Mae canfod beth sy’n bwysig i bobl yng Nghonwy’n rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac felly gofynnwn am ymatebion gan bobl yr ydym yn ymwneud â hwy, ac yn defnyddio’r wybodaeth a gawn ni yn sail ar gyfer gwella’r gwasanaethau’r ydym yn eu darparu.
Gydol yr adroddiad hwn fe welwch chi ystadegau ac ymatebion a gafwyd wrth feithrin cyswllt â phobl, yn enwedig o’r Arolwg Dinasyddion a gynhaliwn bob blwyddyn ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff ymatebion o’r arolwg eu cyflwyno gydol yr adroddiad, o dan y safon ansawdd perthnasol, er mwyn dangos sut rydym yn llwyddo wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy. Byddwn yn mynd ati i wella pethau pan dderbynnir ymateb negyddol, neu pan mae pobl yn awgrymu newidiadau.
Pwy sy’n cymryd rhan yn yr Arolwg Dinasyddion?
Yn 2018 fe anfonom 1,508 o holiaduron at yr holl Ofalwyr, plant a phobl ifanc a detholiad o oedolion oedd yn derbyn gofal a chymorth gennym. Anfonwyd copïau o’r holiadur mewn arddull hawdd ei ddarllen at rai pobl ag anableddau dysgu, ac felly rydym yn ymdrin yn wahanol â’r ymatebion i’r rheiny.
Faint o bobl a ymatebodd?
Dyma grynodeb o’r cyfraddau ymateb:
Pwy? | Fe anfonom ni | Dychwelwyd | % ymateb |
Oedolion | 723 | 269 | 37% |
Gofalwyr | 232 | 120 | 52% |
Phlant a Phobl Ifanc | 553 | 85 | 15% |
O dan y Cod Ymarfer ar gyfer Mesur Perfformiad Gofal Cymdeithasol, mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gasglu data ar ffurf Dangosyddion Perfformiad. Rydym wedi cynnwys y rhain yn yr adroddiad er mwyn dangos yn ystadegol mor llwyddiannus yr ydym wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy. Mae Llywodraeth Cymru’n monitro’r dangosyddion perfformiad hyn yn flynyddol.