Mae darganfod yr hyn sy’n bwysig i bobl yn rhan allweddol o ddatblygu gwasanaethau o ansawdd yng Nghonwy, felly gofynnwn am adborth gan y bobl yr ydym ynghlwm â nhw, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gawn i wneud gwelliannau i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Mae arweinyddiaeth wleidyddol y Cyngor, dros y blynyddoedd, wedi arddangos hygyrchedd ac ymrwymiad i gael barn dinasyddion trwy gynnal sesiynau galw heibio i ddinasyddion roi eu sylwadau a’u barn ar faterion sy’n ymwneud â’r gyllideb, y cynllun corfforaethol a strategaethau moderneiddio.
Mae nifer o enghreifftiau o farn a sylwadau’r cyhoedd yn dylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau yn y Cyngor, er enghraifft, cynllunio cyllideb ar gyfer 16/17 a 17/18, penderfyniadau Moderneiddio, a chasgliadau rheoli gwastraff. Mae Rheolyddion wedi rhoi gwybod bod gwaith y Cyngor yn adlewyrchu blaenoriaethau dinasyddion a phartneriaid yn gryno a chlir.
Mae Strategaeth Gyfranogi Gofal Cymdeithasol Conwy yn nodi ymrwymiad clir i ymgysylltu â Phlant, Pobl Ifanc, Oedolion a Gofalwyr wrth ddatblygu, cynllunio, darparu ac adolygu’r gwasanaethau a ddarperir iddynt. Rydym yn gweithio i sicrhau y gwelir dinasyddion Conwy fel partneriaid cyfartal wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd barn, safbwyntiau, dymuniadau, teimladau a phrofiadau dinasyddion Conwy yn cael eu casglu trwy ein fforymau a thrwy ymgynghori yn unigol â phobl i ategu ein hadolygiadau comisiynu.
Mae dau swyddog cyfranogi llawn amser yn gweithio ar draws y meysydd gwasanaeth gofal cymdeithasol i sicrhau ein bod yn ymgynghori ac ymgysylltu â phobl i ategu comisiynu gwasanaethau.
Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion
Mae’r Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu a dylanwadu ar ddarpariaeth gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghonwy i ymaelodi. Mae ein haelodau yn cynrychioli nifer o feysydd gwasanaeth; pobl hŷn, gwasanaethau anabledd, gwasanaethau iechyd meddwl oedolion, gwasanaethau anabledd corfforol a gwasanaethau triniaeth canser. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn fisol ac yn ymgymryd â’r canlynol:
- Gwaith Ymgynghori Rheolaidd
- Testunau Gwaith Dewisol
- Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pobl Conwy
Mae’r testunau rydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys camddefnyddio sylweddau a gwaith prosiect pontio’r cenedlaethau.
Er mwyn ymgynghori â phlant a phobl ifanc yng Nghonwy, mae gennym 3 fforwm:
- Cyngor Ieuenctid Conwy (11-25 oed)
- Grŵp Siapio’r Dyfodol ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Gadael Gofal (15-25 oed)
- Grŵp Lleisiau Uchel ar gyfer plant dan ofal (7-14 oed)
Rydym yn gweithio mewn cysylltiad â Gwasanaethau Ieuenctid Conwy a’r ysgolion uwchradd yng Nghonwy i annog aelodaeth ein grwpiau.
Rydym hefyd yn ymgynghori â’r Prosiect Llety Isallt ar gyfer pobl ifanc a all ddod yn ddigartref neu a fydd angen symud llety, ac rydym hefyd yn cefnogi cynghorau ieuenctid yn Unedau Atgyfeirio Disgyblion Conwy.
Arolygon
Yn Gofal Cymdeithasol, bob blwyddyn bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni gasglu data cenedlaethol ynglŷn â llesiant pobl sy’n cael gwasanaethau gennym; eleni, gwnaethom anfon 2294 o holiaduron i sampl o oedolion, a phob gofalwr, plentyn a person ifanc, a chawsom gyfradd ymateb o 31% ar y cyfan. Gwnaeth 40% o oedolion a gofalwyr ymateb i ni a 12% o blant a phobl ifanc. Rydym wedi dadansoddi’r canlyniadau cyn eu dychwelyd i Lywodraeth Cymru i’w cyhoeddi.
Rydym hefyd yn gofyn cwestiynau manylach ar gyfer meysydd gwasanaeth penodol. Er enghraifft, gwnaethom ofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth a’u rhieni/gofalwyr beth oedd eu barn am y gwasanaeth Anabledd, gan ganolbwyntio ar ansawdd yr wybodaeth yr ydym yn ei darparu a pha mor dda rydym yn cyfathrebu.
Dyma ddywedodd ein defnyddwyr gwasanaeth:
- Mae’r rhan fwyaf yn dweud eu bod yn cael digon o wybodaeth am y gwasanaeth.
- Nid oedd pawb wedi clywed am ein tudalennau gwe Anabledd, nac wedi clywed am, na defnyddio’r wefan Dewis.
- Nid oedd pawb yn credu ei bod yn hawdd cysylltu â ni, er bod rhai yn dibynnu ar eu teulu a gweithwyr cefnogi i wneud hyn ar eu rhan.
- Roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cytuno bod ein staff yn cysylltu yn ôl â nhw wedi iddynt geisio cysylltu ond y gall fod yn “anodd cael gafael ar bobl; gallaf aros am alwad yn ôl sawl diwrnod yn ddiweddarach”.
- Roedd bron bob defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr yn cytuno y gallant ddefnyddio eu hiaith ddewisol wrth gysylltu â ni, gyda rhai yn defnyddio Cymraeg, rhai yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac eraill yn defnyddio arwyddion ac ystumiau fel eu cyfrwng dewisol.
- Roedd bron bob defnyddiwr gwasanaeth a gofalwr yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg a gyda pharch.
Dyma beth rydym yn bwriadu ei wneud
- Byddwn yn cynhyrchu llythyr o groeso yn amlinellu’r wybodaeth sylfaenol a manylion cyswllt.
- Byddwn yn helpu defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr i gael mynediad i’r rhyngrwyd yn ein swyddfa yng Nghanolfan Marl ac yn defnyddio iPad i ddangos iddynt beth i’w wneud a pha wybodaeth sydd ar gael iddynt.
- Byddwn yn cyflwyno targed perfformiad lleol o 24 awr i ffonio galwyr yn ôl os na allwn siarad â nhw yn syth.
- Mae gennym gynllun gweithredu drafft corfforaethol ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau a byddwn yn darparu cyfleoedd i’n staff fynychu dosbarthiadau Cymraeg a chynyddu’r nifer sy’n hyderus i siarad Cymraeg.
Rydym yn gofyn i bobl dros 65 oed sydd wedi cael pecyn ailalluogi i gwblhau holiadur ar safon y gwasanaeth rydym wedi’i ddarparu. Mae’n gofyn i unigolion am eu profiadau gyda ni, gan gynnwys a oedden nhw a’u grŵp cefnogi yn rhan o gytuno a chynllunio’r pecyn cefnogi, a wnaeth y gefnogaeth gwrdd â’u disgwyliadau ac a yw deilliannau personol yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y cyfnod. Gyda’r rhan fwyaf o becynnau ailalluogi yn parhau am chwe wythnos, mae’r holiaduron yn becynnau gwerthfawr ac arferol i gynorthwyo rheolwyr i gynllunio gofal a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Rhai ymatebion enghreifftiol:
Ar ddiwedd eich cyfnod ymyrraeth cefnogi, a oeddech wedi cyflawni eich nodau?
Oeddwn, yn gorfforol roeddwn bron ar y lefel yr oeddwn cyn fy salwch.
Oeddwn. Diolch yn fawr – fyddwn i ddim wedi gallu gofyn am well gwasanaeth neu dîm.
Pa ran o’r gwasanaeth oedd y mwyaf gwerthfawr i chi?
Y cyfan ohono ond roeddwn yn gwerthfawrogi’r cwrteisi, effeithlonrwydd a hiwmor.
Y cysur.
Cefais fy nghroesawu â gwên bob amser, gyda geiriau o anogaeth a chyngor ymarferol.
Rydym hefyd yn falch o’n perfformiad:
- Y ganran o oedolion a gwblhaodd cyfnod o alluogi: Ac sydd â phecyn gofal a chymorth llai – llai o gefnogaeth nag o’r blaen – 6 mis yn ddiweddarach ydi 9.85% (PMA20a)
- Y ganran o oedolion a gwblhaodd cyfnod o alluogi: Ac sydd heb becyn gofal a chymorth 6 mis yn ddiweddarach = 71.52% (PMA20b)
Mae ymgynghoriadau gyda phobl sy’n cael gwasanaethau gennym wedi’u cynnwys yn yr adroddiad dan y safon ansawdd perthnasol.
Cwynion a Sylwadau – Gwersi a Ddysgwyd
Mae gan bawb sy’n gwneud cwyn am Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru hawl i gael gwrandawiad. Rhaid i’w barn a’u teimladau gael eu clywed; a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol. Gall cwynion amlygu ble mae angen i wasanaethau newid. Mae’n bwysig ein bod yn dysgu o gwynion, er mwyn nodi lle y dylid newid a gwella gwasanaethau o ganlyniad.
Mae’r gwersi mwyaf arwyddocaol sy’n deillio o gwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi dweud wrthym:
- Bod Cyfathrebu yn allweddol i ddinasyddion a’u teuluoedd gael gwasanaethau; mae angen cyfathrebu unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau yn effeithiol iddynt; mae dychwelyd galwadau neu ffonio pan rydych wedi’i drefnu yn bwysig i sicrhau perthynas waith dda.
- Ymgysylltiad rhagweithiol gan y Swyddog Cwynion ynghyd â Rheolwyr Tîm ar ganlyniadau lefel (Datrysiad Lleol) Cam 1 wrth gael datrysiad cynnar o’r cwynion