Diben yr adroddiad blynyddol hwn yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i breswylwyr Conwy. Mae’r adroddiad yn ceisio dangos sut rydym wedi hyrwyddo lles a rhoi cyfrif am ddarparu safonau llesiant. Mae’n rhoi gwybod am feysydd lle mae datblygiadau newydd, yn hytrach na phob agwedd ar ein gwaith, ac yn arfarnu ein perfformiad wrth gyflawni dyletswyddau Gofal Cymdeithasol. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol.
Mae blaenoriaethau ein gwasanaeth yn cyd-fynd â’r chwe Safon Ansawdd Genedlaethol ar gyfer canlyniadau llesiant. Rydym yn dangos sut rydym wedi cyflawni yn y chwech o feysydd hyn, trwy roi gwybodaeth am ddatblygiadau, astudiaethau achos, canlyniadau arolygon ac ymatebion, a mesuryddion perfformiad. Y chwe safon yw:
- Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau llesiant personol y dymuna pobl eu cyflawni.
- Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol pobl a’u lles emosiynol.
- Amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.
- Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan yn y gymdeithas.
- Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasau iach yn ddomestig, teuluol a phersonol.
- Gweithio gyda phobl a’u cefnogi i gyflawni gwell llesiant economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion.
Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith tuag at welliant i amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys Cynghorwyr, ein partneriaid, y cyrff sy’n ein rheoleiddio a Llywodraeth Cymru. Rydym yn meithrin cyswllt yn rheolaidd â’n budd-ddeiliaid ac yn gwerthfawrogi ymatebion gan y bobl rydym yn ymwneud â hwy, ac mae enghreifftiau o’r ymatebion hyn i’w gweld gydol yr adroddiad. Mae dyluniad yr adroddiad yn seiliedig ar arddull yr oedd ein Cyngor Ieuenctid wedi’i ddewis.