Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Fframwaith Rheoli Perfformiad

Mae Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru wedi’i weithredu eleni, sy’n cynnwys set newydd o dargedau a mesurau perfformiad. Mae’r mesurau hyn yn tanategu pob agwedd o’r gwaith rydym yn ei wneud, drwy hysbysu ein timau rheoli o gynnydd, arferion da a thueddiadau newydd. Nid yn unig yw’r mesurau a’r targedau hyn, ar lefel leol a chenedlaethol, yn monitro perfformiad, maent hefyd yn caniatáu i ni gynllunio darpariaeth ein gwasanaethau yn y dyfodol. O ganlyniad, gallwn reoli unrhyw faterion posibl yn rhagweithiol, lliniaru yn erbyn risgiau a defnyddio’r wybodaeth i gymell ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Sylwch, lle mae mesur newydd wedi’i gyflwyno ar gyfer 2020-21, nid oes data cymharol o’r flwyddyn flaenorol. Rydym wedi nodi lle mae hyn yn digwydd yn y tabl isod.

Safon Ansawdd 1 – Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni beth sydd o bwys iddyn nhw.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2019-20202020-2021
Cyfanswm nifer y pecynnau ailalluogi a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn lle’r oedd yr angen am gymorth wedi lleihau (AD/011a)Mesur newydd ar gyfer 20/21497 yn ystod y flwyddyn gyfan, 320 hyd at 23/11/2020
Nifer y cysylltiadau newydd i oedolion a dderbyniwyd gan wasanaethau cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn lle rhoddwyd cyngor a chymorth (AD/002)Mesur newydd ar gyfer 20/212068 hyd at 23/11/2020a chafwyd cyfanswm o 3812
Nifer yr asesiadau newydd a gwblhawyd ar gyfer plant yn ystod y flwyddyn a gwblhawyd o fewn yr amserlenni statudol. (CH/012)538 o asesiadau307 o asesiadau hyd at 23/11/2020

Safon Ansawdd 2 – Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys ac sy’n derbyn cefnogaeth yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Nifer y swyddi gwag a hysbyswyd yn ystod y flwyddyn139 o swyddi113 o geisiadau swyddi gwag
Nifer y swyddi gwag a gafodd eu llenwi’n llwyddiannus89 o swyddiNi chafodd 6 o swyddi eu llenwi.
Cafodd 4 swydd eu cyflenwi gan weithwyr Asiantaeth.
Rydym wrthi’n recriwtio i lenwi 40 o swyddi gwag.

Safon Ansawdd 3 – Mae’r angen am ofal a chefnogaeth wedi’i leihau ac atal y cynnydd o ran angen, tra’n sicrhau bod y deilliannau gorau posibl yn cael eu cyflawni i bobl.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref yn ystod y flwyddyn (CH/045)21 plentyn6 phlentyn hyd at 23/11/2020
Nifer y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn (CH/043)18 plentyn15 plentyn
01/04/2020 – 31/03/2021

Safon Ansawdd 4 – Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 (PMC29a)Nid oedd y ffigyrau ar gael oherwydd amhariadau a achoswyd gan Covid-19Nid yw’r ffigyrau ar gael oherwydd amhariadau a achosir gan Covid-19
Canran y plant sy’n cyflawni’r dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 4 (PMC29b)Nid oedd y ffigyrau ar gael oherwydd amhariadau a achoswyd gan Covid-19Nid yw’r ffigyrau ar gael oherwydd amhariadau a achosir gan Covid-19
Cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy yn ystod y flwyddyn (ac eithrio trefniadau pontio, symud sy’n gysylltiedig â mabwysiadu neu symud tŷ) (CH/044)Nid oedd y ffigyrau ar gael oherwydd amhariadau a achoswyd gan Covid-19Ni fydd y ffigyrau ar gyfer y mesur hwn ar gael tan Medi 2021 ar y cynharaf oherwydd gwahaniaethau yng ngofynion adrodd Addysg.

Safon Ansawdd 5 – Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (CH/015)Mesur newydd ar gyfer 20/21507 plentyn ar 23/11/2020
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (CH/016)Mesur newydd ar gyfer 20/2153 plentyn ar 23/11/2020
Nifer yr oedolion gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (AD/012)Mesur newydd ar gyfer 20/213,026 oedolyn ar 23/11/2020
Cyfanswm nifer yr oedolion gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (AD/013)Mesur newydd ar gyfer 20/21186 oedolyn ar 23/11/2020

Safon Ansawdd 6 – Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a chefnogaeth fel partneriaid cyfartal.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal yng nghategorïau 2,3 a 4 sydd wedi bod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth am 3 mis yn olynol yn y 12 mis ers gadael gofal (CH/054a)Mesur newydd ar gyfer 20/219 person sy’n gadael gofal
01/04/2020 – 31/03/2021
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal yng nghategorïau 2,3 a 4 sydd wedi bod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth am 3 mis yn olynol yn y 13 – 24 mis ers gadael gofal (CH/054b)Mesur newydd ar gyfer 20/215 person sy’n gadael gofal
01/04/2020 – 31/03/2021
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal sy’n cael profiad o ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn (fel y diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014) o fewn 12 mis o adael gofal (CH/052)6 person sy’n gadael gofal5 person sy’n gadael gofal
01/04/2020 – 31/03/2021

Safon Ansawdd 7 – Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Cyfanswm nifer yr ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 niwrnod o gael gwybod am yr honiad o gamdriniaeth (AD/024)71 ymholiad52 ymholiad hyd at 23/11/2021
O’r plant hynny a roddwyd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn, y nifer sydd wedi bod ar y gofrestr o’r blaen o dan unrhyw gategori, ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis diwethaf (CH/024)Mesur newydd ar gyfer 20/21Nid yw’r ffigwr ar gael ar hyn o bryd
Cyfnod cyfartalog o amser yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn (PMC28)247.58 diwrnod258.92 diwrnod hyd at 23/11/2020

Safon Ansawdd 8 – Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau hysbys eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw’n annibynnol am gymaint â phosibl.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad 2019-2020 2020-2021
Nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n symud i leoliad ‘Pan fydda i’n Barod’ (CH/055)Mesur newydd ar gyfer 20/2114 person sy’n gadael gofal
01/04/2020 – 31/03/2021
Cyfanswm nifer y bobl ifanc yn ystod y flwyddyn a ddarparwyd ymgynghorydd personol iddynt fel bo’r angen – o fewn 3 mis os ydynt yng nghategori 1 neu 4, gweler y canllawiau (CH/051)Mesur newydd ar gyfer 20/2114 person sy’n gadael gofal
01/04/2020 – 31/03/2021
Cyfradd yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth dros 75 oed (PMA19)1.61Daw’r ffigwr yma gan ffynonellau LlC. Mae LlC yn adolygu’r system felly mae’n bosib na chawn ffigwr ar gyfer 20/21

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English