Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi’i ddweud wrthym
Pobl yn dweud y gallant wneud yr hyn sy’n bwysig iddynt
Rhoddodd 44% o ofalwyr a 54% o oedolion wybod y gallant wneud y pethau sydd yn bwysig iddynt. Mae sylwadau cefnogol gan ofalwyr yn benodol yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr effaith y bydd cyfrifoldebau gofalu yn ei gael ar ryddid gofalwyr i fwynhau’r hobïau a’r gweithgareddau y maent yn eu hoffi. Mae gan lawer gyfleoedd cyfyngedig i ymgymryd â’u diddordebau ac mae’n rhaid iddynt gydbwyso eu hanghenion eu hunain gydag anghenion y person y maent yn gofalu amdano. Ar gyfer y grŵp oedolion mae cyfyngiadau oherwydd salwch, anabledd a dibyniaeth ar eraill ar gyfer cludiant. Mae nifer yn profi rhwystredigaeth gyda’r hyn a oedd yn arfer bod yn dasgau syml iddynt.
Rwyf weithiau yn ei chael yn anodd gwneud fy ngwaith tŷ a thasgau syml – agor tuniau, codi, plygu
Ni allaf arddio na glanhau fy nhŷ bellach, – mae hyn yn rhwystredig iawn
Pobl yn dweud eu bod yn fodlon gyda’u rhwydweithiau cymdeithasol
Rhoddodd 66% o ofalwyr, 85% o blant a 82% o oedolion wybod eu bod yn teimlo’n hapus gyda’r gefnogaeth y maent yn ei chael gan eu teulu, ffrindiau a chymdogion, ond bod nifer yn teimlo wedi’u hynysu oddi wrth eu teulu sy’n byw ymhell i ffwrdd a ddim yn gallu darparu cefnogaeth ymarferol. O ganlyniad, mae rhai yn dibynnu ar gyfeillgarwch cymdogion neu wasanaethau gofalwyr cyflogedig. Mae’r rhai sydd â theulu yn yr ardal yn aml yn teimlo eu bod yn fwrn ar blant sy’n oedolion ac sydd â bywydau prysur a’u cyfrifoldebau eu hunain.
Mae ein genethod yn ein helpu pan mae’n bosibl ond mae ganddynt eu bywydau eu hunain ac nid ydynt bob amser yn gallu helpu. Maent yn ceisio ein cefnogi
Does gen i ddim teulu na ffrindiau yng Ngogledd Cymru; Rwy’n dibynnu ar fy ngofalwr a’r wardeiniaid am gefnogaeth.
Pa mor dda ydym ni’n gwneud?
Rydym yn gwella – cyflawnodd 56% o blant a oedd dan ofal, yn cael eu hystyried yn blant mewn angen neu ar y gofrestr diogelu plant y dangosydd pwnc craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 (PMC29a). Mae hyn yn welliant ar y llynedd, ac mae’n debyg i gyfartaledd Cymru. Yng Nghyfnod Allweddol 4, cyflawnodd 12% o blant y dangosydd pwnc craidd (PMC29b), sydd eto yn welliant ar y llynedd, ac rydym bron â chyrraedd cyfartaledd Cymru. Hoffem wneud hyd yn oed yn well.
Dim ond 1% o blant dan ofal oedd wedi gorfod symud ysgol unwaith neu fwy, yn ystod cyfnod neu gyfnodau o fod dan ofal, oedd ddim o ganlyniad i drefniadau pontio – fel mynd i’r ysgol uwchradd – yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth (PMC32). Eto, mae hyn yn welliant, ac rydym yn gwneud yn well na chyfartaledd Cymru.
Agwedd Cynnydd
Mae’r Tîm Teleofal yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaethau i nodi technolegau sy’n galluogi pobl i fyw bywydau annibynnol am cyn hired ag y gallant. Er enghraifft, yn y Gwasanaethau Anabledd, rydym wedi bod yn adolygu ein pecynnau gofal 24/7 a nodi cyfleoedd i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau i fod yn fwy annibynnol, fel cymryd risgiau cadarnhaol trwy ddefnyddio Systemau Teleofal i sefydlu angen gwirioneddol.
Gan ddefnyddio’r System Teleofal i fonitro gweithgareddau gyda’r nos, mae defnyddwyr gwasanaeth wedi cael hyder ac wedi sylweddoli nad ydynt angen i aelod staff fod ar gael yn y nos. O ganlyniad, mae dau ddefnyddiwr gwasanaeth wedi symud i’w fflat eu hunain gyda llawer llai o gefnogaeth. Yn ogystal, mae’r oriau yn ystod y dydd a ddefnyddiwyd i gefnogi tri o bobl rŵan yn cefnogi saith o bobl, a phob un ohonynt wedi profi canlyniadau llesiant cadarnhaol drwy’r ymarfer hwn.
Cymorth i Blant ag Anableddau
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Tîm Anableddau Integredig wedi’i sefydlu ac o ganlyniad mae ein staff cefnogaeth sesiynol mewnol rŵan wedi’u cofrestru i ddarparu gofal personol i blant. Mae gan y Gwasanaeth Anabledd hefyd ystod o glybiau a gweithgareddau sy’n cael eu defnyddio gan blant sydd angen cefnogaeth ychwanegol.
Dyma rai enghreifftiau o’r gweithgareddau a gynigiwyd:
- Snapdragons (5-11oed)
Cynhelir yn wythnosol am 2 awr mewn amryw o leoliadau ledled y sir; rhaglen strwythuredig o chwarae a datblygu sgiliau byw’n annibynnol. - Clwb 13+
Cynhelir bob yn ail dydd Sadwrn am gyfnod o 3 awr yng Nghanolfan Riviere. Cynhelir amryw o weithgareddau, er enghraifft, nofio, bowlio deg ayyb. - Grŵp Pontio (17-19 oed)
Mae hwn yn grŵp 3 awr sy’n cael ei gynnal bob yn ail dydd Gwener. Sefydlwyd y grŵp hwn i roi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc i’w paratoi ar gyfer bod yn oedolyn, er enghraifft, paratoi bwyd, cynllunio teithiau, siopa bwyd. - Gwersyll Plant (5-14 oed)
Hyd at ddau ddiwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol. Bydd Gofal Cymdeithasol yn darparu cefnogaeth un i un os oes angen. - Clwb Gwyliau Diwrnod Allan (13-19 oed)
Mae’r clwb yn cynnig diwrnod llawn unwaith yr wythnos yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae gweithgareddau a theithiau yn cael eu cynnwys, gan fynd â phlant a phobl ifanc allan i’r gymuned leol ac ymhellach. - Sgiliau Byw’n Annibynnol
Cynhelir tri grŵp yn ystod gwyliau’r ysgol i blant yn y grŵp oedran 5-8 oed, rhai sy’n 9-12 oed a phlant a phobl ifanc 13+ oed. Cynhelir y sesiynau dwy awr yng Nghanolfan Gymunedol Tan Lan ac maent yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau unigolion fel coginio, iechyd a diogelwch a hylendid bwyd.
Mae gweithgareddau seibiant yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a phobl ifanc ag anableddau fel y dengys y sylwadau a ganlyn gan weithwyr cymdeithasol:
Mae’r gwasanaeth yn Llys Gogarth wedi helpu ‘C’ i ddod yn fwy annibynnol wrth fod i ffwrdd o’i deulu ac mae wedi rhoi cyfle i’w rieni ymlacio ac ymweld â llefydd nad yw wedi bod yn bosibl iddynt ymweld â nhw.
Mae ’B’ yn mynd ar y cwrs Sgiliau Byw Annibynnol oedran hŷn ac yn mwynhau dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd cymdeithasol
“Mae ’A’ yn mynd i’r clwb Diwrnod Allan ac yn edrych ymlaen ato. Mae’n rhoi gweithgaredd cymdeithasol iddi gyda phobl o’i hoedran a’i gallu hi ei hun, ac mae hefyd yn rhoi seibiant i mam yn y gwyliau.”
Cymorth i Deuluoedd
Mae timau Dechrau’n Deg, Tîm o Amgylch y Teulu a Theuluoedd Gwledig yn Gyntaf wedi bod yn cydweithio i roi cefnogaeth i deuluoedd yn eu cymunedau eu hunain.
Maent yn cynnal sesiynau ymgysylltu, dysgu a gwybodaeth, fel cyrsiau rhianta, aros a chwarae, paned a sgwrs, chwarae egnïol, cyrsiau cyn geni, grwpiau cefnogi bwydo ar y fron, a sesiynau cerdded â phramiau mewn amryw o leoliadau cymunedol ledled y sir ar gyfer rhieni. Nid yw nifer o’r bobl rydym yn eu cyfarfod yn cael mynediad i wasanaethau traddodiadol, neu maent eu hofn.
Mae’r timau yn credu bod “bob un ohonom angen cymorth ar ryw adeg yn ein bywydau, dim ots a yw’n wybodaeth i’n helpu ein hunain, neu gefnogaeth”. Mae ein Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd wedi cefnogi dros 1,000 o deuluoedd yn uniongyrchol eleni. Mae’r gefnogaeth wedi ymdrin ag ystod eang o faterion, er enghraifft: rhianta, anabledd, camddefnyddio sylweddau, tai, trais domestig, pryderon ariannol, cyngor ar fudd-daliadau, rhieni yn gwahanu, ac iechyd meddwl gwael. Gall fod wedi bod ar sail un i un i helpu i oresgyn cyfnod o anhawster, neu efallai ein bod wedi trefnu cyfarfodydd amlasiantaeth ar ran teuluoedd i hwyluso gweithio ar y cyd gyda’r teulu i greu cynllun sengl.
Astudiaeth achos
Roedd ‘B’ yn 19 ac roedd ganddo blentyn yn byw gyda’i gyn bartner; roedd y ddau yn cael trafferth ac roedd y gwasanaethau plant statudol ynghlwm.
Roedd ‘B’ yn byw mewn eiddo gorlawn gyda’i dad, llysfam a dau sibling ieuengach, gan achosi tensiynau.
Roedd ‘B’ yn gwneud prentisiaeth mewn plymio a cafodd ei ferch ifanc fyw gydag o llawn amser. Roedd ‘B’ mewn perygl o golli ei swydd, ac nid oedd yn gallu ymdopi ar gyflog prentis.
Gwnaethom gefnogi ‘B’ gydag atgyfeiriad at Hawliau Lles, rhoi cymorth ymarferol gyda chyllidebu, helpu i ddod o hyd i lety addas, cael blaendal ar gyfer fflat gan NACRO a Datrysiadau Tai Conwy, cael cyllid am nwyddau gwyn a dodrefn, rhoi cefnogaeth emosiynol a chymorth ymarferol gyda rhianta plentyn bychan ac atgyfeiriad i’r Gronfa Wyliau.
Y canlyniad ar gyfer ‘B’ o’r gwaith hwn yw bod ‘B’ mewn fflat newydd gyda’i ferch. Nid yw’r gwasanaethau plant statudol ynghlwm bellach, mae budd-daliadau wedi’u cywiro, mae gwyliau wedi’i archebu i roi amser i deulu ‘B’ fondio, mae gofal plant wedi’i drefnu ac mae ‘B’ yn gallu cyllidebu a pharhau â’r brentisiaeth.
Rwy’n hapusach, yn rheoli fy mywyd yn well ac yn mwynhau bod yn dad