Rhaglen Codymau Conwy
Codymau yw’r achos mwyaf cyffredin o anaf difrifol mewn pobl hŷn, a’r rheswm mwyaf cyffredin o orfod mynd i’r ysbyty. Mae Arolwg Llywodraeth Cymru yn dangos bod ofn syrthio yn ffactor arwyddocaol wrth leihau gweithgarwch corfforol a chyfranogiad mewn cymdeithas ymysg oedolion. Rydym yn teimlo nad oes rhaid i godymau fod yn rhan anorfod o fynd yn hŷn, ac mae’r tîm Atal Codymau’n gweithio gyda phobl dros 65 oed i helpu i leihau eu perygl o lithro, baglu a chael codwm.
Mae’r tîm yn cynnwys pedwar swyddog arbenigol, wedi’u lleoli yn adain Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth (IAA) Conwy gyda thimau perthnasol eraill. Maent yn sgrinio’r holl atgyfeiriadau newydd, cynnal asesiadau yn y cartref, nodi ffactorau risg yr unigolyn a gwneud argymhellion. Gall hyn gynnwys cyfeirio at asiantaethau/gwasanaethau priodol, gan roi cyngor ar beryglon yn y cartref neu awgrymu ymarferion i wella gwytnwch.
Mae’r tîm yn gweithio gyda phartneriaid yn Iechyd, y Gwasanaeth Tân ac asiantaethau gwirfoddol i wella ymwybyddiaeth a rhoi gwybodaeth yn y gymuned. Hyd at ddiwedd 2017, roedd 25% o gartrefi gofal wedi cael hyfforddiant ar y pecyn asesiadau risg codymau, ac mae’r holl fferyllfeydd yng Nghonwy wedi cael taflenni, a sefydlwyd cysylltiadau gwerthfawr gydag elusennau a grwpiau cefnogi.
Rydym yn gweithio yn agos gyda’n cydweithwyr iechyd i sicrhau rhyddhau yn gyflym o’r ysbyty. Y gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal – pobl yn methu gadael yr ysbyty gan nad oes cefnogaeth iddynt gartref – yw 0.3% – am bob 1000 o’r boblogaeth sy’n 75 oed neu’n hŷn.
Astudiaeth achos
Atgyfeiriwyd dynes at y gwasanaeth codymau ar ôl cael codwm a bod yn agos at gael codwm sawl gwaith. Roedd risg y byddai hefyd yn datgymalu aelodau wrth wneud rhai symudiadau. Roedd ei symudedd wedi lleihau yn sylweddol ac roedd mewn perygl o ddioddef codymau pellach.
Trafododd y Swyddog Codymau ei sefyllfa yn drylwyr gyda hi a chytunwyd y byddai atgyfeiriad i ddosbarthiadau PSI (Hyfforddiant Sadrwydd Osgo) yn fanteisiol. Yn ystod yr adolygiad ffôn rhai wythnosau yn ddiweddarach, rhoddodd y ddynes wybod iddi ei bod yn mwynhau’r dosbarthiadau yn fawr a dywedodd bod awyrgylch dda yn y grŵp, ac ychwanegodd bod y sesiynau wedi tynnu sylw at gryfder a gwendidau sicr yn ei haelodau/cyhyrau. Mynegodd ddiddordeb mewn sesiynau nofio am ddim hefyd er mwyn ymarfer ei hymarferion hydrotherapi ar gyfer ei chlun dde. Mewn gwirionedd, mae ei hiechyd cyffredinol wedi gwella cymaint nes ei bod yn ystyried gwyliau gyda’i phartner sy’n rhywbeth nad oedd hi wedi gallu ei wneud ers sawl blwyddyn. Dywedodd hefyd ei bod yn argymell y gwasanaeth i’w ffrindiau sydd wedi cael codwm, gan roi rhif y SPOA iddynt fel y gallant ofyn am asesiad gan y tîm.
Canolfannau Teuluoedd Conwy
Rydym yn datblygu Canolfannau Teuluoedd ledled Conwy, i ddarparu cefnogaeth gymunedol a hygyrch, sydd ar gael yn gynharach i deuluoedd, ac yn agored i bob teulu. Mae gennym eisoes Ganolfan Deuluoedd yn Llanrwst sy’n gwasanaethu’r gymuned wledig. Yn seiliedig ar brofiadau’r ganolfan hon, ac ymchwil gyda theuluoedd a darparwyr gwasanaeth, rydym wedi datblygu’r model hwn i’w ledaenu ledled y sir, gyda chyfanswm o bump o Ganolfannau Teuluoedd.
Bydd gan bob Canolfan Deuluoedd dîm craidd o Weithwyr Cefnogi Teuluoedd a fydd yn dod i adnabod y cymunedau lleol a chreu perthynas gyda phobl a grwpiau eraill sy’n gweithio gyda theuluoedd yn yr ardal. Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu darparu o’r Canolfannau Teuluoedd, fel cwnsela teuluoedd a chamdriniaeth ddomestig, gan wneud yn siŵr bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen yn gynharach. Byddwn yn cydweithio i wneud yn siŵr ein bod yn cefnogi’r teulu cyfan yn effeithiol. Byddwn yn defnyddio gwirfoddolwyr ac yn rhoi cyfle i gymunedau gymryd rhan. Bydd y Canolfannau Teuluoedd yn cynnal gweithgareddau ac yn darparu bob math o bethau i ddiwallu anghenion y cymunedau. Er enghraifft:
- Cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor ar gyfer teuluoedd o bob oed
- Dosbarthiadau a grwpiau rhianta
- Sesiynau babanod a phlant bach
- Cefnogaeth i bobl ifanc
- Sesiynau coginio a bwyta
- Chwarae
- Galw heibio
Rhan bwysig o’r prosiect yw ymgysylltiad ac ymglymiad cymunedol. Bydd Grŵp Cynghori Rhieni yn cyfarfod yn fisol i gymryd rhan yn natblygiad y prosiect. Rydym hefyd wedi ymgynghori â theuluoedd, plant a phobl ifanc yn yr ardaloedd lle rydym yn datblygu. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ac ymateb i’r hyn y mae teuluoedd ei angen ym mhob cymuned.
Hyd yma
Dwyrain y sir yw’r ardal gyntaf i weld datblygiad Canolfan Deuluoedd newydd. Rydym yn ailwampio adain adeilad y drws nesaf i Ysgol Sefydledig Emrys Ap Iwan, a bydd hwn yn agor yn ystod haf 2018. Rydym wedi bod yn cynnal rhai gweithgareddau yn yr ardal Ddwyreiniol i’n helpu i ddysgu beth sy’n gweithio yn dda a beth y mae teuluoedd ei angen yn yr ardal Ddwyreiniol. Rydym wedi creu fideo i ddweud wrth bobl amdano.
Rydym wedi cael adborth gwych!
Pan ddes i yma gyntaf, nid oeddwn yn teimlo fy mod yn diwallu anghenion y bechgyn o gwbl, roeddwn yn teimlo fel y rhiant mwyaf diwerth ar y blaned…… rydym yn sicr wedi gwneud cynnydd ac roedd pethau yn bositif iawn.
Cyn gynted ag y cysylltodd y [Tîm o Amgylch y Teulu] â fi, roeddwn yn teimlo bod rhywun sy’n gwirioneddol wrando ar fy anghenion, ac oherwydd eu bod mor gymhleth, cymaint ohonynt. Roedd yn anhygoel oherwydd roedd cymaint o bobl wedi dweud “o, dydyn ni ddim yn ymdrin â hynny”, ond….mae rhywun yno sy’n gwybod ac sy’n gallu ei wneud i chi hefyd.
Oherwydd gall roi cyfle i rieni anhapus ddod â theuluoedd ynghyd eto ….mae’n cysylltu teuluoedd.”
Bachgen blwyddyn 10
Beth nesaf?
Byddwn yn edrych ar y Ganolfan Deuluoedd yn yr ardal ganolog (Bae Colwyn a’r cymunedau cyfagos). Rydym yn ystyried lleoliadau posibl ar hyn o bryd, ac rydym yn ymgynghori gyda theuluoedd. Byddwn yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o’r prosiect arbrofol yn Abergele ac yn gweithio i weithredu’r rhain yn y ganolfan pan fydd ar agor, ac ystyried y negeseuon yn ein datblygiadau pellach.
Pa mor dda ydym ni’n cefnogi ein plant?
Canran y plant sydd yn gweld deintydd cofrestredig o fewn tri mis ar ôl derbyn gofal ydi 78% (PMC30)
Roedd 100% o blant dan ofal yn cofrestru gyda Meddyg Teulu o fewn 10 diwrnod gwaith i ddechrau eu lleoliad (ar 31 Mawrth, PMC31)
Gweithio i wella Iechyd Meddwl
Rydym wedi bod yn gweithio gyda’n cydweithwyr iechyd drwy gyfres o gyfarfodydd i greu model cefnogi Iechyd Meddwl Integredig ar gyfer Plant Dan Ofal. Rydym hefyd yn symleiddio model Gofal Parhaus Amlasiantaeth i gefnogi’r broses Panel Amlasiantaeth Strategol. Bydd hyn yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o anghenion plant a chynllunio yn fwy effeithiol i ddiwallu’r anghenion hynny. Y nod yw darparu ymyrraeth gynnar i atal problemau rhag gwaethygu, cefnogaeth wedi’i dargedu yn well ar gyfer Gofalwyr Maeth a Mabwysiadwyr a gwell sefydlogrwydd mewn lleoliadau. Bydd hwn yn cael ei lansio ddiwedd Mehefin. Y flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd canfod pa mor effeithiol yw’r model.
Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr iechyd i ddatblygu hyfforddiant penodol ynglŷn â hunan-niwed i ofalwyr maeth, i’w helpu i gefnogi’r plant yn eu gofal a chynnal y lleoliadau hyn. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn yr haf.
Mae’r Gwasanaeth Cymunedol Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn ceisio rheoli ’drws ffrynt’ y gwasanaethau iechyd meddwl yn wahanol iawn a chynnig dewis arall sy’n gadarn, yn effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth at ‘fodel meddygol’ Gofal Eilaidd h.y. gweithio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl a/neu sy’n dioddef trallod oherwydd argyfwng cymdeithasol er mwyn meithrin a chynnal eu gwytnwch personol a’u lles meddyliol, cymdeithasol a seicolegol. Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio yn hyblyg a chreadigol i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth; i fynd i’r afael ag achosion argyfwng a cholli lles meddyliol, e.e. tai, llesiant, cynhwysiant ariannol, arwahanrwydd cymdeithasol, cyflogaeth. Byddant yn cynnal y broses Asesiad Integredig, gan gynnig gwybodaeth, cyngor a/neu gefnogaeth yn unol â’r canlyniadau dymunol a nodwyd o sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’. Bydd unrhyw un sydd wedi’i nodi fel rhywun sydd angen gwasanaeth meddygol ac asesiad dan y Mesur Iechyd Meddwl yn cael eu cyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl. Ond, gan y bydd y nifer achosion sy’n cael eu pasio i’r CMHT yn is, bydd gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth hynny sydd angen ymyrraeth meddygol arbenigol.
Dysgu ar gyfer Adferiad
Mae’r llyfryn ‘Dysgu ar gyfer Adferiad a Lles’ wedi’i anelu yn benodol at bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl neu sy’n gofalu am rywun sydd. Bydd yn cael ei gynhyrchu yn chwarterol a bydd ar gael fel llyfryn wedi’i argraffu ac ar-lein. Cafodd ei roi at ei gilydd gan grŵp Partneriaeth Pobl Conwy ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol, ac mae wedi bod yn gydweithrediad rhwng sefydliadau statudol a thrydydd sector.
Mae themâu i’r cyrsiau fel y gall bobl ddod o hyd i sesiynau sy’n berthnasol iddyn nhw, dim ots a ydynt yn dechrau deall eu problemau iechyd meddwl, eisiau meithrin sgiliau bywyd, eisiau dod o hyd i ffyrdd o fod yn weithgar yn gymdeithasol, neu eisiau dod o hyd i waith neu gyfleoedd gwirfoddoli.
Cefnogi pobl i fyw yn dda gyda dementia
Bydd y Map Dementia a ddatblygwyd gan weithwyr proffesiynol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a thrydydd sector (gweler isod) yn cael ei ddefnyddio i hwyluso sgyrsiau gyda phobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, a’u gofalwyr. Y nod yw y bydd y map yn cefnogi pobl i ddeall eu taith dementia a’u helpu i gynllunio ar gyfer yr hyn sydd o’u blaen wrth i’w taith fynd rhagddo. Mae gwasanaethau i bobl â diagnosis o ddementia cynnar mewn bywyd wedi’i nodi gan y grŵp fel bwlch mewn darpariaeth gwasanaeth cyfredol, a hwn fydd ffocws y grŵp ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae trafodaethau gyda chydweithwyr iechyd hefyd wedi cychwyn mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyd-gomisiynu darpariaeth seibiant mewn cyfleuster nyrsio, gan fod darparu gofal seibiant hefyd yn fwlch a gydnabyddir mewn darpariaeth gwasanaeth cyfredol. Byddwn yn gweithio gyda BIPBC a’r trydydd sector ar gynigion newydd arloesol a fydd yn gysylltiedig â’r rhaglen atal, gyda’r nod o ddarparu cefnogaeth effeithiol i bobl â dementia a’u teuluoedd/gofalwyr gynnal eu hannibyniaeth, a lleihau’r tebygolrwydd o orfod cael mynediad i’r ysbyty a gohirio’r angen am ofal preswyl neu nyrsio. Bydd hyn hefyd yn lliniaru’r pwysau ar y darparwyr sector annibynnol. Rhagwelir y bydd unrhyw gynigion gwasanaeth newydd yn ein cefnogi ni i ddarparu’r camau gweithredu blaenoriaeth a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Dementia Cymru 2018-2022.
Y Map Dementia