o sut i gael mynediad at ein gwasanaeth.
Mae’r adborth a gafwyd am y gwasanaeth wedi cynnwys:
Ni fyddai wedi bod yn bosibl heboch chi wrth fy ochr i.
Unigolyn ifanc
Bydda’ i’n eich cofio am weddill fy oes.
Unigolyn ifanc
Ni allen ni fod wedi gallu cymryd y cam hwn ymlaen oni bai am eich cefnogaeth a’ch eiriolaeth gref…mae yn sicr wedi bod yn un o achosion mwyaf heriol fy ngyrfa. Diolch am eich cefnogaeth.
Gweithiwr Cymdeithasol
Mae Gwasanaethau Eiriolaeth Plant yn parhau i fonitro’r sefyllfa mewn perthynas â Covid-19 yn agos ac yn dilyn canllawiau LlC ar arferion gweithio.