Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn anarferol a dweud y lleiaf. Ni allai dim fod wedi paratoi’r cyngor ar gyfer yr heriau o’i flaen, ac yn wir byddai’r profiad hwn yn ein siapio am byth. Ar 16 Mawrth 2020, diwrnod cyntaf y cyfnod clo, cawsom ein taflu i waith cynllunio rhag argyfwng a hynny’n sydyn iawn, oherwydd bod angen i ni drefnu staff yn ddiogel i barhau i ddarparu gwasanaethau allweddol. Yr her gyntaf oedd asesu risg pob maes gwasanaeth i sicrhau, lle bo’n bosibl, bod modd i ni barhau i ddarparu cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau diamddiffyn.
Fel y byddwch yn gweld yn yr adroddiad, gwnaed ymdrechion a pharatoadau sylweddol i sicrhau dull gweithredu systematig wrth reoli’r pandemig, o ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol, profion a chefnogaeth i staff, i ddiogelwch lleoliadau gofal, a oedd, fel y gwyddwn erbyn hyn, yn ddiamddiffyn iawn yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.
Yr hyn a wnaeth argraff arnaf i oedd gwytnwch a hyblygrwydd staff wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio yn sydyn iawn. Daeth gweithio gartref yn arfer i ni ac mae’r arfer honno’n parhau heddiw; roedd hyn yn heriol i ddechrau, oherwydd bod angen gwneud mannau yn y cartref yn ddiogel gyda chyfarpar priodol ac roedd llawer o broblemau cysylltedd i’w datrys.
Mae gan y cyngor raglen adnewyddu mewn lle ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o weithio yn y dyfodol sy’n darparu cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd ynghyd â’r manteision o weithio gartref. Fodd bynnag, rwyf yn falch o adrodd bod y mwyafrif helaeth o ddarpariaethau gwasanaeth wedi parhau, a llwyddom i gyflawni llawer o’n blaenoriaethau.
Roedd lles staff yn ffocws allweddol drwy gydol y cyfnod, ac mae hyn yn parhau i fod yn wir, gan sicrhau nad yw staff sy’n gweithio gartref neu nad ydynt yn bresennol mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn teimlo’n unig neu heb gefnogaeth. Rydym wedi annog ystod o fesurau lles, yn cynnwys cyfarfodydd diogel wrth gerdded a chadw pellter cymdeithasol ac amser paned rhithiol, ac mae ein fforwm staff wedi parhau drwy gydol y cyfnod.
Un o’n llwyddiannau arwyddocaol oedd lansio’r gwasanaeth Lles Meddyliol. Mae hwn wedi bod yn uchelgais i’r cyngor ers peth amser ac mae wedi datblygu o’r gwasanaeth iechyd meddwl sydd eisoes ar waith yng Nghonwy. Rydym yn cydnabod bod y gwasanaeth yn hanfodol ar hyn o bryd, lle mae’r angen am gefnogaeth yn uchel i amrywiaeth o bobl yn ein cymuned. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi bod yn greadigol ac uchelgeisiol wrth ddarparu cefnogaeth drwy gydol y pandemig.
Wrth edrych ymlaen, mae gennym lawer i’w ddathlu. Mae gennym weithlu sefydlog ac rydym yn symud ymlaen gyda rhaglen gyfalaf gyffrous. Rydym yn diweddaru ein strategaeth gomisiynu i alluogi darpariaeth o ystod gynhwysfawr a bywiog o anghenion llety ar gyfer pobl hŷn, pobl ag anableddau a phlant sydd angen gofal a chymorth.
I gloi, hoffwn ddiolch i Dîm Gofal Cymdeithasol Conwy. Rwyf wedi bod yn falch iawn o’u hymrwymiad a’u hymroddiad, yn ogystal â’u hymdrechion parhaus i ddarparu’r profiad gorau i’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Jenny Williams
Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol as Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy