Rhaglen Integreiddio’r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Sefydlwyd y rhaglen Integreiddio Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg er mwyn dod â staff ynghyd i weithredu newidiadau i integreiddio’r gwasanaeth a sicrhau ei gynaladwyedd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiadau o ran swyddogaethau cymorth busnes y gwasanaethau yn ogystal â’r ddarpariaeth ar lawr gwlad, gyda’r nod o sicrhau gwell canlyniadau i blant, oedolion a theuluoedd.
Yr hyn a wnaethpwyd hyd yma
Mae’r staff wedi cymryd rhan mewn diwrnodau creu gweledigaeth, gan lunio Gweledigaeth newydd y Gwasanaeth – “Cydweithio gyda’n cymunedau i alluogi pawb i gael y gorau o fywyd”.
Cymeradwywyd Chwech o Ganlyniadau a Chamau Gweithredu ar y Cyd i’r Gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar sicrhau gwell canlyniadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
Mae staff wedi llunio cynllun cyfathrebu’r gwasanaeth. Roedd hwn yn ymarfer gwerth chweil, a oedd galluogi dod o hyd i arferion da ac atebion mewn meysydd lle gellir gwella sut rydym yn cyfathrebu.
Mae’r Prosiect Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn newid sut darperir gwasanaethau Atal ac Ymyrryd yn Gynnar ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghonwy. Sefydlwyd pump o Dimau Cefnogi Teuluoedd ledled y sir, sy’n cynnig gwasanaethau cefnogaeth ac ataliaeth gynnar i deuluoedd. Mae cysylltiadau gyda thimau a gwasanaethau eraill i sefydlu cefnogaeth amlasiantaeth ehangach yn cael ei ddatblygu, megis cam-drin domestig, cyngor budd-daliadau, cefnogaeth ieuenctid, gwasanaethau anableddau.
Mae’r Prosiect Cynhwysiad Cymdeithasol yng Nghonwy yn cyflwyno argymhellion i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg amgen i bobl ifanc yng Nghonwy. Yn 2019 mae’r prosiect yn edrych ar wneud y gorau o ganolfannau cynhwysiad prif ffrwd mewn ysgolion, ein hunedau addysg amgen arbenigol oddi ar y safle (Unedau Cyfeirio Disgyblion) a gwasanaethau cefnogi eraill, gan alluogi dysgwyr sydd angen cefnogaeth i ymgymryd â dysgu’n fwy effeithiol.
Prosiect Datblygu’r Gwasanaeth Plant
Newydd ddechrau yn 2019 y mae’r Prosiect Gwasanaethau Plant, a bydd hwn yn cyflwyno dulliau newydd o weithio a darparu cymorth drwy’r gwasanaeth. Y nod yw rhwystro’r cynnydd diweddar ym mhoblogaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, gan ymateb yn rhagweithiol i’r argyfwng gofal sydd wedi’i nodi ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i blant a theuluoedd. Penodwyd rheolwr profiadol a gweithgar i weithredu’r prosiect am gyfnod o ddwy flynedd. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau i benodi swyddogion arweiniol i’r amryw ffrydiau gwaith a chytuno ar y camau nesaf. Byddwn yn ystyried:
- Ein gweithlu a’n hymarfer;
- Gostwng nifer plant sy’n derbyn gofal
- Ein gallu i ddad-uwchgyfeirio plant gydag anghenion cymhleth;
- Lleoliadau plant sy’n derbyn gofal, yn enwedig felly o ran digonolrwydd, ansawdd, sefydlogrwydd a’r gefnogaeth.
Mae’r gwasanaeth yn elwa ar wasanaethau cymorth busnes gwerthfawr, sy’n arbenigo mewn meysydd fel hyfforddiant, rheoli perfformiad, systemau rheoli gwybodaeth a chymorth gweinyddol. Mae’r staff bron â gorffen adolygiad sy’n bwrw golwg ar sut ellid gwneud y defnydd gorau o gymorth busnes gydol y gwasanaeth.
Bydd y staff yn cael cyfle yn 2019 i fyfyrio ynghylch y cynnydd hyd yma, ac ystyried y blaenoriaethau ar gyfer rhaglen integreiddio’r gwasanaethau yn y tymor canolig a’r tymor hir.
Cymru Iachach
Yn dilyn Adolygiad Seneddol Llywodraeth Cymru ynglŷn â dyfodol hirdymor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ‘Cymru Iachach’, lluniwyd cynllun sy’n cyflwyno’r weledigaeth o ran darparu gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd Conwy’n gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn Sir Ddinbych wrth weithredu nodau cyffredinol y cynllun:
- Trefnu gofal o amgylch yr unigolyn a’r teulu, mor agos â phosib at adref;
- Sicrhau fod gweithwyr iechyd a gofal, gwirfoddolwyr a dinasyddion i gyd yn cydweithio i gyflawni canlyniadau pendant, gwella iechyd a lles, sicrhau gofal i’r gweithlu a gwell gwerth am arian;
- Datblygu dulliau di-dor o weithio rhwng sefydliadau;
- Rhoi rheolaeth i bobl a chymunedau drwy roi swyddogaeth gyfartal iddynt wrth gynllunio a darparu gwasanaethau;
- Buddsoddi yn ein staff drwy hyfforddi a datblygu er mwyn rhoi iddynt yr arfau angenrheidiol i weithio’n ddiogel ac yn effeithiol.
Wrth roi mwy o bwyslais ar rymuso pobl i gynnal eu gwybodaeth, eu hannibyniaeth a’u hiechyd, hyderir yn y deng mlynedd nesaf y gwelwn ostyngiad yn nifer y bobl sy’n cael gofal a thriniaeth mewn ysbytai, a hynny yn sgil cynnydd mewn gweithgareddau i hybu iechyd, lles ac ataliaeth, yn ogystal â darparu mwy o wasanaethau gofal yn lleol.
Byddwn yn sôn am gynnydd Conwy wrth gyflawni’r cynllun Cymru Iachach yn ein Hadroddiad Blynyddol nesaf.